Diliau Meirion Cyf I (testun cyfansawdd)

Diliau Meirion Cyf I (testun cyfansawdd)

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Diliau Meirion Cyf I
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Morris Davies (Meurig Ebrill)
ar Wicipedia





DILIAU MEIRION
GAN
MEURIG EBRILL,
DOLGELLAU

Gwledd i'r dant goledda'r dón
Ddeil ym mhêr DDILIAU MEIRION.
Gwalchmai,


DOLGELLAU:
ARGRAFFEDIG GAN EVAN JONES, BRYNTEG.
MDCCLIII

TO
W. W. E. WYNNE, Esq.
OF PENIARTH,
M. P. FOR THE COUNTY OF MERIONETH,
DESCENDANT OF A LONG LINE OF ANCESTRY
OF CHARACTERISTIC PATRIOTISM,
THE ENLIGHTENED AND GENEROUS FRIEND OF THE
LITERARY INSTITUTIONS OF HIS COUNTRY,
AND THE WARM PROMOTER OF THE
AWEN,
THIS HUMBLE CONTRIBUTION TO THE POETRY OF WALES
IS RESPECTFULLY DEDICATED
BY HIS MOST DUTIFUL SERVANT,
MEURIG EBRILL

ANERCHIADAU I'R GWAITH

I'r hen Feurig rho'wn fawredd—ei ddiliau
Ddylent gael anrhydedd
Rhydd ei awen lawen wledd
Geinwych i Dde a Gwynedd
Dinbych— D Price (Dewi Dinorwig)


Croesaw hylon "Ddiliau Meirion"
Rhagolion pry gry eilydd
Ni fu "Diliau" mwy difeiliau
Na Mwyn Rhinau Meirionydd

Sawl gâr weithiau beirddion—Ymwthiwn
Am waith Meurig ffraethlon
E geir yn "Niliau Meirion"
Win a llaeth i'n gwneud yn llen
D. J. Lewis


Ebrill lewyrcha'r wybren—(y caddug
Nid yw'n "cuddio"'r heulwen)
Gwawl ei nwyf a goleu nen
A ddyry i'r ddaearen

Dyfod mae MORRIS DAFYDD—yn ei rym
A'i iawn rwysg ysblennydd
Ei fawl a daen fel y dydd
Yn y "Diliau" dieildydd

Morris sydd ben bardd Meirion—daw ar naid
A dyrnodia Arfon;
Ei wych ystwyth orchestion
A deifl i lawr feirdd mawr Mon!

Gordrechwr, curwr y cewri—a ddwg
Yn fuddugol ini
Bob mwynder, llawnder yn lli
O "Ddiliau" mel ddeil eu moli
Towyn Meirionnydd—Ieuan Ebrill


Eon dalent gyflawn "Diliau—Meirion
Gymer i'r byrddau
Y llywr hwn gwnawn oll fawrhau
Ar berwyl hwyr a borau

Odlau mêr "Diliau Meirion"—o'u blysio
Wnant bleser i feirddion;
Mawr awydd i'w hamrywion
Wella fyd anniwall fron.

Is y Gader glwys gododd—ein gwron,
Yn gaerog y canodd
Meurig ni a chamgymerodd
Ei bert waith a baratôdd
—Ieuan Ionawr


Deled i mi y "Diliau—Melysion
Mal osai i'r genau
Mwyn yn wir dymunwn wau
Chydig o anerchiadau

Llafur purlan a llyfr perlog—byrddiad
Awen bardd ardderchog
Diliau llawnion dillynog—caniadau
Oll o gydiadau diwall godidog
—Gwilym Idris


Morris a'i "Ddiliau Meirion"—a gura
Bob gwrol orchestion
Wele lwyth i Walia lon
O groyw seigiau gwresogion

"Diliau" i amryw dalaeth—cynnyrchion
Haelion ddoniau helaeth;
Pur iawn fodd pery yn faeth
I ddynion ei farddoniaeth
Towyn—Dewi ap Dewi


Da elw mawr "Diliau Meirion"—filoedd
Yn wiwdeg danteithion
Prif drysor i lenorion
A gorau saig i'r oes hon.
Llanelltyd —M Glan Mawddach


Elw mawr fydd Diliau Meirion—i filoedd
Mae'n felys danteithion
Gwna un llesg i ganu'n llon
Ac elwch rydd i galon
—Ieuan Dyffryn Conwy


"Diliau Meirion" llon ddarllenydd—O myn
Y mae yn ysblennydd
"Diliau rhad" yn odlau rhydd
Gan Meurig hen Omerydd

Diwael fraint "Diliau" o fri—heirdd "Diliau
Hir ddalient mewn mawrfri
"Diliau Meirion" wna'n lloni
Yn ein hoes llawenhawn ni
—Dewi Glan Llugwy


"Diliau" heirdd i brif feirddion—a "Diliau"
I delaid lenorion
Doed cannoedd yn lluoedd llon
I morol "Diliau Meirion"
Bala—William Davies (Gwilym Tegid)


Ymorol am "Diliau Meirion"—ddarllenydd
Er lloni dy galon
Ar fel a llaeth yr arfoll hon
A'th lleinw a choeth ddillynion
Llanuwchllyn—Bardd Dochan


Wele y mar "Diliau Meirion"—iesin
Brasaf o'r danteithion
Yn llu, O mynnwch eu llon
Y manwl Gymru mwynion
Llanidloes—Gwilym ap Iorwerth


Meddyliaf yn deg am "Ddiliau—Meirion
A'u mawrwych rinweddau
Dir yw eu bod, er clod clau
A mel hyd eu hymylau.
—Owen Jones (Owain Egryn)


RHAGYMADRODD

ANWYL A HOFF GYDWLADWYR, yn Feirdd a Llenorion Cymreig o bob graddau,-Wele fi wedi achub y cyfleusdra presenol i gasglu yn nghyd ac argraffu ychydig o’m Cyfansoddiadau Barddonol, y rhai a gyfansoddais ar wahanol amserau, ac ar amrywiol destunau. Nid ydyw y Casgliad hwn yn cynnwys hanner fy ngweithiau ; oblegid dechreuais gyfansoddi pan yn fachgenyn o saith i wyth oed, ac aeth lluaws o ffrwyth fy myfyrdodau yn yr adegau hyny ar ddifancoll o herwydd fy esgeulusdra i ddiogelu yr ysgrifau gwreiddiol. Yr wyf yn gwybod am bymtheg o gerddi, a deuddeg o garolau, heblaw cannoedd lawer o englynion, sydd wedi myned ar goll. Nid wyf yn honi perffeithrwydd mewn dim o'm cyfansoddiadau, ac ni anturiais ymgyrhaedd at ryw bethau mawrion, namyn ychydig awdlau byrion, englynion, ac ambell gân rydd.

Oddeutu hanner can’ mlynedd yn ol, cefais rai misoedd o gyfeillach yr hen fardd athrylithgar Thomas Edwards (Twm o'r Nant ) yn y Bala, a dygwyddodd i mi yfed cryn lawer o'i ysbryd, can belled ag yr oedd yn milwrio yn erbyn egwyddorion treisiawl a gorthrymus; ond ymgedwais, hyd y gellais, rhag ymyraeth mewn un modd â chymeriadau personol neb, gan gofio ychydig linellau a welais yn un o ysgrifau yr hen fardd uchod, y rhai, yr wyf yn meddwl, oedd yn debyg i hyn,

"—Gorau'r lleia' siarado,
Gan y cynhyrfa llawer un swrth,
Mae'n debygol, wrth ei bigo. "

Felly cymerais addysg oddiwrthynt; ac yn hytrach na gwneud caniadau tuchanol i bersonau unigol, ymosodais ar egwyddorion a ymddangosent i mi yn ddrwg, a phleidiais, hyd y gellais, egwyddorion da. Gwel y darllenydd fod y Casgliad hwn yn cynnwys ymosodiadau collfarnol ar bron bob pechod gwaradwyddus a gyflawnir yn y byd drwg presenol. Yn awr, nid oes genyf ond ei gyflwyno fel y mae i sylw a nawdd fy nghydwladwyr caredig, yn Eglwyswyr ac yn Ymneillduwyr, o bob graddau, y rhai sydd wedi dangos cymaint o’u hewyllys da i'm cynnorthwyo yn fy anturiaeth bwysig, a hynny gyda'r sirioldeb a'r parodrwydd mwyaf. Gallai y cyferfydd rhai ag ambell erthygl yn y llyfr na fydd yn cyd - daro yn dda â'u harchwaeth ; ond nid oes genyf well cynghor i'w roddi iddynt na choffâu hen englyn o waith Jonathan Hughes, yn ei gyflwyniad o'i lyfr, " Bardd y Byrddau," i'w gydwladwyr gynt, a dyma fo, os wyf yn cofio,

"Praw'r seigiau, byrddau diball,—o'r dysglau
Pirun orau, praw' un arall;
Oni ddoi yno'n ddiwall,
Cymro llon, cymer y llall."

Felly, yr wyf yn meddwl fod yn y Diliau hyn gymaint o amrywiaeth ag sydd mewn un llyfr o'i faintioli a ymddangos odd etto yn y Gymraeg, er nad yw heb lawer o wallau.

Tybiwyf nad anmhriodol fyddai crybwyll yn mhellach, er fy mod yn bleidiwr gwresog i'r mesurau caethion, ni chyfansodd ais erioed ond ar saith neu wyth o honynt; ac ni ddilynais y rhai hyny yn gwbl fel y sefydlwyd hwynt gyntaf, ond arferais roddi ychwaneg o linellau yn rhai o honynt, sef Hir a Thoddaid, a Byr a Thoddaid. Hefyd, ni phetrusais roddi 8 sill yn lle 7 weithiau mewn llinellau Deuair Hirion, ac esgyll Englyn Unodl Union, os gwelwn fod y synwyr yn gadarnach drwy hyny.

Dymunwn gyflwyno fy niolchgarwch gwresocaf i bawb sydd wedi bod mor ymdrechgar i gasglu enwau Tanysgrifwyr at fy Llyfr: taled yr Arglwydd yn ddau-ddyblyg iddynt am eu cymwynasgarwch.

Terfynaf yn awr, gan ddeisyf eich nodded a'ch cydymdeimlad â henaint a phenllwydni, yr hyn yn ddiau a wna y Beirdd a'r Llenorion campus a diragfarn, er nad wyf yn dysgwyl hyny oddiwrth y crachfeirdd a'r crachfeirniaid . Byddwch wych, Gyfeillion anwyl, yw gwir ddymuniad

Eich gostyngedig Ewyllysiwr da,

MEURIG EBRILL.

DOLGELLAU, Meh. 27, 1853.

RHAGDRAETH

GORCHEST Barddoniaeth ydyw bod y meddyliau yn newydd, yn darawiadol, ac yn aruchel; a'r iaith â pha un y byddont wedi eu gwisgo yn goethedig, yn ddillyn, ac yn eglur. Pa le bynag y byddo cyfansoddiad o'r fath, y mae yn sicr o gael ei ddarllen a'i wrando gyda mwy o ystyriaeth a theimlad nac unrhyw draethiad cyffredin. Goleuo, cynhesu, a boddhau, ydyw effeithiau nodweddiadol gwir awenydd. Os na bydd y pennill yn taro yn fwy grymus ar y glust a'r galon na rhydd iaith , nid barddoniaeth ydyw. Gall pob dyn rimynu, ond nid pawb a all gyrhaedd y teimlad byw.

Y mae Barddoniaeth Meurig Ebrill yn eglurhad ymarferol ar hyn. Nid ydym yn mynegu hyn heb ystyried fod ganddo ddarnau diffygiol; ond ar y cyfan, a'i gymeryd oll yn nghyd, ceir ei fod yn ateb i reol prawf barddoniaeth. Y mae ei linellau yn syml, heb fod yn ddiaddurn; y maent yn gyffredin, heb fod yn annaturiol; y maent yn ddealladwy, heb fod yn isel; y maent yn dlws, heb fod yn rhodresgar; ac y maent yn nerthol, heb fod yn afrywiog. Ni all neb eu darllen heb gael ei foddhau.

Nid oes neb, wedi eu clywed, a ammheua gywirdeb rhagfynegiad ei hen athraw barddonol, Twm o'r NANT, am dano er's tros hanner can mlynedd yn ol, yn ol manteision y genedl y pryd hwnw, sef, ei fod yn ei ystyried yn un o'r Beirdd ieuainc mwyaf gobeithiol yn Nghymru.

Y mae y Gwaith hwn yn dangos dedwyddwch mewn disgyn iad buan at enaid pob testun y cenir arno. Yn hyn y mae yn tra -rhagori ar nifer o'r Pryddestau meithion sydd wedi eu pynio ar gefn y wlad yn ddiweddar, y rhai sydd mor lawn o ryw fath o "wlith, a blodau , a ffrydiau, ac awelon, a thywyniadau , a nentydd, a gerddi, " a'r cyffelyb, nes y mae gwir farddoniaeth wedi cael ei chladdu yn hollol o'r golwg! Yn mha rai o honynt, wedi gwneud ychydig eithriadau, y ceir dwy linell gwerth eu hail adrodd ? Beth sydd yn eu cynnal i fyny heblaw canmoliaethau cardodedig? Nid ydym yn petruso dywedyd, fod gan yr hen Feurig aml englyn sydd yn fwy o bwysau yn nhafol gwir farddoniaeth, na channoedd o'r llinellau gweigion, trystiol, a orfolir gan gyfeillion, y rhai a addefant, wedi i ddyddordeb y mynyd basio, mai canmol er mwyn canmol oedd yr holl folawd o'r dechreu i'r diwedd. Y mae yn y Gwaith hwn deilyngdod syml a deifl garneddi o'r cyfryw i'r cysgod.

Nid ydym yn y sylwadau hyn yn ceisio codi y Gwaith hwn i'r dosbarth uchaf, ond yr ydym yn hơni iddo le yn rhestr barddoniaeth y wlad. Y mae ambell herlod wedi codi yn ddiweddar i fesur a phwysoy Beirdd, ac ni chaniatânt le i neb yn y rhestr ond y cyfeillion a'u molant. Cof yw genym am y ddadl ar adeiladaeth y Senedd-dai newyddion , pa un a ga'i Cromwell le yn mysg brenhinoedd Lloegr ai peidio: ac wedi chwilio, a mesur, a dyfalu, wele, yr oedd y lle yn rhy gyfyng i gerflun Oliver gael ei wthio i mewn rhyngddynt! Ond y gwir ydoedd, yr oedd cauad allan y Diffynwr yn gosod mwy gannwaith o hynodrwydd ar ei enw! Dichon na chafodd Awdwr DILIAU MEIRION le yn mysg y prydyddion breintiedig; ond nid oedd hyny yn ei gau allan o restr Beirdd ei wlad, mwy nac y gallasai culni rhagfarn gloi Cromwell allan o restr llywyddion Brydain Fawr.

Hyderwn y caiff y Llyfr hwn y derbyniad a deilynga, ac y caiff yr hen Fardd ei loni yn fawr wrth weled fod i'w Waith le yn serchiadau darllenwyr drwy yr holl wlad. Dyma ei brif nôd a'i ddymuniad ef. Dywedodd un awenydd, "Yr wyf fi yn foddlon i chwi gael gwneud cyfreithiau fy ngwlad, os caf finnau wneud ei chaneuon." Felly y dywed yr Awdwr hwn. Y mae ysbrydoliaeth yr Awen, yn ddiweddar, dan obaith mwynhad oddiwrth y DILIAU, wedi bod yn foddion i godi ei feddwl, ac adfywio ei nerth corfforol, wedi cystudd gorweiddiog hirfaith o saith mlynedd, fel y mae erbyn hyn dan adferiad eilfydd i adgyfodiad neu greadigaeth o newydd! Caiff eraill gymeryd arnynt yr holl ofalon bydol, os mynant, ond iddo yntau gael gwasgu digon ar DDILIAU yr awen.

R. PARRY (Gwalchmai.)

FFESTINIOG, Meh. 25, 1853.

Y CYNNWYSIAD


DILIAU MEIRION

AWDL IOSEPH

CAFODD Israel, hael wr hylon,—ddeuddeg
O heirdd wiwddoeth feibion;
Rhieddawg frodyr rhyddion
O'r un tad, y pen llâd llon.

Mab gwyl o'i wraig anwyla'—oedd Ioseph,
Ddieisior ei fwyndra;
Sef Rahel dawel a da,
Rywiog, weddus wraig wiwdda .

Ioseph, anwyl was hoff union—diwyd,
Fu'n deongl breuddwydion,
Dwyn a wnaeth, drwy arfaeth Ion,
I'r goleu fawr ddirgelion.

Ei frodyr, gan ddiofrydu, —godent
Yn giwdawd o'i ddeuta;
Mewn llid certh gwnaent ei werthu
I'r creulon faelyddion lu.

Hwythau i'r Aifft pan aethant — a Ioseph
Ddewisawl mewn meddiant,
Y llanc duwiol, siriol sant,
Warth oesawl, a werthasant.


Enyd hir yno tariodd—yn ufudd
Iawn hefyd gwas'naethodd;
Ffafr y distain, fadiain fodd,
Yn hollawl a ennillodd.

Llywyddiaeth ei holl eiddaw,—gu flaenor,
Gyflwynodd i'w ddwylaw ;
Ni omeddodd ddim iddaw,
Drwy wg ffroch, ond ei wraig ffraw .

Ond och! ei feistres un dydd,
A golwg ddigywilydd
Yr hen Aifftes ddiles, ddu,
Gas ddynes, geisiai'i ddenu
A'i swynaidd, hudolaidd did,
I findorch - gwarth aflendid!
D'wedodd y pur gredadyn,
Mwyneiddgar, ddiweirgar ddyn,
"Mawr yw f'ymdrech rhag pechu
"O flaen Ior mâd, Ceidwad cu ;
"Yn ddiau fyth ni ddeuaf fi,
"Satan, yn agos iti."
Wed'yn yn ffraw, draw fe drodd,
Was enwog, ni chydsyniodd
A'i diewlig hell hudoliaeth,
Ffoi o'i gwydd yn ebrwydd wnaeth ;
A'i wisg adawai o'i ol
I'r hoeden ddengar hudol.
Y gwaraidd ffyddiawg wron,
Di warth weinidog Duw Ion,
Ni wnai, a'i feistres na neb,
Gyduno mewn godineb ;
Myg odiaeth yr ymgadwai
Rhag gwarthus, ryfygus fai.


Ha! 'r faeden felen a fu—yn foddion
I'w faeddawl garcharu;
Ond Duw Iôr, drwy'i dymhor du,
Yn wyrthiawl oedd i'w nerthu.

Haeddu parch yn y carchar—urddasol
Yr oedd Ioseph hawddgar;
Ef oedd Gristion gwiwlon, gwâr,
Mwyneiddgu, amyneddgar.

Cafodd y doethwr cyfion—ei ddyrchu
Mewn ardderchog foddion,
Yn geidwad di frad ei fron
I'r eres garcharorion.

E dd'wedodd wrth ddau freuddwydiwr—troellawg,
Y trulliad a'r pobwr;
A d'wediad y da awdwr
Ddaeth i ran y ddau uthr ŵr.

Yn dra doeth penodai'r dydd—i grogi'r
Gor wgus benpobydd;
A'r trulliad coelfad celfydd
O'r rhwym ga'i fod yn wr rhydd.

Ei eiriau oll a wiriwyd—y pobydd,
Wep wibiawg, a grogwyd;
Tidau y llall ddattodwyd
'Run dydd, daeth yn rhydd o'r rhwyd.

Difost fel doeth bendefig—a medrus
Ymadrodd caredig,
Gyda phwyll, heb dwyll na dig,
Eba Ioseph yn bwysig,


"Y trullydd, pan doi o'th drallod—erchyll,
"A'th ddyrchu'n dra hynod,
"Cofia fi'r dydd y cei fod—mewn mawrlwydd
" Ger bron dy arglwydd, y brenin dewrglod."

Ei gyfiawn swydd a gafodd—a Phar'o
Hoff eirioes was'naethodd;
Ond Ioseph gain, firain, ryw fodd,
A'i ing hefyd, anghofiodd!

Gwed'yn, mawr ddychryn a ddaeth—i frenin
Y freiniawl lywodraeth:
Ffraw boenid Phar'o benaeth
Wedi nos—breuddwydio wnaeth.

Galw a wnaeth heb gywilydd—y doethion,
A daethant yn ufydd
Ger bron, gaffaelion gau ffydd—yn ffrostus,
Gâd fygylus, i gyd efo'u gilydd.

Yr anferth swynwyr ynfyd—naws gwallus,
Nis gellynt ddeonglyd,
Methent roi dim esmwythyd,
I Phar'o o'i gyffro i gyd.

Yna'r trulliad yn union—a gofiodd
Ei gyfaill mwyneiddlon,
A'i ddawn llâd ddeonglodd yn llon
Ei freuddwyd, heb gyfareddion.

Prysurwyd, galwyd y gwâr—fynwesol
Fwyn Ioseph o'r carchar,
At Phar'o'n ddeffro oedd ar
Lewychus orsedd lachar.


Phar'o a deg fynegodd—aralleg
O'r oll a freuddwydiodd,
Yntau mewn ffur, fwynbur fodd,
Dianglod, a'i deonglodd.

Mynegai'r sant mwyn agwedd—a duwiol,
Y deuai saith mlynedd
O amldra gwiwdda mewn gwedd
Odidog, drwy'r holl dudwedd.

"Coelia, fe ddaw i'w ca'lyn—i'th orawr,
Saith eraill o newyn;
"Par'to," eb ef, "y pryd hyn,
Na arbed, yn eu herbyn."

"Gan hyny, gwna yn union—ymorol
"Am wr doeth a ffyddlon,
"A gosod ef yn gyson
"Olygydd, a llywydd llon.

"Ffraw ethawl casgled ffrwythau—cain odiaeth
"Y cnydiawg flynyddau;
"Boed iddo iawn gludo'n glau
"Rad luniaeth i'r ydlanau .

"Cadwer yd mewn modd hydyn—ddigonedd
"O gynnyrch pob blwyddyn;
"Ceir toraeth helaeth drwy hyn
"Dan awyr, pan daw newyn."

Phar'o draethai'n hoff hyrwydd,"—Da Ioseph,
"Dewiswn di'n ebrwydd;
"Seirian fab Jacob sywrwydd,
"Teg was Ion, ti gei y swydd.


"Yn gadarn cei'th iawn godi—o benyd
"I binagl uchelfri;
"Rhyfeddawl bor a fyddi,
"Mawr ei nawdd ger fy mron i."

Ioseph, mewn rhwysg dieisawr—urddaswyd
Yn hardd iesin flaenawr;
Gawriai pawb yn mhob gorawr,
"Llwydd—Amen—i'n llywydd mawr. "

Yn llaw Dduw Ner llwyddo wnaeth—drwyaddurn
Ei dreiddiawl wybodaeth;
Yn hylaw raglaw yr aeth,
Llwyr deilwng, a llyw'r dalaeth.

Diwydiawl a da odiaeth—weinyddodd,
Dan nodded Rhagluniaeth;
Einioes y llu, o'i ddeutu ddaeth,
Arbedwyd drwy'i ddarbodaeth.


DEBORA A BARAC

Gwedi Ehwd frwd ei fron—eiddigus,[1]
Roi'i ddager drwy Eglon,
A gwneuthur ger disbur don
Trylanastr o'i elynion,

Ar ol hyn ca'dd Israel hedd—dirwygiad
Bedwar ugain mlynedd,
Heb un dremyg boen dromwedd,
Na chlwyf gan saethau na chledd.


Tra'r oeddynt ar hynt yn rhwydd—yn ethawl
Wasanaethu'r Arglwydd,
Gan Iôr hwy gaen' yn wiwrwydd,
Ddieisawr, helaethfawr lwydd.

Ond och! eilwaith dacw hwy'n dychwelyd
Yn ffrawdd anferth idd eu hen ffyrdd ynfyd,
Gan wneud drygioni mewn anfri'n unfryd
Yn erbyn Dofydd, drwy efrydd aufryd,
A chroes orfeiddiawg echrys arfeddyd
Gwallau a rhyfyg, gan gellwair hefyd,
A'u hegr hyll feiau'n bagru’u holl fywyd,
Y delwau meirwon wnaent ddylion ddilyd,
Ymroi i audduwiaeth â mawr ddyhewyd ,
Heb un ter rinwedd, buont hir enyd,
Duw Abram mewn modd dybryd—ddigiasant,
Ow! gerwin gilient a'u gwarau'n gelyd.

Yna Duw Ton cyfion cu
Yn eu gwarth wnai eu gwerthu
I law Jabin, erwin ŵr,
A Sisera, draws arwr,
Yn gaethion gwaelion eu gweddi'r—ffyrnig
Gwn mileinig, lawn ugain mlynedd.

Codi'u llef i'r nef yn awr,
Ceir y dorf mewn cur dirfawr,
Dan deimlad fel brathiad bron
O'u tramawr feiau trymion.
Duw y duwiau wrandawodd—eu llefau,
A'i fyg wiw radau fe a'u gwaredodd.

Duw Iôr gododd Debora
Ffodus, ddoeth brophwydes dda;

A Barac, ŵr 'pybyrwych,
Ar y gâd yn flaenor gwych.
"Barac," ebai Debora,
"Diorn hyf-ymgadarnha,
"Dos mewn parch ar arch yr Iôr,
"Bwynt diball, i ben Tabor,
"A dethol filwyr doethion,
"Ddeng mil o'r hil yr awr hon;
"Iôr hedd sy'n addo rhoddi — dy alon,
Hyll abwydon, i'th llaw heb oedi;
"Sisera, d’wysog suraidd,
"Hen ymffrostgar floeddgar flaidd,
"A Jabin a'i fyddin fawr,
"Groes anfwyn gawri swnfawr;
"Chwai eu naw can cerbyd haiarn
“Ddinystri, a sethri fel sarn."
Ebai Barac, "Mae'm bwriad,
"Yn awr, gwel, flaenori'r gâd
"Yn astud iawn, os doi di,
"Mam wiwfad, gyda myfi;
"Didwyll wrthyt y d'wedaf,
"Oni ddoi di, 'n ddiau nid âf.”
Yna Debora burwedd,
Mwyn iawn atebai mewn hedd,
"Rhwydd ddyfod, rhydd addefaf,
“Barac, yn ddinac a wnaf;
"Fy sel yn ddihefelydd
"Dros ffyddlon blant Sion sydd;
"Mawreddog yr ymroddaf,
"Gyda'r llu wynebu wnaf;
"Dy gyfnerth, paid ag ofni,
"Yn llaw Naf a fyddaf fi:
"Ond tebyg dylit wybod
"Na chei'n awr ryglyddfawr glod,

"Neu fawl gorwych fel gwron
"Doeth a hyf, yn y daith hon;
"Arwyddion in' a roddwyd
"Mai llwfrhau i raddau'r wyd;
"Er yr atteg ro'ir iti,
"Coelia, frawd, cei lai o fri.
"Duw Ner a werth Sisera
"Yn llaw gwraig hardd ddigardd dda,
"Sef gwraig lân eirian arab—llawn pryder
"Y duwiol Heber, o deulu Hobab.
"Er hyny'n awr, o'n rhan ni—llywia'r gâd,
"Mae mawr alwad am iť ymwroli. "

Yn fyddin arfog enwog hwy unwyd,
Ac i'r hynt orwech draw acw'r anturiwyd,
Yn llawn o obaith y llu wynebwyd,
Cerbydau Jabin a'i fyddin faeddwyd,
Deng mil o bybyr filwyr a falwyd,
At afon Cison hyson hwy neswyd,
Y lluaws gwibiawg i'r lle ysgubwyd;
Sisera fradawg, feiddiawg, orfyddwyd,
Ond meibion Israel fu wael, fe welwyd,
Heddyw'n wyrthiawl gan Dduw hwy a nerthwyd,
A chyfiawn eu dyrchafwyd—y pryd hyn,
O law yr adyn hwy lwyr waredwyd.

Sisera'n llawn o soriant,
Mewn llidiawg a chwyddawg chwant,
Ffoi a wnaeth, gyda ffun wan,
Warth hynod, wrtho'i hunan,
At babell Jael yn wael ei wedd,
Ag egwan grynedig agwedd.
Gwiwfwyn gwnai hithau'i gyfarch
Wrth ei bodd, dan rith o barch;

Di oed wrtho y d'wedai
Yn bwyllgar, foesgar ddifai,
"Bydd gefnog, hardd d'wysog da,
"Chwai anmharch ni chei yma;
"O dwrf y cadau dirfawr
"Tro i mewn, rhag y taro mawr;
"Tyred, cei, f'arglwydd tirion,
"Bob lles yn y babell hon."
I mewn y daeth mewn mynyd awr
Yn llonfwyn i'r babell wenfawr:
Mewn serchlon ufuddlon fodd,
Da odiaeth, wrthi d'wedodd,

"Wraig dda, dioda fi â dw'r——tòr syched
"Hen elyn caled sy'n wael enciliwr."

Yn lle dw'r, heb un llid oriog—na gwg,
Nac agwedd afrywiog,
Rhoes hithau'n fwyn i'r llwynog—i'w foddio,
'N helaethwych yno laeth o'i chynog.

Wed'yn ar ffrwst, ni oedodd,
Tan wrthban, druan, ymdrodd,
A gwareiddiawg orweddodd—mewn cornel,
Tremyg osgel, nes y trwm gysgodd.

Ar ol i'r blaidd delffaidd du—ystyfnig,
Milain, eiddig, lwyr ymlonyddu,
Hithau'n ddisorth mewn morthwyl
Gydiai'n hawdd, gyda iawn hwyl,
A hoel hir, meddir, mewn modd
Gwir hyddestl a gyrhaeddodd;
Pur hylaw pwyai'r hoelen
Yn bost drwy esgyrn ei ben!


Treidddiai i mewn trwyddo 'mhell
I bybyr lawr y babell;
Syrthiai'r gelyn, dremyn drwg,
Yn gelain yn ei golwg:
Felly Jael i'r Israeliaid
Wrth gefn yn gynhorthwy gaid.

Yn llon rwydd allan yr aeth—i roddi
Gwireddawl hysbysiaeth
Didwyll i'r llyw da odiaeth,
A rhin wech o'r hyn a wnaeth.

"Dyred," ebe Jael dirion—wrth Barac,
Araith bur heddychlon,
"Gwel, rhoes i, fe glywir son,—lem driniaeth,
Hyd farwolaeth, i lyw dy frau alon. "

Dyna y dydd dedwydd, da,
Siriol, gwnaed bråd Sisera;
A'r hen Jabin, flin ei floedd,
Faedd annwfn, a'i fyddinoedd,
Lurguniwyd, luchiwyd i lawr
Darfu eu rhyfyg dirfawr.


CAN DEBORA A BARAC

Yna Debora anwyl,
A'i hysbryd mewn hyfryd hwyl,
A Barac lân, seirian sant,
Gwiw, nawsaidd, gydganasant
Bur eirioes ber arwyrain,
Nefolgar, gysongar sain;

Eiliasant gân felysawl—soniarus,
A dawn fedrus, i'w Duw anfeidrawl.

Llawenydd uwchllaw anian
A geir yn nhestun y gân;
Sef gwaith y perffaith Dduw pur,
Teyrn ne' fâd, tirion Fodur,
Yn talu'r pwyth i'w ammwythion—craidd,
Draws greulonaidd dreisgar elynion.

