Hanes Sir Fôn (testun cyfansawdd)
← | Hanes Sir Fôn (testun cyfansawdd) gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth) |
→ |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Hanes Sir Fôn |
"MON, MAM CYMRU."
—————————————
HANES SIR FON
YN NGHYD AG
YSTYR ENWAU LLEOEDD
GYDA
MAP NEWYDD
YN DANGOS SEFYLLFA POB TREF A
PHENTREF TRWY YR YNYS
—————————————
AMLWCH:
ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD gan
D. JONES
LLYFRWERTHYDD A LLYFR-RWYMYDD
MDCCCLXXII
Cynnwys
Nid yw'r tudalen cynnwys yn rhan o'r cyhoeddiad gwreiddiol.
Mae sillafiad enwau'r plwyfi ac ati fel y maent yn y llyfr, sydd aml yn wahanol i'r sillafiad safonol cyfoes.
AT Y DARLLENWYR
HANES AC YSTYR ENWAU LLEOEDD YN MON
CANTREF RHOSIR
CWMWD TINDAETHWY
PLWYF LLANDEGFAN (BEAUMARIS)
PLWYF LLANFAES
PLWYF LLANGOED
PLWYF LLANIESTYN
PLWYF LLANFIHANGEL-DIN-SYLWY
PLWYF LLANDDONA
PLWYF PENTRAETH
PLWYF LLAN-DDYFNAN
PLWYF LLANBEDR-GOCH
PLWYF LLANFAIRMATHAFARNEITHAF
PLWYF LLAN SADWRN
PLWYF LLANFAIR-PWLL-GWYNGYLL
II CWMWD MENAI
PLWYF LLANGEINWEN
PLWYF LLANGAFFO
PLWYF LLAN IDAN
PLWYF LLAN EDWEN
PLWYF LLAN DDANIEL FAB
PLWYF LLANFIHANGEL YSGEIFIOG
PLWYF LLANFFINAN
PLWYF LLAN GEFNI
PLWYF TRE' GAIAN
PLWYF LLANTRISANT
PLWYF NEWBOROUGH
LLANDDWYN
PLWYF LLANGWYLLO
PLWYF RHOS COLYN
II CANTREF ABERFFRAW
I CWMWD MALLTRAETH
PLWYF ABERFFRAW
PLWYF LLANBEULAN
PLWYF LLANGADWALADR (Eglwysael)
PLWYF LLANFEIRION
PLWYF TRE' GWALCHMAI
PLWYF TREFDRAETH
PLWYF LLANGRISTIOLUS
PLWYF LLAN GWYFAN
II CWMWD LLIFON
PLWYF LLANFAELOG
PLWYF CEIRCHIOG (Bettws-y-Grog)
PLWYF BODWROG
PLWYF LLANDRYGARN
PLWYF LLECHGYNFARWYDD
PLWYF LLANFIHANGEL YN NHOWYN
PLWYF LLANFAIR YN NEUBWLL
PLWYF LLANYNGHENEDL
PLWYF LLECHYLCHED
PLWYF BODEDEYRN
III CANTREF CEMAES
I CWMWD TWRCELYN
PLWYF LLANFIHANGEL TRE'R BEIRDD
PLWYF LLANERCHYMEDD
PLWYF LLANDYFRYDOG
PLWYF GWREDOG
PLWYF COEDANA
PLWYF CEIDIO
PLWYF LLANWENLLWYFO
PLWYF LLANEILIAN
PLWYF LLANEUGRAD
PLWYF LLANALLGO
PLWYF PENRHOS LLIGWY
PLWYF RHOSBEIRIO
PLWYF BODEWRYD
PLWYF AMLWCH
II CWMWD TALYBOLION
PLWYF LLANDYGFAEL
PLWYF LLANFAETHLU
PLWYF LLANBADRIC
BETTWS LLANBADRIC, NEU CEMAES
PLWYF LLANRHWYDRYS
PLWYF LLANFAIR YN NGHORNWY
PLWYF LLANBABO
PLWYF CAERGYBI
PLWYFI LLANDDEUSANT I LANFWROG
PLWYF LLANDDEUSANT
PLWYF LLANRHYDDLAD
PLWYF LLANFECHELL
PLWYF LLANFFLEWYN
PLWYF LLANFWROG
ATTODIAD
"MON, MAM CYMRU."
—————————————
HANES AC YSTYR ENWAU
LLEOEDD YN MON.
GAN
T. PRITCHARD ('RHEN GRASWR ELETH.)
—————————————
AMLWCH
ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD GAN D. JONES.
MDCCCLXXII.
AT Y DARLLENWYR
Yr wyf yn cyflwyno y Traethodyn byr yma i'ch sylw, gan hyderu y derbyniwch bleser a dyddordeb wrth ei ddarllen, yn gymaint felly ag a dderbyniais inau wrth ei gyfansoddi. Nid wyf yn honi y gellir profi yr holl bethau sydd ynddo fel ffeithiau hanesyddol, oblegyd y mae llawer wedi eu codi oddiar faes traddodiad hen frodorion, &c. Yr wyf yn gadael ei dynged i'ch dwylaw fel darllenwyr, gyda cydnabyddiaeth y gall fod ynddo rai bethau nad yw pawb yn cydsynio am danynt, fel у ceir bron yn mhob Traethodyn o'r natur hwn sydd wedi ymddangos i'r cyhoedd hyd yma.
Yr wyf yn teimlo yn ddyledus am gynorthwy i gasglu y tywysenau sydd yn cyfansoddi y lloffyn hwn, oddiar gôf y boneddigion canlynol:
- JONATHAN JONES, Ysw ., Caernarfon,
- Mr. OWEN LEWIS ( Philotechnus),
- AP MORRUS,
- RICHARD JONES, Pongc yr Odyn, Porth Amlwch,
- THOMAS WILLIAMS, (Bardd Du o'r Burwaen,)
- JOHN G. HUGHES, Arlunydd, Amlwch,
- JOHN ROBERTS, Allwen Won, Llanfihangel-yn -Nhowyn,
- Parch . WILLIAM PRICHARD, Pentraeth,
- Mr. HUGH WILLIAMS, Dock, Caergybi,
- WILLIAM JONES (Emyr).
YR AWDWR
AMLWCH, MAI, 1872.HANES AC YSTYR ENWAU LLEOEDD YN MON.
MON sydd ynys neu randir,yn gorwedd yn Ngogledd Gwynedd, yn cael ei chylchynu ar yr ochr orllewinol gan fôr yr Iwerddon, ac yn wahanedig oddi wrth Arfon gan gulfor Menai. Ceir amrywiol farnau gan hynafiaethwyr o berthynas i darddiad ac ystyr yr enw Menai. Tybia Mr. ROBERT EVANS, Trogwy, ei fod wedi tarddu oddiwrth fynedfa Mèn dros yr afon, ac mai yr ystyr yw- "Mèn â âi." Casgla Mr. ROWLANDS, awdwr y "Mona Antiqua," mai ystyr y gair yw Main aw" (dwfr cul), oddiwrth ansawdd y lle yn y dechreuad, oherwydd dywedir fod afon Menai wedi bod mor gul fel y gallai dyn lamu drosti. Tybir gan luaws o hynafiaethwyr eraill, fod y wlad hon wedi bod unwaith yn gysylltiedig â gwledydd eraill Gwynedd; ond ei bod, mewn amser diweddarach, wedi ei gwahanu oddiwrthynt trwy gynhyrfiad gwastadol, a graddol ymchwyddiad y môr.
Y mae hen olion Priest Holme Island, a ganfyddir ar drai isaf y môr—yn enwedig pan fydd yn alban eilir (vernal equinox)—yn cadarnhau y syniad yma. Gelwir yr ynys hon "Glanach," ac yn "Ynys Seiriol," oddi wrth Seiriol Wyn; ac hefyd yn "Pufin Island," oddi- with adar sydd yn ymddangos arni o'r enw Puffins, Dywedir fod y môr wedi gorlifo yn y seithfed ganrif dros y lle y safai Tyno Helig—iselder prydferth Helig Foel, ap Glanawg, ap Gwgan Gleddyfrydd, ap Caradog Freichfras, ap Llyr Morini, ap Einion Yrth, ap Cunedda Wledig—ac oherwydd hyny galwyd y lle hwn hyd heddyw, "Traeth y lafan" (lavan sands); ond y gwir ystyr yw "Traeth y llefain."
Adnabyddir Ynys Môn wrth wahanol enwau. Gelwir hi genym ni y Cymry, "Môn," "Ynys Fôn," a "gwlad Môn." O berthynas i wreidd-darddiad yr enw Môn, ceir amrywiol farnan: dywed yr hynafiaethydd Mr. OWEN WILLIAMS, yr addolid Hu Cadarn yn Môn fel y duw penaf, o dan rith tarw neu fuwch, neu bob un o'r ddau; a chan fod Môn yr un ystyr a buwch, felly oddi. wrtha Hu Gadarn, yr hwn oedd ar lun ych, y cafodd Môn ei henw—a geilw Taliesin Ynys Môn yn "Ynys Moliant". Barna Philotechnas fod iddo darddiad Groegaidd o'r gair "Monos," unig (Monk); yn dangos safle yr ynys wedi ei gwahanu oddiwrth Gwynedd par orlifodd y môr dros yr iseldir crybwylledig. Edrychid ar ein hynys fel mynach, yn neillduedig oddiwrth wledydd eraill Cymru. Cadarnhà Dr. WILLIAM OWEN PUGHE yr un syniad an ystyr yr enw Mon—"That is a separate body, or individual; an isolated one; or, that is separate."
Bernir gan eraill iddi gael ei galw gan y Galiaid, y rhai a boblogasant yr ynys hon gyntaf, wedi iddynt ei gweled yn barth Olaf, nea bellaf oddiwrth y fan y trigent, sef Gaul, galwasant hi yn "Fôn Ynys", nau "Fon Wlad," h.y.., y wlad olaf.—Gwel "Sylwedydd," am Ionawr, 1831, cyf. I. tudal. 1. Cynygia y Parch. HENRY ROWLANDS (Mona Antiqua) yr un ystyr, ei fod yn tarddu o'r gair " bôn," sef terfyn eithaf, neu gynffon (tail). Y mae'n ffaith fod B yn newid i M ac F, yn ol y gyfundrefn reolaidd o newid y cydseiniaid yn yr iaith Gymraeg, fel ei gosodir i lawr gan y Dr. W. O. PUGHE, awdwr y Geirlyfr Cymraeg, yn yr engreifftiau canlynol:—bara , fy mara, dy fara; ac felly yn yr un dullwedd, ac wrth yr un rheol, y dywed y Cymro—"Gwlad Fôn," ac "Ynys Fôn," ac os efe oedd yn darlunio sefyllfa neu safle y wlad yma fel ynys bellaf, yr oedd yn naturiol iddo ddyweyd, dyma'r bôn, neu'r gynffon, sef y pen eithaf, neu'r fôn wlad.
Y Rhufeiniaid yn ngoresgyniad yr ynys hon a wnaethant yr enw Môn yn fwy cydseiniol ag ieithwedd neu y priod-ddull Lladinaidd, trwy ychwanegu y llafariad A at Môn, ac a'i galwasant yn "Mona Insula." Y mae'r enw Lladinaidd yma wedi achosi dadleu mawr yn mhlith yr hynafiaethwyr penaf. Polydore a dybia mai'r un yw Mona ag "Ynys Manaw ," (Isle of Ma ,) yr hon ynys a elwir gan Pliny, yn Menabia; gan Orosious a Beda, yn Menavia–Pilchard's way. Barna Gildas ei fod yn tarddu o'r gair Eubonia', am darddell, a bonia yn tarddu o'r gair bonus, am dda neu rinwedd; ac felly tarddell rhinwedd yw'r ystyr, yn cyfeirio mae'n debygol at yr ynys hon fel ffynhonell dysgeidiaeth a chrefydd y byd.
Dywedir fod Môn yn ffynhonell gwybodaeth mewn duwinyddiaeth, athroniaeth, seryddiaeth, meddyginiaeth a chelfyddydau eraill; ac fod amryw wyr ieuainc wedi eu hanfon drosodd o Ffraingc yn amser Julius Cæsar i'w haddysgu yn y celfyddydau hyny. Y mae Sylvester Giraldus yn ei draethawd ar "Itinerarium Cambrice," yn dyweyd fod Caernarvon yn cael ei galw felly, oher wydd ei bod yn sefyll gyferbyn a Môn, ar yr ochr arall i'r afon. Ac er fod sylwadau annghywir Cæsar wedi camarwain, eto cytunir yn gyffredinol mai yr un ydyw Isle of Anglesey a Mona-prif eisteddle y Derwyddon. Enw y llywydd Rhufeinaidd a orchfygodd yr ynys hon gyntaf oedd, Suetonius Paulinus, yr hyn a gymerodd le dan deyrnasiad Nero (0.C. 59.) Gelwir yr ynys hon yn Monaw (the Môn of the water); ac, weithiau gelwir hi yn "Fôn Fynydd" gan y beirdd
"Cerddorion hyd Fôn Fynydd,
Dros hwn yn pryderu sydd."
Hefyd, gelwir hi yn Ynys Gadarn," am ei bod wedi bod yn noddfa i ffoedigion o wledydd eraill, ac yn anhawdd ei goresgyn, oherwydd ei bod yn ynys y gwroniaid.
Pan oresgynwyd yr ynys hon gan y Sacsoniaid, hwy a'i galwasant hi yn Money–ey yn eu hiaith hwy, sydd yn arwyddo Ynys: ond, ar ol ei darostwng gan y Saeson, gorchymynwyd ei galw yn "Anglesey" (neu Angle sea), h.y., Ynys y Saeson (Englishman's Island.) Derbyniodd yr enw yma ar ol y frwydr waedlyd fu yn Llanfaes, rhwng Merddyn o orsedd Cyman, ag Egbert brenin y Saeson; ac wedi i Egbert enill y frwydr, cymerodd feddiant o'r ynys, a gorchymynodd iddi beidio cael ei galw mwyach yn Fôn, ond yn Anglesey. Cymerodd hyn le yn y flwyddyn 818. Gwel. Hanes y Cymry,' gan y Parch. O. JONES, tudal. 141. Tarddodd yr enw hwn oddiwrth blaid fawr o bobl oeddynt a'u trigle tua glenydd y Baltic, y rhai a elwid Anghels, neu Angles, felly gelwir hi yn "Ynys yr Eingyl."
Gelwid Môn hefyd yn "Ynys Dywell," mewn cyferbyniad i agwedd gwledydd diwylliedig. Fel yr oedd parthau deheuol Prydain Fawr yn cynyddu yn eu poblogoeth, yr oeddynt hefyd yn cynyddu yn naturiol yn mhob cyfeiriad. A phan luosogodd y boblogaeth yn rhandiroedd uchaf Gwynedd, symudasant yn mlaen; a phan ddaethant at ochrau sir Gaernarfon, gyferbyn a'r ynys hon, a gweled ei bod yn orchuddiedig gan goed, yn naturiol dywedasant—"Dyma Ynys Dywell." (Here is a dark Island.) Dywed eraill iddi gael ei galw felly am mai yma yr oedd prif eisteddle y Derwyddon, y rhai oeddynt yn dewis rhodfeydd tywyll dan dderw cauadfrig i aberthu i, ac i alw ar eu duwiau; yr hyn sydd yn gwirio y syniad am dani fel y "dark and shady Island." Yr oedd Môn y pryd hwn yn llawn o lwyni pendewion, a hyny yw meddwl y bardd pan y dywed:
"Nos da i'r Ynys Dywell,
Ni wna oes un Ynys well."
Drachefn, y mae yn cael ei galw yn "Fôn mam Cymru," am ei bod yn noddfa i ffoedigion, yn ffynonell dysgeidiaeth, ac yn gysegrfa crefydd—gwel 'Hanes y Cymry,' gan y Parch. O. JONES, tudal. 53.
Giraldus Cambrensis, yn y ddeuddegfed ganrif, sydd yn rhoddi y darnodiad o honi dan y term o Famaethfa Cymru " (Nursery of Wales), neu yn ol eraill, "Mamaeth Cymru" (the nursing Mother of Wales). Gelwid hi wrth yr enw hwn oherwydd ei bod yn cynorthwyo gwledydd eraill Cymru gyda grawn, &c., yn amser prinder. Dywed Mr. Rowlands, yn ei bortrëad amaethyddol o'r wlad yma, y byddai y trigolion yn cadw eu hanifeiliaid i mewn yn y nos, a chanol dydd, am yspaid penodol, er mwyn i'r bugeiliaid gael hamdden i orphwys: oblegyd y pryd hwn nid oedd clawdd i'w weled yn yr holl wlad, ac yr oedd y gofal yma yn rhwystro i'r anifeiliaid sathru a dyfetha ei chnydau; ac felly gallu ogid Môn i anfon digon i gynorthwyo gwledydd eraill o rawn, &c., fel ag i gyflawn haeddu a theilyngu yr enw "Môn mam Cymru."
Gelwir trigolion yr ynys yn "Foch Môn," i'w diystyru: dywed traddodiad iddo darddu oddiwrth eu dull yn crefydda yn y canoloesau. Ceridwen, fel duwies llawnder, a ddarlunid yn y cymeriad o hwch; ei hoff ddysgybl a elwid porchellan; ei harchoffeiriad a elwid twrch, neu gwydd -hwch—sef baedd y llwyn; ei hoffeiriaid a elwid meichiaid, neu geidwaid moch; a'i chynulleidfaoedd yn foch: ac felly cyfenwyd y Monwysion "Moch Mon." Gwel "Hanes y Cymry," gan y Parch. O. JONES, tudal. 23.
Dosranwyd Ynys Mon er yn foreu yn dair cantref; a'r rhai hyny ydynt, cantref Rhosir, cantref Aberffraw, a chantref Cemaes: pa rai drachefn a ddosranwyd yn ddau gwmwd bob un, y cyntaf yn cynwys Cymydau Menai a Tindaethwy, yr ail yn cynwys Malltraeth a Llifon, a'r trydydd yn cynwys Twrcelyn a Thalybolion. Olrheinir yr hanes rhagllaw yn y drefn uchod, trwy ddechreu yn Nghantref Rhosir, gan chwilio am dardd iad ac ystyr enwau y gwahanol leoedd.
CANTREF RHOSIR
Cantref Rhosir a adnabyddir wrth luaws o wahanol enwau. Geilw rhai y lle yn Rhos -fair, oddiwrth eglwys fechan a gysegrwyd i St. Mair. Eraill a'i galwant yn Rhos-aur, neu Rhos-ffair, oddiwrth y rhos sydd yn agos yno, yn mha un y cynhelid ffair yn yr hen amser. Ond dywed y "Mona Antiqua," a'r " Topographical Dictionary of Wales," gan Mr. LEWIS, fod yn fwy tebygol mai y gwir enw yw Rhos-hir, yr hwn sydd yn fwy henafol na'r un o'r enwau a nodwyd, a hyny yn fwy cydweddol ag ansawdd y lle; oherwydd dywedir fod Morfa hir yn rhedeg oddiwrth Newborough i fynydd Llwydiarth, neu yn briodol, Mynydd-yr-arth-lwyd. Y mae y rhos hon oddeutu naw milltir o hyd, ac yn rhedeg trwy y ddau gwmwd, y rhai yn ol pob tebygolrwydd a alwyd yn Rhos-hir, ac yna rhoddwyd yr enw hwn ar y gantref oll.
Y ddau gwmmwd sydd yn sefyll yn nghantref Rhosir ydynt Tindaethwy a Menai.
Terfynau cantref Rhos-hir (Newborough):—Dywed WILLIAM JONES, Ysw., yn y Gwyneddon," fod y terfynau hyn yn afreolaidd, ac yn cynwys Rhos-colyn, Sybylldir, a Bryngwallan. Y terfyn deheuol sydd yn ymestyn oddiwrth Aber Pwll Ffanogl, yn mlaen hyd ochr y dwfr i Aber Menai; yna yn mlaen hyd ochr glan y mor i Llanddwyn Point; oddiwrth Porth Dwynwen, a'r gareg a elwir Careg Gwladus, yn mlaen hyd derfyn rhwng Menai a Malltraeth; oddi yno i Rhy-y-wraig Mill, a therfynfaes yn agos i Trefgarnedd uchaf; ac oddiyno hyd afon Gefeni i Nant Hwrfa: oddiyno heibio Rhos-tre' Hwfa i Rhyd-y-Spardyn. Ac ä drachefn hyd afon Gefeni yn agos i Afrogwy, ac oddiyno i Llangwyllog a neuadd Coedana, a thrwy Tre-ysgawen i Lidiart Twrcelyn, ac i Bont Rhyd Owen. Eto, o Rhos-y-Groes i Ros-y-Meirch a Bryn y Crogwydd, ac yn mlaen trwy Gareg Eurgan, i ddechreu cychwyn o gornant fechan sydd yn rhedeg trwy Rhyd-y-Wraig; ac oddiyno yn mlaen at derfyn Llanffinan, i Felin Geraint-yr hon a elwir yn gyffredin Melin Pentraeth, yna ä yn mlaen i afon Ceint, ac i gornant Rhyd-Ceint; ac oddiyno dra chefn i bwll a elwir Gorslwyd. Wedyn ä yn mlaen i Ceryg Brudyn, ac oddiyno trwy Geryg (terfyn yn agos i Nant y Crwth) i afon Braint; ac oddiyno yn mlaen at ffrwd sydd yn llifo o amgylch Llwyn Ogen i Aber. Pwll Ffanogl-o'r fan y cychwynasom dynu llinell derfyn y Cantref.
CWMWD TINDAETHWY
Gellid yn hawdd tybio, ar ol dyfodiad dynion i'r ynys hon, wedi iddi gael ei diwyllio, ond nid cyn hyny, iddynt geisio cael gwybod am y porth neu a fynedfa yr aeth y rhai gynt drosodd, ac iddynt roddi yr enw Porth aeth-hwy ar y llefel y galwyd lle arall yn agos i Calais, yn Ffrainc, yn Portus Itius (porth eithaf), oddiwrth dyfodiad rhai drosodd i Brydain yn y lle hwnw. Tybir fod yr enw Porth-aeth-hwy" wedi tarddu oddiwrth ddyfodiad y Llywydd Rhufeinig Agricola, a'i fyddinoedd, i oresgyn ein gwlad; yr ystyr yw
" Mynedfa drosodd." Tybia eraill fod y gair yn cael ei gyfansoddi o'r geiriau aeth a gwy, h.y., " afon aeth us. " Dywed y diweddar Barch. P. B. WILLIAMS, Llan rug, awdwr y " Tourist's Guide through the county of Carnarvon," fel hyn am Borthaethwy: " This ferry,
probably took its name from the Hundred or division in which it is situated — Tindaethwy. " Y mae yn sicr fod y gymydogaeth, neu y rhan hon o'r ynys, yn
cael ei galw yn bur foreu wrth yr enw Tindaethwy. Y mae y gair Tin yn tarddu o'r ferf taenu (to spread); felly yr ystyr yw gwlad agored (plain open country.) Yn dilyn wele daflen o'r plwyfydd yn nghwmwd Tin
daethwy, a'r flwyddyn yn mha un yr adeiladwyd rhai o'r gwahanol eglwysi: Plwyf.
- Llandegfan—450 OC
- Beaumaris—200
- Llanfaes—700
- Llangoed—600
- Llan Istyn—620
- Llanfihangel Din Sylwy—
- Llanddona—610
- Pentraeth—600
- Llanddyfnan—590
- Llanbedrgoch—(anhysbys)
- Llanbedrmathafarneithaf 600
- Llansadwrn—600
- Llanfairpwllgwyngyll—
- Rhan o Tregaian—600
- Llandysilio—630
- Llanfairynghwmwd—
- Penmynydd—630
- Newborough—
PLWYF LLANDEGFAN
Cafodd y plwyf hwn yr enw yma ers oddeutu y bedwaredd ganrif, oddiwrth Tegfan, ŵyr Cadrod Calchynydd, ac ewythr Elian. Bu yn beriglor yn Mangor Cybi: ystyr yr enw—Trigfan deg neu brydferth. Yn nheyrnasiad Charles I. cymerodd rhyfel gartrefol le, ac anfonodd y llywodraeth fyddin o wŷr, dan lywyddiaeth y Cadfridog Mytton, i le o'r enw Garth Ferry. Ychydig o wrthwynebiad a gawsant i lanio, yn unig ymddangosai yr isgadben Hugh Pennant a'i fintai gerllaw Cadnant; ond y gelynion a dywalltasant eu hergydion arno o'r gwrychoedd, ac o lochesau y creigiau, fel y gorfu iddo encilio yn fuan. Gerllaw Porthaethwy, o fewn llai na milldir i Cadnant, yr oedd gwarchodlu cryf wedi eu cyfleu, dan lywyddiaeth dau o swyddogion; ond y rhai hyny a ffoisant mewn modd gwarthus, ac nid heb amheuaeth cryf am danynt eu bod yn euog o fradwriaeth; canys dywedir fod gair ar led ar ol hyny, fod un o honynt wedi derbyn haner cant o bunau gan y Maeslywydd Mytton yn mlaen llaw, am fradychu yr ynys a'i rhoddi i fyny; a bod haner cant arall mewn addewid ar ôl i hyny gymeryd lle, ond na thalwyd byth mo honynt. Gwel " Hanes y Cymry," gan y Parch O. Jones, a " Golud yr Oes," ar hanes Castell Beaumaris.
BEAUMARIS.—Gelwir y dref hon ar amrywiol enwau; ac o berthynas i'r enw hwn ceir amrywiol farnau. Myna un mai Bumaris ydyw; eraill mai Bimaris; y trydydd mai Beaumaris; y pedwerydd mai Beaumarish; y pum. ed mai Belio Mariseum; a'r diweddaf mai Bellum Aniscum: y mae yn anhawdd gwybod pa enw yw y mwyaf priodol. Y mae pleidwyr yr enw Bimaris yn sylfaenu eu credo ar sefyllfa y dref, sef yw hyny, rhwng dau-for (neu Bi-maris) am ei bod yn sefyll rhwng yr Irish Sea a'r St. George's Channel. "Corinthus-inter duo maria Acquaeum et Ionium unde Bimaris dicitur." Vide Desp. in Hor. Od. I. VII. 2. Myn eraill fod yr enw yn tarddu o'r ddau air Ffrengig, beau a maree Mor prydferth: tra y dadleua y blaid arall dros yr enw Beaumarish, neu "Y forfa deg;" yr hwn enw, meddir, a roddwyd arni gan Iorwerth I. Credir gan eraill fod yr enw Beaumaris yn gyfansoddedig o ddau wreiddyn-beau yn y Ffrancaeg, am brydferth, a maris yn Lladinaidd, yn dyfod o'r gair mare am for; ac felly mai yr ystyr yw—"Môr prydferth." Yn nesaf, gelwid hi mewn hen ysgrif-lyfr tra boreuol, yn "Gaer Athrwy," oddiwrth gwmwd Tindaethwy.
Gelwid hi hefyd yn Borth Wygyr. Tybia rhai mai at y lle hwn y cyfeirid yn yr hen driad canlynol:—"Tri porthladd breiniol ynys Prydain-Porth Ysgewin, yn Ngwent; Porth Wygyr, yn Mon; a Phorth Wyddnaw, yn Ngheredigion." O berthynas i darddiad yr enw hwn y mae gwahanol farnau: ymddengys i ni ei fod o'r un tarddiad a'r gair Dwygyr, ac os ydyw, dyma yr ystyr (yn ol syniad y Parch. O. JONES)—Porth gwaed gwyr;' oblegyd ei syniad ef am ystyr enw lle yn agos i Amlwch, sef Dwygyr, ydyw "Rhyd gwaed gwyr." Dywed Mr. R. EVANS, Trogwy, mai "Wigir" yw y gair, ac nid "Wygyr," ac os felly rhaid ei fod yn tarddu oddiwrth agorfa mewn coed, ac mai ei ystyr yw, "Porth y wig îr." Y mae hyn yn cydredeg yn naturiol ag ansawdd y lle yn y dechreuad; ac hefyd, yn gydsyniol hollol â llafar gwlad, â thraddodiad hen frodorion Amlwch a'i hamgylchoedd o berthynas i ystyr yr enw Dwygyr, sef "Dwy-wig-îr." Y mae yn y lle hwn olion llwyni o goed i'w gweled hyd heddyw. Y tir ar ba un y saif Castell Beumamaris, sydd ar ochr ogledd-ddwyreiniol y dref; perthynai i Einion, ap Meredydd Gruffydd, ap Ifan, ac Einion, ap Tegwared. Oherwydd fod y sefyllfa yn fwy manteisiol nag unrhyw le arall i'w adeiladu, gwnaed cytundeb rhwng Iorwerth I. a'r meddianwyr; ar yr amod fod iddynt hwy roddi i'r brenin y tir a berthynai iddynt yn Beaumaris, rhoddodd yntau diroedd yn eu lle iddynt hwythau a'u hiliogaeth dros byth, yn nhreflanau (townships) Erianell a Thre'rddol; y rhai hefyd oedd i fod yn rhydd oddiwrth ardreth. Pa fodd y daeth y brenin yn feddianol ar y cyfryw leoedd, nid yw yn hysbys.
Er mai ag ystyron geiriau yr ymdrinir yn fwyaf neill duol yn y traethawd hwn, dichon nad annyddorol fyddai ychydig grybwylliadau hanesyddol, y rhai sydd yn dwyn cysylltiad agos ac uniongyrchol a'r gwahanol leoedd. Y peth cyntaf a ddaw dan sylw mewn cysylltiad a Beaumaris ydyw, "Cyflafan y Beirdd," yr hon a gymerodd le yn ol gorchymyn Iorwerth I. Dywed rhai awduron diweddar gyda golwg ar yr hanes yma, na roddwyd beirdd Cymru erioed yn aberth i'r cledd gan Iorwerth. H. INCE, M.A., a sylwa, rywbeth yn debyg i hyn:—I'r dyben o ddiffodd yr yspryd rhyddid a feithrinid gan ganeuon y beirdd Cymreig, dywedir fod Iorwerth wedi eu galw hwy yn nghyd, a pheri iddynt oll gael eu lladd yn Nghonwy. Gwel "Ince & Gilbert's outlines of English History," tudal. 48. Eto, y mae amheuaeth yn ei feddwl yntau, canys ychwanega—"Y mae er hyn yn bwnc hanesyddol a amheuir." Tystia amryw o awduron hen a diweddar fod y gyflafan grybwylledig wedi cymeryd lle, tra y mae eraill yn tystio i'r gwrthwyneb.
Yr oedd у beirdd yn uchel eu bri yn amser y Derwyddon, ac wedi hyny yn mhlith y tywysogion Cymreig hyd ddyddiau Iorwerth I., yr hwn a dynodd oddiwrthynt y gynhaliaeth berthynol iddynt yn ol penodiad y tywysogion—sef eu tâl-gyflogau o'r llywodraeth, am yr hyn yr oedd y beirdd yn dra anniolchgar; ac ystyrient eu hunain dan fath o ferthyrdod, ac oddiwrth hyny tybiodd rhai i'r brenin Iorwerth eu merthyru mewn gwirionedd. Oherwydd nad oes enw unrhyw un a ferthyrwyd ar gael, nac un wybodaeth am neb o honynt a ddioddefodd y cyfryw ferthyrdod, na fydded i ni fod yn rhy barod i goelio y gwaethaf, ac i ddwyn camdystiolaeth yn erbyn y brenin. Y mae hanes fod Iorwerth yn byw am beth amser yn Nantlle, yn mhlwyf Llandwrog, sef yr amser yr oeddid yn adeiladu Castell Caernarfon neu o leiaf, pan oedd yn cael ei adgyweirio—a'r pryd hwnw yr oedd Gwilym Ddu o Arfon yn byw yn yr un plwyf ag ef: a'r adeg hon hefyd y canodd ei awdl ardderchog i Syr Gruffydd Llwyd, o Drefgarnedd, yn Mon-ac yr oedd yn byw yn aml yn Dinorwig, sef y Llys.
Ymunodd Syr Gruffydd Llwyd a Madog, mab ordderch i'r tywysog Llewelyn, i godi yn erbyn trethiad Iorwerth ar y Cymry, y rhai y pryd hwnw a ruthrasant i dref Caernarfon ar ddiwrnod ffair, ac a laddasant bob Sais o'i mewn; torasant ben Syr Roger de Poleston, yr hwn oedd y pen-trethydd. Yn ngwyneb hyn, daeth Iorwerth i Gymru, a daliodd y penaethiaid Cymreig yn y gwrthryfel yma, a maddeuodd iddynt eu holl wrthryfelgarwch, ar yr amod na byddai iddynt gyfodi yn erbyn ei lywodraeth ef mwy, ac os gwnaent felly drachefn, bygythiai y byddai iddo ddifodi y Cymry, fel cenedl, oddiar wyneb y ddaear; ac ni wnaeth â Madog, y pen gwrthryfelwr, ond ei garcharu dros ei oes yn y Tŵr yn Llundain. Dyma brawf amlwg o dynerwch y brenin, ac efallai gormod prawf i neb feddwl y buasai y cyfryw un yn merthyru y beirdd mewn gwaed oer, am ganu ychydig i'w penaethiaid: a phe buasai rhywun yn cael ei ferthyru, Gwilym Ddu fuasai hwnw,—oblegyd canodd ef yn lled annheyrngarol i'r Saeson, yn ei awdl i Syr Gruffydd Llwyd, panoedd ef ac eraill o'r penaethiaid Cymreig yn garcharorion yn nghastell Rhuddlan. Y mae'r awdl i'w gweled yn yr "Archaiology of Wales," tulal. 409. Ond nid oes gair o son am ferthyrdod Gwilym Ddu, na neb arall o'r beirdd dan eu henwau priodol yn amser Iorwerth I.
