Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion (testun cyfansawdd)

Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion (testun cyfansawdd)

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

ᎢᎡᎪᎬᎢᎻᎪᎳᎠ

AR

ENWOGION SWYDD FEIRION,

HEN A DIWEDDAR,

YN GELFYDDYDWYR , BEIRDD, GWYDDONWYR, PREGETHWYR, &c., &c.,

GAN EDWARD DAVIES
(IOLO MEIRION.)

(Buddugol yn Nghylchwyl Lenyddol Blaenau Ffestiniog,
Llun y Sulgwyn, 1870)
.

————————————————————


"Gwlad Feirion a glodforir
Yn hŵy, ie, 'n hŵy na hir."—E. OWEN.


"Ymhob gwlad y megir glew."—Diar.

"Dylid gwerthfawrogi pob henafiaeth, oherwydd nid oes dim a'ch gwna felly ond amser yn unig."

"Olion henafol ydynt dafodau yr vesoedd o'r blaen." "Wedi marw yn llefaru eto."


————————————————————


CAERNARFON:
ARGRAFFWYD YN SWYDDFA'R GOLEUAD GAN J. DAVIES, BONT BRIDD.

RHAGYMADRODD

————————


Y mae yn arferiad gyffredin gan bob awdwr braidd wneyd math o raglith i'w waith, a rhoddi rhesymau dros alw sylw y wlad ato. Yr ydym yn teimlo y dylai pob awdwr hawlio rhagoriaeth ar bob awdwr arall, ar yr un testyn, a fyddo wedi ymddangos o'i flaen, cyn y gall yn gyfreithlon drethu llogellau i brynu, ac amser y pwrcaswr i ddarllen y cyfryw. Ond ni raid i ni ryfygu gwneyd y fath beth gan nad oes neb, am a wyddom ni, wedi ymddangos ar y testyn teilwng hwn yn ei gysylltiad â Sir Feirionydd, yn flaenorol i'r eiddom ni.

Nid ydym yn ystyried yn ddoethineb ynom ddywedyd dim am allu nac ann anallu yr awdwr, ond gallem ddywedyd llawer am ei an fanteision. Un anfantais fawr oedd gorfod cyfansoddi traethawd mor faith mewn amser mor fyr. Y mae y traethawd, fel y gwelir, yn ffrwyth cystadleuaeth, ac yn llafur oriau hamddenol, am ychydig fis oedd, pan y mae awdwyr llawer galluocach a helaethach eu dysg yn cael blynyddoedd i feddwl ac adfeddwl, ysgrifenu ac adysgrifenu, cyn ymddangos ger bron y byd. Felly y mae yn ddiameu genym y bydd i'r traethawd hwn syrthio yn fyr o ddyfod i fyny â disgwyliadau rhai darllenwyr; ond gobeithiwn y bydd i'r cyfryw ystyried yr amgylchiadau o dan ba rai y daeth i fod.

Dichon y bydd i rai deimlo nad yw pawb sydd ynddo yn deilwng o le ymhlith enwogion; nad ydyw fod dyn wedi cyraedd rhyw ddosbarth neillduol mewn cymdeithas yn ddigon i brofi ei fod yn enwog, os na bydd wedi rhagori ar y cyffredin yn y dosbarth hwnw. Dywedant fod rhai ynddo a ddylasent fod allan, a rhai allan a ddylasent fod i mewn. Byddwn yn foddlawn i addef y diweddaf. Y mae rhai wedi eu gadael allan ag y buasai yn dda genym pe gallasem eu cael i mewn, ond y maent allan o ddiffyg defnyddiau wrth law ar y pryd, ac nid oedd amser yn caniatau i fyned i gasglu y defnyddiau angenrheidiol. Dichon hefyd y bydd i rai deimlo ddarfod i ni roddi rhai i mewn nad oedd genym hawl i'w rhoddi ymhlith "Enwogion Swydd Feirion," a hyny am eu bod yn enedigol o siroedd eraill. Hawliasom rai sydd yn fwy adnabyddus i'r wlad yn eu cysylltiad a Sir Feirionydd nag â'r un sir arall, ond nid heb addef yn onest hawliau siroedd eraill ar y cyfryw.

O bosibl y bydd rhai yn teimlo fod ein herthygl ar eu perthynas agos ac anwyl hwy â rhyw berson enwog arall perthynol i'w hoff sect hwy, yn llawer rhy fer, &c. Carem i'r cyfryw ystyried mai nid ein hamcan oedd rhoddi bywgraffiad maith a manwl о neb mewn traethawd o ffurf yr eiddom ni, ond nodi y prif bethau sydd yn profi eu henwogrwydd. Amcanasom roddi y sylw a deilynga pob un yn ol y fantais oedd genym, a hyny yn annibynol ar waed, plaid, a chredo, &c.

Yr ydym yn ystyried fod y dyfyniadau o weithiau Iolo Morganwg a Gwallter Mechain sydd ar ddechreu y traethawd yn well ar natur y testyn na dim a allasem ni wneyd.


EDWARD DAVIES.
Porth Madog, Tach. 20, 1870.

Y FEIRNIADAETH,

GAN Y PARCH. OWEN JONES, LLANDUDNO.

————————————

At Aelodau y Pwyllgor.

Foneddigion, -Dywenydd genyf allu eich hysbysu fod pump o gyfansoddiadau wedi dyfod i'm llaw eleni ar “Enwogion (hen a di weddar) Sir Feirionydd, a phob un o honynt yn rhai canmoladwy; ond gan nad oes gwobr wedi ei darparu na'i haddaw ond i un o'r ymgeiswyr, y mae yn ofynol i ni geisio cael allan pa un o honynt a ragora , a hyn a wnawn yn gyfiawn hyd eithaf ein gallu.

Y cyntaf a ddaeth i'n llaw, ac o dan ein sylw, yw yr un a danysgrifiwyd â'r ffugenw "Gwyddno." Y mae yr awdwr hwn wedi myned trwy lafur mawr i wneyd casgliad tra chyflawn o "Enwogion hen a diweddar Sir Feirionydd,” ac wedi cymeryd gofal i ysgrifenu ei draethawd yn lanwaith a threfnus; ac ar derfyn pob erthygl, dyry gyfeiriad manwl a gonest at yr awduron, o weithiau pa rai ei cymerasai, ac arwedd arall sydd yn ychwanegu at werth ei gyfansoddiad ydyw y “Mynegai,” a attodwyd ar ei derfyn.

Yr ail gyfansoddiad a dynodd ein sylw oedd yr eiddo un a ymgyfenwai "Meliomanum." Y mae hwn eto yn gyfansoddiad galluog, ac oddeutu yr un faint a'r un blaenorol; ond nid yw yn agos mor ddestlus ei drefniad a'r eiddo “ Gwyddno. " Yn wir, ymddengys i mi fod yn "Meliomanum" allu a'i gwnelai yn draethawd da, pe y cymerai ychydig mwy o bwyll a gofal am drefnusrwydd; ond er fod rhanau o'r cyfansoddiad yma yn dra swynol, nis gellir canmol na chymeradwyo ei arddull gwmpasog, a'i lythyraeth wallus. Wrth ddarllen darnau o'r gwaith hwn, nis gallwn lai na gresynu am na buasai yr awdwr wedi cymeryd mwy o bwyll a gofal i'w ysgrifenu, gan fy mod yn gwbl argyhoeddedig y buasem yn cael gwell cyfansoddiad ar y testyn ganddo na'r un a ddaeth i law, pe y buasai efe wedi cymeryd cymaint o drafferth i ddarparu erbyn y gystadleuaeth ag a gymerodd ei gydymgeiswyr.

Y trydydd cyfansoddiad yr edrychasom drwyddo oedd yr un a lawnodwyd gan y ffugenw "Rhychwynfab." Y mae y cyfansoddiad hwn yn llawer byrach na'r lleill oll, ac yn fwyaf anghelfydd o'r cyfan, er fod ôl meddwl a llafur arno.

Y pedwerydd sydd wedi ei danysgrifio a'r ffugenw "Hanesydd yr hen oesau." Geiriadur bywgraffyddol lled gyflawn o "Enwogion hen a diweddar Sir Feirionydd " ydyw hwn. Y mae y cyfansoddiad yma wedi ei ysgrifenu mewn arddull fwy poblogaidd, feallai, nag un o'r tri blaenorol; a'i iaith yn goeth, er ei bod yn syml a naturiol; a thra y mae yr unrhyw ffeithiau ganddo ef yn elfenau ei Hanesyddiaeth, y mae y modd eu gwisga yn rhoddi mesur o newydd-deb yn ymddangos iad y gwrthddrychau.

Y pumed cyfansoddiad sydd wedi ei arwyddo a'r ffugenw "lolo Meirion." Y mae hwn yn draethawd maith a medrus; ac y mae yr awdwr wedi cymeryd dull gwahanol i'w gydymgeiswyr yn nhrefniad ei gyfansoddiad. Dechreua gyda Chwmwd Ardudwy, o'r hwn dyry ddarluniad daearyddol byr, ond cynwysfawr; yna rhydd hanes enwogion y cwmwd hwnw, wedi eu trefnu yn ol llythyrenau y wyddor, gan ddechreu gyda'r "A," yn enw y "Parch. Morris Anwyl," a ther. fynu gyda'r llythyren "W," yn enw y "Parch. William Wynne," o Faes y neuadd. Yn ol yr un drefn y mae yn myned ymlaen trwy y cymydau ereill. Y mae hwn yn fwy cyflawn ar y testyn nag un o'r cyfansoddiadau eraill, tra y mae ymhob rhagoriaeth arall yn gyfartal i'r goreu o honynt. Am hyny, yr ydwyf yn barnu yn gydwybodol mai "Iolo Meirion" a biau y wobr, er fod yr eiddo "Gwyddno" a "Hanesydd o'r hen oesau" yn bur agos i fod yn gyfartal âg ef, —

Ydwyf, foneddigion, yr eiddoch yn gywir,

OWEN JONES.

ATHRONIAETH HANESYDDIAETH.

"Athroniaeth Hanesiaeth wirioneddol a wahaniaetha ymhell oddi wrth eiddo y dychymyg, neu y dybiaeth; ond yn fynych yr ydym yn gweled y dychymyg, feallai, yn wirioneddol, ac er mwyn golygiadau unochrog, yn cymeryd lle y wir hanesiaeth. Gwelir engreifftiau o'r athroniaeth ffugiol hon yng ngweithiau Hume, Voltaire, Gibbon, ac eraill. Dylai hanesiaeth ddysgu yn athronyddol, trwy engreifftiau wedi eu tynu o ffeithiau a digwyddiadau; a dylai dychymygion gael eu cadw dan lywodraeth fanol. Y mae hanesiaeth i fod yn rhywbeth mwy na chruglwyth o flwydd—hanesion—mwy nag adroddiad o ddigwyddiadau: ni ddylai yn unig hysbysu, ond hefyd i oleuo a diwygio'r meddwl. Dylai pob digwyddiad gael ei ddangos yr hyn yn ddiau ag oedd effeithiau naturiol rhyw dda neu ddrwg yn ei osod allan; rhyw ddoethineb neu ffoledd yn llywodraeth a moesau y bobl, effaith gwybodaeth, neu ddiffyg o hono, yn ei gysylltiad â phethau priodol yr oes yr ymddangosasant. Dylem gael ein dysgu pa beth a weithredodd yn nghynyrchiad pethau; a pha fodd y gweithiodd wrth gynyrchu ei effeithiau. Yna deuai hanesiaeth gwlad yn gyfundrefn o foesddysg iddi, ac i bob dyn a phob oes mor bell ag y gwybyddid hi. Nis gall un hanesiaeth ag a fyddo yn fyr o'r pethau hyn gael ei hystyried yn ddim gwell na chwedleuon hen wragedd,—baldordd am bethau o ddim gwerth."—IOLO MORGANWG.

BYWGRAFFYDDIAETH.

"Odid bod un o gangenau llenyddiaeth wedi cael ei hesgeuluso yn fwy na Bywgraffyddiaeth; a hyny a'n difuddiodd yn ddirfawr o'n cyfiawn ymffrost o barth enwogion gwiwbarch a hanasant o ddiled ryw wehelyth Frythonaidd, y rhai, pe cadwesid coffa dyledus o honynt, a fuasent gynifer o dystion diwrth-brawf o athrylithfawr gyneddfau y genedl, nid goris odid o genhedloedd Ewropa. Llawer o naddynt wrth gael trwy dreigl tyngedfenawl eu harwain o'u cysefin fröydd, a myned i weini helyntion bywyd i barthau pellenig, ac i blith cenedloedd alltudryw, ac yno ymfrodori ac ymgyfathrachu, nes cael eu honigan y cyfryw drigolion fel eu treftad gynwynawl; a myned felly yn ddifuddiawg ddihysbydd i'w cenedl eu hunain."

GWALLTER MECHAIN.

SWYDD FEIRION

Y mae Swydd Feirion yn derfynedig i'r Gogledd gan swyddi Caernarfon a Dinbych, i'r De gan Aberteifi, i'r Gorllewin gan forgilfach Ceredigion, ac i'r Dwyrain gan swyddi Dinbych a Threfaldwyn. Y mae yn 45 milldir o hyd, a 34 o led yn y man lletaf; yn 670 milldir ysgwar; yn rhanedig i dri o Gwmydau— Ardudwy, Edeyrnion, a Mawddwy; a dwy Gantref - Meirionydd Derbyniodd ei henw oddiwrth a Phenllyn; ac i 34 o blwyfydd. Meirion ap Tybiawn, ap Cynedda Wledig, ap Padarn Beisrydd; a nai fab cefnder i Cystenyn Fawr, yr ymerawdwr Cristionogol cyntaf yn y byd. Dywedir mai Ystrad Clwyd, yn yr Alban, a rhan o Wynedd, oedd tywysogaeth Cynedda Wledig; ac iddo ddechreu teyrnasu yn y flwyddyn 328; a marw yn 389. Dywedir hefyd i'r Gwyddelod, dan Serigi Wyddel, anrheithio rhan fawr o Wynedd; ac i Cynedda Wledig a'i feibion, eu gyru ymaith; ac i'w feibion dderbyn sefyllfaoedd tra anrhydeddus am hyny. Bu Tybiawn, tad Meirion, farw yn fuan ar ol y fuddugoliaeth hon; a chafodd Meirion Gantref Meirionydd; Dunod a gafodd Gantref Dunodig, sef Ardudwy ac Eifionydd; ac Edeyrn a gafodd Edeyrnion. Ac mewn rhyw amser diweddarach galwyd y Swydd ar enw Meirion.

DOS. I

ENWOGION ARDUDWY

HEN A DIWEDDAR

Gwahenir Cwmwd neu Arglwyddiaeth Ardudwy oddiwrth Tal y-bont gan yr afon Mawddach. Rhenir Ardudwy yn ddwy Gantref— Uwch-Artro (afon o'r enw) ac Is-Artro; cynwysa y gyntaf bedwar plwyf:— Llanelltyd, Llanaber, Llanddwywe, a Llanenddwyn. Is-Artro a gynwys y plwyfydd canlynol:-Llanbedr, Llanfair, Llandanwg, Llanfihangel-y-Traethau, Llandecwyn, Llanfrothen, Maentwrog, Ffestiniog, a Thrawsfynydd.


Yn Uwch-Artro, ger Abermaw, y mae hen warchglawdd milwraidd wedi ei godi ar ben uchaf y bryn, ac a elwir Dinas Gortin. Yn Is-Artro, yn mhlwyf Llandanwg, y mae Tref Ddegwm a Chastell Harlech yn sefyll. Dywedir mai Maelgwn Gwynedd a adeiladodd y dref henafol hon, ac a'i galwodd—Caer Colin. Yn mhlwyf Maentwrog y canfyddir adfeiliau Castell Mîn; lle y byddai Brenin Lloegr yn arferol o wersyllu pan yn dyfod yn erbyn Gogledd Cymru. Yn mhlwyf Ffestiniog y mae rhifedi lliosog o feddau, y rhai a elwir, Beddau Gwyr Ardudwy. Yn mhlwyf Trawsfynydd safai gynt Gastell Prysor, muriau yr hwn sydd yn sefyll eto.

ANWYL, MORRIS, ydoedd fab i Robert Anwyl, o'i wraig Margaret Owen; ac efe a adwyd Ebrill 16, 1814, yn y lle a elwir Dinas Moel, gerllaw Beddgelert. Yr oedd efe yn hanu o du ei dad o dylwyth Dafydd Nanmor, i'r hwn, meddir, y rhoddes Rhys Goch, o Hafod Garegog, dyddyn bychan, o'r enw Cae Dafydd, yn etifeddiaeth; ac o du ei fam o dylwyth Hafod Lwyfog, yn mhlwyf Beddgelert. Ymhen rhyw gymaint o amser ar ol priodi, symudodd Robert Anwyl i gyfaneddu ar ei hen dreftadaeth, Cae Dafydd Nanmor; ac yno y bu cartref Morris tra y bu efe byw. Er i Morris Anwyl gael ei fagu yn yr eglwys, pan ddaeth efe yn alluog i fyw arno ei hun, fel y dywedir, efe a gefnodd ar eglwys Dduw, gan wenieithio iddo ei hunan y mwynhai lawer mwy o hyfrydwch wedi cael ei ben yn rhydd o dorch llywodraeth eglwysig. Ond mewn rhyw adfywiad crefyddol lled rymus a gymerodd le yn fuan wedi hyny yn y Rhyd Ddu, daliwyd yntau, a than gerdded ac wylo, efe a ymofynodd am aelodaeth gyda phobl yr Arglwydd. Yn ei gymydogaeth gartrefol, Nanmor, y dechreuodd efe bregethu; a hyny trwy gymhelliad taer yr henuriaid eglwysig yn y lle; ac mewn angladd yn y gymydogaeth hono y traddododd efe y bregeth. gyntaf. O ran ei dymer naturiol, yr oedd o duedd dawelog a gwylaidd; ond o feddwl tra phenderfynol. Efe a fu dros ryw dymor yn athrofa y Bala. Dychwelodd o'r Bala yn gynt nag y bwriadai o herwydd afiechyd; a chymerodd dyddyn bychan, o'r enw Tanyrhiw, Nanmor. Bu yn hynod lafurus yn ei ddydd; sefydlodd ysgol nos yn ei ardal, yr hyn a wnaeth lawer o'i hol. Yr oedd efe yn feddianol ar ddawn neillduol i gyfranu addysg; yr oedd yn efrydydd diflin, ac yn weddiwr dyfal. Yr oedd ei bregethau yn gyffredinol o duedd ddifrifol, a thra sylweddol. Bu

farw o'r darfodedigaeth, Awst 12, 1846, yn 32 oed. Yr oedd ei rodiad diargyhoedd, ei weddiau taerion, a'i lafur egniol, ynghyd a'i brofiadau uchel o bethau ysbrydol, yn ei hynodi feł Cristion.— (Gwel yn helaethach yn Geir. Byw. Aberdar.)

ARWYSTLI (HUW).—Bardd a flodeuodd rhwng 1540 a 1570. Bernir mai tua'r Abermaw y trigianai. Y mae swm o'i farddoniaeth yn nghadw mewn llawysgrifau. Dywed hen ysgrif yn y Brython mai yn Llanelwy mae ei fedd.


BRONWEN ydoedd ferch Llyr, a chwaer i Bran.[1] Y mae Mabinogi Bran Fendigaid yn egluro i ni beth a ddeallir wrth yr ymadrodd hwnw. Yr oedd Bronwen yn aneddu yn Harddlech, Meirion, yr hwn le a elwid gynt oddiwrthi hi, Tŵr Bronwen; a cheisiwyd a chafwyd hi yn wraig gan Metholwch, Brenin Iwerddon. Gan iddi gael wedi hyn sarhad ganddo, hi a adawodd у wlad, i ddychwelyd adref; ond wrth ddyfod i dir yn Nghymru, dywedir iddi edrych yn ol ar Iwerddon, gan feddwl am y sarhad a gafodd, a thori ei chalon. Bran, i ddial sarhad ei chwaer, a ym osododd ar Iwerddon, ac a ddistrywiodd agos holl drigolion y wlad. Dywed y chwedl hefyd ddarfod i fedd pedwar-ongl gael ei wneyd i Bronwen ar lanau yr afon Alaw, ac iddi gael ei chladdu yno. Gwnaed darganfyddiad neillduol o bwysig yn y flwyddyn 1813, sydd yn rhoddi coel fawr ar yr ysgrifeniadau Cymreig, fel mai yn yr amgylchiad hwn y cafwyd fod y chwedl yn sylfaen edig ar ffaith hanesiol. Yr oedd amaethwr yn byw ar lanau yr afon Alaw, yn Môn, a chanddo eisiau rhyw gerig, ac aeth i'r garnedd yn ymyl yr afon, ac wedi symud amryw daeth at gist o lechi geirwon a chauad drosti. Wedi symud y cauad, efe a ganfu ysten o ddaear neu glai haner-crasedig, oddeutu troedfedd o

uchder, wedi ei chyfleu ar ei gwyneb, yn llawn o ludw ac esgyrn haner- faluriedig

Gellir chwanegu amgylchiad arall, fod y lle hwnw bob amser yn cael ei alw " Ynys Bronwen," yr hyn sydd yn gadarnhad nodedig o ddidwylledd y darganfyddiad. Y mae yr amgylchiadau ynghyd yn tueddu i osod y pwnc tuhwnt i amheuaeth mai gweddillion Bronwen oeddynt mewn gwirionedd. —Cambro-Briton, II. 71; Myv. Arch. II.; Williams' Em. Welsh.

CAIN (RHYS) ydoedd fardd a lluniedydd gwych, yn ei flodau tua 1580. Ganwyd ef yn mhlwyf Trawsfynydd, ar lan afon Cain, oddiwrth yr hon y cymerodd ei enw. Nid yw yn annhebygol nad yn Dol Cain—hen amaethdy gwych yn yr hen amser, ac sydd yn llechu yn nghesail "Craig y Penmaen," y ganwyd ac y magwyd ef. Y mae rhai ysgrifenwyr yn petruso penderfynu brodor o ba le ydoedd, gan dybied mai o Fechain-is-coed, yn Nhrefaldwyn, yr hanodd; felly, fod yn anhawdd gwybod pa un o'r ddwy afon Gain a fedyddiodd y bardd yn Rhys Cain. Ond yr ydym ni yn berffaith foddlawn i roddi y flaenoriaeth i Drawsfynydd, oblegid ysgrifenai Thomas Prys, Ysw., o Blas Iolyn, fel y canlyn:—"Rhys Cain a anwyd yn mhlwyf Trawsfynydd, ar lan afon Cain," &c. Y mae yn syn genym os na wyddai T. Prys, yr hwn oedd fardd o gryn enwogrwydd ei hun, un o ba le oedd Rhys Cain, a'r ddau yn cydoesi, ac yn byw heb fod ymhell oddiwrth eu gilydd—un yn Plas Iolyn, yn Swydd Ddinbych, a'r llall yn Nghroesoswallt, Swydd Amwythig. Yr ydym yn cael fod T. Prys yn ei flodau rhwng 1550 a 1610. Yr ydym yn cael hefyd fod Rhys Cain yn ysgrifenu tua'r flwyddyn 1570 (Y Beirdd Cymreig, gan Jones, tudal. 87). Yr oedd yn ddisgybl i William Lleyn, yn 1580.

Treuliodd Rhys Cain y rhan fwyaf o'i oes yn Nghroesoswallt, pan oedd William Lleyn yno yn offeiriad, i'r hwn y bu Rhys yn ddisgybl; ac wedi i'r athraw farw, fe ganodd y disgybl farwnad gampus iddo. Dywedir fod Rhys Cain yn achwr dysgedig, yn fardd da, ac yn lluniedydd cywrain. Rhoddwn yma ychydig o'i farddoniaeth. Cawn iddo rywbryd dramgwyddo rhywrai trwy arlunio y dioddefaint ar y groes, a chyhuddasant ef o fod yn eilun addolwr; a chanodd yntau iddynt yr englyn canlynol:

"Yr annuwiol ffol a ffy—poen alaeth
Pan welo lun Iesu;
Llunied—os gwell yw hyny,
Llun diawl ymhob lle'n 'ei dŷ."


Dywedir ei fod mewn Eisteddfod unwaith, lle y dangosai bardd o Forganwg y llyfr pren Coelbren y Beirdd, a chanodd Rhys yr englyn digrif a ganlyn:

"Ysgerbwd mewn cwd, nid min call—a'i mawl,
Llyfr moliant bardd cibddall;
Anhawdd yw ei iawn ddeall
Fe wna i ddyn a fo'n ddall. "

Rhoddwn eto un englyn o'i waith i awrlais Sion Trefor, o Swydd Ddinbych:

"Cloc Sion sy' dirion, llawer darn—yw hwn,
Hynod ddur a haiarn;
A thano fyth union farn,
Gwain o goed, ac yn gadarn."

Tybia rhai ei fod yn Babydd, a rhoddant yr englyn canlynol i brofi:

"Credaf Dduw'n benaf, ddawn byd—cariadawl,
Credaf iddo'n hyfryd;
A'i lun bun, a'i lawn benyd,
A'i wir gorff a'i air i gyd."

Yr oedd Rhys Cain wedi casglu llawer iawn o lyfrau, ond nis gwyddom i ba le yr aethant. Efe a gafodd lyfrau Syr Hywel ab Syr Matthew, a llyfrau Morys ab Dacin, ap Prys Trefor, o'r Bettws yn Nghedewen, a llyfrau William Lleyn, ei hen athraw, &c. Dywed hen ysgriflyfr yn y Gywreinfa Brydeinig mai yn Croesoswallt y claddwyd Rhys Cain, a Sion Cain ei fab.

Y mae "Cywydd Marwnad " o waith Rhys Cain i Thomas Powell, o Bark y Drewen, yn argraffedig yn y Gwyliedydd am y flwyddyn 1835, t.d. 121. (Rhys Cain a'i cânt, 1588.)

COLLWYN ydoedd fab i Tango ab Cadfael, ac yn gyff teulu un o bymtheg llwyth Gwynedd. Yr oedd yn Arglwydd Ardudwy ac Eifionydd, a rhan o Leyn; ac yn byw yn Nghastell Harddlech, pa un a adgyweiriwyd ganddo, am hyny gelwid y lle yn Gaer Collwyn, yn lle Tŵr Bronwen, fel y gelwid ef gynt. Nid ydym yn gwybod am ba hyd y bu Collwyn, a'i dylwythau ar ei ol, yn trigo yma; ond fe ddywedir fod ei hiliogaeth yn ddynion ardderchog a rhinweddol iawn, ac y cyfrifid hwynt yn agosaf at у tywysogion a'u hiliogaeth. Y mae lliaws o deuluoedd ein gwlad yn yr oes hon yn alluog i olrhain eu hachau iddo.


DAFYDD IFAN AB EINION [2] oedd filwr dewr, a cheidwad Castell Harddlech am tua naw mlynedd, dan deulu Lancaster,

yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynau. Gwnaed llawer cynyg trwy deg a garw gan Iorwerth IV. a'i bleidwyr i gael y Castell o'i feddiant, ond yn gwbl ofer; gydag ychydig wŷr efe a heriai yn y gaer gadarn hono holl alluoedd y Yorkiaid, tra nad oedd ond dwy gadarnfa eraill yn y deyrnas heb blygu i'w hawdurdod. Wedi blino o'r diwedd parodd y brenin i Wilym Herbert, Iarll Penfro, yn 1468, sef ymhen saith mlynedd ar ol esgyniad Iorwerth i'r orsedd, a dymchweliad tŷ Lancaster, gymeryd Castell Harddlech, beth bynag fyddai y canlyniadau. Ac wedi bod yn gwarchae ar у castell am ysbaid gorchymynodd yr Iarll iddo roddi y lle i fyny iddo ef, gan fygwth yn erwin os na wnai hyny. Y mae atebiad y gwron dewr o Harddlech yn werth i'w gadw mewn cof tra bydd Cymry yn genedl:— "Ewch a dywedwch i'ch meistr fy mod un waith wedi amddiffyn castell yn Ffrainc nes yr oedd holl hen wragedd Cymru wedi clywed am y peth, ac yr amddiffynaf hwn eto nes y clyw holl hen wragedd Ffrainc am yr amddiffyniad." Bu i'r atebiad gynddeiriogi yr Iarll yn ddirfawr, a gwnaeth ymosodiad yn y fan, a bu ymladdfa fawr, a Dafydd yn orchfygwr. Ar hyn aeth yr Iarll ymaith, gan adael rhwng ei frawd, Syr Risiart Herbert, â Dafydd. O'r diwedd gorfu ar Dafydd roddi y lle i fyny i Syr Risiart oherwydd newyn. Fe ddywedir ar lafar gwlad mai hen wraig o Harddlech a hysbysodd Syr Risiart am y ffrwd ddwfr oedd yn diwallu yn ddirgelaidd breswylwyr y castell, ac iddo yntau dori ei phen yn y fan am iddi fradychu y fath wroniaid. Ond ni roddodd y lle i fyny cyn cael sicrwydd amodol am ei fywyd ef a'i wŷr, ond nid oedd y brenin yn foddlawn ar hyn, a gwrthodai gadarnhau yr amod. Pan wybu Syr Risiart hyn dywedodd; Cymered eich Mawrhydi fy einioes i yn lle einioes y penaeth Cymreig, ond rhaid cyflawni yr amodau, neu ynte mi a roddaf Dafydd yn ol yn y Castell, a chewch chwithau anfon y neb y mynoch i'w gymeryd." Parodd hyn i'r brenin gydsynio; a thyna gafodd Syr Risiart am ei lafur, sef ei fywyd i Dafydd ab Ieuan ab Einion. Fe ddywedir mai ar yr achlysur hwn y cyfan soddwyd yr alaw odidog "Ymdaith Gwŷr Harlech," Pa beth a ddaeth o'r arwr dewr o Harddlech ar ol hyn nis gwyddom. (Pennant's Tours; Geir. Byw., Liverpool).

DAFYDD NANMOR.—Saif Nanmor yn Swydd Feirion, er ei fod yn rhan o blwyf Beddgelert.[3] Trigai Dafydd Nanmor yn Ngae Ddafydd, ger Hafodgaregog, hen balas Rhys Goch Eryri.

Dywed rhai mai mab mabwysiedig i Rhys oedd Dafydd, dywed eraill mai mab ordderch iddo oedd; ond nid ydym ni yn alluog i benderfynu. Dywedir hefyd ddarfod i Rhys roddi tyddyn i Dafydd, ac iddo yntau ei alw ar ei enw ei hun yn Gae Dafydd. Yr oedd yn ei flodau tua'r flwyddyn 1440, a bernir iddo farw tua 1460. Yr oedd yn Eisteddfod fawr Caerfyrddin yn y flwyddyn 1441; ac fel y dywed yr hanes, "Gwilym Tew o Dir Iarll, a Dafydd Nanmor, a gaed yn oreuon eu gwybodau a'u hawen; a mwyaf ei orchest ar gerdd dafod y bernid Dafydd Nanmor, ac hefyd am ddefodau Llysoedd Tywysogion Cymru hyd ag a barant." Dywed awdwr galluog "Hanes plwyf Beddgeleit" fod Dafydd Nanmor yn fardd rhagorol, a'i fod yn berchen awen gref, a theimlad dwfn, ac yn feistr trylwyr ar y caethfesurau. Dywed awdwr arall fod ei farddoniaeth yn fwy awenyddol a gorchestol nag eiddo nemawr un o feirdd dysgedig yr oes hono. Rhoddwn yma restr o'i ganeuon, yr hon sydd i'w gweled yn nhraethawd galluog Mr. William Jones, ar Hanes plwyf Beddgelert ":—

1, Cywydd i Harri, Iarll Rismwnt; 2, i Siasper, Iarll Penfro; 3, 4, 5, 6, 7, i Rhys o'r Tywyn; 8, 9, Marwnadau i Iarll Rismwnt; 10, i Dafydd ab I. ab Einion; 11, Marwnad i Rhys ab Meredydd; 12, i ddau fab Owen Tudur o Fôn; 13, i Gwilym Fychan o Rydhelyg; 14, i Syr S. Bawain, o'r Trallwng; 15, i Syr Dafydd ab Tomos; 16, Marwnad Tomos, Arglwydd y Tywyn; 17, i Wallt Merch; 18, Marwnad Merch; 19, i Wen o'r Ddol; 20, Y paun yn llattai ati; 21, i Fair; 22, Arwyddion dydd y Farn; 23, Addefiad Pechodau; 24, Cywydd o enwau Duw; 25, i'r Blaned Sadwrn; 26, i'r Cusan; 27, Y Cae Bedw; 28, Brut; 29, Marwnad Reinallt Fardd; 30, Damon a Phides; 31, Awdl Fraith; 32, i Harri VII., pan yn faban yn ei gryd; 33, Awdl i Wm. o Northylon. Y mae y rhan fwyaf o'r rhestr uchod mewn llawysgrifen, ac y mae llinellau cyntaf o 31 o'i gywyddau yn argraffedig ar glawr y Greal. Y mae tri Chywydd a dwy Awdl o'r rhestr yn argraffedig yn Ngorchestion Beirdd Cymru. ac y mae ei Gywydd i Dafydd ab I. ab Einion ' yn argraffedig yn y Brython, Cyf. 4, t.d. 380. Y mae ben ysgriflyfr yn y Gywreinfa Brydeinig yn dywedyd mai yn Tŷ Gwyn ar Daf y claddwyd D. Nanmor.

DAFYDD, ROBERT, Brynengan, pregethwr gyda y Trefnyddion Calfinaidd, a anwyd yn Cwmbychan, Nanmor, Swydd Feirion. Bu ei dad farw pan oedd ef yn flwydd oed. Pan oedd tua deuddeg oed aeth at ei ewythr frawd ei dad, a bu yno nes y gorfu ymadael, o achos iddo fyned i broffesu crefydd. Ni chafodd ddim manteision crefyddol pan yn ieuanc. Nid oedd Ysgol Sabbothol yn ei ardal eto, na phregethu yr efengyl. Pan yn un ar hugain oed daeth Sion Robert Lewis, o Gaergybi, i bregethu i'r gymydogaeth, a chafodd y bregeth gryn ddylanwad ar feddwl R. Dafydd. Tua'r un amser daeth Robert Jones, Rhoslan, i'r ardal, i gadw ysgol, a byddai Robert yn arferol o fyned i wrando arno yn egwyddori y plant, a byddai hyn yn rhoddi boddhad mawr iddo. Cyn hir cafodd ei lwyr argyhoeddi o'i gyflwr damniol, a gwnaeth hyn gyfnewidiad mawr ar R. Dafydd yn ei ddull o fyw; a dechreuodd pobl yr ardal felldithio R. Jones am yru Robert Dafydd o'i gof. Bellach dechreua deithio, weithiau mor bell â Llangeitho, i glywed pregethu. Yn y teithiau hyn bu yn dianc lawer gwaith a'i fywyd yn ysglyfaeth ganddo; oblegid byddai yn cael ei erlid yn ofnadwy yn Tanybwch, Penrhyndeudraeth, a Dolgellau, &c. Fel pregethwr ei hun nid oedd Robert Dafydd yn cael ei ystyried yn bregethwr mawr. Nid oedd yn hoff o drin pynciau athrawiaethol crefydd; crefydd brofiadol, &c., oedd ei hoff bynciau ef. Yr oedd yn fwy enwog fel gweddiwr nag oedd fel pregethwr; byddai yn llawer enwocach yn y gyfeillach eglwysig nag yn yr odfa. Bu yn hynod ddiwyd yn ngwasanaeth ei Arglwydd am oes faith, a bu farw mewn oedran teg Ebrill 18ſed, 1834.

DAI LLWYD, oedd un o Lwydiaid Cwmbychan, Ardudwy. Yr oedd yn bur enwog fel milwr dewr. Dywedir mai iddo ef y cyfarchwyd y dôn Gymreig a elwir "Ffarwel Dai Llwyd," ar yr achlysur o'i fyned gyda Jasper Tudor ac Owen Lawgoch i ym ladd yn erbyn Richard III. (Pennant's Tours.)


EDWARDS, ROBERT, (alias Robyn Ddu o Feirion) ydoedd fardd a llenor, a hynafiaethydd gwych o Drawsfynydd. Y mae o'i waith yn Nghorff y Gainc "Gywydd Marwnad i Rolant Huw o'r Graienyn," ger y Bala, ac "Englyn Cyffes y Bardd." Y mae yn yr un llyfr englynion er cof am dano gan Gwilym Peris. Yr oedd yn fab neu wyr i Edward Roberts, alias "Hen Ficer Crawgallt." Yr hyn a ganlyn sydd uwch ei fedd:—" Yma y gorwedd gorff Robert Edward, bardd celfydd, olrheiniwr dyfal, a chyfaill dianwadal, gynt o Bentref Trawsfynydd. Diweddodd ei daith helbulus Y mae ar у beddfaen Chwefror у 18fed dydd, 1805, yn 30 oed." hefyd ddeg o englynion o waith Griffith Williams (Gutyn Peris), ac eraill. Buasem yn eu rhoddi i lawr yma pe buasai gofod yn caniatau. Hefyd, y mae mewn hen lyfr yn ein meddiant bum' englyn coffadwriaethol eraill o waith Gutyn Peris, er cof am Robyn Ddu o Feirion, &c. A gallwn dybied wrth dystiolaeth y beirdd fod Robyn Ddu o Feirion yn seren ddisglaer iawn.