"Clywch! O edlin freninoedd,
"Ystyriwch, gwelwch ar g'oedd;
"Chwithau'r trystiog d'wysogion,
"Gwŷr breisg, arswydwch ger bron;
"Duw Tôr, y cadarn Farnydd,
"I'r saint yn gyfnerthwr sydd.

"Myfi, myfi, fy Rhi fawrhaf,
"Gogoniant i'm Duw a ganaf.

"O'r Aifft y dygodd yr Ion—hil Iago,
"Ei olygus weision;
"Ymrwygodd y môr eigion—mewn llwyddiant,
"Hoff rwydd y glàniant o ffordd eu gelynion.

Arglwydd Dduw y duwiau—drwy'r oesoedd
"Dirif ydd ydoedd dy ryfeddodau.

"Deilliodd, pan aethost allan
"O Seir, ddychrynadwy san,
"Rhyw nerthawl, drystiawl farn drom——aruthrawl,
"Dyrfäau swydawl, darfai faes Edom;
"Y gronwech ddaear grynodd—gan flyngfawr
"Drystiawg gni' erfawr drosti cynhyrfodd.


"Y nefoedd eresawl a ddyferasant,
"Cymylau tewion, mawrion ymwriant,
"Diofn iawn weision y defnynasant
"I lawr o'r entrych fawrwych lifeiriant;
"Mynyddoedd uthrawl, oesawl, doddasant
"O flaen Dofydd, i gyflawni difiant
"A'r Sinai hwnw yn eres hwy unant,
"Dieisawr weithredasant—dros burder
"Duw Ior y Gwiwner a'i der ogoniant."

Unodd cenadau'r wiwnef
O blaid anwyliaid y nef.

Fe ddygodd Duw'n fuddugol—y genedl
I'r Ganaan naturiol
Addawodd roi i'w dduwiol
Weision mâd, a'u hâd o'u hol.

Tarianawg mewn tirionwch—y daethant
Trwy deithiau'r anialwch,
Tan unben, hoff lawen fflwch,
Llawn aidd, i dir llonyddwch.

Y ddedwydd wlad dda odiaeth—lifeiriawl
O fawrwych ddarbodaeth,
Rhi y nef ei rhoi a wnaeth
Iddynt yn etifeddiaeth.

Achles mewn tir heddychlawn
Fwynhasant, a llwyddiant llawn;
Ced oesawl, tra cadwasant
Gyfraith lân seirian Duw sant;
Chwyrn eiddig ddychryn oeddynt,
Lawn gwae, i'w holl alon gynt;


Ymledodd ofn teimladwy
Dros y tir drwy'u harswyd hwy:
Ond blyngder a digter du
Droes iddynt am drosedda,
Ingawl ryfeloedd engyrth,
Anhap erch, oedd yn y pyrth;
Dyddfu mewn annedwyddfyd,
Tan gosb, yr oeddynt i gyd.

Hwythau a'u gyddfau yn gaeth—wnaent ruddfan,
Yn dorf egwan a diarfogaeth.

Gwaewffon na glàn darian nid oedd
I weled yn mhlith eu miloedd,
Truenus tan law estroniaid
Hil Iago yn gwywo a gaid.
Eu rhoddi dan geryddon
Am bechu ddarfu Dduw Ion.

Yn lle ffyddlon fyw'n dduwiolion,
Dawel weision, fel dylesynt,
Dewis gwaelion dduwiau meirwon
Yn annoethion yno wnaethynt.

"Gwelwyd hwy'n drwm eu galar—flynyddoedd,
"Fel yn nyddiau Samgar,
"Dan 'winedd dynion anwar—wnai'u drygu,
"Ie 'u bradychu a braw diachar.

"Cwynaw yn fawr eu cyni
"A wnaent yn ein dyddiau ni,
"Cyn i mi godi'n gadarn
"Yn y byd i weini barn.


"Fy nghalon union anwael—sydd addfwyn
"::At syw ddeddfwyr Israel,
"Gwrolion ffyddlon ddiffael—a llonydd,
"O dymher ufydd a diymrafael.

"Rhai sydd enwog farchogion—eres iawn
"Ar asenod gwynion;
"A'r dethawl farnwyr doethion
"Molwch, mawrygwch yr Ion.

"Seiniwch anthem gysonawl
"I Dduw myg sy'n haeddu mawl,
"Na foed ein llwythau'n fudion
"Heb foli ein Rhi'r awr hon.

"Deffro, deffro gyda'r côr, Debora,
"A thithau, Barac, gyda'th iaith bura ';
"Hwylia alawon, cân halaluia
"O groew hyfawl i y gwir Iehofa,
"Sy'n addfwyn rymus noddfa—i'w ffyddlon
"A'i anwyl weision y rhai ni lysa.

"Mawl cyson Duw Ion y wiwnef
"Gawriwn oll hyd gaerau y nef.

"Esmwythyd gawsom weithion—dinystriwyd
"Ein hastrus elynion;
"Cwerylus fleiddiaid creulon
"Ysgubwyd, daflwyd i'r dòn.

"Unodd y Zabuloniaid——wŷr erfai,
"A'r arfog Naphtaliaid,
"Ac o'u tu, heb lysu, 'n blaid
"Hoff rymus fu'r Ephraimiaid.


"Rhifer llwyth Issacer hefyd—hwythau
"A ddaethent yn unfryd,
"Yn gawri llawnfri llonfryd,
"Ymdrechgar, gweithgar i gyd.

"Drwy wych odiaeth ymdrechiadau—enwog
"Wroniaid ein llwythau,
"Ac arfaeth rhagluniaeth glau
"Yn arwedd ein banerau,
"Dw'r a thân diwrthuni
"A'r gwynt a'n cyfnerthynt ni;
"Anian ei hun a wenawdd,
"Yn erfai gweinyddai nawdd."

Gwiwlwys caed buddugoliaeth—ar filain
Ryfelawg genedlaeth;
Ar un dydd i'w rhan y daeth
Du wgus farnedigaeth.

"Yr hen afon hòno'n hawdd
"O'u holl obaith a'n lleibiawdd.


"Llwyr ysgubwyd y llerw weis cibawg
"Gan ffrydiau gwylltion mawrion murmurawg,.
"Trwy wyw ochenaid i'r eigion trochionawg
"Yr afon ffrochwyllt, ferwwyllt lifeiriawg,
"Sef Cison chwyddfawr lwydfawr ddofn leidiawg;
"Fy enaid, oedd ruddfanawg,—adlonwyd,
"A hylwyr ddyrchwyd i hwyl ardderchawg. "

Fe unodd yr elfenau—ymwylltiodd
Y mellt a'r taranau;
Cenadon mawrion Duw mau—a'u dryllient,
Ac ni arbedent hwy na'u cerbydau.


"Y ser o'r uchelderau—yn gedyrn
"A godent fanerau,
"Gan ymladd yn eu graddau—mawreddawg,
Ac uthr odidawg fu'u gweithrediadau.

"Darfu hyder Sisera,
"Wr bostfawr, trystfawr, llawn tra,
"A'i holl ffrostgar, lidgar lu,
"Y gwydlaidd ffyrnig waedlu,
"Eu du ornaidd gadernid
"A fethrais, lleddfais eu llid.
"Minnau mewn per odlau prydlon,
"A mwynaidd baradwysaidd dôn,
"Aberthaf, rhoddaf yn rhwydd
"Fawrglod i enw f'Arglwydd;
"Gwir fawl o ddifrifawl fron
"Arfaethawl a ro'f weithion,
"I'm Hiôr addwyn am roddi
"Ei nawdd a'i gymhorth i ni.

"Ha! Meros ni ymwriodd
"Mewn brawdol ufuddol fodd,
"Trwy iawn chwaeth gyd—daro'n chwyrn
"Rhag rhuthrau'r cadau cedyrn;
"Achreth a chwerw echryn
"A'u gorfydd o herwydd hyn:
"Du afar, eb angel Dofydd,
"Ddaw i'w plith, a throm felldith fydd.

"Moler Jael, wraig ddiffaeledd—wech loewrin,
"Uwchlaw yr holl wragedd;
"Am ei gwaith caed hirfaith hedd
"I'w heinioes yn ei hannedd.


"Ei chlod dros fyth cofnoder
"I'r llwythau hyd seiliau'r ser,
"Darfu gyflawni dirfawr
"Dda orchwyl â'i morthwyl mawr;
"Trywanodd ben terwynwyllt,
"Cigeiddlyd, wr gwaedlyd gwyllt.
"Niwel ei fam annilyth,
"Fygylog, mo'i benglog byth:
"Camsyniodd, ni chafodd chwaith
"Unrhyw fuddugawl anrhaith;
"A'i heres arglwyddesau
"Hunanawl, gwydiawl a gau,
"Er eu sonfawr wers ynfyd,
"Siomiant a gawsant i gyd.
"Eu hir fradawg aufrudiaeth
"Fel y niwl diflanu wnaeth."

Deugain mlynedd o heddwch
Gai'r wlad, heb un trawiad trwch.

"Felly darfyddo'n hollawlm—gelynion
"Y glân Iôr anfeidrawl;
"Ac iddo bo'n dragwyddawl,
"Amen, Amen, emynau mawl."


ELIAS AR BEN CARMEL
1 BREN. xvii. xviii.

Elias yn datgan wrth Ahab am y newyn—Duw yn gorchymyn iddo ymguddio wrth afon Cerith, lle y porthid ef gan gigfrain Duw yn ei anfon ef i Sarepta i gael ei borthi gan wraig weddw yno, yr hon yr estynwyd ei lluniaeth tra parhaodd y newyn, ac y cyfodwyd ei mab o farw i fyw—orchymyn Duw iddo ymddangos i Ahab—Yn cyfarfod ag Obadiah, yr hwn a ddygodd Ahab ac yntau at eu gilgdd—Ei gerydd i Ahab Ei waith yn gwrthbrofi prophwydi Baal yn gyhoeddus, nad Baal, ond Iehofa, ydoedd Arglwydd, trwy ddwyn i lawr dân o'r nef i ysu y poethoffrwm—Lladd prophwydi Baal—Rhagddywedyd am wlaw wrth Ahab, ac yn lwyddo drwy lawer o weddïo.

RHAN I

ELIAS O GILEAD

Oedd wr mawr gan Dduw, Iôr mâd,
A doniol brophwyd uniawn,
Talentog, mygedog iawn.

Dybu'n genadwr diball—at Ahab,
Hurt ehud deyrn cibddall,
Llew engyrth, a llyw anghall
Anhydrin fyddin y fall.

Neud eres genadwri—hydr ieithydd
A draethai heb oedi
I'r penrhydd fradydd di fri,
Draig annwfn, llawn drygioni.

Fel hyn, heb wâd, drwy fâd fodd,
Wyrth didwyll, wrtho d'wedodd,
Mewn gonestrwydd hylwydd heb
Annynol dderbyn wyneb,


"Gwlith na gwlaw ni ddaw'n ddiau—ith oror,
"Faith hirion flynyddau,
"Ond yn ol gwir reolau
"Gair pur y pen Modur mau."

Gadael y cadno gwed'yn
Wnaeth Elias, gwas Duw gwyn,
Gyda ei halogedig
Farbaraidd wraig ddelffaidd ddig.

Galwad fawreddawg eilwaith—a gafodd,
Drwy deg wiwfyg araith,
Gan Dduw Nêr, mewn mwynder maith,
Hoff ammod, i ffoi ymaith.

"Dianc ag ysbryd eon—o'u cyrhaedd,
"Gerllaw Cerith afon,
"Mewn hedd ymguddia 'min hon,
"Cei lonydd rhag gelynion.

"Pur is haul y perais i—'n garedig,
"I'r adar dy borthi;
"Dithau, ŵr coeth dy deithi—yn gyson
"Diau o'r afon y dw'r a yfi."

Cyrhaedd at afon Cerith—a ddarfu,
Lle ca'dd ddirfawr fendith,
Mewn gwlad oedd bell, tan drom felldith,
Ar bob llaw heb na gwlaw na gwlith.

Y cigfrain eorth yno a'i porthodd
Dros ddyddiau meithion, gwiwlon eu gwelodd
A doniau gorfawr yn dwyn o'u gwirfodd,
Bara a chig maethlawn yn gyfiawn gafodd,

Rhin da 'wyllys, y rhai'n a'i diwallodd,
I'r ammod oleu yr ymdawelodd,
Yn ol ei arfer, yn wyl o'i wirfodd
Ei ddwyfol Luniwr mewn hedd foliannodd;
A dir o'r afon y dw'r oer yfodd,
I feddwl uniawn Duw e foddlonodd;
O mor weddus ymroddodd—dros Dduw Iôr,
Grasol eiddigor, gwir sel a ddygodd.

Bu enyd yn byw yno—heb wyneb
I'w boenus lesteirio;
Ac anian fawr yn gwawrio—o'i gwmpas,
A'i gwên addas yn teg weini iddo.
Gwedi hir ysbaid o wres tanbeidiawl,
Yr afon sychodd rhyw fodd rhyfeddawl,
A dirper addas ei dw'r pereiddiawl
A dreuliodd weithian allan yn hollawl,
Yna gerwin engiriawl—olygiad
Gwan ddylanwad a ga'i yn ddilynawl.

A gair Duw Nêr, rwyddber iaith,
Ddoeth alwad, a ddaeth eilwaith
O'r nef at yr eirian wr,
Y da fawrwych adferwr,—

"Cyfod, brysia, cerdd oddiyma
"Draw, a gwylia rhag drwg alon;
"Dos, cartrefa yn Sarepta,
"Na arswyda yn nhir Sidon.

Herwydd siars a roddais i—ar guddoeth
"Wraig weddw dy borthi,
"Rhyfeddol ŵr a fyddi
"Yn nghyntedd ei bannedd hi."


Gwed'yn fe bybyr gododd—y doethwr,
I'w daith y prysurodd;
At Sidon drwy fwynlon fodd,
A iawn obaith wynebodd.

A chyn hir trwy'r crindir cras—daeth ar daith,
Heb rith o weniaith, at borth y ddinas,

A gwelai wraig hylaw, rydd,
Bur rywiog, yn hel briwwydd;
Gofynodd y gwiw fwynwr
I'r wraig fåd ddognad o ddw'r,
"Dwg mewn llestr, cei gofrestr gu,
"Ychydig i'm disychedu."

Ac a hi'n myned, weithred wyl,
I'w gyrchu yn bena' gorchwyl,
Llefodd, fe alwodd eilwaith,
Ar ei hol, ddewisol waith,
A d'wedai'r gwir gredadyn,
Oedd ddidwyll i Dduw a dyn,
"Dwg hefyd, wraig ddiwyd dda,
"Firain, im' ddogn o fara
"Yn dy law yn dawel iawn,
"Y ddoniol weddw uniawn."

Hithau atebai weithion,
A braw yn llenwi ei bron,
"Gwyr Duw Naf na feddaf fi,
"Wr addwyo, ddim i'w roddi;
"Oll yn tŷ yw llonaid dwrn,
"Coelia, o flawd mewn celwrn;
"Ys tan doll, ac mewn 'sten dew,
"Gwelir ychydig olew;

"Gwaelaidd wyf, fel y gweli,
"Heddyw fy swydd yn d'wydd di
"Yw hel dau, wrth oleu dydd,
"O sychion freuon friwwydd;
"Prysuraf, teithiaf i'm tŷ
"Annedd, i bar'toi hyny
"I mi a'm mab arabedd
"Serchiadol, ddewisol wedd,
"Etto i'n hoes bwytawn hyn
"I gyd—byddwn feirw gwed'yn."

Dagrau & geiriau'r wraig wyl
Swynodd Elias anwyl,
A dioed wrthi d'wedodd
Mewn siriawl ufuddawl fodd,


"Dy gyfnerth, paid ag ofni,
"A dy nawdd yw ein Duw ni,
"Gwna'n ol d'air, ddiwair wraig dda,
"Hoff agwedd, na ddiffygia;—

"Cofia wneuthur o'r cyfan—a henwaist,
"A hyny'n bur fuan,
"I mi'n gyntaf, rhwyddaf rhan,
"Wrth f'achos, un dorth fechan.

"Ac wed'yn, yn llawn cudab,
"O'th fodd, gwna i ti a'th fab,
"Dy adail yn lle dedwydd,
"Drwy wyrth Nêr, ar fyrder fydd.
"Yn awr, er dy lesfawr lwydd,
"Erglyw bur air yr Arglwydd,
"Dyma'r modd 'r addawodd ef
"O'r lonwech araul wiwnef,—

"Iôr, ei gu eirioes air a gywira,
"Arglwydd y lluoedd, fythoedd ni fetha,
"Yr olew a'r blawd, iawn ffawd ni pheidia,
"Yn ystor helaeth y bydd, nis treulia,
"Hyd nes dyfydd y dydd da—hyfrydwych,
"Attegawl lewych, etto y gwlawia."

Hi aeth, ac a wnaeth yn ol
Gair dien y gwr duwiol;
Cawsant i gyd mewn cysur,
A mawr rin, ymborthi'n bur,
Drwy radau, gwyrthiau Daw gwyn,
Heb luddias, ysbaid blwyddyn.

Ystor yr olew nis treuliodd—a y blawd
O eu blaen ni phallodd,
Dwys geinwaith, nes disgynodd
Gwlaw graslon drwy ferthlon fodd.

Yno bu'r teulu anwyl
Hir enyd mewn hyfryd hwyl,
Dan fyged nodded y Nef,
A heddwch yn eu haddef.

Ar ol hyn daeth dychryn du
Toliawg, i blith y teulu,
Y mab bychan hoff lân a filar,
A glafychodd o glwyf echur,
Nes yr aeth, ow! saeth yw son,
Mor waelaidd a'r marwolion!
Ei anadl aeth o hono,
Rhyw ergyd trymllyd fu'r tro!
Ei fam, ni wiw mo'r ammhau,
Wnai drwst erch, gan wyw dristâu;


Codi llef a wnaeth hefyd
Yn ei braw ar hyn o bryd,
Ei huchenaid a'i chwynion
Oedd rwygiad a brathiad bron;
Yno mewn chwerwder enaid
Gruddfanu y bu'n ddi baid;
Ei threm oddiwrtho ni throdd,
A diwâd fel hyn d'wedodd,—

"O, ŵr Duw, 'rwy'n cofio'r dydd
"Y daethost fel ymdeithydd,
"A rhydd genadydd y nef,
"Yn hyddestl iawn i'n haddef;
"Da gwn mai ein digoni
"Ar fyd tost a ddarfu ti:
"Ond yn awr, brophwyd mawr a mâd,
"Ofnadwy yw'r cyfnewidiad!
"Dylif o ddybryd alaeth
"I'm hoerion ddwyfron a ddaeth;
Pa irad fai fu'n peri
"Iť ladd fy mab arab i ?
Ha! addien fab, heddyw'n fyw,
"D'wedaf, och fi! nid ydyw!
"Dyddanwch, er dydd ei eni,
"Ow, ow, fy mab! a fu i mi:
"Trwm hiraeth tra anmharol,
"Ow! gwae fi! a gaf o'i ol.
"Fy mab, fy mab, ni chaf mwy
"Dy gyfarch drwy deg ofwy!
"Mae'n swrth yn fy mynwes i
"Yn awr, a'i gnawd yn oeri!
"Fy mab llâd, mad yn mhob modd,
"Drwy ingawl boen a drengodd!


"O na chawn, ddewislawn waith,
"Ei weled yn fyw eilwaith!"

Elias ffyddiawg, selawg, a sylwodd,
Ar ei gruddfanau diau gwrandawodd,
A'i fâd ystyriaeth efe dosturiodd,
Ag araith odidawg wrthi d'wedodd,
I weini arfoll yno o'i wirfodd,
"Moes dy fab dawnus, hoenus, a hunodd."
Hithau i'r byddestl ddoethawr a'i rhoddodd,
Hynt digamwri, yntau'i cymerodd,
I'w 'stafell iachus sawrus prysurodd,
A hynaws wed'yn ei iawn osododd

Ar ei wely, ac yna eiriolodd,
A moesau tyner arno 'mestynodd,
Dair gwaith olynol graddol gorweddodd,
Hefyd ar Dduw fe a daer weddiodd,

A dwys galon wrtho y dysgwyliodd,
O wraidd ei fynwes fe a ruddfanodd,
Am ei adferiad sywfad deisyfodd,
Gwrandawiad prydlon yn gyfion gafodd,

Daw Abra'm a'i dadebrodd,—ei delaid
Graff loew enaid â'i gorff a ail unodd,

Elias â hwyl lawen—fawladwy,
Gofleidiodd y bachgen,
Mewn mwyneidd—dra gyda gwên
Siriolaidd is yr haulwen.

Yna trwy rin yn ddinam,
Fe'i dygodd o'i fodd i'w fam,
Yn ddidwyll iawn, gan dd'wedyd,
Mewn parchus, fawreddus fryd,
"Gwel, siriol wraig lwys arab,
"Byw yw dy gain firain fab;


"I'r Duw mawr, gorseddfawr Sant;
"Ti a'th fab fo'n cydnabod
"Ei fawredd rhyfedd dan rhod,
"Dihafal wyrthiau Dofydd
"Yn destun mawl fythawl fydd."
"Y wraig hawddgar, weithgar, wyl,

Dderbyniai'i hardd fab anwyl
O law yr hen Elias,
Drwy ddwyfol waredol ras;
Llanwyd hi â llawenydd,
Da ffawd, a nerthwyd ei ffydd.
Yn onest d'wedai'n union,
Mewn tymher hwylusber long

"'Nawr gwn dy fod yn wir gènad
"Oddiwrth Dduw Nêr, y Muner mâd,
"Prophwyd mawr dieisiawr wyt,
"A dedwydd ŵr Duw ydwyt;
"A gwir teg ydyw gair tau
"Duw uniawn yn dy enau."


RHAN II

Yn ffraw ar ol dyddiau lawer—daeth
Gair Duw o'r uchelder,
Trwy wiw rin at yr ener
Elias, anwylwas Ner.

"Ti, ŵr glân, seirian, prysura—godi,
"A gadael Sarepta;
"Yn hydr dos, genadwr da,
"Syw, mirain, i Samaria."


"Yno'n hybur wyneba—'r hen Ahab,
"Deyrn ehud—nac ofna
"'R bradychwr, treisiwr llawn tra,
"Satanaidd Palestina.

"Diau ar y ddaear ddu
"Doddfawr, gan wres sy'n dyddfu,
"Eirioes wlith ac eres wlaw
"A roddaf i'w hireiddiaw."

Myned drwy barch wrth archiad—Iehofa,
Yn ddihafal gènad,
A ddarfu'r mwyngu wr mâd,
Teilwng, heb un attaliad.

Niweidiawl drwm newyn ydoedd—bryd hyn,
Er braw tost i filoedd,
Trwy'r holl wlad, a'i daeniad oedd
Yn ysawl mewn dinasoedd.

Elias i Galilea—y dydd
Y deddodd ef gynta ',
Cyfarfu'r dewrgu ŵr da
A'r duwiol Obadïa.

Hwn oedd fâd wir gredadyn,
Yn ofni Duw'n fwy na dyn,
Breiniol benteulu'r brenin,
Meddiannol ar reddfol rin:
Y tirion ŵr ceinlon cu,
Wynebus, a'i hadnabu;
A gwiwferth wedi'i gyfarch
Yn wylaidd, drwy buraidd barch


Syrthiodd o'i lwyrfodd i lawr
Ar ei wyneb eirianwawr,
Ac mewn hawddgar, feiddgar fodd,
Diwawdiaith, wrtho d'wedodd,—

"Onid ti weithion y gwron gwiwras,
"Gloewaidd ei lewyrch, yw f'arglwydd Elias?
"Prophwyd agwrddawl, praff o deg urddas,
"Uthr a diwyrni athraw y deyrnas;
"Am arweddu mor addas—dy gywir
"Glod a daenir drwy bob gwlad a dinas."

Rho'i yntau ar amrantiad
Ateb gwâr, mwyngar a mâd,—

"Myfi, sy'n ffraw rybuddiaw'r byd,
"Ydyw, mal 'rwyt ti yn d'wedyd.
"Dos, gwed i'th glwth, gegrwth gas
"Lywydd, it weld Elias:
"Dos, brysia, mynega'n awr
"I'r bwystfil chwerw a bostfawr,
"Y safaf, deuaf liw dydd,
"O flaen y teyrn aflonydd;
"Fy ngwaith i'r pen orphenaf,
"Derbyn wyneb neb ni wnaf."

Y gwaraidd swyddog eirioes,
Di rith atebiad a roes
Yn ddioedi, gan dd'wedyd,
Mewn moesgar, fireingar fryd,

"Pa bechod mawr, drygsawr drais,
"Eithradwy, a weithredais,

"Pan fyni roddi'th rwyddwas
"Yn nwylaw y cadnaw cas?
"Ei fryd sydd am ddifrodi
"Dy fywyd duwiolfryd di:
"Nid oes llin na breniniaeth
"Is nen, nad dy geisio wnaeth,
"Mewn chwerwder a digter du,
"Diachos, i'th fradychu.
"Ond yn awr, glodfawr ŵr glân,
"A siriol brophwyd seirian,
Wrthyf fi y d'wedi, Dos,
"A dychwel, gan fod achos,
"At Ahab gerth, anferth wr,
"Trahanswyllt, ddybryd dreisiwr,
"Iawn osb, i'w wneud yn hysbys,
"Mewn tymher lwysber ddi lys,
"Heb os yr ymddangosi
"Ger ei fron mewn hygar fri:
"Yr wyf weithion bron mewn braw
"Yn tra isel betrusaw;
"Ofnwyf, pan adawwyfdi,
"Dda awdwr, yn ddioedi
"Ysbryd Ner wna'th gymeryd
"Ar fyrder i bellder byd;
"Yna'n ffrom, os ca'i siomi,
"Y llewaidd wr a'm lladd i.
"Ofni'r uchel Dduw Celi
"Drwy f'oes o'm mebyd 'rwyf fi.
"Gwyddost, f'arglwydd, im'guddio can' prophwyd
"Neud da mynegwyd i ti, mewn ogo',
"Dibaid hefyd eu bwydo—wrth reol,
"Yn eithaf manwl, a wnaethum yno.
"Gonest iddynt yn gweini
"O hyd fy mywyd fum i.


"Yn awr, ai myned a wnaf,
"Neu aros, beth sy'n oraf?
"Gomedd, nid yw'n deg imi,
"Ufuddhau i d'eiriau di;
"Ond pa fodd gwnaf adroddi
"Ger bron yr anraslon ri ?
"Hen adyn creulon ydyw,
"Di barch i waith y Duw byw,
"A gelyn hyf dig'wilydd
"I wir brophwydi'r bur ffydd."

Yn union ar un anadl,
Drwy wir ddysg, i dòri'r ddadl,
Diorn wrth Obadia,
Wr pwyllgar, doethgar, a da,
Heb liwiant, eb Elias
Ysbrydawl, ddewisawl was,—

"Heddyw, cred, dan nodded Naf—yn berffaith
"Ddi wanobaith i'w wydd y wynebaf.
"Tithau, dos ato weithian
"Yn gènad rwydd—gwna dy ran;
"Brysia, ymwria, fy mab,
"Yn eofn o flaen Ahab."

Yna Obadïah'n der
A redodd mewn gwir hyder,
I'w ffraw rybuddiaw yn bur
A'i lwys hyglyw lais eglur.

Ac Ahab, drygfab di ras—a gerddodd
I gwrdd ag Elias,
Gan ofyn, fel cecryn cas,
A dieflig eiriau diflas,—


"On'd ti, i'w gyfri'n un gwael—aflonydd,
"Sy'n hir flino Israel
"Mor hyf? da genyf dy gael
"Yma'n gyfan mewn gafael."

Y dewrwych brophwyd eisioes
Di rith atebiad a roes,
Yn dda odiaeth, gan dd'wedyd,
Heb gabldraith, gweniaith, na gwŷd,
O flaen y sarff,—" Ni flinais i
"Mo'r genedl â mawr gyni,
' Dydi, a thylwyth dy dad,
"Gerwinfeilch gawri anfad,
"Iolwyr, cabolwyr Baalim,
"Un nad yw Dduw, na da i ddim,
"Fu'r achos i frawychiad
"A chyni orlenwi'r wlad;
"Ynfydion ffeilsion gau ffydd
"Eich gwelir gyda'ch gilydd,
"Dylion addolwyr delwau,
"A gâlon meflion Duw mau.

"Gan hyny, dwg yn hoenwych
"Holl Israel, y gwael a'r gwych,
"Y lluon sydd yn llawn sel,
"Bwnc gormwyth, i ben Carmel;
"Hafal gwna gasglu hefyd
"Brophwydi Baal gwamal i gyd;
"Pedwar cant rhifant y rhai'n,
"A dygyrch ddeg a deugain,
"Na âd, mewn modd niweidiol,
"Yr un o honynt ar ol"


Ac Ahab y teyrn cyhoedd—a wysiai'r
Lluosawg fynteioedd
I ben Carmel uchel, oedd
Eresawl gyrchfa'r oesoedd.

Elias dduwiol eofn
A ddaeth, heb gyllaeth nac ofn,
Ger bron, yn hawddgar ei bryd,
A gwên ddidwyll, gan dd'wedyd,
"Pa hyd, rai chwaethlyd, 'rych chwi,
"Cwla effaith, yn cloffi,
"Trwy anfad ymddygiad ddwl,
"A di fudd, rhwng dau feddwl?
"Os Dofydd sy ddieilydd Dduw,
"I'w iawn arddel yn wir—Dduw,
"A breiniawl Bor y wiwnef,
"Araul Iôr, ewch ar ei ol ef;
"Ond os Baal, ar sal seiliau,—tan furmur,
"Orwael antur, ewch ar ei ol yntau."

A geiriau ffraeth ni wnaeth neb
Etto roi iddo ateb.
Yna Elias anwyl,
Wrolwych, mewn harddwych hwyl,
Yn bwyllgar wnai lefaru
Wrth y dorf oedd dan warth du,—

"Dyger dau fustach digoll,
"Heb ' run nam, ger ein bron oll,
"At yr allawr gostfawr gu,
"Heb wrthddadl, i'w haberthu.
"Yn awr caniatâu a wnaf—ar gyhoedd,
"I chwi sy gantoedd, ddewis ŷch gyntaf.

"Gwedyn ar goed yn gudeg
"Gosodwch, darniwch e'n deg;
"Ond na feiddiwch, trwch yw'r tro,
"Roi tân o un rhyw tano;
"Minnau, meddaf, wnaf 'run wedd
"Yn dawel cyn y diwedd.

"Yna'n fflwch gelwch mewn golau—ar enw
"Eich gorweiniaid dduwiau;
"Ac ar Dduw myg, Meddyg mau,
"Fy enaid, galwaf finnau.

"A'r Duw atebo drwy dân
"O'r nef fawr, orawr eirian,
"Hwnw a wna wyrthiau hynod,
"Sy ddilyth Dduw fyth i fod."

Hwythau'n eglur drwy bur barch,
Atebai'r prophwyd hybarch,
Mewn mâd addefiad ddifeth
D'wedai pawb,—"Da ydyw'r peth."

Y bustach addas a gymerasant,
Y pryd dewisawl, ac a'i parotoisant,
Ac ar enw Baal y gerwin ymbiliant,
Yn gâd, am oriau hwy gydymwriant,
Wrth eu duw disas dan warth dywedasant,
"Gwrando arnom heb siomiant—dy weision
"O'u dwys galon o'th flaen y dysgwyliant."
Er bloeddio'n hir heb lwyddiant—dim ateb,
Na iach oseb gan Baalim ni chawsant.

