Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil) (testun cyfansawdd)

Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil) (testun cyfansawdd)

gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Cyfres y Fil
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Owen Morgan Edwards
ar Wicipedia



IEUAN GLAN GEIRIONYDD

Ieuan Glan Geirionydd.
Llanuwchllyn:
Ab Owen.

ARGRAFFWYD I AB OWEN GAN R. E. JONES A'I FRODYR,
CONWY; A CHYHOEDDIR GANDDYNT HWY.



Ieuan Glan Geirionydd

GANWYD Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) yn amaethdy Tan y Celyn, Trefriw, Ebrill 20, 1795; bu farw yn y Rhyl, Ionawr 21, 1855.

Yr oedd ei dad, gŵr o Ddyffryn Ardudwy, yn wr o gynheddfau cryfion ac o grefydd egniol; gwraig addfwyn oedd ei fam, a'i chartref hi oedd Tan y Celyn.

Plentyn hynaws, ond direidus, oedd Ieuan. Bu mewn ysgol gedwid yn eglwys Trefriw, yna yn Ysgol Rad Llanrwst, ac yna'n gweithio gartref. Yn 1816 aeth i Dal y Bont, Glan Conwy, i gadw ysgol, ac yno y cafodd John Parry o Gaer ef pan yn chwilio am lenor ieuanc i gyfieithu "Fourfold State" Boston ac i olygu "Goleuad Gwynedd."

Yn 1820 daeth adre o Gaer yn wan ei iechyd. Yr adeg hon darllenodd unig waith y bardd Ysgotaidd Blair (1699-1746), "The Grave"; a seiliodd arno ei gywydd i'r Bedd. Yr adeg hon hefyd yr ysgrifennodd ei " Ymadawiad Goronwy a Mon."

Tynnodd Ieuan sylw y clerigwyr llengarol Richards o Gaerwys a Jenkins o Geri, a chafodd gynnyg cynorthwy i fyned yn offeiriad. Trwy gyngor John Elias, derbyniodd y cynnyg. Tua 1820 aeth i Aberiw, at y Parch. T. Richards, ac yna i Goleg St. Bees.

Yn 1828 daeth adref o'r coleg yn wael. Ar ei adferiad cafodd lithyriaeth Gymraeg yng Nghaer a churadaeth yn Christleton gerllaw. Wedyn cafodd guradaeth Ince, ac yno y bu tan 1843; yno yr ysgrifennodd ei awdl ar "Wledd Belsassar," i ennill tlws Eisteddfod Dinbych yn 1828. Yno y priododd, yn 1829. Yno, hefyd, y dechreuodd lawer o waith llenyddol pwysicaf ei oes,—y "Gwladgarwr," cylchgrawn roddodd awydd i'r Cymry am wybodaeth gyffredinol; y "Seraph," wnaeth lawer i ddeffro cariad y Cymro at gerddoriaeth; y "Beibl Darluniadol", fu'n foddion i gryfhau cariad gwlad at y Beibl. Bu farw ei wraig, a gadawodd yntau Ince. Bu yn Nhrefriw o 1852 hyd 1854. pryd y symudodd i'r Rhyl fel curad. Oddiyno, wedi ei farw, dygwyd ef i huno i fedd a ddarparasai iddo ei hun yn Nhrefriw yn ymyl ei rieni.

Yr oedd Ieuan Glan Geirionydd yn llenor tyner, llednais, ac efengylaidd. Y mae caredigrwydd yn anadlu trwy bopeth wnaeth. Carai les y werin, ac y mae llawer o'i ganeuon a'i emynau wedi dod yn rhan o feddwl y Cymro. Bardd glan yr afon oedd,—afon Gonwy ac afon yr Iorddonen; ond y mae dedwyddwch ffydd a chydwybod dda ym mhopeth ysgrifennodd.

Codais y llyfr hwn,—goreuon ei awen yn ei holl amrywiaeth,—o "Geirionydd," o gasgliad ei nai Gwilym Cowlyd, a than olygiaeth Gwalchmai. Yr oedd Gwilym Cowlyd wedi rhoddi caniatad parod i mi rai blynyddoedd cyn ei farw.

OWEN EDWARDS.

Dygwyl Dewi, 1908.


Cynhwysiad
I ANWYL FRO


II GWLEDD BELSASSAR



III. HYNT Y MEDDWYN.


IV. Y BEDD.

Distawrwydd y Bedd. Pellder y Bedd; deuir yn ol o lawer man arall Amrywiaeth trigolion y bedd,—y Patriarchiaid, Nero. Alexander, y crib-ddeiliwr, y rheibiw, y crach-olygydd, y cybydd, y caethwas. Campau'r bedd,—torri rhwysg yr ieuanc, madru gwallt y wenferch, tynnu coronau i'r llwch, difedi'r gwahaniaeth rhwng uchel ac isel radd. A ddaw neb yn ol i ddweyd yr hanes? Gwanc y Bedd. Dymuniad y bardd.

V. YR AFON A'R NEFOEDD.


Emyn Heber
Gorffenwyd
(Cyf. o Jon. Evans)
Y Cyfaill goreu
(Efel. o Newton)
Coroni Jesu
(Cyf. o Perronett)
Moliannu'r Oen
(Cyf. o Dr. Watts)
Angau yn ymyl
Trysorau yr Iawn
Croesi yr Iorddonen..
(Cf. o Edmeston)
Na wrthod fi
Tad wrth y Llyw
Glan yr Iorddonen
Gorffwys yn y bedd
Galar yr unig
Gorffwys yn y Nef
Golwg ar Ganan


VI. GLAN GEIRIONYDD.

Ffarwel Ieuan




Y Darluniau


Ieuan Glan Geirionydd.Wyneb-ddarlun
Llyn Geirionydd a Chofgolofn TaliesinWyneb-ddarlun
S. MAURICE JONES.

Tan y Celyn. S. MAURICE JONES.
"Mewn Tyddyn dan Gelyn gwyrdd."

Cyflafan Morfa Rhuddlan ARTHUR E. ELIAS,
Trwy y gwyll gwelaf ddull teryll y darian."

Ffarwel Mon i Oronwy OwenARTHUR E. ELIAS.
"Drach ei ol edrych eilwaith."

Ar lan Llyn GeirionyddARTHUR E. ELIAS.
"Mae Llyn Geirionydd eto'r un;
Ond Ieuan, ple mae ef?"

Ar lan Iorddonen ddofnARTHUR E. ELIAS.
"O na bai modd i mi osgoi ei hymchwydd hi."

Bedd Ieuan Glan Geirionydd.S. MAURICE JONES.
"Diangaf i dir ango."


TAN Y CELYN, TREFRIW.

"Och fyd blin a'i lem driniaeth—Och weled
Chwalu aelwyd mabaeth."



YSGOLDY RHAD LLANRWST
WEDI IDDO FYNED YN ANGHYFANEDD.

Hoff rodfa fy mabolaeth,
Chwareule bore myd,
A wnaed, i mi yn anwyl,
Drwy lawer cwlwm Clyd;
Pa le mae'r si a'r dwndwr,
Gaed rhwng dy furiau gynt,
A'r plant o'th gylch yn chwareu
A'u hadsain yn y gwynt?

Mae anian o dy ddeutu
Mor bruddaidd ac mor drom,
Fel un f'ai cadw gwylnos
Uwch d'adail unig, lom;
Mae'r olwg arnat heddyw,
Gaed gyntmor dêg a'r sant,
Fel gweddw dlawd, amddifad,
Yn wylo ar ol ei phlant.

Mae sŵn y gloch yn ddistaw,
Heb dorf yn d'od o'r dre',
A bolltau'th ddorau cedyrn,
Yn rhydu yn eu lle;

Ystlum a'u mud ehediad,
Sy'n gwau eu hwyrdrwm hynt
Lle pyncid cerddi Homer
A Virgil geinber gynt.

Mae hirwellt bras anfaethlon,
Yn brith orchuddio gro,
Y llawnt bu 'r cylch a'r belen,
Yn treiglo yn eu tro;
Boed wyw y llaw a'th drawodd
A haint mor drwm a hyn,
Boed ddiblant a'th ddiblantodd,
A diffrwyth fel dy chwyn.

Pa le, pa fodd mae heddiw
Y lliaws yma fu
'N cyd chwarae a chyd-ddysgu,
A chyd ymgomio'n gu?
Mae rhai mewn bedd yn huno,
A'r lleill ar led y byd,
Nad oes un gloch a ddichon
Eu galw heddiw ’nghyd.

Wyliedydd doeth a diwyd,
Os cwrddi at dy hynt
A rhai o'm cyd-sgolheigion
A'm chwaraeyddion gynt,
Dod fy ngwasanaeth atynt,
A dwed, er amled tonn
Aeth drosof, na ddilewyd
Eu cof oddi ar fy mron.


GADAEL TAN Y CELYN.

YW'R oeddwn mewn bri addas,
Heb sen, na chynnen, na châs,
Mewn Tyddyn tan Gelyn Gwyrdd,
Llawr praffaf gerllaw'r priffyrdd;
Yn barchus, gysurus ŵr,
Yn llawn o dda fy Lluniwr;
Ac yno'n gwau gogoniant
I Dduw Iôn, â thôn a thant;
Byw'n nwyfus, heb boen afiach,
Ac eilio nwyd calon iach,
Wrth oleu merth haul i mi—
Befr wyneb—fy rhieni.

Ond, Och! alaeth, daeth y dydd.
I'w adael, fangre ddedwydd,
A throi cefn* *
****

Och! fyd blin a'i lem driniaeth—Och! weled
Chwalu aelwyd mabaeth;
I'm nychiad mwy ni cheid maeth,
Ond siarad oes o hiraeth.

Och! y min nycha'm henaid,—Och! wylo,
Och! alar tra thanbaid,
Och! loesau lêf afrifaid,
Byd o boen, byw wae dibaid.

Ond caf, ni oedaf, ado,—ei boenau
A'i bennyd, i'r amdo
Diengaf—i dir ango'
O'i ferw drwg ar fyrr dro.


Caf huno yno ennyd—yn dawel
Mewn daear oer briddlyd;
A gorwedd yn y gweryd,
O swn y boen sy'n y byd.

A'm henaid gaiff ymuno— â'r lluoedd
Sy'n llawen breswylio
Y lonnaf hyfrytaf fro,
Wlad anwyl, heb lid yno.


CYMHARIAETH RHWNG Y BYD A'R MÔR.

Y MAE'R byd a'i droion dyrus
Yn debyg iawn i'r môr gwenieuthus;
Weithiau'n drai ac weithiau'n llanw,
Weithiau'n felus, weithiau'n chwerw.

Hallt yw'r môr i bawb a'i profo,
Hallt yw'r byd i bawb a'i caro;
Dwfn yw'r môr, anhawdd ei blymio,
Dwfn yw'r byd, heb waelod iddo.

Llwyr ddiafael mewn caledi
Yw'r môr i bawb i'w dal rhag soddi;
Mwy diafael mewn cyfyngder
Yw'r byd i bawb ro'nt arno hyder.

Llawn yw'r môr o greigydd enbyd,
A llynclynnoedd tra dychrynllyd;
Llawn yw'r byd o hudoliaethau
Mwy peryglus fil o weithiau.


CANIAD Y GÔG I ARFON.

PERFFAITH yw dy waith, Dduw Iôr,
Mae tir a môr yn dystion;
Da a didwyll gwnaed hwy oll,
Heb goll na dim diffygion;
Ond o'r cyfan goreu gwnaed
Goreuwlad wirfad Arfon.

Ple mae cynnar caniad côg
Mewn glaswydd deiliog glwysion,
Dyfnion neint, a chreigiau serth,
A phrydferth reieidr mawrion?
Ar Eryri uchel wawr,
Yn erfawr lannau Arfon.

Defaid filoedd sy'n porfau
Ar hyd ei bryniau meithion;
Ei gweunydd heirdd, a'i bronnydd teg,
Sy'n llawn o wartheg duon;
Da yw'r pysgod sydd yn gwau
Yn nyfnion lynnau Arfon.

Clywir adlais bêr ddibaid
Y clau fugeiliaid gwiwlon,
A'u chwibaniad hyd y dydd,
Ar hyd ei gelltydd gwylltion,
A diniwaid frefiad ŵyn
Ar irfwyn fryniau Arfon.

Clywir miwsig bwysig, bêr
Trwy fwynder twrf y wendon
Nos a dydd y sydd a'i si
Yn golchi'i glannau gleinion;
O na chawn i rodio o hyd
Hyd forfin hyfryd Arfon.

Ple mae amlaf geinciau pêr
Y gwiwber delynorion;
Pawb yn canu yn eu cylch,
O'n hamgylch fwyn benillion,
Yn gariadlon, gyson gôr?
Yng ngoror erfai Arfon.

Ple mae mwynder doethder dysg
Ac addysg têg agweddion,
Odlau cu, a mydru mawl,
A siriawl ddoniawl ddynion?
Ple mae'r Beirddion mwya'u clod,
Anorfod, ond yn Arfon?

Pwy sydd bur heb dwyll na brad,
Drwg fwriad na dichellion?
Pwy sydd hawddgar, heb naws gwg,
Neu gynnal drwg amcanion?
Pwy sydd un, ac un i gyd,
Ond dewrfeib hyfryd Arfon?

Hardd yw'r haul ar fore teg,
A gloewdeg uwch gwaelodion;
Hardd a llon yw meillion Mai,
Ar ddifai lennydd afon,—
Harddach yw menywod mâd
Goreuwlad wirfad Arfon.

Ple y ceir mewn dolur du
Anadlu iach awelon,
Yfed dyfroedd mawr eu rhin
Sydd well na gwin i'r galon?
Ple ceir llaeth a mel heb drai?
Yn erfai frodir Arfon.

Pa le bum yn chwareu gynt
Yn chwyrn fy hynt a'm troion,
Pan oedd nwyf mabolaeth clau
Yn by wiocau fy nghalon,
Heb drafferthion i'm pruddhau ?
Ar erfai frodir Arfon.

Y mae hiraeth i'm trymhau
Am weled glannau gleinion,
Hyfryd ddolydd, meusydd maith
Sy'n lanwaith heb elynion,
Ac am greigiau, muriau mawr
Clogwynfawr, erfawr Arfon.

Os da gan glaf ar fîn ei fedd,
Gael adwedd o'i glefydon—
Os da gan grwydryn yn y nos,
Gael llety diddos boddlon,
Gwell gan i gael lloches glyd
O dwrf y byd yn Arfon.

Gwyn fy myd pe cawn yn awr
Adenydd y wawr dirion;
Hedeg wnawn dros for a thir,
Yn gywir ac yn union
A disgynnwn yn ddiau
Ar erfai fryniau Arfon.

Duw a'm dyco cyn fy medd,
I fyw mewn hedd a digon,
A chael treulio'm gweddill oes
Heb loesau anfelusion;
Hyn yw'm harch, a Duw yn Dad,
Ym mynwes wirfad Arfon.


A phan y delo diwedd oes,
A du loes angau creulon
A dod o'r dydd i'm rhoddi'n fud
Yn nistaw fyd marwolion,
Boed i'm corff gael bedd yng nghlai
A daear erfai Arfon.


FY MAM.

ALAW, "Sweet Home."

ER fod i mi dirion gyfeillion dinam,
Ymhob rhyw wasgfeuon cheir neb fel fy mam;
Drwy oes ddiamddiffyn mabandod o'r bron,
Rhwng hyder ac ofn, pwy a'm gwyliodd ond hon?
Pwy, pwy fel fy mam? cheir neb fel fy mam.

Ar wely yn glaf i amddiffyn fy ngham,
I weini boed i mi law dyner fy mam;
Pwy wrendy fy nghŵyn mor deimladwy a hon?
Pwy etyb mor fwyn i ruddfannau fy mron?
Pwy, pwy fel fy mam? cheir neb fel fy mam.

Boed imi gael treulio fy ngyrfa bob cam,
Mewn hedd a dedwyddyd dan gronglwyd fy mam;
Ac yn ei hing ola' boed iddi heb sen,
Gael llaw'r un a fagodd i gynnal ei phen.
Pwy, pwy fel fy mam? cheir neb fel fy mam;
Cheir neb fel fy mam, cheir neb fel fy mam.


CYFLAFAN MORFA RHUDDLAN.

Rhag gw eyd brad ein hen wlad. trown ein cad weithian,
Neu caed lloer ni yn oer ar Forfa Rhuddlan."


RHIANGERDD BUGAIL CWMDYLI.

E DDIFLANNODD clog y gwlaw,
F'anwylyd wiw,
Oedd yn toi'r Eryri draw,
F'anwylyd wiw,
Mae yr haul ar hyn o dro
Yn goreuro bryniau'n bro,
I'r hafoty rhoddwn dro,
F'anwylyd wiw.

Ni gawn wrando'r creigiau crôg,
F'anwylyd wiw,
Yn cyd ateb cân y gôg,
F'anwylyd wiw,
A diniwed fref yr ŵyn,
A'r eidionau ar bob twyn,
A'r ehediaid llon o'r llwyn,
F'anwylyd wiw.

Ond ar fyrder pa i mi,
F'anwylyd wiw,
Fydd Cwmdyli, hebot ti,
F'anwylyd wiw?
Yn iach i wrando'th adsain glôs,
Wrth dy wylio dros y rhôs,
Yn dod i odro fore a nos,
F'anwylyd wiw.

Ac yng nghanol dwndwr tre,
F'anwylyd wiw,
A diddanion llon y lle,
F'anwylyd wiw,
Nac anghofia un a fydd
Ar dy ol, yn wylo'n brudd.
Yng Nghwmdyli nos a dydd,
F'anwylyd wiw.


DOLFORGAN.

Mesur "Diniweidrwydd."

ENFYN haul ei glau belydrau
Ar dy deg ystlysau di;
Mae holl anian o dy ddeutu
Yn gwenu mewn hyfrydawl fri;
Uwch dy ben mae y gwenoliaid
Yn gwau yn haid—mor ddygn hwy
Ond ni lonna'u trydar siriol,
Fron dynerol Herbert mwy.

Er eu colli hwy o'n brodir,
Fel na welir dim o'u hôl,
Troiau rhod, a hin dymherus,
A'u hadfera eto'n ol;
Gwanwyn ddaw a'r coed i ddeilio,
A'r blodau i fritho glyn a dol;
Ond, ple mae'r gwanwyn a adfera
Herbert o'i hir yrfa'n ol?

Nid o fewn Dolforgan eang
Mwy, y sang ei ysgafn droed—
Nid o fewn y gerddi gwyrddion,
Nag o dan frig dewion goed;
Ond mae'n awr yn tawel huno
Ym mhriddellau'r dyffryn oer,
Lle ni thraidd drwy lenni hirnos,
Oleu llewyrch haul na lloer.

Gwn na phwysodd daear laswedd
Ar dynerach bron erioed,
Ac ni sathrodd angeu creulon
Burach calon dan ei droed;

A phe gallsai diniwei Irwydd
Ennill anfarwoldeb pur,
Ni fuasai'n achos Herbert
I neb ofid, briw, na chur.


YMDRECH SERCH A RHESWM.

MESUR," Roslin Castle."

SERCH.


FENYW fwyn, gwrando gwyn
Un sy'n curio er dy fwyn;
Mae i mi ddirfawr gri
Ddydd a nos yn d'achos di.
Wylo'r dŵr 'rwy, eiliw'r donn,
Gwêl fy mriw o tan fy mron;
Nid oes arall feddyg imi
Ond tydi, lili lon;
Dy bryd, flodau'r byd,
Sydd o hyd i'm pruddhau;
Cofio'th lendid hyfryd di
Wna i mi fawr drymhau:
'Rwy i fel un mewn carchar caeth,
Drwy fy oes yn dioddef aeth,
Ac o blegyd saethau Ciwpid
Darfu'm gwrid, gofid g waeth.