EDWARDS, LEWIS, alias "Llewelyn Twrog," ydoedd fardd a llenor, ac yn un o rai mwyaf gobeithiol ei oes pe cawsai fyw. Ganwyd ef Gorphenaf 2, 1832, a bu farw Tachwedd 8fed yn y flwyddyn 1861, yn 29 oed. Efe oedd yr hynaf o chwech o blant; ei rieni oeddynt Dr. E. Edwards, ac Elilabeth ei wraig, o Faentwrog. Yr oedd yn ysgrifenydd rhyddiaethol hefyd galluog iawn. Y mae y deuddeg llythyr a ysgrifenodd at y Parch Robert Ellis (Cynddelw), a ymddangosodd yn yr Herald Cymraeg, o dan y ffugeuw "Trefor Wynn," yn profi yn eglur mai nid un i gellwair ag ef ydoedd. Hefyd, mae yn y Bedyddiwr am y flwyddyn 1864 draethawd maith a galluog o'i eiddo ar "Hunan -ddiwylliant." Mae yn meddiant ei fam yn Maentwrog liaws o lawysgrifau, yn dwyn gwahanol ffugenwau, fel y mae yn anhawdd penderfynu i ba rai yr oedd efe yn awdwr. Ond fel y bu yr anlwc disgynodd y rhan fwyaf o'i lyfrau a'i lawysgrifau i feddiant Mr. R. T. Jones, llyfr-rwymydd, Porthmadog, yr hwn a omeddodd i ni eu gweled, er cynyg talu am hyny. Dyma ychydig o lawer o'r llawysgrifau sydd yn meddiant ei fam, Mrs. Edwards, Maentwrog: -1, Y Gymraes, penillion buddugol yn Eisteddfod Manchester, Dydd Gwyl Dewi, 1856; 2, Caniad Briodasol; 3, Chwe' englyn byrfyfyr ar drafferthion y Bardd wrth ddyfod adref o Gefn-y-cymerau, ar nos Sabbath: 4, Y Plentyn Mynyddig; 5, Cywydd a gyfansoddodd y bardd yn hen balas y tywysog Ithel, Dyffryn Ardudwy, Ion. 28, 1852; 6, Y Blodeuyn arwyddol, sef myfyrdod ar farwolaeth Miss Jane Roberts, merch Mr. W. Roberts, o'r Dyffryn Ardudwy, a chwaer i R. Roberts, Ysw., meddyg, Porthmadog; 7, Cwyn -ofaint y bardd; 8, Gwyneb llon a chalon drist; 9, Galargan ar ol Mrs. Ann Owens, priod Mr. John Owen, Ty isaf, Bettws-y-coed, 1861; 10, Pa le mae hi, y fenyw deg? 11, Robin, favorite bird of heaven, &c.; 12, Pan byddwyf bell; 13, Sut i ddewis gwraig; 14, Pryddest ar Gariad: -testyn Eisteddfod Llanfair Talhaiarn, Ionawr 1, 1855. Barnwyd hon yn oreu gan Eben Fardd. 15, Pryddestawd, o goffadwriaeth am Capt Prichard, testyn Eisteddfod Porthmadog, Llun y Pasc, 1856, am yr hon y derbyniodd yr awdwr y wobr o Dlws Arian a gini; 16, enillodd ar yr englyn i'r Hen Ferch, yn Eisteddfod Rhuthyn, Mawrth 1, 1859, pryd nad oedd dim llai na thrigain yn ymgeisio, a thyma yr englyn:—

"Adwaenir hynod anian—yr Hen Ferch,
Gwr ni fyn hi druan;
Mae'n unig a diddig dan
Arweiniad Ior ei hunan."

Y mae llawer ychwaneg yn meddiant Mrs. Edwards, a llawer ychwaneg na hyny yn meddiant R, T. Jones.

ELLIS, Parch. JOHN, D.D., ydoedd fab i Mr. Ellis o'r Glasfryn, yn Sir Feirionydd, a phrebendyr Llanfair, ger Harddlech. Ei fam ydoedd chwaer i'r Esgob Humphreys o'r Penrhyndeudraeth. Cafodd ei ddysg yn Ngholeg yr Iesu, Rhydychain, lle y cafodd y radd o D.D. Cafodd bersonoliaeth Llandwrog Medi 30, 1710. Yr oedd hefyd yn berson Llanbedr Arllechwedd yn Sir Gaernarfon, ac yn Archddiacon Meirionydd. Yr oedd yn hynafieithydd enwog, ac yn gyfaill i Syr Joseph Banks a Dr. Solander. Bu yn gynorthwy mawr i Brown Willis yn ei ym chwiliad i hynafiaethau Côr Eglwys Bangor.—(G. Lleyn ).


ELLIS, Parch. JOHN, D.D., duwinydd ac awdwr dysgedig, a anwyd yn Llandecwyn, 1599. Aeth i Goleg Hart, Rhydychain, yn 1617; ac yno, trwy ddyfalwch mawr mewn rhesymeg ac athroniaeth, cyrhaeddodd y radd o M.A. yn 1625. Ymhen tair blynedd yn mhellach, etholwyd ef yn gymrawd anrhydeddus o Goleg yr Iesu, ac efe ar y pryd mewn urddau eglwysig. Yn 1632 derbyniwyd ef i ddarllen y brawddegau; graddiwyd ef yn D.D., gan Brifysgol St. Andrew, yn yr Alban, 1634, ac ar ei ddychweliad i Rydychain yn ystod yr un flwyddyn, anrhydeddwyd ef a'r un cyffelyb deitl yno drachefn. Priododd Rebecca, merch i John Pettie, Stoke Talmach, Sir Rhydychain, a chafodd rectoriaeth Whitfield, yn agos i'r lle hwnw, yr hon a ddaliodd hyd 1647; a'r pryd hwnw cafodd rectoriaeth Dolgellau, lle yr arhosodd hyd ei farwolaeth yn 1665. Cyhoeddwyd o'i waith. - 1, Allwedd y Ffydd, 1642; 2, Esboniad ar Brophwydoliaeth Obadia, 1641; 3, Diffyniad i Ffydd yr Eglwys Brydeinig, 1647; 4, Hawliau Eglwys Loegr i ymneillduo oddiwrth Eglwys Rhufain, 1660. Y mae'r llyfrau hyn oll wedi eu hysgrifenu yn Lladin. Sefydlodd Ysgol Ramadegol yn Nolgellau yn 1665 tuag at addysgu 120 fechgyn, gan ei gwaddoli â fferm o'r enw Penbryn, yn mhlwyf Llanaber. Yr elw yn awr ydyw 40p. yn y flwyddyn. Rhaid i'r meistr, yr hwn a benodir gan offeiriad Dolgellau, fod wedi ei raddio yn Rhydychain neu Caergrawnt, ac nis gall ar yr un pryd ddal unrhyw fywioliaeth arall.—(G. Lleyn).

EVANS, Parch. EDMUND, Aberdeunant, pregethwr ffydd lawn, llafurus, a hynod o boblogaidd gyda'r Wesleyaid. Ganwyd ef yn Aberdeunant, yn mhlwyf Llandecwyn, yn Ardudwy, Gorphenaf 9fed, 1791. Pan yn bump oed anfonwyd ef i ysgol ddyddiol yn y gymydogaeth, at athraw o'r enw David Davies, a bu yno hyd nes yr oedd yn wyth oed. Y 4ydd dydd o Ragfyr, 1815, bwriodd ei goelbren i blith pobl yr Arglwydd, y rhai a ymgynullasent mewn lle o'r enw Bryn -y-bwa-bach, ger Talsarnau. Yn 1816 dewiswyd ef yn flaenor gan yr eglwys fechan hono. Am y ddwy flynedd y bu yn flaenor cyn dechreu pregethu bu yn hynod lafurus yn cadw cyfarfodydd eglwysig a chyfarfodydd gweddiau, &c.; byddai yn arfer myned ugain milltir o ffordd ar fore Sabbath i gynorthwyo cadw cyfarfod gweddio, ac weithiau fwy, ac waith arall lai. Y Sabbath cyntaf, a'r dydd cyntaf o Chwefror, 1818, y pregethodd waith gyntaf, mewn lle o'r enw Pandy, ger Talsarnau y testyn oedd Ioan iii. 14, 15, a bu yn pregethu gyda‬ dylanwad a chymeradwyaeth mawr tu hwnt i'r cyffredin, a hyny am yr ysbaid maith o saith-mlynedd -a-deugain. Bu farw Hydref 9fed, 1865, yn 73 oed. Yr oedd y Parch. Edmund Evans, fel y dywedwyd eisoes, yn hynod boblogaidd ymhob man lle yr elai, ac felly yn benaf oherwydd ei ddoniau rhwydd a naturiol. Byddai y gair cyntaf a ddywedai yn ddigon uchel ac eglur i glywedigaeth y person pellaf yn y gynulleidfa fwyaf, a'i lais yn ddigon.soniarus i foddio y glust fwyaf dichwaeth. Byddai yn werth myned ffordd bell i'w glywed yn gweddio. Nid ydym yn gwybod ond ychydig am Mr. Evans fel ysgrifenydd; ac ni wyddom ychwaith a gyhoeddodd rywbeth heblaw cyfrol o bregethau.


ELLIS, HUW, ydoedd frodor o Drawsfynydd, yn Meirion. Yr oedd yn gerddor o gryn enwogrwydd yn ei amser. (Lleyn.)


ELLIS, HUW, o Drawsfynydd, oedd chwareuydd da ar y delyn, yn enwedig o'r hen alawon Cymreig. Claddwyd ef yn mynwent Eglwys Towyn, Meirionydd; ar ei fedd y mae penill Saesneg, o waith, fel y tybir, William Nanney Wynn, Ysw., Maesyneuadd.—(Lleyn.)

EVANS, Parch. DANIEL, o'r Penrhyndeudraeth. Brodor o Langower, gerllaw y Bala, oedd D. Evans. Pan yn llanc eto, heb gyraedd ei lawn dwf, canfu Mr. Charles fod ynddo ddefnydd dyn a allai fod o wasanaeth yn nheyrnasy Gwaredwr, a pherswadiodd ef i adael ei dad a'i alwedigaeth, ac ymgymeryd â chadw ysgol ddyddiol Gymreig. Gyda y gorchwyl hwn y daeth efe i'r Penrhyn. Ni bu yno yn hir heb i'r hen dadau ffyddlawn a llygadog gael eu hargyhoeddi y gallai efe wasanaethu ei Dduw yn ngweinidogaeth yr efengyl yn gystal ag wrth gadw ysgol, a chymhellasant ef i ddechreu pregethu. Symudodd wedi hyny i'r ysgol at y diweddar Barch. J. Hughes, Gwrecsam. Ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn 1831. Ymroddodd i ymboeni yn y gair a'r athrawiaeth; enillodd sefyllfa uchel a pharchus yn Nghyfarfod Misol Sir Feirionydd, fel dyn o farn ac ymddiried; ac yn y naill a'r llall o'r cylchoedd hyn yr oedd ei lafur a'i ddylanwad yn dra chymeradwy. Yn raddol iawn y pallodd ei nerth a'i iechyd. Bu farw Tachwedd 7fed, 1868, mewn henaint teg, yn 80 mlwydd oed.—(Drysorfa, 1869, t.d. 31.)


FYCHAN, GRUFFYDD, Cors-y-gedol, yn Ardudwy. Yr oedd y Gruffydd hwn mewn bri mawr gan Jasper, Iarll Penfro, yr hwn a arosodd yn ei dŷ yn Nghors-y-gedol, pan yn dianc i Ffrainc yn amser Edward IV.; a dywedir fod Harri, Iarll Richmond, wedi hyny brenin Lloegr, gydag ef. Y mae hen dŷ yn Abermaw a elwir "Tygwyn yn Bermo," a ddywedir ei adeiladu gan Gruffydd Fychan, i'r diben, meddir, o ddal cyfeillach â phenaethiaid achos Lancaster, gan ei fod yn nes at y môr na'i balas yn Nghors-y-gedol. Ei wraig oedd Lowri, nith i Owen Fychan (Owain Glyndwr.) —(Meyrick's Dwn's Heraldry.)


GRUFFYDD, HYWEL, o'r Carneddi, yn rhan o blwyf Beddgelert ag sydd yn Ardudwy a elwir Nanmor. Ganwyd ef yn 1751-2. Ei dad oedd Gruffydd Morys, ab Morys Powel y Bardd. Yr oedd tuedd i brydyddu yn Hywel Gruffydd pan yn blentyn. Ni chafodd Hywel un math o ysgol pan yn blentyn, oherwydd hyny ni byddai un amser yn ysgrifenu ei ganeuon. Yn y flwyddyn 1826, efe a gyhoeddodd lyfryn bychan, yn cynwys "Marwnad Elizabeth Jones, o Hafod y Llan," "Carol Plygain," a "Chân o goffadwriaeth am ddaioni Duw yn rhoddi Cynhauaf ffrwythlawn i ni." Efe a gyfansoddodd lawer byd o ganeuon, y rhai a gopïwyd gan ei frawd Morys. Bu farw Hywel Gruffydd, ar ol treulio oes faith mewn llawer o helbulon, yn y flwyddyn 1837, a chladdwyd ef yn Beddgelert.—(Plwyf Beddgelert, gan William Jones, Porthmadog.)

GRUFFYDD, OWEN, o Fwlchgwernog, Nanmor, yn Ardudwy. Efe a anwyd yn y Caegwyn, yn Nanhwynan, ac yr oedd yn ei flodau o 1760 i 1780. Yr oedd Owen Gruffydd yn gyfansoddwr rhwydd ar gerddi; ond ychydig o'i gerddi sydd ar gael yn bresenol. Dywed Mr. W. Jones iddo glywed adrodd rhan o un gerdd o'i waith a wnaethai ar ol myned i fyw o Nanhwynan i Nanmor, a'i bod yn dechreu yn debyg i hyn:

"Nanhwynan wlad enwog, a'i llwyni meillionog,

* * * *


Am dani, wlad eurad, lle ce's i nechreuad,
Haws geny roi uchena'd na chanu."

—(Plwyf Beddgelert, gan William Jones, Porthmadog.)


HYWEL, MORYS AB, oedd daid i Hywel Gruffydd; yr oedd efe yn byw yn y Corlwyni, ac yn ei flodau oddeutu y flwyddyn 1700. Dywedir ei fod yn fardd gwych, a'i fod wedi gadael ysgrif lyfr helaeth o'i waith ar ei ol, yr hwn a adwaenid yn Nanmor wrth yr enw, Y Barcud Mawr. Y mae y llyfr hwn yn ngholl yn bresenol, ond bernir mai ei wyr, sef Morys Powel, a'i cymerodd gydag ef i Landegai, lle, ond odid, y mae i'w gael, pe y gwneid ymchwiliad am dano.—(Plwyf Beddgelert, gan W. Jones, Porthmadog.)


HUMPHREYS, HUMPHREY, D.D., Esgob Bangor. Ganwyd ef yn yr Hendref, Penrhyndeudraeth, Tachwedd 24ain, 1648, a bedyddiwyd ef ar y Sul canlynol, sef y 26ain, yn Eglwys Llanfrothen. Mab hynaf, ac etifedd Richard Humphreys, Ysw., o Margaret, merch Robert Wynn, Ysw., o'r Gesail Gyfarch, yn mhlwyf Penmorfa, Swydd Gaernarfon. Cafodd ei ddysgeidiaeth foreuol yn Ysgol Croesoswallt, lle y bu am rai blynyddoedd o dan ofal ei ewythr a'i dad bedydd, y Parch. Humphrey Wynn, A.M., o Goleg y Drindod, Rhydychain, ficer ac ysgolfeistr y lle hwnw; aeth oddiyno, ar farwolaeth ei ewythr, i Ysgol Ramadegol Bangor, o dan ofal Rhosier Williams, yr hwn oedd y meistr; oddiyno, yn Chwefror, 1665, danfonwyd ef i Rydychain, a derbyniwyd ef i Goleg yr Iesu, ymha le, ar ol cymeryd ei raddau o A.B., yn Hydref, 1670, y derbyniwyd ef yn yr haf canlyuol yn ysgolor o'r coleg hwnw. Yn Tachwedd, 1670, ordeiniwyd ef yn Bangor, gan yr Esgob Morgan; a'r un diwrnod cyflwynwyd ef i fywoliaeth Llanfrothen. Mehefin 12fed, 1672, derbyniodd ei M.A., ac yn Awst dewiswyd ef yn Gymrawd o Goleg Iesu. Rhoddodd berigloriaeth Llanfrothen i fyny; ac yn Tachwedd, cafodd fywoliaeth Trawsfynydd. Yn Tachwedd, 1673, gwnaed ef yn Gaplan i'r Dr. Humphrey Lloyd, olynydd y Dr. Morgan, yn Esgobaeth Bangor; Rhagfyr 16eg, 1680, pryd yr oedd yn B.D., yn Gymrawd o Goleg yr Iesu, ac yn dal Canoniaeth Bangor, urddwyd ef yn Ddeon yr. Eglwys hono. Cymerodd y radd o D.D. yn 1682, ac yn 1689 dyrchafwyd ef i Esgobaeth Bangor, ac oddiyno, yn 1701, symudwyd ef yn Esgob Henffordd, lle y bu farw, Tachwedd 20fed, 1712, yn 64 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn agos i'r allor yn yr Eglwys Gadeiriol hono.

Dywed rhai o'r ysgrifau sydd ger ein bron mai Margaret, merch i'r Dr. Morgan, oedd ei wraig; a dywed y lleill mai Elizabeth, merch ieuengaf Dafydd Llwyd ap Sion ap Dafydd ap Tudur ap Llewelyn, o'r Henblas, yn Llangristiolus, Mon, oedd hi: ond nid ydym yn alluog i benderfynu rhyngddynt. Os bu iddo ddwy wraig, dichon fod y ddwy blaid yn eirwir.

Dywedir fod yr Esgob Humphreys yn hynafieithydd rhagorol, ac iddo ysgrifenu amryw fywgraffiadau o Gymry enwog. Cyhoeddwyd rhai o'r ysgrifau hyn o'i eiddo yn yr argraffiad olaf o'r "Athienia Oxiensis," gan Wood; ac yn y gyfrol gyntaf o'r "Cambrian Register," am 1795.

Dywedir hefyd ei fod yn wr hynod o grefyddol, ac at ddiwedd ei oes yn neillduol felly, &c.— [Gweler Cam. Regis. am 1765; Williams's Em. Welsh.; Brython, Cyf. V. tudal. 379; Golud yr Oes, Cyf. II., tudal 310; Geir. Byw. Lerpwl; Geir. Byw. Aberdâr.]

HUMPHREYS, Parch. RICHARD, o'r Dyffryn, oedd un o weinidogion y Trefnyddion Calfinaidd, yn Sir Feirionydd. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1791. Tueddwyd ef at grefydd pan yn ieuanc; nid oedd yn teimlo ar y cyntaf unrhyw duedd i bregethu, ond cymhellwyd ef i hyny gan flaenoriaid yr eglwys yr oedd yn aelod o honi ar y pryd yn y Dyffryn, oddiar eu hadnabyddiaeth o'i gymwysder at waith pwysig y weinidogaeth. Bu am lawer o flynyddoedd ar ol dechreu pregethu yn dra chartrefol fel pregethwr, ond yr oedd efe yn ei ardal, ac yn yr holl fanau yr arferai fyned iddynt, yn myned rhagddo yn barhaus mewn cymeradwyaeth a dylanwad fel gwr cyhoeddus. Yn y flwyddyn 1853, cafodd ei urddo i gyflawn waith y weinidogaeth; yna efe a ymryddhaodd yn gwbl oddiwrth drafferthion masnach, yr hyn oedd ganddo o'r blaen yn chwanegol at ei dyddyn tir; ymroddodd at wasanaeth crefydd yn gyffredinol ymysg y Trefnyddion Calfinaidd, ac yn neillduol yn Sir Feirionydd, lle y cyfrifid ef, yn enwedig ar ol marwolaeth y Parch. Richard Jones, o'r Wern, yn un o'r prif arweinwyr. Edrychid arno yn fuan fel un o'r "colofnau " yn y cymdeithasfaoedd chwarterol, a pharhaodd yn ei ddefnyddioldeb a'i barch hyd derfyn ei lafurwaith, Yr oedd efe yn athronydd naturiol craffus, ac yr oedd argraff o'r cyfryw, yn gystal ag o'r amaethwr Cymroaidd, yn rhoi rhyw wreiddioldeb mawr ar ei ymddiddanion cyfeillgar, ynghyd ag ar ei weinidogaeth. Er ei fod yn nodedig am ei ffraethder parod, nid oedd dim yn isel ac yn annheilwng yn ei bregethau; yr oedd ei synwyr da, ei wybodaeth gyffredinol, yn gystal a'i ddeall yn yr Ysgrythyr, yn wasanaethgar iawn iddo fel pregethwr yn y pwlpud, ac fel bugail yn yr eglwysi. Yr oedd fel "gweithiwr difefl yn iawn gyfranu gair y gwirionedd." Byddai yn wastad yn rhodio "ar hyd ganol llwybrau barn." Dangosai fod dyn fel pechadur yn ddiesgus, a Christ yn ei aberth yn ddi-brinder, a'r Ysbryd Glan yn ei ras sancteiddhäol yn benarglwyddiaethol, a chrefydd yn yr oll a geisia yn wasanaeth rhesymol, yn gystal ag yn gyfundrefn ddwyfol. Yr oedd ei wendid a'i nychdod wedi ei analluogi i weinidogaethu er’s hir amser, na gwneyd dim yn gyhoeddus; ac ar 15fed o Chwefror, 1863, bu farw yn ei dŷ, yn Ngwern Iago, ger Penal, Sir Feirionydd, pan yn 72 mlwydd oed. Y: oedd yn hollol dawel ei feddwl yn ei holl gystudd. Yr oedd yn gallu sicrhau fod ei enaid yn gorwedd yn dawel ar drefn fawr yr efengyl. Parodd y newydd ei fod wedi marw chwithdod a phryder i filoedd o fynwesau. Yr oedd cofion hoff am dano fel gwladwr, fel cyfaill, fel Cristion, ac fel gweinidog yr efengyl, yn dyfnhau yr hiraeth wrth feddwl na cheid "gweled ei wyneb ef mwy." Claddwyd ei ran farwol wrth gapel y Dyffryn, pan weinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. L. Edwards, M.A., Bala, a'r Parch. Edward Jones, Llanwyddelen, a'r Parch. Rees Jones.—(Geir. Byw., Aberdâr.)

Yr oedd у Parch. Richard Humphreys, o'r Faeldref, Dyffryn Ardudwy, yn haeddu cofiant annhraethol cyflawnach na'r un uchod; ond nid ydym yn gwybod iddo gael yr un o fath yn y byd heblaw y cofiant cynes a wnaeth idd ei hun yn mynwesau miloedd o'r Cymry. Yr oedd yn ddyn mawr anghyffredin mewn corff a meddwl, ac yr ydym yn credu pe cawsai y manteision addysg y mae llawer o'r dynion ieuainc sydd yn cael eu codi i'r pwlpud yr oes hon yn eu cael, y buasai yn un o'r pregethwyr mwyaf a welodd y pwlpud Cymreig erioed. Yr oedd yn un o'r rhai enwocaf a adnabuom ni erioed mewn synwyr cyffredin a ffraethineb; yr oedd hefyd yn hynod o syml a gostyngedig--yn un o'r "rhai addfwyn a etifeddant y ddaear." "Yr anwyl Mr. Humphreys," oedd efe gan bawb a'i hadwaenai. Yn y Faeldref, Dyffryn Ardudwy, y ganed ac y maged ef; ac yno y preswyliodd bron dros ei holl fywyd. Symudodd i Penal yn ddiweddar, trwy briodi Mrs. Hughes, gweddw Mr. Hughes, o'r Wern Iago. Ym briododd y waith gyntaf â Miss Griffith, merch Capt. Griffith, o'r Abermaw, o'r hon y cafodd ddwy ferch, a'r ieuengaf o'r ddwy yw priod y Parch. Edward Morgan, Dyffryn.

Y mae amryw ysgrifau galluog a llawn o synwyr o eiddo Mr. Humphreys wedi ymddangos trwy y wasg:—1, Yr Hen Bobl, Traethodydd, cyf. I., t.d. 269; 2, Y Bobl leuainc, Traethodydd, cyf. II.; t.d, 67; 3, Hwda i ti, a moes i minau, Traethodydd, cyf. IV., t.d. 45; 4, Pobl y mawr gam, Traethodydd, cyf. VIII., t.d. 117. Y mae amryw ysgrifau eraill yn y Traethodydd ag yr ydym yn tybied yn gryf mai efe oedd eu hawdwr, ond nid oes genym sicrwydd. Ysgrifenodd lawer i'r Geiniogwerth a'r Methodist: Yr hên a wyr, a'r ieuanc a dybia; Boddlonrwydd; Modryb Lowri; William Ellis, Maentwrog, a phymtheg neu ugain o lythyrau dan yr enw ' Llythyr yr Hen Wr Mynyddig.' Y mae am ryw o'i ysgrifau hefyd yn y Drysorfa.

JONES, JOHN, milwriad yn myddin Cromwell, ydoedd fab i foneddwr tirion, ac yn hanu o deulu henafol. Ei dad ydoedd Thomas ab John, neu Jones, o Faesgarnedd, ger Drws Ardudwy, i yn Meirion, a'i fam ydoedd Ellen, merch i Robert Wynn ab Ifan, Ysw., o Daltreuddyn, yn yr un gymydogaeth. Mewn hen lyfr prin iawn, yn cynwys hanes y teyrnleiddiaid, dywedir ei ddanfon i Lundain i ddysgu rhyw gelfyddyd, eithr efe a aeth yn was i wr boneddig, ac oddiwrth hwnw at Syr Thomas Middleton, arglwydd faer Llundain, yn ngwasanaeth yr hwn y parhaodd am lawer o flynyddau. Ar doriad allan y rhyfel cartrefol ymunodd â byddin y Senedd, a chafodd gadbeniaeth ar y gwŷr traed, ac o hyny dyrchafwyd ef yn gyflym i fod yn filwriad (colonel). Darfu i fywiogrwydd ei weithrediadau ei argymell yn fuan i sylw a ffafr Cromwell, gan yr hwn y perchid ef yn fawr, ac ymddiriedwyd iddo amryw wasanaethau pwysig. Penodwyd ef yn un o. ddirprwywyr y Senedd i lywodraethu yr Iwerddon. Y swydd hon, meddir, a gyflawnodd mewn trais a gormes,"gan erlid y sawl a wahaniaethent mewn egwyddor oddiwrtho ef, gan adgodi hen gyfreithiau parth darllaw diodydd, gorthrymu pob tŷ yn Nublin ag oedd yn gwerthu diod, ac ni chaniatai i neb lanw swydd gyhoeddus os gwelid ef yn myned i dafarndy, fel yr oedd myned i ddioty neu eglwys reolaidd yn bechodau yr un mor beryglus a chosbadwy yn ei olwg. Wedi dychwelyd o'r Iwerddon efe a briododd Jane, chwaer Cromwell, a gweddw Roger Whitstone, Ysw., a phenodwyd ef, gan ei frawd-yn-nghyfraith, yn aelod o Dŷ yr Arglwyddi. Pan ddychwelodd Siarl II., a chymeryd meddiant o'r orsedd, y Milwriad Jones, gydag eraill, a wysiwyd o flaen y llys cyfreithiol am y rhan a gymerasai yn nghondemniad y brenin Siarl I., pryd y cafwyd ef yn euog, ac efe a ddienyddiwyd Hydref 17, 1660.—(Wms. Em Welsh.)

JONES, Parch. DAVID, Felinganol. Ganwyd ef Mawrth 31, 1813, mewn ffarm o'r enw Llandanwg, yn Nghwmwd Ardudwy. Ei rieni oeddynt Richard a Catherine Jones. Pan oedd David yn ddwy flwydd oed symudodd ei rieni i'r Borthwen, Penrhyndeudraeth. Cafodd ychydig o ysgol pan yn bur ieuanc gydag un o'r enw Mr. Evans, gweinidog gyda'r Annibynwyr. Yn 1831 symudodd D. Jones yn ol i Landanwg at ei daid. Yn Ebrill, 1833 cafodd ei dderbyn yn gyflawn aelod gyda'r Bedyddwyr yn Cefncymerau, a chyn diwedd yr un flwyddyn dechreuodd bregethu. Tua'r amser yma mabwysiadodd Mr. R. Wynne, Cefncymerau, ef i'w deulu, a rhoddodd ef yn yr ysgol gydag un o'r enw Daniel Davies, yr hwn oedd yn cadw ysgol yn y gymydogaeth. Yn Awst, 1837, aeth i athrofa Pontypool, a bu yno hyd 1840, lle y cyraeddodd radd dda o ddysgeidiaeth, mewn amser mor fyr. Cafodd alwad gan amryw eglwysi, ond eglwys y Felinganol a lwyddodd, lle y gweinidogaethodd am naw mlynedd. Bu farw y nghanol ei ddefnyddioldeb, yn Mehefin 3, 1849, yn 36 oed, a chladdwyd ef wrth gapel y Felinganol. Dywedir ei fod fel pregethwr yn sefyll yn y rhes flaenaf yn Nghymru. Cyhoeddwyd detholiad o'i bregethau.—(Geir. Byw., Aberdâr, t.d. 631.)

JONES, Parch. ISAAC, Ffestiniog. Ganwyd ef yn 1813. Ni chafodd fawr o fanteision dysgeidiaeth yn ei febyd. Pan yn 22 oed ymunodd â'r eglwys Annibynol yn Bethania. A chyn pen hir ymgymerodd a'r gorchwyl pwysig o bregethu yr efengyl. Yn 1838 aeth i'r athrofa, dan ofal y Parch. John Jones, Marton. Ni bu yn yr athrofa ond am ychydig, oherwydd afiechyd; aeth am adeg i Ffestiniog, a bu am ysbaid yn eu cynorthwyo yn Bethania; a llafurus a llwyddianus iawn y bu yn ei dymor byr. "Byddai ei bregethau yn drefnus, ei ddrychfeddyliau yn fywiog, ei hyawdledd fel dyn ieuanc yn fawr, ac arogl crefydd ar yr oll a ddywedai." Yn y 19eg o Fawrth, 1841, pan yn 28 oed, bu farw, o'r darfodedigaeth, er colled fawr i fyd ac eglwys, yn ol pob arwyddion.


JONES, Parch. JOHN RICHARD, o Ramoth, plwyf Llanfrothen, yn Nghwmwd Ardudwy, ydoedd flaenor a sylfaenydd i blaid fechan o Fedyddwyr yn Nghymru. Ganwyd ef yn Brynmelyn, plwyf Llanuwchlyn, yn Nghantref Penllyn, Hydref 13, 1765. Yr oedd ei rieni yn aelodau gyda'r Annibynwyr yn y lle hwnw, a dygasant yntau i fyny yn grefyddol. Dysgodd ddarllen Cymraeg yn dra ieuanc, a chafodd hefyd ysgol ddyddiol am ychydig amser, pryd y dywedir iddo ddysgu darllen Saesneg, ysgrifenu, a rhifo, yn hynod gyflym. Wedi hyn bu gartref am ryw ysbaid yn gweithio ar y tyddyn gyda ei dad, ond darllen a myfyrio oedd ei hoff waith. Yn 1782 bu farw ei fam, ac effeithiodd hyn yn fawr ar feddwl John. Yn 1788 daeth cenadon o'r Deheudir, perthynol i'r Bedyddwyr, i sefydlu achos yo Llanuwchlyn, a daeth J. R. Jones i'r penderfyniad mai bedyddio y crediniol trwy drochi oedd gwir fedydd Cristionogol, ac yn yr un flwyddyn trochwyd yntau. Dechreuodd bregethu cyn hir, ac yn fuan rhoddodd eglwysi Llanuwchlyn, Ramoth, Harddlech, Abermaw, a Thrawsfynydd, alwad unfrydol iddo i fod yn weinidog iddynt, ac efe a urddwyd i'r swydd hono yn Tachwedd 4, 1789. Dywedir ei fod yn bregethwr da, ac yn un o'r rhai mwyaf nerthol a phoblogaidd yn Nghymru yr adeg hono. Dywedir hefyd ei fod yn ddatganwr swynol iawn. Rhwng y blynyddoedd 1796 a 1800 cymerodd cyfnewidiad mawr ęto le yn meddwl Mr. Jones, ac yn ei ddull o bregethu hefyd. Yr achos o'r cyfnewidiad oedd iddo ddarllen: a mabwysiadu syniadau gwaith Mr. M'Lean, o Edinburgh; ond nid oedd gan neb hawl i gweryla âg ef am hyn, ac nid oedd ganddo yntau hawl i feio ei frodyr—y Bedyddwyr Cymreig—am na allent lyncu yr un athrawiaethau, a'u galw yn "Fedyddwyr Babilonig Cymru;" a thua'r flwyddyn 1801 neu 1802 ymneillduodd oddiwrth yr Hen Fedyddwyr, a sefydlodd blaid newydd ei hun. Dywedir nad oedd nemawr o'i gydwladwyr yn rhagori arno mewn dysgeidiaeth, ac ystyried ei fanteision. Ni chafodd ond ychydig o ysgol, eto dywedir ei fod yn gydnabyddus a Groeg, Lladin, a'r Hebraeg, ac yn gyfieithydd rhagorol o'r Saesneg i'r Gymraeg. Yr oedd yn fardd a cherddor gwych; gadawodd rai alawon ar ei ol, a darnau o farddoniaeth—emynau yn benaf—y rhai a welir yn Llyfr Hymnau a gyhoeddodd at wasanaeth ei blaid. Yn 1804 cyhoeddodd Rai Nodiadau ar Lyfrau Andrew Fuller, ac ysgrifenodd rai erthyglau i'r Theological Repository ar y 'Welsh Jumpers.' Bu farw Mehefin 27, 1822, yn 56 oed. Cyfansoddodd R. ab Gwilym Ddu awdl farwnad gampus i'w goffadwriaeth, yr hon sydd yn argraffedig yn Ngardd Eifion. Ysgrifenwyd ei fywgraffiad i'r New Evangelical Magazine am 1823, ac yn Seren Gomer am yr un flwyddyn.—(Gwyddoniadur.)

JONES, Parch. RICHARD, o'r Wern, Llanfrothen, yn Ardudwy. Un o weinidogion galluocaf y Trefnyddion Calfinaidd yn ystod yr haner canrif diweddaf, ac un o enwogion proselytaidd swydd Feirion. Ganwyd ef yn Coed Cae Du, ger Brynengan, swydd Gaernarfon, yn 1773. Unig fab oedd i John a Margaret Pritchard. Pan yn ieuanc anfonwyd ef i Gaernarfon i'r ysgol, lle y daeth yn gydnabyddus i fesur a'r Saesneg, Lladin, a Groeg. Daeth adref at ei dad o Gaernarfon, gan wrthod cymeryd ei ddwyn i fyny yn uch-gyfreithiwr (barrister); a chyn hir bwriodd ei goel bren i blith y Trefnyddion Cafinaidd yn eglwys Brynengan. Daeth rhinweddau Mr. Jones yn fuan i'r golwg; ac yn 1794 dechreuodd bregethu. Yn 1805 priododd Frances, merch Griffith Poole, o Egryn, yn Ardudwy, o'r hon y cafodd ddau fab a thair merch. Symudodd o'r Coed Cae Du i'r Llwynimpiau, plwyf Clynnog, yn yr un șir. Ni bu yno ond amser byr; symudodd i'r Wern, Llanfrothen, yn Ardudwy. Dywedir fod y Wern yn; gartref yr achos crefyddol yn yr ardal cyhyd ag y bu yn aros yno. Bu yn byw am ysbaid byr yn niwedd ei oes yn Rhosigor, ger Talsarnau, yn Ardudwy; ac yno y bu farw Chwefror 26, 1833, yn 60 oed. Am Mr. Jones fel pregethwr fe ddywedir, "Er na ddywedai gymaint yn yr un faint o amser a'r rhan amlaf, eto ychydig a geid yn dywedyd cyn lleied o eiriau heb eu heisiau ag ef. Y mae yn debyg na ellir dywedyd yr addurnid llawer ar ei fater gan ei ddawn, ond y mae yn ddiddadl yr addurnid ei ddawn a'r cyfan gan ei fater. Yr oedd cynifer o'i wrandawyr a hoffent ddarllen, a dal ar yr hyn a wrandawent, yn dra hoff o'i weinidog" aeth, " &c. Dywedir hefyd am Mr. Jones fel awdwr, "Dangosodd ynddynt gryfder galluoedd meddyliol, ac uchder ehediadau ag a'i gwnai yn deilwng o sylw yr archwaeth fanylaf." "Y rhai, er i'w hawdwr teilwng farw, a barant i'w goffadwriaeth fod yn fendigedig yn Nghymru tra parha ein cenedl, ein iaith, a'n crefydd." Rhestr o'i ysgrifeniadau:—Erthygl feistrolgar ar y Gwrthryfel Ffrengig, yn Seren Gomer. Y mae amryw o'i eiddo yn Goleuad Cymru, megis Rhybudd i bregethwyr a gwrandawyr efengyl; Sylwadau ar y Mammon anghyfiawn, ac Offrymu wrth gladdu, ac ar Allu ac Anallu dyn, i'r Drysorfa, am 1825. Gwnaeth ddau Holwyddoreg, Llyfr Hymnau, Drych y Dadleuwr, 1829. Ysgrifenodd hefyd Eglurhad ar y Beibl, hyd ganol y Salmau, a chyhoeddodd y gwaith ar Bum Llyfr Moses. Yr oedd ganddo lyfr meistrolgar ar Gyfryngdod Crist hefyd ar ei ganol pan fu farw. Hefyd y mae Traethawd ar y Cyfamod Gras galluog iawn o'i eiddo, wedi ym ddangos wedi iddo ef farw, yn y Traethodydd am 1852, t.d. 1. Y mae y rhai a ysgrifenasant ar y Parch. R. Jones, yn y cyffredin, yn gwneyd camgymeriad dibwys o berthynas i'r lle y bu farw. Dywedant mai yn y Wern y bu farw. Er nad yw hyn yn gymaint pwys, eto teg ydyw rhoddi goleuni ar y camgymeriad. Clywsom ein hunain y Parch. David Jones, Glanywern, ger Talsarnau, gweinidog y Bedyddwyr yn Porthmadog, yn adrodd hanesyn hynod mewn cysylltiad â marwolaeth Mr. R. Jones. Dywedai iddo ef a'r diweddar Barch. D. Williams, Talsarnau, fyned i Rosigor i ymweled â'r hen dad yn Israel y noson ddiweddaf y bu: fyw; ac wedi iddynt fyned allan o'r tŷ iddynt glywed cerddoriaeth angylaidd yn yr awyrgylch uwchben. Nid ydym am amcanu rhoddi un math yn y byd o esboniad ar hyn, gadawn i bawb ei esbonio fel y mynont; ond nid yw yn beth annaturiol i ni dybied mai gosgordd angylaidd oedd yno, wedi dyfod i gyrchu un o'r rhai ffyddlonaf o "fendigedigion blant y Tad" adref i ogoniant.

JONES, ROBERT (alias Robert Tecwyn Meirion) ydoedd fardd a llenor gwych yn ei ddydd. Ganwyd ef yn Cefn-trefor fawr, plwyf Llandecwyn, yn Ardudwy. Yr oedd yn un o naw o blant i Griffith a Mary Jones-pedwar o feibion a phump o ferched. Nid ydym yn gwybod y flwyddyn y ganed ef, na'r flwyddyn y bu farw; ganwyd ef tua diwedd y ddeunawfed ganrif, a threuliodd y rhan ddiweddaf o'i oes yn Liverpool, fel masnachydd glo, ac.; ac yno y bu farw ac y claddwyd ef. Y mae rhai o'i frodyr a'i chwiorydd yn fyw eto. Daeth llyfr barddonol bychan o'i waith allan yn y flwyddyn 1835; Liverpool, argraffwyd gan J. Jones. Cynwysa y llyfr:-1, Awdl ar longddrylliad yr agerlong 'Rothsay Castle', a ddigwyddodd nos Fercher, Awst 17, 1831-yr hyn oedd prif destyn Eisteddfod Freiniol Beaumaris yn 1832; clywsom ei fod yn drydydd ar y testyn hwn—testyn y gadair. 2, Englynion Beddargraff:—Englyn a gyfansoddodd y bardd i'w gerfio ar gareg fedd plentyn o'r enw Lewis:

"Yn seithmis goris oer gareg—'e roed
Yr edyn fu'n irdeg;
O'n gwydd, O! ddedwydd adeg,
I lŷs Duw aeth Lewis dêg."