Ar hanner dydd, yr hen ŵr da
Yn gadarn yno a'u gwawdia';

Atynt ei dremynt a drodd,
A diwâd fel hyn d'wedodd,—

"Cydfloeddiwch, gwaeddwch heb gel,
"Parhewch â llais pur uchel;
"Hwyrach ei fod mewn rhyw wych fan
"Meddyddawl yn ymddyddan;
"Neu erlid y mae'n orlawn
"O rwysg, a rhyfyg mawr iawn,
"Neu ei waith yw ymdeithio
"Mewn rhyw estron freinlon fro.


"Gall fod, un hynod, yn huno—dichon
"Bod achos ei ddeffro;
"Chwyrnwyllt grochlefwch arno,
"Duw o ryw fath dir yw fo.


"Daliwch i waeddi a dulio—mewn hwyl,
"Os yw ddaw anwyl, nes ei ddihuno."

Yna'n ddigysur, mewn llafur llefant,
Fel rhyw wallgofiaid a bleiddiaid bloeddiant,
Yn hyll eu moesau yno llamasant,
Dan erchyll loesau'u cnawd archollasant,
A'u gwaed oedd ffrydiawg, ferwawg lifeiriant,
Rhaib ynfydrwydd, rhoi heibio ni fedrant,
Er gwaeddi dan hir goddiant—a chreulon
Floeddiaw'n annoethion, aflwyddo wnaethant.

Bellach, eu gobaith ballodd,
A'u helwch yn dristwch drodd!

Elias hyf, â'i lwys iaith,
A alwodd eu sylw eilwaith,

Gwiwdeg wrth bawb y gwedai,
Er eu bod mor fawr eu bai,—

"Neswch cyn y gwna nosi,
"Oll ar fyr i'r lle 'rwyf fi."
Yn y fan seirian brysuro—a wnaeth
Yn eithaf digyffro,
I gywrain adgyweirio—yn glodfawr,
Y dêr allawr oedd wedi ei dryllio.

Gwedi'i mâd adeiladu—trwy dda ffawd,
Torodd ffos o'i deutu,
Trefnus a gofalus fu—' r gwr duwiol
I goeth fanol wneud y gwaith i fynu.

Drachefn y coed a drefnodd—a'r bustach
Heb air bost a ddarniodd,
Ac a'i sywdeg osododd
Ar y rhai'n drwy firain fodd.

Gorchymyn wed'yn a wnaeth
A'i dd'wediad oedd dda odiaeth,—

"Dygwch mewn sel, y telaid,—wŷr ffodiawg,
"Dri phedwar celyrnaid
"O ddw'r, yn ngwydd gau ddiriaid—gwallgofus,
"A chroes anweddus echrys swynyddiaid.

"Cofiwch dywallt y cyfan—ar y coed,
"Er cael prawf diyngan
"Nad oes gwreichionen o dân,
"Neu dwyll i'w nodi allan."

Yn ol geiriau hoff y prophwyd—difroch
Y dyfroedd dywalltwyd
Yn llynau, nes y llanwyd
Yr holl le gan y dw'r llwyd.

Pan ddaeth yr awr fawr i ferth—ffraw ammor
Offrymu'r hwyr aberth,
Danfon wnai'r prophwyd iawnferth
Weddi gref i'r nef mewn nerth,—

"O Dduw Ner yr uchelderau—Arglwydd,
"Erglyw fy ngweddïau;
"Ateb o'r nef fy llefau,
"Er mwyn dy enw, Iôr mau.

Dyro fâd amlygiadau—o'th 'wyllys,
"A'th allu i wneud gwyrthiau;
"Yn llusern i'r holl oesau,
"Pur o hyd 'rwyt ti'n parhau.

"O Dduw'r hedd, gwrando daer weddi—dy was,
"Duw wyt llawn tostari;
"Ein Tad oll, pwy ond tydi
"A ddylem ei addoli ?

"O Arglwydd yr arglwyddi,
"Ein Tarian wyt a'n Twr ni;
"Dangos heb ball dy allu,
"Er llwyr argyhoeddi'r llu;
"Oddiwrth Baal dychwel bob calon,
"Duw Iôr fy Rhi, o'r dorf fawr hon."

Yna gwrandawiad gwiwfad a gafodd,
Tân melltenawl asgenawl ddisgynodd!

Ba wyrth ddieisawr? Yr aberth ysodd!
Y coed a'r glodfawr allawr a ddrylliodd!
A'r dw'r, oer wlybwr, leibiodd—mewn eiliad,
A phwys ei d'rawiad y ffos o dreiodd!

Yna'r holl dorf ar unwaith,
Wrth weld y fath aruthr waith,
Yn y fan, bron diflanu,
Ar y llawr y syrthiai'r llu.

Drylliawg oeddynt gan drallod—a hagrwyn
Euogrwydd cydwybod;
Diochel farn Duw uchod—a'u daliodd,
A'i lid a'u gwasgodd i le digysgod.

Codent lef tua'r nefoedd,
Gan dd'wedyd i gyd ar g'oedd,
"Duw'r hedd, hawdd gweled heddyw,
"Y da Bôr, yw y Duw byw."
Llyna'r unol dystiolaeth
O'u geneuau'n ddiau ddaeth.
Y dawnus brophwyd uniawn,
Yn bwyllgar, wareiddgar iawn,
I bybyr arwyr eirioes,
Mwyn reddf, gorchymyn a roes,
"Deliwch, ebe'r gwr dilys,
"Gwnewch ruthrawl ddifrifawl frys,
"Anferth brophwydi ynfyd,
"Yr eulun gwrthun i gyd."

Hwythau cyflawni wnaethant
Air treiddiawl y siriawl sant;
Dygwyd, dirfrysiwyd o'r fron
Y llu cas, gerllaw Cison;

Yno pob gradd o naddun
A laddodd, ni ddiangodd un.

Y didwyll brophwyd odiaeth
Ail esgyn wedyn a wnaeth
Yn llawn ffydd, i'r mynydd mawr,
Arwyre uwch yr orawr,
I ddyhewyd weddiaw
Ar Ner am lawnder o wlaw;
Am wlaw mâd, drwy rad yr Ion,
Dysgwyliai à dwys galon.

Tra bu'r ffyddlawn uniawn ŵr
O flaen ei ddwyfol Luniwr,
Yn dwys weddïo'n ddidawl,
A'i ffydd yn anniffoddawl,
Fe ddaeth ei was addas o
I'w gu seirian gysuro;
Ac wrtho'n deg mynega
Fod yn ei wydd arwydd dda,—

"Cwmwl glân bychan heb wâd,
"Fel'llaw gwr,' lliwiog wawriad,
"A welaf yn dyrchafu
"O oror y dyfnfor du. "

"Dos weithion, un eon wyd,
"Pur wiwffel, " ebe'r prophwyd,
"At Ahab, drygfab sydd draw,
"'N orwag iawn ar ei giniaw,
"Fel hyn wrth y gelyn gau,
"Yr awr'on, ar fyr eiriau,
"Yn drefnus, barchus drwy bwyll,
"Y d'wedi mewn modd didwyll,—


"Rhwym yn gain, drwy firain foes,
"Dy araul gerbyd eirioes;
"Na hir aros, dos liw dydd,
"O'r bryniawg fanawg fynydd
"I fro îs, a gwna frysiaw
"Trwy'r glyn, fel na'th rwystro'r gwlaw. "

Y santaidd Elias yntau—'n rymus
A rwymodd ei lwynau;
Hyd serthawg, lithrawg lethrau—prysurodd,
Do, fe redodd yn llawn da fwriadau.

A llaw Duw mâd, Ceidwad cu,
Yn wyrthiawl oedd i'w nerthu;
Y gwr ffel, cry' gorffolaeth,
I Jesreel cyn nos yr aeth.

Yr enyd, a'r awr hono—y nefoedd
Gan nifwl wnai dduo,
Yn ffraw dechreuodd wlawio—a'r tir cras,
A gloyw—wawr addas, gai'i ail ireiddio.


AHAB A JEZEBEL

AHAB, chwibanfab ynfyd—noeth rwygwr,
Wnaeth ddrygan dychrynllyd;
Cofir ei wraig ddrwg hefyd,
Jezebel, tra oes y byd.

Ymwerthu o'u bodd, a 'mroddi—wnaethant,
I wneuthur drygioni;
Merch diafol hudol oedd hi,
A bleiddes heb ail iddi.


Llofruddion chwerwon a chas—iawn oeddynt,
Yn nyddiau Elias;
Teryll fileiniaid diras,
Gorthrechawl, treisiawl eu tras.

Melldigedig, ddieflig ddau,
Chwyddog, a drwg fucheddau.

Hen ormesiaid anniwair eu moesau ,
Tra llewaidd oeddynt trwy eu holl ddyddiau,
Dreigiau anwadal a drwg eu nwydau,
Llawnion o halawg frudiawg fwriadau,
Hwy roddent achles i ddiles ddelwau,
Rhai trawswyrawg, yn rhoi eu trysorau
A mawr ddyhewyd i'w hanmhur dduwiau,
Aur â llawrydd ro'ent ar eu hallorau;
Ah ! ynfydion gweigion gan—gwrthnysig,
Ac halogedig eu golygiadau.

Berwi mewn gwŷn a bariaeth—y byddent,
A baeddu'r freniniaeth,
Gorfodent, gwysient yn gaeth
Iuddewon i audduwiaeth.

Ffromwyllt y gwnaent offrymu—i ddelwau
Eiddilon y fagddu;
Ond gweision cyfion Duw cu
Laddent, yn lle'u coleddu.

Jezebel, tra'n oesi bu—lywyddai
I ladd a gorthrymu,
Gwnai ddig fileinig flaenu
Gyda'r diawl yn gadr o'i du.

Ond Jehu a'i handwyodd—yn union
O'i nenawr disgynodd;
Tua'r hwyr yntau a'i rhodd
Yn safnau'r cwn—nis ofnodd.

Llyfwyd ei gwaed ' rol llefain—gan ddiriaid
Gynddeiriog gwn milain;
Chwalu a rheibio'i chelain
Yn eitha' rhwydd wnaeth y rhai'n.

Dyna ben am dani byth,—ac Ahab,
Coeg ehud deyrn gwarsyth;
Nolwyd y ddau annilyth
Gan safngwn annwn i'w nyth.

Dau oeddynt yn eu dyddiau—â ffyrnig
Uffernol galonau,
Weithion fe'u poenir hwythau
Yn ffwrn boeth hen uffern bau.

I echryn derfyn y daeth—yn boenus,
Bob un o'u hiliogaeth;
Jehu, 'n gawr nerthfawr, a wnaeth
Roi'r rhelyw i farwolaeth.

Da eiriau Duw a wiriwyd—i'r eithaf,
A draethodd y prophwyd;
Tŷ Ahab, anarab nwyd,
Oedd foethus, a ddyfethwyd.

Dylion addolwyr delwau—rai anmhur,
Ga'u rhwymo'n ysgubau,
Bwrir hwy oll i beiriau
Llosgfaol, uffernol ffau.


Arddelwir y gwir dduwiolion—grasol,
Pan groesont yr afon;
Cânt fwynhau, trwy radau'r Ion,
Sywiol drigfanau Sion.

Dygir y gwaredigion—i wynfyd
Y wenfawr nef dirion,
Lle pynciant, lleisiant fawl llon,
I'w Prynwr a'u Pôr union.

Ond llidiawg droellawg drallod—a ddilyn
Addolwyr eulunod,
Diesgus, gynhyrfus nôd,
Ydynt i saethau'r Duwdod.

Pob addurn fedd Pabyddiaeth—â'n ufel
Yn afon marwolaeth;
Daw egwyl poenedigaeth—dra echrys,
I deulu'r chwil-lys a'u dwl or'chwyliaeth.

O! 'r fath ragor ryw forau—a welir
Rhwng duwiolaidd seintiau,
A'r rhai sydd yn rhydd barhau—mor ynfyd
Trwy eu holl fywyd mewn teryll feiau.


FFLANGELL I GENFIGEN

Ah! 'r hen ffyrnig genfigen—llawforwyn
Hyll fariaeth a chynhen;
Yn erch hi ladd ei pherchen—fel gwiber,
Gwae'r rhai a huder dan gŵr ei haden.


Nôd ei hymgais, nid amgen—yw drygu,
Hi wna drafaelu fel neidr felen.
Garw yw'r peth, ond gwir i'r pen—am dani,
Draw gwnai nodi ei drwg yn Eden.
Drygioni ei si a'i sen—a'i dirdra,
Hyll ddeora drwy'r holl ddaearen.

Ffei! 'r hen sarffes, eres wyn,
Furgunaidd, fawr ei gwenwyn,
Archollodd, a'i herchyllwaith,
Do, gannoedd a miloedd maith;
Mewn bâr a chroch gynddaredd,
Mae etto'n clwyfo fel cledd.

Hen ddraig deryll erchyll yw,
Offer nwyd uffern ydyw;
Ennynawl chwa wenwynig,
Nos a dydd yw ei naws dig;
Pob siriol heddychol ddyn,
Gocheled rhag ei cholyn.

Brysied y dydd, ddedwydd awr,
Y derfydd ei rhwysg dirfawr;
Syrthied i'r pwll, mygdwll main,
O'r golwg yn farw gelain;
Yn llidiog ni all wed'yn

Ddrygu na llindagu dyn.
Mynych gwnaed pawb ddymuno
Allais cryf, mai felly fo;
A gyrer pob drwg arall
O'r ddaear i fygfa'r fall;
Brawdol gariad mad, Amen,
Fager yn lle cenfigen.


Y "V FAWR," A "FO FO."

Y Fo, y Fo, meddai V Fawr,—gwed'yn
Dros y terfyn fe geidw drwst dirfawr.
Ni fu fath yr hen V Fawr—ond Phar'o,
A'r adyn Nero, erioed yn un orawr;
A Herod yntau, hwyrach,——teyrn cuchiog,
Ar enw llwynog, oedd o'r un llinach:
Senach'rib, asyn ochrawg—ymffrostlyd,
Oedd gar i'r bawlyd eiddigor boliawg.

Nesa' i Nebuchodonosawr,
Fwya'i fost, yw y V Fawr;
Haera'i fod, trafod di rus,
A hwyl cawr, o hil Cyrus;
Hawlia fawrhydi helaeth,
Uwchlaw Cesar ffrostgar, ffraeth;
Rhyfyg a mawr falchder hefyd
Wnaeth yr hen fab yn Bab y byd;
Ei frawd ynfyd, surllyd sain,
Brefawl, yw'r Pab o Rufain;
Teyrn Awstria, gwestfa pob gwall
Fradwrus, yw ei frawd arall;
A'i ewythr mawr, trystfawr, llawn tra,
Wrth reswm, yw'r Arth o Rwssia;
A'i gefnder, syner wrth son,
Yw Louis Napolëon.

Dyna i chwi, mae'r hen V Fawr,
Gerfyll, o deulu gorfawr;
Ei gred sydd anffaeledig,
Dreng arw bryf, dringa i'r brig;
Herio'n wyllt, a haeru wna
' N frochus, mai fe yw'r ucha'.

Ni fyn V gyfri' yn gall
Un gwron enwog arall,
Llywydd yr eirth a'r llewod
O'u cyrau fyth y câr fod.

Gan V Fawr, gwr gwan yw Fo Fo,—beunydd,
Pwy bynag a fyddo;
Un di barch yn ei dyb o,
Be b'ai'n uthrawl ben athro.

Crochfloeddia, dwrdia bob dydd,—
chwi wyddoch
Ei eiddig leferydd,
Pw, pw, Fo! pa hap a fydd
Fyth fythoedd i'r fath fethydd?

Ha! 'r V Fawr, wrth hir fyfyrio—tybia
Nad oes tebyg iddo;
A llechweddawg hyll chwyddo
Bydd V Fawr—baedda Fo Fo.

Mae'n fforchog d'wysog dieisiawr—nwydwyllt,
A beirniedydd rhwysgfawr;
Gwared ni rhag i V Fawr
Weryru yn yr orawr.

Fo Fo, nid all у V Fawr—mo'i aros,
Ymwria fel blaenawr,
Myn V fod yn deyrn clodfawr,
Fo'n un gwael, a V'n hen gawr.

Mewn mawr fri mae V am fod—yn eres
Ben arwr anorfod;
Rhaid i Fo gilio i'w gôd,
O'r golwg tua'r gwaelod.


Rho'wch osteg freindeg heb fraw,
Frython, i V areithiaw,
Cewch araith, prifwaith bob rhan
O honi, medd e'i hunan;
Brougham goeth, arab ddoethawr,
Beth wyt ti wrth y V Fawr?
Dy araith sydd fel dyri
Benrhydd, wrth leferydd V!
Tertulus gampus o'i go'
Oedd erthyl gwaelaidd wrtho!

V Fawr yn swnfawr iawn sydd—ond hwyrach
Nad hir y caiff lonydd;
Dranoeth, neu bore drenydd,
V Fawr dan draed y Fo fydd.

Hai, V Fawr, a hwi, Fo Fo,—bydd ddewrwych,
Bydd arwr diflino;
Cyn pen hir, trefnir i'th dro
Pwy atteg na V etto.

Ow, V Fawr, na ddawr ei ddewrach—neithwyr
Ddynoethwyd fel bwbach;
V ballodd,—y Fo bellach
Fo'n gawr byth, a V'n gòr bach.

Wel, V Fawr, er mor wael Fo Fo—gwybydd
Fod gobaith mai gwawrio
Wna y dydd i'w newid o,
Grwtyn, yn brif gawr etto.

Rhaid i Fo gofio byw'n gall—heb chwennych
Bychanu neb arall,
A da weithgar ddyn doethgall,
A Fo Fo'n lle y V fall.


Boed i chwi, y V a Fo—ochelyd
Tawch halawg ymffrostio,
Gostyngeiddrwydd wna lwyddo,
Hyn yn flwch cedwch mewn co'.

Gwelwch fod achos gwylio—bob enyd
Heb unwaith falchïo,
Rhag ofn mai digrif brifio
Yn V Fawr a wna Fo Fo.

Y dynion mwya'u doniau—ís y rhod,
Nid oes 'run heb frychau;
Pa ryw ddyn, sy'n bryfyn brau,
Bendodir heb wendidau.

Na bo neb heb iawn wybody cyfwng
Lle cafodd ei osod,
Byw'n llonydd beunydd a bod,
Mwyn fodd-der, mewn ufudd—dod.

Ac hefyd, dylid cofio—mai i'r pridd
Mae pob rhai yn brysio;
V Fawr, 'run fath a Fo Fo,
Unir yn gydradd yno.


Y CYBYDD

NYDDAF, os ydyw'n addas,
Awdl newydd i'r Cybydd cas,
Gwylaidd gwnaf ddwyn i'r golwg
Rai degau o'i droiau drwg.


G'ronwy, â'i ffraeth gywreiniawl—gu awen,
Wnaeth gywydd duchanawl
I'r crinwasdiras, a'r diawl,
Hen ffyrnig deyrn uffernawl.

Eu dull osodai allan—a'u dichell
Fradychus yn mhobman,
A'u dieflig nwydau aflan
Llawn twyll, yn nghanol llyn tân.

Minnau, fel gwael rimynwr,—hyn wnaethum
I ddynoethi cyflwr,
Crwba ddulwnc cribddeiliwr,
Drygionus, drawswarthus ŵr.

Prin gwnaf fi henwi hanner—y drygau
Wna'r dreigydd ysgeler;
Pa gyfrifydd sydd dan ser
Y nefoedd, ŵyr eu nifer?

Twyllwr treisgar, ysglyfaethgar,
O dyb anwar, ydyw beunydd,
Adyn siomgar, fel twrch daear,
Nwyd anwiwgar, nid enwogydd.

Hylldremia, brydia mewn brad—fel llwynog
Fo'n llawn o ddichellfrad;
Rhyw wancus, farus fwriad,
Ganddo sydd beunydd heb wad.

Lefain malais, trais aeth trwy—ei fenydd,
A'i fynwes lygradwy;
Chwyrn uda'n ddychrynadwy,
Moes! moes! moes! mae eisieu mwy!


Mal adyn gwna ymledu—am chwaneg,
Mae'n chwennych pentyru,
A'r cwbl a ball ddiwallu
'R bawaidd dwrch mwy na'r bedd du.

Dygn yw ei wanc, digon ni wel—llunia
Gynllwynion yn ddirgel,
Mae'n llew du y man lle del,
Annichon bron ei ochel.

Ah! 'r cuchiog gibog gybydd—haiarnaidd,
Pwy ddirnad ei awydd?
Rheibio, cribinio beunydd
'Run sut a'r barcut y bydd.

Taeraidd orthrymwr teryll—echrydus,
A chreadur erchyll;
Surfalch gribddeiliwr serfyll
Yw'r gwanciwr a'r rheibiwr hyll.

Rheibiwr, a lleibiwr enllibus—meusydd,
Gormeswr trachwantus;
Bywioliaeth dyn helbulus
Ddinystria'r epa'n ddi rus.

Gwae'r hwn sydd, gerwin swyddau,—'n cydio maes
Gyda mawr drachwantau,
Nes bo'r gwan heb drigfanau
O waith yr hyll gipyll gau.

Rheibia, yspeilia, nis paid—faedd annw'n,
Feddiannau trueiniaid;
Gwena pan welo'r gweiniaid
Dan dristwch mewn llwch a llaid.


Brwnt a chïaidd lechwraidd chweru,
Mal arth rhwymog, am le i orthrymu,
Un adeg fyth ni edu—y twyllwr,
Gwrthgryf wingwr, heb gerth grafangu.

Och! ddyn cas, gwrthgas o'i go'—cuwch olwg,
Gocheled pawb rhagddo;
Mae fel blaidd bustlaidd lle bo,
Am rywbeth yn ymreibio.

Ar gam y casgla famon—hyll ferwa
Holl fwriad ei galon,
Fel Suddas, ys addas son,
Am aur i'w godau mawrion.

Dyna i chwi'n gyffredinol—ryw draian
O'i droiau uffernol;
Mae'n bod etto'n benodol
Ugeiniau rai, gwn, ar ol.

Chwithau, os mynwch weithion—gewch enwi
Chwaneg o ddichellion
Y llwynog afrywiog fron,
Gwegilawg, drwg ei galon.


EGLWYSI RHUFAIN A LLOEGR.
YMDRECHFA RHWNG Y FAM A'R FERCH YN 1851.

TWRW mawr hyd dir a moroedd—sy weithion,
Torsytha llaweroedd;
Mae brwydr anferth gerth ar g'oedd—bron dechrau,
A hwylio heb ddoniau i hel byddinoedd.


Oes yn wir, mae rhyw swn erch—yr awr'on,
Llwyr oerodd y traserch,
Erlynir brwydr ar lanerch
Rhwng y gorngam fam a'r ferch.

Ni wyddai pawb cyn heddyw
Fod y grog famog yn fyw.
Byw etto, ' sywaeth, yw y butain,
Er hyll ryfel fu drwy holl Rufain;
A byw'r ferch, nid yn bur fain——ond helaeth,
A mawr odiaeth ei rhwysg yn Mrydain.

Gwelai'r fam yn ddiammau—hi'n pesgi
Ar y pysg a'r torthau,
Teimlai'n chwith na chai hithau
Ei rhan o'i hen burlau bau.

Gwaeddodd yn eiddigeddus—bod ei merch
Mewn byd mwyn a hapus,
Hithau'n hen ac anghenus,
Heb wiw rad, yn byw ar ûs.

Fe ymrwyfodd yr hen fam o Rufain
Fel arthes wancus fradus i Frydain,
Hi reibia frasder a llawnder Llundain,
Rhed i ochel dan gochlau Rhydychain,
Caiff le'n Nghaerfredydd rhwng caerydd cywrain,
A bwyd melus gan yr abad milain;
Llu allai 'nabod, a'r lleill yn ubain,
Aed i'r mwlwg o'n golwg yn gelain;
Daeth hyd Gymru i lyfu, dan lefain,
Ca rai, hwyrach, yn mhob cwr i'w harwain;
Caiff restr yn swydd Gallestr gain—a Bangor,
Drysau wna agor gan dros naw ugain.


Mae rhyw Fieldings, y rhai mawr eu ffolder,
Yn troi wynebau at yr hen wiber,
Gan godi swynawl ddifwynawl faner
Y butain hudawl, a byw tan hyder
Cael nef drwy'r coelion ofer—peth hynod!
Safnau y llewod nis ofna llawer!

Gwel di, ferch, gwylia dy fod—yn magu
Dirmygus Suddasod,
I'th werthu'n llwyr a'th wrthod—fel caethes,
Yn drist druanes, drahausdra hynod.

Cyfod i drafod y drin—ryfygus,
Arfoga dy fyddin,
Dod ergyd c'oedd (cwyd floedd flin )
Marwol i'th hen fam erwin.


Yr arfau i'w llwyr orfod
Yn nerthawl, fythawl, raid fod,
Nid cledd gwarthus, bregus, brau,
Byd agwrdd, na bidogau,
Nid cloion y cyffion cau,
Ffriw wallus, na ffrewyllau,
Nac anfad fygythiad gaeth,
Du wgus erlidigaeth,
Ond doeth bur goeth bregethiad
Efengyl hedd, ferthedd, fầd.
Dyna yr eirf dianaf


Da'n wir, a drefnodd Duw Naf;
Pob rhyfyg, Pabau Rhufain,
Orchfygi'nrhesi â'r rhai'n.


Dinystria, baedda Babyddiaeth—chwerwwedd,
A'i rhwth chwaer y Piwsiaeth,

Gwna ol'dy arswydol saeth
Ar ymenydd Mormoniaeth.

'Siga siol eulunaddoliaeth—aflan,
Cau weflau paganiaeth,
Tyna Fahometaniaeth—llawn dirdra,
I'r llawr, a chwala'r hell or'chwyliaeth.

Wed'yn, prysura'n ddioedi—adref,
I edrych o ddifri
Oes gwallau'n bod i'w nodi
Yn ffurfiau dy demlau di.

Ac os oes, mae'n bryd casâu
Pob rhithiawl ddreigiawl ddrygau.

Diwygia, bydd fyw'n gym'dogawl—rwyddwych,
Ar roddion gwirfoddawl,
Hyn-a-hyn, heb honi hawl,—trwy orthrwm,
I doll a degwm, mewn dull daeogawl.

Santeiddiach, burach bob awr—bo'r Eglwys,
Heb beryglon dirfawr,
Yn addfwyn a chynnyddfawr,
Mewn hedd ac amynedd mawr.

RICHARD COBDEN, YSW., A.S.

COBDEN sy'n addien Seneddwr—gonest,
Ac uniawn ddiwygiwr,
Dewr addas ymadroddwr,
Pwyllawg a mygedawg wr.


Llygaid rhai cibddeill egyr—ŵr ethol,
A'i areithiau pybyr,
Dwg i'r fagl yn deg ar fyr
Y dallaidd ddiffyndollwyr.

Dengys fawr ddybryd ingau—y gwerin
Dan enguriawl feichiau,
A ffordd hawdd i'w hoff ryddhau
O'u gorthrymus gerth rwymau.

Llawnion yw ei holl gynlluniau—gwiwdeg,
O gedyrn resymau,
Mewn gwawl rhwydd mae'n eglurhau
Dirwgus wraidd y drygan.


Hyrddia waith, trawswaith treisiol—gau lysoedd
Yr Eglwysi Gwladol,
A gwallau certh anferthol
Eu deddfau a'u ffurfiau ffol.


Da iawn waith yw dynoethi—afreidiawl
Ddifrodwyr y trethi,
Gwyr sydd mewn segur swyddi,
Warth cas, nad ydynt werth ci.

Dilesg, heb anwadalu,— y dalio
I deilwng barablu;
Coded i'w ferth gyfnerthu
Bob tref a gwlad, yn gâd gu.

Pob enaid, pawb a uno,—i syber
Ddeisebu'n ddiflino,
A dawn fawr COBDEN a fo—a'i berffaith
Hyglyw araith ger bron i'w hegluro.


BRIGHT a HUME yn bert o hyd,—ac eraill
Sy'n gawri rhyddfreinfryd,
O wir foddawl arfeddyd
Lleisiaw b'ont er lles y byd.


Eu bloedd fo'n argyhoeddiad—i'n Senedd,
Nes ynnill diwygiad
Yn y llys, a fo'n wellhad
I'r gwerin drwy wir gariad.

Dryllier, dattoder tidau—haiarnaidd
Hirnos gorthrymderau,
Gwan a chryf fo'n hyf fwynhau
Yn dirion eu hiawnderau.


Yn lle unrhyw hyll annhrefn,
Gwallau trais, gwneler gwell trefn;
Gwir heddwch a gyrhaeddo
Tros y byd—hir oesi bo,
Llyna gyfun ddymuniad
Pob Cristion mwynlon a mâd.

I'n hanwyl ddoeth Frenines—boed hir oes,
A byd rhwydd diormes,
A'i gwr eirian, gwâr, eres,
A'i phlant, bob llwyddiant a lles.


ANERCHIAD I'R DYSGEDYDD
AR DDECHREUAD EI 29 OED

HANBYCH, y dewrwych dirion—DDYSGEDYDD,
Addas gadarn foddion
Gwybodaeth helaeth wiwlon
I'r Cymry, 'rhai sy'r oes hon.


Gwnaethost eres les i'r wlad,—rhaid addef,
Er dydd dy gychwyniad,
Daionus fu lledaeniad
Dy odiaeth athrawiaeth rad.


Ymwriaist, Athraw mirain,—mel enau,
Wyth mlynedd ar ugain,
A'th gu eirioes iaith gywrain
I ddysgu drwy Gymru gain.


Dysgaist, goleuaist luoedd—a rhoddaist
Wir addysg i filoedd
O ddyliaid, mal deilliaid oedd,
Rai diles, mewn ardaloedd.,


Aml ergyd surllyd a sen,—a gefaist
O geufol cenfigen;
Amcanodd rhai mewn cynhen,
A llid balch, eillio dy ben.


Llwyr gilwg llawer gelyn—gwywedig,
A gododd i'th erbyn,
Teg awdwr wyt ti gwed'yn,
Heb un briw, ar ben y bryn.


Llafuriaist, daliaist dy dir,—yn wrol,
Fanerawg a chywir,
Di orn goeth darian y gwir,
Cain foddawg, y'th ganfyddir.

Di yraist drwy rym dy eiriau—ymaith
A'mhur draddodiadau;
Ffodd rhagot ffiaidd ddrygau
Hen ddych'mygion gweigion gau.


Dy eiriau nerthol, rhyfeddol foddion,
Gwiwrwydd eu tremynt, megys gyrdd trymion,
A chwilfriwiasant yn wachul friwsion
Wag dybiau anferth a dinerth dynion,
Gwnaethost rai drwg annoethion—yn glodwych
War ddwysgu degwych wir ddysgedigion.

Dos rhagod, cei fod yn fawr—ac enwog,
Dy gynnydd fo'n ddirfawr,
Da gweddai dy egwyddawr
Gael lle'n holl gonglau y llawr.

O hyn allan yn hollawl—llafuria
A lleferydd nerthawl;
Dy arwyddair fo'n dreiddiawl
Rhyddid i'r byd, hyfryd hawl.