Derbyn di, wych ei bri,
Hyn o annerch gennyf fi,
Mae fel sêl fy mod, gwel,
Yn dy garu yn ddigêl;
Dengys it fy mod yn brudd
O dy gariad nos a dydd,
Dwys och'neidion a gwasg feuon,
Trwm yw sôn, i mi sydd;—

Er bod is y rhod
Rai a'u clod fel tydi,
Eto ti yw'r unig ferch
Ai a'm serch rymus i;
Ac am hynny, dêg ei llun,
Dyro'n awr i druan un
Air o gysur, gwel fy llafur,
Llaesa'm cur, fwynbur fan.

RHESWM.


Rheswm sydd nos a dydd
Am fy nwyn o'r rhwyd yn rhydd,—
"Caru bun deg ei llun
'Rwyt, yn fwy na Christ ei hun;
Cofia gywir eiriau Duw,
Rhai sy'n dweyd am bob dyn byw,
Mai fel blodau neu wyrddlysiau
Yw eu clau degwch, clyw;
Ac, Oh! dyro dro
Tua bro mynwent brudd;
Gweli yno feddau brêg
Rhai oedd deg yn eu dydd;
Yn ddiameu yma rhydd
Rhywun d'eulun di ryw ddydd,
Er maint arni a ryfeddi,
Cofia di, felly fydd."

SERCH.


Ond er hyn, gruddiau gwyn
Hon o hyd a'm deil yn dynn;
Trechach yw anian fyw
Na dysgeidiaeth o bob rhyw:
Gwared fi o'm c'ledi clan,
Gwrando'm cwynion heb nacâu,

Gwella'r dyfnion faith archollion
Dan fy mron, feinir fau;
Pa fri yw i ti
Fy mod i yma'n dwyn
Rhyw hiraethog lidiog loes,
Ar hyd foes er dy fwyn?
Tyrd i wella'r briwiau hyn—
Oni ddeui, dos a phryn
Arch ac amdo er fy nghuddio
O dan glo yn y glyn.

RHESWM.


Ynfyd wyl oddef elwyf
Drwy ryw ffol anianol nwyf,
A byw cy'd yn y byd
I ryfeddu'th wyneb pryd;
Ow! y drych a welaf draw
Ar dy degwch pan y daw
I gael arno bridd-glai oernych,
Yn y rhych gyda'r rhaw;
Y gwrid oedd mor brid,
Gwywa i gyd dan y gwys,
Cleidir byddar daear den
Dynn dy ben dan ei bwys;
Yna'r gruddiau golen gwiw,
Wnaeth fy nhirion fron yn friw, A
 ddaw'n delpyn oer, heb ronyn
O dy lun na dy liw.

RHANNU YR YMRAFAEL.


Eto i gyd, nid dy bryd
Yw y cyfan aeth a 'mryd,
Nid dy liw wnaeth fy mriw,
Er mor wyn a gwridog yw;

Ond trysorau mwy'u parhad,
Rhagoriaethau'r meddwl mad;
Didranc dlysau nas gall angau
Du na'r bedd wneyd eu brad.
Ac, os, feinir dlos,
Mwy nid oes in' yma'n dau,
Gael ein dwyn wrth allor dyn
Dan yr un dyner iau,
Ni gawn fry wrth allor fwy,
Ein clymu ynghyd mewn cwlwm hwy
Bythol uniad ein dau enaid,
Lle ni raid 'madael mwy.


I'R BONT HAEARN.

DRWS afon ddofn dros ewynddwfr—gydiwyd
Yn gadarn uwch mawrddwfr;
Tyn, wyn waith, gwych daith uwch dwfr,
Iach haearnddarn o'r chwyrnddwfr.

Cerfiadau, lluniau, llonwaith,—a gwastad,
Mwyn eiliad manylwaith,
Dwys, glwys, glân, purlan, perlwaith,
Croew, hoew, ffloew, fflur ei mur maith.


HEN FORGAN A'I WRAIG,

Neu ymgomiad deuluaidd rhwng Morgan a Sian
ynghylch amgylchiadau cartrefol.

Morgan
MAE arna'i eisiau gwybod, Sian,
A roist ti fwyd i'r moch?
Ac oni roddaist mae'n llawn bryd,
Mae'n mynd yn ddeg o'r gloch.
Sian
Wel dyna ti yn dechreu'th rinc,
Yn dinc, yn dinc o hyd;
Mae gwrando ar dy gwrnad gâs
Y'mron a'm gyrru o'r byd.
M.—
Pe bae't ti'n mynd o'r byd ryw awr,
Mi gawn i fawr ymwared.
S.—
Ond nid a i ddim i'th blesio di
Ychwaith, er maint dy ddwned.
M.—
O! pe bai'n digwydd iti fynd!
S.
Cait wedyn weld fy ngholled.
M.—
Taw Sian, taw Sian, O taw mae'n bryd;
S.—
Taw di, taw di, 'rhen Forgan;
Mi dawa' i, rwy'n dweyd i ti,
Pan leicia' i fy hunan.

M.—
Ond ydyw'n arw'th fod di, Sian,
Fel hyn yn codi'th gloch
Am ddim ond i mi holi'n fwyn—
A roist ti fwyd i'r moch?
S.—
Mi goda'i eto 'nghloch yn uwch—
'Rwyt fel rhyw gadi o hyd,
Yn holi a stilio, "Pa sawl torth
A wnaeth y pecaid yd?"
M.—
Ai onid iawn i wr y tŷ
Ofalu am yr eiddo?

S.—
A gwisgo'r bais yn lle y wraig,
A phobi a thylino!
M.—
Ond yr wyt ti am wisgo clôs,
S.—
O rhag dy g'wilydd heno!
M.—
Taw Sian, taw Sian, O fie! for shame!
'R wyt agos a myddaru:
S.—
Taw di, 'r hen Foc, a'th glincwm câs,
'R wyt bron a'm syfrdanu.

M.
Y mae dy swn yn union fel
Cacynen mewn bys coch—
A dechreu'r cwbl oedd i'm ddweyd,


"A roist ti fwyd i'r moch?"
S.—
Y mae dy rygniad diflas di,
A'th rwnc yn ganmil gwaeth—
Yn holi o hyd, o hyd, "Sawl pwys
A wnaeth y corddiad llaeth?" '
'M.—
Ti wyddost, Sian, pan ddaw y rhent,
Mai'r menyn yw ein swcwr:
S.—
Wel, porthwch chwithau'r gwartheg, syr,
Fel delo'n well eu cyflwr:
M.—
Yr ydwy'i 'n gwneuthur hynny, Sian;
S.—
Wel, gwna, a thaw a'th ddwndwr:
M.—
Taw Sian, taw Sian, taw, gwarchod ni!
Mae'n bryd it' gau dy hopran:
S.—
Mi dawa' i, 'rwy'n dweyd i ti,
Pan leicia' i, 'rhen Forgan.
M.—
Yr wyt yn ddigon, ar fy llw,
I'm gwneyd yn sowldiwr, Sian,
A'm gyrru i gario'r mwsged mawr
Yng nghanol mŵg a thân.
S.—
Tydi yn sowldiwr, nag ai byth;
Mae arnat ofn dy lun!

Ni fedri di ryfela â neb
Ond â dy wraig dy hun!
M.—
Mi af i ymladd dros y Twrc,
Yn erbyn Rwssia gethin:
S.—
Wel dos, a thi wnei gystlad Twrc
A'r un o fewn ei fyddin!
M.—
Rhag c'wilydd, Sian, fy ngalw'n Dwrc!
S.—
'Rwyt felly o'th droed i'th goryn: '
'M.—
Gad heibio, Sian, tyrd, ysgwyd llaw,
A byddwn mwy yn ffrindia!
S.—
Wel, dyna ben, mi dawa' i—(seibiant)
Os tewi di yn gynta'.


PONT Y PAIR.

Englynion a gant y bardd pan yn aros y cerbyd ar Bont y
Pair, Betws y Coed.

 
DIORFFWYS arllwys mae'r dyfrlli,—yn wir
Ni erys, ond berwi;
A myned rhwng y meini
I lawr, yn ei hawr, ceir hi.

Dydd na nos nid arosi—un mymryn,
Trem amrant ni chysgi;
Anniddig ai dan waeddi
Yn ddidor, "Môr, môr i mi."

A rhedeg yn rhuadwy,—a mawr drwst,
I'r môr draw, ceir Llugwy;
Pryd nad yw alluadwy
Cael Ieuan yn un man mwy!


ADSYNIADAU AR FARWOLAETH CYFEILLES.

Mwy ermyg nag un gwaith marmawr,—dy liw.
A dy lun hudolfawr;
Dy gynnes weniad geinwawr,
Ter wedd, uwch amrantau'r wawr.

Ond Och! ni welir dy wedd—eiryliw,
Er wylo diddiwedd;
Ni ellir dad-droi allwedd
Certh ddorau a barrau'r bedd.

Os llon yw gwylltion yn gwau,—hyd waenydd,
Heb dynnu'r gwlith ddafnau,
Mwy glwys ei hysgafn lam glau,
Un delaid, ar ein dolau.

Fel y diwael flodeuyn, —aroglber
A gloew bu ronyn;
Ond Ow! gwywodd, cwympodd cyn—
Agori, deg flaguryn.

Siomedig a symudol,—yw mwyniant
Term einioes ddaearol;
Y bore mae'n hyburol,
Yr hwyr ni welir ei hol.

Hi ddifyrrodd fy oriau,—drwy chwareu
Rhyw dra chywrain geinciau;
Ond fyth ni chlyw y glust fau
Bur dôn ei mwynber dannau.

Ei gwannaidd fysedd gwynion,—ehedynt
Hyd y tannau mwynion;
A d'ai lle cyffyrddynt dôn,
Sain felus, si nefolion.


CYFLAFAN MORFA RHUDDLAN.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Brwydr Morfa Rhuddlan
ar Wicipedia

CILIA'R haul draw dros ael bryniau hael Arfon,
Llenni nos sy'n mynd dros ddol a rhos weithion;
Pob rhyw chwa ymaith a gilia o'r llwyni;
Ar fy nghlust draw mae ust y donn yn distewi;
Dan fy mron clywa'm llon galon yn curo,
Gan fawr rym digter llym, wrth im' fyfyrio
Ar y pryd pan fu drud waedlyd gyflafan.
Pan wnaed brad Cymru fad ar Forfa Rhuddlan.

Trwy y gwyll gwelaf ddull teryll y darian;
Clywaf si eirf heb ri arni yn tincian.
O'r bŵau gwyllt mae'n gwau saethau gan sio;
A thrwst mawr nes mae'r llawr rhuddwawr yn siglo;
Ond uwch sain twrf y rhai'n, ac ochain y clwyfawg
Fry hyd nef clywir cref ddolef Caradawg,—
Rhag gwneyd brad ein hen wlad, trown eu câd weithian,
Neu caed lloer ni yn oer ar Forfa Rhuddlan!"

Wele fron pob rhyw lon Frython yn chwyddo,
Wele'u gwedd, fel eu cledd fflamwedd yn gwrido;
Wele'r fraich rymus fry'n dyblu'r ergydion;
Yn eu nwy torrant trwy lydain adwyon;
Yr un pryd Cymru i gyd gyfyd ei gweddi,—
"Doed yn awr help i lawr yn ein mawr gyni;
Boed i Ti, O! ein Rhi, noddi ein trigfan;
Llwydda'n awr ein llu mawr ar Forfa Rhuddlan."


Troswyf daeth fel rhyw saeth alaeth a dychryn,
Och! rhag bost, bloeddiau tost ymffrost y gelyn;
Ond O! na lawenha, fel a wnai orchest;
Nid dy rym ond dy ri' ddug i ti goncwest.
Ow! rhag braw'r dorf sy' draw'n gwyliaw o'r drysau,
Am lwydd cad Cymru fad—rhad ar eu harfau;
Mewn gwyllt fraw i'r geillt fry, rhedy pob oedran,
Wrth weld brad gwyr eu gwlad ar Forfa Rhuddlan.

Bryn a phant, cwm a nant, lanwant a'u hoergri;
Traidd y floedd draw i goedd gymoedd Eryri;
Yr awr hon y mae llon galon hen Gymru,
Am fawr freg ei mheib teg, gwiwdeg, yn gwaedu:
Braw a brys sydd trwy lys parchus Caradawg;
Gwaeddi mawr fynd i lawr flaenawr galluawg:
Geilw ei fardd am ei fwyn delyn i gwynfan,
Ac ar hon tery don hen "Forfa Rhuddlan.'

Af yn awr dros y llawr gwyrddwawr i chwilio
Am y fan mae eu rhan farwol yn huno;
Ond y mawr Forfa maith yw eu llaith feddrod,
A'i wyrdd frwyn, a'r hesg lwyn, yw eu mwyn gofnod;
Ond caf draw gerllaw'r llan, drigfan uchelfaith
Ioan lân, hoftwr cân, diddan gydymaith;
Ac yn nhy'r ficar fry, gan ei gu rian,
Llety gaf, yno'r af, o Forfa Rhuddlan.


I'R IAITH GYMRAEG.

MOR gain yw'r Gymraeg union—ei geiriau
A gyrraedd y galon;
E sai'r bendefiges hon,
Tra gwelir haul tro gwiwlon.

Iaith gymwys odiaeth Gomer—a'i hachos
Ddaw'n uchel ryw amser;
Yng Nghaerludd er budd daw'n bêr
Baenes i chware i banier.

Y dewrion Frython o fryd—mawreddog,
Ymroddwn yn unfryd;
Na rifer yn fyrr hefyd,
Un trwy Lundain gain i gyd.

Gwylied oll o un galon—a ddylem,
I ddala'n hiaith wiwlon;
Cadwer a mawr hardder hon,
Yn oes oesoedd rhag Saeson.

Er bod ymhell o wlad ein tadau,
Ei chlau fronnydd a'i huchel fryniau,
Eto anwyli ni yw tonau
Hwylus a thyner lais ei thannau,
A chael heb ffael i'w chofthau—yr hen iaith,
A hyfrydwaith ei harferiadau.

Prysured yr amser y delo iaith Gomer,
Yn Fannon ddisgleirber mewn llonder i'r llys;
O'r Senedd ei seiniau a lanwo'n ddifylchau
Holl gonglau a rhannau yr Ynys.


Iaith araul, a'r iaith orau,—iaith gudeg;
Iaith gadarn ei seiliau;
Iaith fy nhud, iaith fy nhadau,
Iaith bêr oll, iaith i barhau.

Iaith burach, gryfach na'r Gryw,—iaith anwyl,
Iaith hyna'n bod heddyw;
Cadarn a didranc ydyw,
Iaith fu, sydd, ac a fydd fyw.

Y Gymraeg, digymar yw—iaith hydrefn
A iaith ddidranc ydyw;
Hon fu, sydd, ac a fydd fyw
Er estron a'i fawr ystryw.


Y TYLWYTHION TEG.

AR fin yr hwyr, o fewn rhos,—draw gwelais
Drigolion y gwyllnos;
Mewn twll niwl a'u mentyll nos,
Yn gwylltdroi'u dawns trwy y gwelltros.


YR HEN AMSER GYNT.

"For Auld Lang Syne."

ER troion byd, ei wên a'i ŵg,
A llawer dyrus hynt,
Tra melus ydyw galw i gof
Yr hen amser gynt.
Er mwyn yr hen amser gynt, fy ffrind
Yr hen amser gynt,
Ni wnawn yn llawen heno er mwyn
Yr hen amser gynt.

Ar hyd y maesydd clywid sain
Ein hadlais gyda'r gwynt,
Tran dilyn ein diniwaid gamp,
Yr hen amser gynt.

Dod law mewn llaw, fy nghyfaill Ilon,
Aed gofal byd gan wynt;
Ni wnawn yn llawen heno er mwyn
Yr hen amser gynt.

Difyrrid ni wrth godi a gweld
Y barcud yn y gwynt;
Ond tyfa'r gwellt lle sangem ni
Yr hen amser gynt.

Dod law mewn llaw, &c.

Ar ddyddiau hafaidd chwythu wnaem
Y dyfrglych gyda'r gwynt,
Heb feddwl fawr mai felly yr ai
Yr hen amser gynt.

Dod law mewn llaw, &c.


Ar ol yr wyn hyd lethrau bron,
Y rhedem ar ein hynt;
Nid mwy diniwaid hwy na ni,
Yr hen amser gynt.

Dod law mewn llaw, &c.

Ar ol y gad ymhell o dre,
Y rhoisom lawer hynt,
Ac ofn wynebu cartre'n ol,
Yr hen amser gynt.

Dod law mewn llaw, &c.

A lluniem ryw ryfeddod fawr
A welsem ar ein hynt,
I foddio'n mam rhag cerydd hon,
Yr hen amser gynt.

Dod law mewn llaw, &c.

Pa fodd y dichon fynd ar goll
Un rhan o'r mabol hynt?
Tra cofiaf sill am danat ti,
Bydd cof o'r amser gynt.

Dod law mewn llaw, fy nghyfaill llon,
Aed gofal byd gan wynt,
Ni wnawn yn llawen heno er mwyn
Yr hen amser gynt.


FFARWEL MÔN I ORONWY.

"Meithder Môr y Werydd,
Ow! rhyngom tra fo'm a fydd."


YMADAWIAD GORONWY A MON.

 
TYWYLLWCH sy'n mantellu—dros eirian
Dir siriol mam Cymru;
Ow! Fon, pa ddryglam a fu
Yn achos iti nychu?

Trist yw mron am Oronwy—fy ngheinfardd,
Fy nghynfab clodadwy,
A droe ymaith i dramwy,
O'm mewn ni ddychwelodd mwy.

Trwm gur, wedi rhoi magwraeth—tirion
I'm meibion o'u mabaeth,
Eu symud i alltudiaeth,
Draw ymhell o dir eu maeth.

Gwae'r pryd a'r ennyd yr ai
O'm mynwes dros ddwfr Menai
Y gorenwog Oronwy,
Pennaf fardd—Pa un ei fwy?

Ail doe yw ei weled ef—yn troi gefn
Trwy gur ar ei gartref,
Ac ar ei ol y bu gref
Eglurlais floedd galarlef.

Mor syn mae'n dirwyn ei daith
Drach ei ol edrych eilwaith,
Ei glau enaid sy'n glynu
Yn ei famwlad geinfad gu;
Ow! a'r gwelwi mae'r galon
Gan fraw, ac eigion y fron:
A hyllt, a dagrau heilltion
Hidla ef wrth adael hon.
Onid trwm i fin y trai
Yr olaf waith yr elai?


Cofiaf ef mal doe'n sefyll
Ar y lan a'i syfrdan syll,
A'r cwch uwch dylwch y don
A'r dorf yn dod o Arfon;
Rhy chwim yw chŵyf ei rwyfau,
Rhy rwydd i'w swydd mae'n neshau;
Dan ewynu doi'n union.
I gyrrau ymylau Mon;
Ac ar unwaith dacw 'Ronwy
I mewn, lle ni'm troedia mwy.

Dywed pam i'm gadewi,
A fu lac fy ngofal i?
A welaist yn fy ngolwg
Un waith, sarugrwydd neu wg?

Er hynny, os felly y rhannwyd—fod
It fudo o'm cronglwyd;
Bydd dan ddigawdd nawdd ddi nwyd
Nef Raglaw hyd yn friglwyd;

A doed ar dy ben arab
Heb rith fy mendith, fy mab.

Ow! wele ef yn hwyliaw
Ar y drum yr ochor draw;
Wele'i gefn anamlwgo,
O'r golwg draw ar gilio:
Yn iach, fy mab, ni chaf mwy
Yr unwaith weld Goronwy.

Hoffai Rhufain ei phrif-feirdd,
I dir Helen bu ben beirdd;
Ond rhanwyd i Oronwy
Ddeuparth o'u hen awen hwy.