Bonover.—Enw ar Borth Wygyr cyn i Iorwerth I. adeiladu y dref bresenol; y mae tarddiad yr enw yma yn anhawdd ei gael allan; ceir ar lafar gwlad amryw dybiau o berthynas iddo. Barna rhai fod iddo ddau wreiddyn, un yn dyfod o'r gair bôn, ystyr enw yr ynys, a'r llall o'r gair over, am drosodd, yn dangos ei chyflead yn ei chysylltiad ag afon Menai; ac mai yr ystyr yw; yn ol ieithwedd rhai yn sefyll ar lan yr afon Menai yn Arfon—"Môn dros yr afon." Tybia eraill ei fod wedi tarddu oddiwrth orchymyn Egbert, brenin y Saeson, ar ol brwydr Llanfaes. Fel y sylwyd eisoes, gorchymynodd Egbert, na elwid yr ynys wrth yr enw Môn byth mwy, ond wrth yr enw Anglesey, felly oherwydd fod yr hen enw wedi myned heibio galwyd y lle wrth yr enw "Mon Over" Eraill a ddywedant fod iddo darddiad Rhufeinaidd, oddiwrth enw cyffredin ar foneddigesau yn eu mysg. Hefyd, yr oedd yn enw ar un o'u duwiesau Bona Dia-yr hon yr oeddynt yn ei haddoli, fel y tybir, wedi iddynt oresgyn yr ynys hon. Ystyrid hon fel ffynhonell rhinwedd a diweirdeb; ei haberth cymeradwy fyddai hwch mochyn; a gweinyddid y swydd offeiriadol gan fenywod. Y mae bono yn tarddu o'r gair bonos (neu melior) am dda, neu rinwedd; a ver yw tarddell (spring), ac felly yr ystyr yw "tarddell rhinwedd".
Porto Bello.—Y mae y lle hwn yn sefyll yn agos i Bonover—hen balasdy ydyw; ystyr y gair Porto yw porth, neu hafan; ystyr y gair Bello yw brwydr, felly yr ystyr yw "Porth y Frwydr." Tybia eraill ei fod yn tarddu o ddau wreiddyn gwahanol—Porto yn Lladin am hafan, a Bello yn Ffrancaeg am brydferth; ac yn ol y syniad yna, yr ystyr yw "Hafan ddymunol, neu brydferth.
Baron Hill.-Preswylfod Syr R. W. BULKELEY. O berthynas i darddiad yr enw baron, tybia rhai ei fod wedi tarddu o'r gair breyr, a'r gair breyr yn tarddu o'r gwreiddyn Cymreig bre, sef bryn—yr hyn a arwydda un yn cynal ei lysoedd barn ar lethr bryniau yn yr awyr agored; ystyr Baron Hill yw " bryn y breyr." Dywed Lewys Dwnn, arch—Herodr cyffredinol holl Gymru o'r flwyddyn 1550 hyd 1580, mai pan oedd Fitshamon a'i farchogion yn cymeryd meddiant o wlad Morganwg, iddo glywed y trigolion yn galw eu hunain wrth yr enwau brenin Morganwg, brenin Gwent, brenin Dyfed, &c., iddo gyfansoddi gair yn ei iaith ei hun yn arwyddo'r un peth—" barwn," sef dyn o radd uchel—yn ol y Gymraeg, arlywydd, neu arglwydd. Ond feallai mai ei fenthyca a wnaeth o'r Almaenaeg, oblegyd Baron ydyw y gair yn yr iaith hono, os felly, yr ystyr yw "Bryn yr ar lywydd, neu arglwydd."
Adeiladwyd yr anedd-dy hwn yn 1618. Cyn yr amser hyn yr oeddynt fel teulu yn byw mewn lle o'r enw "Court Mawr," yn y dref; ac ar ol hyny, mewn tŷ arall oedd yn cael ei alw "Hen Blas." Trinwyd ac ail adeiladwyd Baron Hill gan y diweddar LORD BULKELEY, dan gyfarwyddid Mr. SAMUEL WYATT, arch-adeiladydd.
Gorsedd Migen.—Saif y lle hwn rhwng Cadnant a Beaumaris; ystyr yr enw yw "gorsedd enciliedig!". Tybir iddo dderbyn yr enw oddiwrth chwareuyddiaethau oedd yr arferedig yn yr hen amserau ar ddydd y Sulgwyn. Yr unig ddyfyrwch neillduol yn yr wyl hon fyddai dawnsio y gwrywiaid oll fyddai wrth y gwaith hwn, wedi eu trwsio ag ysnodenau, a clychau bychain wrth eu penliniau. Byddai dau o honynt bob amser yn fwy hynod na'r lleill, y rhai a elwid yn "Ffwl," a "Migen;" gwryw wedi ei wisgo mewn dillad benyw, oedd Migen, ac wedi duo ei wyneb, i gynrychioli hen wraches. Byddent eill dau yn dyfyru yr edrychwyr gyda cu castiau digrif; a Migen fynychaf fyddai yn derbyn arian gan y bobl, ac yn cadw y lluaws ymaith trwy fygwth eu taraw â lledwad; a thybir mai oddi wrth hyn y cafodd y lle ei enwi. Tybia eraill iddo dderbyn yr enw oddiwrth Meigen Hen—Meugan, ap Cyndaf Sant, gŵr o'r Israel—yr un, fel y dywed rhai, a Mawan y ganrif gyntaf. Efe a wnaeth gapel Meugan Hen, yn Mhorthwygyr (Beaumaris), ac yn agos i orsedd Migen.
Cadnant.—Ystyr y gair yw, "Nant y Gad," lle y bu brwydr waedlyd ryw bryd.
Y mae Beaumaris yn fwrdeisdref hyfryd, a phrif-dref Mon. Saif mewn lle prydferth gerllaw y mor, ac oddi yma ceir golygfa ardderchog ar fryniau Caernarfon. Y mae llywodraethiad y dref hon mewn meddiant Corphoriaeth a wnaed trwy weithred seneddol yn ddiweddar, yn gynwysedig o Faer, pedwar Henadur, a deuddeg Cynghorwr, yn nghyda Swyddogion cynorthwyol eraill. Gwethrediadau y gorphoriaeth a wneir yn neuadd y dref, a chynhelir yr assizes yn llys y wlad ddwy waith yn y flwyddyn. Cynhelir llys gwladol, yr hwn sydd yn meddu llywodraeth dros holl wlad Fon, yn Llangefni, er codi dyledion o unrhyw swm heb fod uwchlaw £ 50. Hefyd, ceir yma ymdrochle gyfleus, a fynychir gan filoedd o ddyeithriaid yn nhymor yr hâf, o wahanol barthau y deyrnas. Y mae dau westy ardderchog yn heol y castell, a elwir Bulkeley Arms Hotel, a Liverpool Arms Hotel, y rhai ydynt dra chyfleus i ddyeithriaid. Yn y gwesty cyntaf crybwylledig y lletyodd ei Mawrhydi y Frenhines Victoria am dair wythnos, yn nghyd a'i hurddasol fam, yn y flwyddyn 1832. Hefyd, bu Brenhines Ffraingc a'i gosgorlu yma yn Awst, 1855, yn aros am fis, a gwellhaodd ei hiechyd yn fawr yn yr ysbaid fer hon. Adeiladwyd yma Pier gyda thrael ynghylch 5000p, trwy gynorthwy yr hwn y galluogid y teithwyr i dirio o'r agerlongau yn uniongyrchol i heolydd y dref. Dinystrwyd hwn trwy ddamwain ers ychydig flynyddau yn ol; ond prif gefnogwyr y lle a ffurfiasant yn gwmpeini er adeiladu un newydd llawer ardderchocach a mwy cyfleus; a bydd y drael o'i ail adeiladu yn fwy o lawer na'r cyntaf. Bydd yn gaffaeliad mawr i'r dref, yn gymaint nad yw y rheilffordd wedi talu ymweliad a'r lle hyd yn hyn.
Cysegrwyd eglwys y plwyf i St. Mary a St. Nicholas. Anrhegwyd hi a chloch uchelsain gan y diweddar Arglwydd Bulkeley, yn y fl. 1819. Y fywioliaeth eglwysig sydd Berigloriaeth-rhôdd Syr Richard Bulkeley Wms. Bulkeley, Bar. Y mae yma leoedd addoliad hefyd gan y Bedyddwyr, Annibynwyr, Trefnyddion Calfinaidd a Wesleyaidd. Dechreuodd y Methodistiaid eu hachos yma yn y fl. 1800. Ceir fod yma dri neu bedwar o frodyr, ac ychydig o chwiorydd, yn ymgynull mewn tŷ bychan gwael iawn. Ar ol i'r Parch Richard Lloyd fyned yno i fyw, cynyddodd yr achos yn gyflym; fel erbyn heddyw y mae yma ddau gapel prydferth-un at wasanaeth Cymraeg a'r llall at wasanaeth Saesoneg. Dechreuodd yr Annibynwyr eu hachos crefyddol yma oddeutu y fl. 1750. Dyoddefodd y pregethwyr a ddaethant yma rhwng y blynyddau 1750 a 1760 y triniaethau mwyaf ffiaidd a chreulawn, fel y mae yn syndod eu bod wedi gallu diangc heb eu lladd. O berthynas i ddechreuad achos y Bedyddwyr a'r Wesleyaid, y mae yn anhysbys i mi.
Y sefydliadau elusenol penaf yn y dref hon ydynt, yr Ysgol Ramadegol Rydd; hefyd, un yn cael ei chario yn mlaen ar gynllun Cenedlaethol. Adeiladwyd a gwaddolwyd y gyntaf yn haelionus gan Dafydd Hughes, Ysw., yn y fl. 1603, i goffadwriaeth yr hwn y gosodwyd cof golofn odidog yn nghangell yr Eglwys. Hefyd, addawodd Robert Davies, Ysw., Menai Bridge, 2,000p. os bydd i'r sefydliad aros yn y lle yma: ond os newidir ei le i ganolbarth y wlad, y bydd iddo roddi 5,000p! Y mae yr achos heb ei benderfynu eto.
Oddeutu haner milldir oddiwrth y dref, y mae craig yn cael ei galw yn China Rock, o'r hon y gwneir llestri china. Cynhelir y farchnad ar ddydd Sadwrn, a'r ffeiriau ar Ion. 13eg, Iau Derch, Medi 19eg, a Rhag. 19eg. Poblogaeth y fwrdeisdref yn y fl. 1871 yw 2358; rhif yr etholwyr yn 1832 oedd 329; ac yn y fl. 1866 yr oeddynt yn 558. Cyfanswm ardreth yr eiddo anghyffro yw, 37,874p., a'r swm a delir i'r faeldreth yw 1,770p. Yr aelod seneddol presenol yw yr Anrhydeddus W. Owen Stanley, mab i'r diweddar Arglwydd Stanley, o Alderley: y mae yn ystus heddwch, ac yn rhaglaw dros y sir (Lord-lieutenant). Bu yn swyddog milwrol unwaith, rhyddfrydwr yw mewn gwleidyddiaeth. Ei breswylfod yw Penrhos, Caergybi; a'i oedran yw 70.
Poblogaeth yr ynys yn f. 1871 ydyw.54,609. Rhif yr, etholwyr yn y fl. 1832 oedd 1,187; ac yn 1866 yr oedd ynt yn 2,352. Cyfanswm ardreth yr eiddo anghyffro yw 172,156p. a'r swm a delir i'r faeldreth yw 6,896p. Yr aelod preşenol dros y sir yw R. Davies, Ysw. Cyn y f. 1868, Syr Richard B. W. Bulkeley, Barwn., o Baron Hill, Beaumaris, oedd yr Arglwydd-raglaw dros y sîr. Bu hefyd yn aelod seneddol dros y fwrdeisdref o 1830 i 1833, a'r sîr o 1833 i 1837; a dros swydd Ffint o 1841 i 1847; ac oddiar hyny hyd y fl. 1868, dros Fôn. Proffesa fod yn rhyddfrydwr. Ei oed yw 71.
PLWYF LLANFAES
Saif y plwyf hwn oddeutu milldir i'r gogledd o Beaumaris. Cysegrwyd yr eglwys i St. Catherine, yn y fl. 700, & sylfaenwyd y Priordy yn y fl. 1237, gan Llewelyn ap Iorwerth. Bu farw ei wraig Joan, sef merch у brenin John, a chladdwyd hi yma yn y fl. 1237. Ceir darlun o honi yn Nghaerlleon heddyw; a dyma gopi o'r argraff sydd arno:
"This Antique and beautiful Oil Painting, was given by
SIR ROBERT W. BULKELEY, BART.,
of Baron Hill,
To STEVEN EVANS.
His Grandson Steven Roberts has caused it to be thus restored,
There is strong reason to believe this Portrait to represent
Princess Joan, the Consort of Llewelyn ap Iorwerth,
who was interred at Llanfaes Abbey,
1237."
Cleaned lined and restored
by Robert Wilson Williams,
Menai Bridge Town, 1853.
Oddeutu y fl. 818, bu yma frwydr waedlyd rhwng Egbert brenin y Saeson, a'r Cymry, yn amser Merfyn Frych. Tardda enw Llanfaes oddiwrth y ffaith fod yr eglwys wedi ei hadeiladu ar y maes lle bu y frwydr grybwylledig.
Cododd Llewelyn ap Iorwerth gofadail coffadwriaethol i fedd ei brïod Joan, o barch iddi hi ac i'w thad. Hefyd, dywedir fod mynachlog i Franciscan Friars wedi ei godi ar fedd Joan, yr hwn a gysegrwyd i St. Francis, gan Howell, Esgob Bangor, a llywydd y priordy yn y fl. 1240; ac yn y flwyddyn hon y bu farw yr Esgob hwn, yn nghyd a Llewelyn ap Iorwerth. Bu yn lle o sylw mawr fel man claddedigaeth yn yr hen amser. Claddwyd yma amryw farwniaid a marchogion, y rhai a laddwyd yn rhyfeloedd y Cymry. Tra parhaodd gwrthryfel y Cymry, o dan Madoc yn nheyrnasiad Iorwerth I., llosgwyd y lle hwn i'w sylfaeni gan y terfysgwyr, a pharhaodd yn adfeiliedig hyd nes yr adgyweiriwyd ef gan Iorwerth II.; yr hwn mewn ystyriaeth o'r anffawd a ddyoddefwyd gan y myneich, a faddeuodd iddynt y tâl dyledus o 12p. 108., y rhai a delid i'r goron yn flaenorol i'r frwydr hon. Bu myneich Llanfaes yn ffafriol i wrth ryfel Owain Glyndwr yn erbyn Harri IV., yr hwn mewn dial am yr ymddygiad yn yr ymgyrch cyntaf yn erbyn Owain, a anrheithiodd y crefydd-dŷ, a lladdodd amryw o'r myneich â'r cledd, a chludodd y gweddill yn garcharorion. Ar ol hyn rhyddhawyd hwy ganddo. Hefyd, adferodd y priordy hwn i'w hen ragorfreintiau a'i feddianau cyntefig; ond ar yr un pryd, gosododd ynddo fyneich o waedoliaeth Saesnig. Wedi hyn, ymddengys i'r lle hwn dderbyn niwaid oddiwrth rhyw ddyhirod, neu iddo syrthio i adfeiliad: ond adferwyd fe drachefn trwy fraint ysgrif Harri V. Trefnodd hwn fod y sefydliad i gynwys wyth myneich, ac o'r rhai hyn yr oedd dau o frodorion Cymru. O'r ysbaid hwn, parhaodd ef yn flodeuog hyd y dadgorphorwyd ef. Yny cyfnod yma, ystyrid ei ardreth yn 96p. 13s. 2g. Rhoddodd Harri VIII., yn y flwyddyn deuddeg-ar-hugain o'i deyrnasiad, y lle hwn yn anrheg i Nicholas Brownlow, a phrynwyd ef wedi hyn gan deulu White, y rhai nid ydynt ar gael yn bresenol.
Yn y fl. 1832, adnewyddwyd ac eangwyd y lle yn fawr gan ei berchenog-Syr R. B. Williams Bulkeley, Barwn., yr hwn yn achlysurol a drigai yma. Gelwir y lle yn Friary, oblegyd ei fod yn sefyll ar safle yr hen briordy. Yn y f. 1870, uwch ben y porth bwäog yn y cyntedd nesaf i mewn, yr oedd tarian yn cynwys Eirbais Collwyn ap Tagno, Arglwydd Eifionydd ac Ardudwy-sylfeinydd un o bymtheg llwyth Gwynedd, a chyn rhïant teulu White. Yn ngwaelod y darian y mae argraff y fl. 1623. Tybir fod cyfeiriad y flwyddyn hon at adeiladiad y lle yma ar y dechreu gan y teulu hwn.
Y fywiolaeth eglwysig sydd guradiaeth yn Archddeoniaeth Môn ac Esgobaeth Bangor. Gwaddolwyd hi gyda 400p. o roddion Seneddol; a dywedir ei bod wedi ei rhoddi dan nodded Syr R. B. Williams Bulkeley, Barwn, yn y fl. 1832. Gwel "Topographical Dictionary of Wales," gan Samuel Lewis.
Adgyweiriwyd yr eglwys hon yn y fl. 1811, ar drael Arglwydd Biscan Bulkeley, a chysegrwyd hi i St. Catherine. Hefyd, y mae yma elusendy i ddeg o dynion tlodion; ond yn ol y Parch OWEN JONES, i wyth o ddynion. Sylfaenwyd ef gan David Hughes, o Woodrising, yn swydd Norfolk, yn y f. 1609. Yr oedd y tlodion hyn i gael dwy ystafell bob un, a chymorth o chwe' swllt yn wythnos bob un, a chwe' llath o frethyn tewban bob un yn flynyddol a'r ddydd Gwyl Domos; tri o'r rhai fyddent i gyfranogi o'r elusen hon i gael eu dewis o blwyf Llantrisant, lle y ganwyd y rhoddwr: dau o blwyf Rhodwy-geidio, dau o blwyf Llechgynfarwy; ac un o blwyf Ceidio. Ac wedi darparu ar gyfer y rhai hyn efe a drefnodd, os byddai yn weddill, ar iddo gael ei ranu rhwng tlodion Llantrisant.
Hefyd, rhoddodd Lady Bulkeley 1000p. yn gymunrodd o dan ymddiriedaeth Archdeoniaeth Môn, ynghyd a gweinidog Llanfaes, i rann eu llôg rhwng tlodion Llanfaes. Wrth dramwyo rhodfeydd prydferth Baron Hill, ceir golwg ar arch-faen y Dywysoges Joan, neu Joana, priod Llewelyn ap Iorwerth, tywysog Gwynedd, yr hon â gladdwyd yn Mhriordy Llanfaes, fel y crybwyllwyd uchod. Wedi dadgorfforiad y mynachdai, bu yr arch hon am oddeutu dau cant a haner o fl. yn gafn dwfr i ddiodi anifeiliaid, heb fod neb yn gwybod i ba beth y gwnaed hi ar y cyntaf. Ond, fel yr oeddynt yn chwalu rhyw hen adfeilion er gwneuthur rhyw gyfnewidiadau ac ad gyweirio tua'r Friars amryw flynyddoedd yn ol, dargan fyddwyd cauad yr arch. Yna deallwyd mai arch y Dywysoges ydoedd y cafn dwfr; a'r diweddar Arglwydd Bulkeley a adeiladodd deml yn ei barc er anrhydedd i goffadwriaeth y dywysoges, yn yr hon y parodd gyfleu yr arch i'w chadw yn ddiogel ac yn barchus.
Porth Lleiniog.—Y tebygolrwydd ydyw i'r lle hwn gael ei alw oddiwrth enw person. Y mae lle arall yn nghwmwd Menai o'r enw Cell Lleiniog. Ychydig bellder oddiwrth y pentref y mae Castell Aberlleiniawg amddiffynfa bedair-onglog fechan, gyda gweddillion tŵr crwn ar bob ochr, ac wedi ei amgylchu gan ffos. Sylfaenwyd yr amddiffynfa hon yn fl. 1096, gan Hugh Lupus, Iarll Caerlleon, a Hugh, Iarll yr 'Amwythig. Ymgyngrheiriodd y ddau hyn, ac unasant eu galluoedd milwrol i ymosod ar Wynedd i'w thrawsfeddianu yn gyflawn. Wedi i fyddin gref lanio yn Nghadnant, hwy a anrheithiasant y gymydogaeth hon hyd Benmon-Castell Aberlleiniawg, neu yn awr "Castell Lleiniog." Ac yno adeiladasant, ef er cadw y ddyfodfa i Afon Menai, a darostwng yr ynyswyr i'r cyflwr isaf o gaeth-ddeiliaid, gan gyflawni y creulonderau mwyaf ysgeler ar lawer o honynt. Gwel y Typographical Dictionary of Wales,' gan Lewis, &c.
Defnyddir y gair cell yn yr Iwerddon, yn gyfystyr a "Llan," neu eglwys, megys cell, mannoc, cell congail, cell Tucca, &c. Cysegrwyd capel yma yn yr hen amser i St. Mair, a Lleiniog.
Pen Môn.—Saif y lle hwn tu draw i gastell Aberlleiniawg. Gelwir ef mewn cof-lyfrau Cymraeg, wrth yr enw "Glanach;" y mae ei safle ar ochr y môr, yn y cwr pellaf o'r ynys-fel y mae'r enw yn arwyddo. Oddeutu milldir o'r lan neu Glanach mae ynys fechan Priestholme,
PLWYF LLANGOED
Saif y plwyf hwn oddeutu dwy filldir o Beaumaris; a gorwedda yr eglwys mewn lle neillduol o brydferth. Cysegrwyd hi yn y chweched ganrif i Cawrdaf yn Ngwent. Sant oedd o Fangor Illtyd, yr oedd ganddo eglwys arall yn Abererch, yn Arfon: geilw rhai ef yn St. Cawrdd. Y mae yr enw uchod yn arwyddo—Eglwys mewn coed, a derbyniodd yr holl blwyf yr enw oddiwrth yr eglwys.
PLWYF LLANIESTYN.
Saif y lle hwn oddeutu milldir a haner i'r gogledd o Langoed. Cysegrwyd yr eglwys hon i Iestyn ap Geraint, ap Erbyn, ap Cystenyn, & c., yn y chweched ganrif. Cafodd y plwyf hwn ei enw am fod orllewin yr eglwys wedi ei chysegru i'r Iestyn yma.
Pen-yr-Orsedd.—Lle, ond odid, y cynhelid y llysoedd neu brawdlysoedd, gan y barnwyr yn yr hen amser.
PLWYF LLANFIHANGEL-DIN-SYLWY
Ymddengys fod enw y plwyf yma yn tarddu oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i St Michael: ac oddi wrth y Castell oedd gan yr hen Frythoniaid, yr hwn a fu yn ddefnyddiol i'r Rhufeiniaid yn y cwr yma o'r ynys.
Gelwid ef "Din," neu "Dinas Sylwy," h.y., castell i edrych allan neu i wylio. Gelwid yr amddiffynfa hon yn "Fwrdd Arthur;" ystyr y gair Arthur yw dyn cryf. Rai blynyddau yn ol cafwyd yma amryw ddarnau o arian bathol, a rhai eilunod Rhufeinig.
PLWYF LLANDDONA
Saif y plwyf hwn rhwng Llan Iestyn a Llanfihangel-Din-Sylwy, ac yn agos i'r ffordd sydd yn arwain o Beaumaris i Bentraeth. Cysegrwyd yr eglwys i St. Dona, ap Selyf, ap Cynan, Carwyn ap Brochwe! Togythrog, yn y seithfed ganrif. Derbyniodd y plwyf yr enw uchod oherwydd fod yr eglwys wedi ei chysegrui St. Dona. Tybir gan rai ei fod o'r un ystyr a'r gair Donum, am rodd, ac mai ei ystyr yw Rhodd-Lan.
Cremlyn.—Enw ar ffermdy yn mhlwyf Llanddona; tybir fod yr enw yma yn tarddu o'r gair Cremium, "flesh fried in a pan". Seilir y dybiaeth ar ansawdd y lle sydd ar gyffiniau Din-Sylwy a Llanddona. Dywedir fod yno greigiau noeth a serth ar lan y môr, (gelwir y lle "Nant Dienydd," a'r traddodiad yw, y rhoddid y Cristionogion i farwolaeth yma, yn y cyn-oesau, trwy eu rhoddi mewn barilau, trwy y rhai y byddai picellau hirion wedi eu gyru—blaenau llymion pa rai a rwygent gnawd y trueiniaid mewn modd dychrynllyd—ac wedi hyny treiglid hwy dros y dibyn i'r môr! Felly gellir casglu fod Cremlyn yn enw ar le oedd gan Eglwys Rhufain i ferthyru y Cristionogion trwy beirianau berwedig.
Tybia ROWLANDS (Mona Antiqua) fod y gair yn dynodi rhai pethau oedd yn perthyn i'r aberthau, heblaw yr allorau ceryg. Dywed fod y cyfryw enwau yn awr wedi myned yn hollol anarferedig, ac wedi colli a myned i dir anghof; oddieithr mewn un neu ddau o leoedd, y rhai a elwir Cremlwyn neu Cremlyn, fel y mae yn cael ei seinio yn y cyffredin. Mewn un o'r lleoedd hyn y mae ceryg cofadail a chromlech yn sefyll, y rhai a ddengys y bu yma wasanaeth hynod rywbryd.
Pugan (neu Pugna).—Yn y plwyf yma y mae olion hen gapel i'w gweled, y rhai a elwid oddiwrth y lle yn "Gapel Pugna"; ystyr y gair yw brwydr, neu ymdrech.
PLWYF PENTRAETH
Gelwid Pentraeth hefyd wrth yr enw Llanfair-Bettws-Geraint. Y mae enw Pentraeth yn arwyddo—The head, or upper end of the sandy beach, or bay; "Traeth Coch", neu the red sands; ac weithiau Red Wharf Bay: tardda yr enw Bettws Geraint oddiwrth Ceraint (neu Gerimius), wŷr Constantine, Duc Cornwall, a dilynydd y brenin Arthur. Bu Geraint yn llyngesydd yn y llynges Brydeinig, a thrwy hyny, ar rai achosion, yn achlesu yn yr ynys hon; a bu hyn yn foddion i'w dueddu i adeiladu eglwys Pentraeth, yr hon a elwid Llanfair-Bettws Geraint ar ei enw. Cysegrwyd hi i St. Mair, oddeutu y chweched ganrif.
Mewn llythyr a ysgrifenwyd gan Dafydd Ddu i'r "Cylchgrawn," yn y fl. 1793, geilw yntau y lle wrth yr un enw; dichon fod gan y bardd reswm digonol dros ddefnyddio yr enw hwn, gan fod llyfrgell y boneddwr Paul Panton, Plasgwyn, yr hon a gynwysai holl lyfrau a llawysgrifau Ieuan Brydydd Hir, at ei wasanaeth ar y pryd.
Mae hen farwnad hefyd ar gael, yr hon sydd o amseriad tra boreuol, yn crybwyll am frwydr a ymladdwyd yn "uch Pentraeth," h.y., uwch Pentraeth.
Fod yma gyfeiriad at y lle hwn sydd yn bur debygol, a dyweyd y lleiaf, oddiwrth y ffaith fod y frwydr grybwylledig wedi ei hymladd yn agos i Cadnant; ac nid oedd dim yn fwy naturiol nag i brif faes yr ymdrechfa gael ei symud dair neu bedair milldir yn ystod y frwydr hon.
Bryn Herddin, neu "Bryn-hir-ddyn" fel yr ysgrifenid ef gan y Commissioners a anfonwyd i wneud ymchwyliad i'r hen waddoliadau. Mae yn anhawdd penderfynu beth achlysurodd i'r enw hwn gael ei roddi ar y lle. Tybia rhai iddo dderbyn yr enw oddiwrth Caswallon-llaw-hir. Dywedid y byddai ef yn ymweled â lle o'r enw Gadlys, rhwng Beaumaris a Phentraeth, ac iddo fod hefyd yn y lle hwn; felly galwyd y lle ar ei enw yn "Bryn-hir-ddyn." Mae lleoedd yn Mynydd Eilian, yn agos i Lys Caswallon, yn cael eu henwi "Caman hir," ac "Efra hir," oddiwrth yr un person. Ond y dybiaeth gryfaf yw i Bryn-hir-ddyn dderbyn yr enw oddiwrth Ieuan Brydydd Hir, yr hwn oedd yn dra hoff dalu ymweliad a Plasgwyn, Pentraeth, yn agos i'r lle hwn.
Rhyd-y-delyn, neu Rhyd-elyn, ond yn fwy cywir Rhyd Elen: rhyd ydyw afon, ac elen yw amaethdy. Y mae hwn yn lle tra hynafol.
Mynydd Llwydiarth.—Tardda yr enw hwn o'r geiriau llwyd ac arth, a'r ystyr yw, "Mynydd yr arth lwyd."
Y mae llyn ar yr ochr ddwyreiniol i'r mynydd, yn nglyn a'r hwn yr oedd traddodiad cyffredinol yn Nghymru, yn nghylch yr " Ychain Banog." Dywedid iddo gael ei gysegru i goffadwriaeth y dylif, ar lan yr hwn y cyflawnent eu defodau, trwy gyfleu ar wyneb y dwfr fath o ynys nofiadwy, goediog, yn yr hon byddai y coffr cysegredig a gynrychiolai yr arch, yn guddiedig. Yr ynys hon a dynid i dir gan ddau o'r ychain mwyaf allent gael yn yr holl fro, y rhai, o'r herwydd, a elwid "ychain banog"; a'r ddefod hon, debygir, yw yr hyn a elwid yn "tynu yr afanc o'r llyn." Y mae man ar y ffordd fawr o Bentraeth i Borthaethwy, a elwid "gallt y Plasgwyn," o'r lle y gwelir tair o lanau ar unwaith, sef Llanddyfnan, Llanbedrgoch, a Llanfair-Bettws-Geraint; y traddodiadau yw, i'r afanc a dynid gan yr "ychain banog," pan gyrhaeddoedd i'r llanerch dan sylw, a gweled tair eglwys ar unwaith, dori ei galon a threngu.
Tair Naid, ac Abernodrwydd.—Y mae y cyntaf yn enw ar faes bychan yn agos i Plasgwyn, a'r llall yn enw ar afonig fechan heb fod yn mhell o'r lle; ond nid adnabyddir hi wrth yr enw hwn yn awr. Yn y lle a elwir "Cae tair naid," codwyd tair o geryg ar eu penau er dynodi neidiadau Gwalchmai ap Meilir. Mae y traddodiad am y lle hwn rywbeth yn debyg i hyn:—Prïododd Gwalchmai ap Meilir aeres Plasgwyn; yn fuan ar ol y briodas, aeth y priodfab i ffordd, a bu am lawer o flynyddau heb ddychwelyd. Ni chlywodd neb o'r teulu yn y cyfamser ddim yn ei gylch, a chymerodd ei wraig yn ganiataol ei fod wedi marw, a chytunodd i brïodi drachefn; ond ar ddiwrnod y brïodas dychwelodd Gwalchmai yn ol. Cyn myned at y tŷ, canfyddodd rïan yn golchi rhyw ddilledyn yn Abernodrwydd, ac yn ystod yr ymddiddan fu rhyngddynt, dywedodd y rhïan mai golchi crys ei thad yr ydoedd, a hyny er coffadwriaeth am dano. Adroddodd yr holl hanes wrtho, a chanfyddai Gwalchmai mai ei ferch ef ydoedd hi; yna aeth i'r tŷ, a hawliodd y cyfan fel ei eiddo. Y diwedd fu i Gwalchmai a'r ail ŵr gytuno i derfynu y cweryl trwy un o fabolgampau yr hen Gymry, sef neidio.
Tranoeth aethant at y gorchwyl, a therfynodd yr ymdrech yn ffafr Gwalchmai ap Meilir, a chododd yntau feini yn y lle er coffadwriaeth am yr amgylchiad, y rhai sydd i'w gweled hyd heddyw. Yr oedd Gwalchmai yn fardd o fri yn ei amser, a chyfansoddodd englynion i'r amgylchiad, un o ba rai sydd fel y canlyn:
"Neidiais, a bwriais heb arwydd—danaf,
Wel, dyna feistrolrwydd;
A'r rhodd oedd yn ddigon rhwydd,
Wedi'r naid dros Abernodrwydd!"
Gelwid y lle oddiwrth yr amgylchiad hwn hyd heddyw yn "Dair naid."
PLWYF LLAN-DDYFNAN.
Saif y plwyf yma oddeutu chwe' milldir i'r gogledd. orllewin o Beaumaris. Derbyniodd ei enw oddiwrth Dyfnan ap Brychan Brycheiniog; yn y bumed ganrif cysegrwyd yr eglwys hon iddo: daeth yma o Rhufain oddeutu y fl. 180, i gynorthwyo dychweliad y Brython.- iaid at gristionogaeth; claddwyd ef yn yr Iwerddon. Dywed rhai mai ystyr yr enw Llan Ddyfnan yw, "Nant ddofn."