Dynion yn gyffredinawl—fo er gwell,
Heb enw o ddichell, yn byw'n heddychawl:
I Dduw'r hedd sydd wir haeddawl—o foliant,
Trwy wiwgu weddiant, boed clod tragwyddawl.

MYFYRDOD Y BARDD
YN EI 70 MLWYDD OED, 1850

DYGYFOR mae adgofion—olynol,
Lonaid fy meddylion,
Mal dw'r yn taflu aml dòn
Frigog, o'r dyfnfor eigion.

Para i redeg rai prydiau—'n ormodol,
Wna'r mud fyfyrdodau,
Mor bell a thymhor borau
Ieuenctyd a mebyd mau.


Golygaf, cadwaf mewn co '—y mirain
Dymhorau aeth heibio;
Ffur yw'r drych, a phair ar dro
Wneud i f'awen adfywio.

Ond agwedd enwedigol—y meddwl
Yw moddus arganmol
Lluosawg freintiau llesol
Ge's fwynâu flynyddau'n ol.

'Rwy'n cofio y ter amserau—dyddan,
A'r dedwyddawl oriau,
Cerddem yn nghyd i'r cyrddau—eglwysig,
Yn dorf unedig, dirfion eneidiau.

Llewychus gyfeillachau—yn gydwedd,
A gadwem am oriau;
Caem gyd yn hyfryd fwynhau
Da wyneb Duw a'i wenau.

Ymddyddan mewn modd addas—y byddem,
Er budd i'r Gymdeithas,
Am gyfoeth hardd—ddoeth urddas
Tragwyddawl, waredawl ras.


Ein llon ddybenion beunydd—oedd esgud
Addysgu ein gilydd,
Gweini er dwyn ar gynnydd,
Hoff waith, y gwan yn y ffydd.

Son am groes a mawr loesau—ein Iesu,
A'i aneisor glwyfau,
Oedd wledd werthfawr, glodfawr, glau,
Hynodawl, i'n heneidiau.


'Rwy' weithion yn hiraethu—gan fynych
Gwynfanus alaru;
Deolwyd yr hen dealu
Ar wasgar i'r ddaear ddu.


Hen ddifyr frodyr iawnfryd—wych arwyr,
A chwiorydd hefyd,
Gorwedd mae'n awr mewn gweryd
Eu breuon gyrff bron i gyd.


Dyddiawl, nosweithiawl nesâu—mae oerddig
A mawrddwys awr angau,
A'r funyd y rho'ir finnau
I orwedd mewn cuddfedd cau.

Er rhoi tadau a hen famau
Yn eu beddau, hyn wybyddir,
Ie'nctyd ddegau'n llenwi'r bylchau,
Wiwgain foddau, a ganfyddir.

Meibion mâd yn lle'r tadau—a'r merched
Yn lle'r parchus famau,
A morwynion mawr rinau
Yn nheml Iôr sydd yn amlhau.


Duw Ion, yr union Arweinydd—digoll,
A'u dygo ar gynnydd,
Mewn gwastad gariad gwiwrydd,
A gobaith, a pherffaith ffydd.


PRIODAS H. J. REVELEY, YSW.,
BRYNYGWIN, DOLGELLAU

HENFFYCH hoff ddydd rhydd i'w fawrhau—Wawriodd
Ar oror Dolgellau;
Gwenawl y ceir ugeiniau
A llon hwyl yn llawenhan.

Wele iawn achos i lawenychu,
Heddyw priodwyd, gwaith hawdd yw prydu,
Hugh Reveley, Yswain, a'i fungain fwyngu,
Ein beirdd hyfedrus wnan' beraidd fydru
Eu priodasgerdd, felusgerdd lwysgu,
A mil a unant i ymlawenu,
Gan weddaidd deg weinyddu—yn barchus,
Ar duedd ddawnus, er eu dyddanu.

Clych ein gorawr, gan erfawr gynhyrfu,
Clir ddiattal eu clywir o ddeutu,
Rhai yn prysur hoff eglur fonffaglu,

Rhyw amgen olwg, a rhai'n magnelu,
Eraill yn talgryf, loewgryf gyflegru,
Pawb ar dda fwriad i'w pybyr ddifyru,
Pob anrhydedd ceinwedd cu—ymdrechid
Roi fel y dylid i REVELEY a'i deulu.

Ein corau gwiwnod sy'n cywir ganu
Alawon llafar, seingar, cysongu,
O wraidd eu mynwes, gan rydd emynu,
Llwyr ymroddant oll er mawreddu
Y ddau anwyliaid, yn addien hoywlu,
Dewis hefyd y maent, a deisyfu
I'w hil ddaionus dan hylwydd wenu,

Fwyneiddiawl gyfanneddu—mewn tangnef,
Yn Mrynygwin haddef, a mawr gynhyddu.

Dedwyddwch hyd eu dyddiau—a gaffont,
Heb gyffwrdd â drygau;
Boed hir oes ddiloes i'r ddau,
A'u hil yn fyrdd o'u holau.

Gwedi hir oesi'n rasawl—a gorfod
Eu gyrfa ddaearawl,
Duw mad i goethwlad y gwawl
A'u dygo'n gadwedigawl.

YSGOL FRUTANAIDD DOLGELLAU

HAWDDAMAWR glodfawr ddydd glân—a gorwych,
Sy'n gwawrio mor seirian,
Digolliant y dwg allan
Fâd wych les i'r holl fyd achlan.

Gwawl araul, bri gloew euraidd—eresgoeth,
Yr Ysgol Frutanaidd,
A welir yn rheolaidd ardderchog,
Yw ei dull enwog, da, a dillynaidd.

Wele ddwys godiad i hylaw ddysgeidiaeth
Bair uthr iawn oddeg i bur athronyddiaeth,
A da arwyddair o da daearyddiaeth,
Ar hynt eirioes, a llwyddfawr ei hanturiaeth,
Hi fyn aur dilyn o hen fwnau'r dalaeth,
A rhiaidd iawn wed'yn y rhydd hi'n odiaeth
Gampus gyf'rwyddyd o gwmpas gwefryddiaeth;
Gwersi a rodda i garwyr seryddiaeth;

Dybla fawr arwedd ar dablau'r forwriaeth;
Dwg uniawn addysg i deg anianyddiaeth;
Hael a rhyfeddol mae'n hwylio rhifyddiaeth;
Dawn ei dull dirion sy'n dwyn dealldwriaeth
Goleu, heb oedi, i'r gwaela'i wybodaeth;
Holl waith rhinweddol trefn llythyrenyddiaeth
A gaiff ei dyru i wiw goffadwriaeth;
Heb un trawsarglwyddawl fydawl orfodaeth,
Yn rhwydd i dylodion y rhydd adeiladaeth,
A manwl edrych y mae am iawn lywodraeth,
A'i gwiwrwydd fawr ragoriaeth—yw trefniad,
Dwysgu ymroad ei dysg a'i hamrywiaeth.
Chwilia drwy'i holl or'chwyliaeth—am drwydded
A ddaw a nodded i dduwinyddiaeth.

Myn allan burlan berlau—lluosawg,
Llesiant celfyddydau;
Trwy ddawn glir treiddia yn glau
Hyd eithaf gwybodaethau.

Rhyw gannoedd o rai gweiniaid—addurna'n
Ddiornaidd Newtoniaid;
Eres hwylia rai'n Herscheliaid,
Hynod oleu, a Handeliaid,
Pan daw eraill yn Pindariaid,
Enwog rywiau, o'n gwrrywiaid;
E geir degau'n Garadogiaid,
Wiwgu ddynion, a Gwuddoniaid
Eitha' doniol, a Thydainiaid
Da fanylwys, a Dyfnwaliaid,
Rhai wyth iawnach na'r Atheniaid,
A chlir hoffder uwchlaw'r Aifftiaid,
Synu wna'r holl Saesoniaid—at ffaethlon
Deithi mawrion y doeth Omeriaid.


O mor enwog fydd gweis a morwynion
Dan wir ddylanwad rhwyddlad rhïeiddlon
Mêr y ddysgeidiaeth, mawreddus gedion,
Cywir feddyliawl a theg grefyddolion,
Eu hagwedd eirioes a'u hegwyddorion
A'u dwg i gynnydd yn deg ac union;
Byw yn addas wnant megys boneddion
Astud a phwyllawg, selawg foesolion;
Pawb a wir gara eu pybyr ragorion,
Gorwiw a fyddant, a gwir ufuddion;
Gwylaidd, a phur o galon—ymddygant,
Difyr efrydant mewn da fwriadon.

I'r olwg daw llawer Elen—foesawl,
A f'asai dan niwlen,
Pe heb gynnar weithgar wên
Da reolau dysg drylen.

Rhoi enaint ar ben rhïanod,—gwelir,
Mae'r ysgolion uchod;
Daw enwau aml rai dinod
Mor glir, nes ennill mawr glod.

Dygir llenorion gwiwlon i'r golau,
Heirdd weis dinam eu hurddas a'u doniau,
A beirddion treiddiawl gwreiddiawl mewn graddau
Mirain, gweinyddfad, mawrion gynneddfau,
Ac o rïanod cywir eu rhinau,
Llon ddewisiad, y gwneir llenyddesau;
A mynir o domenau—pob goror,
Fyrdd o aneisor deg farddonesau.

Hoff ethol dda effeithiau—gwir addysg,
A wreiddio'n mhob parthau,

Llenorion llawn o eiriau
Miwail a heirdd fo'n amlhau.


Nid arian a wna awduriaid—enwog,
Yn llawn doniau telaid,
Ond dysg a synwyr llwyr o'r llaid,
Ar unwaith, gwyd wroniaid.

Eirian frodyr o'r un fwriadau,
Ac aml chwaer ddiell sy'n Nolgellau,
Yn enwog deuwn ninnau—wrth bybyr,,
Barhau'n noddwyr i bob rhinweddau.

Blagured, llwydded yn llawn—dan ofal
Dynion ufudd ffyddlawn,
Cynnydd ei haddysg uniawn
Yn fwy'r el—ie'n fawr iawn.


Goresgyn ein gwir ysgol—o'i rhyddid,
A'i rhoddion gwirfoddol,
Ni ddichon ffeilsion rai ffol,
Cynhenus, coeg, hunanol.


Y doniawl uthrawl Athro,—erősawl,
Hir oesi a gaffo;
A'i barch cyfateb y bo,
Dan wiwlwydd, i'r da wnelo.

Ei swydd ferth barchus a fo
Yn addurn fawr iawn iddo,
Llafurio byddo bob awr
Yn addfwyn a chynnyddfawr.


MERCHED IEUAINC DOLGELLAU.

Canmoliaeth iddynt am eu hymdrechion llwyddiannus
i werthu tocynnau er cynnorthwy arianol i'r Ysgol flaenorol.

RHINWEDD gwaith da rhïanod—a urddodd
Ein harddwych gyfarfod,
Cannoedd o fàn docynod
Werthasant, rhyglyddant glod.


Aethon ' yn heirddion mewn hwyl—gu wempawg
O gwmpas eu gorchwyl,
Yn drefnus, gweddus, a gwyl,
Ar unwaith, do, rai anwyl.


Gonest fuont heb gynen—na phoethwyllt
Effeithiau cenfigen,
Mal un corff, nes llwyr orphen
Yn goeth bur eu gwaith i ben.


Gwelwyd eu bod o galon—yn meddwl
Am addysg i'r tlodion,
A rhoi'r ysgol haeddol hon
Uwch eraill dan ei choron.


Haeddent gael clod cyhoeddus—ac hefyd
Eu cyfarch yn barchus,
Hawdd iawn yr ân' hwy'n ddi rus,
Gwyddom, at bob gwaith gweddus.

Effeithiau doniau rhyw deg—yn nerthol
Wnan ' wyrthiau heb attreg;

A gwir chwaeth eu geiriau chweg
Agorant galon gàreg.

Gwae'r dynion geir i'w denu—â bwriad
Wiberaidd o'u llygru;
Cyrcher i delm carchar du
Y gwylliaid i'w flangellu.


MARWNAD EVAN JAMES,
(IEUAN AP IAGO)

Bardd o Lanfachreth, swydd Feirion, yr hwn a ymadawodd â'r fuchedd hon Medi 18fed, 1804.

GALAR o bryd bwygilydd—a chroesau,
Echrysawl ystormydd,
Rhyw chwerw boen a chur beunydd
Dwys iawn, i'm gorfodi sydd.


Angau, gawr nerthfawr ei nôd—gyrhaeddiff
Bob graddau i'r beddrod,
Gorfydd ei finiawg arfod
Bob dyn ar hynt, bawb dan rhod.

Dygodd fy ngharedigol—wir gyfaill,
Wr gwiwfwyn crefyddol,
Minnau gaf ofid mewnol
Mawr iawn yma ar ei ol.


Mewn hiraeth trwmgaeth bob tro rwy'n myfyr
Am Ifan ap Iago;
Wyf yn brudd o'iddwfn briddo
Mewn main rych yn min man ro.


Torrwyd fy athraw tirion—abl ieithydd,
O blith daearolion
I'r dugaeth feddrod eigion,
Mydr frawd, lle madra ei fron.

Gŵr awenyddawl, myg ei rinweddau,
Digam ei rodiad, da'i gymeriadau,
Llon urddunawl ŵr, llawn o wir ddoniau,
Dethol ydoedd, a doeth ei ddaliadau,
Gwiw nodawl rydd ganiadau—a brydodd,
Fe gywir eiliodd rif o garolau.

Braw dygn i'w briod wiwgar,—dda, gallwych,
Oedd golli hardd gydmar,
Egr wyla ddeigr o alar,
Ffrwd gerth, am ei phriod gwâr.

Minnau a briwiau i'm bron—fy hunan,
Wyf hynod ddigalon,
Am guddio'm mrawd, llestrgwawd llon,
Mawrwych, yn mhlith y meirwon.


COFFADWRIAETH J. WILLIAMS,
DOLGELLAU

Hen Fardd dysgedig, a Pheroriaethydd cyfarwydd,
yr hwn a hunodd Mawrth 11eg, 1821.

Och! mor frau yw dyddiau dyn!
Fel diwyrth wael flodeuyn!
Bèr iawn yw pybyr einioes,
Bèrach ydyw afiach oes;

O ethryb angau athrist,
Pob cnawd sydd mewn trallawd trist!


Chwerw glwy' a mwyfwy myfyr—yn Meirion,
Oedd marw SION RHAGFYR,
Bardd doniawg, serchawg, dan sŷr,
A dyfal athraw difyr.


Dyddanus, fedrus fydrydd—iach ydoedd,
A chadarn gywreinydd,
Pur eithaf peroriaethydd,
Tra bo gwawl ei fawl a fydd.

Mesurau, tônau tyner—a luniodd,
I loni plant Gomer;
Astud fu drwy ystod fèr
(Was hybarch ) ei oes wiwber.


Ei enw a'i barch yn y byd—a erys,
A'i arogl yn hyfryd;
Ei hyfawl gerddi hefyd,
Ar g'oedd, a berchir i gyd.

Gwiwfyg ofydd, pêr ganiedydd,
A dyddanydd mâd ei ddoniau;
Odiaeth wawdydd doeth a chelfydd,
Cysoniedydd cu syniadau.
Mal athrawydd, lles a defnydd
Oedd ei gynnydd i ugeiniau,
Mal perorydd, dyry beunydd
Fawr ddywenydd i fyrddiynau.

Gwr duwiolfrydig, miwsig gymhwysodd,
Addien glerwr, ei ddoniau eglurodd,

Odlau plethedig, puredig, prydodd,
Dwys aberthwr, ei hoff waith dosbarthodd,
Y gwiwfad dalentau gafodd—bob rhyw,
Mae yn iach heddyw—mi wn na chuddiodd.


GALAR sy'n mysg trigolion—llawenaf,
Holl ynys Iwerddon,
Daniel, prif lyw eu dynion,
Gollasant, synant wrth son.

Daniel oedd berchen doniau—a chedyrn
Wych odiaeth gynheddfau,
Rhyddhawr cwlwm gorthrwm gau,
A thòrwr llyffetheiriau.

Gwir ethawl fyg areithydd
Digyfref, oedd ef i'w ddydd;
Ef oedd ben yn y Senedd,
O lawn faint hyd làn ei fedd;
Er gwiwrwydd fawr ragoriaeth,
Y mirain ŵr, ow! marw.wnaeth!


Yn Ffrainc draw'n ddigon tawel—trwy angau,
Y trengodd O'Connel;
G'nawd yn rhwydd i bob Gwyddel,
Am dano gwyno heb gel.

Dygwyd mewn modd diogel—i'r Werddon,
Gorff harddwych O'Connel;
A'i galon, ffyddlon wr ffel,
Sy'n Rhufain, o swn rhyfel.


A'i enaid wrtho'i hunan—sy etto
Ryw sut yn y purdan
Tan ei fai,—ond daw'n fuan,
Os gwir, yn bur glir a glân.

Wedi'i iawn buro a'i wneud yn barod,
A i fewn yn siriol heb fai na sorod,
At yr hen Babau, rhinau gorhynod,
Rhy' pawb le i Connell, 'be'r publicanod;
Yno bydd dan newydd nod—meddianna
Y man ucha' yn nghôr y mynachod.


COFFADWRIAETH
AM Y DIWEDDAR BARCHEDIG SAMUEL JONES

Gweinidog yr Eglwys Annibynol yn Maentwrog,
swydd Feirion.Bu farw Tach. 1, 1843, yn 25 oed
.

Gwelir prudd-der ac alaeth—yn fynych,
O fewn y wladwriaeth;
Dan alar ceir dynoliaeth,
Gan gur blwng mewn cyfwng caeth.

Angau certh, anferth eonfawr—astrus
Ddinystrydd dieisawr,
A orfydd â'i law erfawr
Fywydau holl lwythau'r llawr.

Hyf anturio i Faentwrog—a ddarfu
A'i ddirfawr saeth dreiddiog;
Ei nôd oedd pur weinidog—efengyl,
Ah! 'n Samwel anwyl, un syw molwynog!


Mawr golled a thrwm argyllaeth—ddeddyw
Ar ddydd ei farwolaeth;
Pregethwr, awdwr odiaeth,
A mawr iawn oedd; ond marw wnaeth!

Gwr o ddawn gwiwgar oedd ef — un hyddysg,
Anhawdd cael ei gyfref;
Dwyslawn mewn hyfryd oslef,
Llafuriawdd dan nawdd Duw nef.

Gweinyddai'n ogoneddus—wrth reol,
Wir athrawiaeth iachus,
Geiriau Nêr, nid gerwin ûs,
Neu ryddiaith anwireddus.

Duwinydd cadarn, iach ei farnau,
Agwrdd odiaeth ei gyrhaeddiadau,
Llon arweinydd yn llawn o rinau,
Cyson awdwr, cu ei syniadau;
Bri ei goethion bregethau—ddangosant,
Hoff urdduniant ei hyffordd ddoniau.

Lles hynodawl lluaws o eneidiau,
Fu llafur didwyll ei fyfyrdodau,
Dewr a chedyrn oedd ei ymdrechiadau
I ddwyn, mal bugail, ei gail i'r golau;
Ac addurn ei agweddau—oedd wastad,
Heb wyrni girad mewn barn na geiriau.
Gwiwlon efrydydd glân ei fwriadau,
A gwirfoddolydd treiddgar feddyliau,
Dihalogedig, da'i olygiadau,
Athraw gweinyddfawr, uthr ei gynheddfau,
Perarogl oedd pur eiriau—'i athrawiaeth,
Dirper odiaeth yn llawn darpariadau.


Gwyliadawl fugail ydoedd—idd ei braidd,
Bu ddibrin o'i wleddoedd;
Gwnaeth ei ran, a'i amcan oedd
Diwallu'i ddeadelloedd.

Un llawn pwyll, didwyll nodedig—doethaidd,
A'i deithi'n goethedig;
Tawel frawd duwiolfrydig—oedd heb wâd,
A'i dda wiw rodiad yn ddiwyredig.

Er hardded, wyched ei wedd—ddianaf,
Ei ddoniau a'i rinwedd,
Dygwyd ei gorff o'i degwedd
Yn forau i bau y bedd.

Ei ganaid enaid union—a godwyd
Gan gedyrn angylion
I'r nefolaidd, lwysaidd, lon,
Fad araul wynfa dirion.

Mor ddinam yn mhlith myrddiynau—o deg
Gadwedigol seintiau,
Mae'n moli Nêr, Muner mau,
Yn Salem, ddinas olau.


COFFADWRIAETH
THOMAS HARTLEY, YSW., LLWYN, DOLGELLAU.
Bu farw Awst 28ain, 1850.

Teyrn engyrth terwyn yw angau—orfydd
A'i arfog genadau,
Holl ddynawl fydawl fodau,
Hyd feithder, pellder pob pau.


Er Abel dawel, diau—boreufab,
A brofodd ei loesau,
Hynt deg, ni chafodd ond dau,
I ddiengyd o wydd angau.


Tyr angau i lawr trwy ingol loes—gedyrn,
Fyg odiaeth wŷr eirioes;
Arian na dim, rhin nid oes,
Tan nen, all estyn einioes.


Boneddion gwiwlon eu gwedd—teleidwych,
A'r tlodion 'run agwedd,
Ryw awr a ro'ir i orwedd
Yn welwon, bydron mewn bedd.

BARDD IDRIS, mae'n brudd adrodd—un moesgar,
O'n mysg ymadawodd,
O'r golwg fe lwyr giliodd,
Y gweryd tew hagr a'i todd.


Oer athrist fraw aruthredd—a duloes
I'w deulu dillynwedd,
Oedd symud yn fud i fedd
Yr ynad mawr ei rinwedd.


Gwr enwog, hawddgar, union,—rhïeddawg,
A rhwyddaidd ei galon,
Heddynad di frad ei fron,
Prawf eraill, fu'r prif wron.


Bu'n llywydd, noddydd, flynyddau—doethaidd,
Cymdeithas y Biblau;
Ow! 'r hen flaenawr clodfawr, clau,
A gollwyd o Ddolgellau.


Mae afar, galar, ac wylo—ar ol
Yr haelwych fwyn Gymro;
Porth tau i ddegau oedd o,
A'u tŵr pan fyddai taro.

Digoll y gwrandawai gwyn—trueiniaid,
Trwy hynaws gydymddwyn;
Noddfa gyda gwên addfwyn
Gai wan a llesg yn y Llwyn.

Ei fwrdd oedd rydd i feirddion—bob enyd,
Caent dderbyniad serchlon;
Mewn modd mwynaidd, llariaidd, llon,
E noddai awenyddion.

Ynad enwog, tarianog, tirionwedd,
Gwiwlad onestwr, gwelwyd e'n eistedd
Uwchlaw arswyd ar y wychawl orsedd,
Yn mrawdlys tirion Meirion mewn mawredd;
Deallus yn mhob dullwedd—gweithredai,
Diwg yr unai o du y gwirionedd.
Barn deg heb wyrni digus—ni phallodd,
A gu weinyddodd yn ogoneddus.
Mawr a gwrol mewn amryw ragorion
Ydoedd yr enwog wladyddwr union;
Ymddwyn at eraill wnai mewn modd tirion,
Ni fanai gilwg o fewn ei galon;
Och! arw saeth echrys weithion—ein prydferth
Gu awdwr mawrwerth sydd gyda'r meirwon!

Rhoed Iôr graslon gynnorthwyon
I'w wraig union, rywiog, anwyl,
A'i blant tirion fo'n gysurlon,
Gyda'r ŵyrion, gwedi'r arwyl.


Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Hugh Reveley
ar Wicipedia




MARWNAD H. REVELEY, YSW.
BRYNYGWIN, DOLGELLAU.
Un o brif Ynadon swydd Feirion, yr hwn a fu
farw Tachwedd 9fed, 1851, yn 79 oed
.

YMDAENODD, lledodd trallodion—trosof,
Tra isel yw 'nghalon;
Clwyfwyd, merwinwyd fy mron,
Gan aethus gyni weithion.

Ingawl genadon angau—ergydiant
Eu rhwygiadol saethau;
Gwŷr mawrion, pigion ein pau,
Orfyddant i oer feddau.


Daeth chwerwder, blyngder, cur blin—oer, athrist,
Fel aruthrol ddryghin,
Sef noswyl, arwyl erwin,
Frwynawg, erch, i Frynygwin.


Y penteulu, trwm a fu'r traill—gwympodd,
E lwyr faluriodd i lawr fel eraill.

Profir yn mysg peryfon—hir aflwydd
Am Hugh REVELEY ffyddlon,
Arwr hardd yr orawr hon
Etto fwriwyd at feirwon.


Ein mwyn Yswain mynwesol—a gludwyd
I gleidir mynwentol;
Bydd treiddgar alar ar ol
Arch-ustus mor orchestol.


Yn llys barn lleisiaw y bu,
A'i lais ni cha'dd ei lysu;
Ei lais treiddgar, moddgar, mâd,
Beunydd a gai dderbyniad.


Arddelid ei wir ddilys
Eiriau llâd gan wŷr y llys;
Gnawd i bob gradd oedd addef
Eglurdeb ei burdeb ef:
Yn ben astud bu'n eistedd,
Enyd hir, fel Ynad Hedd,
A blaenawr llwyddfawr a llon,
Da'i nôd, i'w gydynadon;
Cawr o ddyn cywir oedd ef,
Teg wiwfryd, sad, digyfref;
Diornaidd bôr cadarnwych,
Caed erioed, yn cadw'i rych,
Gwae ni bawb gau yn y bedd
Ganwyll ynadon Gwynedd.

Prif ustus dawnus, diweniaith—ydoedd,
Yn adwaen y gyfraith;
Ni wyrai yn ei araith
At goegni na checri chwaith.


Barn addas bur weinyddai—cyfiawnder
Cu fwyndeg a fynai;
Derbyn wyneb neb ni wnai,
Am wiredd yr ymwriai.

Mewn iach hwyl mynai chwilio—i'r eithaf,
Bob rhaith a ro'id ato;
Er diles iraw dwylo
Ar y fainc, ni wyrai fo.


Digyrith fendith a fu—ei fadiain
Ddyfodiad i Gymru;
Ef oedd rydd wr celfydd cu,
Llawn aidd i gynllunyddu.

I adeiladwyr deheulaw ydoedd,
A'u diflin noddwr hyd ei flynyddoedd,
Addurnai'n enwawg luosawg lysoedd;
Yn llwyr y dylid drwy'n holl ardaloedd
Gydnabod mai diymmod oedd—helaeth
Iawn, a thra odiaeth yn ei weithredoedd.

Band tlws y crafai a'i bwyntl a'i 'sgrifell
A mawr ddyhewyd, ie, mor ddiell,
Tan lawenu y tynai ei linell,
Bu ddewr, i'w ga'mol, heb ei ddirgymhell;
Cywir oedd, p'le ceir ei well—na chystal,
Gwr gonest, dyfal, ar graig neu ' stafell.

Canllaw a noddwr y cynllunyddion,
A'u hoff hardd ddoniawl hyfforddydd union,
E wnai'i gymeriad enwogi Meirion,
Carai iawn weddiant y cywreinyddion;
Bydd hirfaith gufaith gofion—am ei fri,
A'i fawr ddaioni i fyrdd o ddynion.

Gwiwdeg bendefig ydoedd,
Mawr ei werth yn Nghymru oedd.

Bu megys tad mâd i mi—y' nghanol
Anghenion a thlodi,
A'i brif nôd oedd fy nghodi
Mewn gwawl, i hyfrydawl fri.


Hoff anwyl ymddiffynwr—i Meurig,
Oedd y mirain wladwr,
Tori'n lân trwy dân a dw'r
I'm noddi, wnai'r mwyneiddiwr.


Ow! roddi'r muner addien—a gafwyd
Yn gyfaill mewn angen,
Yn ei fedd, dan lygredd len
Y ddu oeraidd ddaearen.


Boed iechyd hyfryd a hedd—i'w ddinam
Ddaionus etifedd,
A'i briod wiwglod 'run wedd,
Lon feinir, o lân fonedd.

MARWNAD J. EDWARDS, YSW.,
DOLSERAU, GER DOLGELLAU.
Bu farw Hydref 19eg, 1852.

Och! angau, ei groch ingoedd—gwasgedig,
Ysgydwant deyrnasoedd,
Ei loesion draidd i lysoedd,
Boneddion gwychion ar g'oedd.

Loes irad yn Nolyserau—heddyw
Enhuddodd fwynderau;
Parodd hon i bawb bruddhau
Gan lwythawg ddygnawl aethau.

Tòri boneddwr tirion—o fynwes
Ei fwynaidd gyfeillion,
Bair drallod a briwdod bron
I'w anwyl deulu union.


Dyn ydoedd dianwadal—a gwron
Hawddgaraf yr ardal;
Llid a gw'radwydd—swydd rhy sal
Na gweniaith, ni wnai gynnal.

Nid hawdd ei canfyddid heb
Lon wện ar ei lân wyneb.


Mynwesawl gymwynasydd—cu hyfwyn,
Y cafwyd e beunydd;
Didwyll gyfranwr dedwydd
Oedd ef—ow! darfu ei ddydd!


Priod gwastad, ceinfad cu,
Dihalog yn ei deulu;
A thad hawddgar, clodgar, clau,
Gwiwdeg ei ymddygiadau;
Gonest bendefig uniawn,
Haelionus, croesawus iawn;
A gwladwr mawr ei glodydd,
Llawroddiog, rhywiog, a rhydd;
Siriol gymydog seirian,
A gwir gyfnerthydd y gwan;
Gwr myg yn haeddu gair mawr,
Y daliodd hyd ei elawr;
Ceir llu'n hiraethu ar ol
Y dianair ŵr doniol;
Gwae i luoedd fu glywed
Farw gŵr oedd mor fawr ei gêd;
Hunodd diweddodd ei daith—
Ni welir mo'no eilwaith;
Gorwedd wna'i gorff mewn gweryd,
Nes bydd Iesu'n barnu'r byd;
Ffarwel, yr ynad cadarn,
Mawr ddoniau, hyd forau'r farn!


ACHAU DAFYDD FRENIN.

GWEL linach y gwiw lenwr—olygwyd
Gan Lug, y prif achwr,
Dafydd Frenin, deddf freiniwr,
Hyd at Addaf, gyntaf gwr.


Dafydd oedd fab dihafarch—i Jesse,
Ddewisol hen batriarch,
Wyr Obed, arwr hybarch,
Gorwyr Boos, gwr o wir barch.

Boos oedd fab gwâr Salmon arab—nawsaidd
Fab Naason llawn cudab,
A Naason ferthlon oedd fab
Mwyn odiaeth Aminadab.

Aminadab yma nodir—yn bur,
Oedd fab Aran gywir,
Fab Esrom deg, mynegir,
Fab Phares goeth, ddoeth, mae'n ddir.

Phares oedd fab hoff eirian—i Juda,
Lywiawdwr mwyneiddlan,
FabJacob syw, a glyw glân,
Ceinwych boblogwr Canaan.

Jacob oedd fab Rebeca—ac Isaac,
Oesai'n Palestina,
Fab Abram, dinam wr da,
Tirion, oedd Fab i Tera.

Tera oedd fab naturiawl—i Nacor,
Enwoghael ŵr breiniawl,

Fab Sarug, hyf hap siriawl,
Fab Ragau forau ei fawl.

Mab oedd Ragau glau ei glêr—hoff wiwlwys,
I Phalec, fab Heber,
Fab Sala, ddyn da, ddawn dêr,
Hybarch fab Cainan hoywber.