Bu i Gymru wiwgu enwogion
A rhif harddwych o fwynber feirddion,
Ni fu'i nentydd a'i gelltydd gwylltion—
Ei chymoedd a'i theg lynnoedd gleinion,
Heb bynciau urddawl mwyn benceirddion
Yn cu odli a'u hadlais cydlon.

Er Taliesyn, ac Aneuryn,
Cawn i waered
Lu o fwyngeirdd ei boreufeirdd
Yn ebrifed.

Buan rhed i ben eu rhi
Hynt Dafydd o lan Teifi,
A'i gywydd teg ei wead
A gaed fel gwin i'r min mad;
Yn eu rhif nid hwyr y rhed
Gwiwlan eilydd Glan Aled,
Rhoi natur i Dudur dân A dawn i ganfod anian;
Ab Edmwnd, arab edmyg,
Y dorch mewn ymdrech fe'i dyg—
A difai y ceir Dafydd
Yn ben ydd awen i'w ddydd,
Ac ef a ddylid gyfarch
Yn ddeddfwr beirdd, haeddfawr barch;
Tyn weuai Gutyn Owain,
A Nanmor, y cerddor cain;
A dilesg daw i'w dilyn
Beraidd lais y bardd o Lŷn—
Teimlai a gwelai Gwilym
Anian a gwres yn ei grym;
Meddai allwedd yn gweddu
I gloion y galon gu.
Ond wedi'r restr glodadwy
G'ronwy o Fon geir yn fwy.


Trwy ei waith rhed rhyw wythïen—o nefawl
A dynwyfus awen;
Croewder holl ddawn Cyridwen
Sydd fel lli'n berwi'n i ben.
 
Pan y tery ar hupynt hiraeth
A chri a chwynion am ei famaeth,
Cyffry anian wiwlan gan alaeth
A briwiau'n torri bron naturiaeth;
Tybiwn y gwelwn e'n gaeth—o'i hen fro
Yn gerwin wylo dagrau'n helaeth.

Och ynnom! Pan dduchanai,—natur
I'n eto ddynoethai,
I'r byw gan geryddu'r bai—
Is ei wialen yswiliai.

Wedyn, fel plentyn gwanwyn, fe ganai,
Ac i feusydd anian wiwlan elai,
A ei law dyner mwyneiddiol dynnai
Bob dillyn flodyn a ry dirf ledai;
A'r awen a'u ter weai—'n bleth goron
Ar ei ael union—a siriol wenai.

Ond os rhoi hon wên gwenyd,
Ar ei bardd gwgu wnai'r byd,
E droe hwn gan daranu
Yn lle gwên ei dalcen du.

Ond yma naid uchenaid a chwynion
A reddfa ynghil a gwraidd fy nghalon;
I'w enaid hygar, Ow! ai nid digon
Yn awr ei helbul yn naear Albion?
Ai rhaid ei fwrw o hon—i bellenig Froydd
Amerig, dros toroedd mawrion?


Och foneddion, mewn gwychaf neuaddau
A'u bordiau'n sigawl â brydion seigiau,
Gan chwerthin uwch eu gwin yn ugeiniau,
A'u dwndwr a'u swn am gŵn a gynnau,
A geir o'u mysg un gŵr mau—rydd er clod
Fwrdd ar osod i brifardd yr oesau?

Ond yr Iforiaid gaid gynt
Mor odiaeth, marw ydynt!
Ac nid ellir gwneyd allwedd
A egyr byrth hagr y bedd.

Walia brid! Walia, ble'r aeth delaid
Achlesawl anfarwawl hen Iforiaid?
A oes un Nest lwys a naid—i'r adwy,
Drwy roi i 'Ronwy ei gwên arianaid?

Digyfrif ynt o'u prifardd,
A'r dillyn blanhigyn hardd
Ddiwreiddir, godir o gain
Baradwys hafaidd Brydain;
A chludir ef o'r tir teg
A'i fro'i hun ar fôr waneg,
I bengrymu i freithgu frig—aroglaidd
Yn anhymoraidd hin Amerig.
Galar mawr fu'r awr yr ai
O'm mynwes dros ddwfr Menai,
A rhwygiad i'n teimladau,
A gloesion dyfnion ein dau.
Ond och! pa fodd y dichon
I mi oroesi'r awr hon?
Nid llanw a thrai Menai mwy
A wahana Oronwy
Oddiwrth Fon, ei fwynlon fam
A'i dawnus ofal dinam,


Ond meithder Môr y Werydd,
Ow! rhyngom tra fo'm a fydd.

Wele y llong ar hwylio—a'r morwyr,
Wŷr mirain, yn bloeddio;
A'u traed yn chwimwth eu tro
Yn llu'n mhob lle'n ymwibio..

Gerllaw wele draw'n druan—ei wedd,
Fy haeddawl fab mwynlan;
Yn wylo a'i wraig wiwlan
Yn welw 'mysg ei theulu mân.

Dilynaf ei channaid lenni—dro maith
Draw 'mhell ar yr heli;
Wele hwnt ei hwyliau hi
Yn y gwyll draw'n ymgolli.

Syrth yn awr i lawr rhyw len
Anoleu o dew niwlen,
A guddia yn dragwyddol
Y rhan a geffid ar ol
O'i ddyrus hynt ddaearawl;
Os tremiaf, ni welaf wawl.
Ei ddilyd trwy'r byd tra bom
Ar ei ol, nesa'r elom
I derfyn ei fad yrfa,
Yn dduach, dduach, ydd â.
O! na ddeuai rhyw ddewin
Yn rhwydd a dynnai y rhin,
A throi'n wawl y ddieithr nos
Erwin sydd heddyw'n aros,
Fal dor bedd ar ddiwedd oes
Hyburaf fy mab eirioes;
Ond gan na ddaw, mi dawaf,
Rhyw bryd i'w ddilyd ydd âf.


GWLEDD BELSASSAR.

1.

Babilon.

HANBYCH, dref hoenwych, ar finion—ffrydiau
Euphrades bereiddlon,
Ei mur a'i dorau mawrion,
Ei thyrroedd a'i llysoedd llon.

Neud yw, o Seithdlws daear,—y flaenaf,
Oluniant digymar;
A hardd y sa'r dduwies wâr,
Orsynnawl, yn miro Sinar.

Hyd yr heolydd daw yr awelon
Ag iraidd arogl o'i gerddi aeron.
Ei brig-gauedig gedrwydd gysgodion
A oera iâs wyniawl twymwres hinon.
A'i hydrwyadl Bedryon, O mor wych;
Ei llwyni llonwych, a'i llynnau llawnion.

Hen ac ieuanc, mewn gorfywiog awydd,
Ar hyd ei helaeth, hyfryd heolydd,
Draw eu gwelir, yn gwau drwy eu gilydd,
Yn anibennawl fyrddiynau, beunydd.
Trwyddi brwd sibrwd y sydd—fal môr—ferw,
A'i uchel lanw yn golchi'i lennydd.

Ei chan dôr, hwyr a boreu, —rygnawg
Rugl eu henwawg bybyr golynnau,
Uwch eu twrf na rhoch tyrfau—yn dyar,
Neu ruad anwar môr a'i donnau.


Y Llys.

Ar ael y fron araul, fry
Saif yr hoenlon syw freinlys:—
Wyneb haul, a'i wymp belydr,
A'i serena'n gan mal gwydr.
Aur telaid llawer talaeth
A bro, i'w euro a aeth.
Wrth ystlys y llys mae'r llon,
Grogedig, erddi gwyrddion.
A'u haeron draw ar irwydd
Sy'n chwarae, a'u blodau blydd
Ym min nos y mynwesant
Wlych y nen, a'i lochi wnant.
A phan y daw'r gu-wawr gain
I agor dôr y dwyrain,
Agorant eu brig araul,
A'u mynwes i wres yr haul.


Afon Euphrades.

Euphrades sydd yn ffrydio—drwy ganol
Y dref wir odiaethol, drwy farw—deithio,
Fel un fai'n dymuno—rhoi adlewyrch
I bob rhyw wrthddrych iawnwych yno.

Draw, ar bob llaw, mae lliaws
O blanhigion irion naws,
A thal heirdd fythol-wyrddion
Dew gelli, a llwyni llon.
Godreon ei minion myg
A hulir à mêr helyg.
Eu blagur a oblygynt
Uwch y donn, O wyched ynt!
A glwys y maent hyd ei glan
Yn chwyfiaw, a chyhwfan,

Gan wyraw dan yr awel
Eu brigau irfoddau fel
Rhyw ddi rif hardd wyryfon,
Euraid wallt, yn crymu'r donn.


Cwyno am Seion.

Ond ust! ar fy nghlust y daw
Swn alaeth, a sain wylaw.
Er mor bybyr mur Babel,
Nid yw mor fangaw nas del
Fry drosto afar dristyd,
Ail i fwth y sala 'i fyd.
Draw gwelaf ryw diigolion,
A llwyd wedd gerllaw y donn,
Yn eistedd, ac yn astud
Dremiaw ar ei chwyldro mud.
Pryder, mal pry', a edwodd
Y rudd wen, a'i biraidd nodd
A wywodd gan boeth waeau
Hiraethlon yn y fron frau.

Acw hongiant, ar helyg gangau—o'i mewn,
Eu mwynion delynau.
Ton y gwynt arnynt yn gwau,—leinw finion
Euphrades union a phrid seiniau.

Neillduedig, unig ynt,
Odiaeth wahanol ydynt,
Egwyddawr ac agweddion,
I'r bobl oll drwy Babilon.
Yn nhŷ Bel ni ymbiliant,
Yn ei wedd plygu ni wnant.
A duwiau y Caldeaid,
Yn eu gwydd, mal dim a gaid.
Jehofa, Duw eu tadau,
A gaiff o hyd ei goffhau.

Son yn ddiau wnant am farnau
Iôn a'i wyrthiau, a'i law nerthol,
Dros eu tadau ymhob bylchau,
A'i fawr radau pan fu reidiol.
"Ond yn awr gwrthodwyd ni,"
Cwynent mewn eithaf cyni.
"O'n gwlad enedigol lon,
Oll dodwyd ni'n alltudion.
Y traed hyn fu'n troedio ael
Mynydd Caersalem anwael,
Och! ond trwm, ni chant dramwy,
Chwaith ei dol na'i maenol mwy.
Yn iach Seion dirion deg,
Ni chawn ni byth ychwaneg
Droedio'th heolydd drudwych,
Na moli yn dy Deml wych.
Y llygaid hyn, cyn eu cau,
Ni welant Salem olau.
Ond salaidd iawn dyselir
Eu gwawl mewn alltudiawl dir."

Llais y Proffwyd.

Yna deuai rhyw broffwyd eon—draw
O'r dref at yr afon,
I draddawd ymadroddion,
Er gwellhau briwiau eu bron.

Ar orsaf lâs y safai,—ac ato
Yn gytun y cyrchai,
Heb un yn goll, yr holl rai;
A'r gŵr mal hyn 'r agorai.

"O chwi, hil Abram, 'styriwch lwybrau
Jehofa, a'i ddidwyll ryfeddodau.
Eich ynfyd fywyd, a'ch anfad feiau,
A dyrrai y llid a'r holl drallodau

Sydd yn disgyn, peunydd, ar eich pennau
Yma, o gyrraedd Caersalem gaerau.

"Cyndyn, anhydyn, fu eich eneidiau,
Gan niweidio gweis Duw a'i genhadau;
Gwadu eu gwiredd, a gwawdio'u geiriau,
A'u bwrw i ddyfnion chwerwon garcharau:
A byw chwed'yn mewn erchyll bechodau,
A rhoi addoliad i bob rhyw ddelwau.

"Rhoddasoch i Moloch, a'i fflam aelau,
Eich meibion tirion, yn faith bentyrrau:
Ac er trymion fygythion, ac aethau,
A mawr-res hynod o ymrysonau,
A Duw'n ei fawredd yn codi'n forau,
A rhoi llîn ar lîn o'i dduwiol enau;
Arfeddyd pob rhyw foddau—i droi'n ol
Dorau gelynol eich dur galonnau;

"Oll, er hyn, dryllio yr iau,
Och waeth-waeth a wnaech chwithau;
Yna Duw a'ch gadawodd
I'ch rhwysg, i fyny fe'ch rhodd,
I ddod yn wael ddiadell,
Mor isel, i Babel bell.

"Eto rhagorol Dduw trugarawg
Yw Llywydd Israel, a galluawg.
Ni fydd hwyr i faddeu i'r euawg,
A adawo'i feiau andwyawg.
Y mae yn ei natur dosturiawg
Radau foroedd i'r edifeiriawg.
Ac er iddo mewn dig gorhaeddawg
Ein rhoi yn nwylaw estron halawg,
A'n gyrru mal defaid gwasgarawg,
O araul fryniau Israel freiniawg;

Er hyn ni phery yr hawg—i'n cosbi,
A'n trallodi a'i ddigter llidiawg.

"Gan hyn, hil Iago, na wan lewygwch
O dan farnau Ion cyfion, ond cofiwch
Ymwneyd â'i fawredd mewn edifeirwch,
A llwyr wylo mewn diball arolwch;
Fe glyw ef eich llef o'r llwch;—a buan
Iwch daw â diddanwch a dedwyddwch.

"Ystyriwch ei dosturi,
A'i nawdd gynt i'n tadau ni;
Ei wyrthiau a'i law nerthol
I'w darwain hwy droiau'n ol
O dir Ham, er dorau heyrn,
A grymusder gormesdeyrn.
E roddodd Flaenor iddynt,
A ddug ar adenydd gwynt,
Eu lluoedd oll yn llawen
O'r Aifft, er ffromder ei rhên.
Arweiniodd tu a'r anial,
Y dorf, a bu gerwin dâl
I'r Aifftiaid, rhwng cannaid-droch,
A muriau caeth y Mor Coch.

"Fe yrr Ion hyf Arweinydd.
I uinnau'n ddiau ryw ddydd.
Yn ei fryd E fwriadawdd
O bell godi i ni nawdd.
Mae sain o'r dwyrain yn dod,
Twrw ei lu, mal taer lewod,
Yn gannoedd yn ymgynnull,
Yn dorf ofnadwy ei dull.
Ac â byw lid i gwblhau
Ei fawr odiaeth fwriadau

Ac oll yn barod i'r gâd,
Arosant ei air-wysiad,
A gant o'i enau, heb gel,—
'Ewch bawb, dinistriwch
Babel; Heddyw yr wyf yn rhoddi
Y lle chweg yn eich llaw chwi.
Ond dygwch holl had Iago
Yn ol i'w hen freiniol fro."

"A'i fur o'i ogylch, mal'r ymfawryga
Acw, Lyw diwall hen enwog Galdea;
Cadarn yw weithion, mewn cedr y nytha,
Echrys ei wyddfod ar uchorseddfa.
Y rhen, ar yngan yr hwn yr hongia
Edef einioes y rhifed a fynna;
Da ysblenydd y gwledydd a gluda,
Ar eu haml ethol ffrwythau'r ymlytha;
Yn ei warsythrwydd diystyr sathra,
Ar wreng a dreng, a throstynt y dringa
I anrhydedd, a rhodia—yn goegfalch
Ffroen-uchelfalch ar ei ffraenwych wylfa.

"Eto, creadur ytwyd,
Uwch yw Duw, er uched wyd.
Er iddo ef ein rhoddi
Yn dlawd wystl yn dy law di,
Yn ei lid, a'n hymlid ni
O'n gwlad, mewn tyn galedi;
Y pair, ar ol ein puraw
O'n sorod oll, ys oer daw;—
Yna oll deuwn allan
Yn ein pwys, mal glwys aur glân.
Ond llwyr ysir, llosgir llu
Y gâlon, wna'n bygylu;
Un wedd a dienyddwyr
Y tri llanc, a gwanc y gwŷr

"Ni phery felly dy fâr
Yn oes oesoedd, Belsassar;
E ddaw Duw a'i ddydd dial,
A'i ddwrn dwys rhydd erwin dâl.
O! ofered dy furiau,
A lluoedd y tyroedd tau,
Dy aerwyr dewrfryd eres,
Dy aur prid, a'th gan dôr pres,
Ban y del i'th erbyn di
Ein Ior a'i lu aneiri'.
Cyn hir fe'u gwelir yn gwau
Yn gad fawr rhag dy furiau;
A'u hatal mor hawdd iti
Daraw y llawr—gwneyd i'r lli
Yn Euphrades ber-ffrydiol,
Ddolennu i'w darddle'n ol.
"O!dy feibion, Seion, y sydd
Mewn poenau trymion peunydd,
Ac anhafal ddygn ofid,
Wrth adgofio eu bro brid.

"Sefwch, ac edrychwch ar der iechy-
dwriaeth yr Arglwydd, i'n rhwydd arweddyd,
O lafurio'n Mabel i fro'n mebyd,
Mewn aidd sanctaidd a hoenus ieuenctyd.
Dirwynnu mae'r dêr ennyd—mae'n agos,
I Dduw ddangos rhyw ffordd i ddiengyd.
Megys gynt y môr pan agorai,
A'r Iorddonen wen pan wahanai,
E drydd Euphrades yn drai—a daw'n sych;
Ni chwery glwysglych ar ei glasglai.

"Mwy i ffrydia drwy ei bala
Na'i harilwysfa ei dwr lles—fawr,

Ond gor-ruthrau aerawg lengau,
A'n glain arfau gloewon erfawr.

"Gwae i Fablon,
Mae y noson
Drom yn nesu.
I'w rhoi n isel
A hi'n uchel
Lawenychu.

Daw yr ornest a hi'n bloddest
Ac yn gloddest gan goleddu
Pob erchylldod, a rhoi mawrglod
I'w heilunod, a'u moliannu.
Pan fo'i mawrion yn westeion,
A'u berw'n hoenlon drwy'r brenhinlys,
Yn clodfori Bel a'i foli,
A dyioli ei nawdd dilys,

"Dorau Euphrades derwych
Lleibia'r Sanct gan wneyd llwybr ych;
A thrwyddynt rhuthra eiddig
Arfogion dewrion a dig;

"Ar ei gwaelod y rhodiant—a'i gwely
Gwiwlon a orlanwant,
A'u hyfion eirf chwyfio wnant,
A'i glannau a ddisgleiniant.

"Hyrddiant, dewr—dyrrant drwy y dorau
Fry i y ddinas ya fyrddiynau,
A chyferfydd cyd-chwyf en harfau
O flaen y llys, yn flin eu lleisiau.
Can's i'r fan bo'r buria'n bod
Yr â'r aruthr eryrod.

"Y Gwylwyr a fygylant,—lliosog
I'r Llys y goruthrant,
A'r Brenin yn ei win a wanant,
A'i arluyddwyr dewr a laddant;
A'i ruddain goron a roddant—ar ben
Eu Llyw addien, mewn bri a llwyddiant.

"Fel hyn, mewn munudyn, a
Diaillt deyrnedd Caldea,
Yn ddirwystri ddewr estron,
Yr hwn yw offeryn Iôn
I gwblhau ei eiriau ef,
A'n hedryd ninnau adref.

"Ein Iôr gwiwlwys a gyffry ei galon
I'n hadfer ni, a'n rhoddi yn rhyddion;
Egyr ddorau ein carcharau chwerwon,
Rhwyddha, was hoew-wych, ein ffordd i Seion.
Y ddinas a theml ddawnus Iôn.—diau,
Cyweiria fylchau ei muriau mawrion.

Dedryd i'r deml ei dodrefn,
A hon a dry i'w hen drefn;—
A'ch llygaid chwi, yn ddiau,
A welant hyn cyn eu cau.

"O hil Abram! Cawn etwa lwybro
Ar hyd ein hyfryd fabol hoewfro;
Cawn drem ar Salem cyn noswylio,
A moli Ion yn ei deml yno."