Heb fod yn mhell oddiwrth yr eglwys y mae olion hen ffordd Rufeinig i'w chanfod; ei lled yw o bedair a'r ddeg i bymtheg troedfedd. Mae yn rhedeg i'r gogleddorllewin yn nghyfeiriad Caergybi; a thybir iddi fod yn ymestyn unwaith o'r ffordd sydd yn arwain o lan y môr, yn mhlwyf Penmon, ac yn hollol ar daws y plwyf hwn, hyd yn agos i Tregaian Blas (Gaian ap Brychan). Y mae amryw leoedd yn y plwyf hwn yn dwyn enwau sydd yn dangos fod y lle yn meddu cryn hynodrwydd yn yr hen amser, megys Clyddyn, Plyddyn, &c.
PLWYF LLANBEDR-GOCH.
Saif y plwyf oddeutu saith milldir i'r gogledd-orllewin o Beaumaris. Yr un ydyw a "Llanbedr Mathafarn Gwion Goch;" gelwid ef felly, medd y diweddar hynafaethydd Sion William Prisiart, o Plas y Brain, am y bu yno dafarn gan un Gwion; a barna ef mai "Llanedr-medd-dafarn-Gwion Goch' ydoedd yr enw ar y decheu: a bod medd-dafarn arall yn agos i Llanfair, yr hwn elwid ar y cyfrif hwnw yn "Llanbedr Mathafarn Eithaf." Enwyd y lle hwn yn Llanbedr Mathafarn Gwion; h.y., clafdŷ Gwion Goch, neu, yn hytrach Inn, neu le i groesawu dyeithriaid gan Gwion.
Plas Gronwy.—Tybir i'r lle hwn gael ei enwi oddirth Gronwy ap Gwion. Yn lled agos iddo yr oedd Croes Wion": yr oedd yr hen gafn yn yr hwn y safai groes yn weledig oddeutu deng mlynedd yn ol, ar ben clawdd yn agos i'r ffordd sydd yn troi i Blas Ethelwal, a'r groes ei hunan yn gareg aelwyd, yn mhlas Gronwy Isaf.
Gerllaw y groes ddywededig, cedwid marchnad ers tua saith ugain mlynedd yn ol; yr hon, efallai, a ddechreuodd pan oedd crefydd-dy a elwir "Ysbytty Gwion " yn ei rwysg. Y mae adfeilion lluaws o adeiladau ar gael perthynol i Blas Gronwy, a elwid "Bryn-y-neuadd."
Y mae yn amlwg fod yma gladdfa hefyd yn rhyw oes: oblegyd wrth gloddio yn y lle, cafodd diweddar Morys Williams esgyrn dynol, a chareg wrth ei ben, ac un arall wrth ei draed: maluriodd yr esgyrn yn llwch wrth eu cyffroi,—ond yr oedd y dannedd yno yn berffaith. Mae yr hen adfeilion hyn yn gorchuddio tua haner erw o dir, rhwng Plas Gronwy a'r ffordd fawr. Ai tybed mai nid adfeilion yr hen grefydd-dŷ crybwylledig yw y rhai hyn?
Deallir fod un Gwy Ruffus, neu, fel y gelwid ef gan y Cymry, "Gwison Goch," yn Esgob Bangor, yn agos i ddiwedd y ddeuddeg fed ganrif, sef tua'r adeg y sefydlwyd y crefydd-dai a elwid "Ysbyttai," mewn amryw fanau yn y dywysogaeth. Dywedir iddo farw yn y f. 1199, pan etholwyd Giraldus Cambrensis, arch-ddiacon Brycheiniog, i esgobaeth Bangor; ond, efe a wrthododd yr anrhydedd a gynygid iddo. Gellir casglu oddiwrth wahanol seiliau fel hyn, mai dyma y "Gwion Goch" a adeiladodd yr Ysbytty crybwylledig, ac yr enwyd Llanbedr-goch oddiwrtho; hefyd, y mae lle a elwir "TyddynWion" ar ochr ogleddol ynys Môn, yn agos i Llanfairynghornwy, yn nghwmwd Tal-y-bolion, yn cael ei enw oddiwrth y Gwion yma. Yr oedd yn y gymydogaeth hono, pan wnaed yr Extent, etifeddiaeth a elwid "Gwely Gronwy ap Gwion," "Gwely Madog ap Gwion," a gwely Einion ap Gwion." Y mae yn dra thebyg mai ar enw y Gronwy uchod y galwyd yr hen blas Gronwy, ac efallai fod y mab Gronwy, am ryw yspaid, yn benaeth y sefydliad a gyfodasai ei dad.
Rhos-gad. Yr ystyr yw, Maes-y-frwydr.
Plas Brain.—Yn briodol, "Plas Bran;" enw ar ddyn oedd Bran, ac yn Llanddyfnan ceir esgobaeth Bran.
PLWYF LLANFAIRMATHAFARNEITHAF.
Y mae y plwyf hwn yn sefyll oddeutu naw milldir i'r gogledd-orllewin o Beaumaris. Dywed W. Jones, Ysw., yn y "Gwyneddon," am 1832, fel y canlyn:-Llan Fair Mathafarn Eithaf, i.e., St. Mary's of the Hospitium, (or house of entertainment at the extremity), is situated in the common of Tindaethwy, and hundred of Rhosir— a chapel not in charge to the rectory of Llan Ddyfnan, and dedicated to St. Mary. The resident population in 1801 was 453. At a place called Rhos-fawr, on the side of the said common, the celebrated Welsh bard-the Rev. Goronwy Owen, was born in 1822; he was educated at the Free School at Bangor, and sent to Jesus' College, Oxford. Dr. Edward Wynn, of Bodewryd, Chancellor of Hereford, defrayed the expense of his education, and has the merit of having brought this prodigy to light. Goronwy Owen, having been neglected at home, and struggling with difficulties, was tempted to expatriate himself, after singing so sweetly in praise of his native soil, and go to Williamsbugh, in America. The yearly value of this curacy, according to the diocesan report in 1809, was £65.
There is a cromlech at Marian Pant y Saer, Rhosfawr; in the churchyard is a modern carnedd, or a rude heap of stones, erected by Mr. Wynn, which has been on some years the place of interment for the family. There is a covered way, or hollow entrance to the vault under this mound, or heap of stones."
Am ystyr y gair Llanfairmathafarneithaf, gwel Llanbedr-goch.
PLWYF LLAN SADWRN.
Saif y plwyf hwn yn y rhan ddwyreiniol o'r ynys, ac oddeutu pedair milldir o Pont Menai. Cysegrwyd yr eglwys yn y chweched ganrif i St. Sadwrn hen, ap Ynys Gaer Gawch, sant o Bangor Asaf. Derbyniodd y plwyf yr enw oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i'r sant hwn.
Enw Cymraeg yw Sadwrn ar un o'r gau-dduwiau a addolid gan yr hen Frythoniaid, yn ogystal a'r rhan fwyaf o genhedloedd Ewrop ac Asia. Ystyr yr enw yw, "gŵr nerthol o fraich i ryfel:" y gwir enw yw Sawddwrn, Dywedir yn " Hanes Crefydd yn Nghymru," t.d., 158, am Sadwrn, mai mab Bicanys, a chefnder Emyr Llydaw, ydoedd.
Castellior.—Wedi i'r Cadfridog Rhufeinaidd Agricola oresgyn ynys Mon a'i harchwylio yn fanwl, efallai iddo adael ar ei ol rai cof-golofnau o'i enw. Yn y parth pellaf i'r gorllewin mae lle o'r enw "Criccill;" mae yn debyg fod yr hen Frythoniaid yn ei alw felly oddiwrth enw Agricola, fel y cafodd lle yn mhlwyf Llanidan ei alw yn Crug, neu Crig, oddiwrth yr un person. Sefydlodd Agricola gadrodau mewn dau o leoedd gwahanol yn yr ynys hon; gelwir hwy wrth yr enwau—Castellior, Dominorum castra (fortress of lords.) Y mae castell yn arwyddo amddiffynfa Rhufeinig, a iôr yn air yn yr hen Frythonaeg am arglwydd, neu lywydd; felly yr ystyr yw, "amddiffynfa yr arglwyddi." Heb fod yn mhell oddiyma ceir lle arall o'r enw Bodior, h.y., trigfa y llywydd. Hefyd, ceir lle arall eto yn nghwmwd Tal-ybolion, a elwir Presaddfed (praesidii locus—trigfa'r llywydd, neu lys barn y llywydd). Gwneir y gair i fyny mewn rhan o'r gair lladin, praesido-(llywydd); a gair Cymraeg seddfod, am lys barn, ac felly yr ystyr yw ' Llys barn y Llywydd."
PLWYF LLANFAIR-PWLL-GWYNGYLL.
Y mae y plwyf hwn yn sefyll oddeutu pedair milldir i'r de-orllewin o Fangor, yn nghwmwd Tindaethwy. Tardda yr enw mewn rhan oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Mair, a'i bod yn agos i drobwll dychrynllyd yn nghulfor Menai. Ffurfir y trobwll hwn gan ymchwydd y môr, yr hwn a dorir yn wyn ar y creigiau: pan ar drai isel, a dim ond y creigiau isaf wedi eu gorchuddio, bydd y môr-lanw yn rhuthro yn arswydus yn y lle hwn; oherwydd hyny y gelwid ef yn "Bwll-tro." Bydd yn beryglus i longau fyned yn agos iddo y pryd hyn—delir hwy weithiau gan y rhyferthwy (current), a hyrddir hwynt yn erbyn y creigiau sydd yn ymddangos uwchlaw y wyneb. Gelwid y lle hwn gan forwyr Cymru yn Bwll Ceris; ac edrychid arno ganddynt, fel yr edrychid ar Scylla a Charybdis gan forwyr Sicily. O berthynas i enw y lle hwn, sylwa un awdwr fel hyn:—"It should have been Keris, and not Ceris. In Mr. Vaughan, of Hengwrt's MSS of Nennius, it is "Pwll Kerist:" cerissa is only a fanciful derivation."
II. CWMWD MENAI.
Y mae y gair cwmwd yn tarddu o'r geiriau cyd a bod (to dwell together); ac o'r gair cwmwd y tardda y gair cymydog.
O berthynas i ystyr a tharddiad yr enw Menai, ceir amrywiol farnau, fel yr awgrymwyd ar y dechreu. Nid yw yr olrheiniad manylaf ond amcan-dyb ar y goreu. Cydnabydda yr holl hynafiaethwyr fod rhandir yn yr ynys hon yn cael ei alw wrth yr enw Cwmwd Menai; ond braidd y cydunant mewn dim arall o berthynas i'r lle. Tybiai Mr. Rowlonds, yn ei ymchwyliad i wreidd-darddiad yr enw hwn, iddo darddu oddiwrth y gair "Fretum," am gulfor sydd yn gorwedd rhwng Môn ac Arfon. Arwydda'r enw yn ei natur a'i ansawdd "narrow water," (main-au); hefyd dywed fod eau neu au yn y Ffrancaeg, yn sefyll am ddwfr. Parablir ef Maene neu Menai. Nid yw hyn yn anghredadwy, pan ystyrir fod y Rhufeiniaid wedi tori i lawr a newid llawer o enwau eraill oddiwrth eu seiniau dechreuol; nid yw yn annhebygol iddynt alw y dwfr hwn yn mæna, neu menai (h.y., Aqua Maenae), ac iddo mewn canlyniad gael ei alw felly hyd heddyw.
Hefyd, ceir amryw eiriau cyfansawdd yn terfynu yn au ac aw, y rhai a gynwys y meddylddrych o ddwfr, megys—Manaw (Isle of Man) Llydaw, (Armonica); Gene-au (Geneva) h.y., "genau y llyn," Llyn Llwydaw, yn sir Gaernarfon; Alaw, afon yn Môn; Gwlaw (rain.) Dywedir nad yw yn afresymol i ni dybied fod y gair au neu aw yn yr iaith Geltaidd yn arwyddo dwfr. Gellir hefyd, weithiau, ychwanegu y terfyniadau trwy gysylltu llythyren ychwanegol atynt, i amrywio ac i arwyddo rhyw neilluolrwydd, megys awy; fel y ceir yn yr Iwerddon awy-duff, am ddyfn-ddwr. Neu, yn fwy cyfyngedig wy, megys yn Nghymru, lle y mae yn derfyniad i amryw eiriau cyfansawdd am afonydd, megys Dyfrdwy, Y mae Elwy, Medwy, Lligwy, Conwy, Gwy, &c. yr engreifftiau a nodwyd yn sail digonol i'r dybiaeth yma o berthynas i ystyr yr enw Menai.
Mae yn amlwg fod yr enw main-au, neu yn fwy llygredig maene, yn cael ei fynych arfer a'i gymhwyso at amryw leoedd; ac, i gadarnhau hyn, nodir tri cul-for (fretum) o amgylch ynys Prydain, a elwir maene hyd y dydd hwn. Y mae y cyntaf yn Kent, ar gyfer Normandy, yn Ffrainc; yr ail yn sir Benfro, yn Nghymru; a'r trydydd yn agos i Mul of Galway, yn yr Ysgotland. Y Brythoniaid a alwant y culfor, lle yr anturiodd Cæsar i Brydain, wrth yr enw Pwyth, neu Porth meinlas, a dywedir fod y gair Groeg Limen yn cael ei wneud i fyny o ddau sill, lle a main; h.y., lle main—porth, neu ferry. Oddiwrth y sylwadau hyn am darddiad enw Menai, casglid yn naturiol mai main aw yw yr ystyr, fel y barnai Mr. Rowlands.
Am ychwaneg o fanylion yn nghylch tarddiad ac ystyr yr enw Menai, gwel "Mona Antiqua," tudal. 188.[1]
Taflen o'r plwyfydd yn ghnwmwd Menai, yn nghyd a'r flwyddyn yr adeiladwyd yr eglwysi:—
Plwyf. | O.C. | Plwyf | O.C. | |||
1 Llangeinwen | 600 | 11 Llanddwyn (Merch Brychain Brycheiniog Seren Ddydd y Cymry) |
500 | |||
2 Llangaffo | 600 | 12 Llanfihangel Ysgeifiog | anhysbys | |||
3 Llangefni | 620 | 13 Rhoscolyn. | 629 | |||
4 Rhan o Treguian | 141 | 14 Rhan o Llantrisant | 570 | |||
5 Llanidan | 509 | 15 Rhan o Llangwyllog | 601 | |||
6 Llanddeinioll Fab | 740 | 18 Rhan o Llanerchymedd | 403 | |||
7 Llanedwen | 610 | 17 Ceryg Ceinwen | anhysbys | |||
8 Llanfair y Cwmwd | 1237 | |||||
9 Newborough | 500 | |||||
10 Llanffinan | 609 |
PLWYF LLANGEINWEN.
Gorwedda y plwyf hwn oddeutu pedair milldir i'r gogledd-orllewin o Gaernarfon. Cafodd yr enw yma oherwydd i'r eglwys gael ei chysegru i St. Ceinwen, merch Brychan Brycheiniog, yn y bumed ganrif—i'r hon yr oedd eglwys arall wedi ei chysegru yn Ngheryg Ceinwen. Ystyr yr enw yw, Llan-y-Gwen-gain, ac yr oedd Ceinwen yn chwaer i Donwen.
Celleiniog.—Gwel y sylwadau ar Porthlleiniog, yn nghwmwd Tindaethwy.
Aberbraint, neu Dwyran, fel y gelwir y lle yn bresenol.—Rhanwyd maerdref Aberbraint gan Idwal, Tywysog Cymru, yn ddwy ran: rhoddodd un ran i St. Beuno, a'r rhan arall i Esgob Bangor. Gelwir hwy hyd heddyw y Dwyran Esgob, a Dwyran Beuno; ystys yr enw yw "dwy ran."
Gelwid lle y yma yn yr hen gof-lyfrau yn "Aber Braint," oblegyd fod yr afon Braint yn rhedeg drwy y lle i'r môr. Dywed rhai i'r afon dderbyn ei henw oddiwrth fynych ymddangosiad brain ar ei glanau. Tybia eraill iddi gael yr enw oddiwrth Bran, tad Llywarch, gan rai o'r hiliogaeth oedd yn preswylio yn y fro hon yn yr hen oesau.
Eraill a farnant iddi gael yr enw oblegyd ei bod yn un o afonydd cysegredig y Derwyddon; a thybir fod afon Brenta, yn Italy, wedi cael ei galw felly am yr un rheswm.
Dywedir fod yr Hafren yn cael ei galw ar y dechreu yn awy-vraint, neu avrant: yn cael ei wneud i fyny o'r hen air Cymraeg awy, am afon, ac o'r gair braint (royal or consecrated river).
Clynog Fechan.—Derbyniodd yr enw oddiwrth Clynog Fawr, yn Arfon; yr ystyr yw, "abounding with brakes."
Mosoglen.—Ffermdy henafol ar derfyn Llanfair y Cwmwd, ond yn mhlwyf Llangeinwen. Tybia Mr. Rowlands fod gan y Derwyddon blanhigfa dderw yn y lle hwn; olrheinia darddiad yr enw Mosoglan o'r gair "Viscue," nen "Misseltoe," (v. and m. being promisciously used in ancient times), a plant the Druids highly venerated. "Mona Antiqua," tudal. 85.
Mae y lle hwn yn ddi-goed yn bresenol. Bu canghen o wehelyth Llywarch ap Bran yn cyfaneddu yma.
Bod Drudan.—Tardda enw y faerdref hon, yn ol pob tebygolrwydd, oddiwrth y Derwyddon, y rhai fuont anwaith yn perchenogi y lle ac yn preswylio ynddo. Ystyr y gair bod, ydyw trigfa; Drudan (neu drudion) ydyw Derwyddon, felly yr ystyr yw, "Trigfa DerwyddDrudan oedd y nesaf mewn awdurdod at yr archdderwydd.
Bu y faerdref hon yn meddiant brenhinoedd Prydain byd amser Elizabeth, pan y gwerthwyd, neu y rhoddwyd hi i H. Hughes, Ysw., Plascoch (Queen's Attorney of North Wales).
Tref Bill.—Yr oedd y faerdref fechan hon ar y cyntaf yn cael ei galw yn "Tre' meibion Pill,"-h.y., Tre' meibion Phillips; efallai oddiwrth Phillips mab annghyfreithlawn Owain Gwynedd. Ar y cyntaf yr oedd yn ddinas freiniol yr perthyn i dywysogion gogledd Cymru, ac wedi hyny i freninoedd Lloegr.
PLWYF LLANGAFFO.
Saif y plwyf hwn oddeutu chwe' milldir i'r gogledd-orllewin o Gaernarfon. Cysegrwyd yr eglwys i St. Caffo, mab i Caw o Brydain, yn y chweched ganrif, ac oddiwrth hwn y cafodd y plwyf yr enw.
Cynwysai y maesdrefi canlynol:-Tref Iossith, Rhandir Gadog, Tref Irwydd, a Dinam.
Tref Irwydd, neu Ferwydd.—Dywed un hynafiaethydd fod yn ymddangos iddo ef i'r enw hwn darddu oddiwrth lwyn o dderw oedd yn y lle, yn mhlith y rhai y byddai yr hen Dderwyddon yn preswylio. Dywed eraill iddo darddu oddiwrth enw dyn—Merwydd Hen, yr hwn oedd unwaith yn dal y tir; megys yr oedd Caer Edris yn tarddu oddiwrth Aeneas ap Edris, yr hwn oedd ryddddeiliad yma yr un modd a Merwydd Hen.
Hefyd, ceir lle yn mhlwyf Llanddeiniolen, yn sir Gaernarfon, o'r enw Caer-irwydd; am yr un rheswm a'r Tref Irwydd hon.
Tref Iosseth (Weithiau Tref Asseth).—Tybir ei fod yr un ag Asaph, mab Sawyl Benuchel, ap Pabo Post Prydain. Os hwn ydoedd, yr oedd yn ddyn da, ac yn bregethwr enwog: ysgrifenodd lyfrau buddiol at wasanaeth myfyrwyr ei Goleg: yr oedd yn byw oddeutu y bumed ganrif.
Tref Dinam, neu Dunam.—Y mae'r gair Din, neu Tin, yr un ystyr a dinas; ymddengys ei fod ar y dechreu yn arwyddo (fel y mae E. Llwyd yn meddwl) 'bryn,' neu le uchel wedi ei gadarnhau, megys y gwelir wrth y gair Dinbren a Tinbren,—tref lle y mae Castell Dinas Bran, yn sir Ddinbych, yn sefyll; hefyd, oddiwrth Din Orwic, yn sir Gaernarfon, a Din, neu Tin Sylwy, yn Môn. Dywed yr awdwr—"Hence, the Roman Dinum, Dinium and Dunum, frequent terminations of the names of Cities in Gaul and Britain, and the old English Tune now Don, Ton, Town, &c., and our modern British Dinas, (a City.) Dun in the Irish signifies a 'fool,' and Dunam, 'to shut up,' to inclose."
Yr oedd y dref hon yn perthyn i freninoedd Lloegr hyd amser y frenhines Elizabeth, pan y dosranwyd hi yn ddwy ran. Gwerthwyd un ran i Hugh William, Glany-gors; ac yr oedd yn eiddo i Coningsby Williams yn 1710. Trefnwyd y rhan arall i William Jones, mab i John ap William Pugh, yr hwn oedd yr amser yma yn dir-feddianydd. Trefnwyd terfynau Dinam mewn côflyfr—oddiwrth Rhyd Dinam hyd y ffordd fawr i Cae'r Slatter; oddiyno i Crochan Caffo, ac yn mlaen i Malltraeth; yna i Lon Goed, ac yn mlaen hyd y ffordd i Hen Shop: oddiyno drachefn trwy'r ffordd i Ben-yr-orsedd, yn mlaen hyd y ffordd i Sarn Dudur, hyd afon Bodowyr, a therfyna yn Rhyd Dinam.
PLWYF LLAN IDAN.
Saif y plwyf hwn oddeutu saith milldir i'r de-orllewin o Fangor. Cafwyd yr enw hwn oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i un o'r enw Aidan. Tybir gan rai mai mab i Gabranus, neu Gwrnyw, yr hwn oedd wŷr i Urien Rheged, tywysog Regedia, yn y gogledd, ydoedd; ond tybia eraill mai Aidan yr esgob-yr hwn oedd yn cael ei alw Aidan Foeddog of Columcil—ac esgob Llandisfern. Y dybiaeth olaf yw'r gywiraf, oblegyd fod Ffinan, i'r hwn yr oedd eglwys wedi ei chysegru mewn lle arall, yn ddysgybl diweddaf i Aidan, yn ei ganlyn ef yn ei esgobaeth, ac yn cymeradwyo gwaith da ei feistr Aidan. Tybir i'r eglwys hon gael ei chysegru yn y bumed ganrif. Yr oedd perigloriaeth a'r holl blwyf hwn wedi eu cysylltu â chrefydd-dy Bethgelert, gyda rhôdd gan un o dywysogion Gogledd Cymru; ac arhosodd felly hyd nes y dadgorfforwyd y mynachdai yn amser Harri VIII., pan roddwyd y berigoriaeth ganddo i Birham, yn Surrey. Ar ol hyny, gwerthwyd hi gan Elizabeth i Edmond Downam a Peter Ashton, &c. Dosranwyd y plwyf hwn i'r maesdrefi canlynol:-Tre'r Driw, Tre'r Beirdd, Bodowyr, Myfyrion Gwydryn, a rhan o Bentref Berw.
Bodowyr.—Ceir lluaws o enwau ar leoedd yn yr ynys hon yn dechreu gyda Bod, Caer, a Tref. Goddefer ychydig o sylwadau ar hyn.
Y mae yn naturiol tybied ddarfod i'r preswylwyr ffurfio eu hunain yn llwythau a theuluoedd gwahanol, (wedi iddynt arloesi y lleoedd cymydogaethol, a lladd rhai o'r creaduriaid gwylltion, a dofi y lleill), a rhanu yr ynys a chodi terfynau rhyngddynt a'u gilydd. Gwelir rhai o'r terfynau hyny hyd heddyw yn rhedeg yn hir a chwmpasog; a gelwir hwy yn awr wrth yr enwau—Rhos dre' hwfa, Rhos Neigr, Rhos Lligwy, Rhosfawr, &c.
Yn y lleoedd hyn adeiladasant eu pebyll a'u cabanod, gan godi bryniau hirgrynion o ddaear yma a thraw, a'u coedio a'r canghenau a dorant mae yn debygol, a'u toi a'r tywyrch gwydn a godant, neu'r cyrs, neu rhywbeth tebyg, fel y caent leoedd i orphwys y nos, ac i gadw eu hangenrheidiau nes y gwnaent drigleoedd mwy rheolaidd. Gelwir y rhai'n, "Cytiau Gwyddelod." Tybia rhai i'r Gwyddelod gynt fod yn trigo ynddynt: ond cyfeiliornad yw hyn, os wrth y Gwyddelod y meddylir trigolion yr Iwerddon; ni fu y rhai'n yn preswylio erioed yma mor hir fel ag i adael nodau fel hyn ar eu hol—oblegyd y Gwyddelod a gyhuddir o ysbeilio yr ynys hon, ac nid arosant yn hir ynddi un amser.
Ond os wrth y Gwyddelod y meddylir y preswylwyr a ddaethant gyntaf iddi, fel y mae yn debygol, cyll y ddadl gyntaf ei grym; oblegyd cyfansoddir y gair hwn o ddau air Cymraeg, sef gwydd a hela, y rhai efallai a ysgrifenid "Gwyddelod," i arwyddo dynion, ac yn enw cyffredin ar y preswylwyr cyntaf. Dywed Dr. W. O. Pughe There is a tradition of Wales being once inhabited by the Gwyddelians, or more properly, its first inhabitans were so called: and the common people in speaking of it, ascribe some ruins about the country under the names of "Cytiau y Gwyddelod," to them: and the foxes are said to have been their dogs, and the polecats their domestic cats, and the like.
Wedi i'r preswylwyr yma ymadael o'u preswylfeydd cyntaf, ac ymdaenu dros y wlad yn wahanol dylwythau, dechreuasant sefydlu eu hunain mewn adeiladau mwy a rhagoarch, y rhai cyn hir a elwid yn "Bod," neu Bodau," h.y, trigle neu le i fod; ac, i wahanaethu y naill oddiwrth y llall, cysylltwyd enwau y sylfaenwyr neu'r adeiladwyr a'r gair Bod, megys, Bod-Eon, Bod-Ewryd, Bod-Edeyrn, Bod-Ychain, Bod-Filog, Fod-Owyr, &c.
Y bodau hyn, efallai, oedd y prif leoedd perthynol i bob ardal: a thebygol yw mai rhai yn meddu cryn ddylanwad yn y wlad oedd preswylwyr y rhan fwyaf o honynt.
Mae y gair Bodowyr yn tarddu o'r geiriau bod am drigle; ac ofydd am un yn mhlith y Derwyddon yn astudio phisygwriaeth—ond yn awr defnyddir y gair am un yn dysgu elfenau cyntaf barddoniaeth. Yr ystyr yw, "Trigfa ofwyr (habitation of the Eubates) neu, trigfa Offeiriadau Derwyddol,
Bu y lle hwn unwaith yn eiddo un o'r enw Evan Wyddel, yr hwn oedd yn preswylio yma. Ymddengys i'r dref hon, gyda Myfyrian, gael eu cysylltu â Phorthamel. Gwerthwyd y lle gan Hwlkin ap Dafydd ap Evan Wyddel, i William ap Griffith, mab Gwilym o'r Penrhyr, yn agos i Fangor.
Tre'r Driw.—Y mae'r enw yma yn cael ei wneyd i fyny o'r ddau air,—Tref, am drigfa, a Driw, am benaeth y Derwyddon-yr Arch-dderwydd. Yr ystyr yw, trigfa yr Arch-dderwydd, neu Tre'r Driw (the Druids Town.)
Rhoddwyd y dref hon, gan un o dywysogion Cymru, i St. Beuno, o Clynog Fawr, yn Arfon, fel yr ymddengys oddiwrth hen fraint-ysgrif a grybwyllir gan Mr. Rowlands; ac ymddengys oddiwrth yr un ysgrif, fod deiliad tir yn y lle hwn yn mwynhau amryw ragorfaeintau, a gwnaethpwyd hyn y fwy eglur gan orchymyn Gibbert de Talbot, Llys-Ynad Gogledd Cymru, yn amser Harri VI., yr hwn a ddyddiwyd yn Beaumaris, yn y 12fed flwyddyn o deyrnasiad Harri, O.C. 8412.[2]
Yr oedd adfeilion hen gapel yn weledig yn agos i Tre'r Driw, yr hwn a elwid "Capel Beuno": ac yr oedd hen gloch yn y ty hwn yn cael eu galw "Cloch fechan Beuno." Y mae yma ddau dŷ yn cael eu gadw Tre'r Driw isaf a Tre'r Vwri uchaf; a dau arall yn cael eu galw Tre'r Ivan a Thre' Vwri, a rhai a roddwyd yn gymunrodd gan y Parch. Robert White, o Friars.
Yn 1762, cafodd y Parch. H. Rowlands, pan yn arolygu symudiad rhai o'r ceryg yn y lle hwn (mewn trefn i wneud ymchwyliad i hynafiaethau y lle,) hyd i fathodyn (medal) arddechog o bres, a llun y Gwaredwr arno, mewn cadwriaeth dda, yr hwn a ddanfonwyd ganddo i'w gyfaill a'i gydwladwr, y Parch. E. Llwyd, awdwr yr "Archæological Britannica," ar y pryd hwnw, yn arolygu llyfrgell Ashmoleum, yn Rhydychain.
Y Bathodyn Pres.—Fel hyn y darlunir ef gan un—"Y mae ar un ochr i'r bathodyn hwn lun pen, yr hwn sydd yn cyfateb yn gywir i'r darluniad a roddir gan Piblius Lentitius o'n Gwaredwr, mewn llythyr a ddanfonwyd at yr Ymerawdwr Tiberius, a chynghorwr Rhufain." Ar yr ochr arall i'r bathodyn y mae yn ysgrifenedig mewn llythyrenau Hebraeg:—"Dyma Iesu Grist y Gyfryngwr-ddyn."
Yn gymaint a bod y bathodyn yma wedi ei gael yn mysg gweddillion trigfanau y prif Dderwyddon, nid yw yn annhebygol ei fod yn perthyn i ryw Gristion oedd gyda Bran Fendigaid, yr hwn oedd yn perthyn i fyddin Caractous yn Rhufain, oddeutu 52 O.C., ar yr amser yr oedd yr Apostol Paul yn pregethu efengyl Crist yn Rhufain. Yn mhen ychydig wedi hyn, dinystriodd y pen-cadben Rhufeinig Suctonius yr holl Dderwyddon oedd yn Ynys Môn. Gwelir copi o'r llythyr henafol y cyfeiriwyd ato yn "Golud yr Oes," tudal. 418.
Tre'r Beirdd, ac, mewn rhai hen ysgrifau, Trefynerd a ;Trefeyrd: y mae'r enw Tre'r Beirdd wedi tarddu oddiwrth fod y lle wedi bod yn drigfa prydyddion; oddiwrth beth y tarddodd yr enw Trefynerd, y mae yn anhysbys.
Rhoddwyd y dref hon gan y tywysog Owen Gwynedd, a chadarnhawyd y peth gan y tywysog Llewelyn, i Cynric ap Meredydd Ddu, fel y dengys yr hen weithred a ad-ysgrifenwyd ac a ddygwyd allan gan Mr. Rowlands. Bu ef yn pertruso am hir amser yn nghylch pa le a feddylid wrth Trefynerd, gan nad oedd unrhyw le o'r enw. yn nghwmwd Menai, ond rhoddodd yr hen weithred a ganlyn eglurhad ar y dyryswch:—"Bydded hysbys i bawb, trwy y tystiolaethau hyn fy mod i Iorwerth ab Dafydd ab Carw, rhydd-ddeiliad i Briordy Bethgelert, yn nhrefred Tref-beirdd, yng nghwmwd Menai, swydd Môn, wedi rhoddi caniatad i werthu, a gollwng yn heddychol, ac am byth, i Cynric ab Meredydd Ddu, a'i fab Ithel, rhydd-ddeiliaid, neu eu dirprwywyr yr holl diroedd yn nhrefred Berw, ac yn nhreflan Tref-beirdd, ynghyd a'u holl berthynasau, trwy ganiatad Mr. Cynhalin, Prior Bethgelert; ac yr ydwyf wedi rhoddi a chaniatau, a gollwng yn heddychol, ac am byth, i'r rhagddywededig Cynric ab Meredydd Ddu, a'i fab Ithel, a'u hetifeddion neu eu dirprwywyr, fy holl diroedd yn Glasynys, yn y drefred rag—ddywededig Tref-beirdd; ynghyd a'u perthynasau a'u rhyddid, y rhai a derfynir o un tu gan ynys y meirch, gyferbyn a Threfarthen; ac o'r tu arall gan Gwawr Walchmai, cyfwyneb a Thref y Beirdd.—I feddianu ac i ddal y tiroedd enwedig genyf fi a'm hetifeddion rhag-ddywededig; ac fod i Cynric ac Ithel a'u hetifeddion, neu ddirprwywyr, feddiant rhydd a heddychol, trwy hawl tref-tadol yn dragwyddol; yn nghyd a gallu i roddi, neu werthu, neu eu trosglwyddo, y pryd y mynont, ac i'r neb y mynont. A myfi y rhag-ddywededig Iorwerth, neu'm hetifeddion, a gadarnhawn y cyfryw drosglwyddiad-rhôdd, a hawl heddychol yn erbyn pob rhyw bobl, ac a amddiffynwn yr unrhyw ar ein traul ein hunain. Er tystiolaeth o hyn, rhoddais fy sêl ar y weithred bresenol, a'r personau canlynol ydynt dystion ac ymddiriedolwyr:—Evan ap Gwilym, ap Rathro, Einion ap Cynwrig ap Madyn, Madog ap Iorwerth ap Bleddyn, Iorwerth ap Howel ap Tegeryn Ddu, ynghyd a llawer eraill. Rhoddwyd ym monachlog Llanidan, ar ddydd Gwener, trwy awdurdod sedd y Tad Sanctaidd, yn y 34ain flwyddyn o deyrnasiad Edward III, Braint Lloegr, ym mlwyddyn ein Harglwydd 1360."