Arall, cerfiedig ar gareg fedd plentyn o'r enw Rhys, yn mynwent Celynin:—

"Yr addfed faban ireiddfin—Rhys fwyn,
A'i wres fu mor iesin,
Mewn oer fedd mae'n awr ei fin,
Clo'i wyneb pridd oer C’lynin."

3, Chwe'Englyn i Bont Menai, a anfonwyd i Eisteddfod Beaumaris, dan y ffugenw Byron; 4, Cân a wnaeth y bardd i'w frawd pan yn myned i'r America, yn Ebrill, 1828 (ar y dôn Albanaidd). Fe ddywedir ddarfod i'r gân hon fod yn foddion i dori calon ei frawd. Bu ei frawd farw yn agos i New York, yn Awst 16, 1828. 5, Penillion, myfyrdod y bardd ar y môr wrth fyned o Lerpwl tuag adref, yn Awst, 1831 (ar y dôn 'Hyfrydwch y Brenin Sior.' 6, Penillion, ymholiad hiraethus y bardd am ei fam a'i hen gartref, ar y mesur 'Sweet Home,' Lerpwl, 1832. 7, Awdl ar Meirion, gwlad fy ngenedigaeth, Lerpwl, Ebrill 21 1835. Daeth llyfr barddonol arall o'i waith yn Mawrth 25, 1829: Pwllheli, argraffwyd gan Robert Jones. Yn cynwys:-1, Awdl, ar Wledd Belsassar, testyn y Gadair yn Eisteddfod Dinbych, yn yn y flwyddyn 1828. Nid ydym yn gwybod ymha le yr oedd yr awdl hon yn sefyll yn y gystadleuaeth. 2, Englyn i'r Awyr gerbyd:—

"Myg ddyfais o gais teg yw-iawn olwg,
Ni welaf ei gyfryw;
A dyn llên fydd dano'n llyw,
Nofiedydd i'r nef ydyw."

3, Cân i'w frawd pan yn cychwyn i America. Yr un yw hon ag sydd yn y llyfr arall. Y mae Carol Plygain o'i waith yn argraff edig yn Goleuad Cymru am y flwyddyn 1827, t.d. 281. (Mesur, Gwel yr Adeilad.) Hefyd, y mae yn y Drysorfa am Mawrth, 1836, Benillion o'i waith ar ol ei ddau gyfaill, Cadben Evans, 'Jane a Ann,' a'i wasanaeth-forwr, Peter Williams. "Y mae gweithiau y bardd doniol hwn yn lliosog, i'w canfod yn y grealon Cymraeg, ac amlwg y dangosant mai gwr galluog a diwydfawr ydoedd."

JONES, Parch. WILLIAM, ydoedd fab i Cadwaladr Jones, o'r Nant Fudr, wedi hyny o'r Coedcaedu, yn mhlwyf Trawsfynydd, yn Ardudwy. Ganwyd ef yn 1770. Bu am ryw ysbaid mewn ysgol yn Lloegr, ac wedi dyfod adref, gan fod ei dad yn arfer masnachu mewn da byw, arferai yntau fyned i Loegr gyda ei dad. Yn y tymor hwn ymhoffai yn fawr mewn efrydu seryddiaeth a'r cyffelyb ganghenau o wybodaeth, ac yr oedd wedi meddianu lliaws o lyfrau o'r natur hyny: Un tro pan yn Lloegr yn Llundain aeth i wrandaw ar y Parch. W. Romain yn pregethu, a chafodd y bregeth y fath effaith ar ei feddwl fel y cynygiodd ei hun i eglwys y Trefnyddion Calfinaidd yno; a phan ddaeth adref bwriodd ei goelbren gyda'r un enwad yn Nhrawsfynydd. Yn y fan newidiodd ei fywyd a'i efrydiaeth— dechreuodd efrydu duwinyddiaeth yn lle seryddiaeth, ac. Daeth ei ddoniau a'i dduwioldeb yn fuan i'r amlwg, fel y gwnaed ef yn flaenor yn yr eglwys; arferai ddechreu o flaen pregethwyr, ac esbonio penodau o'r Bibl yn achlysurol. Yn 1794 symudodd o Drawsfynydd i Fathafarn, plwyf Llanwrin, swydd Drefaldwyn, trwy briodi Mrs. Susan Watkins, gweddw o'r lle uchod, o'r hon y cafodd naw o blant. Bu yr un mor weithgar gyda'r achos yma ag yn Nhrawsfynydd'; "ac yn flwyddyn 1802 dechreuodd bregethu. "Er nad ydoedd yn hyawdl iawn o ran llithrigrwydd ymadrodd, eto yr oedd ganddo weinidogaeth nerthol." Oherwydd rhyw amgylchiadau yr oedd yn rhaid i Mr. Jones, ynghydag eraill, ymaflyd yn ngwaith y Cyfarfod Misol, pan nad oedd ond pregethwr ieuanc. Yn 1805 symudodd o Fathafarn i Ddolyfonddu, yn yr un plwyf, trwy iddo brynu y tyddyn hwnw, ac yno y bu hyd ei farwolaeth. Yn 1811 neillduwyd ef a brodyr eraill i gyflawn waith y weinidogaeth, a dyma oedd y neillduad cyntaf ymhlith y Trefnyddion Calfinaidd yn Nghymru. Dywedir ei fod yn wr cadarn yn yr Ysgrythyrau, ac yn dduwinydd mawr ar bynciau sylfaenol crefydd. Bu farw Mawrth 1, 1837, yn 67 oed, er galar i'w deulu, yr eglwys, a'r byd.

JONES, Parch. WILLIAM, Llanfrothen, yn Ardudwy, ydoedd bregethwr ieuanc tra gobeithiol gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Mab ydoedd i John a Catherine Jones, Melinycoed, Llanrwst. Ganwyd ef Gorphenaf 11, 1829. Pan oedd yn ddwy flwydd oed aeth at ei nain, Jane Jones, a'i ewythr, John Williams, Bryngoleu, Llanfrothen, yn Ardudwy; a chyda hwy y bu hyd ei farwolaeth. Cafodd ei fagu yn yr eglwys, ac yr oedd arwyddion arno.er yn foreu fod crefydd yn cael argraff ar ei feddwl. Yr oedd tuedd ynddo at bregethu er yn blentyn. Pan yn 14 oed cafodd ail ymweliad, a bu mewn helynt blin ynghylch ei gyflwr ger bron Duw. Rhoes heibio bethau bachgenaidd ar unwaith, a derbyniwyd ef yn gyflawn aelod yn eglwys Siloam, Llanfrothen. Llanwyd ef ar unwaith âg awydd cael gan eraill deimlo y pethau a deimlasai efe, a dechreuodd rybuddio a chynghori ei gyfoedion ieuainc; a bu yn offerynol i gael rhai yn ddirwestwyr, a lliaws i'r Ysgol Sabbothol, a gwelodd rai o ffrwyth ei ymdrech yn ymofyn y ffordd tua Sion dan gerdded ac wylo, a hyny cyn iddo erioed ddechreu pregethu yn gyhoeddus. Yr oedd yn hynod ffyddlawn hefyd gyda phob rhan o foddion gras, a chadwai gyfarfod yn wythnosol i ddysgu ac egwyddori y rhai ieuainc. Er ei fod yn llafurus yn dysgu eraill nid esgeulusodd ei hunan; byddai yn ddiwyd ddydd a nos yn diwyllio ei feddwl. Meddianodd yr eglwys syniadau uchel am dano yn fuan, a chymhellasant ef i bregethu, yr hyn a wnaeth gyda'r ymdrech mwyaf tra y cafodd fyw. Bu am ysbaid mewn ysgol yn. Penrhyndendraeth, yn parotoi at fyned i athrofa'r Bala; ond dyrysodd afiechyd ei amcanion. "Y cyfryw oedd nodweddiad y cyfaill ieuanc hwnw. Er ei holl ymdrechion, ei athrylith, a'r enaid mawr a feddai, ynghyda a gobeithion yr eglwys a'i gyfeillion am ei lwyddiant a'i enwogrwydd, torwyd ef i lawr gan angau Hydref 7, 1856, yn 27 mlwydd oed."—(Geir. Byw., Aberdâr.)

JONES, Parch. WILLIAM, Penystryd, Trawsfynydd, yn Dyma eto un o enwogion proselytaidd swydd Ardudwy. Feirion. Ganwyd Mr. Jones yn Tyddyn-dy, yn mhlwyf Lledrod, Ceredigion; ond bu,yn weinidog ffyddlawn yn Penystryd am yr ysbaid maith o naw-mlynedd-ar-hugain, ac ar y cyfrif hwn nis gallwn fyned heibio iddo yn ddisylw. Ganwyd ef Medi 15 1760. Ei rieni oeddynt Evan a Jane Jones. Cafodd ysgol dda er yn blentyn; a phan yn bur ieuanc aeth i athrofa Ystradmeurig, lle y bu am flynyddau yn ymbarotoi at weinidogaethu yn yr Eglwys Wladol. Yr oedd wedi' cyraedd gradd dda mewn ieithoedd, Groeg a Lladin, ac. Pan oedd oddeutu 18 oed cafodd ymweliad neillduol, a golwg newydd ar bethau ysbrydol, a derbyniwyd ef yn aelod gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Ni bu yn hir cyn dechreu pregethu. Bu yn pregethu yn effeithiol a chymeradwy am ysbaid gyda'r Trefnyddion Calfinaidd; ond am ryw resymau anhysbys i ni, ymunodd â'r Annibynwyr yn 1786. Yn 1789, derbyniodd alwad yr eglwys Annibynol yn Beaumaris, yn Sir Fon. Yma y priododd Miss Eleanor Jones. Yn 1792, ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth; a'r pryd hwn y sefydlodd yn weinidog yn Penystryd, lle y treuliodd y 29ain mlwydd olaf o'i oes, mewn llafur a llwyddiant hefyd. "Yr oedd gan Mr. Jones lwybr i bregethu neillduol iddo ei hun. Nid oedd dim yn ymddangos yn gywrain nac yn ardderchog yn nghyfansoddiad ei bregethau, nac yn ei ddull yntau yn eu traddodi, a gallesid meddwl weithiau, wrth ei glywed, ei fod ymron a thewi, heb ddim ychwaneg i'w ddywedyd; eto, yn ymyl hyn, cai afael ar ryw Ysgrythyr neu fater heb ei ddisgwyl, a dywedai yr hyn ag a fyddai yn nodedig o felus ac effeithiol iawn i ddynion profiadol." Dywedir ei fod yn wr gyda Duw,—fod rhywbeth neillduol yn ej weddiau. Bu farw yn hynod dawel a chysurus, Hydref 31, 1820.


LLOYD, DAVID, A.C., ydoedd fab Hugh Lloyd, ac a anwyd yn Pantmawr, plwyf Trawsfynydd, yn 1635. Cafodd ei addysg foreuol yn ysgol Rhuthyn, o'r hon yr aeth i Goleg Oriel, Rhydychain. Yn 1652, efe a raddiwyd yn G.C.; ac yn 1658, penodwyd ef yn beriglor Ilston, Whatlington, yn esgobaeth Rhydychain. Ni chadwodd y fywioliaeth hon yn hir, eithr wedi ei raddio yn A.C. y flwyddyn ganlynol, efe a aeth i Lundain, ac a benodwyd yn ddarllenwr y charter-house. Wedi hyny, efe a ymneillduodd i Gymru, ac a benodwyd yn gaplan i Dr. Isaac Barrow, Esgob Llanelwy, yr hwn a'i hanrhegodd â chanoniaeth yn 1670, heblaw amryw ddyrchafiadau eraill o fewn ei esgobaeth. Yn Awst, 1671, efe a benodwyd i ficeriaeth Abergele, ac ar yr un pryd yn brebendar y Faenol, yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Yn 1675, efe a gyfnewidiodd Abergele am Northop, yn Sir Gallestr, lle bu yn cadw yr ysgol rydd dros lawer o flynyddoedd, a hyny o fewn chwe mis i'w farwolaeth, pan y dychwelodd i'w le genedigol, gan y teimlai ei iechyd yn gwanhau. Bu farw Chwef. 16, 1691. Yr oedd yn frwdfrydig a diwyd yn nghyflawniad ei ddyledswydd au offeiriadol, ac yn arfer darllen y gwasanaeth bob dydd yn ei eglwys ei hun yn Northop. Hefyd, canmolid ef yn gyffredinol am ei hynawsedd a'i garedigrwydd i'r tlawd a'r anghenus, ac am ei barodrwydd i gyflawni unrhyw swydd ddaionus yn y gymydogaeth. Yr oedd yn awdwr amryw lyfrau:-1. "Wonders, no Miracles, London, 1666; " ' 2. "Memories of the Lives, Actions, Sufferings, and Deaths of those Noble, Reverend and Excellent Personages that suffered by death, &c., London, 1668." 3. "Church Worthies, &c., or, the Lives of the Right Rev. Archbishops, the Rev. Bishops, Doctors, and eminent Divines since the Reform ation; " 4. " State Worthies: being Observations on the States-men and Favorites of England since the Reformation.". &c. Y mae cyfres o'i lyfrau i'w gweled yn Athen. Oxon. gan Wood. Hefyd, y mae llawer o'i hanes yn History of Breconshire, gan Theo. Jones. (Williams' Emin. Welsh; Geir. Byw. Aberdar; Geir. Byw. Liverpool.)

LLOYD, Parch. HUGH N., (neu'r Canon Lloyd), a anwyd yn Mhersondy Maentwrog, Hydref 11, 1821. Ei rieni oeddynt y Parch. William Lloyd, a Margaret ei wraig; a galwyd ef yn ei fedydd yn Hugh Norris Lloyd. Pan oedd Hugh yn bur ieuanc sy mudodd ei dad i berigloriaeth Llanengan, a bu yno am ychydig flynyddoedd; ac wedi hyn, ar farwolaeth yr hen Berson Humphreys, cafodd fywioliaeth werthfawr Llanfaethlu, yn Mon. Bu iddynt res hir o blant. Tyfodd naw o honynt i fyny i oedran pwyll, ac yr oedd arwydd arbenig ymhob un o honynt o feddylgarwch ac arabedd, yr hwn arabedd weithiau a ddefnyddid,os byddai eisiau, yn wawdiaeth mwyaf ysgorpionog. Dygwyd Evan Garnons i fyny yn ddoctor yn y fyddin. John a afonwyd i ysgol Rhuthyn, ac enillodd, ar gyfieithu Cywydd y Farn Goronwy Owen i'r Saesneg, ac hefyd ar gân o glod i'r dewr Owen Glyndwr. Yr oedd yn ysgolhaig campus, yn gyfaill pur, ac yn gwmni lļawen a diddan. William oedd feddyg clodfawr, hynaws, a charedig. Robert a hoffid gan bawb a'i hadwaenai, ac nid oedd neb o fewn y wlad yn fwy cymwynasgar nag ef. Hugh, yntau a ddygwyd i fyny Mewn amser cyfaddas, anfonwyd ef i ysgol i'r offeiriadaeth. Rhuthyn, prif athraw yr hon ar y pryd oedd Dr. Williams, prif lywydd Coleg yr Iesu, Rhydychain. Pan oedd H. Lloyd yn yr ysgol hynodid ef am ei fanylwch a'i ddiwydrwydd. Hynodid ef hefyd ymysg ei gydysgolorion gan deimlad llednais, geirwiredd, a charedigrwydd, a dywedid ar sail dda, gan un oedd yn yr ysgol ar yr un adeg, nad oedd neb a hoffid gan bawb ond Hugh N. Lloyd.—(G.)

LLWYD, HUW, bardd enwog a drigianai yn Cynfal, plwyf Maentwrog, yn Ardudwy. Bu yn swyddog yn y fyddin, a gwasanaethodd lawer o flynyddoedd fel y cyfryw ar y Cyfandir, a dychwelodd i'w ardal enedigol i dreulio gweddill ei oes, lle у bu farw yn 1620, uwchlaw 80ain mlwydd oed. Claddwyd ef yn Maentwrog, a dywedai ei hen gyfaill a chydfardd, yr Archadiacon Prys rector y plwyf ar y pryd

"Ni chleddir, ac ni chladdwyd
Fyth i'r llawr mo fath Huw Llwyd."

Mae yn nghanol rhaiadrau rhamantus yr afon Cynfal, gruglwyth o graig yn ymddyrchafu o ganol y dyfroedd, a adwaenir hyd y dydd-hwn wrth yr enw "pwlpud Huw Llwyd;" a dywed llafar gwlad, mai yno, i ganol trwst dibaid y rhaiadrau, y cyrchai yn y nos wrtho ei hunan i fyfyrio. Yr oedd yn fardd gorchestol, fel y prawf ei amrywiol weithiau a drosglwyddwyd mewn llaw ysgrifen yn benaf i'r oes hon, ac y mae ei "Ymddiddan rhwng y bardd a'r llwynog," a welir yn Cymru. Fu, 1,357—y ddrama fechan oreu a llawnaf o addysg bur ag sydd yn yr iaith Gymraeg. Efe a ysgrifenodd ei englyn beddargraff ei hun, yr hwn sydd yn argraffedig yn Greal Llundain.


LLWYD, Parch. MORGAN, o Wynedd, ydoedd yn hanu o deulu Cynfal, yn mhlwyf Maentwrog, yn Ardudwy, a thybir mai nai neu fab ydoedd i Huw Llwyd, Cynfal. Yr ydym ni yn tybied yn gryf mai mab iddo oedd. Ganwyd ef tua'r flwyddyn 1619. Dywedir iddo gael addysg dda, ond ymha le, a than ba amgylchiadau, ni ddywedir. Pan yn ieuanc, aeth i aros i Wrecsam, pryd yr oedd Walter Caradoc yno yn gurad, o tan weinidogaeth yr hwn y daeth Mr. Llwyd i deimlo nerth yr efengyl. Pa bryd y dechreuodd bregethu, nis gwyddom, ond gwyddom ei fod yn un o'r Puritaniaid a dderbyniodd ei ran o erledigaeth yn Nghymru. Bu am ysbaid yn weinidog ymneillduol, neu gurad, yn Ngwrecsam; ond pregethwr teithiol oedd ef—teithiodd lawer, yn enwedig yn Ngogledd Cymru. "Yr oedd yn wr o gyneddfau cryfion, o benderfyniad diysgog, yn nodedig am ei dduwioldeb, yn ddwfn a dwys ei fyfyrdodau, ac yr oedd llawer o bethau cuddiedig yn ei ymadroddion, ei lythyrau, a'i lyfrau."

Ceisiwn roddi rhestr o'i weithiau awdurol:—1. "Dirgelwch i rai i'w ddeall, i eraill i'w watwar, sef tri aderyn yn ymddiddan, yr eryr, y golomen, a'r gigfran," Gwrecsam, 1653. 2. "Gwaedd yn Nghymru yn ngwyneb pob cydwybod," 1653. 3. "Y Lleſerydd Anfarwol," 1656; ymddangosodd cyfieithiad o'r llyfr hwn yn Llundain yn 1739, tan y teit), "A Discourse on the Word of God." 4. "Yr Ymroddiad," 1657. 5. "Cyfarwyddyd i'r Cymro," 1657. Dywedir iddo ysgrifenu llyfr arall—"A dialogue between Martha and Lazarus, about his soul." Bu farw Mehefin 3ydd, 1659, yn 40 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent yr Ymneillduwyr yn Ngwrecsam.

LLOYD, HUMPHREY, D.D., ydoedd drydydd mab Richard Lloyd, D.D., ficer Ruabon, ac yn disgyn o deulu henafol Llwydiaid, Duluasai; a anwyd yn Bod y Fuddau, plwyf Trawsfynydd, yn 1610. Derbyniwyd ef i Goleg Oriel, Rhydychain, o ba le y symudwyd ef i Goleg yr Iesu, lle y daeth yn ysgolor; dychwelodd drachefn i Goleg Oriel, a gwnaed ef yn gymrawd, a pharhaodd yn ddysgawdwr enwog am lawer o flynyddau. Pan ymsefydlodd y brenin a'i lys yn Rhydychain, daeth yn gydnabyddus gyda'i gydwladwr, yr Archesgob Williams, yr hwn a'i dewisodd yn gaplan iddo ei hun, ac a roddes iddo brependiaeth Ampleford ymhrif Eglwys York, yr hon a ddaliodd hyd ei farwolaeth. Ar farwolaeth ei dad, yn 1653, efe a'i dilynodd fel ficer Ruabon, ond efe a gollodd ei swydd yn ystod rhwysg y Werin lywodraeth. Gwnaed ef yn ganon esgobaeth Llanelwy yn 1661, a chymerodd y radd o D.D., ac yn 1673, symudodd o ficeriaetha Ruabon, Sir Ddinbych, i ficeriaeth Gresford, yn yr un sir, yn lle ei frawd hynaf, y Parch. Samuel Lloyd. Cysegrwyd ef yn esgob Bangor Tachwedd 17eg, 1673, ac yn y swydd hono pwrcasodd archddeoniaethau Bangor a Môn, a gwag fywoliaeth Llanrhaiadr yn Nghinmerch, gan eu huno âg esgobaeth Bangor yn 1685; a dwy ran o dair o gyfranau Llanddinam, gan eu cyflwyno at yr achos eglwysig, a chynhaliaeth côr Bangor, a'r drydedd ran arall er budd ficeriaeth Llanddinam. Bu farw yn 1688, a chladdwyd ef yn ei brif Eglwys.—(Wood's Athen. Oxen; Geir. Byw. Ler pwl; Geir. Byw. Aberdar; Golud yr Oes, Cyf. II., tudal 310.).

MEREDYDD, WILLIAM, Ysw., a anwyd yn Abermaw, yn y flwyddyn 1802. Yr oedd yn ysgrifenydd yr Ysgol Gymreig, Gray's Inn Road, Llundain. Bu farw Ebrill 13eg, 1852, yn 50 mlwydd oed. Nid oes genym fawr o'i hanes, ond y mae yn ein meddiant Awdl Marwnad iddo, gan Aled o Fôn, yn ei godi i bob eithafion.


NANEY, Parch. RICHARD, ydoedd fab i Robert Naney, o Gefndeuddwr, yn mhlwyf Trawsfynydd, Ardudwy. Ei fam oedd Martha, ferch Richard ab Edwards, o Nanhoron Uchaf, yn Lleyn, Sir Gaernarfon. Efe a briododd Hydref 27, 1732, âg Elizabeth, ferch William Wynne, o'r Wernfawr, yn Lleyn. Cafodd ficeriaeth Clynnog Fawr yn 1723, a phersonoliaeth Llanaelhaiarn yn 1765. Yr oedd hefyd yn gofrestrydd a chanon yn Eglwys Gadeiriol Bangor. Tra yr oedd yn ficer Clynnog, yr oedd yn byw yn y Farchwen. Yr oedd yn ŵr tirion a hynaws. Daeth rywfodd i wrando y Methodistiaid, y rhai oeddynt yn dechreu teithio y wlad y pryd hyny, a mabwysiadodd feddyliau ffafriol am danynt ac am y weinidogaeth; a rhagorai ei weinidogaeth yntau ar bawb o'r bron o'i frodyr urddasol trwy yr holl wlad. Yr oedd yn ddyn o feddwl galluog iawn; ac yn bregethwr cymeradwy; byddai ei gynulleidfa yn fwy na'r cyffredin yn yr hen fam-eglwys. Yr oedd ei holl enaid yn y weinidogaeth; ni thalai y sylw llelaf i bethau bydol, &c.


NANMOR, RHYS, ydoedd fab i Dafydd Nanmor, ebe awdwr "Enwogion Cymru," ac yr oedd yn ei flodau o'r flwyddyn 1440 i 1480. Ymddengys mai gwr eglwysig oedd, ac yn preswylio yn Maenor Fynwy, Swydd Benfro. Y mae ychydig o'i waith yn nghadw mewn llawysgriſau; ac y mae un awdl o'i eiddo i Harri VII. yn gyhoeddedig yn yr Iolo MSS.—(Hanes Plwyf Beddgelert, gan W. Jones.)

OSBER, neu Osburn Wyddel, neu Osber Fitzgerald, oedd flaguryn o'r gangen Ddesmondaidd o'r cyff Gwyddelig Geraldaidd. Daeth trosodu i Gymru tua therfyn y 13eg ganrif. Dywedir' iddo ddwyn gydag ef gant o wyr meirch ar gant o geffylau gwynion, ac i'w wasanaeth gael ei dderbyn gan Llewelyn, Tywysog Cymru. Sefydlodd yn Berllys, neu lys Osber, ger Corsygedol, yn Ardudwy; ac y mae tiroedd gerllaw a elwir Berdir, neu dir Osber. Dywedir ei fod wedi priodi aeres Corsygedol, a bod y lle hwnw o ganlyniad yn eiddo iddo. Y mae olion caerfa yn weledig eto yn Berllys. Un o ddisgynyddion mwyaf anrhydeddus Osber ydoedd Dafydd ab Ifan ab Einion, cwnstabl dewr Castell Harddlech yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynau. Y mae teuluoedd eraill yn Meirion yn hawlio eu disgyniad o hono.

Dywed Myrddin Fardd fod y Fychaniaid Corsygedol, yn disgyn yn unionsyth o hono.—(Gwel Achau Corsygedol, yn yr Haul.)


PARRY, Parch. ELIAS, a anwyd yn ardal Maentwrog, yn Ardudwy. Cafodd ei ddysgeidiaeth yn ngholeg yr Arglwyddes Huntingdon, Cheshunt. Ymsefydlodd fel gweinidog yn Cheltenham, ac wedi hyny yn Spa Fields, Llundain, lle у bu yn gweinidogaethu i gynulleidfa fawr am lawer o flynyddau.—(G. Lleyn).


PHYLIP, GRUFFYDD, ydoedd fardd o Ardudwy, yn ei flodeu yn yr 17eg ganrif. Mab ydoedd i Sion Phylip, o Fochras, ar farwolaeth yr hwn, yn 1620, efe a gyfansoddodd ei farwnad, yr hon, ynghyd â phethau eraill o'i waith, sydd ar gael mewn llaw ysgrifen. Canodd awdl ar briodas Owen Wynne, o'r Glyn, yn 1661.—(Wms. Em. Welshmen.)


PHYLIP, PHYLIP SION, ydoedd frawd i Gruffydd Phylip uchod, a mab arall i'r enwog fardd Sion Phylip, o Fochras, yn Ardudwy, ac fel amryw eraill o'r teulu awenyddol hwnw, yn ymhwedd gyda cherdd a chân. Y mae llawer o'i gyfansoddiadau ar gael, ac yn eu plith farwnad Maurice Wynne, Ysw., o Foelyglo, yn Ardudwy, yr hwn a fuasai farw yn Hydref, 1673.—(Wms Em. Welsh).


PHILLIP, RHISIART, brawd arall i Gruffydd a Phylip Sion Phylip, ac yn fab i Sion Phylip,[4] o Fochras. Yr oedd yntau yn fardd da, ac y mae ychydig o'i waith ar gael, ymhlith y rhai y ceir marwnad i Mr. Maurice Jones, o Benmorfa, Swydd Gaernarfon, y? hwn a fu farw yn 1624. (Dywed rhai mai brawd i Sion Phylip oedd y Rhisiart Phylip uchod, ond nid ydym ni yn alluog i ben derfynu).

PHYLIP, SION, tad Gruffydd Phylip a Rhisiart Phylip uchod. Yr oedd y bardd clodfawr hwn wedi bod yn byw am ryw ysbaid yn Hendref Waelod, yn Ardudwy Dichon mai yma y ganed ac y maged ef, ac iddo symud i Fochras trwy briodi, neu ryw ffordd arall. Yr oedd yn cydoesi â'r Archddiacon Prys, a dywedir hefyd ei fod yn ddigon o ddyn i dynu'r dorch âg ef, a chyhyd ei wynt ag yntau. Mab hynaf ydoedd i Risiart ab Morgan ab Palws, yr hwn oedd o deulu parchus yn ac oddeutu Harddlech. Graddiwyd ef yn bencerddiad yn Eisteddfod Caerwys yn 1565. Yr oedd Sion Phylip yn llysieuwr gwych, ac yn freninolwr zelog. Bu yn gweinyddu fel cymedrolwr mewn rhyw gweryl a fuasai rhwng William Cynwal a Huw Machno. Efe oedd bón teulu Corsygedol—y Fychaniaid. Ystyrid ef yn hyddysg mewn tair iaith, sef y Gymraeg, y Saesneg, a'r Lladin. Yn y Brython IV., 66 233[5], y mae Cywydd y Wylan " o'i waith; ac y mae ' amryw ddarnau eraill o'i waith yn wasgaredig hyd ysgriflyfrau barddonol, ac eraill yn argraffedig hyd wyneb y cylchgronau Cymreig. Bu farw yn 1620, yn Mhwllheli, trwy foddi, yn 77 oed, a chladdwyd ef yn Llandanwg, yn Ardudwy. Y mae yn hawdd canfod mai nid dyn anenwog oedd S. Phylip oddiwrth y ffaith y fod cynifer o brif feirdd ei oes wedi canu marwnadau ar ei ol—Archddiacon Prys, Rhisiart Cynwal, Gruffydd Phylip ei fab, Ieuan Llwyd, a Gruffydd Hafren. Gwnaeth Huw Llwyd, Cynfal, feddargraff iddo, ond ni cherfiwyd ef ar gareg ei fedd hyd 1858, pryd y gwnaed hyny ar draul y gwladgar Ab Ithel. Fel y canlynmae'r englyn:—

"Dyma fedd gwr da oedd gu—Sion Phylip,
Sain a philer Cymru;
Cwynwn fynd athraw canu
I garchar y ddaear ddu."



PETERS, Parch. JOHN, Trawsfynydd, ydoedd weinidog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Ganwyd ef Tachwedd 20, 1779, yn . Wenallt, plwyf Llangower, yn Penllyn. Magwyd ef gan ewythr iddo yn y Bala. Cafodd ysgol dda pan yn ieuanc Byddai yn arfer a gwrando yr efengyl, a dywedir y byddai yn hynod glywed y Parch. Robert Roberts, o Glynnog; a dywedir hefyd y byddai yn ceisio byw yn dda ar ol clywed ei gyhoeddi, ac am amser maith ar ol ei glywed. Pan oedd tuag 20 oed, daeth y Parch. John Evans, New Inn, i bregethu i le a elwir Pontyronen, Llangower; a dywedodd Ysbryd yr Arglwydd wrtho y pryd hwn, "Hyd yma yr ai, ac nid yn mhellach," a thaflodd ei goelbren gyda phobl yr Arglwydd. A dywedir ei fod yn hynod mewn gweddi y pryd hwnw. Cyn hir dechreuodd bregethu, a phregethodd y waith gyntaf yn y Bryniau goleu, yn Llangower. Yn 1823, priododd Mrs. Roberts, gweddw Mr. Thomas Roberts, Trawsfynydd, i'r hwn le y symudodd i fyw o hyny allan. Yn 1827, neillduwyd ef yn y Bala, i gyflawn waith y weinidogaeth. "Yr oedd J. Peters yn hynod o ddiabsen am bawb—yn barchus o'i holl frodyr; ac felly gan ei frodyr. Un hynod am heddwch a thangnefedd ydoedd efe ymhob man yn y gymydogaeth, ac yn enwedig yn yr eglwys." "Cafodd lluoedd fendith a phleser mawr wrth wrando arno; yr oedd ei faterion yn bwysig, a'i ddawn yn felus a serchiadol; nid oedd yn dynwared neb, byddai yn arfer ei ddawn naturiol ei hun, Yr oedd ei agwedd yn yr areithfa yn addas i'r mater y traethai arno; pan y byddai yn traethu am ddrwg pechod, ei effeithiau a'i ganlyniadau, g farn a phoenau uffern, byddai ei edrychiad yn sobr a difrifol iawn. A'r ochr arall, pan yn traethu am drefn iachawdwriaeth, anchwiliadwy olud Crist, ei barodrwydd i dderbyn pechaduriaid, diogelwch cyflwr y rhai duwiol yn eu hundeb â Christ, a dedwyddwch y saint yn y nef, byddai gwen siriol ar ei wynebpryd. " Bu farw Ebrill 26, 1835, a chladdwyd ef yn mynwent Trawsfynydd.

PHYLIP (William), bardd rhagorol o Ardudwy; a dywed Williams yn ei Eminent Welshmen, ei fod yn frawd i Sion Phylip o Fochras. Ond y mae Mr. Ellis Pugh, yn ei draethawd ar "Hynafiaethau Harlech a'r gymydogaeth," yn dywedyd nad oes sail i'r fath haeriad, heblaw fod y ddau yn Phylips.-Gweler Brython V, 129. A rhaid i ninau addef nad ydym yn ddigonol i benderfynu rhwng Williams a Pugh. Yn ol Pugh, ganwyd ef yn Ty'n y berth, ger Talybont, yn Ardudwy, a dywed hefyd fod ei dad-Phylip William, yn hen ac oedranus pan ei ganwyd. Yr oedd W. Phylip yn byw yn adeg derfysglyd y Rhyfel Cartrefol, ac yn selog dros y brenin-Siarl I., ar ol yr hwn y cyfansoddodd farwnad, yr hon a argraffwyd yn ol G. Lleyn, yn 1648:—"Cywydd Marwnad Siarles y cyntaf, Brenin Prydain Fawr, Ffrainc, a'r Werddon, a'r Ynysoedd a'r Moroedd o'u cwmpas, pen amddiffynwr y Ffydd; o waith William Philip o Sir Feirionydd, wr bonheddig. A. D. 1648." Tynodd hyn yr hen fardd i helbul ofnadwy, atafaelwyd ei feddianau, a gorfu iddo yntau yn 73 oed, ffoi i'r mynydd, lle y trigai am ryw ysbaid, nes y cafodd ryw amodau heddwch. Enw ei gartref ydoedd Hendref Fechan. Argraffwyd amryw o'i gyfansoddiadau yn y Blodeugerdd. Bu farw yn 1669, a chladdwyd ef yn mynwent Llanddwywe, yn Ardudwy; y mae ei gareg fedd i'w gweled eto, a'r geiriau hyn arni:—" W. Ph., 1669, Fe. XI."

PRICE, THEODORE, D.D., a anwyd yn Bron y foel, plwyf Llanenddwyn, yn Ardudwy. Mab ydoedd i Rhys ab Tudor ab William Fychan, o Gilgeran. Addysgwyd ef yn Rhydychain, lle y daeth yn gymrawd o goleg yr Iesu, ac ar ol hyny yn athraw ar Hart Hall. Wedi ei raddio yn y celfyddydau, cafodd fywoliaeth yn ngwlad ei enedigaeth, trwy gael ei benodi yn beriglor Llanfair, ger Harlech, yn 1581, ac yr oedd mewn meddiant o'r segurwyd cyfoethog, sef perigloriaeth Llanrhaiadr, Dyffryn Clwyd. Yn 1596, gwnaed ef yn brepend Winchester; ac yn 1623, yn brepend Westminster. Bu farw Rhagfyr 15, 1631, a.chladdwyd ef yn Westminster.— (Wood's Athen Oxon.)


PRYS, EDMUND, Archddiacon Meirionydd. Y mae ei enw yn eithaf adnabyddus fel cyfansoddydd y Salmau ar gân, i wasanaeth addoliad cyhoeddus. Ganwyd ef yn Gerddi Bluog, plwyf Llanfair, yn y flwyddyn 1541. Y mae y Geiriaduron Bywgraffyddol, a Gwilym Lleyn, a phob ysgrif a welsom o'r bron, yn camgymeryd am le genedigol Edmund Prys—dywedent fod Gerddi Bluog yn mhlwyf Llandecwyn; ond yn mhlwyf Llanfair, fel y dywedwyd eisoes y mae. Addysgwyd ef yn Athrofa St. Ioan, Caer grawnt, lle y cymerodd ei radd o A.C. Wedi ei urddo, rhodd wyd iddo bersonoliaeth Ffestiniog, a'r capeliaeth perthynol, sef Maentwrog, yn y flwyddyn 1572; yn 1576, gwnaed ef yn Archddiacon Meirionydd. Yn y flwyddyn 1580, cafodd bersonoliaeth Llanddwywe; ac yn y flwyddyn 1602, gwnaed ef yn Ganon Llanelwy. Yr oedd yn byw yn y Tyddyn Du, plwyf Maentwrog, ac yno y bu farw; a chladdwyd ef yn Eglwys Maentwrog, yn y flwyddyn 1624 Yr oedd efe yn fardd da, os nad y goreu yn ei oes; bernir iddo gyfansoddi oddeutu 60 o gywyddau ymryson, rhyngddo â William Cynwal, a Sion Phylip, Mochras. Yr oedd yn wr dysyedig iawn-medrai wyth o ieithoedd. Yr oedd yn nai, fab cyfyrder, i Gwilym Salsbri, yr hwn a gyfieithodd y Bibl i'r Gymraeg gyntaf. Bu iddo dri mab, sef Edmwnt Prys, Ficer Clynnog; Ffowc Prys, Person Llanllyfni; a Samuel Prys, Ficer Conwy. Mae mor ddiangenrhaid dywedyd dim am E. Prys fel bardd a llenor ag ydyw paentio'r lili, neu oleuo yr haul; oblegyd mae ei enw yn adnabyddus tel mydrydd y Salmau Cân, o Fon i Fynwy; ac y mae "rhaith gwlad," wedi mynu cael chwareu teg iddo. Mae llawer o'i ddywediadau ar gof a chadw ar hyd y wlad eto; dyma ddwy linell o'i " Gywydd ar Helynt y Byd," a adroddir gan yr hen bobl gyda phwyslais neillduol:

"Rhaid i'r gwan ddal y ganwyll,
I'r dewr i wneuthur ei dwyll."