*****

Swn byddin Cyrus.

Bloedd uchel drwy Fabel fawr
Twrf terfysg trafod dirfawr:
"Gwelir gâlon mewn golwg
Drwy'r glyn draw—argoelion drwg

Y Mediaid yn haid ddi-hedd,
A Chyrus wych i'w harwedd,
I'r ddinas sy'n rhwydd neshau,
Ceuwch diriwch y dorau."
Dyna'u hoer—drwst yn hwyr droi,
A rhwnc—lusg eu barrau'n cloi.
Wele'r gethin fyddin fawr
Yn nesu'n llu aneisawr,
A'u llumanau'n gwau i'r gwynt,
Ac ornaidd olwg arnynt.
Milein feirch a chamelod,
Yn dyrrau ar dyrrau'n dod;
A phâr anadl eu ffroenau
Rhyw lwyd niwl, ar led yn hau.
Is carnau'u rhwysg cryna'r âr,
Dros enwog frodir Sinar.
Deuant, gwersyllant ger serth
Furiau Babilon fawr-werth.


Gwawd y Babiloniaid.

A'r Babiloniaid a gaid i'w gwawdio
Oddiar eu muriau, gan ddewr ymheuro;
Deisyf eu gwaethaf, a dwys fygythio;
A throi gwed'yn saethau i'w hergydio;
Yn fawr eu bost gan ymffrostio,—beunydd,
O'u henwog gaerydd; a'u didranc herio.

Ond ni wna gwawd dynion gwael
I'r Mediaid dewr ymadael;—
O'i dynn warchadle nid a,
Y ddinas nes meddianna.


II.

Boreu'r Wledd.

Y wawr weddus, a'i bysedd rhuddain,
Sydd draw yn agor dôr y dwyrain.
Drwy y coed mae'r adar cain,—a'u didlawd
Dyner arawd yn eu harwyrain.

(O'i blas iesin ni chai Belsassar
Weld ei ruddgain oleuder hawddgar
Y tro olaf, cyn mynd trwy alar,
O'i aur orsedd i fedd yn fyddar.)

Nid cynt y ceir hynt yr haul
Draw yn nhy'r dwyrain araul,
Nad yw'r bobloedd, drwy Bab'lon
A dawnsiau, a llefau llon,
I'w arwyrain ar wawriad
Gwyl Bel, yn uchel eu nâd.

Mwynber seiniau offerynau,
A'u per—leisiau pur luosog,
Sy'n gorlenwi'r ddinas drwyddi
Agorhysi sarllach gwresog.

A Bel sy'n agor ei byrth
I reibio am yr ebyrth.

Drwy'i gynteddau ceir eidionau
A'u brefiadau, heb rifedi,
Ei allorau âg oftrymau
Ac aberthau braisg i borthi.
Pob cell a chafell o'i chwr,
Olynol, a dynn lenwir

O grefyddol addolwyr,
Yn fangaw dorf erfyngar.
Wele draw gamelod, ri,
Dan feichiawg lethawg lwythi,
O ddrudion roddion at raid
Bel ffur a'i abl offeiriaid.


Gorymdaith Belsassar.

O'i lys mewn urddas y daw Belsassar,
Mewn diwyg edmyg, a'i hoew gydmar,
A llu o wychion osgyrdd llachar
Yn ei ddilyd, gan ddiwyd ddyar;
A'r llon drigolion i'w garr—sy'n gwarhau
Eu pennau'n ddiau tu a'r ddaear.



Y Gwahoddiad i'r Wledd.

A rhed o'i flaen herodion—yn gwaeddi
A gwedd odidoglon,—
Traidd eu llef hyd hardd a llon,
Boblawg, heolydd Bab'lon,
"Chwi enwog Dywysogion
Heirddion ser y ddinas hon,
Iwch oll y mae annerch wâr
O blas iesin Belsassar.
Rhyngodd bodd iddo roddi
Ei chwyl wahoddiad i chwi,
Heno i ddod yn unwedd,
Wrth ei wŷs, i'w lys a'i wledd."

Fel hyn i derfyn y dydd,
Yn llawn o bob llawenydd,
Y ceir Babel uchel, lon,
Drwy'i hylon dêr heolydd.


Y Nos.

Y mae yr haul, draw, mor wylaidd,—fel un
Yn flin o'r drych ffiaidd,
A brys yn ei olwg braidd
I guddio'i wyneb gweddaidd.

Yn awr mae llenni hwyrol—yn estyn
Eu hedyn achludol
Dros y ddinas urddasol,
A bryn, a dyffryn, a dôl.
Wele eirian wawl arall
Yn cyfodi, gwedi gwyll,
Nes troi llywel Babel bell
Yn ail ddydd, o loewaidd ddull,
Ffaglau a lusernau sydd,
Drwy y ddinas urddaswedd,
A'u têr dân yn gwatwar dydd
Nes hwnt yrru nos o'i sedd.

Ymhob annedd mae gwledda,—amhuredd,
A mawrwyn, a thraha,
Nes llenwi Babel uchel â
Garm elwch, a grymiala.


Y Wledd Frenhinol.

Troi i'r llys mewn brys o'r bron
Yn awr y mae'r Blaenorion,
I fawr hoen y wledd freiniol,
Yn eu rhif heb un ar ol.
I'r neuadd y crynhoant
Yn llon iawn, a'i llenwi wnant.
Eu mawr ri, er mor eang,
I'w dwyn y sydd o dan sang.
Rhed byrddau'n rhengau drwy'r wych
Fan neuadd, mewn trefn hoew-wych,

A than gu ddanteithion gant,
A gwiw seigiau, gosigant.
Moethau, a phob amheuthyn,
A fedd dae'r at foddio dyn,
Ar glau aur-gawgiau i gyd,
A siglant mewn nodd soeglyd.
Llugyrn aur o'i lliwgar nen
Acw hongiant,-a thair cangen
A ddeillia o'i hardd a llon
Golofnau naddawg-lyfnion;
Mal ser, a'u lleuer, yn llu,
O'r entrych yn amrantu.
Ac ar y mur ceir mawrwych
Ddelwau maith, o gerfwaith gwych,
O'r gwyr a fu ragorol
Yn y bau, flynyddau'n ol,-
Nimrod, yr hwn osodawdd
Dda sail eu dinas ddisawdd ;
A Belus, a phawb eilwaith,
O'u myg odidogion maith.
A cherf lun Bel a welir
Ym mherfedd ydd annedd hir,
O aur bath, yn rhoi ei bwys
Ar golofn farmor gulwys.

A moes addas ymseddu
Mae'r gwesteion llon, yn llu,
Nes llenwi'r neuadd addien
Heb un bwlch, o ben i ben.
Brithir y rhengau hirion
A llu o rianod llon,
Yn chweg belydru tegwch
Prid o'u fflur wynepryd fflwch,
Mal swyn a melus wenwyn
Yn dallu a denu dyn.


Uwchlaw y saif uchel sedd
Y Brenin, fab eirianwedd,
Gan fain glain yn disgleiniaw
Yn loew ei drem a'i liw draw.
Gerllaw, mewn gwawr a llewych
Y ceir ei wâr gymar gwych;
A'i gwisg mor lachar a gaid,
Yn llegu gwawl y llygaid.
Hwynt yw canol—bwynt yn awr
Yr holl dorf a'r llu dirfawr:—
Y rhai sydd, mal disglair ser,
Yn llawen yn eu lleuer.


Ffrystio weithion y mae'r caethion
A'u twrw'n eon, a'u tro'n hoewaidd;—
Oll yn gwisgi droedio i weini
I'w harglwyddi, yn rhyglyddaidd.


Wele yn awr lawen wî
Wynfydawg yn cyfodi.
Dadwrdd, dwndwr, a thwrw,
A garw forach a gor-ferw,
Gan win yn llosg-enynnu,
Arfoloch yw rhoch eu rhu.


Mae pob tafod yn rhoi mawrglod
I'w heilunod, a hael honni
Holl oruchel faw: edd Babel,
A'i diogel fur diwegi.


Clod y Bardd Teulu.

Yn eu mysg y clywir mawl
Alawau'r Bardd teuluawl,
Y sydd ar ei sedd eirieoes,
Uwch y mil, mewn gwycha moes;

A'i lais yn dilyn ei law,
Mewn hwyl yn tra mwyn eiliaw,


Gan draethu tras Belsassar—ei achau,
A'i wychedd digymar:—
A'i gyfodi gwedi'n gâr
I dduwiau'r nef a'r ddaear.

Ar unwaith wele'r annedd
Heb air, ac mor fud a'r bedd.
Dacw Belsassar yn barod,
Ai araith ddyfaith ar ddod.


Araith Belsassar.

"O! chwi odidog dywysogion,
Llon eu golwg, a llawen galon,
Dra y gweloch oleuder gwiwlon
Yn teru'n wyneb eich teyrn union;
Ond un ddu ŵg—dyna ddigon—yna
Edwa, ys oera'ch holl gysuron.

"Yr wyf yn ddewin ar bob cyfrinion,
Ie, adwaenaf feddyliau dynion;
O draw gwelaf ddyfnder y galon
O hyd i'r gwaelod, a phob dirgelion.
Breuddwyd, a phob arwyddion—sydd i mi
Yn ail i oleuni gloew haul hinon.
"Ar Fabel ddihefelydd, a'i gwenawl—
Ogoniant, wyf Lywydd.
Diddadl i mi'n gystadlydd
Mewn gallu, ni fu—ni fydd.

Pwy yn gymar i Belsassar
Drwy fro daear, o fri dien?

Ydwyf bennaf, ac urddasaf,
Lyw uchelaf dan gylch heulwen.

"Mae'n fri i ddaear fy nghariaw—a'r haul
Ro'i wên i'm goleuaw;
Y lloer a'r ser ar bob llaw
I'm mwyniant sy'n ymunaw.

"A pha dduw drwy'r hoff ddaear—i Fel
A'i foliant yn gymar,
A daena ei aden wâr
I lochi'n dinas lachar?

"Iselwyd Duw Caersalem,
Er rhoch ei lid a'i fraich lem,
A'i astrus wyrthiau rhestrol,
A'i ddoniau ef ddyddiau'n ol.
Ac er ei holl ffrostgar waith,
Neu driniad ei daraniaith,
A chaeth fygythion, a chur,
I'w haedd—alon, a'i ddolur;

"A son am Seion a'i sant—aidd enw
A'i ddinwyth ogoniant,
Ei fawl, a thy ei foliant,
A'i dirion ragorion gant;

"O flaen Bel e ddiflannai
Ei holl nerth, a phallu wnai.
Ei dem wych, a'i dy mawl ef,
Heddyw sydd yn anhaddef.
A'i haur lestri yr awrhon
A geid yn brid ger ein bron,
Yn deg dlysau diogel
Yn hulio bwrdd cylchwyl Bel.


AR LAN LLYN GEIRIONYDD.

"Graianaidd lan Geirionydd lwys.
Fy mabwysiadol fro."


"Deuwch, a llenwch hwy'n llawnion,—uchel
Rhown iechyd Bel weithion,
Am 'r orfodaeth helaeth hon
Ar Dduw gau yr Iddewon.

"Wele fi'n rhoddi'r awrhon
Herr i Dduw yr . . . .[1]
. . . Och! . . edrychwch draw!
Arwyddion i'm cythruddaw.
Gan eu llwg, yn llewygol,
Fy enaid a naid yn ol!"


Llaw ar y Pared.


"Y Brenin!!" eb ar unwaith,
Yr holl lu mewn teryll iaith.
"Yna chwi, cynheliwch ef."
"Draw! hwnt draw ar y pared!
Rhyw law yn chwyfiaw ar led."

Ar y wal draw, e welir
Ger gwên y canhwyllbren hir,
Ryw ddigorff ddelw anelwig,
Deneu, gul, heb gnawd neu gig.
O mor drwm, ar y mur draw,
A llesgaidd y mae'n llusgaw;
Ac â bys, fel fflamawg bin,
Llysg eiriau, a llws gerwin.



Dychryn y Llys.

O! a'r newid wnai'r neuadd,
Sigla, dygrynna pob gradd.

Traidd trwy eigion y fron frau
Waedd ddwys yr arglwyddesau.
Dacw gerflun Bel uchelwawr
O'i le yn cwympo i lawr.
Llewyga gwawl y llugyrn,
Deryw eu chwai belydr chwyrn
Oll, ond rhyw wyrdd-der teryll;—
Llewyn yw, 'n lleueru'n hyll,
I ddangos gweddau ingawl
Ac erchyll, rhwng gwyll a gwawl.
Aeth fferdod drwy'u haelodau,
Fel caethion mewn cyffion cau.


Dychryn Belsassar.

Dyheu mae mynwes euog—Belsassar,
Fel arth udgar, anwar, newynog.
Mae braw y Llaw alluog—yn berwi
Trwy ei wythi ei waed toreithiog.

Dafnau o annwn sydd yn defnynnu
Acw i'w enaid euog, ac yn cynnu;
Mewn llewyg drathost mae'n llygadrythu
Ar yr ysgrifen sydd yn serenu
Rhag ei wyneb, ac yn daroganu
Rhes o wythawl ddamweiniau er saethu
Tân i enaid y brwnt, a'i enynnu.
Gan boen a gloes mae'r gwyneb yn glasu,
Dan ymwylltiaw, a'r llygaid yn melltu.
Cyhyr y bochau sydd yn creby chu,
A'r dannedd ifori yn rhydynu.
Mal dyn ar foddi, yn 'screch ymdrechu,
Diflin y mae ei freichiau'n ymdaflu.
Mae llinynau llym y llwynau'n llamu
Gan ddychryn, a glîn mewn glîn yn glynu.

Braw'r canlyniad sy'n irad fraenaru,
Fel fflamawg eirf miniawg yn ymwânu,
Ei ddiriaid enaid, gan ei ddirdynnu.
Ys garw uched y mae yn ysgrechu,
"Deuwch weithion, dywysogion sywgu,
Symudwch y rhin sy i'm dychrynu;
A ddaw o fil ddim un i ddyfalu
Ystyr yr ysgrifen, a'i ddilennu?
Ond dwed golygon trymion yn tremu,
Uwch un ymadrodd, nad y'ch yn medru."
Yna mae'n gwaeddi, a'i lais yn crynnu,
Yn grôch ac erchyll,—"Gyrrwch i gyrchu
Y doethion a'r dewinion i dynnu
Yr hug a wahardd i'r drygau oerddu,
Odid a lunia, gael eu dadlennu.
Aci y rhai y ceir rhu—anynawd
Fy nhlawd gydwybawd i yn adebu."


Ymofyn dehonglwyr.

Acw yn hedeg y gwelir cenhadwyr
Drwy bob congli ymofyn deonglwyr.
Ar wib rhedant, y doethion a'r brudwyr,
I'r Llys rhieddawg, a'r holl seryddwyr.
Saif draw, ger y LLAW, yr holl wŷr—yn fud,
Oll yn astud i ddarllen ei hystyr:

Tremiant a syllant yn syn; ac yna
Datganant mewn dychryn,
"Bys Duw, mae'n hyspys yw hyn:—
Rhyw hael-ddysg uwch marwol-ddyn."

A'u geiriau, mal eirf gerwin—trywanant
Trwy enaid y brenin.
Ac uthrol ei ysgethrin
LLafar bloesg, a'i lafur blin.


Araith Mam y Brenin.

Yn hyn y daw'r frenhines—i'r golwg,
Yn gain ei mwnwg, a gwen ei mynwes,
Mor urdden, a gwên gynnes—ar ei min,
I roi i'r Brenin ryw eurber hanes.


"O eirian Lyw, bydd fyw fyth,
Drwy gofus oes dragyfyth;
Na ddalier dy feddyliau
Yn gaethion, drwy goelion gau;
Ffoed dy wae, y mae gwr mâd
Yn y deyrnas a'u dirnad;

"Yr hwn sy'n deall rhiniau,—a'u diben,
Yn debyg i'r duwiau:
Drwy nodi dirwyniadau
Yr hyn y sydd ar neshau
Oedd ef ddeonglydd hyfad
Breuddwydion dyfnion dy dad.
Fel mellten, drwy'r nen, i'w nol,
Gyrrer rhedegwyr, gwrol;
Er dim prysured yma
Y gŵr doeth—er drwg—er da."


Tawelwch ennyd.

Tawelu, llonyddu'n awr,
I raddau, mae cythruddwawr
Belsassar, a Iliniaru
Mae ei wedd lem, a'i drem dru.
Yn ei olwg ef eilwaith
Sedda anesmwythdra maith.
Gwibio rhwng ofn a gobaith
Y ceir ei feddyliau caith.
Mae'n eofn—eto'n ofni
Y Llaw dân, a'i hamcan hi.

Mae'n awchus—eto'n rhusaw;—
Mae'n ddyrys, rhwng brys a braw.
Am y ddôr yn agoryd
Edrych, mewn hirnych, o hyd.


Daniel a Belsassar.

Ac o'r diwedd dacw'r dewin—yn dyfod
I'r ystafell iesin.
Eir ag ef, rhwng byrddau'r gwin,
Yn llon ger bron y brenin.


Yna Belsassar, yn wâr ei eiriau,
Drwy ofn a hyder, rhy' ofyniadau,—
"A wyt ti Ddaniel, hynod dy ddoniau,
O glud Gaersalem, glodgar ei seiliau?
I ti y cyfranwyd tecaf riniau
Hwnt a ddaw oddiwrth y santaidd Dduwiau,
I ddwyn dyfnion ddirgelion i'r golau,
Deall arwyddiou o dywyll raddau.
Acw, yn ellain, mae rhwng y canhwyllau,
Ryw law uthr hynod, a fflur lythrennau,
Na cheir drwy Fabel, na'i chaerau—hyfryd,
Wr i agoryd ystyr y geiriau.


"Os gelli di eu deall,
A'u heglurhau yn glaer oll,
Cei fawl, o urddasawl ddull,
A pharch yn agos a phell.
Cei wisgo'r porffor perffaith,
A diwyg o geindeg waith;
Am dy wddf, yn em i'w dwyn,
Y rhoir gwiwder aur—gadwyn;
Yng nghlau ragorfreintiau'r fro
Yn drydydd ti gei droedio."


Y dehongliad.

Yna Daniel yn dyner—a etyb,
Eto'n llawn gwrolder,—
"Aur rhudd i eraill rhodder,
I ti boed d'anrhegion têr.


"Eto'r ysgrifen a ddarllennaf
I'r brenin, a'i rhin a olrheiniaf.
Yn awr, O lyw! clyw lais claf—y fflamlaw
Yn dygnawl eiliaw dy gnul olaf.

"Awdwr y nefoedd, daear, a neifion,
Ynad yr anwir, a thad yr union;
Y Duw MAWR, ac i eilunod meirwon
Ni rydd ei hygaraf urdd a'i goron:
Gan ddial ar ei âlon—a rhoi hedd,
Drwy hynawsedd, i ei druain weision.


"Y Duw a roes i dy dâd
Oruch mawr, a chymeriad;
Gallu odiaeth, rhwysg llydan,
A chlôd dros y byd achlân;
Y Duw'r hwn y meiddiaist di
Y nos hon ei lysenwi,
A halogi LLESTRI llâd
Ei ddilys Dŷ Addoliad;


"Ow! ac yfed, â halawg wefus,—win
O honynt yn wawdus;
A'i herio ef yn ddi rus,
Drwy'i annog yn druenus;


"Rhoddi hoewfri i dduwiau hyfreg,
O arian, ac aur, pren, neu garreg;
A gwawdio gallu gwiwdeg—Duw Seion,
A'i enw tirion, â phob gwatwareg.


'MENE.'
"Yr IEHOVAH hwnnw a rifodd
'Dy gu deyrnas di, ac a'i darniodd.