Gwelir oddiwrth yr ysgrif hon mai trefred Tre'r Beirdd sydd i'w ddeall wrth y Trefynerd dan sylw.
'Tref Arthen.—Yr Arthen y cymerwyd yr enw oddiwrtho ar y dref hon oedd mab Cadrod Hardd; ystyr yr enw yw—' Trigfa arthes ieuanc,' (A bear's cub, or young one.)
Yr oedd gan Cadrod etifeddiaethau eang yn yr ynys hon: rhoddodd i Gwerid, ei cyntaf anedig, Trefadog, yn Tal-y-Bolion; i Ednyfed, Tref Ednyfed, yn nghwmwd Llifon i Owen, Isefowen; ac i Sandde ac Ithon, ei feibion o'r ail wraig, Dref Fodafon; a rhoddodd y dref hon i Arthen, ei fab ieuangaf.
Myfyrian.—Yr enw, mae yn bur debyg, a dardd o'r gair myfyr (meditation) a cheir lle arall o gyffelyb ystyr yn agos i Geryg y Druidon, yn sir Ddinbych, sef Dyffryn Myfyr, h.y., dyffryn myfyrdod. Yr oedd y lle hwn ar y dechreu yn gysylltiedig â bwrdeisdref Porthamel; y mae dau Myfyrian-uchaf ac isef. Rhai o'r enw Prytherch oedd yn y lle hwn gyntaf, cyn myn'd i Llanidan. (Myfyrian uchaf.)
Tref Wydrin.—Y mae yn dybygol i'r enw yma darddu oddiwrth Gwydd-fryn; yr ystyr yw, "Trigfa uchel eglur" (a conspicious eminence.)
Berw, Biriw, neu Meriw.—Tarddai oddiwrth fod coed meryw yn tyfu yma—fel yr oedd Ysgeifog yn tarddu oddiwrth ysgaw; Eithinog, oddiwrth eithin, Rhedynog oddiwrth rhedyn, &c. Dosbarthwyd y faerdref hon yn yn ddwy—Berw Uchaf a Berw Isaf. Berw Uchaf sydd yn mhlwf Llanfihangel Ysgeifiog, a Berw Isaf yn Llanidan. Cysylltwyd y ddiweddaf ar y cyntaf â bwrdeisdref Tre'r Beirdd ; ac yr oedd yn rhan o'r tiroedd a pha rai yr anrhegwyd Cynric ap Meredydd Ddu a hwy.
PLWYF LLAN EDWEN.
Saif y plwyf hwn oddeutu pum' milldir i'r gogleddddwyrain o Gaernarfon. Cafodd y plwyf yr enw oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Edwen, nith neu ferch i'r brenin Edwin; adeiladwyd yr eglwys oddeutu y chweched ganrif. Ystyr yr enw yw, "Llan y ddedwydd orchfyges."
Porth Amel.—Y mae Mr. Rowlands yn cynyg tair o wahanol amcan-dybiau gyda golwg ar darddiad yr enw hwn—1. "Porth Aemelicus," (Rhufeiniwr); 2. "Porth Aml," oddiwrth rifedi y personau oedd yn myned drosodd, ac yn dychwelyd dros Moel-y-dòn gyda bad; 3, "Porth ym Mwlch." Y mae yn ymddangos ei fod ef yn rhoddi y flaenoriaeth i'r olaf. Porth Amel, yn yr hen amser, oedd yn faenor, ac yn eiddo Llywarch ap Bran, yn nghwmwd Menai.
Plas Newydd.—Trigfa newydd (the new mansion); yr hen enw oedd Llwyn Moel. Yr ystyr yw "Llwyn ar fryn," (the grove on the hill). Yma ceir un o'r coedwigoedd penaf yn Môn, yr hwn le a gysegrwyd gan y Derwyddon fel lle addoliad. Tu cefn i Plas Newydd y mae cromlech aruthrol, neu allor y Derwyddon—un o'r rhai mwyaf yn yr ynys. Coed y Plas Newydd ydynt eang; gellir eu hystyried fel yn goffadwriaeth, os nad yn weddillion, o'r hen goedwigoedd derwyddol. Yma yr oedd trigle yr Ardalydd Môn cyntaf—hen arwr Waterloo.
Bryncelli, Plascoch a Llanedwen, ydynt dri o hen breswylfeydd yn y plwyf hwn. Y cyntaf a brynwyd gan Magdalene Bagnel, o'r Plas Newydd—Plas Coch yn bresenol, trigle W. B. HUGHES, Ysw., A.S., yr oedd yn cael ei alw ar y cyntaf y Porth Amel Isaf: adeiladwyd ef yn amser y frenhines Elizabeth, gan Hugh Hughes, Ysw, cyfeithiwr cyffredinol; a'i wyr Roger Hughes, a briododd Margaret merch ac etifeddes H. Jones, Ysw., o Langoed.
Y ty Llanedwen fu yn cael ei alw wrth amrywiol enwau, ar wahanol amserau, megys Sychdir, Ty'n-y-llwyn, Sychnant Uchaf, ac yn olaf, Llan Edwen.
PLWYF LLAN DDANIEL FAB.
Saif y plwyf hwn oddeutu saith milldir i'r dê-orllewin o Fangor; a saif yr eglwys oddeutu milldir-a-haner o Lanidan, ar y ffordd o Moel-y-don i Langefni. Cysegrwyd hi oddeutu y seithfed ganrif i St. Daniel, fab Deiniolen ap Deiniol Wyn, ap Paba Post Prydain, "sant o Fangor Maelor; a gwedi tori hono, efe a aeth i Wynedd uwch Conwy, lle y bu yn arllwybraw Côr Bangor Fawr Arllechwedd, a elwir Bangor Deiniol, yn amser Cadwaladr Fendigaid. Yr oedd ganddo eglwys arall yn Llanddeiniolen yn Arfon." (Gwel "Bonedd y Saint.")
Dywed Mr. Rowlands fel hyn:-" Daniel, who had a church near that of Llan Aiden, was son of Daniel, first Bishop of Bangor; and, therefore, the church is commonly called Llan Ddaniel Fab." Ystyr yr enw yw, "Llan y Duw sydd Farnwr."
Yn agos i'r fan hon y tiriodd y Cadfridog Rhufeinig Suetonius i'r ynys hon, yn ymyl Porth Amel, a'r lle a alwyd Pant, neu Pont-yr-ysgraffau. Meddyliai Mr. Rowlands mai rhwng y lle a elwir Pwll-y-fuwch a Llanidan y glaniodd y Rhufeiniaid y waith gyntaf hon; a dywed fod rhyd, lle y gallasai eu gwyr meirch groesi, odditan Llanidan; ac nid yw yn annhebyg fod y fan lle y glaniodd eu gwŷr traed yn cael ei alw hyd heddyw wrth yr enw "Pont-yr-ysgraffau." Tybir i'r enw darddu o'r gair" Scapha" (Skiff)—cwch. Hefyd, bernir mai yn agos i'r fan hon y croesid y Menai gan Suetonius, y croesid hi bymtheng mlynedd wedi hyn gan Agricola; a haerir fod y lle a elwir "Crug" yn hytrach "Crig," wedi ei alw ar enw y rhaglaw hwn er cof am ei weithredoedd a'i wersylliad yn y lle hwn. Lladdodd Suetonius y Brythoniaid wrth y miloedd yn agos i'r fan hon. Gelwir y lle gan Rowlands, "Maes y gad fawr," (the great army's field.)
PLWYF LLANFIHANGEL YSGEIFIOG,
NEU
(Llanfihangel Pentre Berw.)
Saif y plwyf yma oddeutu wyth milldir i'r gogledd-orllewin o Fangor, tardda y gair oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Michael, a'r gair ysgeifio am goed ysgaw. Yr ystyr yw, "Llain, neu gell mewn ysgaw hwn sydd yn hoffi Duw."
Y mae y plwyf hwn yn guradiaeth syfydlog mewn cysylltiad a churadiaeth Llanffinan: noddwr y fywiolaeth ydyw Deon Bongor, i'r hwn y mae degwm y plwyf yn perthyn, &c.
PLWYF LLANFFINAN.
Saif y plwyf yma oddeutu chwe' milldir i'r gorllewin o Beaumaris, a saif yr eglwys yn agos i Afon Ceint: cysegrwyd hi oddeutu y chweched ganrif, i un o'r enw Ffinan, Almaenwr, ac esgob Lindisfarne, ac olynydd Aidan i'r esgobaeth hon, fel y crybwyllir gan un o'r enw Bedi. Derbyniodd y plwyf yr enw oddiwrth yr eglwys hon.
Tybir mai yr ystyr yw, "Llan-y-terfyn, neu Terfynlan."
PLWYF LLAN GEFNI.
Saif y plwyf hwn yn agos i ganolbarth yr ynys hon, a tardda ei enw oddiwrth afon Cefni, yr hon sydd yn rhedeg trwy ganol y lle. Cysegrwyd yr eglwys i St. Cyngar, mab Garthog ap Caredig, ap Cunedda, yn ol y Dr. W. O. Pughe: ond dywed Mr. Rowlands, ei fod yn ewythr i Cybi, mab Geraint ap Erbin.
Teimlir ychydig anhawsder i gael allan beth yw tarddiad ac ystyr enw afon Cefni; tybia rhai iddo darddu oddiwrth ryw sant o'r enw Gefni, ond nad yw yn hysbys mewn hanesiaeth. Eraill a dybiant iddo darddu oddiwrth ansawdd y lle, oherwydd ceir arwyddion eglur fod gorlifiad mawr wedi cymeryd lle yma yn rhyw gyfnod yn oes y byd—y mae y nant a'r fosydd dyfnion oddiamgylch y lle yn cadarnhau y dybiaeth yma. Dywedir y bu môr y yn dyfod yn agos i Langefni, cyn codi argae neu gob Malltraeth, ac iddo orlifo yn rhyw gyfnod, fel y galwyd y lle mewn canlyniad yn Llan-y-cefn-llif.
Hefyd, ceir lle arall yn agos yn dwyn y cyffelyb ystyr, sef "Careg-y-forwyllt," (eruption rock); y mae hŵn wedi derbyn yr enw oddiwrth y cynhwrf a wna'r dwfr wrth redeg rhwng y ceryg mawr sydd yn afon Cefni. Tybir mai llygriad yw'r gair Cefni o Cefnllif.
Mae'r eglwys bresenol yn lled newydd; a phriodolir ei hadeiladu i'r diweddar Arg. Bulkeley. Rhoddodd y tir, cyfranodd yn deilwng o hono ei hun fel boneddwr tuag ati; ac adeiladodd bersondy hardd yn nglyn a hi, yr hwn sydd yn un o'r rhai harddaf yn Môn.
Y mae yn y dref addoldai cyfleus gan y pedwar enwad Ymneillduol Cymreig. Yma hefyd y cynhelir Cwrt y mân ddyledion (County Courts). Ar ddydd Iau y cynhelir y marchnadoedd; a'r ffeiriau ar Ion. 2, Maw. 14, Ebr. 17, Meh. 10, Awst 17, Medi 15, Hydr. 23, a'r 6 marchnad wedi hen Galan a'r Nadolig Newydd; a gellir eu hystyried y cynulliadau lliosocaf yn Môn.
Tref Garnedd.—Y mae'r lle hwn yn sefyll oddeutu milldir o bentref Llangefni. Tardda ei henw oddiwrth garnedd fawr o geryg (sepulchral heap of stones) yr hon sydd mewn cae cyfagos.
Yr oedd y lle hwn ar y cyntaf yn breswylfa Ednyfed Fychan, dewr-lywydd byddinoedd, a phrif gynghorwr Llewelyn Fawr, a chyndad Owain Tewdwr; ac hefyd i'r pendefigion, y rhai a'i dilynasant i orsedd Lloegr.
Yr oedd hefyd yn lle genedigol Syr Gruffydd Llwyd, ŵyr Ednyfed; yr hwn a wnaed yn farchog gan Iorwerth I., yn nghastell Rhuddlan, yn y fl. 1284, pan aeth i'w hysbysu am enedigaeth ei fab Iorwerth II., yn nghastell Caernarfon. At yr amgylchiad yma y cyfeiria Ceiriog yn y geiriau canlynol yn nghantawd Tywysog Cymru:—
"A'r brenin mewn eiliad, heb ofyn ei genad,
Wnaeth Gruffydd yn farchog, cyn symud o'r fan!"
ond, er yr anrhydedd yna i gyd, dywed yn mhellaeh:—
"A Chymro fel arfer yw Gruffydd Tre'r Garnedd,
Ffyddlonach o'r haner i faner y Ddraig !"
Yn y fl. 1317, anturiodd Gruffydd i ffurfio cyngrair gyda Iorwerth Bruce, yr hwn a gymerodd teyrn—goron Iwerddon; ac yn y fl. 1322, gwrthgiliodd yn amlwg i anrheithio yr holl wlad, a gorchymynodd amryw weithredodd echryslawn. Rhoddodd y Saeson aergad iddo nes y gorfu iddo encilio i'w amddiffynfa yn Nhregarnedd, yn yr hon y gwarchfyddinoedd yn flaenorol. Hefyd, adeiladodd ef loches gadarn arall—"Ynys Cefni," yn y morfa ychydig bellder oddiwrth ei drigfan. Amgylchynid yr amddiffynfa hon gan ffos lydain a dofn. oedd olion yr hen amddiffynfa hon yw gweled ychydig flynyddau yn ol os nad yn awr hefyd. Cadwodd ei hunan am amser yn y sefyllfa gadarn hon, ond o'r diwedd cymerwyd ef yn garcharor a chludwyd ef i Gastell Rhuddlan, ac yr fuan wedi hyn torwyd ei ben yn y lle hwn. Y mae safle Tregarnedd yn awr yn cynwys adeiladau amaethyddol. Nodir allan ei helaethder gan glawdd sydd o'i hamgylch. Ei harwyneb sydd yn agos i bump aer. Tybia rhai hynafiaethwyr fod rhan o hen ffordd Rufeinaidd i'w gweled, yr hon gynt oedd yn arwain o Moel-ydon ferry ar draws Menai i orsaf Caergybi. Pan gymerwyd i lawr yr hen eglwys Llangefni yn y fl. 1824, cafwyd hyd i gareg fawr o dan ei sylfaen gydag amryw argraffiad au cywrain mewn llythrenau Rhufeinaidd. Hyn yn unig sydd yn ddarllenadwy "Cvlidon Jacit Secverd." **** Yr oedd wedi ei gosod mewn lle unionsyth yn y fonwent, ar y fan lle yr oedd hi wedi ei chael yn y fl. 1829. Wrth symud rhyw glawdd bychan yn ymyl Glanhwfa, yn agos i'r dref, cafwyd hyd i ddeugain o weddillion dynol skeletons, y rhai oddiwrth eu gosodiad yn y lle yr oeddynt yn gorwedd, a ddengys iddynt gael eu claddu mewn prysurdeb, Ac mewn maes yn gysylltiedig a'r lle y mae rhifedi mawr o esgyrn dynol yn wasgaredig ymhob cyfeiriad; y rhai'n a dybir oedd gweddillion o'r dynion a gwympodd wrth warchae Ynys Gefni. Yn agos i'r dref y mae "Chalybrate Spring," yr hwn darddell oedd ar y cyntaf mewn bri mawr, ond yn awr yn ddyladwy i gymesuredd a dwfr arall; gyda'r hwn y mae effeithiolrwydd meddyginiaethol i'r rhai a wanhawyd gan afiechyd.
Hefyd, o berthynas i afon Cefni, ceid ar lafar gwlad oddeutu triugain mlynedd yn ol, yr hyn a ganlyn:-Bu cyfnod o sychder ar Ynys Fôn i'r fath raddau fel y bu llawer o'i thrigolion farw o syched: ni cheid dwfr yn un man ynddi; yr oedd godrau'r cymylau wedi eu rhwymo, a ffynonau y dyfnder fel wedi myned yn hysp. Yn y cyfnod hwn, rhoddwyd careg fawr yn afon Cefni a'r ar graff ganlynol arni—'Pwy bynag am gwel i a wyla,' gan gyfeirio at ymysgaroedd y wlad yn teimlo o eisiau dwfr.
Yn y "Gwyneddon" ceir y sylwadau dyddorol a ganlyn am blwyf Llangefni:—"A large common, called Rhos-y-meirch, is in this parish; and on the west side of the turnpike-road is a chalpheate spring in great repute for rheumatic complaints. In this parish is Lledwigan, where a thresher, of the name of Morris Lloyd, heroically and successfully resisted, and defeated several of Oliver Cromwell's soldiers."
PLWYF TRE' GAIAN.
Saif y plwyf bychan hwn ar derfyn y tri cwmwdMalltraeth, Menai, a Tindaethwy. Y Rhandir Tre' Gaian sydd yn nghwmwd Menai, a'r Arddreiniog yn Tindaethwy. Yr oedd y ddau hyn ar y cyntaf yn rhan o randir Ednyfed Fychan, gweinidog a chadfrīdog i Llewelyn ap Iorwerth. Rhoddodd ef y tri rhandir Pen Mynydd, Tre' Castell ac Arddreiniog, i'w fab Gronw; a Thudur Hen ap Grow a ddosranodd ei etifeddiaethau rhwng ei dri mab, Gronw, Howel, a Madoc. Etifeddiaeth Tudur oedd Pen Mynydd, lle y trigodd am amryw flynyddau. Bu farw yn Friars, Bangor, yr hwn le a adeiladwyd ac a waddolwyd ganddo ar y 9fed dydd o Hydref, 1311. Bu Howel ei fab farw heb hiliogaeth. Madoc oedd Archddiacon Môn, ac yn ben ar fynachlog Conwy. Gronw, y mab ieuengaf, a gafodd etifeddiaeth ei frawd Howel. Claddwyd y Gronw hwn yn Bangor, Rhagfyr 11eg, 1331, a gadawodd ei fab Tudur yn etifedd-a'r Tudur hwn, yr hwn a fu byw yn Tre' Castell, a adawodd bump o feibion ar ei ol, rhwng pa rai y rhanodd efe ei etifeddiaeth; claddwyd ef yn Friars, Bangor, Mai 9fed, 1367. Ei feibion oeddynt Gronw, Ednyfed, Gwilym, Meredith, a Rhys. Gronw oedd etifedd Pen Mynydd; i'r hwn yr oedd merch, yr hon a briododd William Griffith, ap Gwilym o Penrhyn, Bangor; a mab o'r enw Tudur Fychan.
Ednyfed ail fab Tudur ap Gronw, a enillodd Tre' Castell yn dref-dadaeth. Gadawodd yntau ddwy ferch yn gyd-etifeddion, sef Anghared a Myfanwy. Anghared, yr hon oedd yn meddu Tre' Castell yn etifeddiaeth, a briododd gyda Evan ap Adda, ap Iorwerth Ddu o Tegengl, yn sir Fflint; a'u mab Evan Fychan a briododd Anghared merch Howel ap Tudur, o Fostyn, lle y preswyliodd wedi hyny yn nghyd a'i hiliogaeth hyd o fewn deng mlynedd yn ol, os nad hyd heddyw, ac yn cymeryd meddiant o'r lle.
Mae hiliogaeth Gwilym, trydydd mab Tudur ap Gronw, wedi darfod, neu nad oes gwybodaeth am danynt.
Meredith, y pedwerydd mab, oherwydd rhyw achos neu gilydd, a adawodd ei gartref, ac yn y cyfamser ganwyd ei fab Owen (o weddw Harri V). Ei bumed mab, Rhys, a ddaeth yn feddianol o Tre' Gaian a'r Arddreiniog; yr hwn a addawodd ei eiddo i'w ferch Gwerfil, yr hon a briododd Madoc ap Evan, ap Einion o Penarth, Abercyn, yn Eifionydd, yr hwn a adawodd y lle i'w fab Howel ap Madoc; ac yntau a'i gadawodd i'w fab Rhys, oddiwrth yr hwn y disgynodd i'w fab Rhydderch. Yr oedd y cyntaf o holl deulu y Rhydderchiaid a'r Prytherchiaid oedd yn yr ynys. Bu Rhys ap Tudur ap Gronw farw, a chladdwyd ef yn Friars, Bangor, yn y fl. 1412.
Bu dyn yn byw yn y plwyf hwn o'r enw William ap Howel ap Iorwerth, oddeutu y fl. 1580, yn gant a phump oed. Priododd dair o wragedd, a chafodd dri-a-deugain o blant o honynt: o'r gyntaf dau-ar-hugain, a rhwng yr ieuengaf a'r hynaf yr oedd 81 o flynyddau. A chyn ei farw, yr oedd yn meddu uwchlaw tri chant o hiliogaeth! Cysylltwyd capel Tre' Gaian a pherigloriaeth Llangefni. Noddwr y fywioliaeth ydyw Esgob Bangor. Cysegrwyd yr eglwys i St. Gaian, yn y bumed ganrif; yr ystyr yw "Llan-y-rhwyd-fan-bysg."
PLWYF LLANTRISANT.
Mae'r plwyf hwn yn sefyll oddeutu pedair milldir i'r gorllewin o Lanerchymedd. Tardda yr enw oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i dri o seintiau,—St. Afran, St. Ieuan, a St. Savan, y rhai a'i sylfaenasant gyntaf yn y fl. 570.
Oddeutu milldir o bentref Llantrisant, yn nghwmwd Talybolion, ar lan yr afon Alaw, y mae "Ynys Bronwen." Yn y mabinogion Cymreig ceir yr hyn a ganlyn:-"Cynhaliai Bran ap Llyr Llediaith ei lys yn Harlech, a daeth yna Mathalwch, pen-teyrn Iwerddon, gyda llynges i erchi am Bronwen, chwaer Bran, yn wraig Llwyddodd yn ei gais, a dychwelodd i'r Iwerddon. Yn mhen amser sarhaodd Mathalwch Fronwen ei wraig, trwy roddi palfawd iddi ar ei chlust; yr hon balfawd. a elwir yn y trioedd yn un o "dair engir balfawd Ynys Prydain." Wedi i Fronwen gael y fonglust gan Fathalwch, gadawodd yr Iwerddon ar frys: a thra ar ei thaith i Harlech, yn y rhandir crybwylledig ar lan afon Alaw, trodd drach ei chefn, gan edrych mewn digllonedd llidiog tua'r Iwerddon; oblegyd y sarhad a dderbyniodd, torodd ei chalon, a bu farw yn y fan. Llosgwyd ei chorff yn barchus, yn ol arferiad yr oes, a rhoddwyd ei lludw mewn urn bridd, a chladdwyd ef dan garnedd fawr o geryg yn y llanerch dan sylw; a dyna yr achos i'r lle gael ei alw yn " Ynys Bronwen."
Gwel y manylion yn "Hanes Cymru," gan y Parch. O. Jones.
PLWYF NEWBOROUGH.
Saif y plwyf hwn oddeutu pedair milldir i'r gogledd-orllewin o Gaernarfon. Tardda ei enw presenol oddiwrth ei bod wedi ei gwneyd yn fwrdeisdref freiniol gan Iorwerth I. Yr hen enw oedd Rhos Fair; tarddai yr enw hwn oddi wrth eglwys fechan a gysegrwydi St.. Mary. Gwel tudal. 39.
Y mae'r lle hwn yn bur ddinodedd, ond bu yn lle pwysig ar y dechreu, yn drigfa am lawer o flynyddau i dywysogion Cymru. Bu ganddynt freninlys yma, ac yn achlysurol penodwyd eisteddle y llywodraeth er mantais tra parhai y terfysgoedd, &c. Ar ol gorchfygiad y Cymry gyntaf gan Iorwerth I, ymddengys fod y lle hwn wedi bod yn dref benaf yn yr ynys hon—Yma yr oedd eisteddle cyfiawnder a barn i holl gwmwd Menai, a benodwyd i dywysogion Cymry gan y penadur neu y teyrn hwn. Hefyd, hwn a gorphorodd y fwrdeisdref yma, ac a anrhydeddodd y lle a braint masnachol, ynghyd a rhagorfreintiau eraill, y rhai wedi hyny a gadarnhawyd gan fraint—ysgrif 17eg Iorwerth II., ac ar eisteddiad seneddol cyntaf a gynhaliwyd gan Iorwerth III. Yn nheyrnasiad Harri VII., oherwydd y camddarluniad a wnaethpwyd i'r penadur, symudwyd assizes, a holl drafnidaeth eraill y wlad, o Beaumaris i Newborough. Cyn hyn, buont yn cael eu cynal yn Beaumaris am ddau gant a haner o flynyddau. Yn y 15fed o deyrnasiad Harri VIII., cafodd y bwrdeisdrefwyr fraint—ysgrif newydd, yn yr hon yr oedd yr holl ragorfraint wedi eu hadrodd—y rhai a adroddwyd ac a gadarnhawyd yn y fraint-ysgrifau blaenorol; ond rhoddwyd hon i fynu yn y flwyddyn ddilynol. Yn y 27ain o deyrnasiad hwn, Newborough fel tref Y sir mewn cysylltiad a bwrdeisdrefi eraill, oedd a hawl i anfon cynrychiolydd i'r Senedd, a pharhaodd yn y rhagorfraint hon hyd yr eilfed Iorwerth VI. Pan adfeiliodd y lle hwn yn fawr oddiwrth ei werth blaenorol, rhyddhawyd ef ar gais y brodorion eu hunain oddiwrth y rhwymedigaeth i'r drael o gynorthwyo aelod seneddol, a'r ddinas-fraint etholiadol a gadwyd yn neillduol i Beaumaris. Yn yr eilfed a'r drydedd o deyrnasiad hwn, yr Assizes a'r Sessions, ynghyd a busnes cyffredinol y wlad, a symudwyd o'r dref hon, oherwydd ei chael yn anghyfleus i'r amcan y bwriadwyd hi; ac adferwyd hi i Beaumaris ar ol bod yn gynaledig yn Newbarough dros bump-a-deugain o flynyddau.
Eto, er y trefniadau hyn, yr oedd bwrdeisdrefwyr Newborough yn hawlio o hyd ragorfraint mewn rhan yn etholiad aelod dros Beaumaris; ond gwrthwynebwyd yr hawl yn egniol gan fwrdeisdrefwyr Beaumaris, a'r achos a ddygwyd mewn canlyniad i'r Ty Cyffredin (House of Commons,) yn y fl. 1709, tra y mynegwyd hawl gyfraethlawn yr etholiad i fod gan y Maer, y pentrefwyr, ynghyda prif fwrdeisdrefwyr Beaumaris yn unig. Hefyd, gwnaethant gyffelyb ymdrechion i adenill y ddinasfraint yn 1722 a 1724, ond gyda yr un canlyniad. Yn amser Iorwerth III., cynwysai Newborough ddim llai na deg-a-phedwar-ugain o adeiladau heirdd, yn cael eu galw yn "Extent Places." Hefyd, ceir cyfeiriad yn. un prawf-ysgrif at ddeg-ar-hugain o erddi, un berllan, a deuddeg o gaeau crops, ac uwchlaw tri ugain o fields, parks, neu amgaeau hirion, (long enclosures,) a phreswylid hwy gan bobl gwir barchus. Y fywiolaeth eglwysig sydd berigloriaeth yn archddeoniaeth Môn, yn esgobaeth Bangor. Trethid ef yn "King's books " yn 9p. 10s, ac yn ngadogaeth y goron, megys Tywysogion Cymry. Y cyfartaledd blynyddol at gynal tlodion y plwyf ydyw 182p. 198.
Y periglor presenol ydyw y Parch. Thomas Meredith, gynt o Amlwch.
Y mae yma leoedd o addoliad hefyd gan y Trefnyddion Calfinaidd a Wesleyaidd.
LLANDDWYN.—Dywedir nad oes amser maith er pan weithiodd y môr ei ffordd drwy "Wddw Llanddwyn.” Gwneir cais at uno yr ynys a'r arfordir cyfagos, trwy gyfrwng math o sarn, ac felly ei chlymu â chadwen o feini wrth "arffedog Môn, mam Cymru," fel y dywed "Viator" yn Nghronicl Cymru. Dechreuwyd y gwaith -a deuparth gwaith yw dechreu. Wedi ei orphen ef, bydd yn dra gwasanaethgar. Yn y gwastadedd bychan a thywodlyd, yn orchuddedig â gwellt a rhedyn, ceir hen ferddyn llwydaidd, adfeilion y prebendŷ, ond odid, ac anedd y "Deon Du," o enwog goffadwriaeth am offeiriad olaf y plwyf a oresgynwyd er's dyddiau lawer gan donau a thywod y môr, fel ag y prawf rhai hen weithredoedd ag sydd ar gael ato.
Hefyd, ceir adfeilion monachlog ar ganol y gwastatir hwn. Y mae'r olwg arni yn bruddglwyfus,-fel un yn wylo am ei phlant, a'r gogoniant wedi llwyr ymadael o honi ers llawer dydd; ond y mae'r hyn a erys o honi yn ddigon i ddangos ei mawredd a'i chadernid gynt, pan ydoedd yn ogoniant penaf y fro. Sylfaenwyd yr adail ar lun y groes. Nid oes nemawr o'r deml odidog yn aros oddigerth y gangell. Mae muriau hon yn aros hyd y dydd hwn, ac iddi ffenestr ddwyreiniol enfawr, a dwy ffenestr ystlysol o gryn faintioli.
"Wel, dyma'th gangell wiwgu,
Ond p'le mae'th allor fawr,
Lle gwelwyd gynt yn mygu
Y thuser lawer awr ?"
Yn uniad y ddau fur gogleddol y gangell, y mae olion rhywbeth tebyg i dŵr haner-grwn.
O gylch yr eglwys mae rhywfaint o weddillion gwael mur y fynwent. Ychydig gamrau i'r gorllewin, ceir olion rhyw hen adeiladau gweddillion "pentref" Llanddwyn. Dywedir y bu yma wyth o dai bychain yn amser Iorwerth III., y rhai a elwid "Welas." Tybir i ferch Brychan seilio ei "chell" (cloister) ar yr ynys hon oddeutu y fl. 590 O.C. Dewisodd y wyryf Dwynwen neillduaeth Llanddwyn yn hytrach na mwyniant a mawredd llys ei thad. Sefydlodd ei chwaer Ceinwen ei chell yn Llangeinwen, a sefydlodd ei brawd Dyfnan ei eglwys yn Llanddyfnan, yn yr un sir. "Y cyfiawn fydd byth mewn coffadwriaeth." Ceir nifer mawr o eglwysi plwyfol Cymru yn gof-golofnau hyd y dydd hwn o dduwioldeb meibion a merched Brychan Brycheiniog. Cyfrifid Dwynwen yn "noddes cariadau," a cheir gan Dyfydd ap Gwilym, bardd serch, gywydd iddi yn dwyn y penawd "Cywydd i Dwynwen Santes, i geisio ganddi wneuthur lletyaeth rhyngtho a Morfydd." Dechreua—
"Dwynwen deyrdd anian degwch,
Deg wyr o gor fflamwyr fflwch," &c.
Cedwid Dy'gwyl Dwynwen yn mis Ionawr. Daeth ei "chell" i fri cyffredinol yn y canol-oesau, ac yn gyrchfa "pererinion" lawer, y rhai a ddygent roddion ac offrymau gwerthfawr i'w hallor, nes iddi ddyfod yn "relique church fras." Hefyd, dywedir mai Llanddwyn oedd y brebendariaeth (bersonoliaeth) frasaf ynglyn ag Eglwys Gadeiriol Bangor, yn nheyrnasiad Harri VIII. Prisir rectoriaeth Llanddwyn yn "liber regis" (King's book,) yn 14p. Y noddwr yw Esgob Bangor—dim degwm; felly, nid oddiwrth ffrwythlonedd y tir, ond oddi. wrth ofergoeledd y werin—oddiwrth bererindeithiau at graiau, ffynnonau sanctaidd, ac ofergoelion deiliaid gwaddol yr eglwys hon! Dywedir fod yn nyddiau Dafydd ap Gwilym (yn nghylch canol y bedwaredd-ganrifar-ddeg), luaws mawr o bobl o holl Gymru, yn ymgynull i eglwys St. Dwynwen, yn Môn, yr hon a elwir Llanddwyn. Yma y cedwid canwyllau cwyr yn oleu yn wastadol oddiamgylch bedd y forwyn-sant hon, a phawb a fyddent mewn cariad a ymwelent a hi, yr hyn a ddygai elw mawr i'r mynachod; ac yr oedd Dwynwen mor enwog yn mhlith yr hen Frythoniaid mewn achosion caredig, ag y bu y dduwies "Venus" erioed yn mhlith y Groegiaid a'r Rhufeiniaid, Tybir mai ystyr yr enw Dwynwen yw, "Seren Ddydd y Cymry."