Cainan, wr ffraeth aceniad—a'i wedd fwyn,
Oedd fab i Arphacsad,
Fab Sem brydferth ei dremiad,
Benaf ŵr, fab Noah fâd.


Mab ffyddlon eon oedd Noa—lyw mawr,
I Lamec didraba,
Fab hawddgar, doethgar, a da,
Mwyth oslef, i Methus'la.


Methus'la, gwrda mawr gêd—byw anian,
Fab Enoc, fab Jared,
Fab Maleleel, y gynfilfed,
Fab Cainan groywlan ei gred.

Cainan oedd fab cu iawna—i Enos,
Hynod ei fwyneidd—dra,
Fab Seth, y difeth ddyn da,
Wybyddir, oedd fab Adda.


Ac Addaf, araf wron,—nodedig,
Yn dad i ddynolion,
Heb anaf, ddyn byw union,
Di warth, a greodd Duw Ion.


GWERTHFAWROGRWYDD Y GAIR

Gair Duw Iôr, gwir diwyro—sy'n llusern
Llesawl i'n goleuo,
Wrth ei wawl pelydrawl o
Mae'r doethion am wir deithio.


Puredig arf ysprydawl—cry' astalch
I'r Cristion milwrawl,
Cleddyf prydferth a nerthawl
Yw Gair Duw, a gur y diawl.


Gair Iesu, ein Duw grasawl—drwy'r oesoedd,
Sy'n drysor annhraethawl;
Drwyddo caid bendigaid wawl
I ddynion anhaeddiannawl.


Dengys yn ysbys i ni—yn dorfoedd
Ein dirfawr drueni,
A'n Ceidwad ddaeth i'n codi,
Mor rasol i freiniol fri.


Yn unawl parchwn ninnau—ei ddethawl
Ddoethaidd addysgiadau,
Didawl fo'n myfyrdodau
Yn Ngair pur ein Modur mau.

Yn y farn y Gair hwn a fydd—clirwych
Deg glorian y Barnydd;
Ofnwn, gan wneud iawn ddefnydd
O'n tymmor cyn delo'r dydd.


Astudiwn o'n wastadol—a llefwn
Am y lleufer nefol,

I'n dysgu weinyddu'n ol—ei helaeth
Bur hoff athrawiaeth, a'i berffaith reol.

Ymroddwn gan ymarweddu—' n deilwng,
Gan delaid broffesu,
Dan arweiniad coethfad cu
Dewisol Ysbryd Iesu.

FFLANGELL I'R TYNGWYR.

O! DYNGWYR! fradwyr di fri—dwl anian,
Dilynwyr drygioni,
Na feiddiwch, gochelwch chwi
Yn rhagor dyngu a rhegi.

Atgas a diras yw'r dyn—a dyngo,
Mae'n dangos yn wrthyn,
Dylid peidio a dilyn
Llwybrau'r fall mewn gwall a gwŷn.


Llawer sy'n tyngu llwon—heb ystyr,
A bostio'r arferion;
Iaith ffyrnig hyllig yw hon
Y diawliaid a'u hudolion.


DRYGEDD MEDDWDOD

Ffei! feddwdod! drewdod direidi—ydyw,
Pwy edwyn ei fryntni?
Fe dreiddiodd ei fudreddi
' N barddu noeth i'n broydd ni.


Meddwi, hawdd profi bob pryd,—bai uchel,
Sy'n bechod dychrynllyd,
A rhyfedd flaenor hefyd
Holl ddrygau a beiau'r byd.

Meddwi, mae hyn fal moddion,—heb rinwedd,
Yn braenu'r coluddion,
Anurddo, difrio'r fron,
Gwelwi a phydru'r galon.

Meddwdod sy'n hynod wanhau—y synwyr,
Os uniawn fy marnau,
Pair gryndod i'r aelodau,
Fath na cheir fyth yn iachâu.

Meddwdod, 'rwy'n gwybod, ar g'oedd—du loddest,
A laddodd ei filoedd;
Dyfetha er Adda 'roedd,
Ac etto'n waeth nag ytoedd.

Meddwdod yw y nôd niweidiawl—penaf,
O'r poenau tragwyddawl,
Sy'n aros ansynwyrawl
Hudolion deillion у diawl.

Meddwdod dry'n drallod ryw dro—heb obaith
I bawb a'i dilyno;
Tyred, cyn dydd y taro,
O'i greulon afaelion fo.


ADGYFODIAD DYSGEIDIAETH
YN NOLGELLAU.
Un o destunau misol Cymdeithas y Cymreigyddion yn y lle,
Tach.20fed, 1822. Yr Englynion canlynol a farnwyd yn fuddugol.

Henffych well yn Nolgellau—frwd araul,
Frodorion diwallau,
Dywenydd bod eu doniau
A'u mawl o hyd yn amlhau.

Helaeth goleddwyr hylwydd—dysgeidiaeth,
Dwys gedawl serchawgrwydd,
Gosgordd rydd fraich ac ysgwydd
O'i pblaid, pan fo rhaid, yn rhwydd.

Mewn bedd bu'n gorwedd yn gaeth—y fronawg
Fireinwych Ddysgeidiaeth,
Yn awr adgyfodi wnaeth
I'w chyfiawn hen uchafiaeth.

Ffrydiodd, tarddellodd allan—mal afon,
Mil yfant win purlan,
Meithriniad maith i'r anian,
Yn llysoedd ei gwleddoedd glân.

Pa arwyrain mewn peroriaeth—hyddysg,
Rydd haeddawl ganmoliaeth?
Pa wir fawl, dreiddiawl ar draeth,
Addas gaed i Ddysgeidiaeth.

Mor weddaidd yw ymroddi—i'w cha'mol,
A chymhell pawb ati;
Dynion fo'n cael daioni,
Amen, dan ei haden hi.


Y CEILIOG A'I GAN
Cyfansoddedig wrth ei glywed yn canu yn y bore

Y CEILIOG enwog a gân—yn brydlon
Bêr odlau greddf gyngan,
Yn unol â threfn anian
Dyry glod i'w Awdwr glân.


Yn ei glwyd e gwyd, ac wed'yn—ysgwyd
Ei esgyll yn ddillyn;
Siampl felly ddyry i ddyn,
Deilwng i bawb ei dilyn.

Heb aros yn y borau—un eiliad,
Yn ol ei drefniadan,
Mae'n adwaen y mynydau
I ddechreu'i gan fwynlan fau.


Y DYSGEDYDD
ANERCHIAD IDDO YN EI FLWYDDYN GYNTAF

HENFFYCH well! heb ddichellion—ddwys gadarn
DDYSGEDYDD hyfrydlon,
Tyred, mal athraw tirion,
Nac oeda, brysia ger bron.

Tyred mewn modd naturiawl—i'n brodir,
Buredig lyfr buddiawl,
Dwg newyddion heirddion hawl,
Iawn foesaidd, ini'n fisawl.


Doeth rywiog fâd athrawiaeth—tras eurfyg
Trysorfa gwybodaeth;
I'r Gogledd degwedd y daeth
Dawn addysg duwinyddiaeth.


DYSGEDYDD newydd i ni—' r gwerinos,
Gwirionedd diwyrni,
Pur gadarn y pair godi
Llenorion i freinlon fri.


Sylwir ar eglwys wiwlon—yr Iesu,
Er oes'r apostolion;
Gwel flinfyd a hawddfyd hon,
Drwy'r araith, hyd yr awr'on.


Ceir hanes gan wŷr cywreinion—amryw
Emwrys weinidogion;
Sonir mewn gwersi union
Am rai sydd yma'r oes hon.


Sylwadau, nodau beirniadol—wiw rin,
Ar ranau neillduol
O'r diofer air dwyfol,
Nid chwedlau a ffurfiau ffol.


Hylwydd draethodau helaeth—iachusol,
A chyson farddoniaeth,
Dwfn bynciau, mal ffrydiau'n ffraeth,
Gem rywiog, ac amrywiaeth.


Llwydda nes ennill heddwch—a difa
Dyfais y tywyllwch,
Dysg i'n gwlad, rhag t'rawiad trwch,
Gyrhaedd at wir frawdgarwch.


Y DYSGEDYDD ETTO

Daioni llawn dywenydd—a gafwyd
O gyfoeth DYSGEDYDD,
Gwersi glân, dyddan bob dydd,
Llawnion i bob darllenydd.


Da genym wel'd dy gynnydd—mor enwog,
Mireinwych DDYSGEDYDD,
Tydi mae llu'n farnu fydd
Goleudeg haul y gwledydd.

Mal tirion afon mewn tangnefedd—tardd
Heb ddim twyll na serthedd;
Mwynhad o'th ffrydiau mewn hedd
Ddigonant Dde a Gwynedd.


Mawryga'r fwyn Gymreigiaith—ymorol
Am eiriau dilediaith,
Llwyr goetha, nithia'r hen iaith
O'i sothach, hyd yn seithwaith.

Bydd dreiddiawl, siriawl dan ser—a manwl
Gyda mwynaidd dymher,
Dysg i Gymru barchu'n bêr
Wyth gymaint ar iaith Gomer.

Llwyddiant fo i'th allweddau—i agor
Ar wiwgoeth drysorau,
Gan gyson egluro'n glau
Iawn addas wirioneddau.


MYFYRDOD Y BARDD
WRTH FYNED DROS FYNYDD HIRAETHOG,
Mawrth 19eg, 1825

BRONYDD a lleithdir brwynawg—a mân-wellt,
Yw Mynydd Hiraethawg,
Lle dyrus a rhwystrus rhawg,
Anaele, ar hin niwliawg.

Lle anial rhwng y Bala—a Dinbych,
Ond ambell gysgodfa;
Lle tirion bryd hinon ha'
Gerwin ar rew ac eira.


Minnau, ar ben y mynydd,—yn guferth
A gofiais am Gruffydd,
Bardd doniawg Hiraethawg, rhydd,
Ffynnon yr hoff awenydd.

Baen uthr bryd, bu'n athraw braf—bu urddwr
I'r beirddion enwocaf;
Adgofio yn effro wnaf
Am y gwron mygaraf.


COFFADWRIAETH
AM Y TYWYSOG FREDERICK, DUC CAEREFROG.
Bu farw Ionawr 5ed, 1827, yn 64 oed.
[ENGLYNION AROBRYN.]

Och! alar, heb le i ochelyd,—dolur
A'n daliodd yn ddybryd,
Trystfawr olwynion tristfyd
Sy'n gwau drwy holl barthau'r byd.


Rhyw lwythawg farwolaethau—awr dduoer
Orddiwes bob graddau;
'Does dan rhod yn bod un bau
I dd'engyd o wydd angau.

Torodd ein Rhaglaw tirion—dewisawl
Dywysog y Brython;
A'r gwr a gawsai'r goron
Ar ol ei frawd araul fron.

Siglawdd y deyrnas hyglod—yn dwyn baich
O dan bwys y dyrnod;
Duc CAEREFRAWG, nerthawg nôd,
Eurfyg, a ga'dd ei orfod.

Yn ei oes dadleu a wnaeth—ŵr doniawl,
Er dinystr Pabyddiaeth;
Mynai'i dwyn i'r gadwyn gaeth,
Gan agor drws Cris'nogaeth.

Mewn hwyl ei anwyl enaid—a garai
Y gwir Brotestaniaid;
Rhag wynebdrist Bapistiaid
Yn llew dwys cyfrwys ei caid.


ERFYNIAD AM GOED DERW
GAN T. HARTLEY, YSW., (BARDD IDRIS) LLWYN,
I wneud Meinciau Haf.

I'r Llwyn, a hyny er lles,—prysuraf,
Heb hir siarad rhodres,
Traethaf trwy deg fy neges,
Wrth y Bardd, tra tardd y tes.


Fy araith, heb fyfyrio,—na dwnad,
Fel dyn yn gwenieithio,
Mewn trefn fydd dweyd, am un tro,
Yn gyson beth wy'n geisio.

Cardod o flaenion cordiau—i wneuthur
Iawn ethol gadeiriau,
Rhai ceimion, gwydnion, i'w gwau
'N Gothic a Liptic weithiau.

Os caf, anfonaf yn fwyn—hynawsaidd
Hen asyn a chertwyn,
I'r goedwig dewfrig i'w dwyn
Yn ddilwgr ar ddwy olwyn.


ATEBIAD BARDD IDRIS

Y Ffridd Arw yw'r ffordd orau—i Meurig
Ymorol am briciau,
Dyna'r gwir, y rhai'n sy'n gwau
'N Liptig a Gothig weithiau.

Cychwynwch, ewch eich hunan,—yn gadarn
I'r goedwig yn fuan,
Efo'r lli' a'r fwyall lân
'Rhai hyllaf tòrwch allan.


CABLEDD.

CABLEDD sy ryfedd sarhad—gau orchwyl
Ag erchyll ganlyniad;
Cabla a bair lygru'r wlad,
Ac oeri brawdol gariad.


Cablu dyn mewn gwŷn meginawl—sydd warthus,
Swydd wrthun annhraethawl,
A'r dynion anghrediniawl
Gablo Dduw, sydd gwbl o ddiawl.


FFLANGELL I'R ABSENWR
Ar ystyr Araith Brodor o Fôn, yn
NYSGEDYDD Ionawr, 1826, tudalen 6ed.

Dyn gwag, lle bynag mae'n bod,—heb synwyr,
Abseno â'i dafod;
Dyn yw'n bucheddu dan nôd
Ffwrn ysawl uffern isod.


Absenwr, bradwr ein bro—ar unwaith,
Yw'r enw ro'ir arno;
Mab anghall y fall yw fo,
Bawddyn yn mhob lle byddo.


Absenwr, beius anian,—maleisgar,
Ymlusga i bobman
Lle gallo, er gwthio'r gwan,
Drais goleu, dros y geulan.


Sarph dorchog, fradog, anfrawdol,—ydyw,
Adyn gelyniaethol,
'Rol brathu, mae'n nesu'n ol,
Dan warthu dyn o'i wrthol.


Rhydd w'radwydd blin mewn casineb—yn gerth,
Pan ga absenoldeb;
Ni ddwg yn amlwg i neb
Un anair yn ei wyneb.


Dan ddedfryd mae'n bryd i'r bradwr—newid
Ei annuwiol gyflwr;
Boed y byd i gyd o'i gwr
Heb swn yr un absenwr.


ARWYRAIN BODDLONRWYDD

O, F'AWEN addien rinweddawl—esgyn,
Bydd wisgi a threiddiawl,
I brydu yn barodawl
Arwyrain gywrain mewn gwawl.

Gwna fâd agoriad gwiwrwydd—da ystyr,
Ar destun Boddlonrwydd,
Myn olrhain mewn manylrwydd
Meithder ei helaethber lwydd.

Boddlonrwydd, dedwydd yw'r dyn—pwy bynag,
Pob enaid a'i hedwyn,
Nid oes gecrus, warthus wŷn
Ddialus, yn ei ddilyn.

Heddychawl rodd oddiuchod—ydyw,
Mae'n odiaeth ei hanfod;
Rhydd heb ball yn nydd trallod
Gysuron rhadlon dan rhod.

Er drygfyd, croesfyd, er cri,—oer derfysg,
Er dirfawr galedi,
Boddlonrwydd yn mhob swyddi
Ddaw a nawdd bob dydd i ni.

Tangnefedd a phob rhinweddau—eraill,
Yw ei araul ffrwythau,

Mewn hedd boed pawb yn mwynhau
Mwy o'i naws i'w mynwesau.


DIOLCHGARWCH AM FFON
I Mr. Evan Jones, Garddwr, Nannau,
dros Mr. Ellis Williams, Maentwrog

Yn union i Arddwr Nannau—gyraf
Gu eres ganiadau,
Nid coegwaith, llawn gweniaith gau,
Mal gwelir, ond mawl golau.

Gyraist, 'rwy' heddyw'n gwiriaw—i'm hanerch,
Mae hyny'n fy moddiaw,
Ffon hawddgar, lungar o'th law,
Dilwgr y daeth i'm dwylaw.

Ffon union a phen enwawg,—ffon iraidd,
Ffon aruthr ardderchawg,
Taeru mae pobl Maentwrawg
Na welir un o'i hail rhawg.

Da Ifan, mwy yw d'ofal—am danaf,
Na dynion fy ardal;
Mae'r ffon,—ca' hon i'm cynnal,
Ifan Siôn, pan af yn sal.

Gallu wna ballu bellach,—a minnau
Sy'n myned yn wanach,
Crefaf am ffon beth cryfach,
Ddalio byth, o'th ddwylo bach.

Heddyw, am a ge's, heb ddim gwall—yn dawel,
'Rwy'n diolch, ŵr doethgall;

A phan yri ffon arall,
Cei glod eglur, pur, heb ball.


CYFARCHIAD I MR. J. JONES
GOF, TANYCOED, GER TOWYN, MEIRION.

HENFFYCH, Siôn, gwron a garaf—gwiwfyg
Ben Gof ardderchocaf,
Puredig i ti prydaf
Newydd gerdd, a'th nawdd a gaf.

Dy nawdd yn bur hawdd rhoddi—iawn destan,
Ond ystyr fy nhlodi,
Tyst eraill fod tosturi,
Hen stor, yn dy fynwes di.

Dygwyddodd, rhedodd i'm rhan,—ddu golled,
Hawdd gallaf fi gwynfan;
Nid diachos 'rwy'n tuchan
Mewn anfad amgylchiad gwan.

Rhyw ddiwrnod, parod mae pall—yn dirwyn,
E dòrodd fy mwyall;
Mae'n awr heb gel, gwel y gwall,
Oes yn wir, eisiau un arall.

Wrth ddulio nerth y ddwylaw—pren caled,
Prin coeli, 'rwy'n tybiaw,
Dyrnodiaid wnai i'r dur neidiaw,
A'r min a drodd i'r man draw.

Y da ŵr hael, cael durio hon—eilwaith,
Yw 'nihalawg eirchion,
Genyt ti, er bri i'm bron,
Fy llonwych gyfaill union.


Dy glod, y parod ŵr pur,—hyd Wynedd
A daenaf yn eglur,
Am fwyall ddiball ddabur,
Ddeil ei min i ddulio mur.


RHAIADR CAIN, TRAWSFYNYDD

RHAIADR Cain, ei sain arw sydd—derwynllawn
Daranllyd rhwng gelltydd;
Disgyn yn hyll bistyll bydd,
Gwyn fwlwg anhefelydd.


I'r llawr ymdywallt wna'r lli'—a'i gynhwrf
Gannoedd o latheni;
Pwy all yn deg fynegi
Mor fawr yw ei swnfawr si.

Ys canfod ei gerth ddisgynfa—orwyllt,
Sydd erwin olygfa,
Dynion a bensyfrdana,
A'i swn erch eu synu wna.

Uthr ffrochwyllt fawrwyllt ferwog—ymarllwys
Fel morllif trochionog;
Hyd gilfachau'r creigiau crog,
Gwreichiona'n grych ewynog.

Rhaiad' Cain, ei ruad c'oedd—enwoglais,
Fu'n eglur drwy'r oesoedd;
Rhydd etto'n ddiflino floedd
Ruadwy fel yr ydoedd.

Galwyd e 'n un heb gelu—o ddidawl
Ryfeddodau Cymru;

Rhyfedd dan ser y peru
Tra sai'r leithgar ddaear ddu.

Cannoedd a miloedd ymwelant—â'r lle,
O mor llon у tremiant!
A chael i'r pen uwchlaw'r pant
Eu boddio'n fawr y byddant.


Gwedi cael yn hael fwynhau—gwiw elwch
I'r golwg a'r clustiau,
Cân y tafod glod yn glau—i'r gwrthddrych,
Ar lethrau gorwych, drwy lithrig eiriau.


HAFDY CADER IDRIS

GWNAETHPWYD plas addas dan ser—i fawrion
Ddifyru eu hamser,
Hwyliwyd coed, a heliwyd cêr,
I'w godi'n mhen y Gader.

Tŷ clodwych, mawrwych, mirain,—tŷ iachus,
Tŷ ucha' yn Mrydain,
Caerog adeilad cywrain,
Nerthawl, o anferthawl fain.[2]

Ei fuddiawl ethawl dylathau—gwiwrwydd,
Sy'n geryg difylchau;
Byrddau trwchus, clodus, clau,
O dderwydd, yw ei ddorau.

Ei gelloedd heb ddim gwallau—dda hinon,
Sydd hynod o olau;

Lle braf tra bo i'r haf barhau,
Draw i edrych drwy wydrau.

Drychwydrau'n ddiau a ddwg—dêr hirfaith
Dir Arfon i'r amlwg;
Gwelir ar yr un golwg
Dir Mon pan 'madawo'r mwg

Gwelir golygiad gwiwlon—oddiyno
Hyd ddinas Caerlleon,
Ac o'r un lle ceir yn llon
Gweled mawredd gwlad Meirion.

Gwelir, pan dremir drwy'r drych,—o'r celloedd,
Dir Callestr a Dinbych,
A swydd Maldwyn werddlwyn wych,
Trwy wiwdrefn, ond troi i edrych.

Gwiwlwys oddiyno gwelir—yr un fath,
Ran fawr o'r Deheudir;
Mae'n werth (nid rhaid amheu'n wir)
Myn'd yno, y man adwaenir.


MARTHA, Y DAFARNWRAIG

A MARTHA 'rwy'n ymwrthod—o herwydd
Dyhirwch ei diod;
Nid gweddus yfed gwaddod
Lle tybir fod bir yn bod.

Cu odiaeth fir pe cadwa'—iachusol,
Fel ei chaws a'i bara,
Ni wnai un dyn o enw da
Ymwrthod â thŷ Martha.


Y FFORDD

O DREMADOG I FAENTWROG.

MUDAIS oddiwrth Dremadog—drwy dywod
A daear wlybyrog,
Daethym mor gyflym a'r gog
Mewn teirawr i Maentwrog.


Ffordd domlyd, fawlyd, anfelys,—geisym,
Un gas a pheryglys,
Llaid a baw, nid oedd lled bys,
Felly, yn ol fy 'wyllys.


"TELYN EGRYN."

Dilys caed newydd Delyn—etholwych,
O waith Elen Egryn,
Pob sill o'i mydrau dillyn
A rydd ddywenydd i ddyn.

Mynwch, y Cymry mwynion,—gorenwog
Rianod a meibion,
I'ch meddiant, wycha' moddion,
Y Delyn rwydd hylwydd hon.

Telyn y caiff pob teulu—o'i harfer
Ei hirfaith ddyddanu;
A thôn cân ai thannau cu
Gwyd genedl i gydganu.

Rhïanod mawr eu rhinau—wych reol,
Chwareuant ei thannau,
A'i pheraidd lwysaidd leisiau
Yn llawn hwyl wna'u llawenhau.


Ei miwsig hyd y meusydd—olynol,
A lona'r amaethydd;
Dymunol hyd y mynydd,
Efo'i gail, i fugail fydd.

Crefftwyr, masnachwyr îs nen,—derbyniwch
Arbenig lyfr Elen;
Dilys cewch yn mhob dalen
Gathlau eglur pur i'r pen.

Yn erfai gweddai ar g'oedd—i bob dyn,
Roi lle i'r Delyn drwy'r holl ardaloedd.

Cywir y bernir na bu—yn fynych,
Un fenyw yn Nghymru,
Mor fedrus am wir fydru
Gwiwlon gerdd ag Elen gu.

Dylid cydnabod Elen—yn gampus
A gwempawg ei hawen,
Sywddoeth ofyddes addien,
Hufen y beirdd, hi fo'n ben.

Mawr fudd drwy holl Gymru fâd
Fo'i Thelyn, wiwfwyth eiliad;
A gwnaed Elen gymen, gall,
Lan, eirioes, Delyn arall.


Y BARDD YN EI GYSTUDD

Duw Sant, dy foliant a fydd—i'm genau,
Mi ganaf dy glodydd,
Olynol drwy lawenydd,
Pa well gwaith, deirgwaith yn dydd.


Ac eilwaith ar Dduw y galwaf—liw nos,
O'i flaen ef ymbiliaf;
Myfyrio tra'n effro wnaf
Yn ei air, ac ni ŵyraf.

Iôr anwyl, pan yr hunwyf,—di wyddost,
Mai d'eiddo di ydwyf;
Duw byw, dan dy nawdd di b'wyf,
Da hyny, nes dihunwyf.

'Rol deffro, pyncio mawl pêr—yn ddilys,
A ddylwn bob amser,
I'r Iesu, anwylgu Nêr;—mal diliau
Mel i'm genau fydd moli'm Gwiwner.

Dan y baich mae dyn heb iechyd—beunydd,
Mae'n boenus ei fywyd,
Rhoi'i aur a phrif berlau'r byd,
Cêd fawr, pe cai'i adferyd.


Llidiawg a blin drallodau—a gofid,
A gefais i'm dyddiau;
Fy nghorff clwyfus, bregus, brau,
Ddaw i lawr dan ddoluriau.


Blaenodd y dyddiau blinion—'rwy'n ysig,
'Rwy'n isel fy nghalon;
Dan gystudd, mor brudd yw'm bron,
Cofia fi, Arglwydd cyfion.

Ciliaf at borth Duw Celi,—'n bur isel,
A brysiaf heb oedi;
Iôr myg, 'does tebyg i ti,
Gwyddom, am wrando gweddi,


DECHREU Y GWANWYN

Y GAUAF garwaf ei gorwynt—ddarfu,
A'i ddirfawr ryferthwynt;
Yr eira gwyn a'r oerwynt,
A'r rhew, aeth heibio ar hynt.

Diballiant y daw bellach—dynesiad
Hin nawsaidd glauarach,
A dir yw fod awyr iach,
Rywfodd, yn lloni'r afiach.

Daw Ebrill, y mis dibryn,—y'm ganwyd,
Bu'n gwenu'n gyffredin;
Fe ddaw hefyd hyfryd hin,
Mai hafaidd, a Mehefin.


Y MORMONIAID

MAE "Seintiau'r dyddiau diweddaf,"—dallaidd,
Yn dwyllwyr i'r eithaf;
Gelynion eon Duw Naf
Yw'r rhithweilch, o'r rhyw waethaf.


Proffesant, gawriant mewn geiriau—madraidd,
Y medrant wneud gwyrthiau;
Ond bleiddiaid yw'r gwylliaid gau,
Coleddant ddweyd celwyddau.

Didanc ddewiniaid ydynt—a bwriad
Gwiberaidd sydd ganddynt;
Olyniaid Endoriaid ynt,
Dyna y gwir am danynt.


Gwallus, anweddus swynyddion,—heintus,
Tuhwnt i'r hen Simon;
Hadl addig hudolyddion
Drygionus, barus o'r bôn.

Honant iddynt eu hunain—draddodiad
Dreiddiadwy mal lefain;
Athrofa waetha' Rhufain,
Dan felldith, yw rhith y rhai'n.

Gwae'r dynion rydd grediniaeth_i'w ffyrnig
Uffernol athrawiaeth;
Allai diawl, hyll hudoliaeth,
Yn llawn gwŷn, gynllunio'i gwaeth?

Gwylied pob dyn o'i galon—fyth goelio'r
Fath gelwydd echryslon;
Ymaith a'r druth ddiffaith hon
Fel niwl o flaen awelon.


MARWOLAETH PUMP O FEIRDD

YN Y FLWYDDYN 1847.

CAWRDAF a GWYNDAF deg wedd—cadeirfeirdd
Cu, dewrfyg, o Wynedd;
Dau wron roed i orwedd,
Glywiau'r byd, dan gloiau'r bedd.

A'r eirian HYWEL ERYRI,—ddoniawl,
Oedd enwog ei deithi;
A BARDD MEIRION, freinlon fri,—dau ddestlus,
Mae'n wybyddus, sy'n huno mewn beddi.


A'r Eos fwynber awen—ei gathlau
Oedd goethlwys a thrylen;
Cuddiwyd y bardd cu addien,
Hirhoedlawg, dan leidiawg len.

Llithrig, buredig brydydd,—yn ddiau,
Oedd Eos y Mynydd,
Ei Hymnau a'i Salmau sydd—yn orlawn
O ffrwythau uniawn ei ffraeth awenydd.

Y pump llon feirddion a fu—yn addurn
I lenyddiaeth Cymru;
Galar ydoedd argelu
Eu mygredd mewn dyfnfedd du.

Ninnau bawb yn mhen enyd—a'u dilyn
I dyle y gweryd,
Buan bydd taith ein bywyd
Oll ar ben, er allo'r byd.


MARWOLAETH IEUAN GWYNEDD

Ow! ein gwenawl Ieuan GWYNEDD gwron
Hawddgaraf ein tudwedd;
Gwae Walia, (fu'n hir goledd,)
Roi eị fath yn ei oer fedd.

Llafuriodd, a'i holl fwriad—drwy synwyr
Dros iawn lywodraethiad,
Gorwych oedd grym ei gariad
At bendant lesiant ei wlad.

Dolurus gydalaru—ar unwaith
Ceir rhïanod Cymru,

Am у call ŵr gemawg cu,
Hoff anwyl, wnai'u diffynu.


MARWOLAETH JANE JONES,
PRIOD MR. JOHN JONES, CRYDD, LLANELLTYD.

Och! ruthrawl ingawl angau—diorfod
Yw dy erfawr saethau;
Dygi i'r bedd, du hagr bau,
Rai anwyl, llawn o rinau.

Galar, heb le i 'mogelyd,—a daenodd
Hyd wyneb Llanelltyd,
Rhoed gwraig hawddgar freingar fryd,
Gu eirioes, yn y gweryd.

Soriant i'w rhiaint seirian—a ffrewyll
I ei phrïod mwynlan;
Galarus ynt gloi ar Sian
Garuaidd yn y graian.

Ei brodyr sydd yn brydio—a'i hunig
Chwaer hynaws sy'n wylo;
Tan goddiant cadwant mewn co'
Ei gwiwder cyn eu gado.

Hon ydoedd wraig hynodol—ddiwegi,
O ddygiad crefyddol;
Gerwin hiraeth engiriol,
Gwirir hyn, geir ar ei hol.

Hunodd a phwys ei henaid—ar rinwedd
Crist, yr Oen bendigajd,
Y teilwng aberth telaid,
A'r Iawn yn gyflawn a gaid.


MARWOLAETH DAVID OWEN

BWLCHCOCH, GER DOLGELLAU

Ow! Dafydd, wiwrydd wron—fu'n oesi
Yn fynwesawl Gristion,
Y brawd mwynaidd, llariaidd, llon,
A ddygwyd i fedd eigion.

Du ofid ar ol Dafydd—bair edwi
Brodyr a chwaeriorydd;
Dyn oedd ef da yn ei ddydd,
Cry' ei afael mewn crefydd.

Trem alarus, trwm i Laura,—Wenferch,
Fu anfon i'r gladdfa
Mor gynnar, darpar ei da
Gu addien brïod gwiwdda.

Selog, dduwiol was hylwydd,—y'i cafwyd,
Cyfaill pur didramgwydd;
Bu'n weithgar iawn mewn llawn llwydd,
A'i rodiad yn ddiw'radwydd.


MARWOLAETH LYDIA JONES
DOLGELLAU.

Aeth Lydia etholedig—drwy rinwedd
Yr Iawn bendigedig,
O'r byd brau a'i delmau dig
I baradwys buredig.

Hynod goeth ei henaid gwyl—a ddyrchodd
I'r ardderchog breswyl,
Lle seinia a'i llais anwyl
Fawl i'w Hiôr mewn nefol hwyl.


MARWOLAETH HANNAH A RUTH,
LLANYMAWDDWY.
Bu y flaenaf farw Meh. 6, 1846; a'r olaf Ion. 22, 1852.