(Hynafiaethau Harlech a'r gymydogaeth, gan Mr. Ellis Pughe.) Dywed Dr. Morgan yn ei lythyr wrth gyflwyno y Bibl i'r Frenhines Elizabeth, nas gallasai ef byth gyfieithu ond pum' llyfr Moses yn unig, oni buasai iddo gael cynorthwy gan Edmwnd Prys ac eraill. A thyma englyn a wnaeth Edmund Prys ei hun pan fygythid ef gan y Pabyddion am gynorthwyo y Dr. Morgan i gyfieithu y Bibl i'r Gymraeg:

"Nid all diawl, na'r hawl sy'n rheoli—drwg,
Na dreigiau na chyni,
Na dim wneyd niwed imi,
Ag a Duw mawr gyda mi.'


Yr ydym ni yn gwybod am o gylch ugain o wahanol argraffiadau o'i "Salmau Cân ":—1. Mewn cysylltiad â " Llyfr Gweddi Cyffredin," yn Llundain, yn 1621.' 2. Salmau Cân yn unig, Llundain, 1628. 3. Y Salmau Cân yn unig, Llundain, 1638. 4. Y Salmau Cân yn unig, Llundain, 1648. 5. Salmau Cân yn unig, Llundain, 1653. 6. Y Salmau Cân yn unig, 1678. 7. Y Salmau Cân yn unig, 1686. 8. Y Salmau Cân yn gysylltiedig â'r Llyfr Gweddi Cyffredin, Llundain, 1687. 9. Y Salmau Cân yn unig, 1696. 10. Y Salmau Cân yn gysylltiol â'r Llyfr Gweddi Cyffredin, a ddaeth allan yn Llundain yn 1710, dan olygiad Elis Wynn, awdwr y Bardd Cwsg. 11, Ynglyn â Llyfr Gweddi Cyffredin, Llundain, 1711. 12. Ynglyn â'r Bibl a'r Llyfr Gweddi, 1713. 13. Ynglyn â'r Bibl a'r Llyfr Gweddi, dan olygiad y Parch, Moses Williams, Rhydychain, 1727. 14. Y Salmau Cân yn unig, 1745. 15. Mewn cysylltiad â'r Bibl, Caergrawnt, 1746. 16. Ynglyn a'r Llyfr Gweddi Cyffredin, Llundain, 1768. 17. Ynglyn â Bibl Peter Williams, fel y byddwn yn arfer ei alw, Caerfyrddin, 1770. 18. Ynglyn â'r Llyfr Gweddi, Caergrawnt, 1770. 19. Yn gysylltiedig â'r Bibl, yn yr hwn yr oedd nodau cyfeiriol ar ymyl y dail, gan John Canne; hefyd yr oedd sylwadau ar odrau dail y Testamenet Newydd gan y Parch. William Romaine, Caerfyrddin. 1796.

Y mae Carolau a dyrifau o waith E. Prys mewn Cerdd-lyfr, o gasgliad Ffoulke Owens o Nantglyn, Rhydychain, 1686. Yn y Gwyliedydd am 1835, y mae "Awdl ar ddyn o'i ddechreu i'w ddiwedd," o'i waith. Y mae yn dechreu fel y canlyn:

"Y maban yn wan unwaith-y genir,
Ac ynai dwf perffaith,
Ban êl yn faban eilwaith,
Buan daw i ben ei daith."

Yn y Traethodydd am 1848, tudal. 344, y mae Cywydd o Helynt y Byd,' gan E. Prys. Dechreua fel hyn:—

Gwelais eira glwys oerwyn,,
Ir, heb un brisg, ar ben bryn,
Gwelais haul teg gloyw sail twyn,
Yn ei doddi, nod addwyn."

Canodd tua 35 o Gywyddau ymryson â William Cynwal, a chanodd hefyd Farwnad alarus ar ei ol wedi hyny, y cyfan yn 36.

Rhoddwn eto un englyn o'i waith, a gyfansoddodd ar gladdedig aeth Huw Llwyd o Gynfal:—

"Pob campau, doniau a dynwyd,—o'u tir,
Maentwrog a 'speiliwyd;
Ni chleddir,ac ni chladdwyd,
Fyth i'w llawr mo fath Huw Llwyd."

Hefyd, yr oedd E. Prys yn fardd Lladinaidd. Y mae cân Lladin o'i waith yn Ngramadeg Dr. Davies o Fallwyd, o gymerad wyaeth i'r llyfr. Ei athraw barddonol oedd Sion Tudur.

"Yr oedd Edmund Prys yn un o'r gwŷr mwyaf dysgedig, a'r prydydd hynotaf yn ei oes; ac y mae amryw o'i gyfansoddiadau ar gael eto; y mwyaf hynod o honynt yw ei ddadleuaeth brydyddol efo William Cynwal. Ond nid yw ei ymryson prydyddol hwn ddim mor addas i gyfieithydd ardderchog y Salmau âg y byddai yn ddymunol er adeiladaeth,"-(Y Parch. Thomas Charles, Bala.)

Yr ydym yn ystyried fod cael tystiolaeth fel yr uchod oddiwrth ddyn fel Mr. Charles, yn fwy o werth na'n cofiant i gyd.

PUGH, Parch. JOHN, ydoedd y nawfed plentyn i Mr. Hugh Roberts, Ffridd fedw, plwyf Llanfihangel y Traethau, yn Ardudwy. Ganwyd ef yr 17eg o Orphenaf, 1765. Bwriadwyd yn foreuol iawn ei ddwyn i fyny i'r weinidogaeth yn yr Eglwys Sefydledig. Cafodd ysgol dda pan yn blentyn, a phan yn bur ieuanc anfonwyd ef i ysgol Fotwnog, yn Lleyn. Yn Mehefin, 1786, aeth i ysgol Beaumaris, dan y Parch. R. Thomas, lle y meistrolodd i fesur yr ieithoedd gwreiddiol. Yn Rhagfyr, 1788, aeth yn aelod o Goleg Iesu yn Rhydychain. Yn 1792 graddiwyd ef yn Wyryf yn y Celfyddydau; ac yn Medi 29, 1792, ordeiniwyd ef yn ddiacon. Gweinidogaethodd y flwyddyn gyntaf yn Nghricieth a'r lleoedd perthynol iddi, yn swydd Gaernarfon, dan y gwr enwog hwnw, y Parch. David Ellis, A.C. Yn 1793, derbyniodd urdd offeiriadaeth, ac a symudodd, ar farwolaeth ei anwyl gyfaill, Mr. Ellis, yn 1795, i Glynnog Fawr yn Arfon. Yn 1796 cafodd y radd o A.C. Yn 1799 cyhoeddodd lyfr o hyfforddiadau i feithrin plant, sef pregeth ar yr Eph. vi. 4, "Maethwch hwynt yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd." Dywedir ei fod yn ŵr mwy bucheddol, ac yn well pregethwr na'r cyffredin o'i frodyr yn yr Eglwys yn ei oes ef. "Y cyfryw oedd ei ddyfal ddiwydrwydd yn gwneuthur daioni, mor wresogfryd dros achos Duw, a llafurus er leshad pechaduriaid, fel na threuliai ddim amser yn ofer. Cynydd ei bobl mewn duwioldeb, trwy iawn gyfranu iddynt air y gwirionedd, oedd ei brif ofal; a'u llwyddiant ysbrydol fyddai ei gysur penaf. Yn ol hyny y byddai ei ymddygiad cyhoeddus a chyffredin, ac nid llai rhagorol oedd ei ymarweddiad teuluaidd; yr oedd yn ofalus am ddangos yn ei fywyd y prydferthwch sanctaidd hyny ag oedd ef yn ei bregethu i eraill. Cariad at Dduw, ac ewyllys dda i ddynion, oedd yn cyffroi ei holl ymdrechiadau; a thra yn wresog i ddwyn ymlaen sancteiddiad eraill, yr oedd ef ei hun o'r un penderfyniad a Josua, " Ond myfi a'm tylwyth a wasanaethwn yr Arglwydd." Bu farw Ionawr 7, 1799, yn 33 oed.

RHYS GOCH ERYRI, neu Rhys ab Dafydd, bardd gorchestol. Boneddwr ydoedd yn byw ar ei dir ei hun yn Hafodgaregog Nanmor, yn Ardudwy. Ganwyd ef tua 1320, a bu farw tua 1420, Dywedir mai Gruffydd Llwyd, ab Dafydd, ab Einion, Llygliw oedd athraw Rhys Goch. Efe oedd y buddugol ar Foliangerdd mewn Eisteddfod a gynhaliwyd yn nhŷ Llewelyn ap Gwilym, yn. y Ddol Goch, yn Emlyn, yn amser Iorwerth III.-" Goreu ar Wengerdd Sion Cent, a goreu am Foliangerdd Rhys Goch." "Canodd Rhys amryw foliant gerddi a marwnadau yn ei ddydd. Yn yr ugain mlynedd diweddaf o'i oes efe a ganodd amryw frutiau yn mherthynas i Owain Glyndwr, i'r hwn yr oedd yn bleidgwresog hyd ei ddiwedd. Y mae cyfansoddiadau Rhys yn arddangos athrylith gref, ynghyda medrusrwydd anghyffredin i gyfansoddi yn y caethfesurau." "Y mae y rhan fwyaf o ganiadau Rhys i'w cael mewn llawysgrifau. A ganlyn sydd restr o'r holl waith adnabyddus i ni o'i eiddo:-1, Cywydd i Syr Gruffydd Llwyd o Gegidfa; 2, Marwnad Gwilym ab Gruffydd o Lanfair; 3, I ofyn cyllell helig; 4, Brut-i Garnedd Llewelyn; 5, I Feino Abad; 6, I'r Farf; 7, Am Owain Glyndwr; 8, Am yr hen dywysogion; 9, Achau y Penrhyn; 10, Marwnad Gruffydd Llwyd y bardd; 11, 12, 13, Gwrth-ateb i Llewelyn Moel; 14, I'r Iesu; 15, I leidr a ddygodd ei farch; 16, Mawl Gwen o'r Ddol; 17, eto; 18, Mawl a gogan i'r unrhyw; 19, I Robert ab Meredydd; 20, Marwnad Meredydd ab Cynrig o Fôn; 21, I ofyn gwregys; 22, I lys Gwilym ab Gruffydd; 23, I'r Llwynog; 24, Brut-deall pan ddaw Gwyddyl gwyllt; 25, Arall, Y Gwanwyn llwyn a'r llynoedd; 26, Arall, Am ryfel mae'r ymofyn; 27, Duchan Sion Cent; 28, I'r Byd; 29, Brut— " Y Gleisiaid hediaid hoewdeg; " 30, Awdl y coronog faban; 31, Arall eto. Y mae tri dernyn o'i waith yn Ngorchestion Beirdd Cymru.—(Gweler "Plwyf Bedd gelert," gan Mr. William Jones.)

RICHARDS, Parch. JOHN LEWIS, gweinidog y Wesleyaid. Brodor ydoedd o ardal Harlech, yn Ardudwy. Yr oedd yn fab i Mr. Richards, Llanfair isaf, amaethwr o'r gymydogaeth hono. Ganwyd ef tua diwedd y ganrif ddiweddaf. Wedi bod am oddeutu saith mlynedd yn pregethu yn gynorthwyol, galwyd ef yn 1825 i waith y weinidogaeth, a dechreuodd arno yn Nghaerfyrddin; parhaodd ynddo am ddeng-mlynedd-ar-hugain, a bu yn uwchrif am y deng mlynedd eraill o'i fywyd; treuliodd chwech o honynt yn Abermaw, a'r pedair gweddill yn Llansantffraid. Cafodd le uchel yn ngolygiadau ei frodyr, ac fel prawf o hyny etholwyd ef yn ysgrifenydd y dalaeth pan nad oedd ond gweinidog lled ieuanc, a gwnaed hyny drachefn a thrachefn am ddwy-flynedd-ar-hugain yn olynol, hyd yr amser y rhoddodd i fyny deithio. Fel pregethwr yr oedd yn nechreu ei daith yn hynod o danllyd a chyffrous. Yr oedd ei bregethau wedi eu cyfansoddi gyda gofal mawr, eu trefn yn gyson a thestlus, eu materion wedi eu meddwl yn glir a manwl, ac yn cael eu geirio yn eglur a miniog. Bu farw Mawrth 18fed, 1865.

ROBERTS, LEWIS, (Eos Twrog), Dolgellau, oedd enwog fel crythwr. Ganwyd ef yn mhlwyf Llandecwyn, yn Ardudwy, Mawrth y 9fed, 1756. Fel perorydd yr oedd efe yn un o brif enwogion y Dywysogaeth. Yn y flwyddyn 1775, trwy alwad uchel sirydd Meirionydd, Lewis Nanney, Ysw., o'r Llwyn, chwareuodd o flaen lliaws o foneddigion, cynulledig yn Nolgellau, a chafwyd y fath foddlonrwydd ynddo fel o hyny allan yr ystyrid pob cynulliad o'r fath yn ddiffygiol oddieithr cael ei bresenoldeb. Fel datganydd gyda'r delyn Gymreig yr oedd yn anghydmarol, ac ymbob ymdrech bu yn fuddugoliaethus, fel y prawf yr amrywiol dlysau a adawodd ar ei ol. Nid yn unig fel cerddor yr oedd yn rhagori ond fel hanesydd gwladol a chrefyddol. Bu farw Ebrill 2il, 1844, yn Nolgellau, yn 88 oed, a chladdwyd ef yn Maentwrog.


ROBERTS, JOHN, (Ioan Twrog) Bryntirion, Maentwrog, yn Ardudwy, a anwyd yn Mawrth, 1812, mewn lle a elwir Adwyddu, Penrhyndeudraeth. Yr oedd Ioan Twrog yn un o'r bechgyn mwyaf gobeithiol fel bardd a llenor a gyfododd erioed yn swydd I Feirion. Ni chafodd ddim manteision pellach na hyfforddiadau ei dad, er hyny gallai ddarllen ac ysgrifenu yn 5 oed, a daeth wedi hyny yn bur hyddysg yn y Saesoneg a'r Lladin, yn ogystal ac yn Gymreigydd rhagorol, ac i gael ei ystyried yn ysgolhaig gwych. Amlygai duedd at farddoni yn bur ieuanc, ac yr oedd wedi cyfansoddi lliaws o ddarnau cywrain cyn bod yn 12 oed. Canai bron bob amser yn y mesurau caethion. Cyfansoddodd Awdl-farwiad Mr. Oakeley, Tanybwlch, ac yr oedd yn ail oreu, er fod ei holl gydymgeiswyr wedi cyfansoddi yn y mesurau rhyddion. Ym ddangosodd yr awdl yn y Gwladgarwr, lle hefyd yr ymddangos odd ei "Arwyrain Dewi Wyn." Dyfynai Tegai yn ei Ramadeg, a Chynddelw yn Nhafol y Beirdd, benillion o honi fel engreifftiau gorchestol. Cyfansoddodd liaws o awdlau, cywyddau, ac englynion. Y mae ei ysgrifeniadau yn meddiant ei frawd, James Jones, yn awr o Gapel Curig. Y mae un englyn o'i eiddo i Edmund Prys, archddiacon Meirionydd, yn argraffedig yn y Traethodydd, 1869, ac wele un arall i'r un gwr:—"

Llyfr per-fawl Dwyfawl Dafydd—a fydrodd
Fedrus ber awenydd;
Tra bo côr a pherorydd
Parhaus ei fawl Prys a fydd."

Yn ei gywydd ar ol Gwilym Twrog ceir teimlad dwfn a hiraethus. Wele ychydig linellau:—

"Minau hwyl-drwm awenydd
Bob diwrnod mewn syndod sydd.
Dwyn yr wyf dan hir ofid
Graidd heb wres a grudd heb wrid;
Di-awenydd a di-nwyf,
Allwynig ac unig wyf;
Mae 'nghalon anhylon i
Am Dwrog ar ymdori.
Dolef ni roed uwch dulawr
Na fae'n is na'm llef yn awr."

Bu farw yn 1837, yn 25 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Ramoth. Fel y canlyn y canodd y talentog Ioan Madog ar ei ol:—

"O Feirion deg fawr yn ei dydd—dygwyd
Dy degwch ysbenydd,
Aeth seren yr awen rydd
A'i choron tan ei chaerydd.

"Enaid y gân o dy gôl—wedi myn'd
I'r byd mawr tragwyddol,
Lle nad oes llun dewisol
Obaith o neb byth yn ol.

"O law angau a'i ddu ingoedd—ef aeth
I fyd yr ysbrydoedd;
Hynod fachgen addien oedd,
A llawer o alluoedd."


ROBERTS, JOHN, (Ioan Twrog) ydoedd fab hynaf William ac Elizabeth Roberts, yn bresenol o Frongwynedd, Penrhyndeudraeth, a anwyd mewn lle o'r enw Capel isaf, yn mhlwyf Maentwrog, Awst 1af, 1837. Yr oedd llawer o hynodion yn ei nodweddu yn ei fabandod braidd. Darllenai yn nosbarth y Biblau yn ysgol Sabbothol Gilgal yn 4 oed, ac agorid y capel iddo i bregethu pa bryd bynag y gofynai am hyny. Pregethai gydag egni ac ymroad a difrifoldeb mawr i'r eisteddleoedd, yn ol tystiolaeth gwraig y tŷ capel, yr hon a ladratai bob amser le dirgel i gael golwg a gwrandawiad arno. Wedi dechreu myned i'r ysgol ddyddiol fe yfai bob addysg a osodid o'i flaen rhag blaen, gan ymddangos i eraill heb ddim trafferth. Yr oedd yn ei duedd fyfyrgar a difrifol yn wahanol i'w holl gyfoedion. Ni fwytâi un pryd heb lyfr yn ei law pan nad oedd ond plentyn bychan iawn; a phan ofynid rhyw beth iddo yr adegau hyny byddai ei absenoldeb meddwl yn peri llawer iawn o ddigrifwch. Amlygai duedd at farddoni gyda bron ei fod yn alluog i siarad. Cyfeiriai ei gwestiynau, ac atebai gwestiynau eraill, mewn penill neu ddarn o benill y rhan amlaf. Er engraifft, gofynai ei fam iddo un tro am odard a llwy, cyrhaeddodd yntau y pethau iddi gan ddywedyd,

"Dyma hwy'n gyfa bob darn,
Godard a llwy gadarn."

Cyfansoddodd liaws o bryddestau, caneuon, cywyddau, ac englynion, cyn bod yn un-ar-ddeg oed, amryw o ba rai a gyhoeddwyd o dro i dro yn y Tyst Apostolaidd, Cronicl yr Annibynwyr, a'r Amserau. Yr un pryd yr oedd yn llafurio yn ddyfal gyda chyfansoddiadau rhyddiaethol-pregethau a thraethodau Cymraeg a Saesneg. Dangosai ei draethodau bob amser i Mrs. Jones, Glan-william, yr hon a fu garedig iawn wrtho. Ymddangosodd pregeth o'i eiddo yn y Tyst, ac un arall yn y Cronicl pan nad oedd ond un-ar-ddeg oed. Dangosai ei holl gyfansoddiadau rhyddiaethol a barddonol i'r Parch. Evan Evans, yn awr o Langollen, ond a breswyliai y pryd hyny dan un-to a'i rieni yn Maentwrog. Un tro pan ddangosai bryddest o'i waith iddo, amheuai Mr. Eyans mai ef oedd yr awdwr. Er cael prawf rhoddodd Evans destyn iddo i wneyd cân arno-Samson; ac yr oedd Ioan yn barod bore dranoeth gyda'i gân. Wele destynau rhai o'i bryddestau meithaf: Genedigaeth Crist; Y prophwydoliaethau am Grist; Y Dylif; Samson; Molawd Meirionydd; Marwnad John Roberts, Llanfachraeth; Galarnad Dafydd am Absalom, a Dinystr Byddin y Senachrib, ac. Mae ei gyfansoddiadau ar y mesurau caethion yn gynwysedig mewn lliaws o englynion, ac., a thoddeidiau ar Ddedwyddwch y Mil Blynyddoedd, ac. Yn yr Eisteddfod a gynhaliwyd yn Mhorthmadog yn y flwyddyn 1851, cafodd ei urddo yn fardd yn ol braint a defod. Wrth gyflawni y ddefod hono gofynwyd iddo a oedd yn cofio englyn neu doddaid o'i waith i brofi ei hawl i'r urdd farddol. Atebodd yntau yn ebrwydd ei fod wedi cyfansoddi un y bore hwnw i gastell Harddlech, ac adroddodd ef fel y canlyn:

"Ei fawredd ddengys ei furiau-cedyrn
Ycodwyd eidyrau,
A'i lydain adeiladau
Dan hwn gwel donau'n gwau."

Tua diwedd y flwyddyn 1851 anfonwyd ef i Penrhyndeudraeth i'r ysgol, lle y bu am bum' wyth nos. Ac wrth ddyfod adref un dydd Sadwrn y cafodd yr oerfel a achosodd ei farwolaeth. Y Sadwrņ hwnw y cyfansoddodd yr englyn canlynol, a'r olaf a wnaeth, fel beddargraff ar y Parch. Robert Morgan, yr hwn a fuasai yn weinidog llafurus a duwiol gyda'r Bedyddwyr yn Harddlech:—

"Dyhidlai od hyawdledd—llefarai
Holl fwriad trugaredd;
Gwel ei uniawn gul anedd
Diameu fan, dyma 'i fedd."

Tair wythnos y bu fyw wedi hyn. Bu farw mewn tangnefedd a llawn sicrwydd gobaith Rhagfyr 19, 1851, yn 14 oed, a chladdwyd ef y 23ain yn medd ei ewythr o frawd ei fam, Mr. John Roberts, Bryntirion, (a'r Ioan Twrog sydd yn ei flaenori yn y traethawd hwn) yn mynwent Ramoth. Dywedai y gweinidog a weinyddai yn y gladdedigaeth mai anfynych y gwelwyd dau fachgen mor dalentog yn cael eu gorchuddio â'r un briddell. A dywedwn ninau heb betruso yr un peth.

ROBERTS, Parch. JOHN (Robyn Meirion), myfyriwr yn athrofa Cheshunt, gerllaw Llundain, ydoedd weinidog ieuanc, a bardd talentog, a hynod obeithiol pe cawsai estyniad dyddiau. Ganwyd ef yn mhentref Trawsfynydd, yn Ardudwy, Mawrth 1af, 1807, o rieni diwyd a gonest. Er fod llawer o anfanteision yn perthyn i'w gorff, er hyny gwnaeth Awdwr natur y diffygion hyn i fyny trwy eigynysgaeddu âg enaid mawr, synwyr cryf, ac amgyffredion eang iawn. Dangosodd awydd mawr am ddysgeidiaeth, a galluoedd i dderbyn a chynwys gwybodaeth, er yn blentyn. Bu yn proffesu crefydd am ryw ysbaid gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Pan yn 19 oed, dechreuodd gadw ysgol ddyddiol yn Nhrawsfynydd, a chyn hir symudodd i Rydymaen, plwyf Llanfachraeth, yn nghantref Meirionydd. Yn y cyfamser ymunodd â'r Annibynwyr, ac yn fuan dechreuodd bregethu, a phregethodd ei bregeth gyntaf yn nghapel Jerusalem. ger pentref Trawsfynydd, a rhoddodd foddhad mawr i bawb oedd yn gwrando. Yn fuan cafodd dderbyniad i'r British a Foreign School, Llundain. Tra bu yn yr ysgol hono ysgrifenodd ddau draethawd yn Saesneg, un ar "Farwolaeth," a'r llall ar "Ras, a llywodraeth Duw." Derbyniwyd ef wedi hyny i athrofa Cheshunt, lle y treuliodd ei amser er anrhydedd i grefydd, er clod i'w athraw, ac hyfrydwch i'w gyd-efrydwyr, ac er buddioldeb neillduol iddo ei hun o ran cynyddu mewn dysg a phob gwybodaeth fuddiol. Tra yn y lle hwn bu yn ddigon gwrol i gyfarfod âg anffyddiwr mewn dadl gyhoeddus yn Llundain, a dywedir iddo gael buddugoliaeth ogoneddus. Yr oedd ganddo ddeall cyflym, a galluoedd cryfion i dderbyn addysg. Fel pregethwr yr oedd yn hynod bwyllog, pwysig, a difrifol; a'i ddull mwyaf cyffredin fyddai ymresymu â'i wrandawyr. Bu farw o'r darfodedigaeth Gorphenaf 18, 1832, yn 25 oed.—(Geir. Byw., Aberdâr.)

ROWLANDS, GRIFFITH, Ysw., a anwyd yn mhlwyf Llanfair, ger Harlech, yn Ardudwy, Ebrill 9, 1761. Ar ol cael addysg ysgoleigol gyfaddas i'r alwedigaeth y bwriedid ef iddi, dodwyd ef dan egwyddor-ddysg llawfeddyg yn Lerpwl; ac wedi i'w amser ddyfod i fyny yno, aeth i Lundain i'r diben i gael ymarferiad pellach yn y gelfyddyd, gan restru ei hun yn Bartholomew's Hospital. Enillodd ganmoliaeth cyffredinol a chyfeillgarwch parhaol uwch swyddogion physigwrol y sefydliad ardderchog hwnw, y rhai oeddynt wŷr gorenwog am eu medrusrwydd a'u cyrhaeddiadau galwedigaethol. Y sefyllfa y crybwyllwyd i Mr. Rowlands ei chael yn y lle hwn, nis gellid yn y dyddiau hyny ei chyraeddyd ond trwy deilyngdod, ac nid fel yn awr, trwy bleidgarwch neu ryw delerau pwrcasol. Bu iddo ymsefydlu yn ninas Caerlleon, lle yr arosodd o hyny hyd derfyn ei oes. Y mae yn eglur i'w lwyddiant fod yn dra chyflym, er nad oedd eto ond ieuanc. Yn 1785 dewiswyd ef yn llawfeddyg i glafdy y ddinas, a chyflawnodd ddyledswyddau y swyddogaeth hono gyda diwydrwydd a chymeradwyaeth diball am 43 mlynedd. Crybwyllir yn ei hanes am liaws o orchestion a gyflawnodd fel meddyg, ar y Parch. T. Charles, o'r Bala, a'r Parch. T. Jones, o Ddinbych, ac. Bu farw Mawrth 29, 1828.—(Geir, Byw. Aberdar.)


WILLIAMS, DAVID, Ysw., (Dewi Heli), o Gastell Deudraeth. Ganwyd ef yn 1801. Mab ydoedd i D. Williams, Ysw., o Saethon, yn Arfon, yr hwn a hanodd o Evan Saethon, o Saethon, a'r hwn a briododd Margaret Wynn, o Hafod Gregory, yn Meirionydd. Felly fe welir fod Mr. Williams yn disgyn o hen achau enwog yn Arfon a Meirion. Ganwyd ef yn hen balasdy Saethon, yr hwn oedd yn eiddo i'w dad, ac yr oedd rhan fawr o'r etifeddiaeth hono yn perthyn iddo yntau. Trodd ei feddwl yn moreu ei oes i "astudio y gyfraith" fel ei alwedigaeth; a bu mor ddyfal ei ymchwiliadau ac mor llwyddianus ei yrfa fel cyfreithiwr, fel y gallodd roddi heibio ofalon ei swyddfa yn 1848. O hyny hyd ei farwolaeth, ymroddodd yn egņiol a diwyd i gyflawni dyledswyddau cyhoeddus ei gylch eang fel Ynad Heddwch; ac yr oedd y gofalon hyny yn lliosog ac yn bwysig, drwy ei fod yn ynad mewn dwy sir—Meirion ac Arfon. Gwasanaethodd ddwywaith yr alwedigaeth anrhydeddus o Uchel Sirydd — yn 1861 dros Feirionydd, ac yn 1862 dros Arfon. Efe hefyd a fu ein prif wron yn ymladd ein brwydrau poethion fel Rhyddfrydwyr yn Swydd Feirion; ac efe a fu yn offerynol i ryddhau y swydd oddiwrth iau drom Toryaeth. Pe na buasai Mr. Williams wedi gwneyd dim yn ei fywyd i haeddu parch i'w goffadwriaeth ond hyn, yr ydym yn ystyried hyn yn fwy na digon i hawlio lle iddo ymhlith "Enwogion Swydd Feirion." Yn yr Etholiad Cyffredinol, yn 1859, daeth allan i'r maes, a chynygiodd ei hun fel ymgeisydd Rhyddfrydig; ymladdodd frwydr galed, ond gorchfygwyd ef drwy fwyafrif o 37. Daeth allan eilwaith yn 1865, ac ymladdodd fel milwr dewr, ond gorchfygwyd ef yr ail waith drwy fwyafrif o 31. Yn 1868, daeth allan y drydedd waith, a dygodd allan farn i fuddugoliaeth; yr hyn a anfarwola ei enw tra bydd Rhyddfrydwyr yn Meirion. Fel cydnabyddiaeth iddo am ei egniadau haelfrydig yn ymladd brwydrau trymion Rhyddfrydiaeth yn erbyn nerth gormes arglwyddi tiroedd y sir, agorwyd trysorfa ar ol yr ail frwydr, yr hon a gyrhaeddoedd saith gant o bunoedd (700p.); ac anrhegwyd ef â Service of Plate hardd a drudfawr. Yr oedd llawer iawn o rinweddau yn dyfod i'r golwg yn Mr. Williams ymha gylch bynag y byddai yn troi; er fod llu yn estyn bys at yr ychydig frychau oedd ynddo, fel y mae plant Adda yn arfer gwneyd, yn enwedig at frychau dynion mawr. Yr oedd yr hyn a ddywedodd y Parch. Edward Morgan, o'r Dyffryn, am dano yn yr etholiad diweddaf yn eithaf gwir—"Beth bynag oedd colliantau Mr. Williams, yr oedd digon o rinweddau ynddo wed'yn i orbwyso ei holl ddifriwyr gyda eu gilydd; ac ni chauir bedd ar ei debyg yn Meirion am amser bir." A dywed rhyw ysgrifenydd mewn lle arall, Gwyr pawb a wyr ddim o hanes Mr. Williams, mai nid dyn cyffredin ydoedd, ac felly, nid colled gyffredin fydd ar ei ol." Byddai bob amser yn amddiffyn ac yn gefn i'r tlawd, gofalai yn wastad am i'r tlawd gael yr hyn fyddo yn gyfiawn iddo. Nid boneddwr yn byw yn gynil yn ei balas, a phentyru ei arian i'r ariandai, ac na chadwai weinidog ond fyddo yn rhaid iddo wrtho, oedd Mr. Williams; ond rhoddai waith i liaws y gallasai yn hawdd wneyd hebddynt. Ac nid eu cadw i wneyd yr hyn oedd yn rhaid ei wneyd, ond gofalai yn barhaus am dori allan iddynt waith newydd—"Ymlaen, ymlaen," "Gwelliant, gwelliant," fyddai bob amser ei arwydd-eiriau. Iddo ef yn benaf yr ydym yn ddyledus am ddygiad ymlaen y ffyrdd haiarn trwy y swydd.

Yr oedd Mr. Williams hefyd yn fardd a llenor gwych. Ysgrifenodd lawer i'r misolion Cymreig mewn rhyddiaeth a barddonjaeth, o dan y ffug-enw "Dewi Heli." A dywedir ar lafar gwlad fod ganddo "Esboniad ar y Testament Newydd " o'i waith ei hun, mewn llawysgrifen, yn ei balas—Castell Deudraeth; ond nis gwyddom ai gwir hyn.

Bu y gwron anrhydeddus a rhinweddol hwn farw yn ei balas, Castell Deudraeth, Mercher, y 15fed o Ragfyr, 1869, gan adael priod a deuddeg o blant i ofal Tad yr amddifad a Barnwr y gweddwon. Claddwyd ef y dydd Iau canlynol yn mynwent Eglwys y Penrhyn; ac addefwn na welsom erioed gladdedigaeth mor liosog, anrhydeddus, a chymaint o barch yn cael ei ddangos wrth weinyddu y gymwynas olaf i'r un boneddwr.

WYNNE, ELLIS, o Lanynys, ger Harddlech. " Y mae enw Ellis Wynne yn berffaith hysbys trwy holl Gymru. Unig fab ydoedd i Edward Wynne, o deulu Glyn Cywarch, yr hwn a briodasai etifeddes y Lasynys. Y mae yr hen dŷ, lle y ganed, y maged, ac y bu farw ynddo, yn aros hyd heddyw; a dangosir i ddieithriaid yr ystafell, yr hon y dywed traddodiad i Weledigaethau у Bardd Cwsg gael eu hysgrifenu ynddi. Fel llawer o enwogion, yn enwedig enwogion Cymru, ni wyddys ond ychydig o hanes ei fywyd: ei gofiant sydd yn ei waith. Pa ddysgeidiaeth a gafodd, ac ymha le y derbyniodd efe hi, nid ydys yn gwybod. Yn y rhestr o Awduron Cymreig sydd yn gysylltiedig â Geirlyfr Cymraeg Richards cysylltir LL.B. a'i enw; ond fe ddywed y Parch. D. S. Evans mai camsyniad y geirlyfrwr hwnw ydyw, ac nad oes un sail iddo unwaith fwriadu bod yn gyfreithiwr. Y mae yn ddilys ei fod yn wr dysgedig; ond nid oes prawf iddo fod erioed mewn prifysgol; ac os bu, mae yn fwy na thebyg na chymerodd efe un radd athrofaol ynddi. Dywedir nad oedd llawer o duedd ynddo at y weinidogaeth, ac mai ar gais y Dr. Humphreys, Esgob Bangor, y cymerodd efe ei urddo; ac ymddengys na chymerodd hyny le nes ei fod mewn gwth o oedran. Urddwyd ef yn ddiacon ac yn offeiriad yr un dydd; a thranoeth cyflwynwyd ef i berigloriaeth Llanfair, gerllaw Harlech. Yr oedd efe hefyd yn beriglor Llandanwg a Llanbedr, yn yr un gymydogaeth; ac felly, cafodd fyw trwy gydol ei oes yn ardal ei enedigaeth, ac ar ei dreftadaeth briodol ei hun. Yn 1702, efe a briododd Lowri Llwyd, o Hafod Lwyfog, yn mhlwyf Beddgelert, Swydd Gaernarfon, yr hon, meddir, ar ol ei farwolaeth ef, a ymbriododd drachefn ag un o'r enw Humphreys. Bu iddynt bump o blant-tri mab a dwy ferch."

"Bu farw Ellis Wynne yn mis Gorphenaf, 1734, yn 63 mlwydd oed, a chladdwyd ef ar yr 17eg o'r mis hwnw, o dan fwrdd y Cymundeb, yn Eglwys Llanfair, heb gymaint a llinell ar na maen na mynor i nodi y fan lle gorphwysa gweddillion marwol yr athrylithog Fardd Cwsg, cymwynaswr ei genedl, ac addurn llenoriaeth ei wlad."-Gweler "Adgofiant o'r Awdwr," gan y Parch. D. S. Evans, yn y Bardd Cwsg, argraffiad Caerfyrddin, 1853).

Gweithiau Llenyddol Ellis Wynne:-1. Ei brif gampwaith yw Gweledigaethau y Bardd Cwsg. Afreidiol yw dywedyd dim am deilyngdod y Bardd Cwsg, oblegid y mae yn un o'r llyfrau mwyaf hysbys yn Nghymru. Digon yw dywedyd y byddai dynion fel Walters, y geirlyfrwr enwog, a Dr. W. O. Paghe, y geiriadurwr heb ei ail, yn ei organmol, ac wedi gwneyd defnydd mawr o hono. Rhoddwn restr o'r argraffiadau o'r Bardd Cwsg mor gyflawn ag y gallom:-Llundain, 1703; Amwythig, 1755; Amwythig, 1759; Caerfyrddin, 1767; Mwythig, 1768; Mwythig, 1774; Merthyr Tydfil, 1806; Caerfyrddin, 1811; Dolgellau, 1825. Y mae dau argraffiad, i ni wybod, heb amseriad wrthynt, un yn Llanrwst, a'r llall yn Nghaernarfon; Caerfyrddin, 1853. Deuddeg argraffiad a ddaeth allan o'r Bardd Cwsg, ag y gwyddom ni am danynt; ond dywed y Parch. D. S. Evans fod o leiaf bymtheg argraffiad wedi bod o'r Bardd Cwsg er pan ymddangosodd gyntaf yn 1703 hyd y pryd hwn, 1868.-2. Llyfr Gweddi Cyffredin, dan olygiad Ellis Wynne: Llundain, gan E. Powell, 1710.-3. Prif Addysg y Cristion, &c.: Mwythig, 1755, 8 plyg. Cyfieithiad yw y llyfr. Y cyfieithydd oedd Edward Wynne, trydydd mab i Ellis Wynne. Y mae yn y llyfr Esponiad Byr ar y Catecism, t.d. 16–43, o waith Ellis Wynne o Lasynys, ynghyda gweddiau, hymnau, a charolau duwiol ar ddiwedd y llyfr o waith yr un gwr.-4. Rheol Buchedd Santaidd. Cyfieithiad ydyw o Exercises of Holy Living, gan yr Esgob Jeremi Taylor. Y cyfieithydd oedd Ellis Wynne, cyflwynedig i'r Esgob Humphreys: Llundain, 1701, 8 plyg.-5. Eugrawn Cymraeg, y drydedd ran, Sadwrn, 31, 1770. Y mae'r Salm cxviii. o gynganeddiad Ellis Wynne; Cerdd i feibion ac i ferched; Deuddeg englyn unodl union; Y xcviii Salm wedi ei chyfansoddi ar lafar cerdd; Hanes ymryson a fu yn ddiweddar rhwng dau blwyf, ac. Engraifft o farddoniaeth E. Wynne ar y mesur " Triban Meirionydd."

"Gadael tir a gadael tai,
Byr yw'r rhwysg i ddyn barhau;
Gadael pleser mwynder mae,
A gadael uchel achau."—Ellis Wyn a'i cânt.


WYNNE, Parch. WILLIAM, A.M, Maesyneuadd, ydoedd fab i William Wynne, Maesyneuadd, yn Ardudwy, o'i ail wraig, Margaret, merch Roger Lloyd, o Ragat, ac a fuasai o'r blaen yn briod â Meredith Lloyd, o Rhiwwaedog, yn nghantref Penllyn, a'r hon a fu farw yn 1760. Yr oedd yn gymrawd o Goleg yr Holl Saint yn Rhydychain. Cafodd ficeriaeth Llanrhaiadr-y- mochnant yn 1733, a chanoniaeth yn Llanelwy yn 1735, ac hefyd bersoniaeth Llanfechain, feallai yn lle Llanrhaiadr. Yr oedd yn gwasanaethu Llanbrynmair yn 1740–48. Ond fel offeiriad Llangynhafal a Manafon y mae yn cael ei adnabod oreu fel bardd. Y mae dau ddernyn o'i waith yn y Blodeugerdd, t.d, 321 a 521, ac hefyd ysgrif o'i eiddo ar Darddiad Geiriau Cymreig yn y Cambro Briton am 1796. Bu farw yn 1760.--G. Lleyn.