Tua gwawriad y diwygiad Protestanaidd, tylododd "Cyff Dwynwen," a darfu am elw y rhai a weinyddent wrth ei hallor. Yn nyddiau Owen Glyndwr, bu ychydig o ffrwgwd boeth yn nghylch y "cyff." Gosododd un Iorwerth Fychan, person Llanddoget, yn sir Ddinbych, ei law ar yr offrymau; ond rhoddodd Griffith Young, Ll.O., Canghellwr y Tywysog Owen, derfyn ar driciau Iorwerth.
Cyfeirid at y ffrwgwd hon mewn hen weithred Lladin, yr hon sydd ar gael hyd heddyw. Dyddiwyd hi"19 Januarii, Anno Dom. 1404."
Aneddai y prebendari-Richard Kyffin, LI.D., Deon Bangor, yn nheyrnasiad Rhisiart III. a Harri VII., fel y sylwyd eisoes, yn Llanddwyn. Chwareuodd y "Deon Du," fel y gelwid ef oddiwrth ei wedd dywyll, yn ol pob tebygolrwydd, ran bwysig yn helyntion ei amserau cythryblus. Ymohebodd trwy gyfrwng ei gyfaill, yr Esgob Morton, â Harri VII., Duc Richmond y pryd hyny, pan oedd ar encil yn Brittani, yn Ffraingc, a chymerodd ran weithgar gyda Syr Rhys ap Tomas, o'r Deheudir, i ddwyn oddiamgylch adferiad y teyrn hwn. Anfonai Cyffin ei negeseuau i Lydaw gyda llongau pysgota o'r goror anial ac anghysbell hon. Gallesid tybio ei fod mewn ffafr fawr gyda'r brenin; a phe buasai yn ddibriod, tebyg y dyrchafesid ef gan ei deyrn i'r faingc esgobol. Cafodd rodd o diroedd lawer am ei wasanaeth pwysig, a chaniatad i seilio a gwaddoli chancel ar y tu deheuol i Eglwys Gadeiriol Bangor. Gwaddolodd mawl-dŷ a degymau Llangoed, Llaniestyn a Llanfihangel Dinsylwy yn yr ynys hon. Claddwyd y "Deon Du" yn eglwys Bangor, ac yr oedd cerflun o hono ar efydd, gyda'r feddargraff isod yn llawr yr Eglwys Gadeiriol:—"Orate pro anima Richardi Kyffin, hufus Ecclesia Cathedralis decani, qui in dicta Ecclesia fundavit cantoriun sacredatum, ordinavit at celebrandum pro anima Abiit XXII, die mensis Augusti, MECCCCII," (1502).
Desgrifir Llanddwyn gan un hanesydd fel "a cell of benedictive Monks **** a very small chapter of canons." Cysegrwydd eglwys Llanddwyn oddeutu y fl. 465, i St. Dwynwen. Codwyd y drysorfa fel y crybwyllwyd yn barod oddiwrth offrymau amryw ddiofrydwyr, y rhai oedd yn dra lluosog. Hefyd, codid treth gan y Monks of benediction ar y dieithriaid, y rhai fyddai yn gofyn am eu tynged dyfodol, yr hyn a rhagfynegid gan ymddangosiad pysgodyn ar wyneb dyfroedd ffynnon oedd yn cael ei galw yn "Ffynnon Fair" (St. Mary's Well.)
PLWYF LLANGWYLLOG.
Saif y plwyf hwn, rhan yn nghwmwd Llifon, rhan yn Menai, a rhan yn Malltraeth. Gorwedda oddeutu tair milldir i'r gogledd-orllewin o Langefni.
Cysegrwyd yr eglwys i St. Gwillog, merch Caw o Brydain, neu Caw o Dwrcelyn, yn Llanerchymedd. Rhoddwyd y plwyf hwn, gan un o dywysogion Cymru, i brior-dy Penmon. Y ddwy faerdref, Cefn-y-Dderi a Thre-ysgawen, ydynt yn gorwedd yn nghwmwd Menai; mae rhanau eraill o'r plwyf yn nghwmwd Llifon, a'r llall yn Nhwr Celyn (tir cyhelyn). Cysylltir ef â phlwyf Tregaian. Cymerodd brwydr waedlyd le yma mewn man o'r enw Maes Rhos Rhyfel, yn y fl. 1143, rhwng galluoedd Owain Gwynedd (tywysog Gogledd Cymru), a byddinoedd unedig Erse, Manks, a Norwegians, y rhai a ruthrasant i'r ynys hon. Yn y frwydr hon, bu Owain yn fuddugoliaethus. Bu galluoedd llyngesol Cymru ar waith yn y frwydr yma, a llwyddasant i vru holl longau y gelynion i ffordd o fau Dulas. Cadwyd hanes y frwydr hon mewn awdl goffadwriaethol i Owain Gwynedd, yn yr hon y mae canmoliaeth i orchestwaith y tywysog hwn; dywedir nad yw wedi cael sylw un hynafiaethydd Cymreig yn flaenorol.
Maes Rhos Rhyfel.—Derbyniodd yr enw yma oddiwrth y frwydr grybwylledig. Heb fod yn mhell o'r lle hwn mae lle o'r enw "Castell," hanes dechreuol yr hwn sydd anhysbys. Dywedir fod arian ac argraff Nero, Vespasian a Constantine, wedi eu cael yma amryw weithiau mewn sefyllfa dda; ac yn y fl. 1829, cloddiwyd i fyny ddarn o aur ac argraff Vespasian arno yn eglur.
Cors-y-Gedol.—Tybir mai llygriad yw y gair hwn o "Cors-y-gad-ol," (ol-fyddin). Tybia eraill iddo gael yr enw oddiwrth un o'r enw Gedol.
PLWYF RHOS COLYN.
Mae y plwyf hwn yn y cwr eithaf o'r ynys, ar yr ochr orllewinol; y mae yn nghwmwd Menai, ac yn sefyll oddeutu pum' milldir i'r de-ddwyrain o Gaergybi. Cysegrwyd yr eglwys oddeutu y chweched ganrif i St. Gwenfaen, chwaer Peulon, i'r hwn y cysegrwyd Llanbeulan-mab a merch Paul Hen, o ynys Manaw. Y mae yn bur debygol fod yr enw hwn wedi tarddu oddiwrth Rhos-y-golofn, (a stone column or pillar) a godwyd yma gan y Rhufeiniaid, yn arwydd coffadwriaethol o'u goruchafiaeth. Nid oes un amheuaeth nad oedd ganddynt amddiffynfa yn Nghaergybi, oherwydd cloddiwyd i fyny yma amryw weithiau arian Rhufeinig, rhai mor ddiweddar o'r fl. 1814.
Bryn Gwallon.—Rhandir yn Rhoscolyn; y mae yn debygol fod yr enw hwn wedi tarddu oddiwrth Caswallon, fel coffadwrtaeth am ei fod wedi lladd Serigi, tywysog y Gwyddelod, yn y gymydogaeth hon.
Bod Ior.—Dyma un o anedd-dai y llywyddion Rhfueinig yn yr ynys hon, fel y crybwyllwyd o'r blaen yn y sylwadau ar blwyf Llansadwrn. Yn y plwpf hwn mae Creigiau Crigell. Gwel sylwadau arnynt yno.
II CANTREF ABERFFRAW.
GELWID y gantref yma wrth yr enw hwn, oddiwrth ffrwd fechan sydd yn ymarllwys i'r môr yn y fan hon o'r enw Aberffraw. Dyma y lle a ddewisodd tywysogion Cymru i drigo. Dosranrwyd Aberffraw yn ddau gwmwd, sef Malltraeth a Llifon.
I CWMWD MALLTRAETH.
Tarddai enw Malltraeth oddiwrth ansawdd y lle, yr hwn sydd yn gorsiog, yn dywodlyd, a pheryglus. Dywed un am dano fel hyn:—" Malltraeth, an astuary; a place overflowed with water, over which the tide goes."
Taflen o'r holl blwyfydd yn y cwmwd hwn, a'r flwyddyn yr adeiladwyd yr eglwysi:
Plwyf | O.C. | Plwyf | O.C. | |||
1 Aberffraw | 615 | 7 Llangristíolus | 700 | |||
2 Llanbeulan | 630 | 8 Trefdraeth | 600 | |||
3 Llangadwaladr | 650 | 9 Llangwyfan | 714 | |||
4 Llanfeirion | 600 | 10 Rhan o Tre' Gaian | 611 | |||
5 Rhan o Eglwys St. Newdion | . | 11 Rhan o Tre' Gwalchmai | . | |||
6 Rhan o Langwyllog | 601 | . | . |
PLWYF ABERFFRAW.
Aberffraw.— Y mae y pentref hwn ar lethr ffrwythlawn, yn gwynebu tua chodiad haul; ac o dano yr ym. ddolena afon dryloew Ffraw tua'r môr. Ar yr ochr arall i'r afon, gwelir tywyn mawr llydan, yn ymddysglaerio fel yr eira gwyn a'r ddiwrnod goleu. Oddiwrth y tywyn hwn y gelwir y lle gan y beirdd yn Aberffraw wen:
"Onid Aberffraw wen hynod yw hon,
Lle tirion ar lan afon,
Lle ucha' ei bri, ar ochr bron."
Y mae enw Aberffraw yn tarddu oddiwrth "afon," a "ffraw;" ystyr y gair ffraw ydyw bywiog, cynhyrfus; ac felly ystyr yr enw yw "afon fywiog." Enw Rhufeinig Aberffraw ydoedd "Gadavia."—Gada, to fall or run down; via—way; dwfr yn rhedeg i lawr (i'r môr, efallai.)
Ni wyddys a fu y Rhufeiniaid yn trigo yma a'i peidio; y tebygolrwydd yw, iddynt fod rywbryd mewn cyfnod pur foreu, onide ni fuasai y lle yn cael ei alw "Gadavia."
Yr ydys wedi rhoddi ystyron y geiriau bod a thref o'r blaen ceir tair o ffermydd yn y plwyf hwn yn dwyn yr enw Bod-Bodfeirig (trigfa Meirig), Bodgedwydd, a Bodwrdin.
Ymddengys fod y lleoedd hyn yn brif breswylfeydd yn mhob trefedigaeth; a thra yr oedd y trefedigaethau hyn yn cynyddu ac yn lluosgi yn fân adranau teuluaidd, yr oeddynt dan orfod i dir-ranu; sef trosglwyddo iddynt eu rhanau neillduol o dir, i'w drin a'i lafurio. Dywed Mr. Rowlands fod y prif drosglwyddwyr yn cael eu galw yn mhob un o'r trefedigaethau, yn 'dir-ranwyr' (land sharers); gelwir hwy "Tyranni" yn Lladin. Rhoddwyd fferm Bodgedwydd, neu Trefod Gedwydd, yn nghantref Aberffraw, gan Llewelyn ap Iorwerth, tywysog Gwynedd, yn anrheg, gyda lleoedd eraill yn Môn, at gynal mynachlog Conwy: a bu y Cwirtau hefyd ar ol hyny yn perthyn i'r un syfydliad. Gwel Mona Antiqua, tudal. 127. Amddiffynfa Din Dryfal.—Tardda yr enw o'r gair Tin, am amddiffynfa, ac o'r gair Tryfal, am drionglog; felly yr ystyr yw, "Amddiffynfa dair onglog."
Y mae olion yr hen amddiffynfa hon i'w gweled hyd heddyw ar dir fferm o'r un enw. Ymddengys fod yr amddiffynfa hon wedi bod yn noddfa bwysig gan yr hen drigolion pan fyddai gwahanol estroniaid yn ymosod ar, ac yn anrheithio yr ynys.
Yn canlyn wele hanesyn (wedi ei ddyfynu) sydd yn dwyn perthynas a'r amddiffynfa uchod:—"Y Gwyddelod, o dan lywyddiaeth eu tywysog, Serigi Wyddel,y rhai hyn ar ol eu gorchfygu yn ardaloedd eraill Cymru, a ffoisant i'r ynys hon, a hwy a wersyllasant yn agos i'r amddiffynfa gref a elwid gan y brodorion yn "Din Dryfal": a bu brwydr galed rhwng gwŷr Môn a'r Gwyddelod yn yr ardal hono, mewn lle a elwir hyd heddyw yn "Ceryg y Gwyddil," a llawer o'r Monwysion a gwympwyd yma. Ond cyn terfynu y frwydr, daeth yno Caswallon Llaw Hir, ap Einion Yrth, ap Cunedda, a'i gefndryd Cynyr, Meilyr, a Meigyr, meibion Gwron ap Cunedda, gyda byddin gref; a gwnaethant ymosodiad ffyrnig ar y Gwyddelod, gan eu curo, a'u hymlid hyd gwr eithaf yr ynys. Ac wedi ymladd gwaedlyd, gorchfygwyd y Gwyddelod; a Chaswallon Llaw Hir a laddodd Serigi Wyddel a'i law ei hun, ac ni adawyd neb o'r estroniaid hyn yn Nghymru, oddieithr y rhai a wnaethpwyd yn gaethion. A Chaswallon a adeiladodd eglwys yn Môn, yn y fan lle yr enillodd y frwydr, ac a'i galwodd yn "Llan y Gwyddel," yn awr Caergybi, neu yn hytrach, "Côr Cybi."
Eglwys y Beili.—Ystyr y gair Beili yw "allanfa," lle cauedig, carnedd, a bedd-dwyn Yr oedd y bedd. -dwyn gan y Derwyddon yn cael ei gyfrif yn lle eysegredig. Dywed Clem. Alex. in potrept—"Templa, dici fuisse autem Sepulchra, i.e., Sepulchra ipsa vocate fuisse templa"; h.y., fod 'bedd-le' ei hun yn cael ei alw yn deml. Gwel "Brython," cyf. 4., tudal. 202.
Gwisgai y Derwyddon eu bedd-leoedd â llwyni o dderw cysegredig; ymddangosent yn yr addurniadau hyn fel temlau neu fanau cysegredig—y gwydd yn fur, a'r awyr las uwchben yn do! Ymgynullent i'r temlau hyn i addoli, oblegyd barnent fod Duw yn un rhy fawr i drigo mewn temlau o waith dwylaw. Yr oedd yn naturiol i'r rhai hyny, pan eu henillwyd oddiwrth dderwyddiaeth i gofleidio y ffydd Cristionogol, iddynt adeiladu eu heglwysi yn yr un man ag y byddent yn arfer addoli gynt: oblegyd yr oedd ymlyniad a serch ganddynt at y cyfryw fanau yn fwy na rhyw leoedd eraill.
Dywed Mr. Rowlands, yn y Mona Antiqua, fel hyn:—"Our Christian churches have generally been built at, or near those ancient sanctuaries." **** "and probably, people's mind were sooner drawn to make their Christian meetings at their antiently accustomed places of assembling. I say our Christian churches do seem on this account to have their name Llan, from that of Llwyn, with the addition of some christian name that had been signalized in that place, instead of their former heathenish characters and terminations." Page 229.
Y mae yn bur debygol mai mewn lle o'r fath yma yr adeiladwyd yr eglwys uchod; ac iddi oddiwrth hyny gael ei galw yn "Eglwys y Beili," neu y bedd-le. Gan bwy, a pha bryd yr adeiladwyd hi, nis gwyddom; ond, tybir iddi gael ei hadeiladu lawer o amser o flaen eglwys y plwyf. Safai yr hen adeilad yn yr un fan ag y saif yr Ysgol Rad waddoledig, yr hon a adeiladwyd gan Syr Arthur Owen, Bodeon, yn y fl. 1729, ac a roddwyd ganddo, yn ei ewyllys, yn y fl. 1735, i'r dyben o ddysgu plant tlodion y lle. Safai y gladdfa o'r tu cefn i'r adeilad yma—cyrhaeddai i lawr i erddi Bryn-yr-Efail; cafwyd amryw esgyrn dynol yn y lle ar wahanol adegau.
Eglwys y Plwyf.—Adeiladwyd hi oddeutu y fl. 615, gan St, Beuno, mab i Hywgi neu Bugi ap Gwynlliw Filwr, o Perfferen, merch Llewddyn Lluyddog, o Ddinas Eiddin, yn y gogledd; ac felly yr oedd yn gâr agos i Catwg Doeth, ac yn gefnder i Cyndeyrn, seilydd Esgobaeth Llanelwy, â'r hwn hefyd yr oedd efe yn cydoesi. St. Beuno, pan ddaeth gyntaf i Wynedd a ymsefydlodd yn ngodreu mynyddoedd Arfon, mewn lle o'r enw Clynog; ac adeiladodd yno eglwys a mynachlog. Yr oedd y fynachlog yn fath o athrofa i gymwyso dynion ieuainc i'r weinidogaeth. Yr oedd St. Beuno yn ŵr diwyd a gweithgar gydag achos crefydd. Bu yn foddion i grynhoi cynulleidfaoedd cristionogol, ac adeiladodd eglwysi yn Aherffraw, Treftraeth, a lleoedd eraill.
Croes Ladys.—Saif ar y cwr gogleddol o dywyn Aberffraw, wrth ymyl yr afon Ffraw, gyferbyn a Bwlan, yn yr hwn le y ceir olion o hen aneddau hyd heddyw. Ni wyddis beth oedd yr achos i'r lle hwn gael ei alw yn Croes Ladys, os nad rhyw le ydoedd yn y cyfnod pabyddol i gartrefu boneddigion o'r urdd fynachaidd. Yr oedd amryw y pryd hyny yn credu fod ymneillduo oddiwrth y byd am eu hoes i fyw yn y cyfryw sefydliadau, a myned trwy ffurfiau y grefydd babaidd, yn ddigonol aberth i'w rhyddhau oddiwrth eu holl bechodau—a myn eglwysi Rhufain i'w deiliaid gredu y pethau hyn eto. Efallai fod yr enw hwn yn tarddu oddiwrth" Wladys," sef Claudia,"—hen enw arferedig ar fenywod gynt.
Y rheswm dros y syniad cyntaf ydyw, fod tebygrwydd yn unigrwydd a neilluedd y lle; ac ystyr yr enw yn tueddu i gadarnhau y syniad mai sefydliad o'r fath fu yma.
Bryn Fendigaid.—Y mae y lle hwn yn sefyll wrth ochr y ffordd sydd yn croesi y Tywyn o Aberffraw i Llangadwaladr. Beth achosodd iddo gael yr enw hwn, nid oes sicrwydd, os nad oedd yn lle cysegredig gan y pabyddion. Mae traddodiad fod amryw ddrwgweithredwyr wedi eu dienyddio ar y bryn hwn yn amser y tywysogion. Cafwyd gweddillion dynol yma wrth glirio y lle i godi ceryg―y rhai oeddynt weddillion y drwg-weithredwyr, fel y tybir.
Henllysoedd.—Ceir pedair o ffermydd yn y plwyf hwn dan yr enwau Henllys; sef Henllys Fawr, Henllys Groes, Henllys Wen, a Phen Henllys. Dywedir mai yr achos i'r lleoedd hyn gael eu galw yn Henllysoedd ydoedd, mai rhyw fath o lysoedd oeddynt yn amser y tywysogion.
Rhydd Dr. W. O. Pugh yn ei Eirlyfr, ddarnodiad o'r cyfryw lysoedd a fodolant y pryd hyny, dyma ydyw:"1. Llys y brenin; 2. Llys breyr; hyny yw, Llys y barwn; 3. Llys Cwmwd; 4. Llys benadur, Llys beunyddiol; hyny yw, y prif neu y Pen llys; 5. Llys dygynull; hyny yw, Llys galw yn nghyd; 6. Llys ail goffa; hyny yw, Llys gohiriad.' Y mae yn debyg mai rhai o'r llysoedd hyn fu yn y lleoedd uchod.
Clafdy.—Y mae y lle hwn oddeutu haner milldir yn y cyfeiriad gogleddol o bentref Aberffraw. Yr achos i'r lle gael ei alw yn Clafdy oedd, mai yno yr oedd yr ysbytty yn amser y tywysogion.
Bryn Llewelyn.—Saif y bryn hwn oddeutu chwarter milldir yn y cyfeiriad gorllewinol o bentref Aberffraw. Dywedir mai yr achos i'r lle hwn gael ei alw yn Bryn Llywelyn ydoedd, oblegyd mai oddiar y bryn yma y byddai y Tywysog Llywelyn yn arfer codi arwydd i alw ar ben-llywydd y fyddin, yr hwn oedd yn byw y pryd hyny yn Trefeilir; yr hwn le a saif ar dir uchel tua phum' milldir o'r bryn uchod.
Dywed Llyfr Coch Asaph am Aberffraw, y gelwid hi "Vetty," o'r afon sydd yn ei hymyl, lle oedd gynt Lys enwog i Dywysog Gwynedd, a'r afon hono a elwir Ffraw; a gwyr pawb mai Aber cyn y Vrutanet a arwyddoca yn gyffredin gydhyriad a thrawiad avon yn y môr Tegaingl, sef Tanact. Felly" Aberffraw yw aber yr afon Ffraw."
PLWYF LLANBEULAN.
Y mae rhan o'r plwyf hwn yn Nghwmwd Llifon, rhan yn Malltraeth, a rhan yn Twrcelyn. Saif oddeutu chwe' milldir i'r de-orllewin o Langefni; derbyniodd y plwyf yr enw oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Beulan, yn y chweched ganrif—mab Pawl hen o Fanaw.
Ystyr yr enw yw Llan Heddychol. Y fywioliaeth sydd berigloriaeth, mewn cysylltiad sefydlog a churadiaethau Cerchiog, Llanerchmedd, Llechylched, a Taly-llyn, yn archdeoniaeth Môn, a than nawdd Esgob Bangor. Trethid ef yn King's books yn 22p. 3s. 11½c. Cyfartaledd blynyddol y plwyf at gynorthwyo y tlodion ydyw, 197p. 13s Roddodd un o'r enw David Jones yn ei ewyllys 10p., a dymunodd i'w llôg gael ei ranu rhwng y ddau berson hynaf ag sydd yn meddu cymeriad da yn y plwyf hwn.
PLWYF LLANGADWALADR (Eglwysael).
Saif y plwyf hwn oddeutu wyth milldir i'r de-orllewin o Langefni. Tardda yr enw oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Cadwaladr Fendigaid, y diweddaf o frenhinoedd unbenaethol Cymru, yn y fl. 650. Yr oedd Cadwaladr yn fab i Cadwallon Frenin, ap Cadfan ap Iago, ap Beti, ap Rhun, ap Maelgwyn Gwynedd, ap Caswallon Llaw Hir. Tybia rhai mai y Cadwaladr a ddechreuodd yr eisteddfodau gyntaf yn mhlith y Cymry; ond bybia eraill yn wahanol. Yn y trioedd (Myv. Arch. Cyf. ii. tulal. 63); nodir ef fel un o'r tri brenin Canonaidd,-"tri menwedigion teyrnedd,"-am yr amddiffyniad a roddai i Gristionogion a orthrymid gan y Sacsoniaid. Ac, hyd yn nod Woodward—pan yn ei ddifrio fel rhyfelwr, am iddo enill iddo ei hun yr enw Calqubail Calquornmedd," (y dyn na fynai ymladd,) a rydd iddo yr anrhydedd hwn fel sant, ei fod yn fwy cyfarwydd ag adeiladu eglwysi a gwaddoli mynachdai, nag ydoedd a rhyfela. Y Cadwaladr hwn a adeiladodd yr Eglwysael hon, yn yr hon y claddwyd ei daid Bodfan; ac a elwir hyd heddyw yn Llangadwaladr. Gwel y "Gwyddoniadur," dan y gair Cadwaladr. Yr ystyr yw, "Llan-y-dewr-i-ryfel."
Ar gapen y drws deheuol y mae yr argraff ganlynol yn ddarllenadwy:—" "Catamanus Rex sapiintissimos opinatiseiomos Omnivm Regvm." Catamanus oedd dad cu (grandfather) i Cadwaladr. Dywedir iddo gael ei gladdu yn Ynys Enlli; ond, rhydd Rowlands ar ddeall i ni i'w weddillion yn y diwedd gael eu rhoddi i'w cadw yama gan Cadwaladr, yr hwn, efallai, a gododd yr eglwys hon yn fuan ar ei fedd ef: ac ar y cyfrif hyn y gwisgwyd hi â rhagorfraint neillduol. Y cyfartaledd blynyddol at gynal tlodion y plwyf ydyw, 177p. 17s. 0c.
PLWYF LLANFEIRION.
Saif y plwyf hwn oddeutu deng milldir i'r de-orllewin o Langefni. Tardda yr enw oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru yn y chweched ganrif i Meirion, neu Meirian, ap Owain Danwyn, ap Einion Trth, ap Cunedda Wledig, brawd Siriol Wyn, ac Inion Frenin. Y mae y gair Meirion yn cynwys y meddylddrych o faer (mayor); yr ystyr yw "Llan-y-Maerod."
Yr oedd yr eglwys hon mewn cysylltiad a pherigloriaeth Llangadwaladr; ond nid yw yn bodoli yn awr, oblegyd syrthiodd i adfeiliad llwyr oddeutu y fl. 1775.
PLWYF TRE' GWALCHMAI.
Y mae rhan o'r plwyf hwn yn nghwmwd Llifon, a rhan yn Malltraeth. Saif oddeutu pum' milldir i'r gorllewin o Langefni. Y mae yr eglwys yn sefyll ar ben bryn, oddeutu milldir oddiwrth New Mona Inn, cysylltwyd y fywiolaeth a pherigloriaeth Hen Eglwys, yn niaconiaeth Môn, ac yn esgobaeth Bangor, Cysegrwyd yr eglwys i St. Mordeyrn, neu Morhaiarn; ond nid yw yr enw hwn yn ymddangos yn y "Cambrian Biography." Y mae enw y plwyf wedi ei droi; a rhoddwyd enw Gwalchmai ap Meilir arno oddeutu y ddeuddegfed gannif. Tybir mai yr ystyr yw, "Trigfa un yn llawn ysbryd i ymeangu allan."
PLWYF TREFDRAETH.
Mae y plwyf hwn oddeutu wyth milldir i'r de-orllewin o Langefni: arwydda yr enw—"Tref ar lan traeth," (the town or village near the sand).
Cysegrwyd yr eglwys i St. Beuno, oddeutu y chweched ganrif. Y mae y fywioliaeth yn gysylltiedig a Llangwyfan.
PLWYF LLANGRISTIOLUS.
Saif y plwyf hwn oddeutu milldir-a-haner i'r de-orllewin o Langefni. Cafodd yr enw oddiwrth yr eglwys, yr hon a gysegrwyd yn y seithfed ganrif i St. Cristiolus mab Hywel Fychan, ap Hywel Faig, a elwir Hywel Fachlog ap Emyr Llydaw. Yr ystyr yw, "Llan-yr-eneiniedig."
Llangristiolus.—Y fywioliaeth eglwysig sydd guradaeth wastadol mewn cysylltiad â Cerygceinwen, yn archddeoniaeth Môn ac esgobaeth Bangor, a than nawdd yr un Esgob, yr hwn sydd yn hawlio degwm y plwyf. Y mae yma leoedd addoliad gan y Trefnyddion Calfinaidd a Wesleyaidd. Hefyd, ceir yma ysgol blwyfol rad, i ddysgu amryw blant i ddarllen ac ysgrifenu. Cynhelir hi mewn rhan gan ychydig waddoliadau a thanysgrifiadau.
Rhoddodd y Parch. Hugh Jones yn ei ewyllys 100p.; Parch. Dr. Lewis, 50p.; ac amrywiol gymwynaswyr aill ychydig o symiad o arian,—llôg blynyddol pa rai sydd yn 17p. 10s., ac a ddosranir yn mhlith tlodion y plwyf bob Nadolig. Ganwyd yn y plwyf hwn, yn y fl. 1648, Dr. Henry Maurice, o Goleg yr Iesu, yn Rhydychain, a Margaret, Professor of Divinity yn y Brif Ysgol hon. Hebryngodd ei noddwr ef—Syr Le- oline Jenkins, i Cologne, fel negesydd (ambassador), a neillduoedd ei hun yn fawr fel ysgrifenydd dadleuol (polemical writer). Cyfartaledd blynyddol y plwyf at gynal y tlodion ydyw, 472p. 2s. 0c.
PLWYF LLAN GWYFAN.
Mae'r plwyf hwn yn sefyll oddeutu deuddeg milldir i'r gorllewin o Langefni. Adeiladwyd yr eglwys hon mewn lle anghyfleus ar graig fechan, amgylchynir hi gan y môr ar lanw uchel. Cysegrwyd hí yn y seithfed ganrif i St. Gwyfan Cwyfen, ap Brwynog, ap Corth Cadeir o Gwm Dyfynawc, ap Medrawd, ap Caradawc, Freichfras, a'i fam Camell o Fod Anghared yn Ngholoion. Hefyd, cysegrwyd eglwys Tudweiliog, yn Arfon, a Llangwyfan yn Maelor, iddo. Nis gellir myned i'r eglwys hon ond ar drai: dywedir fod tir o'i hamgylch pan adeiladwyd hi.
Y mae yn argraffedig ar gareg fedd tu fewn i'r eglwys, ei bod yn cael ei galw yn y fl. 1601, yn "Infelina Insula," (Anhapus Ynys); ac felly, o'r hyn lleiaf, y mae yn cael ei galw yn ynys ers yn agos i dri chan' mlynedd. Yr ystyr yw, "Llan y dinystrydd," sef Gwyfyn.
Ceir yn y plwyf hwn luaws o hen weddillion hynod, a rhai o honynt oedd yn bodoli cyn Crist. Un o'r pethau cyntaf y sylwir arno ydyw y Gromlech sydd ar ben Mynydd y Cnwc, yr hon sydd yn gareg fawr wastad lydan, wedi ei gosod ar ben tair careg tua dwy droedfedd o uchder oddiwrth y llawr—y mae yr olwg arni yn debyg i fwrdd ac o'i hamgylch yr oedd cylch o geryg, wedi bod yn mesur ar draws oddeutu 12 llath. O fewn i'r cylch hwn y byddai y Derwyddon gynt yn arfer ymgynull i addoli ac aberthu. Saif yr allor hon mewn lle am- lwg, sef ar fryn uchel-nid oes ond tua can' llath rhyngddi a'r môr, ac oddeutu dwy filldir o orsaf Ty Croes. Dywedir y byddai yr hen Dderwyddon gynt yn arfer myned yn orymdaith dan ganu, a ffyn gwynion yn eu dwylaw, yn mhen chwe' diwrnod ar ol i'r lleuad newid, tua llwyn o dderw cauadfrig; ac yna dringai yr offeiriad i fyny i'r dderwen, ac, a'i gryman euraidd torai i lawr y llysieyn a elwir "uchelfad:" a byddai un arall, odditanodd yn ei dderbyn ag arffedog wen.
Fe ddygid yno hefyd ddau fustach gwyn, difai, dianaf, ac fe'u haberthid ar uchaf y gromlech uchod. Ystyrid y cyfryw aberth yn swyngyfaredd odidog rhag gwenwyn, haint, ac anffrwythlondeb. Ond yr aberth goreu a dybient hwy a ryngai bodd i'r duwiau oedd drwgweithredwyr, y rhai yr oedd cyfraith y tir wedi eu condemnio i farw—megys llofruddion a lladron.
Ar nos Galan Mai, byddent yn arfer a chyneu tân ar ben pob carnedd trwy yr ynys, lle y byddai un o'r Derwyddon, gyda'r bobl o'r gymydogaeth hono, yn aberthu i'r tadolion dduwiau, er cael rhad a bendith ar gnwd y ddaear. Gwneid yr un peth ar nos Galan Gauaf, er talu diolch wedi cael cnwd y ddaear yn nghyd.
Ogof Arthur.—Saif hon ar yr ocr ddeheuol i fynydd y Cnwc; ac mae hen draddodiad fod Arthur wedi bod yn llechu yma, pan oedd mewn rhyfel â'r Gwyddelod. Gwel "Brython," tudal. 138.
Hen Eglwys (the Old Church.)—Y mae yr eglwys hon yn nghwmwd Malltraeth; telir i beriglor y lle hwn mewn undeb a chapel Tref Gwalchmai; ei noddwr ydyw Esgob Bangor. Cysegrwyd hi i St. Llwydian: nid yw Dr. W. G. Pughe yn ei nodi yn ei gyfres.
II. CWMWD LLIFON.
Y mae tarddiad yr enw hwn yn lled aneglur: ceir ef wedi ei ysgrifenu mewn hen gof-lyfrau yn "Llewon." Tybir ei fod wedi ei roddi ar y cyntaf yn enw i'r tiriogaethau hyn, oblegyd eu bod yn rhan mwyaf gorllewinol yr ynys. Yr oedd y Gorllewin yn cael ei alw yn yr hen Frythoneg yn gorllewon, neu gorllewin, fel y mae hyd heddyw. Ond dywed eraill iddo darddu oddiwrth llif dwfr."