HANNAH a Ruth, ddwy hynod—o glodus,
A gludwyd i'r beddrod;
Seirian ddwy wraig ddisorod,
Dwy erfai ryglyddai glod.

Dwy oeddynt anrhydeddus—dwy luniaidd,
Dwy lân a darbodus,
Dwy ddianair, dwy ddawnus,
O natur iawn, nid rhyw ûs.

Gweddus heirdd wragedd gwiwdda—i'r eithaf,
Oedd Ruth a'i chwaer Hannah;
Dia'mharch i'r byd yma,
Di dwyll yn ngwaith eu Duw da.

Cur blwng oedd hebrwng y ddwy—ryglyddfawr,
I'r gladdfa lygradwy,
O'r Pennant, lle tarient hwy,
Meddynt, i Lanymawddwy.

Gorphwysant, hunant enyd,—ddwy anwyl;
Oddiyno i wynfyd
Duw Ddofydd, Barnydd y byd,
Deg ofwy, a'u hadgyfyd.

Ail unir, drwy lawenydd,—hynodawl,
Eu heneidiau dedwydd,
A'u cyrff mewn trefn, o ddefnydd
Ysbrydol,—anfarwol fydd.


MARWOLAETH MORGAN JONES
:GWERNBARCUD, DOLGELLAU.

Mae argoel i enaid Morgan—gyrhaedd
I gaerau'r nef seirian,
Lle'r arwedd ogonedd gân
I'w Brynwr o bur anian.

Ail unir ei dduwiol enaid—a'i gorff,
Mewn teg wedd fendigaid;
Dilwgr ddydd barn yn delaid
Daw i'r lan o'r duoer laid.


MARWOLAETH JOHN PUGH, YSW.
:(IEUAN AWST), DOLGELLAU.

Mis Chwefror, dymhor oer du,—ow! darfu't
Ein dirfawr golledu,
Lleddaist ein bardd, coethfardd cu,
Do, yn union, dan wenu.

Briw, godwrdd, braw ac adwyth—oedd ei farw
I'w ddifyrus dylwyth;
Mae galar du'n llethu llwyth
Ieuan Awst, awen ystwyth.

Gwr oedd a garai ryddid—y gwerin,
A gwiriai'i addewid;
Gorthrymder a llymder llid
Ni oddefai'n ddiofid.


Y CRISTION TAWEL

Y awr anwyl a gâr rinwedd—mae hwnw
Am ennyn tangnefedd,
A dewis yn ddiduedd
Hau da i bawb hyd y bedd.

Rhyw afiach sothach rhy sal—yw croesder
I'r Cristion ei gynnal;
Y dyn da nid yw'n dial,
Dywed ef mai Duw a dal.

A chalon dirion bob dydd—mal Enoc,
Molianna'i Greawdydd,
Gan geisio rhodio'n ŵr rhydd,
Rhag briwdod a rhwyg bradydd.


TORWR ADDUNEDAU

ARFAETHU 'rwyf fi weithion—mydryddu
Mâd rwyddwych englynion
O hèr i ddrwg arferion
Anwar sydd yn yr oes hon.

Ni feiddiaf, gwiriaf mewn geiriau,—miniog,
Ddim enwi personau;
Onid gwell nodi gwallau
Hudolion gŵyrgeimion, gau?

Llwyr yw'r cwyn, ceir llawer cant—o ddynion
A ddinam addawant,
Ond prin iawn y cyflawnant
Eiriau llon mwynion eu mant.


Arferion bryntion mewn bro—gwyn aethus,
Yw gwenieithawl addo;
Ond nid hir cedwir mewn co'
Ymgyrhaedd am gywiro.

Rhyw ddiriaid goriaid geirwon,—taeogaidd,
Wnant deg addewidion,
Am wirio sillau mawrion
Eu gwers hir, 'does gair o son.

Niweidiawl yw addunedu—'n ffodus,
A pheidio byth dalu,
C'wilyddus yw coleddu
Erchylldod y ddefod ddu.

'Sawl dyr ei air bair heb wad—yn oerddig
Anurddo'i gymeriad,
Gwna hyn e'n fawddyn anfad,
Llwyd—ddu gör lled ddigariad.

Bawaidd ymddwyn mewn beiau—at eraill,
Wna tòrwyr ammodau;
Eu rhithiawg wyrawg eiriau
Drygnwyd, sydd fel breuddwyd brau.

Mae'n bechod hynod i'w henwi—mae'n warth,
Mae'n wrthun ddireidi,
A chas y pair achosi
Braw a nych yn ein bro ni.

Gweddus wrth fwyndeg addo—yw meddwl
A oes modd cywiro;
Os nad oes, rhag drygfoes dro—twyllodrus,
A gwall enbydus, gwell i ni beidio.


Er clod, 'rol gwneud ammodau,—yn bybyr
Gwnawn bob ymdrechiadau
I dalu'n glir, gwir nid gau—heb attal
Yn ddianwadal ein haddunedau.

Ein rheol fuddiol hyd fedd—fo gwiwrwydd,
Fyg air y gwirionedd;
Os dilynwn hwn mewn hedd—ni lithrwn,
Etto ni ŵyrwn mwy at anwiredd.


YR AMAETHWYR A'R BUGEILIAID
Cyfansoddwyd yr Englynion dilynol mewn canlyniad
i Gyfarfod a gynnaliwyd gan yr Amaethwyr a'r
Bugeiliaid yn mhlwyf——yn y flwyddyn 1823.

BLWYFOLION union eu nôd—a ellir
Yn hollol gael gwybod
P'run orau mewn cyrau côd
Ai'r offrwm, ai treth yr heffrod?

Treth yr wyn trwyth erwinol—yw hdno,
A hynod ormesol;
Beth a wneir—ddaw byth yn ol
Y groew gyntefig reol?

Codan ' ddegfed ran o'r oenyn—dewrgu,
Deirgwaith yr un flwyddyn;
Rhoed cyfiawnder her i hyn,
Ei rwysg a ga'i oresgyn.

Degfed oen wiw hoen o hyd—ac mwy glew
Ddegwm gwlan 'run ffunyd;
Mynant dreth waeth beth fo'r byd,
Hafal eu porfa hefyd.


Ow! 'r wyn bach, rheitiach dan rhod—eich meithrin
Na'ch mathru yn ormod;
'Does odid flaidd a faidd fod,
Dybiwyf, mor ddigydwybod.

Er cael gan farcut a'r ci—a'r llwynog
Dir llonydd i bori,
Degymwr wna gamwri
Bob blwyddyn i'ch erbyn chwi.

Ac hefyd heblaw'r cyfan—a godir
O gêd y. praidd purlan,
Gwefriant am gael rhyw gyfran
O'r gwartheg rhwydd—deg i'w rhan.

Y gwair a'r ŷd rhagorawl—nodedig,
Nid ydyw'n ddigonawl,
Ymwthiant, a honant hawl
I'r laswerdd borfa lesawl.

Yr ŷch a'r bustych heb wad—maen ' hwythau
Mewn aethus amgylchiad;
Lloi bach sy'n hyll eu beichiad
Yn ofni cânt brofi'r brâd.

Y buchod sy dan eu beichiau—a'r teirw
Bron tòri'u calonau,
Gwaeddi mae'r moch a'r gwyddau
'N mhob cwr rhag degymwr gau.

Wel, gwaeddwch, llefwch yn llu—am ryd'id,
Mae'r adeg yn nesu
Cewch rwy'deb a'ch gwaredu
Rhag gorthrwm y degwm du.


Prysured, deled y dydd—i'ch gwared,
O'ch geirwon ystormydd,
Cewch brancio a rhodio'n rhydd
O gerth rwymau'r gorthrymydd.


Y PERSON YN DARLLEN.

SYLWAIS yn graff is haulwen—ar agwedd
Clerigwr yn darllen;
Rhyw nac yn lle gwir acen
Ro'i'r gwr bach bob gair o'i ben.

Darllenwr, llusgwr llesgwedd,—pais laeswen,
Pwysleisiwr mwngleredd,
Fel hen Bab o flaen y bedd,
A'i eiriau yn o oeredd.

Nid da, heb wall, i'm tyb i,—ond oerllyd
Mae'n darllen ei weddi;
Rhy ddirym, fel rhyw ddyri
Lled benrhydd ei hedrydd hi.

Rhoi ambell wers i'r hen Berson—ddylai
Ei ddilys ddysgyblion;
Darllenai, gawriai'r gwron
Yn dda bur 'rol dysgu'r dôn.



Y GAUAF

Y GAUAF llwm, drwm ei dro,—du olwg,
A'n daliodd ni etto;
Cannoedd lawer sy'n cwyno
Gan ias ei hin erwin o.


Rhai welir ar eu haelwyd,—yn gulion,
A gwelwedd wynebllwyd,
Ar rynu gan fawr anwyd,
Ac hwyrach rhy fach o fwyd.

Llwydaidd yn mhob dull ydynt—a dillad
Go dyllog sy ganddynt,
Gwrthddrychau'n ddiamhau ynt
Sy'n werth i syniaw wrthynt.

Ochain yn wan eu hiechyd,—dihoeni,
A'u heinioes yn aethlyd,
Dyddfu mewn annedwyddfyd
Mae degau drwy barthau'r byd.

Ow! ' rhai bach, mae'n arw eu bod—mor adill,
Mawr ydyw eu rhyndod;
Pwy all ddweyd maint eu trallod,
A'u braw dan gurwlaw ac ôd.

Rhwyddaidd gyfranu rhoddion—yn wiwlwys
A wnelo'r boneddion,
I eiddilod tylodion,
Yr adeg gaeth rwydawg hon.


OEDRAN
MEURIG EBRILL AC ISAAC JONES O'R LLWYN,
Yn y flwyddyn 1850

TR'UGAIN a deg, 'rwy'n mynegi,—'n gyfan
A gefais o flwyddi
Eisoes, faint etto i oesi
Sy gan i'n ol nis gwn i.


Isaac sydd yn cydoesi—â Meurig,
Ond marw a raid ini;
Ganwyd ni'n dau heb gyni
'Run awr, am ddim ar wn i.


LLETYRHYS, BRITHDIR

LLETYRHYS, harddlys urddlon,—ger annedd
Caerynwch yn Meirion,
Saif ar ddeiliog, frigog fron,
Ban enwog, uwchben Wnion.

Lle mae pren derwen cadeiriawl—gododd
Yn gadarn aruthrawl,
Fel t'wysog gwyrddglog mewn gwawl,
A brenin y derw breiniawl.

Pren brigawg, osglawg, teg wedd—cwmpasog,
Campuswych ei agwedd,
Cywreiniawl blethgar annedd
Yr adar seingar, a'u sedd.

Teraidd chwareudy tirion—y doniawl
Adeiniog gantorion,
Nawddle i'r côr mwyneiddlon
Gydbyncio a lleisio'n llon.

Mae'n achles gynhes i'r gog—a'r eos,
Gre' awen ddihalog,
A'r fwyalch gerddgar fywiog—a'r fronfraith
Berffaith ei haraith, lwysiaith berleisiog.

Eu cyson goethlon gathlau—sain eglur,
Sy'n hyglyw i glustiau;

A thôn lafar, glodgar glau,
Telynant alawonau.

Swynant, hwy ddenant ddynion,—i wrando'u.
Cywreindeg alawon;
Sylwir ar fydrau sywlon—yr hyddestl
Bur foesawg wiwddestl ber fiwsigyddion.

Perchenawg enwawg a gwyl—y deglan
Odidoglwys breswyl,
Tan nen, fu'r Capten Anwyl,
Gŵr digardd a hardd ei hwyl.

Weithian ei ben perchenawg—da hyawdl,
Yw Owens, Dolffanawg;
Gwiw rinwedd y gŵr enwawg,
Pur a rhwydd, fo'n para rhawg.


TALYLLYN A DOLFFANOG

TALYLLYN, tawel le llonydd—iachus,
I ochel ystormydd,
Cysgodawl freiniawl fronydd,
Gwempus oll, o gwmpas sydd.

Lle destlus hoenus hynod—lle nodwych,
Llawn adar a physgod;
Pob cysur eglur hyglod,
Anian bur, sydd yno'n bod.

Yn min y llyn, mewn lle enwog,—gwiwlwys,
Y gwelir Dolffanog;
Da odiaeth le godidog,
Meithringar i'r gerddgar gog.


Lle sywiawl yw llys Owen,—mewn hirddol,
Man harddaf tan wybren,
Ei ddawnus barchus berchen,
Heb wanhau, fo byw yn hen.

Dihalog bo ef a'i deulu—anwyl,
Yn uniawn fucheddu,
Gan addas fawr gynnyddu
Yn wastad mewn cariad cu.

Gwiwdeg fo'u hymddygiadau—a'u hurddas
A harddo'n gororau;
Gormeswyr hagr eu moesau
Is y rhod, na fo i'w sarhau.


Y LLWYN, GER DOLGELLAU

Llwyn eirian, gwiwlan, golau,—Llwyn siriol,
Llawn o sawrus flodau,
Llwyn enwog gerllaw Nannau,
Llwyn y beirdd a'u llawen bau.

Llwyn hen ydyw'n llawn hynodion—llachar,
A lloches cantorion,
Llwyn deiliog dan frigog fron,
Llwyn eurawg yn llawn aeron.

Llwyn prydferth, mawrwerth i Meurig—nesa
Bob noswyl arbenig;
Llwyn destlus, trefnus, lle trig
Difalch a rhydd bendefig.

Man anwyl yw'n min Wnion—y ffriwdeg
Loyw ffrydiawl afon;

Canfyddir mewn cain foddion
Lwyni heirdd hyd lânau hon.

Gerddi rhosynog urddawl—a llawnion
Berllenydd cynnyrchiawl,
Per ffrwythau, llysian llesiawl,
Dillynion, gwychion mewn gwawl.

Da adail pur odidog—yw'r annedd
Gywreinwych a chaerog;
Mae coed fyrdd mewn glaswyrdd glog
O'i gwmpas yn dra gwempog.


BRONWNION, DOLGELLAU

BRONWNION bery'n enwog—am oesau
Uwch meusydd blodeuog;
Mor wiwddestl a mawreddog
Mae'n edrych dan glaerwych glog.

O'i gwmpas mae teg wempog—gadeiriawl
Goed irion gwyrdd—ddeiliog,
Lle hawddgar i'r gerddgar gog,
A'r eos fwyngu rywiog.

Band hyfryd ar hyd yr haf—eu gwelir
A golwg prydferthaf;
Parhant yn eu tyfiant daf,
Nis gwywant hirnos gauaf.

Llonwych rodfeydd dillynion—sy yno,
Rhwng rhosynau gloywon,
Oll yn ferth, mor brydferth bron
A sawrus flodau Saron.


Ei syw fad addurniadau—a'i harddwch
A urddant Ddolgellau;
Gwir ethol ragoriaethau
Ddyry'r blagur pur i'n pau.

Sylwer mai Williams haelwedd—ŵr anwyl,
Yw'r uniawn etifedd;
Caffed fyd hyfryd a hedd
I'w einioes yn ei annedd.

A'i seirian deulu siriawl—hynawsaidd,
Fo'n oesi'n grefyddawl,
Ac esgyn wed'yn i wawl
Cain wiwfyg Gwynfa nefawl.


Y DIWEDDAR ROBERT ROBERTS,
CAERGYBI.
Englynion a gyfansoddwyd wrth wrando arno yn
darlithio ar Seryddiaeth yn Nolgellau yn 1825.

GŴR doniawl, breiniawl, llawn bri—arabaidd,
Yw Roberts, Caergybi;
Gwnaeth ddangos, y nos, i ni
Bur anian yr wybreni.

Seryddwr, awdwr odiaeth,—deallydd
Dull y greadigaeth;
Amlygu'n wiwgu a wnaeth
Hen addurn anianyddiaeth.

Anrhegodd Gymru yn rhagor—â darlun
O'r du oerwlyb ddyfnfor,
A'r llun y mae gorllanw môr,
Da gofiant, yn dygyfor.


RHYDYMAIN, MEIRIONYDD

Yn Rhydymain gain deg wedd—pregethir
Pur goethwych wirionedd,
Efengyl eryl eurwedd,
Gan ffyddlon genhadon hedd.

Yno ceir dan wên cariad—iawn frodyr
Unfrydol yn wastad,
Rydd ddilys wir addoliad
I Dduw Nêr, y Muner mâd.

Ymgynnull mae ugeiniau—yn fynych
O fewn i gynteddau
Tŷ Iôr hedd, i gael gwledd glau
Yn ei waed i'w heneidiau.

Yno ca'dd llawer enaid—ei gynnal,
A'i gânu yn delaid;
Duw'r heddwch o'r llwch a'r llaid—a'u cododd,
Fyny eu dygodd i'r nef fendigaid.

Diattal parhaed etto—yr achos,
I oruchel lwyddo;
Dyger i dŷ Duw Iago
Holl ddynion y freinlon fro.


FFLANGELL I BORTHWEISION

Heb lwyddiant bum yn bloeddiaw—er gofid,
Ar gyfer Abermaw;
Dyrchefais fy llais a'm llaw,
Gwiriondeb, neb yn gwrandaw.


Ffei! aros wrth у fferi—am oriau
Bu Meurig mewn oerni;
Ystyriwch mewn tosturi
Fod awr yn rhy fawr i fi.

Dau ddynyn diddaioni—dir ydych,
A rwydwyd gan ddiogi;
Ar dymhor oer rhaid i mi
Deithio'r nos o'ch achos chwi.

Ni feiddiaf, rhag ofn im ' foddi,—mwy byth
Fyn'd mewn bâd ar weilgi;
Aed cwch tyllog i'w grogi,
Nid da'r môr, ond tir i mi.


I OFYN YSGYFARNOG
GAN THOMAS HARTLEY, YSW. (BARDD IDRIS).

At Fardd Idris ar hyd grisiau—hylithr,
Gan hwylio fy nghamrau,
Yn o swrth 'rwyf am nesâu
Min nos, fel dyn mewn eisiau.

Dyn gwan a â dan gwyno—yn fynych
I'r fan caiff ei wrando;
Angen bair iddo wingo
Heb baid, mae'n rhaid, rhaid rhoi tro.

Minnau'n awr, y mwyn wron,—anturiaf
Cyn tòri fy nghalon
I'ch gwydd yn rhwydd yr awr hon,
Yn nghanol blin anghenion.


Llawer rhodd o'ch llaw'n rhwyddwych—a gefais,
Ond ei gofyn genych;
Un rhodd etto, Gymro gwych,
Yn chwaneg wyf yn chwennych.

Bellach, mi wnaf grybwylliad—obeithiawl,
Pa beth yw'n newisiad,
Nis celaf, mae 'nysgwyliad—ei derbyn,
Ar ol ei gofyn, gan ŵr hael gwiwfad.

Os gyrwch yn o scwarog—i Feurig
Fawrwych ysgyfarnog,
Cewch ganddo, cyn cano cog,—saith englyn,
Neu wyth gwawdodyn o waith godidog.


DIOLCHGARWCH AM Y RHODD.

Eich teg hoff anrheg, heb ffael,—iawn d'wedyd,
Nad ydoedd yn orwael,
Yma gefais i'm gafael
Ar g'oedd, a gwych oedd ei chael.

Mi gefais am ei gofyn—loew geinach
O law gannerth ddichlyn
Y bardd hael, e barodd hyn
Lawenydd i wael annyn.

Glân geinach holliach oedd hi—gu ddilwgr
A ddaliwyd gan filgi;
Yn ei gwar y cydiai'r ci,
Treiddiodd ei ddannedd trwyddi.

Yr heliwr dewr a hylaw—yn nwydwyllt
A neidiodd i'w chipiaw

O'i safn gerth, a'i lyfnferth law,
Ar hoewgais, cyn ei rhwygaw.

Ac yna gyru'r geinach—a wnaethoch
Yn eitha' dirwgnach,
Yn anrheg hardd i'r bardd bach,
Llwyd ofydd, sy'n lled afiach.

'Roedd arni gig lawn digon—hawdd addef,
I ddeuddeg o ddynion;
Ar air, bu'r plant a'r wyrion
Ryw hyd yn gwledda ar hon.

Minnau ar eiriau'r awr'on—diolwch
A dalaf o'm calon
I'r hedd ynad, pen llâd llon,
Mawreddog, am ei roddion.


CASEG DDU CAPT. ANWYL,
BRYNADDA, DOLGELLAU,
Yr hon a elwid Gipsey, ac a gyrhaeddodd yr oedran o 37

GIPSI yn wisgi wnai waith—tair caseg,
Tra ceisiodd, ar unwaith;
Heb orphwys bu fyw'n berffaith
Droediog, sionc, dri deg a saith.

Carlamai, neidiai'n ofnadwy—ysgafn,
Pan wisgid ei chyfrwy;
Nid ofnai, hi dreiddiai drwy
Goedwig 'run fath ag adwy.


Er ei hanferth nerth dinych—byw iawndrefn,
A'i buandra hoewwych,
Yn gyflawn oed rhoed mewn rhych
I fraenu—llen fireinwych.


CWYNFAN Y BARDD,
Pan ladratwyd ei arfau ef a'i weithwyr wrth
adgyweirio Tŷ'n y celyn, ger Dolgellau, yn 1832
.

Gwae'r drygnaws lewdraws leidryn—diwireb
Dórodd Dy'nycelyn;
Lladratodd, gwanciodd mewn gwyn,
Y gelach, eirf i'w ga'lyn.

Plaeniau a lifiau un llaw—ac ebill,
'Rwy'n gwybod am danaw;
Lefel a chýn—burgyn baw,
Breulyd,—ac umberelaw.

Pwy bynag, pe b'ai i'w enwi,—ydoedd
Yr adyndidd'ioni,
Diboen iawn, e dybiwn i,
Gwnai'r gwragedd ei ddarngrogi.

Bardd Idris, wedi clywed am yr
anffawd flaenorol, a gânt fel hyn



Rhedwch a daliwch y dylion—ddiogwyr,
A ddygodd ebillion;
Cerddwch yn ffest, curwch â ffon,
I lifo'u gwaed fel afon.

Ateb Meurig Ebrill i Bardd Idris



Cyfraith rwydd hylwydd yw hon—go hysbys,
I gosbi mân—ladron;

Lainio'n ddig â phwysig ffon
Bellach sy am ddwyn ebillion.


DEUDDEG GWAE

GWAE'R dyn cecrus, gresynus groesineb,
Gwae'r enllibiwr, fradwr, byr fo'i rwy'deb,
Gwae'r rhagrithiwr, gau leisiwr, gwael oseb,
Gwae y masweddwr, wydiwr diwiwdeb,
Gwae'r hustyngwr, swynwr llawn casineb,
Gwae'r anudonwr, daerwr diwireb,
Gwae'r absenwr, swniwr heb rasineb,
Gwae'r balch diwylder heb elwch duwioldeb,
Gwae'r cybydd teryll, erchyll ei archeb,
Gwae'r dyn di rin, fo'n byw mewn glythineb,
Gwae'r meddwyn ynfyd coeglyd rhwth cegwleb,
Gwae'r anllad yn anad neb—a fyddo
Gwedi'i gadwyno gyda godineb.



PRIODAS
MR. C. R. JONES, A MISS TIBBOT.

LLEWYRCHODD, debrodd dibrin—wawr araul,
Ar oror Llanfyllin,
Pair godiad, mawrhad a rhin,
Drwy y foesawl dref iesin.

Deddyw degwedd dydd digas—y gwneddwyd
Gweinyddu priodas,
Deuddyn â bywyd addas,
Boddlongar, tringar eu tras.


Cadwaladr doethgadr ŵr da—ma unwyd
A'i anwyl Marïa;
Hawddamori'r ddau yma—a digoll
Oreudeg arfoll ar hyd eu gyrfa.

Mewn bri hir oesi'n rasawl—a gaffont,
Yn gu hoff a siriawl,
Dan aden gref Duw nefawl,
A gwynfyd o hyd i'w hawl.

Mal Abram ddinam ddoniau—a Sarah,
Seirian ei chynneddfau,
Byw mewn cariad, c'lymiad clau,
Y byddont hyd eu beddau.

Eu hil wiw ferth o'u hol a fo—gannoedd,
Yn gwenawl flaguro;
Cu rinwedd a'u corono
Yn delaid, freiniaid y fro.


Y SER

MAE'R ser yn uchder y nen—oddiarnom,
Yn addurno'r wybren;
Eu drych sy'n burwych dros ben
Ar ol machludo'r heulwen.

Heirdd lampau golau, gwiwlon,—a dysglaer,
Megys dysglau gloewon;
Fe daera'r prif awduron
Mai bydoedd yw'r lluoedd llon.

Lloer a ser, eu lleuer sydd,—dealler,
Yn deilliaw'n ysblenydd,

O wawl araul yr haul rhydd,
Llyw difai, yn llaw Dofydd.


THOMAS ELLIS,
BABAN Y PARCH. R. ELLIS, BRITHIDIR.
Cyfansoddedig ar ddymuniad ei
fammaeth, pan yn ymadael â'i lle.

THOMAS, diau ' rwyt imi—yn eulun
Anwylaidd i'w hoffi;
Nis gwn pa fodd gwna'i'th roddi
O'm gafael, a d'adael di.

Mewn hedd dy ymgeleddu—fynaswn,
A'th fynwesawl fagu,
A'th ddwyn yn fwyn i fynu
Drwy feithriniad ceinfad cu.

Dy adael, trwm yw d'wedyd,—ryw dymmor,
Raid imi, f'anwylyd,
Ond llawn a mawr iawn yw 'mryd
Yn iach eilwaith ddychwelyd.

Collaist dy ddinam fami—er niwaid,
Bron newydd dy eni,
Dy adael a wnaed wedi
Heb laeth, yn fab maeth i mi.

Duw anwyl, rhoddwr doniau—cu odiaeth,
A'th gadwo bob prydiau,
Dan dirion union wenau,
Darbodaeth rhagluniaeth glau.


Didwyll fel dy hen deidiau—adwaenid
Eu dinam rinweddau,
Dilyn dan wybr heirdd lwybrau—y ffyddlon
Gu hoff wŷr doethion, y'th gaffer dithau.

Dy dad yn wiw fâd a foddoeth fanwl
I'th fynych gyflwyno
I ofal Nêr,—o'i flaen o,
Le addas, fe wna lwyddo.

Wel, wel, mae rhaid ffarwelio—gwn bellach,
Gan bwyllus obeithio
Cyn hir, y trefnir i'm tro
Atat gael dychwel etto.


Y MAELWYR.

Y MAELWYR rhwng y moelydd—ffei honynt,
'Run ffunud a'u gilydd,
Canant, a dawnsiant bob dydd,
Os daw yn rhochus dywydd.

Aml wenant gan ymloni—a didawl
Y d'wedant heb oedi,
'R olwynion sy'n troi 'leni
Etto on waith o'n tu ni.

Ond ni chlywir, dir, air da—o'u parabl
Tra pery'r cynaua';
Os hin hafaidd nawsaidd wna,
Mawr ochant am yr ucha'.

Tremiant oddiar y trumau—am arwydd
Daw mawrion gafodau,

Gan ddysgwyl mewn hwyl mwynhau
'R adeg gwaethyga'r ydau.

Ar hin deg rhai hynod wgus—fyddant,
A rhyfeddol gecrus;
Gwerthu ga'r teulu gwarthus
Lai ar goel o lèr ac ûs.

Codiad y farchnad a fydd—yn destun
Eu distadl lawenydd;
Ond marchnad fâd rad a rydd,
Erwin boen i'r rhai'n beunydd.

Gwae'r maelwyr, tremwyr trymion,—sy'n achos
O nychu'r tylodion;
Twyllwyr breisg ynt oll o'r bron,
Cribddeiliawg grybaidd alon.

Coeliwch y gwna Duw Celi—eich gwysio,
Grach gasweilch, i gyfri';
Dwg i lawn deg oleuni,
Eich geirwon ddichellion chwi.

Ni châr Nêr, ener union,—halogwyr,
Lewygant reidusion,
Di rith anwyliaid yr Iôn
Yw'r hygar drugarogion.

Anamlach bellach drwy'r byd—fo'r maelwyr
Milain a thrachwantlyd,
Cyn hir fe'u gelwir i gyd
Adref, i gael eu dedryd.


NODIADAU
AR GYMHWYSDERAU BEIRNIAID EISTEDDFODAU,

TONAWG grachfeirniaid dinod—byr ddeall,
Bardduant Eisteddfod;
Henwi rhyw feiau hynod
Wna'r rhai'n lle na bydd bai'n bod.

Myner beirniaid cymenus—gwroniaid
Gwir enwog a dawnus,
Wyr ragor rhwng difregus
Dda rawn pur, a'r a'mhur ûs.

Rhaid eu bod yn feirdd clodfawr—cadeiriawl,
Ac awduron treiddfawr,
Eryrod craffa'r orawr,
O drâs gwell nag Idris Gawr.

Dynion o ddysg a doniau—da, araul,
Diwyrawg feddyliau,
Ofyddion doethion, di au,
Arweddynt naw o raddau.

Gwyr ethawl â rhagoriaethau—dirbur,
Rhag derbyn wynebau,
A stór o gymhwysderau—prif farnwyr
Llon iesin arwyr llawn o synwyrau.

Er clod i eisteddfodau—a lluddias
Hyll eiddig gableddau,
Rhaid cael call a diwallau
Feirniadon—pigion ein pau.


Trwy fawr rin eu doethineb—amlygant
Em loewgoeth eu purdeb;
Tirion wŷr na wnant er neb
Un enyd dderbyn wyneb.

Eglurant yn y glorian—eangder
Teilyngdod pob cynghan;
Y bardd coetha', gwycha'i gân,
Ennilla o hyn allan.

Daw byd gwell, e geir bellach
Farn deg gan wiw feirniaid iach;
Rhoi'n oddaith ar unwaith raid
Goeg farnau y gwag feirniaid.

Mae'r gair ar led y gwledydd
Yn o gryf mai felly fydd;
Gawried can mil y gorair,
Felly bo—rhaid gwirio'r gair.


MARWNAD YR HELIWR,
NEU DDAMMEG Y PRYF LLWYD.

Y LLWYDAIDD bryfyn llidiog—a lithrodd
O lethrau Maentwrog
I lechu, rhag gwlychu'i glog,
Mewn man sydd yn min mawnog.

Y pry' llwyd, ' rol darpar lle—ni erys
Yn hir oddicartre',
Pan wel dipyn o ole',
I'w ffau fawr y ffy efe.


Os egyr ddrws ei ogo'—mewn dychryn
Mae'n dechreu clustfeinio,
Rhag i gwn, frathgwn y fro,
Draw o'r wig droi i'w rwygo.

Y Sabbath ni fyn seibiant—mae'n gwibio
Mewn gobaith am borthiant;
Ni wna swn corgwn ddau cant
Ei drechu i ladd ei drachwant.

Heria bawb (hir yw ei ben)—y Sabbath,
Gau swbach aflawen;
E ddaw'r nos, pan dduo'r nen,
I'w geudwll yn un goden.

Ac yno bydd coginiaeth—heb attal,
A bwyta'r ysglyfaeth,
Fu'n hela i'w gigfa gaeth
Hyd y fro, mewn difrïaeth.

Wyn gwâr, ac adar gwiwdeg—yw'r abwyd,
A reibia'n ddiattreg;
Gwedyn, â phoer gwyn o'i geg,
Chwennych ysglyfio 'chwaneg.