'TECEL'.
Yn y cloriannau dwys fe'th bwysodd
Yn noeth-gyfion, a phrin y'th gafodd.

'PERES.'
"'A'th frenhiniaeth fraen a wahanodd,
'I'w weis y Mediaid fe'i symudodd.'

"Dowch a'r llon anrhegion rhad,
I wobrwyo'r Hebread.
Amser a eglura'n glau
Ai gwir ydyw y geiriau."


Swn y dinistrydd.

Twrf alaeth, hynt rhyfelwyr—a ddeillia
Oddiallan i'r fagwyr.
Trwst arfau, a gwaeddau gwŷr
A dewr wawch yr ymdrechwyr.

Dynesu mae'r llu i'r llys,—hwy luniant
Ryw gelanedd ddyrus:—
Ciliaf draw, mewn braw a brŷs,
Rhag achreth y rhwyg echrys.


ENGLYNION I AFON GONWY,

A adroddodd y Bardd yn ddifyfyr wrth weled y llifeiriant yn
torri dros, ac yn dryllio y cobiau newyddion.

ER tirion fawrion furiau—i'n golwg,
A gwelydd a chloddiau,
Fe ylch hen Gonwy'n fylchau,
Eu holl weithydd celfydd cau.

Hir red er ymerawdwyr,—i'w therfyn,
A thyrfa o filwyr,
Rhoi arni wall nis gall gwŷr,
Ysai glawdd oes o gloddwyr.


MARWOLAETH ISMAEL DAFYDD, TREFRIW,

Mab Dafydd Sion Dafydd, yr enwog henafiaethydd a chasglydd
y Blodeugerdd, a thad "Pyll," sef Mr. John Jones, Llanrwst.

NI welaf Ismael Dafydd—yn rhodio
Ar hyd un o'n bronydd,
I b'le ydd aeth, abl ei ddydd?
Mae hiraeth im o'i herwydd.

Dyfyn ga'dd Ismael Dafydd,—o brysur
I bresen ei Farnydd;
A'i gorffyn tirion llonydd,
Mewn carchar is âr y sydd.



BOREU RHEWLLYD

RHEW-WYNT, asgellwynt, nis gallaf—aros,
Iâs erwin arswydaf;
Rhag gofid oerawg gaeaf,
Pwy'n ddilai na hoffai haf?


HYNT Y MEDDWYN.
RHAN I.

Bore'r Briodas.
Alaw.—"GEIRIONYDD."

YN bore hyfryd, teg o Fai, hir gofir am y tro,
Yr unwyd John a Jane ynghyd, dau flodyn hardda'r fro;
Pawb oedd yn fyw y bore hwn trwy'r pentref ymhob man,
I weled dau mor fawr eu parch yn hwylio tua'r Llan.

John Jones o'r Plas y gelwid ef, lle bu am dymor maith
Yn brif weinidog ffyddlon iawn, dieilydd yn ei waith;
Ei wyneb a arliwid gan wych bwyntil Dirwest hardd,
Mor iach ei wedd a theg ei lun ag Adda yn yr ardd.

Jane Jones o'r Plas fu hithau'n hir, yn fawr ei chlod a'i bri;
Tylawd, cyfoethog, mawr a bach, pob gradd a'i parchent hi;
'Doedd neb yn well ei swydd na Jane, na neb yn fwy ei dawn,
Fel arolyges ar y Plas, yn gall a gonest ia wn.

Erioed ni roddwyd dan yr iau ddau gymar mor gytun,
I dynnu'u cwys mor deg i'r pen, yn hardd a llefn ei llun;

Pawb oedd yn d'rogan gyrfa hir, mewn llwydd a gwynfyd llawn,
I John a Jane i fyw ynghyd o foreu hyd brydnawn.

Fel Isaac a Rebecca gynt y teg argoelai'u byd,
Mewn perffaith gysur pur diloes drwy oriau'u hoes o hyd;
Dan nodded ac ewyllys da Preswylydd mawr y berth,
Yr hwn a wlawiai ar y ddau bob breintiau gore'u gwerth.


RHAN II.
Y Dychweliad.

Mae cloch y Llan yn canu gan ddatgan dros y byd.
Bod Hymen wedi clymu y ddeuddyn glan ynghyd;
Mor hardd a gwych yw'r fintai o'r eglwys draw sy'n dod,
Yn drefnus heb un ffoledd mewn gwisg na dull yn bod.

A'r arlwy briodasol a roddir yn y Plas,
Yn llawn o bob danteithion a seigiau goreu'u blas,
Er dangos cym'radwyaeth o uno dau ynghyd,
Fel gwas a morwyn ffyddlon, fu'n gweini yno c'yd.

Mor lân a chlyd yw'r bwthyn lle trefnwyd iddynt fyw,
Yn llawn o bob cysuron a dodrefn gore'u rhyw
A'r cyfan yn disgleirio, fel drychau heirdd o'r bron,
Ffrwyth llafur a diwydrwydd cydunol Jane a John.


Mor falch yw Jane yn dangos y rhoddion gwerthfawr drud,
Tra yn y Plas yn aros, a gai o bryd i bryd,
Fel arwydd o foddlonrwydd y perchenogion rhwydd,
O'i symledd a'i ffyddlondeb yn gwasnaethu'i swydd.

A John, mor falch a hithau, yn dweyd mor dda a fu
Ei feistr wrtho yntau yn rhoddi iddo'r ty,
A chae neu ddau i'w ganlyn i odro buwch neu ddwy,
A dernyn o dir llafur, a gardd, a llawer mwy.

I fyny gyda'r hedydd bob dydd y ceffid John
A'r gog ar frig y gangen mor heini ac mor lon;
Yn hwylio'r gweinidogion yn gyson at eu gwaith,
Rhag colli drwy seguryd na hir gysgadrwydd chwaith.

Pob awr a allai hepgor a dreulid ganddo'n llwyr,
I wneud y gwaith cartrefol, ai bore, nawn, neu hwyr;
Heb un tueddiad gwibio i geisio gwrthrych gwell
Na, chwmni Jane a'i gwenau, o fewn ei gynnes gell.

A Jane o'i hochr hithau fel hyswi gynnil gall,
A lanwai'i lle yn hollol yn ddiwyd a di ball,
Glân aelwyd, a glân bobpeth, yn drefnus yn ei le,
A dengar wenau cariad oedd i'w groesawu e'.

Ond i goroni'r cyfan, ac i berffeithio'u byd,
Eu cariad a wobrwyid â dau o blant, â'u pryd

Fel rhosyn ar yr eira, yn wyn a gwridog iawn,
Anwyliaid eu rhieni o foreu hyd brydnawn.

P'le gwelwyd dau mor ddedwydd erioed yn dechreu byw?
Rhagluniaeth arnynt wenai heb gwmwl o un rhyw;
Eu coelbren oedd heb gamni, a'u cyfran oedd heb groes,
Heb ysgell na mieri i roddi iddynt loes.


RHAN III.
John yn cael ei berswadio i ymuno a'r Clwb, &c.
Alaw—"Difyrrwch."

Yn arwydd y Gorou, ynghanol y llan,
'Roedd Clwb yn cyfarfod bob mis yn y fan;
Cymdeithas liosog ac enwog oedd hon,
A phawb iddi'n perthyn trwy'r ardal o'r bron.
A mawr oedd y budd a ddisgwylid a gaid,
O'r gyfryw gymdeithas mewn amser o raid,
Yng ngwyneb afiechyd a llesgedd a loes,
I gadw rhag angen ei thebyg nid oes.

Yn 'stafell y Goron, yn gyson i gyd,
I drin eu materion cynhullent ynghyd,
Mor unol a serchog a brodyr o'r bron,
A'r noswaith a dreulid yn ddifyr a llon;
Pres peint, gan bob aelod, a ai ar y pryd,
Am wasanaeth y lle y cynhullent ynghyd,
Ai yfed ai ymatal, ai yn iach ai yn sal,
Ai yno ai peidio, yr un fyddai'r tâl.

'Roedd rhai yn Ddirwestwyr, rheolaidd eu moes
Yn troi tuag adref yn gynnar, ddi groes,

A'r lleill dan ddylanwad y bibell a'r bir-
Sef rhan y Dirwestwyr yn aros yn hir.
Ond un o'r aelodau nid ydoedd ein John
Er ei annog gan bawb o'r cym'dogion o'r bron,
Drwy ddangos y fantais a fyddai o fod
Yn un à Chymdeithas mor uchel ei chlod.

"Mae'ch teulu'n cynyddu a'ch pwysau yn fwy
D'oes neb yn ddiogel rhag clefyd neu glwy,'
Pwy wyr pa ddamweiniau ddaw i'n ar ein taith
I'n hanalluogi i ddilyn ein gwaith?
I'ch priod a'ch plant bydd yn gysur diffael
Beth bynnag a ddigwydd, fod cymorth i'w gael,
Cyd-roddion cyfeillion un galon heb gêl,
I helpu eu brodyr, beth bynnag a ddel."

Ar hyn ymgyngori â'i Jane a wnai John,
Gan wrthod gweithredu heb gyngor doeth hon,
"A ddeuai rhyw les neu fuddioldeb i ni
O'r gyfryw Gymdeithas, drwy ymuno â hi?"
Ac wedi ystyried y mater yn iawn,
Yn ol ac ymlaen, hyd yr eithaf o'u dawn,
Barnasant yngwyneb damweiniau fai'n nghudd
Y gallai ymuno ddwyn llawer o fudd.

A phan ddaeth y noswaith i dderbyn ein John
Yn 'stafell y Goron, pob wyneb oedd lon,
Wrth feddwl cael aelod mor barchus i fod
I'w henwog Gymdeithas yn addurn a chlod;
A thorf o Ddirwestwyr a ddaethant ynghyd
I roddi derbyniad i'w brawd ar y pryd,
Yn llawen wrth feddwl cael colofn mor gref
I gynnal yr achos Dirwestol ag ef.


RHAN IV.
Gwyl Flynyddol y Gymdeithas.
Alaw—"Symudiad y Wawr."

Ar fore'r wledd flynyddol mor fywus ydyw'r Llan,
Pawb yn eu dillad gwylion a welir ymhob man,
A gwyl i blant yr ysgol a roir y dwthwn hwn,
A'u hadlais sydd drwy'r pentref heb deimlo baich na phwn.
O 'stafell wych y Goron—lle gwariwyd llawer punt―
Mae gwychion frith fanerau yn chwywio yn y gwynt;
Ac oddifewn addurnir â phob rhyw ddyfais hardd
Cadwynau a choronau o flodau gorau'r ardd.

Ust! dyna'r drym yn curo, mae'r band yn dod i'r dref,
A llu o'r egin ieuaine sydd yn ei ddilyn ef,
A phawb sy'n codi allan, mor heini bron a'r hydd,
A'r holl galonau'n chwareu fel dail ar gangau'r gwydd.
Yn awr y mae'r aelodau yn dechreu dod ynghyd,
I'w gwel'd oddeutu'r Goron mor lon eu gwedd i gyd,
Pawb yn eu diwyg oreu, yn lân a threfnus iawn,
A'r cwbl yn arddangos hyswiaeth fawr ei dawn.

A bron pob un a wisgir a rhyw flodeuyn tlws
A dorrai'i briod iddo o'r ardd o flaen y drws,
Fel byddai'n mhlith ei frodyr mor 'smart' gwych a hwy
Mewn diwyg a phob dygiad, a goreu fyth os mwy.

Ond pwy ymhlith y fintai oedd debyg i ein John?
Mor bwyntus a golygus, a'i wyneb lliwgar llon;
Pawb oedd yn llawenychu o'i weled yn y fan,
I addurno eu gorymdaith o'r Goron draw i'r Llan.

Yn awr ânt tua'r eglwys yn gyfres hirfaith hardd,
Gan sain y côr yn chwareu holl anian drwyddi chwardd;
Mor seirian yw'r banerau, yn chwywio'n ol a blaen!
Mor wychion a disgleirwiw, na welir arnynt staen.
'Rol gorffen y gwasanaeth, a phregeth gymwys iawn,
I'r Goron deuant eilwaith, i wledd ac arlwy lawn,
A'r gadair a gymerir gan Scwier mwyn y Plas,
Lle'n hir bu Jane yn forwyn, le'n awr mae John yn was.


Alaw —"Bryniau'r Werddon."

Mae'r bwrdd fel pe yn griddfan dan y dysgleidiau dwys,
O bob rhyw luniaeth blasus, a roddir arno'n bwys,
A phawb mewn chwant awyddus, sy'n disgwyl am y wys,
I gael diwallu'u hangen â seigiau'n ol eu blys.

O'r diwedd wele'r alwad, "Mae'r ciniaw ar y bwrdd;"
I drin y ffyrch a'r cyllyll yr hyrddiant oll i ffwrdd
A pawb am wneyd cyfiawnder â'r arlwy fawr ei maint,
Rhag ofn am flwyddyn eto na chaent gyffelyb fraint.


Yr annedd fawr a lenwir, er maint ei lled a'i hyd,
A'r Scwier yn y gadair yn gym wynasau i gyd,
Yn torri bwyd a helpio y gwestwyr mawr eu chwant,
Mor addfwyn a charedig a phe baent iddo'n blant.

Ond o iawn ddefod weddus mae Rector mwyn y llan
Yn galw ar y dyrfa i godi yn y fan
I erfyn rhad a bendith cyfrannwr pob rhyw ddawn
A'r Hwn i rai anheilwng sy'n rhoddi'n helaeth iawn.

Mae'r cylla wedi ei awchu â hir ddisgwyliad maith,
A phawb yn awr sy'n ymchwel o ddifrif at y gwaith
O ysgafnhau'r dysgleidiau, ar ol cael temtio'u bryd,
A sawyr peraroglus eu hangerdd dengar c'yd.

Mae rhai â "Sion yr heidden" yn dal cyfeillach rydd.
A'r lleill â diod Adda yn torri syched sydd,
A'n John, yn ol ei ddefod. yn dal at ddiod ddwr,
Hyd yma dros Ddirwestiaeth nid oedd rhagorach gwr.

Mae swn y ffyrch a'r cyllill ar fyr yn dod yn fud,
Ac arwydd digonoldeb yngwedd y gwyr i gyd,
Ac eilwaith y cyfodant i ddiolch yn ddi wad,
I Dduw am eu diwallu â'i drugareddau rhad.


AR LAN IORDDONEN DDOFN.

Enaid cu, mae dyfroedd oerion
Yr Iorddonen ddofn gerllaw."


RHAN V,
John yn cael ei berswadio i yfed iechyd da ei
feistr, ac felly yn torri ei Ddirwestiaeth.

Alaw—Mentra Gwen."

O'r diwedd wele'r dysglau,
Wedi mynd, wedi mynd,
I gyd oddiar y byrddau
Wedi mynd;
A'r gwestwyr ymhob cyfran,
O'r annedd ydynt weithian,
I serchus gydymddiddan,
Wedi mynd, wedi mynd,
A phob gofalon allan
Wedi mynd;

Cyn hir y mae'r Yscweier
Ar ei draed, &c.,
Gan godi'n ol ei arfer,
Ar ei draed,
I roi mewn destlus eiriau
A moesgar ymddygiadau
Y dewis lwnc-destynau,
Ar ei draed, &c.,
A mawr yw'r curo tra mae
Ar ei draed.

Ond wele'r is-gadeirydd,
Teilwng iawn, &c.,
Yn dod yn frwd areithydd,
Teilwng iawn,
Gan alw gyda ffraethder,
Ar bawb i lenwi'i 'bumper'
I'r testyn ar eu cyfer,
Teilwng iawn, &c.,

Sef iechyd da'r Yscwier,
Teilwng iawn.

A John yn anad undyn,
Meddai ef, &c,
A ddylai barchu'r testun,
Meddai ef;
Drwy yfed heb gymhendod,
ddangos ei gydnabod,
Yr awrhon yn ei wyddfod,
Meddai ef, &c,
Ni fyddai hynny'n bechod,
Meddai ef.

"Pa ddrwg a all wneud i chwi,
Lymaid bach, &c.,
Pa niwed sydd o brofi,
Llymaid bach?
Mae cystal gwŷr a chwithau
A chymaint eu rhinweddau,
Yn arfer cym'ryd weithiau
LLymaid bach, &c.,
Heb deimlo drwg effeithiau
Llymaid bach."

Am unwaith yn y flwyddyn,
Mentrwch John, &c.,
I yfed un diferyn,
Mentrwch John;
Mae hyn yn esgusodol
Ar achos mor benodol,
Nac ewch mor afresymol,
Mentrwch John," &c.,
A phawb yn gwaeddi'n unol,
Mentrwch John, &c.


"Danghosech barch o'r mwyaf,
Mentrwch John, &c.,
Drwy brofi'r llymaid cyntaf,'
Mentrwch John,
I yfed at eich Meister,
I chwi fu'n un o lawer,
Cewch weld nad â mewn amser,
Mentrwch John, &c.,
Y llymaid cynta'n ofer,
Mentrwch John.

"I bwy'r y'ch mor ddyledus,
Cofiwch John,
Am fywyd mor gysurus
Cofiwch John:
A'r holl flynyddau helaeth
Y bu'ch yn ei wasanaeth,
Mae'n fwy eich rhwymedigaeth,
Cofiwch John, &c.,
Na neb drwy'r holl gymdogaeth,
Cofiwch John.

"Ni raid iwch' ofni 'dropyn,'
Mentrwch John, &c.,
Na dod drwy hynny'n feddwyn,
Mentrwch John;
Mae'r gwr o'r Plas yn arfer
Ei wîn mewn cymedrolder;
Rhag edliw i'r Yscwier,
Mentrwch John, &c.,
Fod Sion yn well na'i feister,'
Mentrwch John.

"Ein 'tair gwaith tair,' hyd ne'
Rhoddwn oll, &c,,

A hip-hip-hip-hwre;
Rhoddwn oll;
Pob llwyddiant a ddilyno
Ein Scwier mwyn tra byddo,
Hir oes ac iechyd iddo,
Rhoddwn oll, &c.,
A'n heirchion taeraf trosto,
Rhoddwn oll."


RHAN VI.
Arwyrain y Scwier a gyfansoddwyd ar yr achlysur, y mae Johni yn uno
yn y Chorus, yn ymollwng i yfed, ac yn myned adref yn feddw.

Alaw— "Glan Meddwdod Mwyn."

Cydroddwn yn gyson o galon i gyd,
Ein parch a'n gwasanaeth yn helaeth o hyd,
I'n teilwng Yscwier mewn pleser o'r Plas,
Heb dafod yn pallu i draethu ei drâs;

Cydyfwn ei iechyd i gyd yn ddigwyn,
Mewn gwydriad cysurlon heb son am ei swyn
I'n denu cyn darfod i lân meddw-dod mwyn.

Mae'n haeddu ei barchu a'i garu'n ddigoll
Gan bawb fel ein Llywydd a'n Noddydd ni oll:
Mor dirion, a ffyddlon, a chyson, wych hwyl,
Y gwna'n hanrhydeddu â'i gwmni bob gwyl.

Cydyfwn ei iechyd, &c.

Ymhob ymrafaelion, a chwynion, a châs,
Pwy dyr yr ymryson ond Scwier y Plas?
Ac at bwy y rhedwn, ni fyddwn ni hwy,
Pan ddelo rhyw daro yn achos y plwy'?

Cydyfwn ei iechyd, &c.


Pa faint o'n llafurwyr, er cysur sy'n cael
O dano'u bywiolaeth, yn helaeth a hael?
Gan dderbyn eu dogn, ai'n iach ai yn glaf,
Ai gwlaw ynte hindda, ai gaeaf ai haf.

Cydyfwn ei iechyd, &c.

Pwy wrendy mor dirion ar gwynion y gwan,
Gan ddarpar mor ebrwydd a rhwydd ar eu rhan?
Mae'n dadi'r ymddifaid, i'r gweddwon yn frawd,
A phleidiwr ac achles at les y tylawd.