Taflen o'r plwyfydd yn nhwmwd Llifon, a'r flwyddyn yr adeiladwyd yr eglwysi:
Plwyf | O.C. | Plwyf | O.C. | |||
1 Llanbeulan (Rhan) | . | 8 Llanfihangel-y-Trethau | . | |||
2 Llechylched | . | 9 Llanfair-yn-neubwil | . | |||
3 Tal-y-Llyn | . | 10 Lianynghenedl | 700 | |||
4 Llanvaelog | 740 | 11 Llantrisant (Rhan) | 570 | |||
5 Ceirchiog | . | 13 Llanllibio | . | |||
6 Tref Gwalchmai (Rhan) | . | 13 Bodwrog | 609 | |||
7 Bodedern | 700 | 14 Llechgynfarwydd | 630 |
PLWYF LLANFAELOG.
Y mae y plwyf hwn yn sefyll oddeutu chwe' milldir i'r de-orllewin o Langefni. Saif yr eglwys yn bur agos i lan y môr: cysegrwyd hi oddeutu y seithfed ganrif, i St.Maelog ap Caw Cawlyd. Hefyd, adeiladodd eglwys Dyfaelog a Llandyfaelog Fach, yn nghyd a Llandyfaelog Tref-y-Graig yn Nyfed: ei gofwyl yw Rhagfyr 21ain. Gelwir y persondy wrth yr enw Tŷ Gwyn; ac y mae pwll bychan yn agos yno, yn cael ei alw "Llyn Maelog."
Ceir yma amryw gromlechau, neu allorau y Derwyddon—un ar dir Tŷ Newydd, un arall ar Fynydd y Cnwc, a thri o rai bychain eraill yn agos i Afon Crigyll.
Ystyr yr enw mael yw enill; ac, awg—craffus: felly ystyr yr enw Llanfaelog yw, "Llan yr enillydd craffus.
Llanfaelog.—Y fywioliaeth eglwysig sydd guradiaeth wastadol ynglyn â phersonoliaeth Llanbeulan, yn archddeoniaeth Môn ac esgobaeth Bangor. Y mae yma addoldai gan y Trefnyddion Calfinaidd, y Wesleyaid, a'r Annibynwyr. Ceir yma luaws o roddion elusenol wedi eu rhoddi yn gymun-roddion i dlodion y plwyf, gan amrywiol gymwynaswyr. Ond y mae llawer ohonynt ar goll. Cyfartaledd blynyddol trethi y plwyf at gynal tlodion ydyw, 167p. 118. 0c.
PLWYF CEIRCHIOG (Bettws-y-Grog.)
Saif y plwyf yma oddeutu milldir o Lanbeulan, cysegrwyd yr eglwys i'r Ffordd Sanctaidd (holy road), ac, ar y gyfrif hyn yr enwyd hi yn Bettws-y-Grog, neu Bettws y Groes Sanctaidd. Tybir fod yr enw wedi tarddu oddiwrth eglwys Rhufain yn cadw gwyl, dan yr enw "gwyl y grog": fel coffadwriaeth am fod yr Ymerawdwr Heraclius wedi ad-enill y "wir groes," fel ei gelwir, oddiar y Bereiaid; ac wedi myned yn ei ol i Galfaria. Yn-ol y chwedlau mynachaidd, gwisgodd yr ymerawdwr ei freiniol wisgoedd, a gwysiodd ei holl bendefigion a thywysogion ei lys i'w ganlyn ar ei bererindod i Jerusalem: ond, yn gwbl ofer-canys ni allai symud y groes, ac ni agorai pyrth y ddinas iddo; am hyny efe a ofynodd yr achos; a llais o'r nef a'i hatebodd, "gan ddywedyd i Grist fyned i Jerusalem, yn eistedd ar asyn yn ostyngedig, ac yn addfwyn," Yna disgynodd yr ymerawdwr, ac a aeth yn draed-noeth i mewn i'r ddinas, a'r groes ar ei ysgwyddau. Eraill a dybiant i'r wyl hon gael ei chadw gyntaf yn Jerusalem, yn y flwyddyn 325, pan ddaeth Elen Lueddog, mam Cystenyn Fawr, o hyd i'r "wir groes," yn gladdedig arloes Galfariafel y tybid y pryd hyny.
Ond, pa un bynag o'r ddau syniad sydd yn gywir o berthynas i sefydliad yr wyl hon, y mae yn ddigon hysbys ei bod o fri mawr gan y pabyddion pan enwyd lleoedd ar yr un enw.
Gelwid y lle yn Bettws Rimmon—oddiwrth beth neu pwy, ni wyddis. Yr ystyr yw, "Ty Gweddi dyrchafedig." Y mae'r eglwys hon wedi myned yn adfeilion.
Gelwir y plwyf yn Ceirchiog, oblegyd fod y tir yn fwy cydnaws at dyfu y gronynau ceirch.
PLWYF BODWROG.
Gorwedda y plwyf hwn oddeutu tair milldir o Langefni. Y mae y fywioliaeth yn guradiaeth barhaus yn archddeoniaeth Môn ac esgobaeth Bangor, ac yn nawdd prif-athraw a chyfeillion Coleg yr Iesu, Rhydychain, i'r hwn le y cyflwynwyd y degymau a'r elw gan Dr. Wynne, Cangellydd Llandaf, yn y fl. 1648, ar yr amod fod i bum'-swllt-a'r-hugain gael eu talu yn flynyddol i dlodion y plwyf. Yn Rhydychain hefyd y penodir un (o'r ysgolorion) i'r fywioliaeth. Cysegrwyd yr eglwys i St. Twrog, efallai mab Ithel Hael o Lydaw, yr hwn a ddaeth gyda Cadfan i'r ynys hon: efe a wnaeth eglwys Llandwrog yn Arfon, a Maentwrog yn Meirion, os yr un ydyw.
Gellir tybied i'r eglwys hon gael ei hadeiladu oddeutu y chweched ganrif. Ystyr yr enw yw "Trigfa Gadarn." Y mae lluniau tri tarw i'w gweled yn ffenestr ddwyreiniol yr eglwys, yr hyn sydd yn lled arwyddo fod teulu y Bwlceiad, o Beaumaris, yn dwyn rhyw berthynas a'r lle.
PLWYF LLANDRYGARN.
Mae y plwyf hwn yn gorwedd oddeutu tair milldir i'r de-orllewin o Lanerchymedd: cysegrwyd yr eglwys i St. Trygarn. Y mae y gair Trygarn yn tarddu o ddau wreiddin, try, (to lurn-to go to the other side); a carn, o'r un ystyr a Carnedd—(a heap of stones.)
Gwyndy.'—Tardda yr enw hwn oddiwrth Tŷ Gwyn (White House): bu cysegrfa eglwysig yn y fan lle saif y Gwyndŷ yn bresenol. Yma y byddai y rhïanod glan yn rhoddi eu hunain yn hollol at wasanaeth yr Arglwydd, ac yn ymwadu yn drwyadl a phob mwyniant cysylltiedig a'r bywyd presenol. Y mae amryw bethau perthynol i'r lle hwn i'w gweled, ac yn cael eu cadw gyda gofal er coffadwriaeth am yr hen sefydliad. Bu y lle hwn yn westy am flynyddau, hyd nes y codwyd Pont Menai, &c.
Rhydcaradog a Rhyd-y-Saint.—Y mae cysylltiad neillduol rhwng y ddau le yma a'u gilydd. Yn Rhyd-y-Saint yr arferai yr hen fynachod wersyllu; ac yno yr ymgynallid ar wahanol adegau o'r flwyddyn i ymdrin â materion eglwysig a chrefyddol. Pan fyddai y rhyw deg yn cyflwyno eu hunain i'r Griandŷ, deuant ar eu taith i'r Rhyd, a'u ceraint a'u cyfeillion i'w canlyn. Treiliant ychydig amser yma i ymddiddan a chynghori eu gilydd; ac yna cychwynid gyda hwy, yn araf, dan ymgomnio, tua'r gysegrfa, hyd nes y deuent at Rhydcaradog. Brwd a chymysglyd fyddai teimlad eu mynwesau pan gyrhaeddent y Rhyd hwnw, oherwydd ni oddefid i gâr na chyfaill fyned gam yn mhellach, ac felly ffarwelient yn nghanol cri a dagrau; a dywedir mai gwir ystyr y gair ydyw, "Rhyd Criadog." Codwyd maen mawr dros yr afon sydd yn rhedeg drwy y lle hwn, yn amser John Bodychen, a Rhys Bold Treddol. Dywedir fod oddeutu dau gant yn ciniawa ar yr achlysur yn Bodychen.
Pentre Buan.—Yn amser y mynych ymosodiadau fu ar blant Gomer, bu y fan yma yn lle pwysig―oblegyd aml y cyrchid i'r lle gan finteioedd gwrthryfelgar, am mai yma y cedwid y bŵaau saethau. Y mae careg gerllaw yr eglwys, ar ba un y dywedir y byddent yn arfer minio blaenau eu saethau—y mae wedi ei rhychu yn ddofn; ac, yn ol bob tebyg, bu traul fawr arni. Y mae amryw bethau yn aros ac i'w gweled hyd heddyw yn y pentref hwn; megys "Tarian y Saethau," &c. Dywedir fod ogof yn rhywle gerllaw y fan hon, yn mha un yr arferid ymguddio—ond nid oes un argoel o honi yn awr i'w gweled.
Cae'r Coll.—Dywedir i'r lle hwn dderbyn yr enw yna fel y canlyn:—Yr oedd unwaith ddwy fyddin yn cydgyfarfod—un oddiwrth Llanerchymedd, a'r llall oddi Cefnithgraen. Daethant i gyfarfyddiad sydyn, oblegyd fod bryn rhyngddynt; cyrhaeddodd un fyddin ben y bryn yn cyntaf, a chafodd y llall ei gyru yn ol, a chollodd y frwydr; ac yna galwyd yr ucheldir yn "Brynbyddin," a'r maes yr enciliwyd iddo yn "Gaer goll"—y rhai sydd yn enwau arnynt hyd heddyw.
Tyddyn Bleddyn.—Gelwid ef oddiwrth Bleddyn ap Adda; a thybir fod lle arall, yn mhlwyf Llanwenllwyfo, wedi ei enwi oddiwrth yr un person, sef " Nant-y-Bleddyn."
PLWYF LLECHGYNFARWYDD.
Y mae y plwyf hwn yn sefyll oddeutu tair milldir i'r de-orllewin o Lanerchymedd. Y mae gwahanol farnau o berthynas i darddiad yr enw hwn: tybia rhai iddo darddu oddiwrth yr hen Sant Cynfarwydd ap Awy, ap Lleurawg, tywysog Cernyw; eraill a dybiant i'r enw darddu oddiwrth Gwenafwy, merch Caw Cawlyd. Dywedir fod eglwys wedi ei chysegru iddo oddeutu y chweched ganrif-pa le ni wyddis, os nad hon ydyw,-ond y farn gyffredin yw, mai i'r hen sant crybwylledig y cysegrwyd hi.
Y mae'r gair "llech" yn nechreuad yr enw, fel blaen-ddod, wedi ei gymeryd oddiwrth gareg fawr a godwyd yn gofgolofn goffadwriaethol, yr hon a fu, hyd yn ddiweddar, yn ansigledig ers oesau lawer; ond a dynwyd i lawr ers tro bellach—a gresyn oedd hyny.
Y mae y fywiolaeth eglwysig y plwyf hwn mewn cysylltiad â phersonoliaeth Llantrisant, yn archdeoniaeth Môn ac esgobaeth Bangor. Y mae yma leoedd addoliad gan y Trefnyddion Calfinaidd a'r Wesleyaid. Derbynia blant tlodion y plwyf eu haddysg yn Ysgol Genedlaethol Llanerchymedd. Rhoddodd un o'r enw Mrs. Margred Wynne, yn ei hewyllys, ran o dir bychan—cynyrch yr hwn a neillduodd i gynorthwyo un hen wreigan oedranus ac anghenus. Rhoddodd un arall, Mrs. Catherine Roberts, yn ei hewyllys, 50p. yn arian at gynorthwyo dwy ddynes dlawd yn cadw tŷ; ac felly y mae yma ychydig roddion elusenol er bûdd i'r tlodion. Mewn cae yn gysylltiedig a'r eglwys hon yr oedd y maen Llechgynfarwydd, yr hwn oedd uwchlaw naw troedfedd o uchder; ond sydd wedi ei dynu ymaith fel yr awgrymwyd, ac ymddangosai ei fod yn dra henafol. Cyfartaledd blynyddol trethi y plwyf at gynorthwyo y tlodion ydyw, 185p. 5s. 0c.
Tref Ddo, neu efallai, Tref Bold.—Y mae hwn yn un o'r palasau hynaf yn yr ynys, (neu yn yr ardal hon, beth bynag.) Yny fl. 1600, Rhys Bold, ysw., a breswylid ynddo. Yr oedd enw hwn y pryd hyny yn anrhydeddus drwy yr holl wlad: a dywedir fod ei briod Helena yn un o'r merched glanaf yn Nghymru. Yr oedd ganddynt fab o'r enw William, yr hwn a enillodd serch, parch, ac edmygedd trigolion Môn yn gyffredinol-a dywedir fod y plwyfolion mor barchus o hono, fel o'r braidd nad addolasant ef. Yn amser y ryfel waedlyd rhwng Charles a Chromwell, pan ddaeth Cromwell a'i fyddin drwodd ar eu ffordd i'r Iwerddon, dywedir iddynt wersyllu yn y lle hwn; a phan ddinystrwyd holl feddianau y boneddigion cymydogaethol, rhoddwyd gorchymyn pendant i'r fyddin gan ei blaenor, na chyffyrddent mewn modd yn y byd a dim o eiddo Bold. A'r traddodiad yw iddynt gynal gwleddoedd rhwysgfawr anarferol; ac yr oeddynt yn ymhyfrydu mewn tywall gwaed dynol, a dinystrio meddianau y trigolion. Cafwyd yr hen benillion canlynol (mewn ysgrifen) ag sydd yn profi hyny:
"Galar mawr, a dwfn och'neidio
Trwy bob parth o Ynys Fôn;
Gruddfan glywir, a swn wylo
Prudd yw 'r gân, a dwys yw'r dôn.
Yntau, Cromwell, yr archelyn,
Gyda Bold Treddol yn llon,
In mwynwledda ar ddigonedd,
Heb un blinder dan eu bron."
Wedi i'r ymgyrch fod rhwng Charles a Chromwell, ac i Bold fod yn bleidiwr i'r diweddaf, collodd lawer o'i barch cyntefig: a hyny yn unig oherwydd iddo lochesu a chroesawu eu gormeswr creulon.
Adeiladwyd croes ganddo yn eglwys Llechgynfarwydd, yn y fl. 1664, yr hon sydd yn golofn goffadwriaethol iddo hyd y dydd hwn.
Cae'r Fordir, neu a gamenwir yn bresenol yn Gae'r fortir. Tebygol yw i'r nantle a'r gwastadedd sydd gerllaw yma fod unwaith yn orchuddedig gan ddwfr; ac y mae olion y cyfryw beth i'w weled yn eglur: gelwir y tir sydd yn terfynu arno yn "Ynys Dodyn." Efallai i'r dywededig lanerch fod wedi ei hamgylchu â dwfr, ac felly fod yr enw wedi tarddu oddiwrth hyny-dyna y syniad sydd ar lafar gwlad yn mysg y brodorion.
Bod Ychain, neu yn fwy priodol, Bod Ychen.—Y mae yr enw wedi tarddu oddiwrth breswylfod un o'r enw Ychen; pwy ydyw nid yw yn hysbys. Y mae y lle hwn yn un o'r rhai hynaf yn yr ynys. Yma yr oedd Rhys ap Llewelyn ap Hwlcyn yn byw; efe oedd y sirydd cyntaf, a pharhaodd yn ei swydd hyd ei farwolaeth. Yr oedd yn byw yma oddentu y f. 1500. Yr adeg neillduol yr hynododd y gwron Cymreig hwn ei hun oedd, yn mrwydr waedlyd a bythgofiadwy "Maes Bosworth "—yr oedd ei fedr fel llywydd yn ei hynodi yn ddirfawr yn mhlith ei gyd-ymladdwyr, fel yr oedd yn cael ei edmygu i'r graddau pellaf. Derbyniodd gan y brenin uchel deitl, a'r enw a ddewisodd oedd Bodychen, sef enw ei breswylfod.
Yn y plwyf hwn yr oedd Carchar y Sir, ac y trinid pob math o achosion o bwys yn eu cysylltiad a heddwch ac a rheolath yr ynys. Y mae rhanau o'r carchar i'w gweled, fel colofnau i ddangos yr hyn a fu yn yr adeg a aeth heibio.
Bryn-y-Crogi.—Y mae yn ymddyngos fod yr enw hwn wedi tarddu oddiwrth y mynych ddienyddiadau fyddai yn cymeryd lle yma. Y mae yn cael ei alw ar yr enw yma hyd heddyw.
Gefnithgraen.—Terfyna y lle hwn ar Bryn-y-Crogi. I'r maes hwn y byddid yn dwyn y troseddwyr i weinyddu cosb y gyfraith arnynt, trwy eu fflangellu a'u cefnau yn noethion, ac felly cafodd y lle yr enw. Yr enw priodol ydyw, "Cefn y noeth groen."
PLWYF LLANFIHANGEL YN NHOWYN.
Plwyf bychan ar ochr dde-orllewinol Ynys Môn. Y mae y tir ardrethol yno o dan 1000 o erwau; a chommins tua'r un mesur yn perthyn i'r lle. Saif y commins hwn ar yr ochr ddeheuol i'r plwyf, a therfyna ar y môr, a gelwir ef" Tywyn trewain." Y mae y gair Tywyn yn tarddu o ddau air, tywod a gwyn: o berthynas i darddiad yr enw Trewain, tybia rhai iddo darddu o'r gair waen, oherwydd gwastad-dir oedd yma cyn i'r tywod gael ei chwythu i fyny o'r môr. Casgla eraill mai Tywyn Trewyn ydoedd. Dywed Mr. Rowlands am dano, mai Tywyn Tre Owain ydoedd; y mae traddodiad yn yr ardal fod yma dref wedi bod unwaith, lle yn awr y mae bryniau tywod; ac fod y dref hono yn cael ei henwi oddiwrth rhyw Owain. Y mae rhan o'r Tywyn hwn yn perthyn i blwyf Llechylched.
Eglwys y Plwyf.—Yr oedd yr eglwys gyntaf yn nghanol Tywyn Tre Owain, tua 150 llath i'r de-orllewin o'r coping sydd ar y railway yn y tywyn; a dyma paham y galwyd y plwyf yr "Llanfihangel yn Nhywyn." Hefyd, gelwir y lle yn "Ferddyn Eglwys." Dywedir fod hen bobl yn cofio y muriau yn sefyll, a rhai yn cofio eu hen deidiau yn dywedyd iddynt fod mewn gwasanaeth yma tua 170 mlynedd yn ol. Ond symudwyd yr hen ferddyn ymaith i wneud brag-dy mewn ffermdy cymydogaethol, a dyna ddiwedd hen eglwys Llanfihangel yn Nhywyn. Y mae yr eglwys bresenol tua milldir-ahaner i'r gogledd o'r hen eglwys: ac yr oedd yn adeiladaeth o'r cyfnod Elizabethaidd, cyn ei hail-adeiladu yn ddiweddar. Saif hon yn nghanol y tir llafur yn y plwyf, ac felly mae yn fwy manteisiol i'r trigolion: mae yma hefyd ysgol berthynol i'r eglwys, yr hon a gynhwysa 100 o blant. Yr oedd yma hyd yn ddiweddar gymunroddion blynyddol at ysgol plant tlodion—30s. oddiwrth y Deon Jones, Bangor: a 10s. bob blwyddyn yn dyfod o Bresaddfed, i'w rhanu rhwng y ddwy hen ferch hynaf yn y plwyf, heb fod yn derbyn cynorthwy plwyfol. Cyfartaledd blynyddol trethi y plwyf at gynorthwyo y tlodion ydyw, 71p. 13s8. Ceir yma le addoliad hefyd gan y Trefnyddion Calfinaidd.
Trwy gŵr y plwyf hwn yr oedd y brif dramwyfa o'r Iwerddon i Loegr, cyn gwneud yr hen lôn bost, fel ei gelwir; ac, y mae y ffordd yma yn dangos yn eglur ei bod wedi bod unwaith yn ffordd Rufeinig; gwelir gwaelodion yr hen ffordd hon rhwng ffermydd Bryn Prudd-der, a Glan y Gors; a rhwng Allwen Ddu, a'r Allwen Goch. Yr oedd i'r gogledd o'r ffordd hon, tua 200 llath o hẹn gastell, neu amddiffynfa a elwir Caer Elen; tybir i'r enw yma darddu oddiwrth Elen, mam Cystenyn Fawr. Yr ystyr yw—Amddiffynfa gwbl ffrwythlawn. Dywedir fod hon wedi gwneud amryw ffyrdd yn y Dywysogaeth. Y mae y gaer yma yn mhlwyf Bodedern, ar y bryn uchaf yn y gym'dogaeth. Cafwyd amryw feddau Bryteinig yma. Y mae fferm arall yn sefyll ar ochr orllewinol y plwyf, rhwng llynau Llewelyn a Dinan; gelwid hi yn Llyn Llywelyn, oddiwrth ynys fechan sydd yn agos yn cael ei galw yn Ynys Llewelyn. Dywed traddodiad mai palas yn perthyn i Llewelyn ydoedd: ond y tebygolrwydd cryfaf yw, mai tŷ at hela ydoedd, gan fod lleoedd yn dwyn yr enw Ceryg yn aml yn dangos terfynau helwriaeth ein hynafiaid. I'r gorllewin o'r fan yma, mewn lle isel a elwir "Ynys y Penrhyn," y mae hen gladda Frytanaidd helaeth; ond erbyn hyn mae y ceryg teneuon y gwastadoedd oedd yn cyfansoddi y feddadeiladwaith, gan mwyaf wedi eu cludo ymaith i adeiladu ty yn y gymydogaeth.
I'r gorllewin o'r fan yma mae Carna, neu "Carnedd yr Esgobion." Yr oedd y tywyn hwn yn faenoriaeth i Esgobion Bangor, a dyma lle yr oedd terfynau y faenoriaeth, a charnes coffadwriaeth terfynau i dir esgobol. I'r dê-ddwyrain o'r Tywyn y mae Rhos Neigr, pentref bach ar lan y môr, a dim ond tywod gwyn ar yr ochr ddeheuol iddo. Tybir mai llygriad o'r gair rus am wlad, a'r gair neigr, o'r gair niger am ddu; ac felly yr ystyr yw "gwlad ddu," am mai mawnog yw y tir. Wrth ddilyn yr afon Crigyll i'r gogledd am tua milldir. a-haner, deuir i le a elwir "Porthor," yn briodol "Porth Ior," neu "Porth y Llywydd."
Ac yn mlaen, haner milldir yn nes i'r gogledd, cyrhaeddir Castellior, lle ceir olion hen amddiffynfa fawr. Gwel ystyr yr enw Castellior, yn y sylwadau ar blwyf Llansadwrn, yn nghwmwd Tindaethwy. Hefyd, i'r gogledd o Porthor, ar ochr orllewinol Crigyll, mae fferm o'r enw Trephwll (Tre-bwll) eto. Mae yn y tir yma gyferbyn a Castellior, olion hen amddiffynfa mae yn deby,gol mai math o ol-amddiffynfa i'r Castellior ydoedd. Ceir fferm arall o'r enw 'Ceryg Cynrig," (dywed un o'r beirdd mai y Cynrig hwn ydoedd mab Meredydd Ddu). Yn nhir Allwen Wen, ar y terfynau, y mae ceryg ar eu penau, ac yr oedd ychydig flynyddau yn ol gareg arall ar ei gwastad tu cefn iddi i'w gweled, a chroes tua phymtheg modfedd o hyd, a deg o led, wedi ei thori yn lled ddofn ynddi. Tebygol yw mai careg fedd rhyw ŵr duwiol o'r hen amser a gladdwyd yno ydyw.
PLWYF LLANFAIR YN NEUBWLL.
Saif y plwyf hwn oddeutu pum' milldir i'r dê-ddwyrain o Gaergybi. Tardda yr enw hwn ar y plwyf oherwydd fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Mair; ac hefyd oddiwrth ddau o lynau bychain, neu byllau cyfygos. Y fywioliaeth eglwysig sydd guradiaeth sefydlog, mewn cysylltiad a pherigloriaeth Rhoscolyn.
Tref lesg.—Derbyniodd yr enw oddiwrth un o'r enw Llesg, yr hwn a fu yn byw yno.
Tyddyn-treian.—Tyddyn bychan yn y cwr de-orllewinol i'r plwyf hwn, mewn can' troedfedd i tywyn Drewain. Tybir mai Treian ydoedd wraig weddw o'r enw Susannah, gan mai ei enw yn llyfr y tirfeddianydd ydyw, "Tyddyn Susannah," a'i enw yn llyfr y dreth ydyw Tyddyn Treian. Yr enw priodol aruo felly fyddai-Tyddyn Treian Susannah.
Gelwir ef hefyd "Ty Gwrthun;" tybir i'r enw hwn gael ei roddi arno fel gwawdiaeth, gan rai o deulu-ynnghyfraith Susannah.
PLWYF LLANYNGHENEDL.
Saif y plwyf hwn oddeutu dwy filldir i'r gorllewin o Bodedern. Cysegrwyd yr eglwys i St. Enghenedl, ap Cynan Garwyn, ap Brochwel Ysgythrog, yn y seithfed ganrif.
Yr oedd Enghenedl yn dywysog y byddinoedd Prydeinig o dan Cadfan, yn mrwydr fuddugoliaethus Caerlleon, yn y fl. 603. Dywedir ei fod wedi ei ddyrch- afu oddeutu dechreuad y seithfed ganrif. Tardda enw y plwyf oddiwrth y sant hwn.
PLWYF LLECHYLCHED.
Saif y plwyf hwn oddeutu saith milldir i'r deddwyrain o Caergybi. Cysegrwydd yr eglwys i St. Ylched. Gwneir i fynu y gair o llech "a" chylch." Yr ystyr yw "Careg, neu golofn gylchynedig."
Yn y plwyf hwn y mae "Tyddyn Meredydd," ac amaethdŷ o'r enw "Cae Howel," yr hwn oedd dref-dadaeth i Howel y Pedolau.
Capel Tal-y-llyn.—Saif hwn yn mhlwyf Llanbeulan, oddeutu wyth milldir i'r de-orllewin o Langefni, ac yn terfynu ar afon Ffraw. Y fywioliaeth eglwysig sydd guradiaeth wastadol yn nglyn a pherigloriaeth Llanbeulan, yn archddeoniaeth Môn, ac esgobaeth Bangor. Gwaddolwyd hi â 800p gan haelioni breninol. Cysegrwyd yr eglwys i St. Mair. Saif yr eglwys ar derfyn "Llyn y Coron;" ac o herwydd hyny gelwid y plwyf hwn yn "Tal-y-llyn." Y mae y gair tal mewn enwau lleoedd yn arwyddo terfyn:-megys Tal-y-sarn, Tal-y-bont, &c. Dywed Dr. W. O. Pughe fel hyn:—" TAL, in the names of places it answers to end: Tal-y-Bont(Bridgend). In the names of men it denotes front: Talhaiarn-(Iron-front)."
PLWYF BODEDEYRN.
Saif y plwyf hwn oddeutu wyth milldir o Gaergybi. Tarddai ei enw oddiwrth rhyw St. Edeyrn, bardd enwog. Cysegrwyd yr eglwys iddo oddeutu y seithfed ganrif. Dywed rhai ei fod yn fab i Nudd, yr hwn a fu yn gweinidogaethu yn y cymydogaethau hyn tua dechreu y seith. fed ganrif.
Llyn Llawenau.—Yr enw priodol ar hwn ydyw "Llyn Llaw Owain." Gelwid ef felly am fod ei ddwfr yn troi Melin Llawenau.
Ar ochr ddwyreiniol y llwyn, y mae palas Presaddfed. Bernir mai yma yr oedd y llywydd Agricola yn byw, yr hwn a gynhaliai ei lys yn y ddau Benesgyn. Gwel sylw ar ystyr yr enw Presaddfed, yn mlwyf Llansadwrn, yn nghwmwd Tindaethwy.
Tref Iorwerth.—Tarddodd yr enw oddiwrth Iorwerth, tad y Tywysog Llewelyn.
Trefigneth." Trigfa Gofid" yw ei ystyr.
III. CANTREF CEMAES.
RHENIR y cantref hwn yn ddau gwmwd, sef Twcrelyn (Tir Cyhelyn), a Thalybolion. Cemaes, efallai, a dardd o "Cefn " "a Maes," cefn-faes-tir âr (ridged, o'r arable land). Ceir yma yr ŷd-dir goreu yn Môn. Yn yr holl ranbarth sydd yn dwyn yr enw Cemaes (cantref), gelwir amryw randiroedd ar yr enw hwn, sydd yn rhagori fel tir âr, ac yn hynod am ffrwythlondeb. Gwel "Mona Antiqua," tudal. 115.
Gelwir ef gan rai yn Cam-maes; a Cyn-maes, medd eraill, sef pentir benrhyn. Arferir y gair weithiau am gad-faes, neu faes rhyfel.
I. CWMWD TWRCELYN.
Canfyddir mewn hen law-ysgrifau fod y cwmwd hwn, yn cael ei alw, "Tir Cyhelyn;" efallai i un Cyhelyn fod yn arglwydd unwaith ar y tiroedd hyn.
Taflen yn dangos nifer y plwyfydd yn y Cwmwd hwn a'r flwyddyn yr adeiladwyd yr eglwysi:—
Plwyf | O.C. | Plwyf | O.C. | |||
1 Llanerchymedd (rhan) | 406 | 9 Rhosbeirio | . | |||
2 Llandyfrydog | 501 | 10 Llanwenllwyfo | . | |||
3 Llanfihangel Tre'r Beirdd | . | 11 Penrhosllugwy | . | |||
4 Llaneugrad.. | . | 18 Ceidio | . | |||
5 Llanallgo | . | 18 Gwredog | . | |||
6 Bodewryd | . | 14 Llaneilian | . | |||
7 Llanbeulan (rhan) | . | 15 Amlwch | . | |||
8 Coedana | . | . | . | . |
PLWYF LLANFIHANGEL TRE'R BEIRDD.
Saif y plwyf hwn oddeutu pedair milldir i'r de-orllewin o Lanerchymedd. Gwel Sylw ar Tre'r Beirdd
PLWYF LLANERCHYMEDD.
Saif tref Llanerchymedd gan mwyaf yn mhlwyf Amlwch; ond y mae rhanau o honi yn Llanbeulan, Llechgynfarwydd, a Ceidio, yn nghymydau Menai, Llifon, a Thwrcelyn. Y mae dwy ran o dair o honi yn mhlwyf Amlwch. Ymddengys fod cynydd y dref hon i'w briodoli i'r ffaith ei bod yn sefyll yn nghanolbarth y wlad.
Cyn dechreuad y rhyfel gartrefol (parliamentary war) yn amser Charles II., yr oedd y lle yma wedi dyfod yn bur boblogaidd; ac, fel y cyfryw y gosodwyd ef allan mewn deiseb, am gael sefydlu marchnad yn y lle. Yn ystod llywodraethiad Cromwell y chaniatawyd hyny i'r brodorion gan y Llywodraethwr Cromwell: a chadarnhawyd y peth drachefn gan Charles II. yn y fl. 1665. Gyda'r eithriad o Beaumaris, hon oedd yr unig farchnad yn yr holl ynys; yr hyn a fu yn brif achos llwyddiant y dref hyd y fl. 1785, pan sefydlwyd marchnad-le yn Llangefni; yr hwn sydd yn sefyll yn fwy eto yn nghanolbarth y wlad.
Adeiladwyd eglwys Llanerchymedd gan Tegerin, un o arglwyddi Twroelyn, a mab Carwad Fawr, un o hynafiaid teulu Llwydiarth. Dywed Phillip, Sons, and Nephew, (Agents for the Admiralty Charts, and Ord- nance Maps,) fod yr eglwys hon wedi ei hadeiladu yn y fl. 408. Os ydyw hyn yn wirionedd, y mae yn un o'r eglwysi hynaf yn Môn. Cysegrwyd hi i St. Mair; yr ystyr yw, "Llan-y-chwerwder." Y fywioliaeth eglwysig sydd guradiaeth mewn cysylltiad a pherigloriaeth Llanbeulan: y mae dau le wedi eu neillduo at fywioliaeth yr eglwys hon, sef Llain Fair, a Chaeau Mair. Cedwir yr eglwys mewn trefn dda, gan deulu Llwydiarth a Bodelwyddan, heb gynorthwy trigolion y lle.
Adeiladwyd Ysgol Genedlaethol yma yn y fl. 1824, yr hon a gynwysai ddau gant o blant-perthynol i blwyfydd Llanerchymedd, Coedana, a Ceidio; cynhelir hi mewn rhan gan roddion gwirfoddol. Adeiladwyd Ysgol Frytanaidd yma hefyd oddeutu y fl. 1863, yr hon sydd yn adeilad eang a hardd.