DOS. II.
ENWOGION PENLLYN,
HEN A DIWEDDAR.

CANTREF PENLLYN gynt a gynwysai dri chwmwd, Uwch Meloch, Is Meloch, a Migneint, ond yn awr nid yw y tri ond yn gwneuthur dau gwmwd, y rhai a renir yn arglwyddiaethau Uwch Treweryn ac Is Treweryn. Uwch Treweryn a gynwys dri phlwyf-Llanuwch-y-llyn, Llan-y-cil, a Llangower. Cynwys Is Treweryn ddau blwyf-Llanfor a Llandderfel.

Yn Uwch Treweryn, yn mhlwyf Llanuwch-y-llyn, ar lanau yr afon Liw, ar gopa craig fregus, y saif murian hen gastell a elwir castell Carn Dochan. Yn mharth isaf tref y Bala, yn mhlwyf Llanycil, y mae bryn anferth, ar yr hwn y safai unwaith gastell a amddiffynodd Leoline, Tywysog Cymru yn 1202. A cherllaw yr un drefy mae y llyn ardderchog a elwir Llyn Tegid; pedair milldir o hyd, ac un o led. A cherllaw y Llyn Tegid, yn mhlwyf Llangower, ar du dwyreiniol afon Dyfrdwy, y mae dau fryn bychan yn dwyn yr enw Gronw Berf o Benllyn, Castell Gronw, y tecaf yn Mhenllyn, ac yn byw yn nyddian Maelgwn Gwynedd.

Yn Is Treweryn, yn Llaufor, y claddwyd y bardd a'r rhyfelwr enwog Llywarch Hen, yn 580, ac yn gyfagos i'r lle hwn, (Llan- dderfel) y mae cylch o gerig mawrion a elwir "Pabell Llywarch Hen." Yn mhlwyf Llandderfel hefyd y mae Neuaddau Gleision, lle yr oedd Ririd Flaidd o lwyth Penllyn yn byw gynt. Yn yr un plwyf y mae mynydd a elwir Cefn Crwyni, yn gyfagos i'r hwn y mae gweddillion hen amddiffynfa filwraidd gadarn.

AERDDREM, Bedo Aerddrem, nen Aurdrem, oedd fardd o gryn enwogrwydd, a brodor, meddirir o Lanfor, yn Meirionydd Blodeuai o 1480 hyd 1510. Gwelir ar glawr y Greal fod un-ar- ddeg o'i gywyddau ar gof a chadw mewn llawysgrif. Naw o honynt "I ferch," a dwy dan yr enw "Canu duwiol." Dechreua un "Canu duwiol" fel hyn :—

"Y gŵr a wnaeth gaerau nef."

a'r llall—

"Pwy'n gadarn ddyddfarn a ddaw."

Claddwyd ef, meddynt, yn Llanfor.—Geir. Byw., Liverpool.

ANWYL, ROBERT, o'r Fron, ger y Bala. Yr oedd yn Uwch Ringyll yn myddin y brenin ei hun. Yn 1799 efe a benodwyd yn fanerwr yn y fyddin hono; ac a aeth gyda hi i Holland yn yr un flwyddyn gyda Dug Caerefrog, lle y clwyfwyd ef yn ysgafn, yn yr ymosodiad ar y gelyn yn Swyder Si. Gwasanaethodd wedi hyny gyda'r 4ydd yn Walcheren, yn 1809, yn Gibraltar a Ciwla yn 1810, fel brigade major; yn Torres Vedras yn nhrafodaeth Barba del Puero yn 1811; yn y rhuthr ar Badajos, lle y clwyfwyd ef yn erwin; yn mrwydr Salamanca, lle y niweidiwyd ef, ac y lladdwyd ei geffyl dano; yn ngwarchodacth Castell Burgos, ac yn yr ymrafael yn Ville Meiriel, yn 1812;. yn mrwydr Vittoria, y rhuthr ar St. Sebastian, pan y daeth i fod yn swyddog hynaf y brigade, y mynediad i Bidasson a Nive, lle y cafodd ei glwyfo drachefn, ac yn mrwydr Bidart, yn 1813; yn yr ymdrafodaeth yn Bayonne, yn 1814, lle y gwasanaethodd fel Adjutant General cynorthwyol i aden aswy y fyddin dan General Colville, yna efe a aeth gyda y Major Gen. Robinson i Canada, fel brigade—major, ac a lywiodd farchogion ysgeifn ei brigade yn y symudiad yn erbyn Plattsbury. Efe a ail—ymunodd â'r 4ydd yn Ffrainc, ac yr oedd yno yn ystod y tair blynedd y bu'r fyddin yno, ac wed'yn aeth gyda hi i'r India Orllewinol, lle y gwasanaethodd rai blynyddoedd. Yn 1827, efe a brynodd uwch gadbeniaeth rhaglawiol; ac yn yr un flwyddyn efe a benodwyd i lywyddiaeth y 95ain, a'r hon yr ymunodd yn Malta; ond yr oedd hinsawdd yr India Orllewinol wedi effeithio ar ei iechyd gymaint, fel y bu raid iddo roddi i fyny yn 1830, a dychwelyd adref. Gwobrwywyd ef â bathodyn am ei ymddygiad neillduol yn St. Sebastian, a chafodd ei ddyrchafu yn major yn y fyddin, wedi brwydr Vittoria, ac yn 1817 i'r uwch— gabeniaeth raglawiol, am ei wasanaeth neillduol ar y maes. Bu farw yn y Dref Newydd, Ynys Wyth, Mehefin 27ain, 1831, yn 52 oed. Cam., Quar. Mag. Vol. iii. p.p. 527—8.


CADWALADR, DAFYDD, o'r Bala, a berthynai i'r ail do o bregethwyr y Methodistiaid Calfinaidd. Pan ddechreuodd ef bregethu tua'r flwyddyn 1770, nid oedd yr Ysgol Sabbothol wedi. ei sefydlu, nac ond dau gapel yn Meirionydd, sef un yn y Bala, a'r llall yn Mhenrhyndeudraeth. Perthynai D. Cadwaladr i'r dosbarth hwnw o bregethwyr a elwid "pregethwyr ffos y clawdd "—dosbarth a wnaeth annrhaethol waith tuag at efengyleiddio Cymru. Gwnelai gras ei waith arnynt; ac yn fuan gwelid hwynt yn feistriaid y gynulleidfa yn ngwir ystyr y gair. Yn y dosbarth hwn y ceir D. Cadwaladr. Ganwyd ef yn 1752. Mab ydoedd i Cadwaladr a Catherine Dafydd, o'r Erw Ddinmael, plwyf Llangwm, Sir Ddinbych. Ni chafodd efe gymaint a diwrnod o ysgol erioed, na neb i'w gyfarwyddo hyd yn nod i ddysgu darllen iaith ei fam. Eto yr ydym yn meiddio ei ddwyn i blith Enwogion Sir Feirionydd, ac yr ydym yn ystyried ei fod yn sefyll yn uchel yn y rhestr trwy iddo ddyfod y peth y daeth dan gymaint o anfanteision. Dysgodd ddarllen trwy y moddion rhyfeddaf mae yn debyg y dysgodd dyn erioed, sef trwy sylwi ar y pyg lythyrenau oeddynt ar ystlysau defaid ei dad a'r cymydogion. Pan yn blentyn, arferai fyned gyda'i frawd i'r mynydd i fugeilio, a'i bleser fyddai sylwi ar y gwahan—nodau llythyrenol hyn—sylwi ar eu ffurf a'u sain, a thrysori hyny yn ei gof. Trwy hyn yn benaf y dysgodd sillebu a darllen. Dechreuodd argraffiadau crefyddol yn bur foreu ar ei feddwl. Dychrynwyd ef pan yn bur ieuanc, trwy i'w fam ddyfod at ei wely i weddio—dyweyd ei Phader a'r Credo, a'r Litani, &c. Dechreuodd yntau weddio ei chanlyn; a'r pryd hyn y dysgodd yntau y Pader a'r Credo. Fel hyn fe welwn at ba fath aelwyd y magwyd ef, gan na chlywsai ei fam yn gweddio o'r blaen. Ystorm o fellt a tharanau oedd wedi achlysuro y weddi hon. Gorfu arno droi allan i wasanaethu pan yn un—ar—ddeg oed. Yr ydym yn deall mai un o'r pethau enwocaf yn D. C. oedd cof da. Daeth i afael â'r "Bardd Cwsg" a "Thaith y Pererin;" trysorodd (D. Cadwaladr) gynwys y ddau bron i gyd yn ei gof aruthrol, a byddai eu gweledigaethau hwy yn gymysgedig yn fynych a'i weledigaethau ef ei hun. Os na lanwasant ei enaid â gras, llanwasant ef â dychryn; a byddai yntau yn mawr ddychryn eraill gydag adroddiad o honynt. Bu yn gwasanaethu yn y naill ffarm a'r llall tua Llangwm nes yn 17 oed, a byddai yn arfer mynychu eglwys y plwyf ar y Sabbothau. Pan yn 17 oed, daeth i ardal y Bala, ac yma y clywodd gyntaf erioed leygwr yn pregethu.

Elai bob Sabbath o Nant y Cyrtiau i'r Bala, pellder o bedair milltir, i wrando; a phan yn ugain oed, derbyniwyd ef yn aelod. Yr oedd yn 28 oed cyn ceisio pregethu, ac yn 30 oed cyn cydio ynddi o ddifrif. Aeth i Gymdeithasfa yn y Deheudir, a rhoddwyd ef i bregethu, a hyny yn bur annisgwyliadwy iddo ef. Parodd hyn ddychryndod a phryder mawr iddo; treuliodd y noson hono mewn gweddi ddyfal; a phan wnaeth ei ymddangosiad yn y pwlpud, dywedir fod delw y "dirgel" yn amlwg iawn arno; pregethodd gyda rhwyddineb, nerth, ac arddeliad anghyffredin— llu o'r dorf fawr yn llefain "Pa beth a wnawn ni?" Dywedir mai ar ol dyfod adref y tro hwn y gwnaeth, ac yr ysgrifenodd efe y cyfamod a wnaeth â Duw.

Dyn teneu, tál, o gyfansoddiad cryf, a gallu annorchfygol i deithio, ydoedd D. Cadwaladr. Teithiai i bregethu dros hen fynyddoedd anhygyrch Meirion, yn droed—noeth yn fynych, a'i esgidiau a'i hosanau ar ei ysgwydd, ac yn fynych yn gwau hosanau a phregethau wrth fyned. Dywedir iddo gerdded o'r Bala i Abermaw, i Gyfarfod Misol, pan yn 82 mlwydd oed.

Fel y dywedwyd eisoes, yr oedd ganddo gof anghyffredin; dywedai Dafydd Rolant, fod "côf Dafydd Cadwaladr fel uffern, ac na ddywedai byth ddigon." Dywedir fod y Bibl bron i gyd yn ei gôf, a llawer o lyfrau da ereill; ac y byddai yn herio i neb losgi ei Fibl ef. Pregethai yn fywiog a tharanllyd yn nechreu ei weinidogaeth; ond daeth yn fwy llariaidd ac efengylaidd at ddiwedd ei oes. Yr oedd yn fardd gwych hefyd, er mai fel pregethwr yr oedd yn enwog; byddai yn cyfansoddi cryn lawer yn ieuanc, ond gan mai at duchanu yr oedd gogwydd ei awen, rhoddes ei delyn ar yr helyg, hyd oni chafodd yn ei hen ddyddiau angau yn destyn i'w duchan. Cyfansoddodd farwnad ar of y Parch. T. Charles, a gwerthwyd naw mil o honi. Cyfansoddodd rai ar ol John Evans, a Dafydd Edwards, o'r Bala, ac amryw ereill.

Bu farw Gorphenaf 9fed, 1834, yn 82 oed, ar ol bod yn pregethu am y cyfnod maith o 52 o flynyddau. Claddwyd ef yn mynwent Llanycil.—(Cofnodau am D. Cadwaladr, gan ei wyres; Meth. Cymru; a Geir. Byw. Liverpool; Geir. Byw. Aberdar.)

CAI HIR, o dir Pen Careg, ydoedd fab i Cynyr Farfawg, ac un o bedwar Marchog ar hugain llys Arthur Frenin, ymhlith pa rai y dosberthir ef, gyda Meinw ab Teirgwaedd, a Thrystan ab Tallwch yn dri marchawg lledrithiawg y llys. Am ei gysylltiad teuluaidd i'r brenin ceir fod gwahanol awduron yn amrywio yn eu barn. Spencer, y bardd Seisnig, a ddywed ei fod yn dadmaeth i Arthur, tra y tystiai yr hybarch hynafiaethydd hwnw, Robert Fychan, Ysw,, o'r Hengwrt, mai brawd y brenin a feithrinwyd ganddo; drwy gamddeall neu drawsffurfio yr hyd, feallai y casglwyd gan rai haneswyr mwy diweddar, ei fod yn nai i'r brenin. Ond gan nad pa beth am hyny, ymddengys ei fod, i raddau helaeth, yn feddianol ar nodweddion milwraidd yr anfarwol Arthur, oherwydd, yn Mabinogi Iarlles y Ffynon, ceir cofnodiad anrhydeddus o'i enw a'i orchestion. Oddiwrtho ef, ac nid fel y tybiai Camden, oddiwrth yr un Rhufeinaidd o'r enw Caius, y galwyd yr hen balas urddasol yn Mhenllyn Meirionydd, yn Caer Gai. Eto camsynied ydyw priodoli adeiladaeth y lle iddo ef, oblegyd tebygol yw fod ei dad yn trigianu yno o'i flaen ef; gan fod yr hen feirdd yn achlysurol yn cyfeirio ato dan yr enw Cau Gynyr. Dywedir fod Cai Hir yn brif gogydd llys Arthur. Nid oes dim llai na chwech o gyfeiriadau ato yn y Trioedd. Yr oedd yn blodeuo tua'r chweched ganrif.—(Myr. Arch.; Guest's Mabinogion.)

CYNYR FARFAWG, oedd dad i'r Cai Hir uchod, a phenaeth a fu yn byw yn Nghaer Gai yn y bumed ganrif. Yr oedd yn fab i Gwron ab Cunedda, a brawd i Meigyr a Meilyr.


CHARLES, Parch. THOMAS, G. C., Bala. Er nad oedd Mr. Charles yn enedigol o Swydd Feirion, eto yr ydym yn ystyried fod y fath gysylltiad rhyngddynt, fel nad oes hawl gan neb i'n cyhuddo o ieuo yn anghydmarus, oblegyd nid oedd, ac nid yw, yn adnabyddus i neb, ond fel Charles o'r Bala; ac nis gellir meddwl am y Bala heb feddwl am Mr. Charles; na chwaith feddwl am Mr. Charles, heb hefyd feddwl am y Bala ar yr un pryd. Y mae enw Mr. Charles a'r Bala yn anwahanol gysylltiedig tra bydd dwfr yn rhedeg. Yr ydym yn credu nad yw coffadwriaeth un o Enwog— ion Swydd Feirion mor fendigedig yn mynwesau y miloedd Cymry ag ydyw coffadwriaeth Charles o'r Bala. Gallai rhyw un galluog ysgrifenu cyfrolau ar nodweddion, rhinweddau, llafur, a dylanwad, &c., Mr. Charles. Y mae ei ddylanwad i'w weled, nid yn unig ar Gymru, ond ar y byd gwareiddiedig! Felly mae gwneyd rhith o gyfiawnder ag ef, ie, & lliaws eraill sydd yn llawer llai teilwng nag ef, mewn traethawd ar ffurf yr eiddom ni, yn anmhosibilrwydd hollol. Yr oedd Mr. Charles (fel byn y byddwn yn arferol o'i alw) yn enwog ymhlith yr enwogion, ac felly nid yn unig ymblitb enwogion, Swydd Feirion, ond felly ymhlith enwogion Cymru, ie, yimhlith enwogion y byd hefyd! Y mae yn dda genym allu dywedyd ddarfod i ni gael codiad mawr i'n meddwl pan ymhlith ein gwrth—droedwyr yr ochr arall i'r ddaear flynyddau yn ol, trwy i ni ddyfod i afael a chyfrol o waith Dr. Chalmers, a chanfod fod y dyn mawr hwnw yn talu gwarogaeth fawr i goffadwriaeth y Parch. Thomas Charles o'r Bala. A dywed awdwr arall yn y Traethodydd, "Thomas Charles o'r Bala ydoedd ddyn a fuasai yn enwog ymysg y genedl fwyaf cyfoethog o enwogion. Pe na buasai wedi gwneyd dim ond bod yn un o'r offerynau i sefydlu y Fibl Gymdeithas, fe sicrhasai hyny anfarwoldeb i'w enw; ond ar wahan i hyn, mae ei lafur a'i wasanaeth i'w genedl mewn amrywiol ffyrdd yn teilyngu iddo enwogrwydd diddarfod."

Mr. Charles oedd fab i amaethwr cyfrifol—Mr. Rice Charles, Pantdwfn, plwyf Llanfihangel Abercywyn, ger tref Sant Claer, yn mharth isaf Swydd Gaerfyrddin; ganwyd ef yn Mhantdwfn Hydref 14, 1755. Cafodd elfenau ei ddysgeidiaeth a'i egwyddorion crefyddol yn Llanddowror, ac yn Athrofa yr Ymneillduwyr yn Nghaerfyrddin. Yn 1775, acth i Rydychain, lle y graddiwyd ef yn G. C. Yn 1778, urddwyd ef yn ddiacon. Y weinidogaeth gyntaf a gafodd yn yr Eglwys Sefydledig, ydoedd curadiaeth yn Ngwlad yr Haf, yna Shawbury, yn Swydd Amwythig, ac yn ddiweddaf, Llan y Mawddwy, yn Swydd Feirionydd, Yr oedd mewn undeb a'r Methodistiaid Calfinaidd cyn myned i'r weinidogaeth i'r Eglwys Sefydledig. Yn 1785, efe a ail ymunodd â'r Methodistiaid Calfinaidd, ac ni chesiodd mwy am le i weinidogaethu yn sefydlog yn yr Eglwys, ond treuliodd ei oes yn llafurus ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd. Prif orchwyl ei oes oedd sefydlu Ysgolion Dyddiol Cymreig Symudol, yn debyg i gynllun person Llanddowror o'r blaen, ac o'r rhai, fel cangen o'r cynllun y sefydlodd yr Ysgolion Sabbothol. Efe hefyd ydoedd un o sylfaenwyr y Gymdeithas Beiblau Frytanaidd a Thramor. Bu farw yn y Bala, Hydref 5, 1814, yn 59 oed.

Bellach rhoddwn restr o'i Weithiau Awdurol mor gyflawn ag y gallwn :— 1. "Yr Act am bwyso Aur," &c., Caerfyrddin, J. Ross, 1775. Ail argraffwyd ef yn 1778. Y mae yn debyg mai cyfieithydd y gwaith hwn oedd Mr. Charles, ac mai Rowland Hill oedd yr awdwr.—2. "Crynodeb o Egwyddorion Crefydd, neu Gatecism byr i blant ac eraill, i'w dysgu, gan y Parch. T. Charles, A.B., 1789.—3. "Llythyr at Mr. T. Jones, o'r Wyddgrag; yn cynwys Hanes fer o Fordaith lwyddianus y llong Duff, yr hon a anfonwyd i drosglwyddo deg ar hugain o Genhadon i bregethu'r Efengyl i drigolion paganaidd Ynysoedd y Mor Dehenol; ynghydag ychydig anogaethau i gynorthwyo'r gorchwyl pwysigfawr a chanmoladwy, gan y Parch. T. Charles, A.B.; Caerlleon, W. C. Jones, 1798." 4. "Y Drysorfa Ysbrydol;" Caerlleon, W. C. Jones, 1799. Hefyd am y blynyddoedd 1801 1811.—5. "Hyfforddiant i'r Anllythyrenog i ddarllen Cymraeg, &c., 1799."—6. Argraffiad newydd o "Ddiffyniad Ffydd Eglwys Loegr," 1808.—7. Argraffiad newydd o waith Walter Cradog.—8. "A Vindication of the Welsh Methodists," yn erbyn gwaith y Parch. Mr. Owen, person Llandyfrydog, yn Mon.—9. "Yr Hyfforddwr," sef ail argraffiad o'r "Catecism," rhif yr ail yn y rhestr hon.—10. "Esboniad ar y Deg Gorchymyn." 11. "Geiriadur Ysgrythyrol, yn bedair cyfrol; yr hwn a ystyrir yn safon yn yr "oes oleu hon," a bydd felly hefyd am oesau i ddyfod 1—12. Golygodd ddau argraffiad o'r Bibl Cymraeg, yn 1804 a 1814.

Cyhoeddodd dri o'r llyfrau uchod gyda golwg yn uniongyrchol ar yr Ysgol Sabbothol: sef "Y Sillydd," "Yr Hyfforddwr," a'r "Esboniad ar y Deg Gorchymyn," o ba rai y cyhoeddwyd dim llai na thua thri chant a haner o filoedd.[6]

DAVIES, Parch. GRIFFITH OWEN, a anwyd ger y Bala, yn Ionawr 24, 1790. Yn 1805 ymunodd â'r Trefnyddion Calfinaidd. Trwy ddylanwad y diweddar Barch. T. Charles efe a dderbyniwyd i goleg Cheshunt yn 1811, lle y treuliodd bedair blynedd. Efe a urddwyd yn nghapel Arglwyddes Huntington, yn Spa Fields, Llundain. Yn 1815 efe a ymsefydlodd yn Maidenhead, lle y bu yn ddefnyddiol a phoblogaidd dros 21 o flynyddau Bu farw yn nechren y flwyddyn 1887, yn 47 oed.—(Evan Reg. 1837; Brython, cyf ii., t.d. 182.)

EVANS, Parch. ENOCH, o'r Bala, pregethwr hynod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Wyr ydoedd i'r hybarch John Evans, Bala. Yr oedd llawer o bethau digrif, diniwaid, a phlentynaidd yn perthyn iddo. Cadwai beth dirifedi o adar o bob math a rhywogaeth yn ei dŷ, ac eisteddai am oriau yn y gwynfydedd penaf i wrandaw arnynt yn canu. Yr oedd yn cael rhyw hyfrydwch mawr gyda'r bodau lleiaf a mwyaf diystyredig yn y greadigaeth fywydol; byddai gan bryf copyn afael neillduol ar ei feddwl, ac ymdroai allan o bob hydoedd wrth fyned i'w gyhoeddiadau yn gwylio malwod a phryfaid genwair yn llwybreiddio i'w taith. Yr oedd yr ymdroadau hyn yn peri cryn anhwylusdod i'w frodyr crefyddol, gan y gorfodid hwy yn fynych i ddisgwyl E. Evans at ei gyhoeddiad, ac nid anfynych y byddai raid troi at "gyfarfod gweddi," gan y byddai amser y cyfarfod ymhell drosodd cyn i'r falwoden gyraedd pen ei siwrnai. Er hyn oll yr oedd yn Enoch Evans lawer o ragoriaethau amlwg fel pregethwr. Yr oedd yn ddarllenwr campus, yn ymadroddwr rhwydd a naturiol iawn, a'i faterion yn cynwys llawer o synwyr cryf a drychfeddyliau prydferth. Pan oedd rhai cyfeillion crefyddol ar ymweliad âg ef yn ystod ei gystudd olaf dywedai mewn ymddiddan y gallent wneyd pobpeth tua'r capel heb Enoc—canu, gweddio, &c., ond dywedai, "Ni pherffeithir hwynt heb poor Enoc."—(Geir. Byw, Liverpool.)


EVANS, EBENEZER, Bala, mab i'r Parch. Enoch Evans, pregethwr parchus gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Ganwyd ef Tachwedd 18, 1808. Rhoddodd ei rieni gymaint o ddysgeidiaeth iddo ag oedd yn ddichonadwy i rai o'u sefyllfa a'u hamgylchiaidau trwy wneuthur. Pan yn 16 oed datguddiodd yr Arglwydd Iesu ei hun iddo mor rymus fel y gwaeddodd ar unaith, "Ac y'm ceir ynddo ef." Cafodd anogaeth gan yr eglwys i arfer ei ddawn yn y cyfarfodydd gweddiau, &c. Gwelwyd yn fuan ei fod yn un o ddoniau helaeth, a meddwl cyflym a threiddgar. Yr oedd yn fachgen hynod grefyddol, ac yn hynod o oleu yn yr Ysgrythyrau Yr oedd awen y bardd yn helaeth ynddo. Dywedir iddo gyfansoddi llawer o farddoniaeth, er nad oedd ond ieuanc pan fu farw, ymhlith y rhai y mae ei benillion—"Deisyfiad na byddo i Dduw fy ngadael yn nghyfyng ddydd marwolaeth." Dyma un o'i waith:

"Pan b'o mherth'nasau yn fy ngado,
Na ad di fi;
Pan b'o nghyfeillion draw yn cilio,
Na chilia di;
Pan b'o f ysbryd yn ymado
O'r babell bridd mae ynddi'n trigo,
Iesu anwyl gwna fy nghofio,
Na ad di fi!"

Yr ydym yn credu fod yr Arglwydd wedi ei wrando yn ei ddymuniad. Bu farw o'r parlys yn mis Ionawr, 1829, yn 20 oed—Coleddid gobeithion mawrion am dano fel llenor a bardd; ond pan oedd y blodeuyn yn ymagor torwyd ef ymaith, a gwywodd. (Geir. Byw., Aberdar.)

EVANS, Parch. ELLIS, D.D., gweinidog y Bedyddwyr yn y Cefnmawr, sir Ddinbych. Brodor ydoedd o Lanuwchlyn. Ganwyd ef Mehefin 22, 1786. Ni chafodd lawer o fanteision addysg yn ei ieuenctyd. Efe a arferai wrando y Parchedig a'r dysgedig George Lewis, D.D., hyd yr amser y symudodd i Ddolgellau, Enillwyd ef i ddyfod at grefydd dan bregeth y Parch. Joseph Richards. Tueddwyd ef i ymuno â'r Bedyddwyr, a derbyniwyd ef yn aelod yn eu plith yn 1806, pan yn 20 mlwydd oed. Yn 1809 dechreuodd bregethu. Wedi hyny aeth i'r ysgol at Mr.. Jesse Jones, i'r Fforddlas; wedi hyny aeth i athrofa'r Bedyddwyr yn y Fenni, dan nawdd Micah Thomas, lle y daeth yn ysgolhaig gwych. Yn 1811 urddwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth, a chafodd alwad gan eglwys Llanefydd, yn sir Ddinbych. Ymhen ysbaid symudodd i'r Cefnmawr, lle yr arddelodd Duw ef er gwneyd daioni mawr. Collodd ei wraig a rhai o'i blant yn y lle hwn. Fel pregethwr beirniadol ac ysgrythyrol yr oedd efe yn sefyll yn y rhes flaenaf, ac fel hanesydd eglwysig yr oedd efe yn tra rhagori. Efe a ysgrifenodd amryw lyfrau; ond prif orchest ei oes am y deugain mlynedd olaf oedd casglu Hanes y Bedyddwyr o'u dechrenad hyd ei amser ef. Daeth rhai rhifynau allan, ond bu farw yr hanesydd ar ganol ei waith. Graddiwyd ef yn D.D., gan un o urdd ysgolion America; ac yr oedd y teitl yn eistedd yn dra esmwyth arno. Pan oedd Dr. Evans yn 73 mlwydd oed rhoddodd ofal ei eglwys yn Cefnmawr i fyny, ond ni roddodd yr eglwys ef i fyny, eithr daliodd ei gafael ynddo hyd ei fedd. Galwasant weinidog ieuanc i'w gynorthwyo, sef y Parch. A. J. Parry. Yr oedd yn anhawdd cael gweinidog ac eglwys mwy hoff o'u gilydd na hwy. Bu farw Dr. Evans dydd Llun, Mawrth 28, yn 79 mlwydd oed.-(Geir. Byw. Aberdâr.)

EVANS, Parch. JOHN, o'r Bala, ydoedd wladwr Cymreig synwyrlym a phrofiadol, a phregethwr tra defnyddiol gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, pan oedd yr enwad hwnw yn ei fabandod. Ganwyd ef Hydref 30, 1723, mewn lle o'r enw Glanyrafon, yn mhlwyf Gwrecsam, sir Ddinbych. Llafurwr oedd el dad, o'r enw William Evans, a bydwraig oedd ei fam, o'r enw Ann Evans. Rhoddasant ysgol i John pan ydoedd yn lled ieuanc, ac ymddengys ei fod yn ddysgwr cyflym. Medrai ddarllen ei Fibl yn Gymraeg a Saesneg pan rhwng naw a deg oed, ac yr oedd ganddo ryw grap bychan ar rifyddu ac ysgrifenu, yr hyn oedd yn gryn beth yn yr oes hono. Pan oedd yn 4 oed symudodd el rieni i fyw i Adwy'r Clawdd. Pan yn 12 neu 13 oed rhoddwyd ef yn egwyddor-was o wehydd. Cyn hir daeth i'r Bala at wehydd crefyddol, i weithio ei waith, yn nhŷ yr hwn yr arferai naw neu ddeg o'r Methodistiaid ymgasglu i addoli, ac yn fuan ymunodd J. Evans à hwy fel aelod. Priododd Margaret, merch Morys ab Robert, o'r Bala, yn 1744. Ymhen ugain mlynedd wedi dyfod at grefydd dechreuodd bregethu, a chafodd ei erlid a'i faeddu yn ddidrugaredd lawer gwaith yn y rhan gyntaf o'i oes weinidogaethol. Pregethwr oedd ef yn amcanu mwy am y deall nag am y teimladau. Pregethwr pwyllog, arafaidd, a synwyrol ydoedd, yn traddodi y gwirionedd mewn symlrwydd dull, iaith, a meddyliau. Oherwydd ei ddoethineb a chyflawnder ei brofiad dodid lle uchel iddo yn nghynghorau yr enwad. Ar neillduad cyntaf pregethwyr o'r cytundeb i weinyddu yr ordinhadau, yn 1811, John Evans a gymerai ran flaenllaw yn yr ymdrafodaeth. Fe ddywedir mai gwr cadarn iawn yn y ffydd ydoedd John Evans. Bu yn ffyddlawn o blaid y gwirionedd am 35 o flynyddau. Yr oedd yn un o'r rhai enwocaf mewn fraethineb. Bu farw Awst 12, 1817, bron yn 94 oed. (Meth. Cyum (lawer iawn o'i hanes); Ei fywyd; Geir. Byw., Liverpool, .Aberdâr.)


EVANS, Parch. ROBERT, Talybont, ger y Bala, ydoedd fab i'r hen bregethwr hybarch Evan Ffoulkes, Llanuwchlyn, a brawd i'r Parch. Ffoulke Evans Machynlleth. Efe a ddechreuodd yn nghyfundeb y Trefnyddion Calfinaidd, pan yn cyfaneddu yn agos i'r Roe, sir Ddinbych. Bu yn pregethu am yn agos i ddeu gain mlynedd. Yr oedd efe yn dduweinydd manylaidd, yn ymresymwr cadarn, ac yn ymadroddwr parod; a chlywsom ef ar amserau yn cael odfaon nodedig o wlithog ac effeithiol. Wedi nychdod lled faith efe a fu farw Mai 22, 1854, yn 65 oed.

EVANS, Parch. ROBERT, Llanidloes. Yr oedd efe yn fab i John a Jane Evans, Llangower, ger y Bala, ac yn frawd i'r Parch: Daniel Evans, Penrhyndeudraeth. Yr oedd ei rieni yn aelodau gyda'r Annibynwyr. Ganwyd ef yn 1784. Cafodd ysgol yn dda gan ei rieni; a phan oedd yn 13 oed gadawodd ei rieni, ac aeth i'r Bala at ewythr iddo, yn wehydd. Yn fuan ymunodd â'r Methodistiaid Calfinaidd, a bu am 10 mlynedd yn yr athrofa grefyddol yno. Pan yn 23 oed, anfonodd Mr. Charles ef i Langynog i gadw ysgol ddyddiol. Bu wrth y gorchwyl hwn am 11eg o flynyddau o dan arweiniad Mr. Charles, yn Llangynog, Llansilyn, Llanrhaiadr-yn-Mochnant, &c. Bu yn hynod o ffyddlon a llafurus gyda'r rhan yma o'i waith, fel y bu yn foddion i wneyd llawer iawn o ddaioni. Bu am amryw flynyddau yn cadw ysgol wedi iddo ddechreu pregethu. Yn y flwyddyn 1818, pan yn 34 oed, ymsefydlodd yn Llanidloes, a bu yno am 36 o flynyddau goreu ei oes. Yr hyn a'i dygodd i Lanidloes i fyw oedd priodi gwraig grefyddol o'r enw Jane Thomas. Yr oedd Mr. Evans yn ddyn o synwyr, galluoedd, a doniau naturiol, yn tra rhagori ar y cyffredin; fel Cristion, "Yn Israeliad yn wir:" fel gweinidog yr oedd yn ofalus ac yn llafurus, a ffyddlawn ar ei holl dŷ. Yn 1854 symudodd i Aberteifi i fyw, ac yn Awst 24, 1860, bu farw, wedi pregethu tua 7488 o bregethau; a gweinidogaeth bywyd oedd ei weinidogaerh ef.— (Geir. Byw., Aberdâr.)

EVANS, Parch. WILLIAM, oedd fab i Evan a Jane Evans, o'r Bala, lle ganwyd ef yn Mai, 1773. Canfu ei dad ynddo yn ieuanc duedd at lyfrau, ac hefyd at y weinidogaeth Gristionogol, a rhoddodd ef pan yn ieuanc o dan ofal athraw yn yr ieithoedd dysgedig, lle y bu am bum' mlynedd yn derbyn elfenau dysgeidiaeth. Dangosodd duedd a dawn at farddoniaeth Gymreig. Pan oedd yn 14 oed etholwyd ef yn feirniad ar y farddoniaeth yn eisteddfod y Bala y flwyddyn hono,—sef i gyd-feirniadu âg un o'r enw Robert Hughes. Yn 1791, derbyniwyd ef i athrofa yr Annibynwyr a gynelid y pryd hyny yn Nghroesoswallt, dan ofal y diweddar Dr. E. Williams, (wedi hyny o Rhotherham), ac ar ol hyny o dan ofal y Parch. Jenkyn Lewis, Gwrecsam, lle y dewiswyd ef yn athraw yr ieithoedd; ac ar yr un pryd helaethai ei gyrhaeddiadau, yn neillduol yn yr Hebraeg a Duwinyddiaeth. Yn 1795, ordeiniwyd ef yn weinidog cynulleidfa yn Stockport, o'r hwn le y cymerodd ran helaeth yn nhrefnyddiaeth y cyfundeb Annibynol, trwy sefydlu undeb gweinidogion a chynulleidfaoedd Sir Caerlleon. Rhoddwyd terfyn ar ei lafur, ar ol gwaeledd maith, Medi 29, 1814, yn 42 oed.—(G. Lleyn; Evang. Mag. vol. 24).

EVANS, Parch. WILLIAM, o'r Fedw Arian, ger y Bala, oedd un o'r pregethwyr cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn y cymydogaethau hyny. Bu yn llafurus a diwyd yn cyhoeddi yr efengyl ar hyd conglau tywyll o'r wlad nes yr anhwyluswyd ef gan y parlys, yr hwn a effeithiodd ar ei gof, ac a wanhaodd ei synwyrau amser cyn ei farwolaeth. Dywedir fod ei ddoniau fel pregethwr yn dragwlithog a phoblogaidd. Y mae llawer o'i hanes a'r erledigaethau chwerwon a gafodd yn Meth. Cym. a Drych yr Amseroedd: (Meth. Cym., cyf. I., t.d. 533, cyf. III., t.d. 197; Drych yr Am. t.d. 175, 213). Y mae ychydig o farddoniaeth o'i eiddo yn argraffedig:-1. "Marwnad i Jane, gwraig Mr. T. Foulkes, o'r Bala, Trefecca, 1786. " (Gwraig gyntaf Mr. Foulkes, a mam gwraig Mr. Charles). 2. "Llyfr Hymnau bychan, o waith W. Evans ac E. Parry, Llansanan."

EVANS, Parch. FOULK, Machynlleth, gweinidog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, a mab Evan Foulk, Llanuwchllyn, yn Mhenllyn. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1783. ' Yn 1825, symudodd i Fachynlleth. Teithiodd lawer drwy holl siroedd Gogledd a Debeudir Cymru i bregethu; er hyny, bu yn ymdrechgar iawn yn ei gartref, a'r ardaloedd cylchynol, yn pregethu ac yn cadw cyfarfodydd eglwysig ar nosweithiau yr wythnos. Llafuriodd hyd y diwedd i wneuthur pregethau newyddion, a darllenodd lawer ar weithiau yr hen dduwinyddion goreu. Nid ymataliodd rhag mynegi i'w wrandawyr, "holl gyngor Duw," ac yr oedd y "pethau buddiol" yn amlwg ymbob pregeth. Pan yn ymweled âg eglwysi dros y cyfarfod misol cyflawnai ei oruchwyliaeth yn ffydd lon a thrwyadl. Mewn cadw cymdeithas eglwysig, ni welwyd neb yn fwy medrus ac adeiladol. Efe oedd y pregethwr hynaf yn y cyfundeb yn adeg ei farwolaeth. Ac yn holl ystod ei weinidogaeth hirfaith, bu ei gymeriad yn ddifefl a diargyhoedd. Gorphenodd ei yrfa ddaearol Mawrth 8fed, 1866, yn 83 mlwydd oed, wedi bod yn pregethu oddeutu 61 o flynyddoedd, ac wedi ei gwbl neillduo i holl waith y weinidogaeth yn y flwyddyn 1828. (Gweler ei " Gofiant, " gan y Parch. J. Ogwen Jones, B.A. Bala, argraffwyd gan Mr. Edward Jones.)

FYCHAN, JOHN, ydoedd un o Fychaniaid Caergai, yn Mhenllyn. Yr oedd yn fardd Cymreig enwog. Y mae e'i waith "Gywydd y Gynddaredd, " a gyfansoddodd ar rwysg Cromwell, er mewn iaith fwys, rhag ei gyhuddo; a cheir ei enw wrtho yn Lladin, Johannes Vaughan de Caergai."—(G.Lleyn.)