Cydyfwn ei iechyd, &c.

I'w wraig ac i'w deulu mae'n gweddu i ni i gyd
Ddymuno eu llwyddiant, tra b'ont yn y byd;
A Duw ar yr eiddo a roddo ei rad,
Heb dramgwydd nac aflwydd ond llwydd a gwellhad.

Cydyfwn ei iechyd, &c.


RHAN VII.
John yn cael ei appwyntio yn un o stewardiaid y Clwb,
yr hyn a wnai yn ofynnol iddo fod yn bresennol bob mis.
Y mae yn dyfod o dan ddylanwad y chwant i ddiod gadarn.

Can yr aelodau ar noswaith eu cyfarfod.
Alaw—"Ar hyd y nos."

Mwyn yn 'stafell wych y Goron,
Ar hyd y nos,
Yw cynhulliad cyd-frodorion,
Ar hyd y nos,

Pawb a'i bot a'i bibell ganddo,
Mor ddifyrus yn ymgomio
Heb fod unpeth yn eu blino
Ar hyd y nos.

Cwmni llon yw bedd trallodion.
Ar hyd y nos;
Gwydraid bach yw tad cysuron,
Ar hyd y nos;
Sonied cybydd am ei arian,
A'r cribddeiliwr am ei fargan,
Gwell na'r oll yw cwmni diddan,
Ar hyd y nos.

Wedi bod yn gweithio'n galed
Ar hyd y dydd;
Ac mewn dygn boen a lludded
Ar hyd y dydd;
Yn ystafell glyd y Goron
Llwyr anghofio wnawn yn union
Ein holl ludded a'n trafferthion
Ar hyd y dydd.

Pwy fel gwr y ty a'i gymar?
Ar hyd y nos;
Mor garedig a chroesawgar?
Ar hyd y nos;
Pwy mor ddiddan eu 'mddiddanion
Mor ddigrifol eu chwedleuon
I ddifyrru'r presenolion?
Ar hyd y nos.

Pwy all weled bai ar undyn,
Ar hyd y nos;
Am fwynhau ei bot a'i getyn?
Ar hyd y nos;

Tra y cadwo yn gymhedrol,
Heb eu harfer yn ormodol,
Ond rhodio hyd y llwybr canol,
Ar hyd y nos.

Y mae Dirwest oll yn burion
Ar hyd y nos,
I ddiwygio pobl feddwon,
Ar hyd y nos,
Ond pa raid i wyr moesgarol
Beidio a chadw at y rheol
"O arfer rhoddion Duw'n gymhedrol!"
Ar hyd y nos.


RHAN VIII.
Troad y rhod. John, drwy hir a mynych arferiad yn dyfod yn gwbl
o dan lywodraeth y chwant, ac yn aberthu popeth i'w borthi.

Alaw— "Ynysoedd Gwyrddion Neifion."

Mae llawer boreuddydd yn gwawrio'n hyfrydol,
Heb gwmwl na niwlen yn huddo y nen;
A'r haul yn cyfodi yn ddisglair a siriol,
A'i wên ar ei enau yn loew a dilen,
Mae'r teithiwr yn cychwyn yn eofn i'w yrfa,
A'r gweithiwr i'w orchwyl a'i hyder yn llwyr
Ei fod i gael diwrnod cysurus a hindda,
O wawriad ei fore hyd fachlud ei hwyr.

Ond O! mor siomedig yn fynych yw'n gobaith,
A'n dwysaf ddisgwyliad am bethau a ddaw!
Tra eto mae'r haul heb gyrhaeddyd ei nawnwaith,
Arwyddion bygythiol a welir o draw:

Mae'r awel, oedd gynnau mor ddistaw a thyner,
Heb ddeilen drwy'r goedwig i'w gweld yn osgoi
Yn dechreu cynhyrfu--a'r nen, oedd mor ddisglair,
A duon gymylau yn awr yn ei thoi.

Mor lawn o obeithion oedd tymorboreuol
Y ddeuddyn cariadus a gweddus eu moes!
Pob peth a arwyddai hin deg a hyfrydol,
Ac awyr ddigwmwl drwy ystod eu hoes.
Ond Ow! mor wahanol yn awr yw'r olygfa!
Mor ddu a chynhyrfus a gwgus ei gwedd!
Mae'r awyr yn llawn o fygythiol arwyddion,
A dybryd argoelion dryghinoedd di hedd.

Mor ofer a siomgar yw dyn ar y goreu!
Yngwyneb temtasiwn mor wan yw ei nerth!
Mor beryglus yw llithro tra'n cellwair a chwareu
Ar ymyl y dibyn, a'i rediad mor serth.
Hyd embyd lith rigfa hen arwydd y Goron
Pa lu o enwogion a hyrddiwyd i lawr,
Oedd ddoe mor hyderus yn nerth eu hymroad.
I wrthladd temtasiwn-ond ple maent yn awr?

Wrth chwareu â'r tân mor beryglus yw llosgi,
Mor enbyd yw'r pla yn ystafell yr haint!
Wrth chwareu a'r dŵr mor beryglus yw boddi
A sud do i ddyfnder na wyddis ei faint?
Mor embyd ymhela â cholyn y wiber,
A chwareu'n gellweirus â chrafanc y llew,
Mor hawdd wrth ofera â'r ellyn yw clwyfo,
A chwympo tra'n dawnsio ar blymen o rew!

Ychydig feddyliodd ein John ar y Gylchwyl,
Wrth gym'ryd y cyntaf ddiferyn i'w fin,
Ei fod yn croesawu y brenin i'w breswyl,
A wnai ei fradychu i ddiwedd mor flin.

Ychydig feddyliodd y troe mor fradwrus
Ac agor y pyrth i elynion mor ewn,
Y rhai oeddynt beunydd fel gwaedgwn yn gwylio
Am adeg a chyfle i ruthro i mewn.


RHAN IX.

Galarnad Jane tra yn gorfod aros ar ei thraed i ddisgwyl John o'r dafarn.

Alaw—Toriad y Dydd."

Y rhewynt oedd yn chwyrnu o amgylch annedd John,
Gan hirllais chwiban yn ddibaid drwy freg rigolau hon;
Ymddifaid oedd yr aelwyd o'r tewyn lleia' o dân,
A'r ganwyll frwynen olaf oll oedd wedi llosgi'n lan,
Pan glywid Jane yn cwynfan yn druan iawn ei drych,
A'r dagrau'n treiglo dros ei grudd, lle gwnaethant lawer rhych,
A'i chalon yn ei mynwes mor oer a'r llwydrew llwm,
Gan lethu'i hysbryd cu i lawr fel dirfawr we o blwm.

"Mor galed yw fy nhynged, a'm mhlaned, O mor flin,
Pa fodd y'm ganwyd byth i weld y fath gyfnewid hin!
Fy nyth, oedd ddoe mor esmwyth, sydd heddyw'n llawn o ddrain,
A llym a gwaedlyd, nos a dydd, yw archolliadau'r rhain.

Pa fodd y trodd fy nghwpan, oedd ddoe o fêl yn llawn,
Yn chwerw drwyth o wermod pur a gwaddod egraidd iawn?
'D'oes bellach im hyd angeu ond hon yn rhan ddirith;
Yn gymysg â fy nagrau heillt i'w gwneud yn chwerwach fyth.

"Ow! Ow! fy John anwylaf, oedd ddoe yn oreu gwr,
A thad serchocaf at ei blant fu 'rioed ar dir na dŵr.
Ym mynwes glyd ei deulu ei fwyniant penna' a gaid,
Myfi a'm nodwydd, yntau a'i lyfr, a'r plant o'n cylch yn haid;
Acaelwyd lan a chynnes, a dodrefn gwychion iawn,
A maith gyflawnder o bob stor, pob cist a chell yn llawn;
Ond Ow! ni cheir yr awrhon, er disgwyl hyd y wawr,
Na bwyd na thewyn bach o dân, na chloc i daro'r awr.

"O pa mor amyneddgar a fu ein meistr mwyn,
Yn pasio heibio i feiau John, a gwrando ar fy nghwyn!
Cynghorion ar gynghorion a roddodd iddo e',
A dwys rybuddion, fwy na rhi, cyn iddo golli'i le,
Ond nid oedd dim yn tycio, rhaid cael yr alcohol,
Serch colli'r tir, yr ardd, a'r 1y, a'r dodrefn ar eu hol.
Ond pwy fuasai'n coelio gan glyted oedd fy nyth,
Y daethai imi gael fy rhan rhwng muriau moelion byth!


"'Roedd swn ei droed yn fiwsig wrth nesu at y ty,
A'r plant oedd am y cynta'u cam i'w gyfarch oll mor gu;
Os ai i'r ffair neu'r farchnad, mor brydlon y doi'n ol,
Gan garu cwmni'i wraig a'i blant uwch haid yr alcohol;
A'i holl bocedau'n llawnion o roddion dengar, pan
Y ceid hwy'n haid oddeutu'i lin yn disgwyl am eu rhan:
Da 'rwyf yn cofio'i wenau ynghanol cylch ei serch,
Ystyried wnawn fy hun o bawb y wir ddedwyddaf ferch.

"Ond Och! mae clywed rhygniad a sŵn ei drwsgl droed,
Yn awr yn taro dychryn dwys drwy galon pob rhyw oed;
Mae'r plant yn lle'i groesawu yn ffoi ar frys o'i wydd,
A'r druan a'u hymddygodd oll yn crynnu wrth ei swydd.
Er imi wneud fy ngoreu i'w foddio yn ddifeth,
Ni waeth im beth a wnelwyf mwy, mae'n beio ar bob peth:
Mae'i dymer wedi chwerwi, oedd ddoe mor fwyn a'r oen,
A chofio'r fath wahaniaeth sydd yn tra mwyhau fy mhoen.

"Maem hanwyl blant yn llymion a gwaelion iawn eu gwedd,
Ac un drwy nychdod wedi mynd i anamserol fedd.

Ond Oh! mae hi yn ddedwydd heb brofi cur na cham,
Na thorri'i chalon bach bob dydd wrth deimlo dros ei mam.
A gwyn fyd na f'awn innau yn huno gyda hi,
Lle cleddid fy nhrallodion maith, a chroesau mwy na rhi',
Yn lle dirdynu f'einioes, o radd i radd, i ben,
Rhwng dygn rygniad tlodi a gwarth a llawer sarrug sen.

Wel, wel! bydd hynny'n fuan, ni fyddaf yma fawr;
Hir wylio ac ymprydio ddaw a'r ferch gadarna i lawr;
Rwy'n mynd yn wannach, wannach, 'rwy'n teimlo hyn bob dydd;
Ac am y cwsg wy'n golli'n awr caf ddigon yn y pridd.
Yr Arglwydd a faddeuo im' bob rhyw goll a bai,
A fyddo'n Dad a gwell na mam i'm holl ymddifaid rai;
Ac os bum weithiau'n fyrbwyll, ac wrth fy ngwr yn ffraeth,
Maddeued ef, maddeued Duw; rwy'n maddeu'r oll a wnaeth."


RHAN X.
Cwyn yr Ymddifaid.
Alaw—"Ffarwel y Brenin."

Gymry mwynion, clywch ochenaid
A galarnad plant ymddifaid,
Wedi colli'u mam mor gynnar,
Eu hunig swcwr ar y ddaear:

Oh, pa beth a ddaw o honom?
Pwy all beidio teimlo drosom?
Yma i gyd ar y byd, daflwyd i ymliwio,
Heb un llety i fyned iddo,
Heb un gwely i orwedd ynddo.

Os na fwriwch arnom ddirmyg,
Os y'm wael ein gwedd a'n diwyg;
Os yw'r wyneb wedi llwydo,
A'r wisg yn garpiog heb ei thrwsio;
Y mae'r llaw fu'n cuddio'n noethi
Ac mor ddiwyd yn ein porthi,
Yn y pridd heno'n nghudd, yn llygru dan orchudd,
Wedi anghofio yn dragywydd
Fedrus waith yr edau a'r nodwydd.

Pwy all adrodd faint o weithiau
Y gwelsom hi yn wylo'r dagrau?
Wrth ein canfod ni mor lymion,
Gyda'n cylla bach yn weigion!
Llawer gwaith yr aeth ef bunan
Ar lai nag a ddiwallai anian!
Er mwyn cael rhan fwy hael i'w rhai gwael gweinion,
Am na allai yn ei chalon
Eu gweled hwy ar lai na digon.

Llawer gwaith y bu yn cwyno
Wrth ein rhoddi i orffwyso,
Llawer gwaith y clyw'd hi'n ochain
Tra'n cusanu ei rhai bychain,—
"Y mae'r hin yn galed heno,
A'm plant heb wrthban i'w gorchuddio;
Garw yw gorfod byw i weld y rhyw gyni,

Pa fodd y canaf nosdawch ich wi
A'ch gadael yn y fath resyni?"

Mae ei llais fel doe yn swnio
Yn ein clustiau tra'n perswadio
Ein tad rhag myned i'r tafarndy,
Mor daer a dwys y byddai'n crefu!
Ond er hynny mynd wnai yntau,
A wylo'n hidl a wnai hithau,-
"Pa les im wneuthur dim egni o hyn allan
Tra mae ef yn gwario'i arian
Yn y dafarm wedi'r cyfan."

Ond mud yw'r tafod hwnnw heno,
A byddar yw y glust fu'n gwrando
Llawer sen a geiriau chwerwon,
A drwg araith dynion meddwon,
Darfu'r galar, darfu'r gwylio,
Darfu'r pryder a'r och'ncidio,
Niddaw mwy friw na chlwy' byth i'w gofidio;
Tawel yw ynghwsg yr amdo,
Hefo'n chwaer yn cyd-orffwyso.

Ffarwel iti, fam anwyla',
Os na chawn dy weled yma,
Ni gawn eto gyd-gyfarfod
Mewn byd gwell uwch poen a thrallod;
Lle cawn weld dy lwydion ruddiau
Wedi'u sychu oddiwrth eu dagrau,
A dy fron heb un don ddigllon i'w chwyddo,
Lle mae'r lluddedig yn gorffwyso,
A'r anwir wedi peidio a'u cyffro.


RHAN XI.

John yn ei feddwdod yn ymosod ar un o'i gydddiotwyr, ac yn y ffrwgwd
yn rhoddi iddo ddyrnod marwol, am yr hyn y profir ac y bernir ef yn
euog o lofruddiaeth anfwriadol. Dyfernir ef i alltudiaeth dros ei oes.

Ow! ai tybed mai gwirionedd
Ydyw hyn i gyd, a sylwedd!
Onid gwaith rhyw weledigaeth
Sydd yn llenwi 'mryd â ffugiaeth!
Onid breuddwyd gwag yw'r cyfan,
Diddym ddelwau, gwag wrthrychau a orthrechan'
Rym fy rheswm, ac a lanwant
Fy meddyliau â rhyw luniau a ddiflannant!

Ond O! na fuasai yr holl adail
Yn ddim mwy na breuddwyd disail!
Ow! na buaswn yn fy ngwely
Fel arferol, gyd a'm teulu,
Ac yn deffro i weld pob cyfran
Yn mynd heibio-ond i'w gofio-oll yn gyfan
A minnau'n datgan diolch cyhoedd,
Pan y teimlwn ac y d'wedwn-Breuddwyd ydoedd.

Ond nid breuddwyd gwag, ysywaeth!
Yw fy mod i mewn alltudiaeth;
Wedi'm gyrru i ddwyn fy mhennyd
Am fy meiau dros fy mywyd;

A'm dwylaw wedi eu llychwino
A gwaed rhuddawg fy nghymydawg, cyn fy mudo
Hwnt o wlad fy ngenedigaeth,
I fod yma, i'm hawr ola', mewn mawr alaeth.

Fy nghydwladwyr, cym'rwch rybudd
Oddiwrth eich alitud frawd annedwydd;
Na ddilynoch yn ei lwybrau,
Rhag eich dod i'w ddiwedd yntau.
O gochelwch y cam cynta'
Tua'r dibyn yr wy'n erfyn-yn yr yrfa,
A'r diferyn cyntaf' hefyd
Gwnewch, er popeth, rhag eich alaeth, ei ochelyd.

O pe bai i chwi ond gwybod
Am y filfed ran o'm trallod,
Er im fod y mwyaf anfad,
Mi gawn ran o'ch cydymdeimlad.
Y mae chwerw a chwith adgofion
I'm cythryblu, yn ddi-ballu, fel ellyllon,
Y rhai a chilwg o'r erchyllaf
Sy'n mhob dirgel dywyll gornel a'u gwg arnaf.

O na ddeuai rhyw golomen
Im a llythyr dan ei haden
I ddweyd pa le, pa fodd mae heno
Fy anwyl-blant yn ymdaro!
O na chawn un olwg arnynt
I'w cofleidio, a than wylo, dweyd fy helyn
Ac i erfyn arnynt faddeu
I dad diras gwaeth na Suddas ei droseddau.


Y mae meddwl am fy mhriod,
A yrrais i ry-gynnar feddrod,
Fel picellau tanllyd llymion
Yn trywanu trwy fy nwyfron;
Medrais dorri calon priod,
Y ffyddlonaf, a'r dirionnaf, o'r rhianod;
A'r cywely mwya' ymdrechgar

Yn ei galwad a fu'n ddiwad ar y ddaear.
O! mae meddwl am dy gariad
A'm hymddygiad tuag atad,
Yn gwneud einioes yn faich imi,
A bron a'm gyrru i wallgof.
Ac yn awr mae'r heilltion ddagrau—
Tra yn wylo—fai'n ireiddio dy lwyd ruddiau
Wedi troi yn danllyd ddafnau
I lwyr ysu ac enynnu 'nwyfron innau!

O! na fyddai'n bosibl galw
Doe yn ol, am unrhyw elw,
Y byd cyfan oll, pe'i meddwn,
Am ei alw yn ol a roddwn!
O fy anwyl Jane dirionaf!
Fel y'th garwn, it' mi fyddwn o'r ufuddaf,
Wrth dy ystlys byth arhoswn;
Diod gadarn yn y dafarn mwy nid yfwn.


[Gwelir fod John, yn ei alltudiaeth, fel yr afradlon yn
wlad bell, wedi dyfod ato ei hun, ac yn greadur newydd.]

RHAN XII.

Profiad John yn ei olaf gystudd.
Alaw—"Diniweidrwydd."

Yma'n mhellter eitha'r ddaear hi aeth arna'n hwyr brydnawn,
Teimlo rwyf fy nerth yn pallu a gwanychu'n gyflym iawn;
Gwely cystudd caeth, ond hynny, fydd fy rhan a'm cyfran i,
Heb gar na chyfaill imi'n agos i deimlo nac i wrando'n nghri.

Eto er mor bell o gartref ac o'm genedigol wlad,
Mi gaf Grist yn frawd a chyfaill, a fy Nuw yn dirion Dad;
Codi wnaf a myned ato ac ymbilio wrth ei draed,
Pwy a wyr na wna fy nerbyn, y pechadur mwyaf gaed!

Os yw gwaed fy mrawd yn gwaeddi am ddialedd oddibell,
Y mae gwerthfawr waed yr Iesu yn llefaru pethau gwell.
Rhad faddeuant, heb ddim edliw, ydyw grasol drefn ein Hior;
Ac os yw fy meiau'n drymion, dyfna' y suddant yn y mor.

Mae adlais hen bregethwyr Cymru yn fy nghlustiau'n seinio o hyd,
Tra y bloeddiant fod maddeuant i'r troseddwyr gwaetha i gyd,

Bod y meddwon, a'r llofruddion, a'r dyhiriaid gwaetha'u rhyw,
O fewn cyrraedd gras maddeuol, a thrugaredd rad eu Duw.