Enw Llanerchymedd.—Yr enw cyntaf sydd genym hanes am dano arni ydoedd, Clochran"; tybir iddo darddu oddiwrth fod clochdy yr eglwys yn sefyll ar ran o dri, os nad pedwar, o blwyfydd: fel y mae tŷ Mr. T. Parry (Llanerchydd). O berthynas i'w enw presenol, y mae gwahanol farnau: dywed rhai, y byddai y derwyddon yn addoli Gwyn ap Medd, arglwydd y wlad obry, a brenin y tylwyth teg; a bernir mai yr un ydoedd a Pluto y Groegiaid, a thybia rhai iddo darddu oddiwrth y duw hwn. Myn eraill iddo darddu oddiwrth "Medd," enw ar ddiod a dynir o fel; a dywedir fod y pentref hwn wedi bod yn enwog mewn masnach yn y diodydd hyn; ac am y rheswm yma y galwyd y lle yn Llanerchymedd. Os dyma wir darddiad yr enw, yr ystyr yw "Llan-ybendro !" oblegyd ystyr y gair medd yw pendro.
Gelwir y diodydd a dynir o fêl yn fedd, neu medd, am eu bod yn meddwi dynion: pobpeth sydd yn meddwi, medd ydyw. Cyfieithir ef yn y "Cambrian Register"—"The Plat of the Methaglin." Tybia eraill drachefn, fod yma wledd fawr wedi ei chynal gan Caswallon, er llawenydd am fuddugoliaeth a gafwyd ar Cæsar, pan orfu iddo encilio eilwaith i Gaul. Yr oedd y wledd hon yn cael ei chynal fel diolchgarwch i'r duwiau am eu gwaredu oddiwrth y Rhufeiniaid. Yn ystod y wledd chwareuid amrywiol gampau, yn ol arferiad ein hynafiaid y pryd hyn dygwyddodd i ddau bendefig ieuanc fyned i ymdrechu a'u gilydd. Un oedd Cyhelyn, nai Afarwg, a'r llall oedd Hirlas, nai Caswallon: mewn canlyniad i'r ymdrechfa chwareuol hon, hwy a aethant i ymgynhenu; a Chyhelyn a laddodd Hirlas a'r cleddyf—ac, yn gofadwriaeth am y wledd feddwol hon, galwyd y lle—Llanerchymedd. Y mae lle yn y dref wedi cael ei alw oddiwrth y Cyhelyn hwn yn "Dwr Celyn," yn briodol Twr Cyhelyn; ac heb fod yn mhell o'r pen tref, mae lle o'r enw "Pwll Cynan "—lle yr ymgynhenodd y ddau bendefig crybwylledig. Y mae lle arall yn agos i Gaergybi wedi derbyn ei enw oddiwrth yr un person, sef Pen Cyhelyn; dywed rhai mai oddiwrth y Cyhelyn hwn y tarddodd y gair Holyhead; enw y lle oedd Pen Cyhelyn, a thrwy lygriad, galwyd ef yn Pen Celyn (ac felly Twrcelyn). Cyfieithid ef weithiau Hollyhead, pryd arall Holyhead: ond y gwir enw yw "Cyhelyn's Head."
Twrcelyn sydd wedi bod yn drigfa pur hynafol; ceir fod Caw ap Geraint ap Erbin, arglwydd Cum Cawlyd, yn nghyd a'i deulu, yn trigo yma, oddeutu y chweched ganrif y pryd y gyrwyd ef a'i deulu, gan y Pictiaid, allan o'u hetifeddiaeth, yn agos i Scotland. Rhoddodd Maelgwyn Gwynedd dir iddynt yn Ngwynedd; a chawsant dir gan y brenin Arthur, yn Ngwent. Caw, wedi dyfod i Gymru, a breswyliodd yn Twrcelyn; ond, rhai o’i deulu a aethant i Gwent, lle yr oedd Arthur wedi rhoddi tir iddynt.
Yr oedd rhai o blant Caw yn rhyfelwyr; eithr y rhan fwyaf o honynt a gyflwynasant eu hunain i waith y weinidogaeth, ac a fuont yn offerynau i blanu eglwysi yn Nghymru. Bu Twrcelyn yn drigfa beirdd enwog ers canrifoedd lawer. Yma yr oedd cartref Gildas, neu Aneurin, fel y tybir, yr hwn a gyfansoddodd y gân odidog a elwir y "Gododin"—cân brad y "cyllill hirion" yn Stonehenge. Gwel Davies's Myth. tudal. 318. Yr oedd Cyhelyn mab Caw yn fardd enwog yn ei ddydd, ac yn bur wahanol yn ei farn oddiwrth feirdd yr oes hono yn gyffredin. Ymddengys oddiwrth ei waith sydd eto mewn bod, nad oedd ganddo un parch i dduwiesau y derwyddon; ac yr oedd yn ystyried yr arferiad ag oedd gan y beirdd o anerch Ceridwen, fel ffynnon dysgeidiaeth, yn anaddas i gristion, &c.
Dinystriwyd yr hen dŵr gan ŵr y Llwydiarth, yn y fl. 1777.
Llwydiarth.—Tardda yr enw oddiwrth Arth lwyd— Gwelir ar arfbais Llwydiarth, yn Eglwys Amlwch, ddarlun o Arth-lwyd, a saeth yn ei phen.
Cyfieithir arwyddair y lle hwn—"Vivit post funera Virtus" fel hyn:"Rhinwedd uwch y bedd fydd byw." Dywedir fod hen deulu Llwydiarth yn achlesu beirdd ers yn agos i 400 mlynedd—pa faint bynag cyn hyny. Yn un o ysgrif-lyfrau Lewys Morrus o Fon, ceir yr hanes, y byddai Robyn Ddu yn fawr ei fri yn Llwydiarth; a phan oedd efe yna un tro ar giniaw, efe a ddywedodd Ab, ab fe syrthiodd y "Maenaddfwyn ?" "Cymer farch danat a dos, a myn wybod a'i gwir a ddywedodd Robyn, ebai gwr y tŷ wrth y gwas. Pan ddychwelodd, gofynwyd iddo, "A syrthiodd y maen ?" "Do," ebai y gwas "Do; gan wiried a bod y march a fu dan y llanc, wedi marw yn yr aman:" ebai Robyn. Awd i'r aman, a chafwyd ef yn farw. Y mae Llanerchymedd hyd heddyw yn enwog iawn am feibion yr Awen. Yma y mae cartref Galchmai, Llanerchydd, Meilir, Tegerin, Meilir Môn, &c.
PLWYF LLANDYFRYDOG.
Saif y plwyf hwn oddeutu tair milldir i'r gogleddddwyrain o Lanerchymedd-tardda enw y plwyf oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Tyfrydog, ap Arwystl Gloff; a Dyf ferch Amlalawdd Wledig ei fam. Cysegrwyd hi yn y chweched ganrif."
Lleidr Dyfrydog.—Enw ar faen mawr ac uchel, oddeutu milldir o'r pentref. Tardda yr enw, yn ol traddodiad sydd ar lafar gwlad, oddiwrth fod dyn wedi dwyn Beibl o'r eglwys, ac iddo ei gario ar ei ysgwydd hyd y fan hon; ac iddo syrthio yn y fan yma oddiar ei ysgwydd; ac fod y lleidr wedi cael ei daro a barn, a'i wneud yn golofn gareg yn ebrwydd.
Dyma benillion a glywais eu hadrodd gan yr awdwr yn Eisteddfod Llanerchymedd:
TUCHANGERDD "LLEIDR DYFRYDOG."
Buddugol yn Eisteddfod Gadeiriol Môn, Awst, 1871.
Rhyw noson oer Glan-Gauaf, wrth oleu ffiamau 'r tân,
Fy nhaid eisteddai'n ddedwydd, gan fygu pibell lan:
Y gwynt oedd gryf chwibanog, a'r gwlaw yn dod i lawr,
Gan wneyd taranau erchyll, o fewn i'r simneu fawr;
Ystyrid ef y goreu o bawb am stori gron,
Ond iddo gael ei bibell, a dawnsio blaen ei ffon.
"Mae 'n noson 'stomus heno," dywedai nhaid yn syn,
"Eiff pawb i'w gwely'n gynar, ond Will ac Wmffra 'r Glyn:"
"Maent hwy o eppil—"Lleidr Dyfrydog" sydd yn awr
Mewn cae yn ymyl Clorach, yn golofn gareg fawr,
Pan glywo'i glustiau cerig y gloch yn tincian saith,
Mi glywais, rhedai 'r lleidr o gylch y cae dair gwaith.
Ychydig oedd o lyfrau yn oes hen daid fy nhad,
Ychydig fedrai ddarllen pryd hyny yn y wlad:
Ceid Beibl a Llyfr Gweddi mewn Eglwys yn mhob plwy',
Yn rhwym wrth ddur gadwyni, i'w diogelu hwy.
Yn Eglwys Llandyfrydog, 'roedd amryw lyfrau da
At esmwythau y llwythog, a gwella'i fynwes gla;
A byddai Will llaw flewog—o deulu Wmffra 'r Glyn,
Yn myned yno weithiau i'w darllen y pryd hyn;
Ond gwelwyd ef rhyw noswaith yn tori drwy y ddôr
I fewn, gan chwilio'r gangell yn Nheml lân yr Iôr,
Gan wneuthur sypyn trefnus o'r llestri cymun drud,
Yn mrethyn coch yr allor—a'r llyfrau ynddo'n nghyd.
Ar ol eu rhwymo 'n drefnus wrth denyn ar ei gefn,
Daeth ymaith nerth ei sodlau dros gamdda'r gareg lefn,
Nes myn'd i feusydd Clorach lle'r 'roedd ffynonau'r Saint,
A gwelai ysbryd Mynach, fel derwen fawr o faint,
Yn dyfod i'w gyfarfod, gan grynu'r llawr a'i draed,
Nes oedd ei wallt yn sefyll, a chwyddai wythi gwaed;
Gofynai Will, "Pwy ydwyt"? gan roddi erchyll reg;
Ond yn y fan nis gallodd byth gau yn ol ei geg.
Tarawyd ef a'r llyfrau, yn golofn gareg gref,
Lle gwelir ef hyd heddyw yn nod o ŵg y nef:
A chylywais na bu llwyddiant i un o'i eppil byth,
Fod ysbryd drwg Llanallgo, yn gwneyd y teulu'n nyth.
D. M. AUBREY (Meilir Mon.)
Yn agos i'r maen yma, mewn fferm o'r enw Clorach, y mae dwy ffynon yn cael eu galw Ffynon Cybi, a Ffynon Seiriol. Tardda yr enwau oddiwrth St. Cybi a St. Seiriol,—noddwyr Caergybi ac Ynys Seiriol.
Dywedir y byddai y ddau sant yn arfer cyfarfod yma ar amserau penodedig, i ymgynhori pa fodd oreu i ddwyn achos crefydd yn mlaen yn y wlad; ac anog eu gilydd i gariad a gweithredoedd da. A chan y byddai yr haul yn wastad i wyneb Cybi wrth ddyfod yn y boreu, ac wrth ddychwelyd yn yr hwyr, ac yn wastad i gefn Seiriol wrth fyned a dychwelyd: felly galwyd y neill "Seiriol Wyn," a'r llall yn "Cybi Felyn," medd traddodiad. Ac, oherwydd yr arferiad yma y galwyd y ffynonau wrth yr enwau blaenorol.
Coed Goleu.—Bu yma frwydrau gwaedlyd gan y Brythoniaid a'r Daniaid oddeutu y fl. 872. Gelwir hi weithiau Bangoleu yn Môn. Tybia y Parch. O. Jones, yn "Hanes y Cymry," mai yn nghymydogaeth Pen y Greigwen y cymerodd hon le; ond fod y fuddugoliaeth wedi ei henill gan Rhodri yn y lle a elwir Manegid yn Môn.
Y mae Coed Goleu wedi derbyn yr enw oddiwrth Bangoleu, yr hwn fu yn gwersyllu yma. Ceir amryw leoedd yn terfynu ar y plwyf hwn sydd wedi derbyn eu henwau oddiwrth y frwydr hen—Bryn goleu, oddiwrth Bangoleu; Gadfa, oddiwrth y frwydr; Pant y moch, oddiwrth Pant yr Och. Yn agos i Tre'r Beirdd y mae colofn fawr a elwir Maenaddwyn, h.y., colofn fendigedig; neu hawddgar-saif yn uchel iawn; tybia Mr. Rowlands ei bod yn un o'r Meini Gwyr.
PLWYF GWREDOG.
Mae y plwyf yma yn sefyll oddeutu milldir i'r deddwyrain o Lanerchymedd. Dywed un awdwr fel hyn am ei darddiad:—"The name may be derived either from gwar (gwareddawg),-tame, mild, gentle; or from gwaered, a declevity." Cysegrwyd yr eglwys i St. Mair.
PLWYF COEDANA.
Saif y plwyf hwn rhwng Llangefni a Llanerchymedd. Tardda yr enw oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Anne, neu Aneu, neu Anef ap Caw Cawlwyd. Ond dywed eraill mai boneddiges Gymreig o'r enw Anne ydoedd. Hefyd, tardda oddiwrth lwyn o goed. Yr ystyr yw "Llwyn, neu Goedwig raslawn."
PLWYF CEIDIO.
Mae y plwyf hwn yn gorwedd oddeutu milldir o Lanerchymedd, wrth neu ar lan yr afon Alaw, yn agos i Ty Croes, neu Capel Cybi, heb fod yn mhell o Bryn Gwallon.
Bu yn cael ei alw "Rhodwydd Ceidio." Tarddai oddiwrth gae agored—the open course, or open field of Ceidio. Cysegrwyd yr eglwys i St. Ceidiaw ap Arthwys, ap Mor, ap Morwydd, ap Ceneu, ap Cael Godhebawg yn y bumed ganrif. Dywed Mr. Rowlands mai mab i Caw Cawlwyd, a brawd St. Anne, ydoedd. Yr ystyr yw "Noddwr"
PLWYF LLANWENLLWYFO.
Y mae y plwyf hwn yn gorwedd oddeutu pum' milldir i'r de-orllewin o Amlwch, ar lan y môr. Cysegrwyd yr eglwys i St. Gwenllwyfo. Tybia rhai mai Gwenfwy—Gwenabwy, merch Caw Cawlwyd; ac os hi ydoedd, cysegrwyd hi yn y seithfed ganrif. Pwy yw y Llwyfo sydd yn nglyn a'i henw sydd anhysbys. Yr ystyr yw, "Llan yr ysgynlawr prydferth."
Y Parch. Hugh Robert Hughes, A.C., yw yr offeiriad yn bresenol, yr hwn sydd yn preswylio yn Madyn Dyswy.
Yn yr eglwys hon y claddwyd gweddillion y Wir Anrhydeddus Arglwyddes Dinorben y flwyddyn ddiweddaf. Yn ei marwolaeth hi cafodd tlodion y cymydogaethau golled anrhaethol, oblegid yr oedd yn hynod am ei haelioni.
Llys Dulas.—Tybir i'r lle hwn dderbyn yr enw oddi. wrth lys Caswallon Llaw Hir, yr hwn sydd ar fynydd Eilian, ac yn terfynu yn agos iddo; a Dulas yn tarddu oddiwrth liw y bau sydd yn ei ymyl. Hen breswylfod Arg. Dinorben a'i deulu ar ei ol, ydyw y lle hwn. Y mae yr eglwys newydd wedi ei hadeiladu, gan Arglwyddes Dinorben, ac wedi ei chysegru i'w merch. Miss Gwen Gertrude Hughes, (Lady Neave, yn bresenol, trwy ei phriodas â Syr Arundel Neave, o Dagnam Park, Essex.)
Yn y plwyf hwn y mae hen gastell yn cael ei alw yn "Gasell Maelgwyn Gwynedd;" ac heb fod yn mhell y mae nant fawr a elwir Nant-y-bleddyn ap Adda—ystyr enw y nant yw, "Nant y dinystr." Oddeutu milldir o'r lle hwn y mae Twrllachiad—yr ystyr yw, 'Twr llechu'; ac y mae rhanau o'r twr i'w gweled hyd heddyw. Yma y preswylia rhieni Mr. R. Evans (Twrch). Gelwir y rhan ddeheuol o fynydd Eilian sydd yn y plwyf hwn, yn fynydd Nebo—yr hen enw oedd Mynydd-y-gad, oddiwrth fod brwydrau mawrion wedi eu hymladd yma oddeutu y fl. 877, rhwng y Saeson a'r Cymru.
PLWYF LLANEILIAN.
Saif y plwyf hwn oddeutu dwy filldir i'r dwyrain o Amlwch. Yr oedd y plwyf mewn undeb a pherigloriaeth Coedana a Rhosbeirio, ond yn awr y maent wedi eu gwahanu ar ol marwolaeth y diweddar Parch. John Owen. Cysegrwyd yr eglwys hon i St. Eilian Geimiad, mab Gellau Ruddawg ap Carludwys. Ymsefydlodd yn Llaneilian yn foreu--tua amser Caswallon Llaw Hir. Yr oedd Eilian yn cydoesi a Chybi, ac yn dra hoffus gan Caswallon, yn gymaint felly fel y rhoddodd efe lawer o diroedd a breintiau iddo. Ceir llawer o draddodiadau ar gof yn y gymydogaeth hon o berthynas iddo hyd y dydd heddyw.
Dywedir i Eilian fyned ar bererindod i Rufain, ac iddo ddychwelyd, ac ymsefydlu gyda'r hen dywysog Caswallon, fel gweinidog teuluaidd iddo. Y nesaf yw, fod Caswallon wedi erchi i Eilian ollwng ci ar ol carw perthynol i'r tywysog; a pha faint bynag a allai y carw amgylchu o flaen y ci, y rhoddid ef at wasanaeth crefydd yn y wlad. Ac felly, meddir, y nodwyd terfynau plwyf Llaneilian. Ceir aber fechan yn agos i Borth Eilian a elwir hyd heddyw "Llam Carw," yn goffadwriaeth am y rhedfa uchod. Hefyd, gelwir lle yn mhorth Amlwch wrth yr enw hwn, oblegyd ei fod yn terfynu ar yr aber grybwylledig.
Adeiladwyd yr eglwys hon oddeutu y bedwaredd ganrif, ar lan y môr; adgyweiriwyd hi oddeutu y fl. 1171. Y mae adeiladwyr penaf Lloegr yn gallu profi hyn oddiwrth y cerfiadau a ganfyddir ynddi. Yn y fl. 1666, yr oedd yr adeilad yma yn edrych yn ddestlus, a darluniau o'r deuddeg apostol ynddi; dywedir fod y darluniau hyn wedi eu cael o long—ddrylliad a gymerodd le yn mhorth Eilian—y rhai oeddynt yn wreiddiol wedi eu pwrcasu i ryw eglwys yn yr Iwerddon.
Yr offeiriad presenol yw y Parch. O. P. Thomas.
Bryn Gwyn.—O berthynas i'r enw hwn dywed Mr. Rowlands fel hyn:—"It is called Bryn Gwyn, or Brein Gwyn, i.e, the supreme or royal tribunal. Brein or Breiniol signifying in the British, supreme or royal; and. Gwyn, properly fruit or action, and metaphorically court of tribunal. And such the place must have been, wherever it was, in which a supreme judge gave laws to a whole nation. No one can reasonably imagin it to be properly Bryn Gwyn, i.e., "a white hillock," it being a low situation and the soil about it, which sometimes denominates places being not of a white, but of a reddish complexion; neither is there any hillock of that name near it, from which it might be so called, &c.
PLWYF LLANEUGRAD.
Saif y plwyf hwn oddeutu chwe' milldir i'r dwyrain o Lanerchymedd. Cysegrwyd yr eglwys yn y chweched ganrif i St. Eugrad, mab Caw Cawlwyd, ac felly y tarddodd yr enw ar y plwyf yma. Bu yma frwydr waedlyd yn y fl. 873-yr hon ydoedd brwydr Bangoleu, sef rhwng y Brythoniaid a'r Daniaid, pryd y gwaethpwyd lladdfa fawr gan Rhodri (Rodri the Great.)
Lligwy.—Fferm yn y plwyf hwn; y mae y gair wy neu gwy sydd yn derfyniad i'r enw hwn, yn arwyddo hylfi (fluid) felly nid anmhriodol ei arferyd am afon, &c.
PLWYF LLANALLGO.
Mae'r plwyf yma oddeutu saith milldir i'r de-ddwyrain o Lanerchymedd; rhoddwyd yr enw yma ar y plwyf oherwydd fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Gallgo, neu Gallgof, un o feibion Caw Cawlwyd, Caw o Brydain, ac o Lanerchymedd.
PLWYF PENRHOS LLIGWY.
Y mae'r plwyf hwn yn sefyll oddeutu pum' milldir i'r gogledd-ddwyrain o Lanerchymedd: cysegrwyd yr eglwys i St. Michael. Tardda yr ystyr oddiwrth ansawdd y lle. "The head or upper end of the Common, near the river Lligwy." Dywed Mr. Rowlands fod St. Mechyll wedi ei gladdu yn mynwent y lle hwn oddeutu y seithfed ganrif. Efe (St. Mechyll ap Echwydd) a adeiladodd eglwys Llanfechell. Yr oedd "Capel Lligwy" yn y plwyf hwn, ond yn awr y mae yn adfeilion.
PLWYF RHOSBEIRIO.
Gorwedda y plwyf hwn oddeutu tair milldir i'r gorllewin o Amlwch. Tardda ei enw oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Peirio, mab Caw o Twrcelyn, Llanerchymedd, yn fl. 605.
PLWYF BODEWRYD.
Mae'r lle hwn oddeutu pedair milldir i'r gorllewin o Amlwch. Tardda yr enw oddiwrth fod rhedfa afon yn agos yno: ac, fel y dywed un—"Bodewryd, is the mansion at the rippling ford." Cysegrwyd yr eglwys i Marc Bodewryd, &c., mor foreu a'r fl. 1291 O.C. Yn y "Record of Carnarvon," ceir fod plwyf Bodewryd yn cael ei alw" Bettws Ysgellog;" ac fod ei ddegymau yn perthyn i Briordy Penmon.
PLWYF AMLWCH.
Saif y plwyf yma oddeutu ugain milldir i'r gogledd-orllewin o Beaumaris. Y mae'r plwyf yn saith milldir a haner o hyd, a'i arwynebiad yn 9220 o erwau, a'r boblogaeth oddeutu chwe' mil a haner.
Gorwedda tref Amlwch mewn dyffryn, fel Jerusalem a'r mynyddau o'i hamgylch. Terfynir hi o du y dwyrain gan fynydd Eilian; o du y dehau gan gloddfaefydd enwog Mynydd Parys; ar y gorllewin gan fynydd Tŷ Croes, neu le o'r enw Dinas (Castell); ac ar y tu gogleddol gan fôr Iwerddon. Nis gellir myned heibio i'r Ddinas heb wneud sylw neillduol arni, oblegyd dyma'r lle, fel y tybia rhai, y rhuthrodd y Rhufeiniaid i'r Ynys (Gwel "Mona and Parys Copper Mines," gan O. Jones, gynt o Amlwch.)
Gelwir hi yn Ddinas Cynfor; ac mae Porth Cynfor yn ei hymyl, oddiwrth Cynfor ap Tudwal. Ystyr yr enw yw, "Porth", neu "Safon uffern." Saif y lle hwn yn mhlwyf Llanbadrig, cwmwd Talybolion.
Bernir mai Cynford ab Tudal ydoedd, un o achyddtaeth yr enwog frenin Arthur. Yr oedd yma amddiffynfa gadarn yn y cynoesoedd gan yr hen Dderwyddon, a lle o amddiffyniad i'r Mynachesau. Oddiwrth y rhai hyn y rhoddwyd enwau ar leoedd yn y gymydogaeth hon, megis "Llanlliana", &c. Er ystyr yw cynulliad neu drigfa y Mynychesau. Hefyd, ceir yma ddau fôr gilfach o'r enw Porth Seion a Phorth Gynfor. Mewn cysylltiad a'r amddiffynfa yma o fewn y gwrthfur ceir cerig glan y mor, o bymtheg i ugain pwys bob un, y rhai a gloddiwyd o'r cilfachau hyn, ac a gyflewyd gan y gwarchaedigion, fel y gallent eu defnyddio i ferthyru unrhyw fintai a gynygiai wneyd rhuthrgyrch ar eu hamddiffynfa. Eto, ceir olion hen balasdy i'r Tywysog Llewelyn a elwir Bryn Llewelyn. Yr oedd ffordd gan y tywysog wedi ei wneud o'r Ddinas i'r Aberffraw mor uniawn ag oedd modd; yr oedd wedi ei phalmantu a cherig mân, a chlawdd uchel o bob ochr iddi. Y mae rhanau o'r ffordd yn weledig heddyw mewn gwahanol fanau o Lanlliana i'r Aberffraw, lle y byddai y tywysogion yn cartrefu. Yn agos i Bryn Llewelyn yr oedd gan y tywysog dŵr uchel wedi ei godi, lle y byddai gwyliedyddion yn aros nos a dydd. Pan byddai rhywbeth pwysig yn cymeryd lle, anfonid rhedegwyr o'r naill le i'r llall, sef Llianlliana a'r Aberffraw. Yn nesaf, ceir lluaws o hen olion brwydrau, yn nghyda hen gladdfa yn llawn o weddillion dynol. Dywedai Meistri Parry a Jones fod skeletons wedi eu codi o'r gladdfa yma oddeutu wyth droedfedd o faintioli. Y mae hen gladdfa hefyd yn agos i Beibron yn llawn o feddau y celaneddau ar ol brwydrau y Ddinas. Ystyr yr enw Peibron yw, "Bedd-fron." Yn agos i'r lle yma ceir olion hen Glafdy (Infirmary), a elwid heddyw Clafrdy. Y mae y gymydogaeth yma yn lle prydferth, ac mewn bri uchel. Ymgynullai lluaws o ddyeithriaid yma yn yr haf i bleseru eu hunain—i weled rhanau o furiau yr hen wryfdy, &c.; ac, fel y dywed ai y Bardd Du o'r Burwaen deg:
"Bro hyfryd fal Senir a Hermon
Yw'r bryniau y Burwaen deg dir,
Dyffrynoedd a dolydd gwyrdd deiliog,
Rhai siriol fel Saron sy'n wir:
Wrth edrych o amgylch ei chaera,
Y rhai sydd yn gadarn a heirdd,
Ceir gweled bryn t'wysog Llewelyn,
A Pheibron, prif orsedd y beirdd."
THOMAS WILLIAMS.
ENW AMLWCH.
Ceir lluaws o wahanol farnau o berthynas i'w ystyr: Syniad un dosbarth ydyw, fod marwolaethau mawr wedi bod yma rywbryd; ac mai yr ystyr yw "Aml i Bridd." Dywed eraill mai lle llwchlyd oedd, ac mai yr ystyr yw "Aml lwch." Eraill a dybiant fod y gair yn cynwys dau wreiddyn aml a lwch, yn yr hen Frythoneg, fel y mae y gair loch yr cael ei ddefnyddio yn yr Alban am lyn, neu bwll; ac felly tardda yr ystyr oddiwrth ansawdd y lle. Dywedir fod lluaws o leoedd ereill yn dwyn yr un ystyr, megys Llan-llwch, Tal-y-llychau, &c.; gelwir y lleoedd hyn felly oherwydd eu bod yn gylchynedig gan lynoedd. Os felly arwyddocad yr enw Amlwch ydyw "Cylchynedig gan lynoedd." Y syniad nesaf yw, ei fod yn air cyfansawdd, ond fod y gwreiddyn loch yn gyfystyr a'r gair Saesneg inlet (cilfachau); ac felly yr ystyr yw' Aml-gilfachau.' Wrth chwylio i'r ystyron hyn, yr ydym yn methu canfod un rheswm ynddynt o'u cydmaru ag ansawdd y lleoedd o amgylch y dref.
Y mae ei wir ystyr yn ymddangos i'n tyb ni yn tarddu o'r iaith Gymraeg; y mae yn air cyfansawdd o Aml ac Och! ceir hen enwau ar wahanol leoedd o amgylch y lle sydd yn dwyn prawfion digonol o hyn.
Clywir swn brwydrau ynddynt oll: oddeutu hanner milldir i'r deau, ceir lle o'r enw "Ceryg y bloeddio "; cafodd yr enw hwn, oherwydd mai yno y bu y byddin oedd yn bloeddio ar eu gilydd i frwydr, ar "fynydd y Gad," neu Nebo. Ar ben y mynydd hwn ceir lle o'r enw "Twr llechu," fel y crybwyllwyd o'r blaen. Hefyd, os troir i'r gollewin, sain rhyfel sydd i'w glywed yn yr holl enwau. Oddeutu milldir a haner o'r dref, ceir lluaws o enwau yn arwyddocau hyn, megys (fel y dywed y Parch O. Jones,) "Rhyd Gwaed Gwyr;" Pen-bodail-ffrae. Dyma y fan lle y bu brwydrau gwaedlyd rhwng yr hen Gymry a'r Saeson. Dywed y Parch. O. Jones mai yma y bu y frwydr a elwir "Gwaith Duwsul yn Môn." Yn y frwydr hon y lladdwyd Rhodri Fawr, a'i frawd Gwriad, a Gweirydd ap Owain Morganwg. Parodd y trychineb hwn i wragedd Môn ymgyffroi mor fawr fel y cymerasant arfau ac y rhuthrasant ar y Saeson, ac yr ymladdasant â hwy mor bybyr nes eu gorfodi i ffoi am eu bywyd, hyny oedd yn weddill o honynt, allan o'r ynys! Fel hyn y mae yr oll o'r enwau a'r lleoedd o amgylch Amlwch yn rhoddi sail gref i gredu fod y brwydrau hyn wedi gwneud y lle yn un Aceldama fawr; a'r tebygolrwydd cryfaf yw, fed ystyr yr enw Amlwch yn tarddu oddiwrth yr amgylchiadau hyny, pa rai a achlysurasant yr holl enwau rhyfelgar a nodwyd. Yr ystyr yw, "Aml Ochenaid," yn tarddu oddiwrth aml ocheneidiau y clwyfedigion, neu ocheneidiau y perthynasau ar ol y lladdedigion yn y frwydr hon. Gwel yr un sylwadau gan "Lucyn Ddu," yn mhapur y Cymry, o'r enw ""Lais y Wlad," ers oddeutu deuddeng-mlynedd yn ol; hefyd, gwel "Hanes Cymru," gan y Parch. O. Jones. Mewn hen gof-lyfr o'r enw The Record of Carnarvon, yr hwn a wnaed odddutu y fl. 1451 O.C., o dan deyrnasiad Harri VII., ceir fod Amlwch yn cael ei galw yn Amlogh. Dywedir fod hen lawysgrif ladinaidd ar gael heddyw, yr hon sydd yn cadarnhau yr ystyr Aml-och, Credwn fod cynnifer o engreifftiau ag a nodwyd yn ddigon i ffurfio barn lled gywir mai Aml Ochenaid yw y gwir ystyr. Cysegrwyd yr eglwys i Elaeth Frenin yn y seithfed ganrif: adeiladwyd yr un bresenol yn 1801. Yr enw cyntaf oedd Llan Elaeth.
Oddeutu y fl, 1272, yr oedd Amlwch yn lle poblogaidd. Y prif fasnach y pryd hyny oedd, Silk Manufacture; ac oddeutu y fl. 1348, pryd y bu pla mawr trwy holl Europe, ac y bu farw dros 60,000 yn Llundain, y torodd y pla hwn yn Amlwch. Pan oedd llong rhyfel yn myned heibio i'r lle hwn yn llawn o filwyr, digwyddodd i rai o'r milwyr farw o dan y pla hwn, a thaflwyd hwy i'r môr gyrwyd hwy gan y tonau i'r lân at Porth Careg Fawr. A phan oedd preswylwyr glan y môr yn chwylio am wreck ar ddydd yr Arglwydd, cawsant afael ar gorph un o'r milwyr, a llusgwyd ef i'r lan ganddynt. Bu hyn yn achlysur i'r pla ddod i Amlwch, a gwneyd difrod ofnadwy ar y trigolion. Bu cannoedd feirw dano. Galwyd y pla wrth yr enw "Pla y Cap Coch," (oherwydd i'r person a gafodd y corph roddi cap y trancedig am ei ben.)
Y mae lliaws o hen gladdfeydd o amgylch y dref yn dangos ei bod wedi bod unwaith yn dra poblogaidd.
SEFYLLFA FOESOL AMLWCH.—Yn y cyfnod cyntaf y ceir fod crefydd yn dra isel: nid oedd ond yr eglwys yn unig yn milwrio yn erbyn llygredigaethau yr oes; ac er ei holl ymdrech cynhyddai.
Oddeutu y fl. 1786, yr oedd gwylmabsantau yn cael eu cynal yma. Byddent yn codi esgynlawr ar ddrws y Tŷ Mawr i chwareuwyr. Byddai llawer o lygredigaethau yn eu canlyn. Hefyd, wrth Pen-y-bont, byddai ymladdfeydd ceiliogod. Cesglid hwy yno o filldiroedd o ffordd, a therfynai mewn ymladdfeydd dynion. Eto, byddent yn chwareu tenis a'r ben yr hen eglwys ar y Sabbath, ac yn ei ddiweddu yn y tafarndai trwy ganu a dawnsio; ar prif le i hyny oedd "Three Jolly Sailors" (Castle Inn.)