FYCHAN, ROWLAND, Ysw., o Gaer Gai, Llanuwchlyn, ger y Bala. Yr oedd yn tarddu o hen deulu o'r un enw ag oedd yn meddianu y lle hwnw er's canoedd o flynyddoedd cyn ei amser ef. Y mae rhestr faith o achau Caergai ger ein bron, ond y mae yn llawer rhy faith i'w rhoddi i mewn yma. Yr oedd enwogrwydd yn perthyn iddynt fel teulu, neu genedl. Yr oedd un Gwerſyl Mechain, merch Hywel Fychan, yr hon oedd brydyddes, ac yn byw rhwng 1460 a 1490, yn y lle hwn. Brawd i hono, a mab i Hywel Fychan, o'r enw John Fychan, a briododd ferch un Cadben Madog, a mab iddynt hwythau, o'r enw Robert, a briododd etifeddes Gwern Brychdwn, yr hon oedd yn un o Lwydiaid Mathafarn, a merch i'r rhai hyny a briododd y Milwriad Salisbury, o Rug, ger Corwen. Yn nghofrestr siryddion Meirionydd, ceir fod John Fychan o Gaergai, yn sirydd yn 1615 ac 1622. Yn 1641, cawn Rowland Fychan, ac erail ' wedi hyny o'r teulu, yn siryddion. Cafodd ei ddysgeidiaeth yn Rhydychain, ond nid arhosodd yno i gymeryd y raddau. Gallwn dybied ei fod yn enwog fel milwr. Gelwid ef y Cadben Fychan, a dywedir iddo wasanaethu yn y fyddin o blaid y brenin; ac y mae prawf ei fod yn mrwydr Naseby. Yr oedd yn selog iawn dros y brenin; a darfu i'r blaid seneddol losgi ei dŷ a'i feddianau yn 1645, a'u trawsfeddianu. Dywedir hefyd iddo yntau fod yn garcharor yn Nghaerlleon am dair blynedd. Adferwyd ei feddianau, ac adeiladodd yntau ei dy eilwaith. Yr oedd Rowland Fychan, heblaw ei fod yn filwr dewr, a theyrngarwr enwog, yn fardd Cymreig rhagorol. Ond y mae yn wir mai fel ysgrifenydd rhyddieithol da, ac am iddo ddefnyddio ei dalentau i ddiwyllio ei gydwladwyr tlodion, yr oedd yn enwog iawn. Cyfieithiodd lawer o lyfrau da, yr hyn sydd yn profi ei wladgarwch mawr, a'i fedrusrwydd yn iaith ei wlad. Byddai yn dda genym weled mwy o foneddigion ein gwlad yn efelychu Rowland Fychan, a Robert Fychan, Hengwrt, yn hyn, yn hytrach na dilyn cwn hela, dawns, a rhedegfeydd ceffylau a moch, ac. Bellach ceisiwn roddi crynodeb o'i lafur llenyddol:—1. Yn 1630, " Yr Ymarfer u Dduwioldeb," &c., o gyf. R. F. 2. Yn 1658, " Prif Fanau Crefydd Gristionogol a llwybreiddfodd byr o'r athrawiacth o honi," o gyf. R. F., Ysw. 3. Yn 1658, " Yr arfer o Weddi yr Arglwydd," ac., o gyf. R. F. 4. Yn 1658, ail argraffiad! 1690, Pregeth yn erbyn Schism, " &c., o gyf. R. F. 5. Yn 1658, 6. Prif-Fanau Sanctadd, neu Lawlyfr o weddiau a wnaethpwyd yn dair rhan, " &c., o gyf. R. F., Ysw. 6. Yn 1658, "Y llwybreiddfodd byr o Gristionogawl Grefydd," ac. 7. Yn 1658, " Ymddiffyniad rhag pla o Schism," &c., cyf. R. F. 8. Yn 1715, " Euchologia, yr athrawiaeth o arferol weddi, " cyf. R. F. Argraffwyd y " Llyfr Ymarfer o Dduwioldeb, " ac., chwech gwaith o 1630 i 1710. Y cyntaf yn 1630, yr ail yn 1656, y trydydd yn 1675, y pedwerydd yn 1685, y pumed yn 1700, y chweched yn 1710. Y mae Carolau a dyriſau o waith Row. Fychan mewn " Cerdd lyfr," o gasgliad Ffoulke Owen o Nantglyn, printiedig yn y Theater, yn Rhydychain, 1686. Hefyd y mae " Englynion i Wythnos Dyoddefaint Crist," o'i waith yn yr hen Ysgrif-lyfr Robert Thomas, Clochydd, Llanfair Talhaiarn, yn meddiant R. I. Jones, Tremadog.

FYCHAN, MARI, a adnabyddid yn y byd barddonol wrth yr enw Gwerfyl Mechain, oedd ferch i Hywel Fychan o Gaer Gai, yn Mhenllyn, ac yn byw rhwng 1460 a 1490. Yr oedd у farddones olafyn ei hoes. Ymysg ei gweithiau barddonol, ceir "Cywydd ar Ddyoddefaint Crist, " a " Chywydd y March Glas," y naill yn rhagori mewn symlrwydd a chywirdeb desgrifiadol, a'r llall yn arucheledd ei feddylddrychau a chywreindeb ei ddarluniad. Pan ddarfu i geffyl ei thad orwedd gan flinder ar yr âr wrth lyfnu, hi wnaeth yr englyn a ganlyn i erfyn am wair i'r march lluddiedig:—

Hen geffyl, gogul di gigog,—sypyn
Swper brain a phiog;
Ceisio ' rwyf—mae'n cashau'r ôg
Wair i Iuddew gorweddiog.


Canodd Gutto'r Glyn farwnad ar ei hol, ymha un y dywed:—

Am guddio hon mae gwaedd hir—
Ei Chywyddau ni chuddir.

Geilw hi yn "ferch i Tallwg," ond nid yw hyny ond dull cyffredin gan hen feirdd yr hen amser o alw rhywun yn fab neu ferch rhyw hynafiad enwog. Claddwyd hi yn Llanfihangel-yn-Ngwynfa, Sir Drefaldwyn.

GORONWY, BEFR, penaeth, neu dywysog Penllyn, yr hwn oedd yn byw tua diwedd y bumed ganrif. Y mae yn cael ei gofnodi yn y Trioedd fel blaenor у " tri anniwair deulu," neu lwythau anffyddlon Prydain; oblegyd mewn brwydr a ymladdwyd yn Cynfal yn Ardudwy, ni ddaeth yr un o honynt ymlaen i'w amddiffyn rhag gwaewffon wenwynig Llew Llawgyffes. Galwyd y lle y syrthiodd yn Llech Oronwy. Y ddau lwyth arall oedd eiddo y brodyr Gwrgi a Peredur, ac Alan Forgan.—(Myf. Arch. II. 3, 16, 770.)

FOULKES, Parch. EDWARD, Dolgellau, ydoedd bregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Ganwyd ef yn Llanuwchlyn, yn y flwyddyn 1763; a bu farw Ebrill 3ydd, 1853, yn 92 mlwydd oed. Yr oedd wedi dechreu pregethu er's 66 o flynyddoedd. Efe oedd un o'r pregethwyr mwyaf oedranus yn y Dywysogaeth, os nad yr hynaf oll. Cafodd ei ddwyn i fyny yn swn yr efengyl ymhlith yr Ymneillduwyr yn Llanuwchlyn. Nid oed: yr hen bererin hwn yn gallu pregethu flynyddau cyn ei farwolaeth, o herwydd ei wendid corfforol; ond yr oedd yn dyfod i foddion gras hyd o fewn ychydig fisoedd i'w farwolaeth. Yr oedd efe yn berchen doniau rhwydd, ac yn dduwinydd da, ac arferai bregethu yn rheolaidd o ran materion, ac yn ddeffrous o ran dull. Yr oedd o dymer fywiog a siriol iawn, yr hyn a'i harweiniai rai gweithiau i brofedigaethau ar ryw dymhorau yn ei oes; ond byddai pawb a'i hadwaenai yn ei ystyried yn Israeliad yn wir, yn yr hwn nad oedd dwyll. Claddwyd ef yn nghladdfa y Trefnyddion Calfinaidd, tu cefn i'r capel, yn Nolgellau. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchedigion Richard Roberts, a William Davies, Llanelltyd.(Geir. Byw. Aberdar).

FOULK, Parch. EVAN, Llanuwchlyn, pregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Er iddo gael ei fagu gan mwyaf ymhlith yr Annibynwyr,' efe a ymunodd â'r Trefnyddion. Y mae enw Evan Foulk yn adnabyddus iawn yn y Gogledd a'r De, fel Cristion cywir a diddichell; pregethwr gwlithog, a rhyfeddol mewn gweddi. Cafodd lawer o dywydd garw oddiwrth ei wraig yn nechreuad ei grefydd, gan ei bod hi yn wrthwynebol iawn iddo ymwneyd dim â chrefydd. Yr oedd yn dra chwerw wrtho pan oedd gyda'r Annibynwyr, ond yn llawer mwy felly wedi iddo ymuno â'r Trefnyddion. Ond yn raddol daeth yn well arno yn hyn o beth, oblegid i'w wraig, yn ol pob tebyg, gael ei hargyhoeddi mewn Cymdeithasfa yn y Bala.—(Geir. Byw. Aberdar).

FOULKES, Parch. THOMAS, pregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn y Bala a Machynlleth. Ganwyd ef yn 1731, yn Llandrillo yn Edeyrnion, Sir Feirionydd. Pan oedd yn 23 oed, cymerodd daith i Loegr, a bu yn ymdaith am ryw gymaint o amser yn ardal Caerlleon. Dychwelwyd ef at Dduw trwy weinidogaeth у Parch. John Wesley, tua'r fiwyddyn 1754, neu 1755. Ar ol bod am rhyw dymor yn Lloegr, dychwelodd i Gymru, yn well dyn nag yr ymadawodd. Ar ei ddychweliad adref, arweiniwyd ef i aros yn y Bala, lle yr ymunodd â'r Trefnyddion Calfinaidd. Nis gwyddis pa bryd y dechreuodd bregethu. Yn fuan wedi ymsefydlu yn y Bala, priododd ferch i un o'r ychydig ddisgyblion oedd yno, sef merch i bregethwr bychan o'r enw Gruffydd Siôn. Ni bu y wraig hon byw ond ychydig flynyddau, ac efe a briododd eilwaith â gwraig weddw, o'r enw Mis. Jane Jones, ag oedd ar y pryd yn cadw maelfa yn yr un dref, a merch fach gyda hi, yr hon, wedi hyny, a briodwyd gan y Parch. T. Charles. O'r briodas hon, bu i Mr. Foulkes wyth o blant; ac er ei fod yn diarhebol o hael, eto llwyddodd i roddi dygiad i fyny da i'w blant, ac ymhen ysbaid o flynyddau, galluogwyd ef i roddi'r fasnach i fyny i Mr. Charles a'i briod, ac ymneillduo ar yr hyn a gynilwyd i fwynhau cynyrch ei lafur. Yn ystod ei neillduaeth, ymroddai â'i holl egni i fod o wasanaeth i grefydd. Nid oedd ei alluoedd pregethwrol, mewn cyferbyniad i'r eiddo Charles, John Evans, ac eraill o'i gymydogion, ond bychain, ond mewn ffyddlondeb a chariad at y gwaith nid oedd efe yn fyr i'r un o honynt. Bu ei ail wraig farw yn 1785, ac ymhen tua dwy flynedd priododd Lydia, merch i Simon Llwyd, Ysw., Plas yn Dref, awdwr Amseryddiaeth Ysgrythyrol. Yna, penderfynodd symud o'r Bala i Fachynlleth, lle y cododd faelfa helaeth. Edmygai John a Charles Wesley yn fawr trwy ei oes. Er hyny, yr oedd ei ymlyniad wrth yr enwad a fabwysiadodd yn gryf iawn. Gwasanaethodd ef yn ffyddlawn, gweddiodd lawer am ei llwyddiant, a c. Bu farw Mai 15, 1802, yn 71 oed.

GRFFITH, Parch. JOHN, gweinidog yr Annibynwyr yn Rhydywernen, ger y Bala. Ganwyd ef mewn amaethdy a elwir Cablyd, yn Rhydywernen, Tachwedd 1805. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys yn Rhydywernen, pan oedd yn 17 mlwydd oed. Dechreuodd bregethu yn ol cyngor yr egwys a'r gweinidog, pan oedd yn 27 mlwydd oed. Derbyniodd ei addysgiaeth i'r weinidogaeth yn Llanuwchlyn, dan arolygiaeth y Parch. Michael Jones, ac wedi hyny yn Marton, ar gyffiniau sir Amwythig, dan addysgiaeth y diweddar Barch. T. Jones, o'r lle hwn. Urddwyd ef yn Rhydywernen, yn Mehefin, 1841. Yr oedd yn hynod o ddiwyd, ffyddlawn, a llafurus fel gweinidog yr efengyl. Bu farw yn 44 mlwydd oed, ac yn yr wythfed flwyddyn o'i weinidogaeth. —(Geir. Byw., Aberdâr.)

HUW, ROLANT, o'r Graienyn, ger y Bala. Yr oedd yn fardd da a chelfyddgar, ac yn ei fri tua chanol y ganrif ddiweddaf. Y mae yn y Blodeugerdd farwnad o'i waith i Rhys Morris, oed 88, a gladdwyd yn Llanycil yn y flwyddyn 1757."Yn y Traethodydd am 1849 ceir amryw fân chwedlau am dano, ac englynion o'i waith, sef englyn i ofyn benthyg march gan un Rolant Dafydd, clochydd Trawsfynydd, ac ymgom ddychymygol a gymerodd le rhyngddo â'r march echwyn ar ei ffordd adref.

HUGIES, Parch. ROWLAND, gweinidog enwog gyda'r Wesleyaid, a anwyd yn y Bala, Mawrth 6, 1811. Pan oedd tua 4 oed symudodd William ac Ann Hughes, ei rieni, i Ddolgellau. Yno yr addysgwyd ef; yno y daeth at grefydd, ac yno y dechreuodd bregethu. Pan yn 16 oed ymunodd fel aelod â'r Wesleyaid, a phan yn 17 dechreuodd bregethu. Yn 1829, aeth i Ferthyr Tydfil yn bregethwr cynorthwyol. Yn Awst 1832 galwyd ef allan i waith rheolaidd y weinidogaeth. Bu yn teithio wedi hyny am 29 o flynyddau. Ei gylchdeithiau oeddynt Caernarfon, Beaumaris, Liverpool, Llanasa, Liverpool, Bangor Merthyr, Crughywel, Manchester, Liverpool, a Dinbych-lle y gorphenodd ei daith, yr hon a fu yn llawn o lafur caled, defnyddioldeb mawr, ac o enwogrwydd a dylanwad tu hwnt i'r cyffredin. Pan yn Liverpool y waith gyntaf ymbriododd âg Elizabeth Evans, merch hynaf y Parch. David Evans, gweinidog parchus gyda'r Wesleyaid Cymreig, yr hon a adawodd yn weddw gyda phump o blant Dywed ei fywgraffydd yn y Gwyddoniadur fod gan Mr. Hughes feddwl galluog iawn; fod dwy elfen neillduol yn ymgyfarfod ynddo, a'r rhai hyny yn gryfion a chyfartal iawn, sef yr un resymiadol a'r un ddychymygol. "Dichon mai y resymiadol oedd y benaf." Yr oedd Mr. Hughes yn bregethwr galluog a sylweddol iawn, a diameu ei fod yn un o'r pregethwyr enwocaf a feddai y corff yn ei oes ef. Gellir dyweyd ei fod yn feistr ar yr iaith Saesneg, ac y gwyddai dipyn am y Groeg a'r Hebraeg. Bu hefyd yn wasanaethgar fel llenor. Cyhoeddwyd y "Cyfnodau y Gynhadledd, a elwir y Cyfnodau Mawr" o'i waith; cyfieithodd hefyd "Nodiadau y Parch. J. Wesley ar y Testament Newydd." Dywedir ei fod yn awdwr amryw lyfrau eraill, a llawer o erthyglau sydd i'w gweled yn nghylchgronau yr enwad. Bu farw yn Dinbych Rhagfyr 25, 1861, yn 50 oed.—(Gwyddoniadur Cymreig, cyf. v., t.d. 547; Geir. Byw., Liverpool, t.d. 523.)

HUGHES, Parch. THOMAS, oedd weinidog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Liverpool Ganwyd ef yn y Bala, yn y flwyddyn 1758. Cafodd radd o fanteision dysg mewn elfenau darllen, ysgrifenu, a rhifo, a dygwyd ef i fyny yn saer coed. Yn 1782, pan oedd yn 24 oed, derbyniodd argyhoeddiad dwfn; ond wrth wrando ar y Parch. Daniel Rowlands yn pregethu ar Ioan iii. 16, teimlodd ryddid yr efengyl, a bwriodd ei goelbreu gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Yn 1787 aeth i Liverpool i fyw, ac i wella ei hun yn ei gelfyddyd. Yn 1789 dechreuodd bregethu. Yn 1816 ordeiniwyd i gyflawn waith y weinidogaeth. Yn 1826 daeth y Parch R. Williams yn gynorthwy iddo. Priododd ferch y diweddar Barch. T. Hughes, a chydlafuriodd âg ef am ysbaid byr. Yr oedd Mr. Hughes yn feddianol ar wybodaeth dduwinyddol helaeth, a ragorai o ran treiddgarwch ei olygiadau, gwastadrwydd ei dymer, a chadernid ei benderfyniad. Llafuriai lawer mewn ffordd o adeiladu yr eglwys, a gwerthfawrogai yr eglwys ei weinidogaeth yn fwy na'r gwrandawyr yn gyffredin. Yr oedd o ysbryd cyfeillgar, rhydd; yr oedd yn awyddus iawn i dori allan i leoedd anial a newydd i bregethu. Nid ydym yn hysbys o'r pryd y bu efe farw.—(Geir. Byw., Aberdâr.)

HOWELL, Parch. L. D., America, oedd weinidog gyda'r Annibynwyr yn Middle Granville, America. Brodor ydoedd o Lanuwchlyn. Mabwysiadodd grefydd yn bur ieuanc. Yn 1832 aeth gyda'i fam, ac eraill o'r teulu, i America, ac ymsefydlodd yn Utica. Yn 1836 priododd un o'r enw Miss Lydia John. Yn fuan cafodd anogaeth i ddechreu pregethu. Cafodd gynyg mewn amryw fanau ar fod yn weinidog sefydlog pan oedd ar ymweliad yn y Gorllewin; ond ar y cyfryw amser nis gallai symud o Utica heb gwbl ddyrysu ei amgylchiadau. Ar y cyfryw amser daeth ef ag eglwys Middle Granville i adnabyddiaeth â'u gilydd, a chymerodd ei gofal. Yr oedd yn troi mewn cylch helaeth iawn fel trysorydd amrywiol gymdeithasau, ac yr oedd yn gwneyd mwy o lafur didal na neb yn y ddinas; yr oedd yn was i bawb mewn angen cymorth a chyfarwyddyd yn mysg ei genedl o'r dref a'r wlad, fel nad oedd dim gorphwysdra iddo, na dim pen draw ar ei drafferth. Ar y 13eg o Orphenaf, 1864, bu farw o'r darfodedigaeth yn nghanol ei ddefnyddioldeb.—(Geir. Byw., Aberdâr.)

JONES, Parch. DAVID, gweinidog poblogaidd gyda'r Annibynwyr yn Nhreffynon, Sir Fflint. Ganwyd ef yn Nghoed-y-ddol, plwyf Llanuwchlyn, yn Nghantref Penllyn. Yn 1790 ymunodd â'r eglwys Annibynol yn y Bala. Bu mewn tywydd garw gyda mater ei enaid am tua phedair blynedd A phan ddaeth i afael cilfach a glan iddi, cyfododd awydd cryf ynddo i berswadio ac i arwain eraill i'r un fan. Daeth hyn yn hysbys i'r eglwys a'r Dr. Lewis, Llanuwchlyn, a chymhellasant ef i ddechreu pregethu. Yn y Bala, ar y 9fed o Chwefror, 1796, y pregethodd y waith gyntaf. Yn 1797 aeth i athrofa Gwrecsam, yr hon oedd dan olygiaeth y Parch. Jenkin Lewis. Yn Mai 1801 derbyniodd alwad oddiwrth eglwys Annibynol Treffynon, Sir Fflint. Gwasanaethodd ei genhedlaeth yn hynod o ffyddlawn gyda phob peth yr ymaflodd ynddo. Bu yn foddion i godi amryw gapelau, sef Bagillt, 1903; Rhesycae, 1804; Heol Mostyn, 1826; a Phen—ypyllau, 1829. Bu yn ysgrifenydd i'r Gymdeithas Fiblaidd yn Sir Fflint am 18 mlynedd, i gangen Gwynedd o Gymdeithas Genhadol Caerludd am 9 mlynedd, ac i Undeb Cynulleidfaol Siroedd Fflint a Dinbych am 9 mlynedd. Yr oedd ei alluoedd corfforol a meddyliol bob amser ar eu llawn waith, a hwnw yn waith a rhyw amcan daionus yn perthyn iddo. Yr oedd ei bregethau yn syml, eglur, a llawn o efengyl, ac yn cael eu traddodi gyda theimladau gwresog ac ysbryd cynes iawn. Cyhoeddodd gasgliad o Hymnau at wasanaeth y cysegr ymhlith yr Annibynwyr, a chafodd dderbyniad helaeth. Nid ydym yn gwybod a gyhoeddodd ddim arall, er na fu neb yn fwy diwyd nag ef yn ysgrifenu ar wahanol achosion crefyddol. Bu farw Awst 25, 1831, trwy syrthio trwy lawrddrws (trap—door) yn Liverpool, a chladdwyd ef yn barchus yn Nhreffynon. (Hanes Ymneilldaaeth, gan Morgans, 578.)

JONES, EDWARD, neu "Bardd y Brenin," telynor enwog, a anwyd mewn ffermdy o'r enw Henblas, Llandderfel, yn Nghantref Penllyn, yn 1752. Yr oedd tipyn o'r awen yn ei dad; gallai chwareu amryw offerynau cerdd, a chyfansoddi hefyd. Dysgodd i ddau o'i feibion, Edward a Thomas, chwareu y delyn Gymreig, nab arall i chwareu y spinnet, ac arall y crwth, ac yntau ei hun a chwareuai ar yr organ. Tua 1774 aeth Edward i fyny i Lundain, o dan nawdd amryw fondddigion Cymreig. Ystyrid ef yn delynor campus, o herwydd ei allu i arddangos chwaeth, teimlad, a phwysleisiad priodol gyda'r offeryn. Cafodd gefnogaeth wresog, a bu yn rhoddi gwersi ar y delyn i liaws o foneddigesau uchelradd. Penodwyd ef yn delynor i Dywysog Cymru yn 1783, ond nid oedd y swydd hono ond un fygedol a di—dál. Yn 1784 cyhoeddodd ei lyfr tra gwerthfawr hwnw, "Musical and Poetical Relics of the Welsh Bards," yr hwn a ail argraffwyd, gydag ychwanegiad, 1794 Cyhoeddoedd hefyd lytr arall o'r un natur yn 1802, o dan titl, "Bardic Museum of Primitive British Literature." Y mae y rhai hyn yn llyfrau gwir werthfawr a dyddorol, ac yn cynwys sylwadau ar yr hen alawon Cymreig. Yn 1820 cyhoeddodd ran o gyfrol arall, eithr lluddiwyd ef i'w orphen gan afiechyd. Bu hefyd yn dra diwyd yn casglu hen lyfrau prinion, ac yr oedd ganddo ystorfa helaeth o'r cyfryw; ond gan ddyfod o hono yn analluog i ddilyn ei broffeswriaeth, a'i fod yn meddu ysbryd rhy annibynoli hysbysu ei gyfeillion o'i gyfyngder, efe a'u gwerthodd hwynt, a rhan fawr o'i lyfrgell, er mwyn cael arian at fyw. O'r diwedd daeth ei galedi yn hysbys i lywodraethwyr Cymdeithas Freninol y Cerddorion, y rhai yn ddioed a roddasant iddo swm o 50p. yn y flwyddyn, yn ddiarwybod iddo ei hun hyd oni dderbyniodd yr arian. Pa fodd bynag, ni chafodd ond byr amser i'w mwynhau, a bu farw yn Marylebone, Ebrill 18, 1824, yn 72 oed. Gwerthwyd, yn Chwefror 1825, ei lyfrau am 800p. Y mae y llyfrau a gyhoeddodd yn dystiolaeth i'w allu a'i athrylith.(Wms. Em. Welsh.)

JONES, Parch. JOHN, (Ioan Tegid) offeiriad, bardd swynol, a llenor gwiwglod, a anwyd Chwefror 10, 1792, yn y Bala, ar fin Llyn Tegid, oddiwrth yr hwn y cymerodd ei enw barddonol Ioan Tegid. Cafodd addysg dda yn ieuanc mewn rhifyddiaeth' &c. Yn 1812 aeth i Gaerfyrddin, i ysgol y Parch. D. Peter, i efrydu Groeg a Lladin. Yn 1813 aeth i ysgol y Parch. D. Price, yn yr un dref, lle y bu 18 mis. Yn 1814 aeth i goleg Iesu Rhydychain, pryd yr oedd D. Hughes, D.D., o Lanrwst, yn llywydd y coleg. Yn 1818 cafodd y radd o B.A., ac yn 1819 cafodd gaplaniaeth Eglwys Crist, Rhydychain, pryd yr urddwyd ef yn ddiacon ae offeiriad. Yn 1823 cafodd y swydd o brif gantor yn Eglwys Crist, pryd hefyd y cafodd guradaeth barhaus St. Thomas, yn yr un ddinas, lle y bu yn gweinidogaethu am 18 mlynedd gyda llwyddiant mawr. Yn Awst, 1841, penodwyd ef i ficeriaeth Nanhyfer, yn swydd Benfro; ac yn 1848 dyrchafodd esgob Ty, ddewi—Dr. Thirlwall—ef yn brepender yn ei brif eglwys. Ei athrawon barddodol oeddynt Robert Williams, neu Robert ab Gwilym, o'r Pandy, Trerhiwedog, Bardd Nantglyn, a Gwallter Mechain, &c. Yr oedd Tegid yn fardd o waed; yr oedd Rolant Huw, Rhys Jones, a Chaerfallwch, yn berthynasau agos iddo. Yr oedd yn llenor twymgalon, ac yn bleidiol iawn i'r Eisteddfod, &c., tra y bu byw. "Ystyrid ef yn oracl ar ddyrys bynciau y gynghanedd, ond ychydig o ergydion awen rywiog ac ehedlym a welir yn ei waith yn y mesurau hyny, tra y mae ei ganeuon byrion yn felus odiaeth, yn enwedig Ymweliad y bardd' a'r 'Ferch o'r Ddol.' Bydd y flaenaf yn fyw tra yr acenir y Gymraeg." Dywedir ei fod yn feirniad manylgraff a choeth, ac iddo lenwi y swydd yn anrhydeddus bob amser. Ceisiwn roddi crynodeb o'i lafur awdwrol:—1, "Traethawd ar gadwedigaeth yr Iaith Gymraeg,"1820; 2, "Traethawd ar iawn lythreniad yr Iaith Gym.raeg," 1830; 3, "A defence of the Reformed System of Welsh Orthography," 1829; 4, "A reply to the Rev. W. B. Knight's Remarks on Welsh Orthography," 1831; 5, "The book of the prophet Isaiah: translated form the Hebrew Text of Vander Hooght," 1880. Cyfieithiod 1 Esaiah hefyd i'r iaith Gymraeg, ond y mae y gwaith hwnw yn aros hyd yn hyn mewn llawysgrifen. 6, "Cyfieithiad o adroddiadau dirprwyaduron ymholiad i gyflwr addysgiad yn Nghymru," 1848; 7, "Gwaith Barddonawl Tegid," 1859; 8, "Golygu gwaith Lewis Glyn Cothi," 1839; 9, "Golygu argraffiad o'r Testament Cymraeg," Rhydychain, 1828., Y mae Iliaws o erthyglau hefyd o'i eiddo yn yr Haul a Seren Gomer. &c. Bu farw yn Mhersondy Nanhyfer, Mai 2, 1852, yn 61 oed, Pan glybu Dr. Thirlwall, esgob Tyddewi, am ei farwolaeth dywedai, "I cannot sufficiently express the concern I feel, whether I consider the qualities of his heart or of his head, his private worth, his usefulness in the Church, or his literary undertakings." —(Ei fywgraffiad yn Ngwaith Barddonawl Tegid; Geir. Byw., Liverpool; Geir. Byw., Aberdâr; Y Gwyddioniadur.)

JONES, Parch. LEWIS, gweinidog gyda'r Methodistiad Calfinaidd yn y Bala. Ganwyd ef yn Melin Cae'r Berllan, Llanfihangel-y-Penant, yn Nghantref Meirionydd, yn 1807. Cafodd ychydig ysgol gyda Lewis Williams, Llanfachreth. Daeth i'r Bala fel llyfr—rwymydd, ac yno y dechreuodd bregethu; a bu am ysbaid wedi hyny yn ysgol Gwrecsam, dan addysg Mr. John Hughes (wedi hyny o Liverpool). Neillduwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn Nghymdeithasfa y Bala yn 1838. Yr oedd yn ŵr o feddwl craff ac yn ysgrifenydd medrus. Er nad oedd yn hòni ei hun yn fardd, cyfansoddodd rai caniadau gwerth eu cadw. Cyhoeddwyd rhai o'i bregethau yn llyfrynau bychain, ac yn rhai o gyfrolau y Pregethwr. Ysgrifenodd amryw erthyglau rhagorol i'r Traethodydd, megis yr "Adolygiad ar Athroniaeth Trefn Ischawdwriaeth;" a chyfoethogwyd dalenau y Geiniogwerth a'r Methodist â chynyrchion ei ddoniau destlus, ac efe oedd prif, os nad unig olygydd y cyhoeddiad blaenaf. Efe oedd awdwr "Cofiant y Parch. Richard Jones o'r Bala," a chyfieithydd "Oriau olaf Iesu Grist," a gadawodd lawer o bregethau, &c., ar ol mewn llawysgrifen. Bu farw yn 1854.—(Geir. Byw. Lerpwl; Geir. Byw. Aberdar, a'r Gwyddionadur.)

JONES, LEWIS, bardd o Lanuwchlyn, yn Nghantref Penllyn. Trigai yn y Pandy, o fewn y plwyf hwnw, yn 1703. Y mae dwy gân o'i waith yn y Blodeugerdd, sef "Ymddiddan rhwng y cybydd a'r trugarog," a "Cyngor i'r Gofo Rhosygwaliau i beidio a meddwi."—(G. Lleyn.)

JONES, Parch. MICHAEL, athraw coleg yr Annibynwyr yn y Bala. Er nad oedd Mr. Jones yn enedigol o Swydd Feirion, eto fel y Parch. Michael Jones o'r Bala yr oedd ac y mae yn adnabyddus. Mab ydoedd i Daniel a Mary Jones, o'r Aipht, ger Neuaddlwyd, Sir Aberteifi, lle y ganwyd ef yn 1785 Yn 1807, daeth aelod o'r eglwys oedd dan ofal Dr Phillips, yn y Neuaddlwyd. Yn fuan dechreuodd bregethu. Aeth i'r ysgol at y Parch. D. Davies, Castellhywel. Yn 1810, aeth i athrofa'yn Ngwrecsam, o dan ofal Dr. Jenkin Lewis, lle y bu am ddwy flynedd, a dwy flynedd arall o dan Dr. George Lewis. Yn Hydref, 1814, dewiswyd ef yn olynydd i'r Dr. G. Lewis fel gweinidog yr hen eglwys Annibynol yn Llanuwchlyn. Pan symudodd y coleg Annibynol o'r Dref Newydd i Aberhonddu, barnwyd fod diffyg yn y Gogledd am sefydliad i roi addysg i rai a fwriadent fod yn weinidogion. Penderfynwyd ar Lanuwchllyn fel lle cyfaddas, a Mr. Jones fel athraw. Yn 1841, symudodd i'r Bala, lle y mae yr athrofa wedi aros eto. Am ei gymeriad, yr oedd yn ŵr o feddwl penderfynol —yn feirniad craffus ar bob peth a ddarllenai ac a glywai—yn ysgrythyrwr hyddysg, manwl, a difrifol yn nghyflawniad ei ddyledswyddau teuluaidd. Yr oedd yn bregethwr dealltwriaethol, ac nid tymherog. Er ei fod yn anystwyth ei ymadrodd, yr oedd yn arbenigol adeiladol. Yr oedd ei bregethau yn wir efengylaidd, ac o dueddiad ymarferol. Yr oedd yn godwr boreu, yn efrydwr caled, yn ddirwestwr cyson, yn ddiysgog mewn bwriad a gweithrediad, ac yn dduwiolfrydig yn ei ymlyniad parhaol hyd angau. Nid oedd odid i gelfyddyd nad oedd ganddo ef lawer o wybodaeth yn ei chylch. Yr oedd yn hanesydd gwladol ac eglwysig cyfarwydd yn ieithydd da, yn seryddwr gwych, ac yn cael mawr hyfrydwch mewn daeareg yn ei flynyddau olaf. Yn 1816, priododd Mr. Jones gyda Mary Hughes, o Gwmcarnedd, Llanbrynmair. Bu farw Hydref 27, 1853, yn 68 oed. Mab iddo ydyw y Parch. M. D. Jones, llywydd presenol yr athrofa.—(Geir. Byw. Lerpwl, Geir. Byw. Aberdar.)

JONES, Parch. RICHARD, Gweinidog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn y Bala. Ganwyd ef mewn lle o'r enw Tafarnytrip, yn mhlwyf Ffestiniog, yn Nghwmwd Ardudwy, Hydref 17, 1784. Yn haf, 1790, anfonodd Mr. Charles, o'r Bala, ŵr i gadw un o'i ysgolion rhad symudol Cymreig, yn mhlwyf Maentwrog, lle yr addysgwyd R. Jones ar y cyntaf, a thrwy hyn a'r ychydig addysg Seisnig a gafodd yn Ysgol Genedlaethol Maentwrog, galluogwyd ef wedi tyfu i fynu i gymeryd gofal un o ysgolion Mr. Charles ei hun, yn Trerhiwaedog, ac yn y Parc, ger y Bala; ac yn Trawsfynydd. Yn 1815, dechreuodd bregethu, a thraddododd ei bregeth gyntaf yn nghapel Cwmprysor, Trawsfynydd. Neillduwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn Nghymdeithasfa y Bala, yn 1825. Yr oedd yn ddyn o synwyr, deall, a dawn naturiol, tu hwnt i'r cyffredin. Yr oedd ei arabedd yn ddiarebol. Cyhoeddwyd Hanes ei Fywyd, yr hwn a ysgrifenasid ganddo ef ei hun, gyda sylwadau ychwanegol arno, a sylwedd tair o'i bregethau, gan y Parch. Lewis Jones, Bala, yn 1841. Bu farw yn y Bala, Ebrill 17, 1840, yn 55 oed.—(Ei Gofiant.)

JONES, Parch. RICHARD, Gweinidog gyda'r Annibynwyr yn Rhuthyn. Ganwyd ef yn y Bala, Hydref 26. 1813; ei rieni John a Jane Jones, oeddynt yn trigo yn y Bala ar y pryd, ond a symudasant i'r Wyddgrug wedi hyny. Pan yn bur ieuanc, ymunodd a'r eglwys Annibynol yn y Bala, yr hon oedd tan ofal y Parch. Michael Jones. Dywedir ei fod yn ddarllenwr mawr er yn ieuanc. Yn 1830, pan yn 17 oed, bu yn offeryn i sefydlu "Cymdeithas Araethyddol yr Ieuenctyd ar faterion Crefyddol," ymha un y daeth ei ragoriaethau ef a phump eraill i'r golwg, a chodwyd hwy i'r pwlpud. Ymhen ysbaid wedi iddo ddechreu pregethu, aeth i goleg y Drefnewydd, lle y bu am ddwy flynedd, pryd y derbyniodd alwad oddiwrth Eglwys Aberhosan, ger Machynlleth, lle yr urddwyd ef Ebrill 4, 1837. Dywedir ei fod yn bregethwr ieuanc hynod o boblogaidd, a bod cynydd mawr wedi bod ar yr achos yn y lle yn yr ysbaid byr y bu 66 yno. Yr oedd ei bregethau bob amser yn wir ddefnyddiol; yn goleuo y deall, yn deffro y gydwybod, yn enill y serch, ac yn gafaelyd yn y galon." Bu farw yn nhŷ ei fam yn y Wyddgrug, Hydref 26, 1841, yn 28 oed. Traddododd y Parch. W. Rees, (Gwilym Hiraethog), ei bregeth angladdol, oddiar,—"Efe oedd ganwyll yn llosgi ac yn goleuo," &c. Ysgrifenodd y Parch. H. Pugh, Mostyn, gofiant iddo, a chyhoeddwyd ef ynghydag ugain o'i bregethau, Dolgellau, 1843. (Ei Gofiant; Geir. Byw. Aberdar; Geir. Byw. Lerpwl.)

JONES, Parch. WILLIAM, Gweinidog yr Annibynwyr yn Mhenybont-ar-ogwy, Morganwg, a anwyd yn y Bala, yn Nghantref Penllyn, yn 1784. Yr oedd ei rieni yn aelodau gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, a chafodd yntau yr addysg grefyddol oreu o'i febyd. Pan tuag 16 oed, digwyddodd fyned i wrando y Dr. Phillips, Neuaddlwyd, yn pregethu yn nghapel yr Annibynwyr yn y Bala, a chafodd y bregeth hono y fath argraff arno fel y penderfynodd nad arosai nemawr hwy oddiallan i'r eglwys, ac y bwriai ei goelbren i blith yr Annibynwyr. Ymhen tua blwyddyn dechreuodd bregethu, a bu am ysbaid yn cadw ysgol yn Mhentre-llyn-y-cymer. Yn 1806, aeth i athrofa Annibynol Gwrecsam, tan yr athraw Dr. Jenkin Lewis, lle y bu hyd 1810. Yn 1810, cafodd alwad gan eglwysi Penybont-ar-ogwy a Brynymenyn, ac urddwyd ef yn y gwanwyn canlynol. Yn 1814, priododd Mary Truberville, o'r hon y cafodd ddeg oblant. Yn 1836, bu Mrs. Jones farw, a phriododd yntau yr ail waith un Mrs. Howells, gweddw barchus a chrefyddol o ardal Maendy. Nid oedd ei lwyddiant gweinidogaethol yn gyfartal o lawer i'w alluoedd pregethwrol, os caniateir mai meddyliau cryfion a threiddgar yn dadlenu cyfrinion Gair Duw mewn dull byfedra meistrolgar, a'r fuchedd yn cael ei harddweddu gan ragoriaethau penaf y grefydd Gristionogol, ydynt brif'anhebgorion y cyfryw swydd. Yr oedd ei bregethau yn wir sylweddol, ac yn ffrwyth efrydiaeth gyson a chaled. Cyhoeddwyd ei "Eiriadur Duwinyddol," mewn dwy gyfrol, yn Merthyr a'r Bontfaen, 1837 —1839.—2. Saith o bregethau ar Ioan iii. 14—21," Abertawe, 1829—3. "Pregeth ar Briodol Dduwdod ein Harglwydd Iesu Grist," Abertawe, 1832—4. " Diaconia, neu swydd Diaconiaid," Llanelli, 1836. Cyfieithodd hefyd "Feibl Teuluaidd" Morrison i'r Gymraeg; a bu yn olygydd y "Drysorfa Gynulleidfaol," cyhyd ag y dygwyd hono allan yn Abertawe. Ysgrifenodd luaws o erthyglau campus i'r Diwygiwr, a chyhoeddiadau eraill y dydd; a darfu i'w olynydd yn Mhenybont, y Parch. J. D. Williams, gyhoeddi cyfrol fechan o'i bregethau, y rhai, fel y gweddill o'i waith, sydd yn arddangos meddwl o radd uchel. Bu farw Mehefin 5, 1847.—(Geir. Byw. Lerpwl.)