Tra y sonient am Manaseh a llofruddion Iesu mad,
Saul o Tarsus, yr erlidiwr, ddarfod maddeu i'r rhai'n yn rhad;
A bod eto yr un croeso i'r rhai dua gwaetha a gaed,
Nad oes derfyn ar rinweddau ac effeithiau'r Dwyfol waed.

Ar y Gwaed mi fentraf finnau, a dywalltwyd ar y bryn,
Yn y Ffynon hon ymolchaf, ac er dued, dof yn wyn;
I gadw'r penna o bechaduriaid y daeth Iesu Grist i'r byd;
Felly trwy fy achub innau fe achuba'r penna i gyd.

Y mae delw'm hanwyl briod yn ymddangos ger fy mron
Mewn disgleirwen wisg nefolaidd, ac yn gwenu ar ei John,
Gan amneidio yn serchiadol, "Dring i fyny, dal dy dir,
Pwysa ar rinweddau'r Meichiau, ti ddoiyma cyn bo hir."

O! mae meddwl am ei dilyn, a chael eto'i chwmni cu,
Yn rhyddhau holl rwymau natur, ac yn hwylio'm henaid fry.
Dowch, gerubiaid, rhowch im edyn, fel yr hedwyt gyda hi
I fyth-drigo a chyduno ymhêr anthem Calfari.


EMYN HEBER.[2]

O YNYS Ia fynyddig,
O draethau India fawr,
Lle cluda ffrydiau Affrig
Y tywod aur i lawr,
O lawer gwlad ddyfradwy,
O froydd y palmwydd ffaeth,
Erfyniant ein cynorthwy
Rhag grym coel grefydd gaeth.

Er chwythu'u bêr dros ynys
Ceylon awelon hael,
A phob golygfa'n foddus,
Yn unig dyn sy'n wael;
Yn ofer mewn tiriondeb,
Cael rhoddion Duw ar daeri,
Y Pagan trwy ddallineb
Addola bren a maen.

A allwn ni, oleuwyd
Drwy râd y nefoedd fry,
Nacâu rhoi lusern bywyd,
I'r sawl mewn t'wyllwch sy?
Cyhoedder Iachawdwriaeth
A gorfoleddus lef,
Nes dysgo'r byd wybodaeth
O enw Eneiniog nef.

Ewch wyntoedd, ewch â'r newydd,
A chwithau foroedd mawr,
Nes bo'i ogonawl gynnydd
Yn llenwi daear lawr;
A boed i'r Oen a laddwyd,
Ar ei waredol ryw
Deyrnasu fyth mewn gwynfyd,
Yn Brynwr ac yn Dduw.


Y BEDD.

"Well do I know thee by thy trusty yew,
Cheerless, unsocial plant! that loves to dwell
'Midst skulls and coffins, epitaphs and worms;
Where light-heel'd ghosts, and visionary shades,
Beneath the wan cold moon (as fame reports)
Embodied, thick, perform their mystic rounds.
No other merriment, dull tree! is thine.
——————'Tis here all meet
The shivering Icelander, and sun-burnt Moor;
Men of all climes, that never met before;
And of all creeds, the Jew, the Turk, the Christian.
Here garrulous old age winds up his tale;
And jovial youth, of lightsome vacant heart,
Whose every day was made of melody,
Hears not the voice of mirth. The shrill tongued shrew
Meek as the turtle-dove, forgets her chiding.
Here are the wise, the generous, and the brave;
The just, the good, the worthless, the profane,
The downright clown, and perfectly well-bred ;
The fool, the churl, the scoundrel, and the mean,
The supple statesman, and the patriot stern;
The wrecks of nations, and the spoils of time,
With all the lumber of six thousand years."


—BLAIR[3]


PRESWYLFEIB pau'r iselfedd,
Tan ro sy'n huno mewn hedd,
Cloedig y'ch mewn cleidir,
A gweis tynn yn y gist hir.
Dychwelodd drostoch eilwaith,
Hirnos wyll, a'i mentyll maith.
Ydych dan bob cawodydd,
Yn wŷr o daw, heb wawr dydd;
Mintai 'n glyd, is main tan glo,
Yma i lawr yn malurio,
Mor adill yma'r ydych,
Dyrfa'r nos, mewn dirfawr nych.

Chai yma un dychymyg,
Myfyr didaw, na mawl myg.
Darfu 'ch taith, a'ch gwaith i gyd,
'Nol gorwedd y' nghôl gweryd;
Yn y llwch, dan y llechi,
Darfu'ch braint, dyrfa, a'ch bri.
Darfu y chwant, ar bant bedd,
I ymorol a mawredd.
Ust yn eich distaw annedd,
Gaf heb drais, na chlais, na chledd;
Heb gyngrair, heb air o ben,
Na da fyfyrdod awen.
Ni thremia llais gorthrymwr,
Nac un braw i'ch distaw dŵr;
Ni oleua haul awyr
I'r nos hon, na lloer, na sŷr.
Pe cae'r ddaear gron argryd,
Erwin, gerth, nes crynu i gyd;
A siglo 'ch bro fwsoglyd,
Trwy i sail, fel gwan-ddail i gyd;
Ynnoch chwi ni 'nynnai chwant,
Rwymrai, i agor amrant.
Nid cynnwrf rhuad ceunant,
Dylif certh, na dolef cant;
Nid alarwm trwm, tramaith,
Rhuad didor y môr maith,
Twrw neu froch taranau fry,
Uwch y dyffryn, a'ch deffry.
Ydych mewn cell bell o'r byd,
O'i drwst, ei boen, a'i dristyd;
Mewn pabell y bell o'r byd
O'i chalon i ddychwelyd :
Daeth llawer mab i'w babell
A'i dŷ, o Botany be;

O chwilys 'Spaen dychwelodd,
Drwy ffael, rhai adre' a ffodd;
O ynys Juan unig,
Dros oror y dyfnfor dig,
Syndod daeth Alecsander,
Trwy iawn daith, i'w artre'n dêr.
O'r Bastil, er pob cerydd,
I fro Brydain, daeth rhai'n rhydd.
Daeth haid o fro'r Gwilliaid gau,
A'u gorchwerwon garcharau;
O'r llidiog ddyfnfor llydan,
Uthr arw le, daeth rhai i'r lan.
I'w cartref, yn ol hefyd,
Daeth llawer o bellder byd.
O bren, medd Job, mae gobaith
Er ei dorri gwedi'r gwaith,
Y da flagura ar g'oedd,
Dewfrig, wrth arogl dyfroedd.
Os aeth rhai o'u tai a'u tir,
A hwy eilwaith ni welir,
Cawn gynnes hanes eu hynt,
Neu ddiwarth air oddiwrthynt;
Daw llythyr difyr ei daith,
O'u helynt atom eilwaith.
Ow! ond gwr wedi gorwedd,
Ni chyfyd i'r byd o'r bedd;
Ni welir neb o waelod
Annedd y dwfnfedd yn dod;—
Nid a gŵr, wedi gorwedd,
I'w dŷ byth, o waelod bedd.
Pwy drwy drais-pa daer ryw dro,
A ddienga wdd o bridd ango?
Pa gadarn, pwy a gododd ?
Pwy o'r ffau, pa wr a ffodd?

Er gwaedd, a dagrau gweddwon,
A gawr brudd, hyd ysgar bron;
Er galar anghydmarawl,
Briw, a chŵyn, i'w dwyn heb dawl;
Er wylo, 'n hidl, afonydd
O ddagrau, yn rhydau rhydd;
Er hiraeth, aml aeth, a loes,
Cwynaw, hyd at dranc einioes;
Er tywallt dagrau tawel,
Nes gwneuthur, trwy gur, heb gel,
Y llygaid cannaid fel cyrn,
A gwisgo cnawd ac esgyrn:
Ie, er rhoddi arian,
Neu ri' y gwlith o aur glân;
I'w le, a'i fan drigiannol,
Ni ddaw neb o'r bedd yn ol.
Y dyn pan el ar elawr,
A'i droi i lwch daear lawr,
Iach unwaith, iach ganwaith, gwir,
Hwnnw byth ni welir.
Ni yrr yn ol, air i neb,
Ow! eto ni rydd ateb.
Canu 'n iach (bellach), am byth,
I'w deulu, wnai 'r gŵr dilyth;
Gwag mwy fydd, bob dydd, ei dŷ,
Ei aelwyd ef a'i wely.
Mae 'n pydru, darfu y daith,
O'r amdo ni cheir ymdaith.
Och le mwyach ni chlywir,
Air, un, o hwn, byrr na hir.
A'r unwaith hed yr einioes,
Adwedd o'r dwfnfedd nid oes.
Ail ei dosparth i darth dwl,
Ac ymaith a fel cwmwl.

Diau, pan ddel angau loes,
Ni ddaw i un ddwy einioes.
Dyg dylaith bob iaith o'r byd,
Trwy ei gorwynt, i'r gweryd;
Yn war, i ddaear ydd aeth
Adlais pob rhyw genhedlaeth.

Cainfeib, sef cawri'r cynfyd,
Mewn bedd, sy 'n gorwedd i gyd.
Y Patriarchiaid gaid gynt,
Huno mae pawb o honynt.
Claddwyd yr holl broffwydi,
Gloew, gain weis, o'n golwg ni.
Gweryd a ddyg bob gwron,
Dan ser, fu am dano son.
Newton, olrheiniwr natur,
Er ei ffraeth wybodaeth bur,—
Handel, y cerddor hoendeg,
Pen llen y cantorion teg,
A guddiwyd, dan hug addoer,
Er eu dysg, mewn gweryd oer.

Yma'r dynion creulonaf,
Yn peidio a'u cyffro caf.
Mae Nero yma 'n waraidd,
Symud o'r llys mud nis maidd;
Chwe' troedfedd o fedd a fu
Yn addas i'w lonyddu,―
Dirywiwyd ei oreuwawr,
Yn un â llwch yn y llawr.
A gwn nad oes gwahaniaeth,
Yn un â'r ddaear ydd aeth;
Gweryd a ddyg ei goron,
Mewn ty sal mae 'n tewi sôn.
Alecsander a dderyw,
Er ei barch yn nhir y byw,

Ieuan Glan Geirionydd.
A fwriwyd, er ei fawredd,
Mor wan a baban i'r bedd;—
Er gwneuthur, â'i loewbur lu,
I ddaear gron ddirgrynu,
A dwyn braw a chyffraw chwai,
Wr gwrdd, y tir a gerddai;
Er ysgwyd a goresgyn,
Teyrnasoedd o dano'n dynn;
Ust angau a'i gostyngawdd,
O'i gain hynt, yn ddigon hawdd,
Gostyngodd, bwriodd ei ben,
I fol braenar, fel brwynen.
Yn y bedd y mae heddyw,
Arwr syn—fel gwelltyn gwyw.
A'i gleddyf dur gloew, addien,
Yno yn bod, dan ei ben,
Trwy ei gledd, osgoi tŷ'r glyn,
Nis gallai mwy na 'scellyn.
Ymerawdwr, llywiwr llon,
A garia euraid goron,—
Ni ddeil dim, pan ddêl ei ddydd,
Mwy na brwyn mân y bronnydd,
E dawdd mal y diddym us,
Rhwng breichiau'r angau brochus:
Ni rydd y bedd i'w urdd barch,
Mwy na mwydion mân madarch.

Fe genfydd y clochydd clau
Tra bydd yn torri beddau,
Esgyrn rhai fu 'n gedyrn gynt,
A gwawr sych, oernych, arnynt;
A'r cnawd, fu'n wisg i'w gwisgaw,
A godir hwnt gyda'r rhaw;
Trwy esgyrn tery wasgar,
A'r naill yn gyfaill neu gâr,

A'u taflu yn oer lu ar led,
Was dirus, heb ystyried;
Wnaeth e 'n hy (ddydd sy'n nesau),
I gant, wneir âg yntau.

Y cribddeiliwr, rheibiwr hyll
Yn ei fawrchwant, fu erchyll,
Yn gorthrymu y truan,
Trybaeddu, a gwasgu'r gwan;
Ac yn ei fâr dygn a fu,
Am y wlad yn ymledu;
Mynd tros bawb mewn trais a bâr,
Rheibio, ewino'n anwar;
Ac hefyd, gwancio'r cyfan,
O'r byd, ar ei hyd, i'w ran;
Ni wnai ddaioni i neb,
Oi us ni roddai oseb,—
Ond dyma ben gyrfa'r gŵr,
Uthr a thramaith orthrymwr,
Daeth i lawr, mae'n awr mewn hedd,
Dan garreg fud yn gorwedd.

Ni cheir neb mor chwerw yn hon
A dygyd tir cymdogion;
Na chwennych ei wech annedd,
Mwy i fyw, na dim a fedd.
Boddlon ynt, heb ddal o neb
Wgus annoeth gasineb;
Heb lidio, beio trwy ball,
Yn ddiras wrth lwydd arall.
Ni ddigiant, ni chwerwant chwaith,
Ni wanant neb trwy weniaith,
Y rheibiwr a'r gwanciwr gwyllt,
Fu 'n hi am dir yn daerwyllt,
Ni chwennych bin yn chwaneg,
Diau e gadd lond ei geg;

Ac yn ei fedd, canfyddir,
Gwareiddiodd, dofodd am dir.

Gweryd oer, a gwiw o'r dydd,
A lwgar crach-olygydd;
Dyma'r lle, diamau 'r llawr,
Y derfydd ei rwysg dirfawr.
Ow! A chul i'w uchelwaed,
Laid oer trwm i ledu 'r traed:
Ni raid trafferth (â gwerth gau),
Gochel ei dduon guchiau.
Darfu, a daeth i derfyn,
Falais a dyfais y dyn;
Ac henffych forwyd cynffon
Y dyn baich, do yn y bon.
Ni chaiff rwydd, ebrwydd, obrwy,
Cerdod ddiwael, na mael mwy,
Gŵydd fras, fad, na hwyaden,
Na chyw iar mewn daear denn;
Ni hela ef, yn ol hyn,
Bys i'w gwd, neu bysgodyn;
Mwy ni chaiff (mynych hoffai),
Laeth enwyn, na menyn Mai;
Rhost, na berw, cwrw, nac arian,
Cyson frol, nac asen frân.

Ryw ddydd, daw'r hen gybydd gwan,
I weryd heb ei arian;
Nis tynn dros y feiston draw,
I'w ddilyn, lond ei ddwylaw.
Fe edy, er mor fydol,
Godau'r aur i gyd ar ol;
Noeth wr, heb wisg, daeth i'r byd,
A'r gŵr un fath i'r gweryd.

Y caethwas, o'i atgas waith,
A'i holl orthrwm, trwm, tramaith,

A'i ddir boen, a ddaw i'r bedd,
O'i yrwaith trwm i orwedd.
Er ei fod, garw nôd, yn ail
Yn ufudd i'r anifail,
Dan iau haearn, gadarn, gerth,
Ban'd enfawr bennyd anferth.
Rhêd y gwaed ar hyd ei gorff,
Yn weilgi o'i anwyl-gorff;
Oanhoff friwiau'r ffrewyll,
Dan ei draed y gwaed a gyll.
Digon i wneud gan wŷn, O!
I ddaear danaw dduo;
Ac i'r haul claer, gwrol, clau,
O'i dêg-rudd, dywallt dagrau.
Ond ni ddaw braw, unrhyw bryd,
I'w gyrraedd yn y gweryd,
Na chûr, trwm lafur, neu loes,
Dolur, na briw, na duloes,
Aeth o gyrraedd brath gerwin
Yr iau hell, a'r flangell flin:—
Awr felus, llawn gorfoledd,
Fu'r awr i'w bur fwrw i'r bedd.
Rhyfedd fydd gweld yr afiach,
Heb un boen yn ei gaban bach,
Fu'n dwyn ei oes mewn loesion
Oedd boenus i'w fregus fron ;
Mae'n esmwyth, heb lwyth o bla,
Neu ddu ofid i'w ddifa.

Feddrod torri hafaidd-rwysg,
A phranc yr ieuanc a'i rwysg.
Yn dy grafanc, y llanc llon,
A'i wych ystwyth orchestion,
Ei wrol gampau euraid,
Dros byth â'i rodres a baid.

Ei gri awchus, a'i grechwen,
A'i rôch a dyrr mewn arch denn.

A'n wyw y fenyw fwynwych,
Oedd ddiflin i drin y drych,
A'i phryd, a'i glendyd, fel glân
Rosynau eres anian.
Y pryfed sydd yn profi
Ei thegwch a'i harddwch hi:—
Ei dwyrudd hi a dorrant,
A'i glån fochau'n gwysau gant.
A'i gwallt hi oedd fel gwellt aur,
Ail i wiail o loew-aur;
Rhyw ardd oedd, rhyw iraidd wig
Aur-sidan, yn drwsiedig,
A droid yn fodrwyau,
O wiw blethiad, clymiad clau;
Ond y bedd a ddodai ben
Manwl, ar falchder meinwen.
Yr awr hon, is cloion clau,
Drewant, yr holl fodrwyau.
Pryfed drwyddo a redant
Heb ri'n awr, a'i lwybro wnant,
Gyrrant yn llu, mewn gorwib,
Eu llwybrau crai, lle bu'r crib.
Ni cheir hyd i'w chariadau,
Oedd mor rwydd i ei mawrhau,
Ac mor ffol ag addoli
Ei gwiw lendyd hyfryd hi;
Ni roddant, ar bant y bedd
Marwol iddi un mawredd.

Beth yw uchder balchder byd,
Neu goron yn y gweryd?
Derfydd parch mewn arch, mae'n wir
Yno ei ol ni welir;

Ni pharcha'r bedd, annedd ddig,
Fwynwych aur, fwy na cherrig.
Ti'r bedd, sydd yn trybaeddu,
Pobiach gyfeillach a fu
A medraist dorri modrwy,
Dau gymar, a'u hysgar hwy,
Fu'n anwyl o fewn einioes,
Yn bur i'w cred, heb air croes;
Darfu yr hoffder dirfawr,
'N y cryd mwil, a'r cariad mawr.
Aeth cyfeillion, wiwlon wedd,
I minnau, i'r lom annedd;
Och ofid! mwy ni chefais,
Weld eu lliw, clywed eu llais.

Rhyfedd y cymysgedd mawr,
Och a geir yn eich gorawr!
Gorwedd blith-dramith heb drefn,
Wedd odrist, yn llwyr ddidrefn;
Ac edrych yma'n gydradd
Mae'r uchel a'r isel radd.

Yr Ymherawdwr, gŵr gwych,
Oddiar ei orsedd orwych,
O'i uwchafiaeth, daeth y dyn,
Hyd at y gwael gardotyn;
Mor isel, mor dawel daeth,
A hwnnw, nid oes gwahaniaeth
Mawr a bach sy'n mro y bedd,
Y doeth a'r annoeth unwedd,
Y cyfoethog, enwog un,
Gŵr y geiniog, a'r gwan-un.
O'r achul faban rhychwant
Yno i'r cu henwr cant.

Ac ail i ei ddeiliaid gwâr
Yw Brenin yn y braenar;—

Gwâr, eiddil, y gorweddant,
'R un tŷ, 'r un gwely a gânt.
Ni chyfyd gweryd, gwireb,
Fraich yn wir i gyfarch neb.

Ni ddawr gloig hen ddôr y glyn,
Gwelir ei ddrws heb golyn;
Llechfaen uwch llwch, fu unwaith,
Yn fyw ddarn o gelfydd waith,
Ac ar hon y ceir hanes
Ei daith gynt, ar hynt, yn rhes;
Coffadwriaeth helaeth yw,
Cof-nodiad cyfiawn ydyw;
"Hwn a hwn, oedd ddyn hynod,
Difai, a ryglyddai glod,
Ei ddiallu weddillion
Sy'n gorwedd mewn hedd, dan hon.
Gŵr da, a fawr gerid oedd,
Yn deilwng drwy'r ardaloedd;
Caredig, cywir ydoedd,
Haelionus, croesawus oedd.