Ar fyr fe ddaw ryw forau—ddaeargwn
Yn ddirgel fel bleiddiau
Dros y ffos, ar draws ei ffau
Ddrewllyd, i'w dynu'n ddrylliau.

Ac wed'yn gwneir ergydio—ei esgyrn
Ar wasgar oddiyno;
A gerwin fydd y gawrio
Darfu ei rwysg dirfawr o.


CLADDEDIGAETHAU
CELWYDDWYR, CYBYDDION, MEDDWON,
GODINEBWYR, A LLADRON.

CLADDER y rhai celwyddog—yn eigion
Mawnogydd Pwll Arthog,
A'r cybyddion creulon crog
Yn mhydew Morfa Madog.

Holl feddwon bryntion ein bro—ergydier
I geudod Corsfochno;
Y llanerch erchyll hono
I'r giwdawd yn feddrawd fo.

Gwydiawg buteinwyr gwed'yn—anfoner
I fynydd y Berwyn;
Cladder a chuddier fel chwŷn—gwenwynig,
Y lluon eiddig yn nghors Llanwddyn.

Helier y lladron halog—a gwarsyth,
I gorsau Hiraethog,
Yn fyddin ddu anfoddog—i'w claddu
'N mhell ar i fynu'n mhyllau rhyw fawnog.

Eu cyrff dan warth ddosbarthir—ar wasgar,
A'u rhwysg a ostyngir;
Eu beddau'n awr, gwybyddir,
(Pwy ammau?) sydd mewn pum sir.

Felly, bobl, fe allai bydd—yn weddus
Cael gweinyddiaeth Clochydd;
Ni ddaw'r Person rhadlon rhydd
Yn agos i'r mawnogydd.


Fe syna rhai defosiynawl—didwyll,
A d'wedant yn foesawl,
Dyma ogan dammegawl
Wrth gladdu, 'n lle mydru mawl!


TOWYN, MEIRION, A'I FFYNNON

HYFRYDLON, rhadlon, a rhydd,—le tawel,
Yw Towyn, Meirionydd;
Am ei ffynnon, son mawr sydd,
Dreigladwy, drwy y gwledydd.

Dw'r oeraidd, puraidd, o ddarpariaeth—deg
A digoll rhagluniaeth;
Drwy Dduw Nêr dyroddi wnaeth
I gannoedd feddyginiaeth.

Mor hoff, ca'dd amryw gloffion—wir iechyd
Wrth ymdrochi'n gyson
Foreu a hwyr yn nwfr hon,
Nes daethant yn ystwythion.

Rhinwedd yr oerddwfr hynod—a bery,
Heb arwydd o balldod,
A'i darddiad rhydd fydd i fod
Drwy oesoedd daear isod.



GWRAGEDD RHINWEDDOL

DEDWYDDAWL ein hendad Adda—d'wedir,
Nad ydoedd yn Ngwynfa,
Nes cael rhodd a'i gwir foddia ',
Sef gwraig hawddgar, ddoethgar, dda.


Caffael hon a'i mawr lonodd—ei hurddas
A'i harddwch a hoffodd;
A'i fyg eulun fe'i galwodd
Yn wraig fâd iawn rywiog fodd.

Mor wiwdeg yn Mharadwys—oedd Addaf,
A'i ddyddan wraig gymhwys,
Prydferthach, gloywach na glwys—heirdd liwiau,
Ac addurniadau y perlau purlwys.

Rhoddant ogoniant yn gu—i Ddofydd,
Gan ddyfal foliannu,
Cyn i'r diafl mewn cynhwr' du—' n faleisus,
A'i dybiau awchus eu hudo i bechu.

Er llithro, gŵyro dan gerydd,—wgus,
Drwy ddigio'u Creawdydd,
Parausant mewn trefniant rhydd—yn ffyddlon,
O gywir galon i garu eu gilydd.

Dylai gwyr mewn dihalog wedd—garu
Eu gorwych hoff wragedd,
A rhoi iddynt barch rhwyddwedd
Bob pryd, yn hyfryd mewn hedd.

Hyd fedd eu hanrhydeddu—sy'n weddus
Weinyddiad mwyneiddgu,
Heb chwerwder na digter du,
Ymrodder i'w mawreddu.

Gwedaf, ni wadaf wed'yn,—tra oeswyf,
Mai trysor mwy dillyn,
Gŵyr miloedd, nag aur melyn,
Yw gwraig gall, ddiwall, i ddyn.


Darbodus, hoffus yw hi,—hap siriol,
Heb soriant na choegni;
Mewn llawn serch ei gwir berchi—a ddylid,
Dan droi'n gwir ryddid yn dringar iddi.

Ni thry'i chefn heb iawn drefnu—achosion
A chysur ei theulu;
Puredig ddarpariadu
Mae'n wastad mewn cariad cu.

Dan ei bron dirion nid oes—yn llechu
'Run llwchyn o anfoes,
Na du ragfarn na drygfoes,
Nag un gradd o gynhen groes.

Dilys y gwna â'i dwylo—ei gorchwyl,
Gan chwai gyrchu ato;
Mewn gwirionedd mae'n gryno,
A drych hyfrydwych y fro.

I'w thylwyth, mewn iaith olau,—y dyrydd
Dirion addysgiadau;
Enaid y gwir, ac nid gau,—ddaw'n gyson,
A ffriwdeg union yn ffrwd o'i genau

Fel yna dybena bill,
Mêr gobryn Meurig Ebrill.


Y PARCH, BENJAMIN PRICE
(CYMRO BACH,)
GOHEBYDD FFRAETHBERT Y GYMRAES.

HENFFYCH well, medd pawb bellach,—wiw hybarch
Ohebydd disothach;
P'le ceir coeth awdwr doethach,
Ac mor bert a'r Cymro Bach?


Dy gywrain ffraethdeg eiriau—synwyrddoeth,
Sy'n urddo'th draethodau,
Cywir y gwelir hwy'n gwau
Drwy'u gilydd yn dra golau.

Mae agwedd dy ddammegion—mawreddog,
Mor hyddestl a chyson,
Arabaidd ddiarhebion,
Mwy eu bri na'r gemau bron.

Helaethach, hyfach o hyd,—yr elych,
Areilia'r ieuenctyd;
A'r plant a gofiant i gyd
Dy eiriau fel diawryd.

Manwl sylwa pob meinwen—ddeallus,
Ar ddullwedd ddoeth addien
Gwraig Adda gyda'i theg wên,
Gem geinwych hen Gwm Gwenen.

Goddeg amlwg yw iddyn '—ochelyd
Pob crach halog feddwyn,
A'r gwarthus ddigus ddiogyn,
Llawn o dwyll, naw llai na dyn.

Gwir addysg teg a roddi—heb lun twyll,
I blant a rhieni;
Cedyrn bo hwythau'n codi
At eu gwaith wrth d'araith di.

Y Cymro Bach, cymer y byd—o'th flaen,
Ac na'th fliner hefyd;
Dy radlawn ddysg dirydlyd
Sy'n gweddu drwy Gymru i gyd.


HUMPHREY EVAN,
BRITHDIR, GER DOLGELLAU.

HOFF ŵr ufudd yw Humphrey Evan—pur,
Yn cael parch yn mhobman;
Dewr siriol frodor seirian,
Mawr ei glod, a Chymro glân.

Dyngarwr â doniau gwiwrwydd—ydyw,
Odiaeth ei onestrwydd;
Da wr oediawg diw'radwydd,
Fel hen sant cyflawna'i swydd.

Yn ddiddig mewn naw o ddyddiau—teithia
At waith mynydd Bucklau;
A daw'n ol o dan hwyliau—yn deilwng,
Drwy ddal a gollwng, i dre' Ddolgellau.

Ei ddewisol ddau asyn—cwplysog,
Pleser yw eu canlyn;
Diochri, heb ofn na dychryn—i'w taith,
Yr ânt ar unwaith, ni wyrant ronyn.

Dan gerdded yn agwrddol—y draulfawr
Bedrolfen gysgodol
A lusgant, tynant o'u hol
Yn araf ac yn wrol.

Dau ydynt, mae'n hawdd d'wedyd, odiaethol,
Gydweithiant yn unfryd;
Rhy anhawdd unrhyw enyd
Cael dau o'u bathau drwy'r byd.


Ercher mawr lwydd rhwydd dan rhod—i'r gwron,
A'r gwaraidd asynod;
Na chaed tramgwydd afrwydd dd'od
Cwyf erfawr, i'w cyfarfod.

Boed iachus, hapus oes hir,—i gludydd
Hyglodus y Brithdir;
Ni feiddiodd wneud, fe wyddir,
Un tro sal yn y tair sir.

Aethus, ddirwgus ddreigiau,—e goelir,
A giliant o'i lwybrau;
Hen ellyllon gwyllion gau
A ffoant draw i'w ffauau.

Bri mawr a gaiff bro Meirion—o herwydd
Ei harwr mwyneiddlon;
Pery ei enw pur union
Drwy y sir wedi'r oes hon.


VICAR CONWY

CANER i Vicar Conwy—wir eres
Arwyrain blethadwy;
D'weder yn bur glodadwy
Am y gwr, pleidiwr y plwy'.

Dyma ŵr da'i ymyraeth—a haeddai
Gyhoeddus ganmoliaeth;
Treth yr offrwm, gorthrwm gaeth,
Ysgubodd o'i esgobaeth.

Ffromodd wrth wel'd offrymu—o byrsau
I Berson am gladdu;

Hawddamor!—mae'n diddymu
Toll deddf yn nghylch y "twll du."

E ballir offrymu bellach—d'wedir,
Nid ydyw'n gyfrinach,
Y gellir cael trefn gallach,
I fwrw i'r bedd fawr a bach.

Gweld swm ei ddegwm yn ddigon—o dal
Mae'r dihalog Berson,
A thâl teg i'w landeg lon
Hoffeiddlwys Glochydd ffyddlon.

Dyna i chwi, 'r Cymry doniawl,—diniwaid,
Un newydd rhagorawl;
Yn Nghonwy, mwyfwy fo'r mawl,
Boddwyd y ddeddf babyddawl.

Mae'r hanes hwn mor hynod—gwnai destun
Dwysteg mewn eisteddfod;
Hwyrach, pan clywir Herod
Yn coffa'i fai, caiff o fod.

Anrheged rhyw feirdd yn rhagor—y doeth
Odiaethol Beriglor;
Er dim, caffed hir dymmor
Y man y mae, 'n min y môr.


BUGEILIAID EPPYNT

DIHAP Fugeiliaid Eppynt—rhyw faeddod
Rhyfeddol iawn ydynt;
Gwehilion drwg eu helynt,
O chwaeth gas—go chwithig ynt.


Bugeiliaid, gwylliaid gwallus,—annoethion,
Eithaf cenfigenus;
Ow, gwŷr gwellt, sofl, gwair, ac ûs,
Yw'r bratiau—fe ŵyr Brutus.

Bugeiliaid yn bygylu—a lluchiaw
Eu llwch ar i fynu;
Lluddia'u cwmwl dwl a du,
Erchyll, i'r "Haul" lewyrchu.

Bugeiliaid yn labio'u gilydd—ydynt,
Dros ddaliadau crefydd;
Ond Ifor, yn enw Dafydd,
Cawr o'r De, sy'n cario'r dydd,

Llewelyn, ddwlyn, a ddulia—Ifor,
Myn e fod yn drecha;
Pwnia Sierlyn wed'yn, a
Yr hen Idwal ddyrnodia.

Pedwar llais, dyfais un dyn,—a'i wawdiaith,
Yw Idwal a Sierlyn,
Ac Ifor, gwelltor llawn gwŷn,
Hyll olwg, a Llewelyn.

Wel, yn awr, feddyliwn i,—mai anhawdd,
Er mynych ymholi,
Cael tan nen un i'w enwi,
Wrth ddadlu, yn trechu tri.

Ond gerwin nwyd engiriol—ennyna
Yn anian sel bleidiol,
Bydd fel tân yn syfrdan siol
Wenwynig dyn hunanol.


Yn awr, goddefwch i ni
Roi iachus gynghor ichwi.

Gwyliwch eich praidd, fugeiliaid,—rhag dinystr,
A rhwyg dannedd bleiddiaid;
Rho'wch heibio bwnio'n ddibaid,
Fel annoeth gerth fileiniaid.

Bwriwch, rhag tristwch, y trawstiau—hyllig,
Allan o'ch llygadau,
Hawdd wed'yn i bryfyn brau,
Heb roch, fydd gweld y brychau.

Di glod ar hyd y gwledydd—yw llafur
Rhai'n gwelleifio'u gilydd;
Pob diabsen ddarllenydd
Cosi'i ben a'u casâu bydd.

Byw'n ddiddig, bwyllig, bellach—a wneloch,
Mewn hylwydd gyfeillach,
Fel brodyr, a gwŷr teg iach,
Eirian llon, o'r un llinach.


HARLECH A'I CHASTELL

HARLECH sy bentref hirlwm—oer hefyd,
A rhyfedd o noethlwm,
Lle creigiog, ochrog, a chrwm,
Rheng o dai gwael rhwng dau gwm.

Er hyny mae'n wir enwog—o achos
Mawrwychedd godidog
Y cywrain Gastell caerog,
Binacl claer, sydd ar ben clog.


Ac hefyd, dylid cofio—y gwesty
Hardd gwastad sydd yno,
Plas-yn-Harlech, drwy'r frech fro,
Gwyddys, 'does tebyg iddo.

I deithwyr mae'n lle odiaethol—anwyl,
Am luniaeth iachusol,
A rhyw swm pur resymol
A raid ei dalu ar ol.

Dirwystrus, heb drahaustra,—yn llonwych,
A llawn o fwyneidd-dra,
Heb omedd, caiff pawb yma
Fwydydd a diodydd da.


DAU OF YN GWEITHIO

GWELAF ddianaf ddau o'_tra dawnus
Yn trydanawl weithio;
Daliant i droi a dulio
Haiarn noeth tra'n boeth y bo.

Terwynwyllt bob tu'r einion—y pwniant,
A'a penau yn noethion,
Labiant nes chwysu'n wlybion,
A'u dwylaw yn brydiaw bron.

Gwed'yn ei lunio'n gudeg—a wneddynt,
Yn addas i'w gofeg
Bwriadol, yn bur wiwdeg,
Heb grychni, brychni, na breg.

Dau ŵr odiaeth dewr ydych—dau ddigon
Diddiogi'n edrych;

Dau ôf doethgar, gweithgar, gwych,
A dewrion, fel dau eurych.


ANERCH I LENORION Y BRITHDIR,
DOLGELLAU.

LLAWN o aidd ydyw llenyddion—gwiwlwys
Broydd Gwalia'r awr'on;
Adrodd gwaith prif—feirdd heirddion
Geir braidd yn mhob lle ger bron.

Dibrin rhoddir da wobrau—llawn addurn
I'r llenyddion gorau;
Pur o hyd y mae'n parhau
Emwrys iawn ymrysonau.

Milwaith y mawr ganmolir—llenorion
Llon eirioes y Brithdir;
Canfod eu gwell nis gellir
O Fon deg i Fynwy dir.

Gorwych a da ddiguraw—eu clywir
Yn cloiawg bwysleisiaw;
Eu llais ac amnaid y llaw
Naturiol sy'n cyd-daraw.

Llywyddu mewn dull addas—ragorawl,
Y mae'r gwr o Wanas,
A llun hardd yn llawn urddas,
A bri, heb ddim coegni cas.

Da eithaf gwedi'i ethawl—a'i godi
I'r gadair lywyddawl,
Dangosodd, a hònodd hawl
Llâd 'reithydd llywodraethawl.


Ymwriwch, lanciau mirain,—a gawriwch,
Nes bo'ch geiriau madiain
Yn cyrhaedd a dawn cywrain,
Radau myg, i Rydymain.

Eich gweled gyda'ch gilydd—mor odiaeth,
Mawr ydyw'r llawenydd;
A'ch gwaith campus hoffus sydd
Yn glodus hyd ein gwledydd.

Eich cyflym awgrym wiwgreth—a daeno
Hyd wyneb Llanfachreth;
Drwy hyn, heb fymryn o feth,—daw'r ardal
Yn llawn o'r dyfal ddarllenwyr difeth.


Y PARCH. E. DAVIES
(ETA DELTA.)

ARFER beirdd ein erfawr bau
Fu siarad rhyw fwys—eiriau;
Amser fu er dysgu'r dwl,
Da fyddai gair daufeddwl.

Mae Eta Delta bob dydd—i'w nodi
Yn wiwdeg ohebydd,
A'i ddur bin ni ddawr beunydd,
Heibio i bawb gohebu bydd.

Ni wel neb un gohebydd—diaball
O'i debyg drwy'r gwledydd;
Dyfnion wersi llawn defnydd
Gan Eta'n drysorfa sydd.


Dyn yw hwn â dawn hynod—olwynawg
I lenwi pob cyfnod;
Heb Delta ni bydda'n bod
Gwir elw mewn dim Grealod.

Yn hyawdl mewn hen a newydd—selog
Fisolion ein broydd,
Rhyw ddarlith ddi rith a rydd,
Goeth, rinawl, gu athronydd.

Mor eon a'i amrywiaeth—awdurol
Y dyry ddysgeidiaeth;
A gwên lon dirion y daeth—hyd Gymru,
I dda weinyddu ei dduwinyddiaeth.

Mae'n dreiddiawl mewn daearyddiaeth—cadarn
Y cwyd at seryddiaeth;
Ac athraw, gall ffrostiaw'n ffraeth
Rhyfeddol mewn rhifyddiaeth.

Baedda'r hen Fam babyddawl—ag aethus
Fygythion arswydawl;
Ond i'r FERCH y dyry fawl
Trwy ryw fodd tra rhyfeddawl.

Unwaith â'i araith eirian—cyffyrddodd
A ffordd i gael allan
Gu iesin glir gosyn glân,
Tewflith, o gawsellt aflan.

Gorwych am phisygwriaeth—ei cafwyd,
Cofir ei wasanaeth;
Adfer drwy rin ei driniaeth
Yn ddigon iach ddegau wnaeth.


Rhwydd heb wâd rhydd wybodaeth—gu wempawg
O gwmpas coginiaeth;
Dysg yn deg â'i chweg wiw chwaeth_i'r gwragedd
Yn bert a llonwedd barotoi lluniaeth.

Rhyfedd mor glodfawr hefyd—a dwysgall,
Y dysga'r ieuenctyd;
Fe rydd bob cyfarwyddyd
I'r rhei'ni iawn bobli'r byd.

I'r meibion dan rhod fe noda—' r adeg
Briodol i wreica;
Ac i'r merched d'wed air da,
Eres, pa bryd i wra.

Rhydd ddengmlwydd (arwydd orau)—ar hugain,
Neu ragor i'r llanciau;
Cu enethod, cân' hwythau,
O'i ran ef, wra yn iau.

Plant ffol i ddiafol, medd O,—yw pob un,
Pawb oll na phriodo,
Er mwyn cael, ar drafael dro,
Hap hylwydd wrth epilio.

Os gwir hyn, ys gwae rhei'ni—na feiddiant
Feddwl am briodi;
Gresyn na wnaent ymgroesi—a chanfod
Mor dra hynod yw eu mawr drueni.

Mae Eta'n trin y mater—is wybren
Yn sobraidd bob amser,
Er hyny, prin yr hanner—o'r Cymry,
A dŷn i fyny o dan ei faner.


Da gŵyr yr adeg orau—i'r hynaws
Rïanod a'r llanciau
Fyn'd dan rwymiad, c'lymiad clau,—parhäawl,
Hyny hyd ingawl wahaniad angau.

Onid oes seiniau dwysion—yn berwi
Yn ei bur gynghorion?
Gwell eu ceir, os eir i son,
Drwyddynt na rhai'r derwyddon.

Ar len os gwna neb benu—un rhinwedd
Yn rhïanod Cymru,
Gwrthddadl rydd ef i'w gwarthu
Ar dalcen y ddalen ddu.

Taro'n flin erwin a wnaeth ar gynnydd
Drygioni puteiniaeth
Y prif bwnc mewn cyfwng caeth—sydd ganddo
A lleisiau drosto, yw lles dirwestiaeth.

Ni fetha Eta roi ateb—parod,
I'r pura'i ddoethineb;
Cawr o awdwr cry' wiwdeb,
Dwfn iawn yw, nad ofna neb.

Yn ŵr iach bellach bob awr—bo Eta,
Heb attal dysg werthfawr;
Dalied yn deg hyd elawr,
Caiff helaeth ganmoliaeth mawr.


ELLIS ROBERTS (EOS GLAN WNION)

Wyth llinell eitha' llawnion—a weaf
I Eos Glan Wnion,

Bardd treiddgar, breingar ger bron,
A llenydd doethgall union.

Y siriawl Eos eirian—sy' reddfol
Syw rwyddfardd o anian,
A'i brif waith brofa weithian
Ei fedr coeth i fydru cân.


ANERCH I MR. JOHN DAVIES
UTICA, AMERICA
Mab Mr. John Davies, Llyfr—rwymydd, Dolgellau.

Y GWARAIDD rywiog wron—drwy gariad,
'Rwy'n gyru yrawr'on
O wlad bell y llinell hon
I'th anerch mewn iaith union.

Diystryw mewn gwlad estron—Amerig,
Dros y moroedd meithion,
Duw Iôr a rano dirion
Einioes hir i fy nai Siôn.

Draenog o ddyn dirinwedd—wnaeth anfon
Noeth ynfyd anwiredd;
D'wedai it gael, mewn gwaeledd,
O'r byd dy hebrwng i'r bedd.

Dedwydd a hyfryd ydyw—dy rywiog
Fad rïaint diledryw,
A'th frawd destl, hyddestl, heddyw,
'Nol gwybod dy fod yn fyw.


Minnau o wraidd fy mynwes—wy'n manwl
Ddymuno heb rodres
Yn rhwydd iť bob llwydd a lles,
Fy llariaidd gyfaill eres.


ANERCHIAD I MEURIG EBRILL,
GAN GUTYN EBRILL.

MEURIG EBRILL, pill o'm pen—a ganaf
I dy geinwech awen;
Doniau Nudd ge'st ti dan nen
I ganu heb un gynen.


ANERCHIAD I GUTYN EBRILL,
GAN MEURIG EBRILL

I Gutyn, heb goeg watwor,—y gyraf
Rai geiriau yn rhagor,
Ni wnaf erwin gyfri'n gör
Deg wiwddyn da'i egwyddor.

Nid poen i mi wneud pennill—yn gonglog
Ag englyn tri-deg-sill,
I'r bardd bach llwybreiddia'i bill,
Tan wybren, Gutyn Ebrill.

Heddyw y'th daer wahoddaf—i'm hannedd,
Am hyny'r ymbiliaf;
Tyred yn hardd, brif—fardd braf,
Gutyn, trwy goedwig ataf.

Cuchiog mae'r Gaua'n cychwyn—a'r barug
Drwy'r boreu sydd glaerwyn,

Ac etto ni wna Gutyn
Deri'i gorff gan eira gwyn.

Gwell fy sut pan ddel Gutyn—a fyddaf,
' Rwy'n rhyw feddwl, gwed'yn;
Brysia ddyfod, ddewrglod ddyn,
Gonest, cyn dechreu'r Gwanwyn.

Pan ddelych, geinwych ganwr,—cei luniaeth,
Cei le yn y parlwr;
Cei eistedd fel cu westwr,
Cei fyd da, cei yfed dwr.

Dyfydd fel glân bendefig—iach hylwydd,
A chalon garedig;
Cei fyw'n ddestl, heb dymhestl dig,
Am oriau yn nhŷ Meurig.

Dyna'n o gwta, Gutyn,—ti weli,
It waelaidd wyth englyn,
Etto toc ti gei at hyn
Gydiedig wyth gwawdodyn.


GUTYN EBRILL ETTO.

Cyn y Pasc rhaid canu pill—teg etto
I ti, Gutyn Ebrill,
Cadwynawg, banawg bennill,
Yn gerddgar, seingar, bob sill.

Da'r haeddit, awdwr rhwyddwych,—difalais,
Gael dy foli'n fynych;
Manwl bryddestydd mwynwych
Gwiw iawn wyt, ag awen wych.


Canu i "Lythyrdoll Ceiniog "—a wnaethost
Yn eithaf godidog;
Cei wobr mawr iawn, a llawn llog,
Am ragorwaith mor gaerog.

Dos rhagod, cei glod yn glau—o ethryb
Dy uthrawl bryddestau,
Ca'r Brython bylon fwynhau
Diddanawl ffrwyth dy ddoniau.


PRIODAS
MR. ROBERT PUGH, A MISS ANNE JONES
Gwesty'r Alarch, Dolgellau

HAWDDAMOR heddyw yma—i Robert,
Y gwir hybarch wrda;
Ag Anne ddoeth, ei gu iawn dda
Rywiog weddaidd wraig wiwdda.

Dylid dyrchafu dolef—aruthrfawr,
Yr wythfed o Hydref;
Boed byd hawdd dan nawdd Duw nef,
A heddwch yn eu haddef.

Gan mai hwn, d'wedwn, yw'r dydd—yr unwyd,
Yr anwyl bar dedwydd,
Hir goffâd iawn fâd a fydd
Am dano'n ngrym dywenydd.

Robert sydd fab arabwych—Ieuan Awst,
Hwn oedd yn ŵr callwych,
Gyfreithydd ac ieithydd gwych,
Diwyro, a bardd dewrwych.


Hefyd, ei briod hafarch—mae'n weddus,
Ei mwyneiddiawl gyfarch,
Sydd ferch Ieuan, burlan barch,
Rheolwr Gwesty'r Alarch.

Puwiaid, ac Io'niaid, cannoedd—o'u llinach,
Fo'n llenwi'n hardaloedd;
Cenedl gref, ddigyfref, g'oedd,
Eresawl, f'ont drwy'r oesoedd.


COFGOLOFN DAFYDD IONAWR,
YN MYNWENT DOLGELLAU.
A wnaed ar draul y Parch. J. Jones, M.A. Borthwnog.

EURFYG gofgolofn erfawr—gre' foddawg,
Ar fedd Dafydd Ionawr,
Gywrain wych, a geir yn awr,
O galedfain gwiw glodfawr.

Cofgolofn bardd, hardd yw hon—llawn addurn,
Lle noddir gweddillion
Corff mawr arwr craff Meirion—lladmerydd,
Mwyn dêr awenydd yn min dw'r Wnion.

Gwir enwog bur gywreinwaith—neud ydyw
Nodedig o berffaith;
Ni welir un manylwaith
Cadarnach na choethach chwaith.

Diodid, er mor glodadwy,—gwelir
Y golofn safadwy,
Mydrau'r bardd mâd profadwy
Sydd ganmil a milfil mwy.


Ei chweg gain wiwdeg ganiadon—gorwych,
A gerir gan Frython
Tra rhed dw'r, tra rhua tòn,
A'r môr wrth odre Meirion.

Mewn bri, fel meini mynawr,—hyd foreu
Adferiad o'r dulawr,
Y gu lefn ferth golofn fawr,
Bydd yna uwch bedd Ionawr.


GWALLT GWYN.
A gyfansoddwyd wrth edrych ar hen gyfaill.

Yn ben coch y bu'n cychwyn—ac eilwaith
Fe'i gwelwyd yn felyn,
Gwyddys fod gwallt y gwiwddyn,
Hawdd i ni weld, heddyw'n wyn.

E rydd hyn arwydd hynod—tra eglur,
Mai trigle y beddrod
Yw'r fan cei'n bur fuan fod,
Dy yrfa sydd bron darfod.



MYNEDIAD
Y BARDD MEWN CWCH I ABERMAW.

DAETHOM yn hawdd hyd Fawddach—dan hwbian
Heibio Aberamffrach;
Yn bwyllig ni gawn bellach
Laniaw yn Abermaw bach.


BLWYDD YN LLADD DWYFLWYDD

YSTYRIAIS mewn dystawrwydd—rhyfeddais
Wirfoddawl ffyrnigrwydd
Llyffant anwar, bleiddgar, blwydd,
Dieflig, yn lladd y dwyflwydd.


HEN WR GWEDDW
YN PRIODI MERCH IEUANC.

Yn ffyddlon rhodd Siôn ei serch—ar Feti,
Gwir fater o draserch;
A rhoddodd Huw Siôn Rhydderch
I Siôn, yn foddlon, ei ferch.



BWLCH OERDDRWS

Bwlch OERDDRWS serth, gerth o'i go'—lle uchel,
Heb un lloches ynddo,
Ar hin oerllyd, drymllyd dro,
Tristwch geir wrth fyn'd trosto.



YR HAF

Fe ddaeth yr haf braf ger bron—er llesiant
I'r llysiau a'r meillion;
Cryfhau'r eginau gweinion
Mewn pryd mae'r hin hyfryd hon.



BYRDRA OES

Mal chwedl mae'r holl genedloedd—trwy waeledd,
Yn treulio'u blyneddoedd;
Ymryson myn'd mae'r oesoedd—yn brysur
Heibio, 'run fesur a byrion fisoedd.


PEIRIANNWAITH BRETHYNAU
JOHN AC ELIZABETH MILLS, FELINUCHAF,
DOLGELLAU.

GOLWG well ar Ddolgellau—'n ddiballiant
Ddaw bellach am oesau;
Bri dieisawr, clodfawr, clau,
Ddodir i'r celfyddydau.

Gwir goethfawr gaerog weithfa—ofalus,
Sy'n y Felinucha ',
Nwyfau teg, difreg, a da,
Yw llumon у lle yma.

Gwempus addurnol gampwaith—odiaethol
Gydweithir yn berffaith;
Peiriannau pur ar unwaith
Oll un wedd sy'n llawn o waith.

Dianaf gribydd doniol—galluog,
A lliwydd medrusol,
Rhai na âd yn fwriadol
Mo'u gwaith yr unwaith ar ol.

Rhai nyddwyr llawn rhinweddau—ac eraill
Yn cywrain wneud pinau,
A rhai gwâr, gweithgar, yn gwau,
Yma geir am y gorau.

Cwyraidd frethynau caerog—a lliwdeg,
Wnaent ddilladu'r Marchog,
Defnydd prydferth glydferth glog,
A gleiniaidd lodrau gwlanog.


Y siriol wraig lwys eirian—a welir
Yn rheoli'r cyfan;
Hwylio'r gwaith rhwyddfaith bob rhan
O hono, a wna'i hunan.

Clamp o dlws arian yn gyfan gafodd
Am nwyfau breiniawl, ethawl, a weithiodd;
Ei choeth dda wiwddestl wych waith a'i haeddodd,
Ar dwr o gawri y dewr ragorodd;
Ei chlodus barch a ledodd—drwy'r dalaeth,
A bri ehelaeth i'w bro a hawliodd.

Holl feirddion gwiwlon Gwalia—eiddunwch,
Drwy ddinam fwyneidd-dra,
Fyd esmwyth i dylwyth da,
Iachus, y Felinucha '.


MR. ELLIS ROBERTS
(EOS MEIRION)
TELYNOR TYWYSOG CYMRU

Ys mawrwych Eos Meirion—a ddenwyd
I ddinas y Saeson;
Hanodd y mad wr llad llon
O bur wythi y Brython.

Dylanwad prif Delynawr—ein henwog
Dywysog dieisiawr,
Dros holl Frydain firain, fawr,
A gyrhaedd i bob gorawr.

Yn Ewrob nid oes un arall—fesur
Iawn fiwsig mor ddiball;

Pergoeth i bob nôd purgall
Etyb ef, heb iot o ball.