JONES, Parch. JOHN, Llangower, yn Nghantref Penllyn; yr hwn wedi hyny a fu yn byw yn Ngwrecsam. Ganwyd ef yn 1797. Daeth at grefydd yn 17 oed; a dechreuodd bregethu pan yn 21 oed. Ond ni ddywedir gyda phwy enwad, gallwn dybied oddiwrth hyd ei gofiant yn Ngeiriadur Bywgraffyddol, Aberdar, mai gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Dywedir ei fod o ran ei grefydd a'i dduwioldeb cyffredinol, yn ddiargyhoedd, syml, a sobr; ac yn un oedd yn wir ymdrechol a chydag egni gyda phob achos da, ac a fyddai o lesiant cyffredinol; ac am hyny gellid ei restru, er byrcd ei oes, ymhlith enwogion Swydd Feirion. Bu farw yn agos i Bontcysylltau, ger Llangollen, yn Gorphenaf 28, 1826, yn 29 oed.—(Geir. Byw. Aberdar.)

LEWIS, Parch. GEORGE, D.D., gweinidog enwog ymhlith yr Annibynwyr, a duweinydd ac awdwr enwog. Proselyt i Swydd Feirion oedd Dr. Lewis; ond bu yn Llanuwchlyn am ddeunaw mlynedd, fel y daeth i'w adnabod fel Dr. Lewis, Llanuwchlyn; ac fel y cyfryw yr adwaenir ef o hyn allan. Ganwyd ef yn y Coed, ger Caerfyrddin, yn 1763. Unig blentyn oedd i bobl fucheddol a pharchus—William a Rachel Lewis. Yr oedd ei fam yn proffesu yn yr Eglwys Wladol; ac nid oedd ei dad yn proffesu crefydd o gwbl. Felly yn yr hen Fam Eglwys y cychwynodd Dr. Lewis ei yrfa. Aeth i ysgol ar y cyntaf at y Parch. John Pritchard, offeiriad Trelech; wedi hyny at y Parch. Thomas Evans, Llanddowror; ac wedi hyny at y Parch. Owen Davies, gweinidog yr Annibynwyr yn Trelech; ac yn ddiweddaf at y Parch. John Griffiths, Glandwr, Swydd Benfro. Derbyniwyd ef yn gyflawn aelod gyda'r Annibynwyr, tua'r flwyddyn 1779 neu 1780, pan oedd o 16 i 17 oed. Yr oedd Dr. Lewis yn ŵr bucheddol, darllengar, ac yn gwybod yr Ysgrythyr Lân er yn fachgen. Ni bu yn hir wedi ei dderbyn heb ddechreu pregethu, ac er parotoi ei hun i'r Athrofa, aeth i ysgol drachefn at Mr. Davies, i Thalic, wedi hyny o Gastell Howel; ac oddiyno i Athrofa Caerfyrddin. Yn 1784, aeth am daith trwy'r Gogledd, a chafodd alwad oddiwrth yr ychydig frodyr Annibynol oedd yn Nghaernarfon; a chafodd ei urddo yn weinidog yno yn yr un flwyddyn, lle y bu yn llafurus a llwyddianus gyda phregethu ac adeiladu capelau yn Nghaernarfon a'r cymydogaethau, hyd y flwyddyn 1794. Yr oedd efe yn cadw ysgol ddyddiol hefyd yn Nghaernarfon. Pan yn Nghaernarfon, priododd y Dr., Miss Jones, ail ferch T. Jones, Ysw. Bodeiriad, o'r hon y cafodd dri o blant—dau fab ac un ferch. Yn 1794, derbyniodd alwad yr hen eglwys Llanuwchlyn, lle y bu yn llafurus a llwyddianus am 18 mlynedd. Yn Ionawr, 1812, symudodd i Wrecsam i gymeryd gofal yr athrofa, yn lle Dr. Jenkin Lewis, yr hwn oedd wedi derbyn galwad i fod yn athraw coleg newydd Manchester. Yr oedd eglwys Annibynol Wrecsam hefyd wedi rhoddi galwad i'r Dr. Lewis i'w bugeilio, Yn 1816, symudwyd yr athrofa o Wrecsam i Lanfyllin, er mwyn iechyd y Dr., yr hwn oedd yn dechreu gwaethygu. Yn raddol gwaethygodd ei iechyd eto yn Llanfyllin, ac yn 1821, symudwyd yr athrofa ac yntau i'r Drefnewydd, Sir Drefaldwyn, lle y preswyliai mab i'r Dr. fel meddyg. Fe welir yn eglur oddiwrth y symudiadau hyn, mor weithfawr oedd Dr. Lewis fel athraw coleg! Ond er pob symudiad, bu farw, Mehefin 5, 1822, yn 59 oed. "Yr oedd efe yn hynod hoff o bobl ac ardal Llanuwchlyn. Yma yr oedd efe wedi magu mwyaf ar ei blant—yma yr oedd efe wedi ei eni ei hun fel awdwr y cyfrolau a geidw ei enw tra byddo byw llenyddiaeth grefyddol gan y genedl yn ei hiaith—yma yr oedd efe wedi treulio y blynyddoedd mwyaf dedwydd o'i oes, ac yma yr oedd efe wedi penderfynu diweddu ei ddyddiau." Rhestr o'i weithiau:—1. "Drych Ysgrythyrol, neu Gorph o Dduwinyddiaeth," 1797; tua'r flwyddyn 1802, dechreuodd ei "Esboniad" rhagorol ar y "Testament Newydd" ddyfod allan, yr hwn a orphenwyd mewn saith cyfrol wythblyg. Yr ydym yn meiddio dywedyd ei fod yn warth ar ein cenedl fod y gweithiau hyn mor ddialwad am danynt; meiddiwn ddywedyd hefyd eu bod yn ein meddiant, ac na welsom eto, ar y cyfan, yn y Gymraeg, na Saesneg, Gorph o Dduwinyddiaeth ac Esboniad yn rhagori arnynt. Bydded i ni werthfawrogi y Doctoriaid Cymreig, pheidio haner addoli Doctoriaid Germanaidd, &c. Cyhoeddodd y Dr. amryw lyfrynau eraill :— Cyfiawnhad Pechadur trwy ffydd;" "Gorfoledd Crist ar ddeheulaw y Tad;" "Dyledswydd pawb i gredu yn Nghrist;" "Henuriaid ymhob Eglwys;" "Galwad gyffredinol yr Efengyl yn gyson âg etholedigaeth Gras;" "Holwyddoreg athrawiaethol ac ymarferol;" "Arweinydd yr Anwybodus;" "Anerchiad ymadawol i eglwys a chynulleidfa Llanuwchlyn." Dywed Dr. Williams, o Rotherham, yn ei "Christian Preacher," am "Gorph Duwinyddiaeth" Dr. Lewis fel y canlyn:—"Lewis's Drych Ysgrythyrol, may be here noticed as a valuable body of divinity, and the only one of the kind composed in the British language, and is well calculated to promote the knowledge of undefiled religion." Fel y canlyn hefyd y dywed Dr. Edwards, o'r Bala, am dano, yn ei "Draethawd ar Hanes Duwinyddiaeth" yr hwn sydd ynglyn a'r argraffiad diweddaf o "Gorph Duwinyddiaeth" Dr. Lewis:—" Ond, feallai, y byddai yn anhawdd cael gwell cynllun heb un drychfeddwl llywodraethol, na'r un a ddilynwyd gan Dr. Lewis," &c.; hyn a ddywed am ei gynllun. Dywed hefyd yn mhellach wrth sylwi ar "Effaith y Diwygiad Methodistaidd ar dduwinyddiaeth yn Nghymru":— "Y mae yn amlwg fod Dr. Lewis yn ddyn o feddwl cryf, ei fod wedi darllen llawer ar weithiau y Puritaniaid, ei fod yn deall yr hyn oedd yn ei ddarllen. Y mae wedi ffurfio ei dduwinyddiaeth ar gynllun yr awdwyr goreu, ac wedi ymgadw yn well na llawer yn yr oes o'i flaen oddiwrth bob golygiadau eithafol," &c. Yr ydym yn ystyried fod y tystiolaethau uchod oddiwrth y ddau ddyn mawr yma, yn fwy o deyrnged i Dr. Lewis na phe yr ysgrifenem ni gyfrol o'i hanes!!

LLOYD, EDWARD, A.C. Bu yn gweinidogaethu yn Llangower, yr hwn le sydd ar lan Llyn Tegid, ger y Bala, ddeugain mlynedd, o'r hwn le y cafodd ei ddeoli yn amser Cromwel, a bu y lle yn wag am hir amser, a bu farw yntau yn 1685. Ei fab ef oedd yr Esgob W. Lloyd, yr hwn y gwelir ei hanes yn fyr yn y traethawd hwn:—Walker's Sufferings of the Clergy, tudal 248. Cyfieithodd y Parch. Edward Lloyd ddau o lyfrau o waith Dr. Simon Patrick, esgob Ely:—1. "Egwyddor i rai ieuainc i'w cymhwyso i dderbyn y cymun sanctaidd yn fuddiol," Llundain, 1682, 12 plyg. 2." Męddyginiaeth a chysur i'r dyn helbulus, clafychus, a thrallodus ar ei glaf wely, a gasglwyd allan o'r ysgrythyrau sanctaidd, ac hefyd o ystoriau ac athrawiaethau yr hen dadau, a rhesymau y philosophyddion a gwŷr doethion a dysgedig eraill o'r cynfyd, ac a osodwyd allan trwy lafur Edward Lloyd, A.C., a gweinidog yr efengyl yn Llangower, yn Sir Feirion, er lleshad i'w braidd y mae yn fugail arnynt, ac yn oruchwyliwr i gyfranu iddynt .eu bwyd yn ei bryd, sef yw hyny, 'didwyll laeth y gair,' 1 Pedr ii. 2; ac ar ol hyny, er budd i'r Cymry oll," Amwythig, 1722.

LLOYD, Parch. EVAN, bardd Seisnig o radd uchel, a hanai o deulu hybarch y Brynhir, Trawsfynydd. Ail fab ydoedd i John Lloyd, Ysw., o Frondderw, ger y Bala, lle y ganwyd ef yn 1734. Cafodd ei addysg yn y Trinity Hall, Caergrawnt, o dan ofal y Parch. Thomas Hughes, LL.B. Dangosodd yn gynar fod ganddo feddwl galluog, a cheid prawf yn nghynyrchion cynaraf ei athrylith fod gwawd a duchan yn gyneddf gref ynddo. Wedi gadael Caergrawnt, aeth i Goleg yr Iesu, Rhydychain, lle yr etholwyd ef yn ysgolor yn 1755, ac y cymerodd y radd o M.A. Bu am beth amser yn gwasanaethu eglwys yn Llundain, ac ar ol hyny rhoddwyd iddo ficeriaeth Llanfair-Dyffryn-Clwyd, Sir Ddinbych. Cyhoeddwyd y pryddestau canlynol o'i waith:—1, "The Powers of the Pen; yr hon a gyhoeddwyd yn 1765, ac a adgyhoeddwyd yn 1768; 2, "The Curate; " 3. "The Methodist," y ddwy hyn yn 1766; 4, "The Conversation," 1767; 5, "Epistle to David Garrick." Yr oedd yn cydoesi â Churchill, Garrick, Wilkes, Colman, ac ar delerau tra chyfeillgar â hwynt, ac â phrif lenorion eraill ei oes. Bu farw Ionawr, 1776, yn 42 oed, a chladdwyd ef yn meddrod y teulu, yn Eglwys Llanycil, lle y mae gwyddfa o farmor gwyn i'w goffadwriaeth, a llinellau Seisnig o waith ei gyfaill Wilkes yn gerfiedig .arno.

LLOYD, Parch. WILLIAM, D.D., ydoedd fab i'r Parch. Edward Llwyd. Yr oedd yn beriglor Llangower, rhwng 1645 a 1685. Addysgwyd ef yn Ngholeg St. Ioan, Caergrawnt, ac ar ol ei urddo cafodd amryw ddyrchafiadau eglwysig, a'i benodi yn gaplan i Siarl II. Yn Ebrill, 1676, cysegrwyd ef yn esgob Llandaf; a dyrchafwyd ef oddiyno i Peterborough yn Mawrth, 1679; ac oddiyno i Norwich yn Mehefin, 1685. Bwriwyd ef allan o'r esgobaeth hon yn 1691, am wrthod cymeryd llw o ffyddlondeb i William a Mary, ac ymneillduodd i Hammersmith, ger Llundain, lle y bu yn trigianu am ugain mlynedd. Bu farw yn 1710, ac yn ol ei ddymuniad claddwyd ef yn nghlochdy eglwys y lle hwnw.

LLOYD, Parch. SIMON, B.A., o'r Bala, oedd yn hanu o deulu hynafol a pharchus yn Meirion, ac a anwyd yn 1756. Derbyniodd ei addysg athrofaol yn Ngholeg yr Iesu, Rhydychain, lle y graddiwyd ef yn B.A.; ac wedi ei urddo bu yn llanw swydd curad mewn amryw fanau yn Ngogledd Cymru. Yr oedd yn gyfaill calonog i Mr. Charles o'r Bala, a diau ei fod yn cydsynio âg ef ar bynciau eglwysig o'r dechreuad. Bu am beth amser yn gurad Bryneglwys-yn-Ial, Sir Ddinbych; a dywed Methodistiaeth Cymru mai tra yn y lle hwnw y dygwyd cwyn ger bron yr esgob ei fod yn gogwydd at Fethodistiaeth, ac yr ataliwyd ef rhag pregethu. Tra y dywed yr Em. Welshmen, fod Syr Watkin W. Wynn wedi ei benodi i guradiaeth barhaol Llanuwchlyn, ac i'r esgob Horsley omedd cadarnhau y penodiad, trwy yr hyn y gorfodwyd ef i roddi y lle i fyny. Gan ei fod yn berchen cyfoeth ni chynygiodd am un apwyntiad arall, ond ymunodd â'r Trefnyddion Calfinaidd, a daeth yn bregethwr yn eu plith. Y pryd hwnw nid oedd yr enwad Methodistaidd wedi dechreu ordeinio gweinidogion o'u plith eu hunain, ac yr oedd Mr. Lloyd, pe ond o ran hyny yn unig, yn aelod tra gwerthfawr i'r Cyfundeb. Nid oes lle i gasglu ei fod yn bregethwr poblogaidd, ond yr oedd yn ysgolhaig da, a gwnaeth ddefnydd rhagorol o'i fanteision. Bu farw yn y Bala, Tachwedd 6, 1836, a chladdwyd ef yn meddrod y teulu, yn Eglwys Llanycil. Cyhoeddwyd ei lyfr rhagorol, Amseryddiaeth Ysgrythyrol yn 1816, yr hwn ydoedd yn ffrwyth ei efrydiaeth ddyfal am 30 mlynedd; a daeth ail argraffiad allan o hono, ac y mae trydydd argraffiad o hono yn dyfod allan yn awr gyda rhyw ychwanegiad gan Dr. Edwards, Bala. Ysgrifenodd hefyd Esboniad ar Lyfr y Datguddiad, yr hwn a gyhoeddwyd yn 1828, ac a ail argraffwyd wedi hyny. Bu hefyd ar ol marwolaeth Mr. Charles yn golygu y Drysorfa am ddwy flynedd.—(Geir. Byw. Lerpwl, Geir. Byw'. Aberdar.)

LLYWARCH HEN, yr enwocaf o'r cynfeirdd. Dywed Cynddelw yn Gorchestion Beirdd Cymru:—Llywarch Hen, gan belled ag y gallaf fi farnu, yw y mwyaf ei athrylith o'r cynfeirdd o ddigon. Ymha le bynag y ganed ac y maged Llywarch Hen, ymddengys, o'r hyn lleiaf, ei fod o waed Meirionaidd; oblegid fe ddywedir fod perthynasau iddo yn byw tua Llanfor, ger y Bala, gan fod Mor, sant gwarcheidiol y lle hwnw, yn frawd i'w hen daid, Gwrwst Ledlwm. Yno y gorphenodd ei oes faith, tua'r flwyddyn 646, yn 150 oed; ac yn Llanfor y claddwyd ef'; a dywedai Dr. Davies, o Fallwyd, fod careg yn y mur yn dynodi ei · orweddle. Y mae y man y trigai yn cael ei ddangos eto, tan yr enw "Pabell Llywarch Hen." Hefyd y mae ei enw yn "Achau teulu Rhiwaedog, a Phlas-yn-dref, Bala," gan G. Lleyn, lle y dywed yr hynaflaethydd gwych hwnw :—"Rhiwaedog, yn hytrach Rhiwwaedog, sydd yn mhlwyf Llandderfel, ger y Bala, yn Sir Feiriónydd. Gelwir y lle felly oddiwrth ymladdfa waedlyd a gymerodd le yno rhwng Llywarch Hen a'r Sacsoniaid, yn yr hon y collodd Cynddelw, yr olaf o'i feibion." Yr oedd Llywarch Hen yn enwog fel milwr yn gystal ag fel bardd. Elidir Lydanyn oedd ei dad, a Gwawr, ferch Brychan Brycheiniog, sant enwocaf yr oes, oedd ei fam. Yr oedd Urien Rheged yn gefnder iddo o du tad a mam, canys yr oedd Elidir a Chynfarch wedi priodi dwy o ferched Brychan, sef Gwawr a Nefyn. Tywysog ar y Brythoniaid Gogleddol, a breswylient Is-coed Celyddon, oedd ei dad; a rhan trefdadol Llywarch oedd Argoed, yn Sir Cumberland. Bu Llywarch Hen am ryw ysbaid yn llys Arthur; gelwir ef yn y Trioedd yn "Un o dri chynghoriaid farchawg llys Arthur," ac yn "Un o dri thrwyddedog llys Arthur." Yr oedd iddo 24 o feibion, a phob un yn amdorchog; ond goroesodd hwynt oll, a syrthiasant yn ebyrth ar allor waedlyd yr oes ryfelgar hono. Cwympodd tri yn mrwydr Catraeth, a dynoda yr hen fardd yn hynod o alarus y man y syrthiodd y gweddill. Cyhoeddwyd 12 o'i gyfansoddiadau yn Myv. Arch., ac yn 1792, cyhoeddwyd hwynt ar wahan, ynghyd a chyfieithiad i'r Saesneg gan, Dr. W. O. Pughe. mae "Englynion Eiry Mynydd" o'i waith yn Gorchestion Beirdd Cymru, t.d., 35. Hefyd y mae pump o "Englynion Diarebol," o'i waith yn Golud yr Oes, cyf. I., 356.

"Gnawd gwynt o'r deheu, gnawd adneu—yn llan ;
Gnawd gwr gwan gordeneu,
Gwan i ddyn ofyn chwedleu."

"Gnawd gwynt o'r dwyrain: gnwad dyn bronrain—balch;
Gnawd mwyalch yn mhlith drain;
Gnawd rhag traha tra llefain,
Gnawd yn ngwig gael cig i frain."

"Gnawd gwynt o'r gogledd; gnawd rhianedd—chweg;
Gnawd gwr teg yn Ngwynedd;
Gnawd I deyrn arlwy gwledd;
Gnawd gwedi llyn lledfrydedd."

"Gnawd o'r mor, gnawd dygfor—llanw;
Gnawd i fanw fagu hor;
Gnawd i foch turiaw cylor."

"Gnawd gwynt o'r mynydd; gnawd merydd—yn mro;
Gnawd gael tô yn Ngweunydd:
Gnawd dail, a gwyail, a gwŷdd."


MOSES, Parch. EVAN, Bala, un o hen bregethwyr y Trefnyddion Calfinaidd yn y dref hono. Gôf wrth ei alwedigaeth. Tua'r flwyddyn 1744, dechreuodd bregethu. Yr oedd yn un o ysbryd effro a gweithgar iawn gyda chrefydd. Ei dduwioldeb oedd amlwg, a pharhaodd yn ffyddlawn yn ngwasanaeth ei Arglwydd hyd derfyn ei oes. Yr oedd Evan Moses yn fardd hefyd; fe ddywedir y byddai ei bin, ei inc, a'i bapyr yn ei ymyl bob amser yn yr efail, i ysgrifenu hymnau a gyfansoddai wrth guro ar yr haiarn; neu rywbeth arall a ddeuai i'w feddwl. Trwy fod yr erledigaeth yn boeth y pryd hyny, cyhoeddodd yntau y pregethai am bump yn y boreu tra byddai byw. A safodd ef at hyny, ond byddai ei wrandawyr yn hynod anaml yn fynych. Elai o amgylch i alw ei wrandawyr o'u gwelyau, gan ddywedyd, "Codwch, frodyr, at yr Arglwydd, a pheidiwch gwrando ar y cnawd." Yr oedd yn un o'r rhai ffyddlonaf yn ngwaith ei Arglwydd, er cymaint o wrthwynebiadau a gafodd. Ond ni ddiffygiodd nes gorphen ei yrfa, yr hyn a wnaeth gyda llawenydd a chysur mawr.

MOSES, Parch. SION, ydoedd frawd i'r crybwylledig Evan Moses, ac yn bregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn y Bala. Yr oedd o ymadrodd llithrig a chymeradwy, a pharhaodd i lafurio dros amryw flynyddau. Yn y rhan olaf o'i ddyddiau, yr oedd arogl peraidd ar ei eiriau a'i ymarweddiad. Dywedir iddo ef ac un arall sefyll yn wrol o blaid Howel Harris, pan ymosodwyd arno yn greulon gan yr erlidwyr, ac ymdrechent ei achub o'u dwylaw. Bernir y buasent wedi ei ladd oni buasai i'r gwŷr hyn osod eu hunain mewn enbydrwydd er achub ei fywyd. Daliwyd ef a'i fam am gadw Howel Harris yn eu tŷ; a daliwyd dau eraill am wrando arno. Rhwymwyd y rhai hyn i ateb y brawdlys canlynol. Gorfu i'w fam dalu ugain swllt am dderbyn pregethu i'w thŷ; Yr oedd a'r tri eraill bum' swllt yr un am wrando arno! Sion Moses wedi dechreu pregethu tua'r un amser a'i frawd. (Y mae llawer o hanesion dyddorol ac adeiladol am yr hen frodyr hyn ac eraill yn Meth. Cym. gan y Parch. John Hughes).

OWEN, Parch. THOMAS, pregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn y Wyddgrug. Mab ydoedd i Richard Owen, o'r Bala, lle y ganwyd ef yn 1781. Cafodd ei fagu yn grefyddol. Crydd oedd wrth ei alwedigaeth, nes i Mr. Charles wneyd sylw o hono a'i anog i fyned i gadw un o'i ysgolion cylchynol, yr hyn a wnaeth am chwech neu saith mlynedd. Yn 1802, dechreuodd bregethu, a thraddododd ei bregeth gyntaf yn nhŷ hen chwaer o'r enw Sian Llwyd, yn Llanfor. Ymhen rhyw ysbaid wedi dechreu pregethu, symudodd i Dregeiriog; ac yn y lle hwn; priododd Mary, merch Thomas Hughes, amaethwr cyfrifol yn yr ardal hono; o'r hon y cafodd saith o blant. Yn 1807, symudodd i Adwy'r Clawdd, ger Wrecsam, lle y trigianai am 30 o flynyddau. Bu farw ei wraig, ac yn 1822, priododd eilwaith â Margaret, merch John Roberts, garddwr, Bala. Yn 1837, symudodd ef a'i deulu o Adwy'r Clawdd i Wernymynydd, ger y Wyddgrug; symudodd o Wernymynydd i dŷ perthynol i gapel y Wyddgrug, lle y trigodd hyd ei farw. Yr oedd yn bregethwr sylweddol ac Ysgrythyrol. Yr oedd yn ddarllenwr mawr. Ei hoff lyfrau oeddynt, Geiriadur Charles, Ysgrifeniadau Dr. Owen, ac Esboniad Trapp. Yr oedd o ran gwybodaeth, tuedd a pharodrwydd duwinyddol, yn addasach i gael ei alw yn D.D., na llawer un a raddiwyd â'r gradd hwnw." Bu farw Rhagfyr 8fed, 1851, yn 71 mlwydd oed.

PARRY, Parch. JOHN, gweinidog yr Annibynwyr yn Gomer, yn Sir Allen, Ohio, America. Ganwyd ef mewn amaethdy, o'r enw Penycefn, plwyf Llanfor, yn Penllyn, Mawrth 12fed, 1810. Cafodd ei ddwyn i fyny yn grefyddol, a phan yn 17 mlwydd oed, derbyniwyd ef yn gyflawn aelod. Cyn hir dechreuodd bregethu, ac aeth i'r ysgol at y Parch. M. Jones, i Lanuwchlyn; aeth wedi hyny i'r Amwythig i'r ysgol at y Parch. J. Jones, Marton; ac wedi hyny bu am dair—blynedd—a—haner o dan addysg y Parch. Edward Davies, yn y Drefnewydd. Yn 1838, derbyniodd alwad yr eglwysi canlynol, sef Machynlleth, Pennal, Llanwrin, ac Achor, a neillduwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth. Derbyniodd alwad eglwysi y Wern a'r Brymbo, ar ol marwolaeth y Parch. W. Williams. Wedi bod yno am 6 blynedd, derbyniodd alwad eglwys Machynlleth eilwaith, lle y bu am bedair blynedd. Ymhen ysbaid, derbyniodd alwad oddiwrth eglwysi Llanystumdwy, Rhoslan, a Thabor, Sir Gaernarfon. Yn 1850, symudodd i'r America. Yr oedd yn hynod benderfynol gyda phob amcan er yn blentyn. "Yr oedd yn bregethwr synwyrol a dylanwadol. Fel pregethwr, ni chyfrifid ef yn y dosbarth blaenaf, er ei fod ymhell ymlaen ar y rhan amlaf a arferent y gwaith bwn, ac yr oedd ynddo ragoriaethau na pherthynent ond i ychydig." Bu farw Medi 1863, yn 53 mlwydd oed.

PRICE, ROBERT, LL.D., prelad enwog yn ei ddydd, ydoedd bedwerydd mab John Price, Ysw., o'r Rhiwlas, yn Penllyn, lle y ganwyd ef yn 1607. Cafodd ei addysg yn Ysgol Westminster, ac oddiyno etholwyd ef yn efrydydd i Goleg yr Iesu, Rhydychain, yn 1625. Cymerodd ei raddau yn y celfyddydau, ac yna efrydodd y gyfraith, yn yr hon wybodaeth y graddiwyd ef yn wyryf yn 1632. Urddwyd ef yn ddiacon yn Mangor yn 1634, ac yn fuan penodwyd ef yn ficer Towyn Meirionydd. Yn 1635, gwnaed ef yn ganghellydd yn mhrif eglwys Bangor, yr hon swydd a roddes i fyny yn 1636. Gan iddo gael ei benodi yn gaplan Iarll Stratfford, Arglwydd-raglaw Iwerddon, cafodd ddeoniaeth Connor, yn y wlad hono; ac ystyrid ef ar y pryd yn dra hyddysg yn y gyfraith eglwysig. Yn Ebrill, 1639, gwnaed ef yn ddoethawr yn y gyfraith gan Brifysgol Dublin; ac yn fuan cafodd yr un anrhydedd hefyd o Rydychain. Pan dorodd y gwrthryfel Gwyddelig allan, collodd bob peth a feddai yn y wlad hono, a dioddefodd lawer oherwydd ei freingarwch; ond ar ddychweliad Siarl II., adferwyd ef i'w swyddau, a chysegrwyd ef yn esgob Ferns a Leighlin, Ionawr 27, 1660. Ar farwolaeth y Dr. William Roberts, esgob Bangor, penodwyd ef yn olynydd iddo, eithr cyn esgyn i'w swydd, efe a fu farw, Mawrth 26, 1666, a chladdwyd ef yn mhrif eglwys Patrig Sant, lle ni roddwyd na chofgolofn na chofnod i ddynodi y fan.—(Wood's Athen. Oxon; Willis, Bangor.)

RHIRYD FLAIDD, o Riwwaedog, ger y Bala, yn Mhenllyn; boneddwr cyfoethog, yn ei flodau yn xi. ganrif. Mab ydoedd i Gwrganau ab Collwyn; a'i fam ydoedd ferch i Bleddyn ab Cynfyn, o'r Nannau, a chwaer i Cadwgan o'r Nannau. Defnyddiai y cyfenw Blaidd er parch i'w hynafiaid ar du ei fam, sef, y Blaidd Rhudd, o'r Gest, ger Penmorfa, yn Arfon, Rhiryd ydoedd arglwydd Penllyn, a phreswyliai yn Rhiwwaedog. Yr oedd ei feddianau tirol yn cynwys pum' plwyf Penllyn; Lleyn ac Eifionydd, yn Ngwynedd; Penant Melangell, a'r Glyn, yn Mhowys; ac un dref ddegwm ar ddeg yn sir Amwythig. Y mae amryw o brif deuluoedd Gogledd Cymru yn olrhain eu hachau o hono. Ei beis-arfau oeddynt "veit, chevion between the wolves' heads erased argent."

RHOBERT, MORYS ab, o'r Bala, ydoedd fardd gwlad lled dda, ac yn meddu awen barod, fel y prawf amryw draddodiadau sydd am dano ar lafar gwlad, ac yn argraffedig yn y Gwyliedydd am 1823, t.d. 273; a'r Brython am 1860, t.d. 265, a 270. Nid ymddengys fod dim ond ambell englyn damwain o'i waith ar gof a chadw.—(Geir. Byw. Lerpwl.)

ROBERTS, Parch. DAVID, (Da'i Glan Tegid,) Bala, ydoedd bregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1832. Cafodd ei dderbyn yn aelod eglwysig yn ieuanc, a chafodd ei dderbyn hefyd fel pregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, ac yn un o efrydwyr yr athrofa yn y dref hono. Yr oedd yn ŵr ieuanc o wybodaeth eang ac o ddoniau helaeth iawn, ac wedi ei benodi i fod yn ngoror Clawdd Offa; ar yr hyn yr oedd wedi rhoddi holl fryd ei galon hyd ei funudau olaf; cael gwneuthur rhywbeth dros Iesu Grist yn y byd oedd ei brif fyfyrdod a thestyn ei ymddiddanion ar hyd y dydd; a hyn hefyd oedd cynwys ei freuddwydion yn oriau ei gwsg. Dywedai y noson cyn ymadael â'r fuchedd hon, ei fod yn meddwl yn sicr na chai ef fyned i uffern, er ei fod wedi ofni myned yno ganwaith, ond nad oedd ganddo ddim am ei fywyd ond haeddiant y Meichiau mawr, Yr oedd ganddo hefyd awen hedegog, dlws ei chynganeddau.

ROWLANDS, Parch. DAVID, Bala, gweinidog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, gerllaw y Bala, yn Penllyn. Ganwyd ef yu 1795. Pan yn 18 oed, dechreuoedd bregethu, a phregethodd yr Arglwydd Iesu yn wresog am 48 o flynyddoedd. Yn 1831, urddwyd ef yn Nghymdeithasfa y Bala. Bu am ryw ysbaid yn yr ysgol gyda'r Parch. John Hughes, Wrecsam, o Lerpwl wedi hyny; ond yr oedd wedi ei lyncu gan ysbryd pregethu yn gymaint fel na enillodd lawer o addysg; a dywedai, "ni adawaf i'r cynhauaf fyned heibio a minau yn hogi fy nghryman." Ond yr oedd yn ddigon o Sais i allu casglu mêr duwinyddiaeth y Saeson, chwynai yn fynych na fuasai yn deall y tair iaith yr oedd achos yr Iesu yn ysgrifenedig ynddynt ar y groes—y Groeg, Lladin, a'r Hebraeg. "Gŵyr pawb a glywodd David Rowlands yn pregethu fod ganddo ddull a dawn neillduol o'i eiddo ei hun heb fod neb yn debyg iddo ef, nac yntau yn ymdebygu i neb arall. Yr oedd yn meddu ar ddychymyg bywiog, a theimlad cynhyrfiol; ac yr oedd arabedd yn naturiol iddo, a chanddo gyflawnder o hen eiriau Cymreig cryfion a mynegiadol gwledig, ac agos at y bobl, yn hynod wrth law ar bob achlysur; ac yr oedd hyn gyda'i ddull Cymroaidd a gwladaidd, yn gosod argraff anefelychadwy ar ei bregethiad.' Bu Dafydd Rolant yn hynod gymeradwy a phoblogaidd fel pregethwr tros ei holl oes; byddai ei wrandawyr yn rhy llosog i'r capelau eu cynwys, ymhob man braidd lle y pregethai. Claddwyd ef yn ngladdfa capel y Llidiardau, ger y Bala, a chyfarchwyd y dyrfa ar yr achlysur gan y Parch. John Parry, Bala, a phregethodd y Parch. Dr. Edwards yn y capel, o'r 1 Cor. xii. 4—6 Y mae "Cofiant Dafydd Rolant," a chofiant D. R. ydyw hefyd ac Q nid neb arall, wedi ei gyhoeddi gan Mr. Hughes, o Wrecsam, o waith y bywgraffydd enwog, y Parch. Owen Jones, y Tabernacl, Ffestiniog, ac awdwr athrylithgar "Cofiant Robert Tomos," o'r un gymydogaeth.

SION DAFYDD, Penllyn Tegid, yr hwn hefyd a elwid "Sion Dafydd Las," ac weithiau "Bardd Nannau," a anwyd mae yn debyg yn y Pandy, ger Llanuwchlyn. Yr oedd yn blodeuo o 1650 hyd 1690. Yr oedd yn delynor a bardd, ac yn gyffredin yn Nannau. Clerwr oedd wrth ei alwad farddonol. Dywed yr Hynafiaethydd o'r Waenfawr fod ganddo lawer o'i waith mewn llawysgrifen a'u bod yn taflu goleuni mawr ar achau boneddion ei oes. Y mae "Cywydd Marwnad i Robert Wyn Hen, (A.D. 1691.) o Faes y Neuadd, yn Ardudwy," yn y Brython, cyf. IV., t.d. 264; o waith Sion Dafydd. Rhoddwn yma ddau "Englyn i Bont y Pandy," o'i waith :

Llun enfys hwylus dan haulwen,—oreudeg,

A rodir yn llawen;
Camog wych, emog wen,
Llawn ddalent yn ddwy ddolen.
Hael yw ei modd i hwylio meirch
Mawrion, a dynion dros Dwrch, [7]
A phynau hydd hoff iawn barch,
A phawb i'w man, a phob merch.

Yr ydym yn deall fod Sion Dafydd yn bur hoff o'r ddiod gadarn, dyma englyn eto a wnaeth ar ei oferedd:

Ofer pan hanner hunwyf,—a hefyd

Ofer pan ddeffrowyf;
Afradus ofer ydwyf,
Fe ŵyr Duw ofered wyf.

(Nid ydym yn hoff ychwaith o gofnodi gwendidau ein henwogion. "De mortuis nil_nisi bonum,"—"Of the dead say nothing except what is good.") Y mae llawer o'i hanes yn y Gwyliedydd.

RICHARDSON, HENRY, Ysw., o Aberhirnant, yn Penllyn, ydoedd drydydd mab Samuel Richardson, o'r un lle. Yr oedd yn deilliaw oddiwrth Syr Thomas Richardson, Arglwydd Brif-Farnwr y Llys-Benadur, yn amser y Siarliaid. Ganwyd gwrthddrych y crybwyllion hyn yn 1791. Wedi cael ei ddysgeidiaeth yn Rhydychain, a graddoli, efe a ymunodd â'r fyddin, ac a wasanaethodd am rai blynyddau fel banerydd a rhaglaw y 69ain gatrawd yn yr Orynys, ac wedi hyny yn yr ail Feirch-warchlu yn Ffrainc. Ar ddiwedd y rhyfel, gadawodd y fyddin, ac ymsefydlodd yn y palas Calfinaidd, ac yn un o efrydwyr yr athrofa yn y dref hono. Yr oedd yn ŵr ieuanc o wybodaeth eang ac o ddoniau helaeth iawn, ac wedi ei benodi i fod yn ngoror Clawdd Offa; ar yr hyn yr oedd wedi rhoddi holl fryd ei galon hyd ei funudau olaf; cael gwneuthur rhywbeth dros Iesu Grist yn y byd oedd ei brif fyfyrdod a thestyn ei ymddiddanion ar hyd y dydd; a hyn hefyd oedd cynwys ei freuddwydion yn oriau ei gwsg. Dywedai y noson cyn ymadael â'r fuchedd hon, ei fod yn meddwl yn sicr na chai ef fyned i uffern, er ei fod wedi ofni myned yno ganwaith, ond nad oedd ganddo ddim am ei fywyd ond haeddiant y Meichiau mawr, Yr oedd ganddo hefyd awen hedegog, dlws ei chynganeddau.