"Ac hefyd, ei wraig gufwyn,
Oedd un weddaidd, ferthaidd, fwyn,
Gadawodd ddrygau daear,
Ei holl dwrw, ei ferw, a'i fâr;
Rhoes o'r byd, i'r gweryd gwâr,
Ei cham ar ol ei chymar;
Gan hiraeth aeth, un ethol,
I ddaear werdd ar ei ol."
A'u hil a ddaw i'w dilyn,
O do i do, wedi hyn.
Gan hynny, felly i fedd,
Y daw pawb yn y diwedd.

O ran adrodd, rwy'n edrych,
Y llawr oer, a'r man lle'r ych.

BEDD IEUAN GLAN GEIRIONYDD.

"A gorwedd yn y gweryd.
O swn y boen sy'n y byd."


A omedd rhyw un imi,
Ddod yn ol i ddweyd i ni
Hanes eich taith bell hynod,
I dŷ'r bedd, yn niwedd nôd?
Trwy wyll byrth engyrth angau,
Ai gochion, fawrion rodfâu,
Trwy'r ddôr ddiymagor mwy,
I droi ymaith i dramwy,
Glyndir ofn, gwael iawn drefniad,
Man ni thyn na mam na thad,
Gyda'u plant, ond troant draw,
Diau yn ol dan wylaw,—
Rhowch i ni air o'ch hanes,
E all hyn fod i ni yn lles.—
Ond ust oer, a distawrwydd,
O'r mwyaf, a gaf i'm gŵydd;
Ni chlywaf fi yn ddios,
Ond oer nâd adar y nos.
'Screch dylluan frech y fro,
O'r Yw glâs yn drwg—leisio.
Wel! wel, rhagof os celwch,
Eich taith i dy llaith y llwch,
Oedaf ychydig, wedi,
A chaf fod mor ddoeth a chwi;
Caf fod ryw ddiwrnod a ddaw,
Mor ddiystyr, mor ddistaw,
Maes 'law, fe brawf y corff brau,
Chwerwafing, awch eirf angau,
Cyn hir, fe brofir er braw,
Ddialedd trwm ei ddwylaw,
Fe baid hon—y galon gu,
A'i hawch lem a dychlamu;
Clywir y corff claiar, cu,
A'r enaid yn ymrannu;

A llinynau llon anian,
Trwy un loes yn torri'n lân;
Yna daw, mewn distaw dôn,
Ir goleu'r holl ddirgelion.

O wyll fedd! diddiwedd wyd,
Digon i ti nis dygwyd,
Er Abel fawr ei obaith,
Wr da, aeth gyntaf i'r daith,
Myrddiynau, rif dafnau'r donn,
Gladdwyd yn dy goluddion.
Dy enw yw Bwytawr dynion,
Wyt wancus, arswydus son:
Diddig daeth pawb, rhaid addef,
Er's chwe mil i'th grombil gref.
Nid yw'th wane mawr, i'r awr hon,
Yn tagu i ddweyd "digon."
Dy ddidor lef yw hefyd-
"Moes, moes," drwy bob oes o'r byd.
Dy enau certh nid yw'n cau,
Mae ynnot le i minnau.

O f'enaid, ymofyna,
Yma yn d'oes, am enw da,
Rhâd olud, trysor dilyth,
Er y bedd, na phydra byth,
"Y rhan dda" yr hon ni ddwg
Mwya' gelyn o'm golwg.
Ni all y bedd tywyll byth,
Doli yr undeb dilyth.


Emynau.

GORFFENNWYD.[4]

CLYWCH leferydd gras a chariad
O Galfaria'n seinio sydd,
Wele'r cedyrn greigiau'n hollti,
Haul yn t'wyllu ganol dydd;
"Gorffennwyd!"
Dwys ddolefai'r Meichiau mawr.

O'r trysorau anchwiliadwy
A gynwysir yn y Gair,
Môr diderfyn o fendithion
I dylodion ynddo gair;
"Gorffennwyd!"
Ni bydd eisiau aberth mwy.

Adgyweirir pob rhyw delyn
Drwy y ddaear faith a'r nef,
Er cyd-daro'r anthem newydd
Heddyw a gyhoeddodd Ef;
"Gorffennwyd!"
Dyma gân na dderfydd byth.


Y CYFAILL GOREU.[5]

MAE un uwchlaw pawb eraill
Drwy'r greadigaeth fawr i gyd,
Sydd yn haeddu ei alw'n Gyfaill,
Ac a bery'r un o hyd:
Brawd a anwyd inni yw,
Erbyn c'ledi o bob rhyw.

Nis gall meithder ffordd nac amser,
Oeri dim o'i gariad Ef;

Mae ei fynwes byth yn dyner,
A'i gymdeithas byth yn gref:
Nis gall dyfroedd angau llym
Ddiffodd ei angerddol rym.

Ym mha le y ceir, er chwilio,
Neb yn caru fel Efe?
Ple mae'r cyfaill, er ein hachub,
A ro'i fywyd yn ein lle?
Nid oes debyg iddo Ef,
Drwy y ddaear faith a'r nef.

Pan fo pawb yn cefnu arnom
Yn y dyffryn tywyll, du—
Pan fo pob daearol undeb
Yn ymddatod o bob tu,
Saif E'n ffyddlon y pryd hyn,
Ac a'n dwg yn iach drwy'r glyn.

A phan ymddangoso eilwaith,
Yng ngogoniant pur ei Dad,
Gyda'i holl angylion sanctaidd,
Mewn anrhydedd a mawrhâd,
Fe geir gweld mai'r un fydd Ef,
Er mynd heibio'r byd a'r nef.


CORONI IESU YN BEN.[6]

DYRCHAFER enw Iesu cu,
Gan seintiau is y nen;
A holl aneirif luoedd nef,
Coronwch Ef yn ben.

Angylion glân sy'n gwylio'n gylch
Oddeutu'r orsedd wen;
Gosgorddion ei lywodraeth gref,
Coronwch Ef yn ben.


3 Hardd lu'r merthyri, sydd uwchlaw
Erlyniaeth, braw, na sen,
 llafar glod ac uchel lef,
Coronwch Ef yn Ben.

4 Yr holl broffwydi'n awr sy'n gweld
Y Meichiau mawr heb len,
A'i apostolion yn gyd-lef,
Coronwch Ef yn Ben.

5 Pob perchen anadl, ym mhob man,
Dan gwmpas haul y nen,
Ar fôr a thir, mewn gwlad a thref,
Coronwch Ef yn Ben.

6 Yn uchaf oll bo enw'r Hwn
Fu farw ar y pren;
Drwy'r ddaear faith, ac yn y nef,
Coronwch Ef yn Ben.


MOLIANNU YR OEN.[7]

CYDUNWN â'r angylion fry,
Ein tannau yn gytûn;
Deng mil o filoedd yw eu cân,
Er hyn nid yw ond un.

2 Os ydyw'r Oen fu farw yn sail
Eu holl ganiadau hwy,
Mae'n haeddu, am farw drosom ni,
Ein mawl fil miloedd mwy.

3 Ac Ef yn unig biau'r mawl,
Drwy ddwyfol hawl ddi-lyth,
A chlod uwchlaw a allwn ni
Ei roddi iddo byth.


4 Cyduned pob creadur byw,
Uwchlaw ac is y nen,
I roi ynghyd, cans teilwng yw,
Y goron ar ei ben.

5 Doed y greadigaeth eang oll,
Ag un soniarus lef,
I ogoneddu'r addfwyn Oen,
A thraethu'i foliant Ef.


ANGAU YN YMYL.

MAE'M rhedfa is y rhod,
Yn nesu at y nod;
I'm hymdaith hon is awyr gron,
Mae diwedd bron a dod:
Fy mhabell frau sydd yn llesgau,
Ac yn gwanhau o hyd;
Ac yn y man daw'r amser pan
Bydd f'enaid gwan yn fywiol ran
Mewn anherfynol fyd.

O Dduw rho im' dy hedd,
A golwg ar dy wedd;
A maddeu'n awr fy meiau mawr,
Cyn'r elwy' i lawr i'r bedd:
Ond im' gael hyn, nid ofna'i'r glyn,
Na cholyn angeu'n hwy;
Dof yn dy law i'r ochr draw,
Heb friw na braw, ryw ddydd a ddaw,
Uwchlaw pob loes a chlwy.


TRYSORAU YR IAWN.

TRYSORAU mor glir ni welwn yn wir,
I randir yr India, pe'r awn;
Pur aur o Peru, cyffelyb nid yw
I heddwch fy Nuw yn yr Iawn.

Caed person mor lawn o gyfoeth a dawn,
A dalodd yn gyflawn y gwerth;
Trwy'r ddyfais fawr hon gwneir Seion yn llen,
Fe wisg ei angylion â nerth.

Dim trysor nis ceir mewn perlau nac aur,
Er chwilio hyd derfyn ein dydd,
A bwysa ei hedd tu yma i'r bedd,
Heb goffa'r llawenydd a fydd.


CROESI YR IORDDONEN.[8]

ENAID cu! mae dyfroedd oerion
Yr Iorddonen ddu gerllaw;
Eto, gwel! mae'r ddinas sanctaidd
Ar y lan yr ochr draw:
Yno mae dy hen gyfeillion
Wedi dianc uwch bob clwy',
Yn dy aros, er cael cyfran
O'u dedwyddwch hyfryd hwy.

Paid ag ofni, berr yw'r fordaith,
Ac mae'r Archoffeiriad cu
Yn dy aros yn y dyfroedd
Er dy ddwyn i'r ddinas fry;

Clyw seraffaidd seiniau'n 'hedfan,
Draw o frodir Seion fryn;
Gwel ei heuraidd byrth yn agor
Drwy y niwl sy'n toi y glyn.

Ffarwel fyd, a ffarwel deithio
Yn yr anial dyrus mwy;
Ffarwel gnawd, a ffarwel lygredd,
Ffarwel boen, a phob rhyw glwy;
Mae'r tywyllwch yn gwasgaru,
A'r goleuni yn cryfhau;
'N awr 'rwy'n gweld y pur drigfannau,
'Hed, fy enaid, i'w mwynhau.


NA WRTHOD FI.

AT un a wrendy weddi'r gwan,
'Rwyf yn dyrchafu 'nghri;
Ym mhob cyfyngder, ing, a phoen,
O Dduw na wrthod fi.

Er mor anheilwng o fwynhau
Dy bresenoldeb di,
A haeddu 'mwrw o ger dy fron,
O Dduw na wrthod fi.

Pan fo'm cydnabod is y nen,
Yn cefnu arna'i 'n rhi,
A châr a chyfaill yn pellhau,
O Dduw na wrthod fi.


Er mwyn dy grôg a'th angau drud
Ar fynydd Caliari,
A'th ddwys eiriolaeth yn y nef,
O Dduw na wrthod fi.

Pan yn wynebu ymchwydd
Iorddonen ddofn ei lli,

A theithio'n unig trwy y glyn,
O Dduw na wrthod fi.
A phan y deui yr ail waith,
Mewn mawredd, parch, a bri,
I farnu'r byw a'r marw ynghyd,
O Dduw na wrthod fi.


TAD WRTH Y LLYW.

AR fôr tymhestlog teithio'r wyf
I fyd sydd well i fyw,
Gan wenu ar ei stormydd oll—
Fy Nhad sydd wrth y llyw.


A phan fo'u hymchwydd yn cryfhau,
Fy angor sicr yw,
Y dof yn ddiogel trwyddynt oll-
Fy Nhad sydd wrth y llyw.

I mewn i'r porthladd tawel, clyd,
O swn y 'storm a'i chlyw,
Y caf fynediad llon ryw ddydd-
Fy Nhad sydd wrth y llyw.


GLAN YR IORDDONEN.

AR lan lorddonen ddofu
'Rwy'n oedi'n nychlyd,
Mewn blys mynd trwy, ac ofn
Ei 'stormydd enbyd;
O na bai modd i mi
Ysgoi ei hymchwydd hi,
A 'hedfan uwch ei lli,
I'r Ganan hyfryd.

Wrth gofio grym y dŵr,
A'i thonnog genlli,
A'r mynych rymus ŵr
A suddodd ynddi,
Mae braw ar f'enaid gwan
Mai boddi fydd fy rhan,
Cyn cyrraedd tawel lan
Bro y goleuni,

Ond pan y gwelwyf draw,
Ar fynydd Seion
Yn iach, heb boen na braw,
Fy hen gyfeillion,

Paham yr ofnaf mwy?
Y Duw a'u daliodd hwy
A'm dyga innau drwy
Ei dyfroedd dyfnion.


larger

MOR ddedwydd yw y rhai trwy ffydd,
Sy'n mynd o blith y byw!
Eu henwau'n perarogli sydd,
A'u hun mor dawel yw!

Ar ol eu holl finderau dwys,
Gorffwyso maent mewn hedd,
Ymhell o swn y byd a'i bwys,
Heb boen yn llwch y bedd.

Llais un gorthrymydd byth ni ddaw
I'w deffro i wylo mwy;
Na phrofedigaeth lem, na chroes-
Un loes ni theimlant hwy.



GALAR AR OL CYFEILLION.

MAE 'nghyfeillion adre'n myned
O fy mlaen, o un i un,
Gan fy ngadael yn amddifad,
Fel pererin wrtho'i hun.

Wedi bod yn hir gyd-deithio
Yn yr anial dyrys maith,
Gormod iddynt oedd fy ngado
Bron ar derfyn eitha'r daith.


Wedi dianc uwch gelynion,
Croesau a gofidiau fyrdd,
Maent hwy'n awr yn gwisgo'r goron,
Ac yn cario'r palmwydd gwyrdd.

Byddaf yn dychmygu weithiau
Fry eu gweld yn Salem lân,
Ac y clywaf, ar rai prydiau,
Adsain od'au pêr eu cân.

Ond mae'r amser bron a dyfod
Y caf uno gyda hwy,
Yn un peraidd gôr diddarfod,
Uwchlaw ofn ymadael mwy.


GORFFWYS YN Y NEF.

MAE'n hyfryd meddwl ambell dro,
Wrth deithio anial le,
Ar ol ein holl flinderau dwys,
Cawn orffwys yn y ne'.

Pan ar ddiffygio gan y daith,
A ludded maith y lle,
Mor hoff yw gwybod-wedi hyn
Cawn orffwys yn y ne'.

Nol teimlo archoll llawer saeth,
A phrofedigaeth gref,
A dioddef gwres y dydd a'i bwys,
Cawn orffwys yn y nef.

Mae'n gysur meddwl, pan fo'n dod
Len dros ei wyddfod Ef,
Yn cynnal ei dragwyddol bwys,
Cawn orffwys yn y nef.


Er colli ein cyfeillion hoff
Yn yr lorddonen gref,
Mae'n felus meddwl-eto 'nghyd
Cawn gwrddyd yn y nef.

Cymhwyser ni drwy'r Ysbryd Glân,
A'i rasol ddoniau Ef,
Nes delom, fel t'wysenau llawn,
Yn addfed iawn i'r nef.


GOLWG AR Y GANAN FRY.

RWY'N sefyll ar dymhestlog lan
Yr hen Iorddonen ddu,
Gan syllu'n ddwys mewn hiraeth clau,
Ar fryniau'r Ganan fry.

'Rwy'n tybio gwelaf eiliw gwan
O'i glannau bythol wyrdd,
Lle'r hongia sypiau grawnwin pur
Ar goed anfarwol fyrdd.

O ardal hyfryd lle ni ddaw
Na gofid byth nac âeth,
Lle ffrydia perffaith wynfyd pur,
Fel llifo fêl a llaeth.

Ac yno y mwynheir heb nos,
Un aufachludol ddydd,
Heb haul na lloer, ond Duw ei hun
Ei disglair Haul a fydd.

Awelon peraidd balmaidd, byw,
Sy'n treiddio'r ardal trwy:
Angeu a phechod, ing a phoen,
O'i mewn ni theimlir mwy.


GLAN GEIRIONNYDD.

MI, un diwrnod teg o haf,
Yn rhodio ar fy nhro,
Graeanaidd lan Geirionnydd lwys,
Fy mabwysiadol fro,
Lle treuliais lawer ddifyr awr
Yn nhymawr mebyd, pan
Yn tynnu'i bysg o'r tonnau byw
A'i laswiw ddwfr i'r lan;
Pan oedd pob meddwl tan fy mron.
Mor ysgafn bron a'r gwawn,
Yn dilyn gwib mabolaidd fryd,
O foreu hyd brydnawn;

Gostegai'r awel ar y llyn,
Heb chwâ yn crychu'i wedd.
A natur oll mor dawel ai
A distaw barthau'r bedd,
Ond gwawch y gigfran ambell waith
O'r graig uchelfaith draw,
A bref y defaid ar y twyn,
A'r llonwych ŵyn gerllaw;
A thrwst y maen wrth dreiglo hyd
Y llithrig dybryd serth,
A chwhw y gog yn pyncio'n fwyn
Ar friglwyn ucha'r berth.

Tueddai'r holl olygfa'n fwy
I goledd myfyr syn
Nachwywio'r tant a'r bluen freg
Hyd wyneb teg y llyn;
Hilanwai'm hysbryd â rhyw brudd,
Hiraethlon gofion dwys,

A ddygai'r dagrau dros fy ngrudd,
Gan faint eu grym a'u pwys;
Arweinid fy meddyliau'n ol
Ar ryw freuddwydiol hynt,
I adfyfyrio ar a fu,
A gwedd y dyddiau gynt.

Yr enwair ar y graean mân
I orwedd roed yn awr,
Ac ar ryw lwydwyn faen gerllaw
Eisteddwn innau i lawr;
Edrychwn amgylch ogylch ar
Y fangre unig fud,
Heb sain na gwedd un dynol fod,
Drwy'i holl ororau i gyd:
Fy unigolrwydd oedd mor lwyr.
A'r meudwy yn ei gell,
Neu Selkirk pan yn alltud ar
Fernandes anial, bell.

Effeithiai y distawrwydd mawr
A greai dan fy mron
Ryw annirnadwy hiraeth am
Yr hoff gyfoedion llon,
Oedd ddoe mor ddifyr gyda mi
Yn rhodio'r llennyrch hyn,
A'u hadlais yn yr awel bêr
Yn dadsain nant a bryn;
Nis gallwn lai na holi'n brudd,—
"Pale yn awr y maent?"
Ond eco a'm hatebai'n ol,—
"Pa le yn awr y maent?"


A buan iawn y daw y dydd
I minnau'u dilyn hwy,
Pan, er fy ngheisio wrth y llyn,
Na cheir mo honof mwy;
Ac os daw rhywun ar ei dro,
I rodio'r glennydd hyn,
A meddwl am eu bardd, a dweyd,
Mewn prudd ymholiad syn,—
"Mae Llyn Geirionydd eto'r un;
Ond Ieuan! P'le mae ef?"
Yr eco a'i hatebai'n chwai—
"Ond Ieuan! Ple mae ef?"



Nodiadau

golygu
  1. Wele fi'n rhoddi'r awrhon
    Herr i Dduw yr Iddewon;
    Och :gwelwch, edrychwch draw
  2. Addasiad o From Greenland's icy mountains gan Yr Esgob Reginald Heber
  3. The Grave, gan Robert Blair
  4. Cyfieithiad o Hark! the voice of love and mercy Jonathan Evans
  5. Cyfieithiad o One There Is, above All Others John Newton
  6. Cyfieithiad o All Hail the Power of Jesus' Name gan Edward Perronet
  7. Cyfieithiad o Come, Let Us Join Our Cheerful Songs gan Isaac Watts
  8. Cyfieithiad o Dark river of death, that is flowing gan James Edmeston
 

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.