Gwalia o benbwygilydd—er adfer
Gwir redfa llawenydd,
Mewn hwyl sy'n dysgwyl bob dydd
Am Ellis rhwng ei moelydd.


CALENIG
I GYMDEITHAS LENYDDOL
Y BALA, ION. 12, 1853.

HAWDDAMOR i lenorion—y Bala,
Eirian belydr Meirion;
Mawreddawg ladmeryddion,
Dorf hardd, geir yn y dref hon.

Treiddgar iawn wiwgar enwogion—doethaidd,
O deithi'r hen Frython,
Yma sydd, daw mwy o son
Am eu drychawl ymdrechion.

Da beunydd yw'ch dybenion—unfrydawl,
Iawn frodyr heddychlon,
Cynnyddfawr, llwyddfawr, a llon,
Ddwysgu deg ddysgedigion.

Cawraidd bwysleiswyr cywrain—dir ydych,
Rydd d'rawiadol adsain,
Caiff pob gair, mawrair mirain,
Briodawl, gysonawl sain.

Nid diffaith goegwaith na gwegi—halog,
A heliwch yn wersi;
Ond gwaith iawn o goeth yni
Awduron breinlon eu bri.


Ewch y'mlaen drwy wych ymlyniad—grymus,
Yn myg rwymau cariad,
Lleufer mawr o'ch llafur mâd
Ga eraill yn gu wawriad.

Seithwell na doethwys Athen—dwys gydiwch
Mewn dysgeidiaeth drylen;
Boed pynciau eich llyfrau llên
Yn oleu a diniwlen.

Ymgyrhaedd am y gorau—a wneloch,
Yn ol eich talentau,
Ceir gweld llachar, glodgar, glau,
Urdduniant eich heirdd ddoniau.

Dilwgr a fo'r frawdoliaeth—heb goledd,
Bygylawg ddadleuaeth,
Nac aelod mewn ffregod ffraeth,
Flin yru am flaenoriaeth.

Cain addfwyn feib cynnyddfawr—a fyddoch,
A rhyfeddol glodfawr;
Gwyliwch yn ffel hyd elawr,
Fwy fwy, rhag chwyddo'n V fawr.

Yn bybyr, arwyr eirian,—dihalog,
Y deloch yn fuan;
Parch hynod, a chlod achlân,
Ennilloch o hyn allan.

Athrawon doethion a da—synwyrol,
Sy'n awr yn y Bala,
Michael a John union, a
Llewelyn, bri holl Walia.


MARY JONES,
Merch fechan Mr. a Mrs. Jones, Liverpool House Dolgellau.

MAIR seirian, O mor siriol—a thelaid,
Yw'th olwg serchiadol;
Mae'th ruddiau mwyth ireiddiol,
A'u lliw'n deg fel meillion dol.

Mair ddestlus foddus ni fu—dewr eneth
Dirionach yn Nghymru;
Dy fam a'th dad ceinfad cu
Fywiogant wrth dy fagu.


ARALLEIRIAD
O amrywiol ranau o'r Ysgrythyrau.

JOB XIV

Dyn o'i fabandod, hyn sydd wir,
Amgylchir gan drallodion,
A'i ddyddiau sydd yn fyrion iawn,
A rhei'ny'n llawn helbulon.

Daw allan fel planhigyn îr,
Ond chwai ei tòrir ymaith,
Ac megys cysgod cilio wna,
Ni bydd ei yrfa'n hirfaith.

O Arglwydd, a agori di
Ar fy math i dy lygad?
A ddygi di y fi i farn,
Fy anwyl gadarn Geidwad?


Pwy ddyry allan un peth glân
O aflan? sydd ofyniad;
Ni ddichon neb o ddynolryw
Wneud hyny, yw'r atebiad.

Holl ddyddiau dyn, mor glir a'r gwawl,
Gan Dduw hysbysawl ydynt;
Rhifedi'i fisoedd sydd dan glo,
Fel na chyrhaeddo drostynt.

Tro'th lid oddiwrtho enyd awr,
Esmwytha'i ddirfawr drallod,
Nes y gorpheno yn ddigas
Fel cyflog was ei ddiwrnod.

Gwir yw fod gobaith o bren gwael,
Er iddo gael ei ddri,
Y daw o'i foncyff flagur cu,
I gadarn dyfu gwedi.

Er i'w brydferthwch yn y tir,
A'i wreiddyn îr heneiddio,
A'i foncyff, oedd yn iraidd iawn,
Mewn priddell lawn farweiddio,

Fe ail Alagura'n deg ar g'oedd,
Wrth arogl dyfroedd wed'yn,
A bwria allan yn ddigel
Ganghenau fel planhigyn.

Ond gwr fydd marw'n wael ei fri,
Caiff ef ei dòri ymaith;
A dyn a drenga, p'le mae fo?
A welir mo'no eilwaith?


' Run fath a'r dyfroedd, fu'n ystôr
O'r eang fôr, yn pallu;
A'r afon oedd a'i ffrydiau'n bur,
Mae hdno'n prysur sychu.

Ac felly gwr, yn ngwaelod bedd
Fe orwedd ei ran farwol,
Hyd gyfnewidiad daear lawr,
A'r nefoedd fawr wybrenol.

Gan faint ei drallod yn y byd,
Mae lawer pryd yn wylo;
Chwennycha'n fynych yr un wedd
Gael yn y bedd ei guddio.

Gwr a fydd marw, [3] hyn heb wâd
Sydd yn osodiad dwyfol,
Ac adgyfodir ef drachefn,
Yn ol y drefn arfaethol.

Dysgwyliaf, meddai Job, yn glau,
Holl ddyddiau fy milwriaeth,
Y cyfyd Crist fy nghorff yn fyw,
Er profi briw marwolaeth.

Ti elwi arnaf, o Dduw mau,
A minnau a'th atebaf;
Chwennychi waith dy ddwylaw mâd,
Sydd o'th wneuthuriad harddaf.

Fy nghamrau 'nawr mewn anial dir
A rifi'n gywir hynod;

Ac onid ydwyt (dyna 'nghred)
Yn gwylied ar fy mhechod?
Mewn côd gauedig, Duw fy rhi,
Y seliaist di fy nghamwedd;

A gwnïo wnaethost, Arglwydd cu,
I fyny fy anwiredd.
Y mynydd cribog syrthio wna,
Ac a ddiflana hefyd,

A'r graig gadarna' dan y ne'
Caiff hon o'i lle ei symud.
Y dyfroedd treulio'r ceryg wnant,
A llwyr y golchant ymaith

Y pethau dyfant yn mhob dull,
A dyn a gyll ei obaith.
Gorchfygu'r ydwyt ei holl nerth
Trwy ofid certh a phrudd—der,

A chan mor salw yw ei wedd,
Fe syrth i'r bedd ar fyrder.
Ac felly rhybudd teg a roi
I ddyn osgoi ffolineb,

Am fod ei gred a'i obaith gwan
Yn llawn o annoethineb.
Ei feibion gyfyd dan y ser,
A chyfoeth lawer ganddynt;

Ond gan ei gur a'i ofid llym,
Nis gŵyr ef ddim oddiwrthynt.
Ei gnawd dolurio arno wna,
Fe guria dan ei gerydd;


Galara ynddo'i enaid tau,
Gan faint ei boenau beunydd.

O! 'r fath drueni ddygodd dyn
I'w ran ei hun drwy bechod;
Ond trefn i'w lwyr iachâu a gaed
Drwy santaidd waed y cymmod.

Gan hyny, na foddloned neb
Ar lai na phurdeb crefydd,
Fel gallo sefyll yn ddifraw
Ar ddeheu law y Barnydd.


DIARHEBION IV

GWRANDEWCH, O blant, ar addysg tad,
Atebawl fwriad diball,
Ac erglywch genyf gynghor cu
I dawel ddysgu deall.

Can's rhoddaf i chwi addysg dda,
Yr hon a'ch gwna yn ddoethion;
Ac na wrthodwch chwithau fyth
Fy nghyfraith ddilyth gyfion.

Yr oeddwn i yn fab i'm tad,
Diarchar fâd ei orchwyl,
Yn dyner hefyd a dinam
Yn mynwes fy mam anwyl.

Efe a'm dysgai yn ddidwyll
Mewn gwiwrwydd bwyll rhagorol,
A'i holl gynghorion oedd, mae'n ddir,
Yn addysg wirioneddol.


Cais wir ddoethineb yn ddiball,
Cais berffaith ddeall hefyd,
Na wyra chwaith o'r llwybr cu
Sy'n arwain fry i'r bywyd.

Byth nac ymâd, er allo neb,
A gwir ddoethineb nefol,
Ond car hi'n fwy na dynol gêd,
Hi'th wared yn dragwyddol.

Y penaf peth yn drysor gwiw
I'th enaid yw doethineb,
Ac â'th holl nerth a'th gyfoeth mâd
Cais ddeall a duwioldeb.

Dyrchafa di ddoethineb dda,
Cei wledda mewn cu lwyddiant,
A hithau a'th ddyrchafa di
I fythawl fri heb fethiant.

Doethineb nef rydd i ti hawl
O annherfynawl fwyniant,
Ychwaneg ras i'th ben rydd hon,
A choron o ogoniant.

Gan hyny gwrando'n awr, fy mab,
A derbyn f'arab eiriau,
Blyneddoedd d'einioes a sicrheir,
Ac amlheir dy ddyddiau.

Dy ddysgu'r ydwyf heddyw'n ddir
Yn ffordd y wir ddoethineb,
Ac yn dy dywys yn ddiwâd
Yn llwybrau mâd uniondeb.


Pan rodiech, dy gerddediad fydd
Yn hynod rydd a heini';
A phan y rhedech, heb ddim cam
Agweddiad, ni thramgwyddi.

Ymafael dithau mewn gwir ddysg,
A cymer addysg heddyw,
A chadw hefyd hon bob pryd,
Dy odiaeth fywyd ydyw.

Na ddos, er dim a ddel i'th ran,
I lwybr yr annuwiolion,
Na rodia chwaith i borthi'th flys
Hyd ffordd drygionus ddynion.

Gochel hi beunydd, ac na ddos
Byth byth yn agos iddi;
Ond cilia draw, mae hyny'n well,
A chadw'n mhell oddiwrthi.

Ni huna'r cas ynfydion certh
Nes gwneuthur anferth ddrygau,
Eu cwsg yn llwyr ei golli wnant,
Nes cwympant ryw eneidiau.

Eu hymborth beunydd yn llawn tra
Yw bara annuwioldeb,
A'u diod ydyw gwinoedd trais,
Dibrisiant lais doethineb.

Ond llwybr y cyfiawn mawr ei fri
Sydd fel goleuni 'sblenydd,
Yr hwn lewyrcha'n hardd ei bryd
Yn fwyfwy hyd ganolddydd.


Ond ffordd y rhai drygionus sydd
Yn d'w'llwch cudd diwelliant;
Ni wyddant wrth ba beth anfyg,
Trwm gaddug, y tramgwyddant.

Fy mab, gan hyny, gwrando'n glau
Fy ngeirian a'm cynghorion,
Gogwydda'th glust fel bachgen call,
A deall f'ymadroddion.

Na âd i'm doeth orch'mynion chwaith
Fyn'd ymaith o dy olwg,
Ond cadw hwynt yn ngheudod llon
Dy galon yn ddigilwg.

Can's bywyd ydynt yn ddiffael
I'r sawl sy'n cael eu meddu,
Ac iechyd hefyd i'w holl gnawd,
A phenaf ffawd i ffynu.

Cadw dy galon, a gwna frys,
Yn ddiesgeulus hynod,
O honi allan mewn iawn bryd
Mae bywyd pur yn dyfod.

Bwrw oddiwrthyt draw bob gau
Daeogaidd enau digus,
A'r hollwefusau troeawg ffol,
Dwl, eithaf hudoliaethus.

Edrych yn mlaen a'th lygaid tau,
A dal d'amrantau'n union;
Na ddyro'th glust i wrando chwaith
Ar ffiaidd iaith ynfydion.


Ystyria lwybr dy draed yn dda,
A threfna'th ffyrdd yn uniawn,
A dilyn reol pur air Duw,
Gan gofio byw yn gyfiawn.

Na thro ar dde na'r aswy law
I wyraw at anwiredd,
Ond cerdd yn mlaen heb lwfrhau
Hyd ganol llwybrau rhinwedd.


DIARHEBION VIII

DOETHINEB nefol oddifry
Sydd yn llefaru'n firain,
Yn foneddigaidd heb ddim trais
A'i llafar lais mae'n llefain.

Mewn lleoedd uchel iawn yn glau,
Lle gwelir llwybrau lawer,
Y mae hi'n sefyll yn ddiwad
I weini'n rhad bob amser.

Gerllaw y pyrth, yn mhen y dref,
Mewnmodd digyfref beunydd,
Ac wrth y drysau'n ddigon clir
Y clywir ei lleferydd.

Arnoch chwi, wŷr, drwy gariad mawr,
'Rwy'n galw'n awr heb gelu,
Ac at feib dynion mae fy llais,
Dewisgar gais, i'w dysgu.

Ha! ha! ynfydion trawsion trwch,
Dychwelwch yn orchwylus,

A byddwch chwithau, anghall wŷr,
O galon bur ddeallus.

Gwrandewch, mi draethaf i chwi'n awr
Ryw bethau mawr ardderchog,
Agoraf fy ngwefusau'n fflur
Ar bethau pur odidog.

Fy ngenau draetha'n hyf mewn hedd
Wirionedd yn ddiwyrni;
A ffiaidd gan fy ngwefus fầd
Yw gweniaith a drygioni.

Holl eiriau teg fy ngenau glwys
Sydd gymhwys a digamwedd,
A diau nad oes ynddynt chwaith
Na threisiawl iaith na thrawsedd.

Y maent hwy oll yn amlwg iawn
I'r neb a'u llawn ddeallo;
Ac O, mor uniawn ynt i'r rhai
Gwybodus a'u defnyddio.

Derbyniwch f'addysg er eich clod,
Nid arian darfodedig,
A gwir wybodaeth a'ch gwna'n ddoeth,
O flaen aur coeth bathedig.

Gwell yw doethineb ar y llawr
Na'r gemau gwerthfawrocaf,
Mil mwy dymunol ydyw hon
Na'r holl drysorion penaf.


Myfi, Doethineb, driga'n nghyd
A chall dduwiolfryd gwiwlan;
Gwybodaeth, cynghor, yn ddiffael,
'Rwyf fi'n ei gaffael allan.

Can's ofn yr Arglwydd yw casâu
Niweidiawl ddrygau balchder,
Ac uchder ysbryd drwg ei naws,
A'r genau traws ysgeler.

Mi bïau gynghor uwchlaw neb,
A gwir ddoethineb hefyd;
A deall ydwyf o fawr werth,
Mi bïau nerth a bywyd.

Trwof fi teyrnasu yn dda
Ar ddynion wna brenhinoedd,
Penaethiaid hefyd wnant iawn farn,
Yn gadarn mewn brawdlysoedd.

Trwy f' addysg i rheoli wna
T'wysogion yn dra hawddgar,
A'r pendefigion fyddant bur,
A duwiol farnwyr daear.

Y sawl a'm carant yn ddiau
A garaf finnau'n hylwydd;
A'r sawl a'm ceisio'n fore iawn
A'm cânt drwy lawn foddlonrwydd.

Gyda myfi mae cyfoeth mâd,
Yn nghyda rhad anrhydedd,
A golud a chyfiawnder mau
Sydd i barhau'n ddiddiwedd.


Gwell yw fy ffrwyth i nag aur coeth,
Mae'n gyfoeth anllygredig,
A'm cynnyrch sy'n rhagorach rhan
Nac arian detholedig.

Hyd ffordd cyfiawnder mewn iawn hwyl,
Rai anwyl, y'ch arweiniaf;
Ac ar hyd canol llwybrau barn
Eich Llywydd cadarn fyddaf.

Pair hyn i'r rhai a'm caro'n gu
Gael etifeddu sylwedd,
A llanw eu trysorau wnaf
Ac a'u mawrhaf yn rhyfedd.

Yr Arglwydd a'm meddiannodd i
A hylwydd fri yn helaeth,
Cyn iddo 'rioed amlygu'n g'oedd
Weithredoedd creadigaeth.

Er tragwyddoldeb, cyn bod dim,
Mewn iawnwisg y'm heneiniwyd!
Cyn crëu y nef na'r ddaear lawr,
Mor wiwgar y'm mawrygwyd!

Pryd nad oedd dyfnder i'w goffâu,
Na phrenau na dyffrynoedd,
A chyn bod ffrydiol lesol iawn
Ffynhonau'n llawn o ddyfroedd,

Cyn gosod seiliau cedyrn clir
Mewn addurn i'r mynyddau,
O flaen cyfleu mewn prydferth ddrych
Yr holl fireinwych fryniau,


Cyn gwneud o hono'r ddaear gron,
A'r meusydd ffrwythlon welir,
Na llunio uchder llwch y byd,
A'r cwbl i gyd ganfyddir,

Pan barotodd efe'n hardd iawn
Y nefoedd lawn dysgleirder,
A phan osododd gylch yn glawr
Ar wyneb mawr y dyfnder,

Pan gadarnhaodd ef yn glau
'R cymylau wrth y miloedd,
A phan y nerthodd i barhau
Ffynhonau y dyfnderoedd,

Pan roddes ddeddf i'r môr ar g'oedd,
A'r dyfroedd yn ddiderfyn,
A'u rhwymo fel na wnaent osgoi,
Na thòri mo'i orchymyn,

Yr oeddwn gydag ef, mae'n ddir,
Yn meddu gwir lawenydd,
A cher ei fron myfi yn filwch
Oedd ei hyfrydwch beunydd.

Mawr lawenychu'r oeddwn ar
Drigfanau'r ddaear dirion;
Fy hyfryd serch a'm h'w'llys da
Oedd gyda meibion dynion.

Yn awr, gan hyny, na nacewch,
O feibion, gwrandewch arnaf,
Gwyn fyd a gadwant fy ffyrdd i,
Y rhei'ny a fendithiaf.


Derbyniwch addysg yr awr hon,
A byddwch ddoethion hefyd;
Nac ymwrthodwch byth â hi,
Cyfrana i chwi fywyd.

Gwyn fyd y dyn wrandawo ar
Fy eres ddoethgar eiriau,
Gan wylio'n ddyfal a didawl
Yn rasawl wrth fy nrysau.

Y neb a'm caffo i mewn pryd
Gaiff fywyd yn dragywydd,
Meddiannu hefyd byth a wna
Ewyllys da yr Arglwydd.

Ond sawl a becho'n f'erbyn i,
Mae'n rhaid ei gosbi'n ddiau;
A'i unig enaid y gwna gam,
Fe syrth i ddryglam angau.


DIARHEBION IX

Er hawddgar dŷ, Doethineb fâd
A loywdeg adeiladodd,
A'i saith ardderchawg golofn lawn
Yn weddus iawn a naddodd.

Ei hanifeiliaid glân, dihaint,
I wledda'r saint, a laddodd;
Ei melus win cymysgu wnaeth,
A'i bwrdd a helaeth huliodd.

Hi yrodd ei morwynion cu
I bur weinyddu'n addas,

A llefain beunydd mae hi'n glau
Ar uchelfanau'r ddinas.

A galw'n daer y clywir hi
Ar ddynion diddichellfryd;
Ac wrth yr annoeth byr ei ddawn,
Diwawdiaith iawn mae'n d'wedyd,

De'wch oll, bwytewch fel doethion wyr
O'm bara pur ddarperais;
Ac yfwch hefyd trwy fawr rin
O'm gloyw win gymysgais.

Llwyr ymadewch â rhai didduw,
A byddwch fyw yn ddoethgall,
A cherddwch hefyd er eich llwydd
Yn ffordd ddidramgwydd deall.

'R hwn a geryddo ddyn afrwydd
Gaiff w'radwydd hyd yr eithaf;
A'r neb a feio ar ddrwg ei fryd,
Caiff hwnw hefyd anaf.

Gwatwarwr na cherydda di
Rhag iddo'th gyfri'n elyn;
Cerydda'r doeth â rheswm teg,
Fe'th gâr yn wiwdeg wedyn.

I'r doeth cyfrana addysg glir,
Fe gyrhaedd wir wybodaeth;
A dysg y cyfiawn mewn ffordd dda,
Chwanegu wna'i ddysgeidiaeth.


Dechreuad gwir ddoethineb rwydd
Yw ofn yr Arglwydd cyfiawn;
Gwybodaeth y dyn santaidd call
Yw llonwych ddeall uniawn.

Can's trwof fi gwneir amlhau
Dy araul ddyddiau eirioes,
Ac y chwanegir i barhau
Yn dyner, flwyddau d'einioes.

Os doeth a fyddi, erglyw'n awr,
I ti daw mawr ddaioni;
Ond os gwatwarwr, gwarth a lớn,
A thi dy hun a'i dygi.

Gwraig ffol a fydd siaradus iawn,
A'i delw'n llawn hudoliaeth;
Ei genau aflan, heb ddim braw,
Sydd yn meginaw gweniaith.

Ar ddrws ei thŷ yr eistedd hon
A golwg ddigon diras;
A'i hudol fainc a esyd ar
Brif leoedd ucha'r ddinas.

I alw ar y neb a fo
Yn myned heibio'n brydlawn,
Y rhai sy'n cerdded, er eu clod,
Eu ffyrdd yn hynod uniawn.

"Pwy bynag sydd yn ehud iawn,
" Tröed yma i mewn heb gyffro;"
A phob dyn ynfyd a digred,
A hi a ddywed wrtho,


"Holl ddyfroedd lladrad nos a dydd,
"Fel osai, sydd felysaidd; "
Ac hefyd gwed â'i thafod rhydd
"Fod bara cudd yn beraidd."

Ond och! ni wyr efe yn chwai
Mai meirw yw'r rhai sydd yno,
A bod ei holl wahoddwyr hi
I'r dwfn drueni'n suddo.


ADGYFODIAD CRIST

Y TRYDYDD dydd yn hardd ei wedd,
Cyfododd Crist yn fyw o'r bedd;
Ac ymddangosodd heb ddim braw
I'r gwragedd duwiol oedd gerllaw.

Ac wedi hyny'n nghwr y wlad,
Gorddiwes wnaeth ddau ddysgybl mâd,
Ac iddynt yr eglurodd ef
Ddirgelwch arfaeth fawr y nef.

Onid oedd raid i'r Iesu gwyn
Wynebu'r holl arteithiau hyn,
Ac esgyn fry goruwch y llawr
I ganol ei ogoniant mawr?

Ac wedi i'r dydd yn mhell hwyrhau,
Pan oedd y drysau oll yn nghau,
Daeth Crist i mewn i'r 'stafell deg
Lle'r ymgynnullai'r unarddeg.

Eu cyfarch wnaeth yn siriol iawn
A'i dangnefeddol ddwyfol ddawn,

A llawenhau wnaent hwythau'n awr
Am adgyfodi'r Ceidwad mawr.

Addewid iddynt a roes ef,
Pan yr esgynai fry i'r nef,
Caent eu bedyddio â nefol dân,
Sef gweithrediadau'r Ysbryd Glan.

Cyflawnodd ei addewid fawr,
Ar ddydd y Sulgwyn daeth i lawr,
Fel nerthol wynt yn rhuthro'n gry',
Nes i'w effeithiau lenwi'r tŷ.

"Ewch a phregethwch," ebai ef,
" I bob creadur dan y nef,
" Cyhoeddwch yr efengyl hon
" Dros holl derfynau'r ddaear gron.

"Pob un a gred, cadwedig fydd,
" Trwy fywiol wir effeithiau ffydd; "
Mynegu'n llawn un dawn nid oes
Anfeidrol haeddiant gwaed y groes.

Gwynebu wnaethant ar wahan
I holl gyffiniau'r byd achlân,
A lluoedd lawer yn mhob gwlad
A gredodd eu hymadrodd mad.


ADGYFODIAD Y SAINT

FE welir cyrff y saint
Yn ddysglaer fel y wawr,
Yn d'od i'r lan o'r bedd,
Pan gano'r udgorn mawr;

Cânt etifeddu teyrnas Dduw
Ar ddelw hardd eu Prynwr byw.

Mor hawddgar fydd eu gwedd
O flaen yr orsedd fry,
A mynwes lawn o hedd,
Yn lân, ogonedd lu;
Mwynhant lawenydd pur dilyth
Yn Ngwynfa, na ddybena byth.

O, wynfydedig rai,
Annhraethawl fydd eu braint,
Heb bechod nac un bai,
I gyd yn berffaith saint;
Yn rhoi heb dawl ryglyddawl glod
I'r Gwr a'u carodd cyn eu bod.


GOFAL DUW AM Y SAINT

TYDI, O Arglwydd grasol, yw
Fy nghadarn Dduw a 'Ngheidwad;
Dy ofal mawr am danaf sydd
Bob nos a dydd yn wastad.

Ar wely'r nos, pan hunwyf fi,
Wrth d'archiad di, Iehofa,
Angylion nef fy ngwylio wnant,
Amgylchant fy ngorweddfa.

Y bore hefyd, pan ddeffro'f,
Yn anghof ni'm gollyngi,
Cyfranu 'rwyt bob mynyd awr
Dy roddion gwerthfawr imi.


Yn oriau'r dydd, fy Nuw, Iôr da,
Trugarog a thosturiol,
Er mor annheilwng ydwyf fi,
Fy nawdd wyt ti'n wastadol.

Yn amyneddgar, megys Job,
Yn wyneb pob cyfyngder,
Dysgwyliaf beunydd wrth dy borth
Am gymhorth o'r uchelder.

Mil mwy eu gwerth i'm henaid mau
Na'r holl drysorau bydol
Yw darpariadau iach eu sawr
Efengyl fawr dragwyddol.

Tra byddwyf yn yr anial maith,
Boed nerthol waith dy Ysbryd
Yn tywys f'enaid heb lesgâu
Hyd uniawn lwybrau'r bywyd.

Ac wedi cyrhaedd pen y daith,
Drwy ffydd a gobaith hefyd,
Dwg f'enaid fry i gael mwynhad
O geinfyg wlad y gwynfyd.


CYFRAITH DUW.
BARN Y DUWIOL AM DANI.

Yn ffyrdd d'orchmynion di, Dduw Naf,
Mi redaf mewn hyfrydwch;
Ac yn dy air myfyrio wnaf,
Oddiyno caf ddyddanwch.

Dy eiriau grasol llawn o rin,
Sydd well na gwin i'm genau;
Cyfnerthu maent fy enaid gwan
Rhag suddo tan y tonau.


Y DDAU ADEILADWR.

Gwyn fyd a adeilado'i dŷ
Ar Iesu, Craig yr oesoedd;
Ni syfi o'i le, er twrf pob ton,
Na rhuthrau mawrion wyntoedd.

Ond gwae a adeilado'i dŷ
Ar sylfaen dry'n dwyllodrus;
Pan ddel ystorm fe syrth i lawr,
A'i gwymp fydd fawr echrydus.



PA BETH YW DYN I TI I'W GOFIO!

O Arglwydd Dduw, pa beth yw dyn
I ti dy hun i'w gofio?
Na mab dyn gwael i ti un waith
Ymweled chwaith ag efo?

Ond er mor isel ac mor wael
Yr aeth wrth gael ei dwyllo,
Darparaist drwy'r cyfammod gras
Ymgeledd addas iddo.

Eiriolaeth Crist a'i farwol glwy'
A'i dyg i fwy anrhydedd
Na'r engyl glân, ardderchog lu,
Sy'n amgylchynu'r orsedd.


O mor ysblenydd ddydd a ddaw,
Fry ar ddeheulaw'r Barnydd,
Y gwelir etifeddion gras
Yn Salem, ddinas hylwydd.

Eu hyfryd waith mewn nefol hwyl,
o flaen ei anwyl wyneb,
Fydd moli Crist, eu Prynwr da,
Hyd eithaf tragwyddoldeb.



Y CRISTION BUDDUGOLIAETHUS,

Yr hwn sydd yn gorchfygu'r byd,
A'r drygau i gyd sydd ynddo,
Yn golofn hardd y gwneir ef byth
Yn nheml ddilyth Duw Iago.

Fel milwr dewr yn mlaen yr â,
Ac ni ddiffygia ronyn;
Drwy nerth anfeidrol Ysbryd Duw,
Gorchfyga bob rhyw elyn.

Ni phery'r ymdrech ddim yn faith,
Fe dderfydd gwaith rhyfela,
Ceir gorphwys byth yn Salem lân,
A seinio cân osanna.



YMRYSONIADAU YSBRYD DUW.

Nid ymrysona Ysbryd Duw
A dyn gwael, gwyw, 'n dragywydd;
Can's cnawd cildynus ydyw fe,
A'i oes fydd chwe' ugeinmlwydd.


GWERTHFAWREDD DUWIOLDEB

DUWIOLDEB sydd yn fuddiol iawn,
A chanddi'n gyflawn hefyd
Addewid sicr o'r bywyd sydd,
A'r hwn a fydd mewn eilfyd.

Duwioldeb sydd yn elw mawr,
Mae'n drysor gwerthfawr beunydd,
Boddlonrwydd a thangnefedd gwiw
A ddyry i'w meddiannydd.


PLESERAU'R BYD

PE caem bleserau pena'r byd,
A'i holl brif olud euraid,
Ni wnaent weinyddu un llesâd
Na dim gwellâd i'r enaid.

Y pethau gorau fedd y byd,
Nid ynt i gyd ond gwagedd;
Ond cyfoeth gras trwy ddwyfol Iawn
Sydd oll yn llawn o sylwedd.

Gan hyny, na adawed neb
Yr enaid heb wirionedd;
Ond mynwn drysor pur dilyth,
A bery byth heb ddiwedd.



CRIST, BARA Y BYWYD

Myfi yw Bara'r Bywyd,
Medd Crist, y Meddyg da,

Yr hwn sy'n dyfod ataf,
Newynu byth ni wna;
A'r hwn sy'n credu ynof,
Ni wna sychedu chwaith,
Caiff yfed dyfroedd bywiol
I dragwyddoldeb maith.


CYMMOD DRWY GRIST

CRIST ar Galfaria un prydnawn
Fu farw'n Iawn dros bechod;
Drwy rinwedd mawr ei aberth drud,
Daeth Duw a'r byd i gymmod.



HAU MEWN DAGRAU

Y RHAI crediniol sydd yn hau
Mewn cur a dagrau chwerwedd,
Yn wobr i'w ffydd a'u gobaith llawn,
Cânt fedi mewn gorfoledd.



NESAU AT DDUW.

NESAF yn hyderus a pharchus drwy ffydd
At Dduw i byrth Sion yn dirion bob dydd,
Caf yma dawelwch a heddwch o hyd,
I draethu'i weithredoedd ar gyhoedd i gyd.

Mewn hedd y preswyliaf tra byddaf fi byw
Yn mhabell ardderchog fanerog fy Nuw;
Cymdeithas ei Ysbryd yn hyfryd fwynhaf,
A gwerthfawr amlygiad o'i gariad a gaf.


Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.

 
  1. Dechreua yr Awdl uchod yn Barn . iii. 21, a dybena yn niwedd y v, sef " Cân Debora a Barac."
  2. Meini
  3. Nid os o ammheuaeth sydd yn yr adnod, oblegid credai Job athrawiaeth yr adgyfodiad mor gadarn a marwolaeth y corff.