Er fod ein tref yn ymdroi fel hyn mewn llygredigaethau, yr oedd yn uwch mewn diweirdeb na'r oes bresenol. Os digwyddai i fenyw dripio, edrychid arni yn ysgymunedig am flwyddyn gyfan—ni feiddiai ddarparu bwyd i neb, nac ymddangos mewn cymdeithas, oblegid cyfrifid hi yn aflan. Y mae yr eglwys wedi ymladd yn erbyn llygredigaethau y lle am oddeutu deuddeg cant o flynyddoedd. Gan ei bod ar y dechreu yn bersonoliaeth Elaeth Frenin, ab Meurig, ab Idno, bu raid iddo ef ffoi am fywyd i Bangor Seiriol, yn un o'r Mynaich am oes.
Dywedir fod mewn cysylltiad a'r eglwys hon ar y dechreu, roddion gwirfoddol o 44p. wedi eu neillduo i dlodion y plwyf, i'w rhanu ar ddiwrnod penodedig gan yr offeiriad. Hefyd, mewn hen weithred sydd a'r gael heddyw yn nghoflyfrau yr eglwys, y mae un person tlawd i gael ei gynal am ei oes mewn lle a benodwyd gan y cymunroddwr.
Trachefn, mewn cysylltiad a'r eglwys hon, ynghyda Llanwenllwyfo, dywedir fod cynysgaeth wedi ei roddi iddynt fel bywoliaeth eglwysig. Rhoddwyd 200p. gan Esgobaeth Bangor; 200p o'r gedrôdd frenhinol; yn nghyda 1,100p o roddion seneddol. Y mae yn naddogaeth esgobaeth Bangor, gan yr hwn y mae hawl yn negwm y plwyf er y fl. 1603, sef yn nheyrnasiad Iago I. Adeiladwyd yr eglwys bresenol ar y cyntaf yn y fl. 1801, gan Gwmpeini y Mona & Parys Mines—Y gwir Anrhydeddus Iarll Uxbridge, ac Edward Hughes, Ysw. Amcangyfrif y draul ydoedd 2,500p. yn ol y "Typographical Dictionary"; ond yn ol y "Guide to North Wales," gan Mr. J. Hicklin, 4,000p—sef dwy fil oddiwrth bob gwaith. Hefyd, adgyweiriwyd hi yn drwyadl yn y fl. 1869, trwy offerynoliaeth y Ficar—Parch. John Richards, gyda rhoddion gwirfoddol 1,150p., pa swm a gasglodd trwy ei ddiwydrwydd ei hun. Hefyd, casglodd gan ei gyfeillion uwchlaw 300p. er pwrcasu Organ ysblenydd, o waith Messrs. Beavington & Son, Llundain. Eto, trwy offerynoliaeth yr un boneddwr, adeiladwyd eglwys fechan yn y Borth, yn 1872, yr hon a gyst, wedi ei gorphen, oddeutu 500p.
Y mae gan y pedwar enwad ymneillduol yn y dref eu capelydd hardd a destlus; ac y mae gan y Trefnyddion Calfinaidd Gapel ac Ysgoldy Newydd ysblenydd gwerth tua 2,200p.
Hefyd, y mae yma Ysbytty Newydd—(Dinorben Cottage Hospital,) yn werth tua 600p. Casglwyd rhan o'r swm yma gan ewyllyswyr da y sefydliad; a rhoddodd y ddiweddar Arglwyddes Dinorben y swm hardd o 400p. ati. Y mae yn anrhydedd i'r dref a'r gymydogaeth.
Porth Llechog.—Yr ystyr yw "Porth-lle-och."
Werthyr.—Fferm yn agos i Amlwch, yr ystyr yw "Gwrth fur."
Pilwr.—Tyddyn yn terfynu ar y Werthyr. Fe dybia rhai fod yr enw yma yn tarddu oddiwrth rai yn cael eu rhwymo wrth bawl; ac mai yr ystyr yw, "Gwr wrth bawl." Gwel 'Trysorfa y Plant.' Tybir gan eraill yn fwy rhesymol, ei fod yn tarddu o'r gair Pilum, dart (bidog) allan i ymladd yn nerth eu bidogau, ac fod hyny wedi cymeryd lle ar dir y Pilwr.
Hefyd, heb fod yn mhell oddiyno y mae lle arall yn cael ei alw Llywarch; credir mai yr enw priodol yw, Lluwarth—yr ystyr yw "Gorphwysfa y fyddin."
Plas Gandryll.—Dywedir fod yr enw wedi tarddu oddiwrth fod y lle wedi bod yn cadw drylliau y byddinoedd.
Tref Cynrig.—Trigfa Cynrig ap Meredydd Ddu.
Bod Dunod.—Trigfa Dunod Fawr ap Pabo Post Prydain, oddeutu y chweched ganrif.
Madyn Dyswy.—Dywedir ei fod yn hen balasdy i un o'r hen dywysogion Cymreig. Tybir mai "Madyn Dywysog" ydyw yn briodol, ac nid Madyn Dyswy; llygriad yw'r gair dyswy o Tywysog, ac ystyr y gair madyn yw llwynog, neu cadnaw. Ceir arf-bais y tywysog ar furiau yr hen balasdy heddyw. Bu y lle hwn yn enwog oherwydd y personau urddasol fy ynddo yn cyfaneddu. Oddeutu y fl. 1552 codwyd un o'r enw Robert Parrys, Ysw., yn uchel sirydd: claddwyd ef yn Mynwent Amlwch. Cydmarer Rowland's, "Mona Antiqua," â chareg fedd Madyn Dyswy yn yr hen fynwent. Bu un arall o'r un enw yn trigo yma, sef Robert Parrys, Ieu., yr hwn oedd yn un o ddirprwywyr penodedig y brenin Harri IV., yn y fl. 1410, i wneud ymchwyliad cyfreithiol, a phenderfynu ar y dirwyon a osodid ar foneddigion Môn, y rhai a bleidiasant Owain Glyndwr. Dywedir i'r Robert Parrys yma fod yn Ystafellydd Caerlleon a Gogledd Cymru; ac mai ei arf-bais ef sydd i'w gweled ar furiau yr hen balas yn awr. Codwyd un arall yn uchel-sirydd yma, o'r enw William Hughes. Gwel "Hanes Amlwch," gan "Hen Graswr."
MYNYDD PARYS.—Hen enw y mynydd hwn ydoedd "Mynydd Trysglwyn." Derbyniodd yr enw hwn oddiwrth fferm o'r enw Trysglwyn; a dywedir gan rai mai oddiwrth lwyn dyrys o goed y derbyniodd y fferm a'r mynydd yr enw; ac mai'r ystyr yw "Mynydd y dyrys lwyn." Derbyniodd yr enw Mynydd Parys, oddiwrth Robert Parrys, yr hwn y crybwyllwyd am dano yn ei gysylltiad a Madyn Dyswy.
Dirwyodd y Robert Parrys, hwn oddeutu 2112 o foneddigion Môn i symiau dirfawr, a dirwyddodd dri-arddeg-ar-hugain o offeiriaid eraill; ac yn eu plith Llywelyn, vicar Amlwch. Tebygol yw iddo gael Mynydd Trysglwyn yn rhôdd fel canlyniad i'w wasanaeth gan y brenin. Ar ol marwolaeth Robert Parrys, ei weddw ef a briododd un o'r enw William Griffith, o'r Penrhyn. Y mab hynaf i'r boneddwr hwn a etifeddodd dir Parys, ac o'r teulu hwn tarddodd yr enw Mynydd Parys ' yn y dechreu.
Darganfyddiad cyntaf y Mwn Efydd yn y Mynydd yma.—Darganfyddwyd ef yn ddamweiniol gan Gymro o'r enw Rowland Puw. Anrhegwyd ef yn flynyddol am hyny â deg punt, ynghyd a phar o ddillad. Hefyd, gwnaethpwyd ymchwyliad manwl iddo wedi hyny gan Ysgotyn, o'r enw Alexander Fawr, yr hwn oedd ar ei daith trwy Ynys Fôn i chwylio am fwnau, yn y fl. 1762. Ond er iddo gael iawn ddirnadaeth fod yno ychwaneg, eto yr oedd y dwfr yn ei atal i fyned yn mlaen, eithr rhoddodd ei anturiaeth ef gefnogaeth i eraill anturio yno am gopr. Gosodwyd ef gan Syr Nicholas Bayley, i gwmpeini o Maccelesfield, ac fe'u rhwymwyd mewn gweithred i wneyd ymdrech am ddyfod o hyd i'r mwn os ydoedd yno, yr hyn a wnaethant; ond nid oeddynt yn cael digon at eu digolledu. Parodd hyn i'r Cwmpeini orchymyn i'r Mwnwyr roddi y gwaith i fyny, eithr ni wnaethant. Ymgasglasant Mawrth 2ail, 1768, i'r un llecyn, a chloddiasant bwll, ac erbyn eu myned oddeutu dwy lath o ddwfn, hwy a gawsant gopr grymus; ac o hyny allan cloddiwyd miliynau o dunelli o hono hyd yn bresenol. Trachefn, gwnaethpwyd ymchwyliad i'w ddyfroedd gan fwnofydd ychydig amser ar ol hyn, a chafwyd ynddynt amryw fwnau eraill
Y dull cyntaf a'r un presenol i cloddio Mun. Ceir yma hen weithfaoedd tân-ddaearol yn brawf eglur mai dull y Rhufeiniaid gynt oedd cloddio am fwn. Gwelir lluaws o gerig o natur wahanol į rai cynwynol y mynydd hwn, y rhai a ddefnyddid ganddynt yn forthwylion. Hefyd, ceir yma ddarnau mawrion o goed llosgedig, cerig calch a fyddai ganddynt yn llosgi y creigiau i ryddhau y mŵn. Dyma y dull oedd yn yr hen amseroedd cyn dyfodiad pylor i ymarferiad. Y darnau trymaf oeddynt yn eu codi o'r mŵn yn y dull hwn oedd haner cant o bwysau Dywedir fod teisen o ofydd wedi ei chael yn mhlwyf Llanfaethlu yn haner cant o bwysau, a nod arni geffelyb i'r llytheren Rufeinig L. Ond y dull presenol yw gydag ebillion, morthwylion, pigiedydd, gyrdd bathiadur, ynghyda phylor: fel hyn dryllir, weithiau, denell neu ddwy ar unwaith.
Rhagoriaeth y Mynydd hwn ar waithfaodd mwnawl y byd.—Rhagora yn ei ddyfroedd. Trwy ad-ddansoddi ei ddyfroedd, ceir ynddynt wahanol elfenau-Copras pur, sug llosgfeini, Oil of vitrol, paent, haiarn, plwm, copr, ac arian. Barnwyd y dyfroedd hyn yn werth wyth geiniog y chwart gan y mŵn-ofydd.
II CWMWD TALYBOLION.
Tybia rhai fod cyfathrach rhwng Talybolion a Suetonuis Paulinus-Rigio Paulini-Tal-Polion. Crybwylla Mr. Edward Llwyd am le o'r enw Pant y Polion, yn agos i ba fan y cafodd yn gerfiedig enw un Paulinus, yr hwn mae'n debyg a syrthiodd mewn brwydr, neu a gladdwyd yn y llanerch. Tybia rhai i Suetonius Paulinus feddianu rhan o'r cwmwd hwr fel ffrwyth ei fuddugoliaeth, ac i'w enw o hyny allan lynu wrth ei randir: ond y mae hyn oll yn bur annhebygol.
Ymddengys fod gwreidd-darddiad yr enw gan Mr. Rowlands yn llawer mwy rhesymol, dywed ef fel hyn: "I am rather inclined to believe, that as certain teritories in Cumberland are called Copeland (ap acuminatu, collibus) as Mrs. Camden observes, so this name might be derived from many, and coped hills, which are here and there in that teritory called Moelion, or Moelydd, of which one or two return that application of Moel to this day. On which account I take it probable such baretopped hills being called Moelion, yet, therefore that region abounding with those hillocks might then be called Tal y Moelion; and, consequently, that the letters M and B being of one organ, are easily convertible one to another and premiscuously pronouced in our tongue, it might so come to pass in tract of time that Tal y Moelion, came to be called Tal y Bolion, as Moel y Don is now commonly called Bol y Don, and for further confirmation of it we have one bleakhill in this country called y Voel, and the teritory adjoining it is called Tal y Voel to this day."—"Mona Antiqua Restaura" t.d. 114-15.
Taflen yn cynwys enwau y plwyfydd yn y Cwmwd hwn; a'r flwyddyn yr adeiladwyd yr eglwysi:
Plwyf | O.C. | Plwyf | O.C. | |||
1 Llandygfael | 600 | 8 Llanfwrog | 607 | |||
2 Llanfaethlu | 640 | 9 Llanryddlad | . | |||
3 Llanbadric | 440 | 10 Llanfflewyn | 800 | |||
4 Llanddeusant | 570 | 11 Llanrhydrus | . | |||
5 Llanfair yn Nghornwy | . | 14 Llanfechell | 782 | |||
6 Llanbabo | 400 | 18 Llanfachraeth | . | |||
7 Caergybi (Rhan) | . | 14 Llanfigael | . |
PLWYF LLANDYGFAEL.
Saif y plwyf hwn oddeutu saith milldir i'r gorllewin o Amlwch. Tardda yr enw oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Dryfael, ap Ithel Hael, ap Cedig, ap Credig, ap Cunedda Wledig, yn y chweched ganrif. Yr ystyr yw "Llan y Cyfran hael," neu y gyfran enillgar.
PLWYF LLANFAETHLU.
Gorwedda y plwyf hwn oddeutu pum' milldir i'r gogledd-orllewin o Bodedeyrn.
Tardda ei enw oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Maethlu, ap Caradog Freich-fras, ei fam Tegau Eurfron, ferch Nudd Hael, ap Senyllt, ap Cedig, ap Dyfnwal Hen, ap Ednyfed, ap Macson Wledig, yn y chweched ganrif. Yr ystyr yw "Llan y Famaethfa", neu Famaethlan.
PLWYF LLANBADRIC.
Y mae'r plwyf yn sefyll oddeutu pum' milldir o Amlwch. Cysegrwyd yr eglwys yn y seithfed ganrif: ond yn ol yn y Mona Antiqua, y 4ydd ganrif, i St. Patrick ap Alfryd, ap Gronwy, ap Gwdion, ap Don, o Waredawg yn Arfon. Anfonwyd St. Patrick gan y Pab Celestine i ddychwelyd y Gwyddelod at Gristionogaeth; ac ar ei ffordd trwy yr ynys hon, adeiladodd yr eglwys yma ar lan y môr; ac felly cafodd y plwyf yr enw oddiwrth yr hen sant. Yr ystyr yw "Llan y Pendefig."
O fewn i'r plwyf hwn y mae dwy faerdref—Cemaes a Chlegyrog. Yr oedd y trethoedd yn 1803, yn 130p. o Gemaes, a 42p o Clegyrog. Gwel tarddiad yr enw Cemaes, o dan Cantref Cemaes. Tardda enw Clegyrog oddiwrth ansawdd y lle-tir caregog, sef mân greigiau. Yn y flwyddyn 1723, rhoddodd un o'r enw Richard Gwynne, Ysw., fferm yn mhlwyf Amlwch, yn cael ei galw Nant Glyn, yn rhodd am byth at waddoli ysgol rad i blant y plwyf hwn. Yr oedd dau gapel yn y plwyf yma o'r enw Gwen Hir a Gwenhoyw, sef yn Bettws Llanbadrig.
BETTWS LLANBADRIC, NEU CEMAES.
O berthynas i ystyr y gair Bettws, yr hwn sydd i'w weled yn fynych yn yr ynys hon, y mae amrywiol farnau. Dywed un y cyfenwai Gwyrfaiensis yn y Brython ef a'r gair Bead house, o'r hwn y mae yn llygriad.
Dywed y Parch. Edward Llwyd, Rhydychain, nas gallai efe bendefynu beth allai arwyddo―ond iddo dderbyn llythyr oddiwrth foneddwr o swydd Drefaldwyn yn sicrhau nad yw amgen na'r gair Beatu (dedwydd) wedi eu Gymreigo, a'i fod yn dwyn perthynas a sefydliadau cre- fyddol St. Beuno. Barna eraill mai ei ystyr yw Abalis, lle a berthynai i Abatty, neu Briordy. Eraill a dybiant ei fod yn arwyddo lle canolog rhwng dyffryn a bryn, neu fynydd uchel—" Bod gwys"—lle cysgodol.
Credwn y byddai yn werth i hynafiaethwyr Cymru wneud ymchwyliad pellach i'w ystyr.
PLWYF LLANRHWYDRYS.
Gorwedda y plwyf hwn oddeutu wyth milldir i'r gogledd-orllewin o Lanerchymedd. Rhoddwyd yr enw hwn ar y lle oherwydd fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Rhwydrys, neu Rhydrys ap Rhwydrin, brenin Connaught, yn yr Iwerddon, yn y seithfed ganrif, yn ol "Bonedd y Saint;" ond, yn ol y Mona Anti. yn 570. Saif yr eglwys yn agos i fôr Iwerddon, ac heb fod yn mhell o Cemlyn.
PLWYF LLANFAIR YN NGHORNWY.
Saif y plwyf hwn oddeutu naw milldir i'r gogledd orllewin o Lanerchymedd. Cafodd yr enw uchod am fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Mair. Cornway neu Cernyw oedd hen enw Prydeinig ar Cornwall, ac ar y rhan yma o Ynys Môn. Beth achosodd iddo gael yr enw nis gwyddom.
Mynachdy.—Ty mynach. Yn agos i'r eglwys y mae tair o geryg mawrion yn cael eu galw "Meini hirion," neu "the stones of Heroes."
PLWYF LLANBABO.
Mae'r plwyf hwn oddeutu chwe' milldir i'r gorllewin o Lanerchymedd. Sylfeinydd yr eglwys oedd un o hen dywysogion Cymry, yr hwn a fu yn amddiffynydd dewr i'w wlad rhag ymosodiadau y Scotiaid a'r Pictiaid. Cyfenwid of Pabo Post Brydain—The support of Britain; ac ar ol yr urddiad sanctaidd, daeth yn un o'r seintiau mwyaf parchus a chyfrifol. Tardda enw y plwyf oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru yn y bedwaredd ganrif, i Pabo, yr hwn oedd fab Arthwys, ap Môr, ap Morydd, ap Cenau, ap Cael Godhebog. Efe oedd frenin yn y Gogledd, ac a yrwyd o'r wlad gan y Gwyddel Ffichti, a daeth i Gymru, lle cafodd diroedd gan Gyngen Deyrnllwg, a chan ei fab Brochwel Ysgythog.
PLWYF CAERGYBI.
Saif y plwyf hwn oddeutu saith milldir-ar-ugain o Beaumaris. Nid yw Ynys Cybi (Holy Island) ond bechan o ran maintioli: tua chwe' milldir o hyd o'r dwyrain i'r gorllewin, a phum' milldir o led o'r gog ledd i'r deau.
Yn Methodistiaeth Cymru' cyf. i. t.d. 7., dywedir:"Tua chanol y bedwaredd ganrif, ceir hanes am un o'r enw Cybi, mab i frenin Cornwall. Dywedir i hwn, wedi iddo fyw yn grefyddol iawn am ugain mlynedd gartref, fyned i Ffrainc, at Hilary, esgob Poictiers; ei fod trwy enill gwyneb yr esgob wedi cael ei ordeinio ganddo, ac iddo wasanaethu fel cynorthwywr iddo, hyd farwolaeth yr esgob, ac yna iddo ddychwelyd i'w wlad; ei fod oherwydd trallodion ei wlad, ac amgylchiadau gofidus yn ei deulu, wedi gadael ei gartref drachefn, a dyfod yn gyntaf i Dy Ddewi; a thrachefn iddo fyned i'r Iwerddon; ac yn mhen pedair blynedd ddyfod trosodd eilwaith ac ymsefydlu yn Nghaergybi. Dywedir hefyd fod Tywysog Môn, o dosturi at ei dlodi, wedi ei anrhegu a chastell ag oedd yn y gymydogaeth; a darfod sefydlu mynachlog fechan o fewn y castell, a galw y lle oddiar hyny yn Côr Cybi, gan olygu y castell." Yn ol "Teithau Pennant yn Nghymru" Cyf. ii., t.d. 276, bernir mai oddiwrth y gair Castell y daeth yr enw Caer Gybi, neu Caerau Gybi, gweddillion pa rai sydd i'w gweled hyd heddyw. Yn ol Tanner llewyrchodd St. Kebius tua'r flwyddyn 380 O.C. Ar y tu gogleddol i'r eglwys blwyfol, sef y fynachlog a nodwyd, mae y llythyrenau canlynol, yn y dull Gothaidd:—"Sancte Kybi ora pro nobis" ("O sant Cybi, gweddia droswyf") i'w gweled yn awr.
Yr enw nesaf Cae'r Ddwy, fel yr ysgrifenir ef mewn hen gof-lyfrau. Tardda y gair dwy, o Dduw; a'r ystyr yw" Amddiffynfa y Duw."
Holyhead.—Tybia rhai fod yr enw hwn yn tarddu oddiwrth fod yma amryw gapelau, neu leoedd i addoli. Ond tybia eraill yn wahanol ei fod wedi tarddu oddiwrth le yn agos iddo o'r enw Pencelyn (Pen Cyhelyn) oddiwrth Cyhelyn mab Caw, fel y crybwyllwyd.
Cyfieithir ef weithiau yn Holyhead, ond y gwir ystyr yw "Cyhelyn's Head." Yr hen enw oedd "Llan y Gwyddel," yr hwn a darddodd oddiwrth fod Caswallon wedi adeiladu eglwys ar fedd ei elyn Serigi Wyddel, ac iddo ei galw "Llan y Gwyddel."
Gelwir yr ynys fechan hon Caergybi, yn "Ynys Halen," am mai yno y byddis yn derbyn y doll ar yr halen a ddygid i'r rhan yma o'r wlad. Dywedir mai Wm. Morris, brawd yr hen fardd Lewis Morris (Llewelyn Ddu o Fôn) oedd y prif swyddog yn y tolldŷ hwn. Bu ef farw yn y fl. 1764.
Yr oedd Caergybi yn fan adnabyddus i'r Rhufeiniaidd, canys dywed Tacitus fod trafnidiaeth helaeth yn cael ei ddwyn yn mlaen rhwng y lle yma a'r Iwerddon, yn amser Julius Agricola. Y mae hyn yn cyd-daro, âg amryw enwau sydd ar leoedd yn y gymydogaeth hyd y dydd hwn; megis y Valley, neu yn hytrach y Fael-lif; a Phenrhos Faelwy sydd yn arwyddo agos yr un peth. Y mae amryw olion o adeiladau Rhufeinig yn aros yma hyd yn awr.
Y mae helbylon milwrol a rhyfelgar y gymydogaeth hon wedi bod yn lluosog a phwysig, ac yn cael lle cyhoeddus yn hanesion boreuol y wlad. Wedi ymadawiad y Rhufeiniaid, ac yn amser teyrnasiad Einion Urdd, mab Cunedda, yr hwn a unodd dan ei lywodraeth Frytaniaid, Ystrad Clwyd, a thalaeth Gogledd Cymru, ac a breswyliai yn ei diriogaethau gogleddol,— daeth yr Albanwyr Gwyddelig dan arweiniad Serigi, ac a diriasant yn Môn, ac wedi gorchfygu y brodorion, cymerasant feddiant o'r ynys. Wedi clywed y newydd. hwn, anfonodd Einion Urdd ei fab hynaf, Caswallon Llaw Hir, yn ddioed i waredu Môn o ddwylaw yr estroniaid, yr hwn a gynhullodd ei holl alluoedd, ac a ymosododd ar y dyeithriaid, gan eu llwyr orchfygu, ac a laddodd Serigi mewn ymdrech bersonol gerllaw Caergybi, a ffodd y gweddill yn eu llynges oedd yn y porthladd, gyda cholled fawr. Yn y fl. 443, wedi i Caswallon, mewn canlyniad i farwolaeth ei dad, ddyfod i'r orsedd, dewisodd Fôn fel ei breswylfod; ac fel mai efe oedd y gangen hynaf o deulu Cunedda, yr oedd yn mwynhau urddasolrwydd uwchlaw y tywysogion eraill, y rhai a dalent warogaeth iddo oll fel eu harglwydd a phen phrif benadur y wlad. Y mae olion nifer o aneddau y dyeithriaid a elwir "Cytiau y Gwyddelod," yn aros yn yr ardel hon hyd yn awr, fel y gellir gweled yn y Tŷ mawr, Porth Naumarch, Ynys Llyrad, &c., a chafwyd rhai arfau o wneuthuriad Gwyddelig gerllaw y Tŷ mawr, yr hyn a gadarnha y dystiolaeth. Ymddengys i'r wlad gael seibiant wedi hyn hyd y fl. 900, pan y daeth Igmwnd a'i baganiaid duon Fôn, ac yna y bu gwaith i Rhos Meilion, neu Meloreu. Mae yn debygol mai yn Ynys Cybi y bu y frwydr hon, sef y lle a elwir yn awr Penrhos-feilw. Mae tŷ a elwir "Tŷ Milo," neu yn hytrach "Tŷ Maelu," yma yr awr. Drachefn, anrheithiwyd Môn gan ŵyr Dulyn yn y fl. 915. Drachefn, yn 958 tiriodd Abloie brenin Dulyn yn y wlad, ac a losgodd Caergybi, ac a wnaeth ddinystr mawr drwy yr ynys. Bu ymosodiadau mynych ar y lle hwn, ac ar Aberffraw yn neillduol, y naill bryd a'r llall.
Y mae yma Forglawdd yr hwn sydd yn un o'r gweithredoedd penaf a gyflawnwyd er ei hynodi, ac yn dwyn cysylltiad pwysig rhwng y wlad hon a'r Iwerddon, er hyrwyddo mordwyaeth rhyngddynt i raddau mawr. Yr oedd sylw y wladwriaeth ar yr angenrheidrwydd am a gwelliant hwn wedi ei dynu at y lle er amser dryll iad y Chalremont Packet, o Parkgate, ar yr Ynys Halen, yn ngenau y Bay, Rhagfyr 18fed, 1790, pan y boddwyd cant a deg o deithwyr. Y mae y dref wedi ei chodi ar derfynau yr Ynys. Y mae y tir sydd yn ymwahanu fel ynys oddiwrth y sir gan y fael-lif, yn cynwys plwyfi Caergybi ar y gogledd, a Rhosgolyn ar y ddê. Y mae y sefyllfa yn fanteisiol i'r Mail rhwng Caergybi a Dublin. Dywedir nad yw yn hyspys pryd y dechreuodd y lle hwn fod yn borthladd y Mail; ond y mae yn wybyddus ei fod yn amser William III. Y mae y Goleudy ar y morglawdd hwn yn amddiffynol iawn i'r morwyr rhag peryglon yr Ynys Halen yn awr. Dywedir fod oddeutu 600 o fordeithwyr yn myned a dyfod drosodd bob dydd o'r Iwerddon. Felly y mae yn lle pwysig iawn.
Y mae yma Fôr-fur (Breakwater) arall. Y gloddfa anferth o'r lle y codwyd y defnyddiau ydyw "Mynydd y Twr." Gwelwyd oddeutu pymtheg cant o weithwyr yn cloddio meini i lenwi cylla gwangcus y môr. Difawyd swm anferth o bylor yma. Ar ddydd Gwener, Ionawr 16eg, 1857, taniwyd un-mil-ar-bymtheg o bwysau o bylor, a chwythwyd yn ysgyrion tua chan mil o dunelli o'r mynydd. Cyn tanio yr egyd mawr hwn, gwelwyd gafr yn pori yn ddiofal ar y mynydd, ac mewn eiliad daeth i lawr ar frig y groglwyth gwympiedig yn groen gyfan ddigon, ond yn bur ddychrynedig o bosibl. Dydd Mercher, Medi 9fed, 1844, gyda chwe' tunell o bylor, rhyddhawyd 10,000 o dunelli o'r graig, &c.
Dywedir fod oddeutu 900 o longau yn achlesu yn nghysgod y breakwater yma bob blwyddyn; a diau yr arbedir llawer o fywydau yn flynyddol trwy y fath gyfleusdra rhagorol.
Y mae yr Ynys Lawd (Ynys yn lledu) gyda'i goleudy, ei chloch, a'i phont gadwynol, yn wrthddrych sylw mawr. Dywedir fod yno risiau, sef gris am bob diwrnod yn y flwyddyn. Pob un a aeth i lawr ac i fynu, bu yn dda ganddo gael gorphwys am amser hir; ac fe deimlai ar ol hyny am ddiwrnodiau.
Y mae y fywiolaeth yn guradaeth barhaol yn archddeoniaeth Môn ac esgobaeth Bangor, wedi ei gwaddoli a 400p. o roddion seneddol, ac yn nawddogaeth llywydd ac ysgolorion Coleg yr Iesu yn Rhydychain, y rhai yn 1820, a ychwanegasant 20p. yn flynyddol at gyflog y curad. Dywedir yn yr hen-gofnodau mai Cybi a a sylfaenodd yr eglwys yn y bedwaredd ganrif. Rhydd un hen ganiad boreuol iawn i ni grynodeb o hanes ei dylwyth. Gwel" Hanes y Cymru," gan y Parch. Owen Jones.
PLWYF LLANDDEUSANT.
Mae'r plwyf hwn oddeutu chwe, milldir î'r gogleddorllewin o Lanerchymedd. Gorwedda yn agos i Afon Alaw. Tardda yr enw oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i ddau sant-St. Marcellus a Marcellinus.
PLWYF LLANRHYDDLAD.
Gorwedda y plwyf yma oddeutu wyth milldir i'r gogledd-orllewin o Lanerchymedd. Cysegrwydd yr eg lwys i St. Rhyddlad. Dywed un hynafiaethydd fod enw'r lle wedi tarddu o'r gair rhydd (at liberty) neu'r gair rhudd (red); a gwlad (a country).
PLWYF LLANFECHELL.
Mae'r plwyf hwn yn sefyll oddeutu pum' milldir i'r gorllewin o Amlwch. Tardda ei enw oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru, yn y seithfed ganrif i St. Mechyll (Macatus) mab i Echwydd. Claddwyd ef yn Mynwent Penrhoslligwy, lle mae cerfiad er cof am dano.
PLWYF LLANFFLEWYN.
Mae Llanfflewyn yn gorwedd oddeutu 12 milldir i'r gogledd-ddwyrain o Gaergybi. Tardda yr enw oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Fflewyn, mab Ithel Hael, yn y chweched ganrif.
PLWYF LLANFWROG.
Gorwedda y plwyf hwn oddeutu pedair milldir i'r gogledd-orllewin o Bodedeyrn. Mae yr enw yn tarddu oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Mwrog.
ATTODIAD.
Trwy ryw amryfusedd gadawyd allan y sylwadau canlynol mewn cysylltiad ag
AMLWCH.
GWEITHYDD GWRTAITH CELFYDDYDOL A DADANSODDOL (Chemical and Artificial Manure Works.)—Dechreuwyd y gwaith yma yn Mynydd Parys, yn y fl. 1843, gan H. Hills, Ysw., pan yr oedd y mines yn eu bywiogrwydd mwyaf yn ein hoes ni. Yn y fl. 1848, sefydlwyd y gweithydd yn Llamcarw; ac oddeutu y fl. 1866, sefydlwyd rhan o'r gwaith yn y Smelting Works. Anfonir allan filoedd o dunelli o'r gwrtaith yn flynyddol i wahanol barthau o'r deyrnas gyfunol.
Y mae o 120 i 150 o bersonau mewn gwaith yn y gweithydd hyn; ac felly telir miloedd o bunau yn flynyddol yn y dref gan y perchenogion—Mri. HENRY HILLS A'I FAB, yr hyn a rydd fywiogrwydd i fasnach y lle.
MONA MINES.—Y perchenogion presenol ydynt―T. F. Evans, ysw., Mona Lodge, J. W. Paynter, ysw., Maesllwyn, a H. Roberts, ieu., ysw., Pembol. Mae y ddau flaenaf yn ystusiaid-heddwch.
PARYS MINES.—Cerir y gwaith yma yn mlaen yn bresenol gan gwmpeini o Fanchester, o dan arolygiaeth Captain Thomas Mitchell, Pen'rallt.
PANTYGASEG MINES.—Newydd gael eu hagor y mae y rhai hyn, o dan arolygiaeth James M. Williams, Ysw., a Mr. Edward Jones, Tre'rdath, ac y mae y rhagolygon yn ffafriol iawn.
GWEITHYDD TOBACCO A SNUFF.—Y mae yma ddau o'r rhai hyn-un yn cael ei gario yn mlaen gan Mri. E. Morgan & Co., a'r llall gan Mr. E. Morgan Hughes.
CHWAREL LLECHI LLANEILIAN.—Dechreuwyd y gwaith yma ychydig flynyddau yn ol, gan gwmpeini o Loegr, ac y mae golwg obeithiol iawn am lwyddiant. Mr. J. T. Jones yw yr arolygwr.
GWEITHYDD ADEILADU LLONGAU.—Un gan Mr. W. C. Paynter; a'r llall ar raddfa eang iawn gan yr anturiaethus Captain William Thomas, yr hwn sydd newydd bwrcasu building yards y Mri. Treweek, Sons & Co.
ARGRAFFWYD YN SWYDDFA D. JONES, AMLWCH.
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.
- ↑ "Mona Antiqua," tudal. 188 ar Wiki Bookreader
- ↑ Diawl y wasg? Roedd Harri VI yn frenin Lloegr am y tro cyntaf o 1422 tan 1461, felly 1444 O.C. byddai'r 12fed flwyddyn o'i deyrnasiad