ROWLANDS, Parch. DAVID, Bala, gweinidog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, gerllaw y Bala, yn Penllyn. Ganwyd ef yu 1795. Pan yn 18 oed, dechreuoedd bregethu, a phregethodd yr Arglwydd Iesu yn wresog am 48 o flynyddoedd. Yn 1831, urddwyd ef yn Nghymdeithasfa y Bala. Bu am ryw ysbaid yn yr ysgol gyda'r Parch. John Hughes, Wrecsam, o Lerpwl wedi hyny; ond yr oedd wedi ei lyncu gan ysbryd pregethu yn gymaint fel na enillodd lawer o addysg; a dywedai, "ni adawaf i'r cynhauaf fyned heibio a minau yn hogi fy nghryman." Ond yr oedd yn ddigon o Sais i allu casglu mêr duwinyddiaeth y Saeson, chwynai yn fynych na fuasai yn deall y tair iaith yr oedd achos yr Iesu yn ysgrifenedig ynddynt ar y groes—y Groeg, Lladin, a'r Hebraeg. "Gŵyr pawb a glywodd David Rowlands yn pregethu fod ganddo ddull a dawn neillduol o'i eiddo ei hun heb fod neb yn debyg iddo ef, nac yntau yn ymdebygu i neb arall. Yr oedd yn meddu ar ddychymyg bywiog, a theimlad cynhyrfiol; ac yr oedd arabedd yn naturiol iddo, a chanddo gyflawnder o hen eiriau Cymreig cryfion a mynegiadol gwledig, ac agos at y bobl, yn hynod wrth law ar bob achlysur; ac yr oedd hyn gyda'i ddull Cymroaidd a gwladaidd, yn gosod argraff anefelychadwy ar ei bregethiad.' Bu Dafydd Rolant yn hynod gymeradwy a phoblogaidd fel pregethwr tros ei holl oes; byddai ei wrandawyr yn rhy llosog i'r capelau eu cynwys, ymhob man braidd lle y pregethai. Claddwyd ef yn ngladdfa capel y Llidiardau, ger y Bala, a chyfarchwyd y dyrfa ar yr achlysur gan y Parch. John Parry, Bala, a phregethodd y Parch. Dr. Edwards yn y capel, o'r 1 Cor. xii. 4—6 Y mae "Cofiant Dafydd Rolant," a chofiant D. R. ydyw hefyd ac Q nid neb arall, wedi ei gyhoeddi gan Mr. Hughes, o Wrecsam, o waith y bywgraffydd enwog, y Parch. Owen Jones, y Tabernacl, Ffestiniog, ac awdwr athrylithgar "Cofiant Robert Tomos," o'r un gymydogaeth.

SION DAFYDD, Penllyn Tegid, yr hwn hefyd a elwid "Sion Dafydd Las," ac weithiau "Bardd Nannau," a anwyd mae yn debyg yn y Pandy, ger Llanuwchlyn. Yr oedd yn blodeuo o 1650 hyd 1690. Yr oedd yn delynor a bardd, ac yn gyffredin yn Nannau. Clerwr oedd wrth ei alwad farddonol. Dywed yr Hynafiaethydd o'r Waenfawr fod ganddo lawer o'i waith mewn llawysgrifen a'u bod yn taflu goleuni mawr ar achau boneddion ei oes. Y mae "Cywydd Marwnad i Robert Wyn Hen, (A.D. 1691.) o Faes y Neuadd, yn Ardudwy," yn y Brython, cyf. IV., t.d. 264; o waith Sion Dafydd. Rhoddwn yma ddau "Englyn i Bont y Pandy," o'i waith :

Llun enfys hwylus dan haulwen,—oreudeg,
A rodir yn llawen;
Camog wych, emog wen,
Llawn ddalent yn ddwy ddolen.

Hael yw ei modd i hwylio meirch
Mawrion, a dynion dros Dwrch, [8]
A phynau hydd hoff iawn barch,
A phawb i'w man, a phob merch.


Yr ydym yn deall fod Sion Dafydd yn bur hoff o'r ddiod gadarn, dyma englyn eto a wnaeth ar ei oferedd:

Ofer pan hanner hunwyf,—a hefyd
Ofer pan ddeffrowyf;
Afradus ofer ydwyf,
Fe ŵyr Duw ofered wyf.


(Nid ydym yn hoff ychwaith o gofnodi gwendidau ein henwogion. "De mortuis nil_nisi bonum,"—"Of the dead say nothing except what is good.") Y mae llawer o'i hanes yn y Gwyliedydd.

RICHARDSON, HENRY, Ysw., o Aberhirnant, yn Penllyn, ydoedd drydydd mab Samuel Richardson, o'r un lle. Yr oedd yn deilliaw oddiwrth Syr Thomas Richardson, Arglwydd Brif-Farnwr y Llys-Benadur, yn amser y Siarliaid. Ganwyd gwrthddrych y crybwyllion hyn yn 1791. Wedi cael ei ddysgeidiaeth yn Rhydychain, a graddoli, efe a ymunodd â'r fyddin, ac a wasanaethodd am rai blynyddau fel banerydd a rhaglaw y 69ain gatrawd yn yr Orynys, ac wedi hyny yn yr ail Feirch-warchlu yn Ffrainc. Ar ddiwedd y rhyfel, gadawodd y fyddin, ac ymsefydlodd yn y palas teuluaidd Aberhirnant. Penodwyd ef yn Ustus Heddwch, yn Is-raglaw y sir, a llanwodd swydd o sirydd yn 1851. Yn 1830, efe a ddyfeisiodd Fywyd-fab Ceuol (Tabular Lifeboat), yr hwn a sefydlwyd yn Weymouth. Yn 1851, efe, mewn cysylltiad a'i fab, a fynodd wneyd y bywyd-fad Challenger; a mordeithiodd ynddo ar dywydd tymhestlog oddiamgylch y Land's End i Lundain. Y mae bywyd-fad ar yr un cynllnn â hwnw yn awr mewn arferiad yn Rhyl. Bu farw yn Rhiwwaedog, ger y Bala, yn Penllyn, yn 1861, yn 70 oed.—(The Cruise of the Challenger.)

TEGID FOEL, penaeth yn y bumed ganrif. Mab ydoedd i Gadell Deyinllwg, ac arglwydd Penllyn, yn Meirion. Ei briod ydoedd Ceridwen.

TEGWEDD, santes yn y bumed ganrif, ydoedd ferch i Degid Foel, o Benllyn. Hyhi a sefydlodd eglwys Llandegwedd, yn sir Fynwy, lle y lladdwyd hi gan y Saeson paganaidd, mewn man o'r enw Merthyr Tegwedd. Mab iddi ydoedd Teilo, esgob Llandaff.

THOMAS, DAVID, Meifod. Ganwyd ef yn Ty'nygwynt, ger y Bala, yn Mhenllyn, Rhagfyr 29, 1782. Ni chafodd David Thomas ond ychydig ysgol ddyddiol pan yn blentyn. Yn 1805 priododd Miss Mary Roberts, merch Robert Oliver, Ty coch. Yn 1809 derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn yr Hen Gapel, gan Dr. Lewis. Yn 1829 symudodd David Thomas a'i deulu o Lanuwchlyn i'r Main, Meifod, swydd Drefaldwyn; ac yn 1862 symudasant i Feifod, lle y bu farw, Ionawr 30, 1863. Yr oedd Mr, Thomas yn wr llafurus iawn gyda chrefydd, er nad oedd yn rhyw siaradwr mawr—llawer o waith ac ychydig o swn oedd ei arwyddair ef. Yr oedd David Thomas yn fardd pur wych, a gadawodd liaws o gyfansoddiadau barddonol mewn llawysgrifen i'w wyr David Thomas. Ymddangosodd amryw ddarnau o'i eiddo yn y Dysgedydd o dro i dro; galwai ei hun yn "Dewi ab Didymus Carndochan." Y mae un—ar—ddeg o ddarnau barddonol o'i eiddo yn niwedd ei Gofiant, gan y Parch. R. Thomas, Bangor. Argraffwyd yn Llanfyllin, 1863.

THOMAS, Parch. ROBERT, o'r Llidiardau, ger y Bala, yn Mhenllyn, oedd bregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Ganwyd ef yn Trawsafon, Bettws y coed, swydd Gaernarfon, Awst 28, 1796. Daeth at grefydd yn fore, ac yr oedd yn hoff iawn o ddarllen er yn blentyn; hefyd, yr oedd tuedd at farddoni ynddo mor fore a'r duedd at ddarllen. Yn 1819, pan oedd yn 25 oed, dechreuodd bregethu, a phregethodd y waith gyntaf mewn ffermdy o'r enw Erw llochwyn; y testyn oedd Matthew i. 18—25. Yr oedd yn ysgolhaig pur dda; cafodd ysgol pan yn blentyn yn Llan y plwyf, yn Bettws y coed; bu wedi hyny yn ysgol Llanrwst, dan ofal y Parch. W. Jones, Rhuddlan; ac yn Ngwrecsam, dan addysg y Parch. J. Hughes. Yn 1826 priododd Sarah Thomas, a symudasant i'r Bala i fyw, ac i gadw ysgol ddyddiol. Yn 1828 gadawodd y Bala, ac aeth i ffarmio i le o'r enw Ty nant, yn agos i gapel Llidiardau. Yn 1840 rhoddodd ffarmio heibio am byth, a threuliodd weddill ei oes mewn gweithio gwaith maen am ysbaid, a chadw ysgol ddyddiol wedi hyny. Bu yn byw yn Ffestiniog am 13 o flynyddau, a symudodd wedi hyny yn oli Llidiardau, ger y Bala, lle y treuliodd weddill ei oes. Yn 1849 cyhoeddodd lyfr barddonol dan yr enw "Lloffion o Faes Boas ; sef Caneuon gan Robert Thomas, Ffestiniog. Bala: Argraffedig gan R. Saunderson, 1849." Rhaid i ni addef fod mwy o hynodrwydd yn perthyn i Robert Thomas nag o enwogrwydd; eto yr ydym yn ystyried fod mwy o enwogrwydd yn perthyn iddo na llawer un sydd i mewn yn y rhestr hon o enwogion swydd Feirion. Dywed y Parch. Owen Jones yn ei Gofiant fod ganddo gof rhagorol; ei fod yn hanesydd da; yn feddianol ar barodrwydd ymadrodd na welir yn aml ei gyffelyb; y siaradai ar bwnc yn hollol ddiragfyfyr, a hyny yn gampus iawn weithiau; ei arabedd yn ail i eiddo y Gwyddel; a'i fod yn meddu ar holl elfenau cymeriad a fawrygid ac a hoffid gan y rhai a'i hadwaenent, a pho fwyaf y deuid i adnabyddiaeth o'r dyn mwyaf oll y perchid ef.—(Gweler ei Gofiant gan y Parch. Owen Jones, B.A., Ffestiniog; cyhoeddedig gan Hughes a'i Fab, Wrecsam.)

THOMAS, Parch. JOHN, oedd weinidog y Trefnyddion Calfinaidd yn y Bala, yn Penllyn. Ganwyd ef yn 1811. Daeth at grefydd yn ieuanc, a dechreuodd bregethu pan oedd tua 25 oed. Yr oedd yn bregethwr ffyddlawn a thra sylweddol; yr oedd yn barchus a chymeradwy gan yr eglwysi yn gyffredinol, er nad oedd yn feddianol ar ddawn rydd a phoblogaidd i osod allan ei ddrychfeddyliau. Teimlid colled mawr ar ei ol yn yr ardaloedd lle y byddai yn llafurio yn fwyaf cyffredin. Wedi pregethu am ugain mlynedd cymerwyd ef yn glaf gan y cancer yn ei gylla, a bu farw Gorphenaf 4, 1857.

THOMAS, Parch. WILLIAM, gweinidog yr Annibynwyr yn Beaumaris, swydd Môn, oedd enedigol o'r Bala, yn Penllyn. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1812. Cafodd addysg dda, yn benaf yn ysgol waddoledig yn Tydandomen. Derbyniwyd ef yn gyflawn aelod pan yn bur ieuanc. Yn fuan gadawodd gartref am Harwood, ger Wrecsam; a bu yn hynod ymdrechgar a llafurus gyda'r achos yn y lle hwnw, yr hon eglwys oedd dan ofal gweinidogaethol y Parch. W. Williams, Wern. Er fod Mr. Williams yn tynu lluoedd ar ei ol ymhob congl a chilfach yn Nghymru. Nid oedd Harwood yn deimladwy o'i ddylanwad; yn canfod hyn Mr. Thomas a ymdrechodd ffurfio cyfeillgarwch â phobl ieuaincy gymydogaeth, a thueddodd amryw o honynt i uno â'r ysgol Sabbothol. Cynhaliai gyfarfodydd gweddiau, &c. Cyn hir anogwyd ef i bregethu, ac aeth i Marton, yn swydd Amwythig, i'r ysgol, at y Parch. J. Jones. Yn Awst, 1830, urddwyd ef yn Horeb, Dwygyfylchi, lle y llafuriodd mewn modd cymeradwy a llwyddianus am bum' mlynedd. Yn Medi, 1844, derbyniodd alwad eglwys Seion, Beaumaris. Yn 1857 collodd ei frawd hynaf, sef y Parch. J. Thomas uchod, o'r Bala. Effeithiodd hyn yn ddwys ar ei feddwl. Ac yn Ebrill 15, 1865, collodd ei briod, yr hyn a'i dyrysodd i fesur fel gweinidog, trwy ei daflu i ormod tristwch. Yr oedd yn weinidog galluog, ffyddlawn, a phoblogaidd iawn. Bu farw Ebrill, 1866, yn 54 oed.—(Geir. Byw., Aberdâr.)

THOMAS, Parch. WILLIAM, o'r Bala, ydoedd weinidog gyda'r Annibynwyr. Ganwyd ef yn Awst 1749. Amaethwyr cyfrifol oedd ei rieni; yr oedd ei dad yn enedigol o swydd Forganwg, a'i fam o swydd Gaerfyrddin. Cafodd addysg dda pan yn blentyn; a phan yn bur ieuanc aeth i Lundain, lle yr oedd ganddo berthynasau mewn sefyllfa gyfrifol, a chafodd le gyda masnachwyr yn Long Acre, lle y bu mewn parch mawr. Pan oedd tua 23 daeth adref at ei fam, i gymydogaeth Llanymddyfri; ac arferai fyned i wrando y Parch. Isaac Price, yn eglwys Crug y Bar, lle yr ymunodd yn fuan â'r eglwys hono, a chyn hir dechreuodd bregethu. Bu am ddwy flynedd yn athrofa Ymneillduol Abergefenni, o dan y Dr. Davies. Oddiyno ordeiniwyd ef yn nghapel Llanover, ger y dref hono; ac ymhen ychydig flynyddau wedi hyny efe a symudodd i'r Bala, yn Mhenllyn, lle y bu yn llafurio dros 21 o flynyddoedd. Tra y bu yno cyhoeddodd amryw lyfrau :—1, "Myfyrdodau diweddaf y Parch. Mr. Baxter ar farwolaeth," &c.; Trefecca, 1792. 2, "Arfogaeth y gwir Gristion," &c., cyfieithiad yw hwn eto o weithiau Gurnal a Dr. Guyse: Trefecca, 1794. 3, "Cyfaill i'r Cystuddiedig," &c., cyfieithiad o lyfr y Parch. John Willison; Trefecca, 1797. 14, Cyfieithu "Dioddefaint Crist," o waith Joseph Hall, D.D., 66 ac Angau i angau y' marwolaeth Crist," o waith John Owen, D.D., y ddau yn un llyfr; Trefecca, 1800. 5, "Cyfarwyddiadau mewn Geography," &c.; Caerlleon, 1805; 225 o dudalenau 12 plyg. 6, Ei waith mawr oedd cyfieithu "Esboniad Guyse ar y Testament Newydd." Costiodd y rhodd yma i Gymru yn ddrud iawn i'r cymwynaswr—collodd 300p. ar yr anturiaeth. Ystyrid Mr. Thomas yn bregethwr da, a gwir awyddus i wneyd daioni trwy ei bregethau a'i gyhoeddiadau. Bu farw yn y Bala, Mai 1809, yn agos i 60 oed.

WILLIAMS, ROBERT, o'r Pandy Isaf, Trerhiw—waedog, ger y Bala, ydoedd fardd da, ac yn ei flodau yn rhan olaf y ganrif ddiweddaf. Efe oedd athraw barddonol Ioan Tegid, a cheir crybwyllion ffafriol am dano yn ngweithiau barddonol y Cymro enwog hwnw. Efe oedd awdwr gwreiddiol y llinell boblogaidd "Bibl i bawb o bobl y byd," a briodolir mor fynych i Fardd Nantglyn. Nid oes genym unrhyw brawf dros ameu gonestrwydd awdwr "Marwnad Sior III.," er fod y llinell wedi ymddangos mewn cyfres o englynion i'r Bibl yn y Drysorfa Ysbrydol, dan olygiaeth Mr. Charles, flynyddau lawer cyn Eisteddfod Gwrecsam. Bu Robert Williams farw mewn henaint teg, yn y flwyddyn 1808. Y mae llawer iawn o'i waith ar gael mewn llawysgrifau.—(Geir. Byw., Aberdâr.)

DOS. III.

ENWOGION EDEYRNION,

(HEN A DIWEDDAR)

(Glyndyfrdwy ac Edeyrnion, amser gynt, oeddynt gwmydau gwahanol, ond yn awr y mae y ddau yn myned dan yr enw Edeyrnion. Cynwysa y plwyfydd canlynol:—Llandrillo, Llangar, Corwen, Llansantffraid, Bettws-gwerfil-goch, a Gwyddelwern. Yn mhlwyf Corwen y gwersyllodd Owen Fawr, Tywysog Gwynedd, yn 1164, pan ddaeth Harri yr Ail yn erbyn Gogledd Cymru. Y mae yr amddiffynfeydd i'w gweled eto. Ar y tu arall i Ddyfrdwy y mae Rug, hen aneddle Mr. William Salisbury, o Lyndyfrdwy. I'r lle hwn y deisyfodd Iarll Caerlleon ar i Gruffydd ap Cynan, Tywysog Cymru, ddyfod gyda gosgordd fechan i'w gyfarfod ef, heb fawr ddisgwyl fod unrhyw fradwriaeth ar droed, ac efe a gymerwyd gan y dywededig Iarll, ac a garcharwyd am hir amser. Eglwys Gwyddelwern a adeiladwyd gan St. Beuno, ar y tir a roddwyd iddo gan Canon ap Brochwel Ysgythrog, Brenin Powys, fel y tystia ysgrifenydd hanes bywyd St. Beuno.)

CADWALADR, ELLIS, bardd o Landrillo, yn Edeyrnion. Blodeuodd o 1707 i 1740. Efe a enillodd yn yr eisteddfod a gynhaliwyd yn y Bala ddydd Llun y Sulgwyn, 1738. Yr anrhydeddus a'r dysgedig athraw, Edward Wynne, ficer Gwyddelwern, oedd y barnwr, a chyfansoddodd englynion i'r holl ymgeiswyr, a diweddodd "i'r gwr a gariodd yr eisteddfod," drwy ddywedyd―

"Goreu i gyd, gŵr y gadair."

Yr oedd E. Cadwaladr yn dra chelfyddgar yn y mesurau caethion. Cyfansoddodd ddau englyn i'w gosod ar fedd Huw Morris yn 1709, er mai gwaith Ficer Gwyddelwern a ddewiswyd. Gwelir pedwar o'i gyfansoddiadau yn y Blodeugerdd, un carol,—carol plygain i foliannu Duw. 1707. "Ymddiddan rhwng dyn a chydwybod;" "Clod i Ferch." Y mae ei "Glod i Ferch" yn arddangos y gwyddai rywbeth am enwau clasurol, a'i fod yn fwy ei ddysg na lliaws o'i gyfoeswyr. Dyma englyn o'i waith i "Gyweirgorn Telyn," dros William Dafydd i Sion Puw, y gôf, o Fachynlleth:

Tair pibell i gymell y gân,—awr fedrus
Ar fodrwy liw arian;
Tynu mae y tannau mân,
Tiws eurgerdd at lais organ.

—Ellis Cadwaladr a'i cânt.

CLOUGH, Parch. R. B., M.A., periglor Corwen; bardd a llenor dysgedig, yn ol tystiolaeth Bardd Nantglyn am dano. Gwelsom rai o'i gyfansoddiadau barddonol yn y Gwyliedydd. Bu farw Gorph. 11, 1830, yn 48 oed. Dywed Bardd Nantglyn wrth ei anerch,

"Bardd ydych o bur ddodiad,
Adwaenoch swn adenydd
Cystrawen yr awen rydd,
Medrwch glymu ymadrawdd
Goleu teg dan gload hawdd."

Ei farwolaeth ef oedd un o destynau Eisteddfod Edeyrnion, Tach. 5, 1830. Rhagorai fwy, mae'n debyg, fel noddwr haelionus beirdd a barddoniaeth nag fel bardd ei hunan. Yr oedd ef yn nodedig am ei wladgarwch a'i ddybewyd dros iaith a llenyddiaeth y Cymry. —(Geir. Byw., Liverpool). Rhoddwn yma ddau englyn o'i waith "Yn erbyn barnu eraill :"

"Ti ferni, gweli fai gwan,—dyn arall,
Dan you gair gogan;
Er nad oes, iawn-foes un fan,
Da o honot dy hunan.

"A fynych i fyw enyd—gan undyn,
Ac uniondeb glân-bryd;
Dyro i bawb, ar dir y byd,
Dawn hoff onest un ffunyd."

Corwen, Mai 13, 1823.
—R. B. C.

CILAN, HYWEL, bardd enwog yn ei flodau, o 1460 i 1490. Ychydig o'i waith a gyhoeddwyd, ond y mae llawer ar gael mewn llawysgrifau. Efe oedd perchenog Llawr y Cilan, yn Llandrillo, yn Edeyrnion.

CLYNOG, MOURICE, aelod o athrofa Rhydychain, lle y graddiwyd ef yn Wyryf y Gyfraith, yn 1548. Yn 1556, cafodd rectoriaeth Corwen, yn Meirion; a gwnaed ef yn gor-beriglor Caerefrog, ac yn swyddog yn llys yr uchelfraint o dan y Cardinal Pole, archesgob Caergaint. Yn fuan ar ol marw y Dr. William Glynn, esgob Bangor, yn 1558, darfu i'r frenhines Mari benodi Clynog yn ddilynydd iddo; ond gan i'r frenhines farw cyn iddo gael ei gysegru i'r swydd, efe a enciliodd, a Dr. Goldwell, esgob, Llanelwy, gydag ef trosodd i Rufain. Yno efe a wnaed yn rector y Clafdy Seisnig, wedi i'r adeilad hono gael ei throi yn goleg i fyfyrwyr Seisnig. Gelwid ef yno Dr. Mourice; a thrwy ei fod yn dra phleidiol i'r myfyrwyr Cymreig, enynodd gasineb yn ei erbyn oddiwrth y Saeson, yr hon a barai ymrysonau mynych; a'r Pab a ddiswyddodd y. Dr. o'r herwydd, yn 1581.—(Wood's Athen. Oxon.; Geir. Byw. Lerpwl.)

CYNFRIG HIR, brodor ydoedd o Edeyrnion. Gruffydd ab Cynan, tywysog Gwynedd, wedi bod o hono yn dihoeni yn ngharchar Caerlleon Gawr am ysbaid deuddeng mlynedd fel carcharor rhyfel iar y ddinas hono, a ryddhawyd trwy ddewrder gwladgarol Cynfrig Hir. Cynfrig tan yr esgus o brynu angenrheidiau bywyd, a aeth i Gaerlleon, a chan wylio ei gyfleusdra, a gafodd fynediad rhwydd i'r castell, ac i garchar—gell ei dywysog, yr hwn a ddygodd efe yn gadwynog ar ei gefn i ddiogelfa, tra yr oedd gwŷr arfog y gaer, o'r gwyliwr i'r dystawr, yn ymloddesta uwch y gwin a'r gyfeddach. Anfynych y ceir y pleser o gofnodi engraifft mor ragorol o wrhydri êon a gwladgarol.—(Geir. Byw. Lerpwl.)

CYNWYD, SION, John Williams, neu Sion Cynwyd, oedd fardd da, yn byw yn Nghynwyd, yn Edeyrnion, ac yn ei flodau tua 1800. Gwelir peth o'i waith yn y Cylchgrawn 1793. Gwehydd ydoedd wrth ei alwedigaeth; yr oedd yn aelod gyda'r Methodistiaid, ac ystyrid ef yn ŵr duwiol.

DAFYDD AB HARRI WYN, ydoedd fardd medrus, a brodor o Edeyrnion, yn Sir Feirionydd. Pan oedd ar daith i Eisteddfod Caerwys, yn 1567, darfu i Sion Phylip o Ardudwy, ei orddiwes gerllaw y dref hono, wedi bod ar hyd y nos yn crwydro a cholli y y ffordd ar y mynyddoedd; a gofyn a wnaeth Sion Phylip, ac ef yn hollol ddieithr iddo :

Y mwynŵr, mi ddymunwn
Gael enw y lle hoyw-le hwn?

Yna atebodd Dafydd ab Harri Wyn ef yn ebrwydd fel hyn:—

Caerwys yw hon, cares hardd,
Cyrch hen feirddion feirddion fyrdd,
Cymer i'w nawdd, Cymry nordd,
Cor lle'n tywys cynwys cerdd.

Ymddengys fod ar yr englyn hwn ddau orchestwaith neu dri, nid amgen, Cynghanedd groes rywiog, a chynghanedd unawdl gyfrochawl bob yn ail; ac hefyd gymeriad llythyrenol yn y sillau gwreiddiol. Gwnaeth hyn i Sion Phylip ryfeddu yn fawr, iddo gael ateb mor fuan ar orchest bencerddaidd. Yn y blaen yr aethant, ac ni allai Sion Phylip ddyfalu pwy oedd y gwr dieithr o brydydd celfyddgar. Yn y dref fe gollodd ei olwg arno, ond Sion a gofiodd yr englyn, ac a'i dangosodd yn enw y gwr dieithr dienw, ger bron yr eisteddfod, a mawr y canmol a fu ar barodrwydd awen, a chywreindeb celfyddyd a'i cânt. Yna dodwyd gosteg, a gwahoddiad i'r gwr a'i cânt ddyfod ymlaen a dodi dangos am radd pencerddaidd; ond ni chodai neb. Wedi hyny caed gwybodaeth pwy oedd y gwr, nid amgen na Dafydd ab Harri Wyn, o Edeyrnion gŵr na wyddai neb cyn hyny ei fod yn brydydd. A phan y profwyd ef gan Sion Phylip ac ereill, gwelwyd ei fod yn medru yr holl fesurau cerdd â'u perthynasau, a'i fod wedi canu arnynt yn orchestach na neb a gawsant raddau pencerddiaid yn yr eisteddfod. A chwedi dangos y cwbl o'i waith ei hun yn ysgrifenedig, efe a'u taflodd i bobty mawr oedd a thân ynddo, lle y dinystriwyd hwynt yn ebrwydd; gan ddywedyd nad oedd y cyfryw bethau ond oferedd a blinder meddwl; ac efe a brophwydodd na chaid eisteddfod o'r fath eto yn Nghymru, oni chaid yr holl brydyddion â'r gŵyr doethion i ymwrthod yn llwyr â'r fath deganau moelion. (Geir. Byw. Lerpwl; O Lyfr Ieuan Brydydd Hir.)

DAFYDD MANUEL. Bardd gwladaidd, yn ei flodau tua 1700. Dywed rhai mai brodor o Edeyrnion ydoedd; ereill a ddywedant mai mewn tŷ bychan ar dyddyn o'r enw Gwern Afon, yn mhlwyf Trefeglwys, yn agos i Lanidloes, y trigai. Mae cân a enwai "Bustl y Cybyddion," o'i waith yn y Blodeugerdd.—(Geir. Byw. Lerpwl.)

DAFYDD WILLIAM PYRS, oedd fardd, o Gynwyd, Sir Feirionydd. Yr oedd yn byw yn 1660. Y mae cân o'i waith ar gael, mewn cysylltiad â Mathew Owen, o Langai, ar ddull ymddiddan rhwng dwy chwaer am ŵra, yn Blodeugerdd Cymru, tudal 207.—(Geir. Byw. Aberdar; Brython, cyf. IV, tudal 328.)

DAVIES, HUGH a anwyd Mehefin 2, 1838, mewn lle a elwir Penlan, yn Nyffryn Edeyrnion. Mor gynted ag y daeth i oedran priodol, cafodd addysg dda gartref, yn ysgolion Sabbothol a dyddiol y gymydogaeth. Gwnaeth gynydd canmoladwy ymhob cangen o addysg gyffredinol, a thalai sylw manwl i ymddiddanion yr amseroedd a phynciau ei oes. Pan yn Rhuthyn, yn yr Ysgol Frytanaidd, ymwasgodd a'r eglwys Annibynol yn Mhenydref, a derbyniwyd ef yn gyflawn aelod pan yn brin gyraedd ei 14 mlwydd oed, a chafodd y fraint o fyw yn addas i'w broffes hyd ddiwedd ei oes. Yn ngwanwyn y flwyddyn 1855 aeth yn ysgrifenydd i'r North and South Wales Bank, yn Ninbych, a llanwodd ei le yn anrhydeddus yno am bedair blynedd. Yn 1859, symudwyd ef i Lerpwl, i fod yn gyfrifydd o dan yr un cwmpeini, ac oddi yno symudodd yn eu gwasanaeth yn y flwyddyn 1860 i Aberystwyth, ac enillodd yno air da pawb a'i hadwaenai mewn byd ac eglwys; ond gwaelodd ei iechyd, a bu raid iddo adael pobpeth a dychwelyd adref, yn Mehefin, 1861; ac er pob ymdrechion meddygol, bu farw y gŵr ieuanc caredig ac addawol hwn y dydd cyntaf o Orphenaf, 1861. Yr oedd yn lenor gobeithiol. Detholai, prynai, a darllenai y llyfrau goreu, a darllenai lawer ar ei Fibl, fel y dengys yr ysgrifeniadau a adawodd ar ei ol—(Geir. Byw., Aberdar.)

ELIS AB ELIS, Parch. bardd ac offeiriad yn trigianu yn Llandrillo, rhwng 1580 a 1620. Ceir "Cywydd i'r Arian," o'i waith yn y Gwladgarwr iv. 18, ac yn y Blodeugerdd; 1, Carol Plygain, 2, Hanes Llundain, 3, Gofal Cybydd am ei Ferch.

EVANS, EDWARD, (Iolo Gwyddelwern), oedd fardd lithrig a pharod ei awen. Ganwyd ef o fewn plwyf Gywyddelwern, yn 1786. Gwneuthurwr prenau traed ydoedd wrth ei alwedigaeth. Gadawodd lawer o'i waith mewn llawysgrifau ar ei ol. Bu farw yn Stryd Clwyd, Rhuthyn, Mawrth 26ain, 1853. Claddwyd ef ger addoldy y Bedyddwyr, Llanfwrog, ac y mae englyn tarawiadol o'i gyfansoddiad ef ei hun yn argraffedig ar gareg ei fedd.— (Geir. Byw., Lerpwl.)

EVANS, THOMAS, Adwy y Clawdd, ydoedd fab i Evan a Jane Evans, Ty'n-y=cefn, ger Corwen, lle y ganwyd ef yn y flwyddyn 1809. Cafodd feithriniaeth werthfawr mewn gwybodaeth ysgrythyrol, trwy yr Ysgol Sabbothol, o'i febyd; a phan ydoedd yn dra ieuanc, dechreuai y gwirioneddau dwyfol a ddarllenai ac a wrandawai, adael argraff led ddwys ar ei feddwl; a phan ydoedd oddeutu deunaw oed, efe a ymunodd â'r eglwys berthynol i'r Trefnyddion Calfinaidd yn Nghorwen. Wedi hyny efe a symudodd i fyw i'r Carneddau, ger Croesoswallt. Wrth weled ardaloedd y Goror yn soddedig mewn dwfn anwybodaeth ac anystyriaeth paganaidd, efe a deimlai awydd cryfi wneuthur rhyw ymdrech i'w dihuno, a hyny a arweiniodd i beri iddo ddechreu pregethu. Wedi bod yn cyfaneddu yn y Carneddau am oddeutu deunaw mlynedd, efe a symudodd i Adwy y Clawdd, lle y treuliodd y gweddill o'i oes mewn ymdrechiadau diflino i wneyd daioni i'w gyd—ddynion; a gellid gweled yn nwysder ei holl bregethau fod achub pechaduriaid yn beth pwysig a difrifol ar ei feddwl. Bu farw mewn tangnefedd, ar yr ail o Fawrth, yn y flwyddyn 1857, pan yn 48 mlwydd oed, wedi bod yn aelod eglwysig am 31 o flynyddau, ac yn pregethu am 22 o flynyddau.—(Geir. Byw., Aberdar.)

FYCHAN, GRUFFYDD, Arglwydd Glyndyfrdwy, yn Swydd Feirion, a Cynllaith, yn Swydd Dinbych, a briododd Helen, merch Eleanor Goch, yr hon oedd yn ferch i Catherine, merch y Tywysog Llewelyn. Efe oedd tad yr enwog Owen Fychan (Owen Glyndwr). (Yn yr hen amser, yr oedd Glyndyfrdwy ac Edeirnion, yn gwmydau gwahanol, ond yn awr y maent yn myned o dan yr enw Edeyrnion.)

FYCHAN, OWEN, alias OWEN GLYNDWR, Arglwydd Glyndyfrdwy. Mab ydoedd i Gruffydd Fychan ab Gruffydd, o'r Rhuddallt, ab Madog Fychan ab Gruffydd, Arglwydd Dinas Bran, ab Madog ab Gruffydd Maelawr, ab Meredydd ab Bleddyn ab Cynfyn. Ei fam ydoedd Elen, yr hon ydoedd o waed breninol, a merch hynaf Tomas ab Llewelyn ab Hywel, o'i wraig Eleanor Goch, yr hon oedd ferch ac etifeddes Catherine, un o ferched Llywelyn, tywysog diweddar y Cymry; wrth hyny yr oedd Owen yn dyfod o frenhinoedd Powys o du ei dad, ac o frenhinoedd Gwynedd o du ei fam. Ganwyd ef Mai 28ain, 1348, neu 1349, ymha le sydd ansicr. Yr oedd ganddo un llys yn Edeyrnion, tua phedair milldir o Gorwen, ac un arall yn mhlwyf Llansilin, Swydd Ddinbych, a elwir Sycharth. Yn 1400, cyhoeddwyd ef yn Dywysog Cymru, a chynhaliodd ryfel gwaedlyd â'r Saeson am 15 mlynedd. Y mae hanes bywyd Owen Glyndwr fel rhyfelwr, yn un o'r rhai mwyaf dyddorol, ac yn rhy lawn o helyntion i ni allu rhoddi crynodeb o honynt yma. Bu farw tua'r flwyddyn 1415, ond nid oes sicrwydd ymha le, nac ymha le y claddwyd ef. Y mae traddodiad yn nodi lle tua thair milldir o Gorwen fel mangre ei fedd.(Gwel Hanes y Cymry gan y Parch. Owen Jones; Ei Fywyd,' gan W. Owen, &c.)

GRIFFITH, Parch. THOMAS, a anwyd ar y 26ain o Fedi, 1792. Efe a argyhoeddwyd o'i gyflwr colledig dan weinidogaeth y diweddar Barch. J. Jones, Corwen, ac yn fuan ymunodd â chymdeithas y Trefnyddion Wesleyaidd, yn mis Tachwedd, 1811; ac yn y flwyddyn 1816, teimlodd ddymuniad i fod yn offeryn i droi pechaduriaid o gyfeiliorni eu ffyrdd, a dychwelyd at yr Arglwydd Iesu Grist, yr unig noddfa. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy ac yn fywiog a selog iawn yn y gwaith pwysig, Yr oedd ei ddawn fel pregethwr yn rhagori ar y cyffredin. Hunodd mewn gobaith o adgyfodiad gogoneddus, Tachwedd 20fed, 1836, yn 44 oed.—(Eurgrawn Wesleyaidd am Ebrill, 1839, tudal. 93.)

HUGHES, HUMPHREY, Ysw., ydoedd fab hynaf Rhisiart Hughes, o'r Gwernclas, yn Edeyrnion, a degfed arglwydd Cymer, ac a anwyd Awst 14, 1605. Gwnaed ef yn uchel sirydd Meirionydd yn 1670. Yr oedd yn ymroddgar a selog dros deulu breninol y Stewarts; oblegyd hyn y fforffetiwyd ei etifeddiaeth; ond etifeddianodd hwynt drachefn trwy dalu i Oliver Cromwel a'i gyngor y swm bychan o 333p. 10s. 9c. Priododd ferch ac etifeddes John Roper, o Bryntargor, yn Mryneglwys-yn-Ial. Bu farw Mai, 1682. —(G. Lleyn.)

HUGHES, THOMAS, ydoedd fab i Humphrey Hughes, o'r Gwernclas, ac 21ain Arglwydd Cymer, yn Edeyrnion, ac a anwyd Medi 10, 1628; a phriododd Mari, ferch John Griffith, o Hendreforfydd, Meirionydd. Priododd yr ail waith â Mari, ferch Thomas Griffith, Plas Einion, yn Sir Ddinbych. Addysgwyd ef i'r gyf raith, a gwnaed ef yn ddadleuydd. Ymenwogodd ei hun yn ei zel freiniol, ac ymroddodd fel cadben yn ngwasanaeth y brenin Siarl yr Ail.—(G. Lleyn.)

HUGHES, ROBERT, o'r Gwernclas, yn Edeyrnion, ydoedd 4ydd mab i Huw ab Huws o'r Gwernclas. Bu flynyddoedd yn ysgrifenydd teuluaidd i'r Clifforiaid tywysogaidd, Iarllod Cumberland; a chan y rhai yr ymddiriedid ef gartref ac ar led, ar genadaethau pwysig yn achos y llywodraeth yn gystal ag achos cyfrinachol. Priododd ferch i John Volpe, neu Iavanni Volpe, Meddyg Italaidd enwog, yn Tachwedd 2, 1601. Gwnaeth ei hun yn nodedig yn amser Elizabeth, trwy gyd—ymdeithio â Sior, Iarll Cumberland, y rhan fwyaf o'i deithiau morawl; ac yr oedd gydag ef yn cymeryd Portoucs, yn yr India. Bu farw Mawrth 21, 1641, yn 80 oed.

JONES, THOMAS, yr almanaciwr, a chyhoeddydd amrai lyfrau eraill, a anwyd, meddir, yn Nhre'r Ddol, ger Corwen, yn nghwmwd Edeyrnion, yn Sir Feirionydd, yn 1647. Dywedir iddo fyned i Lundain fel gwnïedydd (teiliwr), yn ddeunaw oed; lle y daeth hefyd yn fasnachydd o gryn fri. Arferai deithio trwy yr holl wlad, gan gadw ffeiriau Caerlleon, Amwythig, Gwrecsam, a Bristol. Yn y flwyddyn 1680, dechreuodd gyfansoddi a chyhoeddi Almanaciau, y rhai a alwai yn "Newyddion mawr oddiwrth y Ser." Efe oedd y cyntaf i gyhoeddi Almanaciau priodol; er y dywedir mai math o Almanac ydoedd y llyfr cyntaf Cymraeg, gan Syr John Price; ac yr oedd "Gwyddorion Naturiol, neu Brif—lyfr Newydd" Charles Edwards, yn cynwys dyddiau'r mis, &c., am dair blynedd; eto, nid hyny yn unig ydoedd y llyfrau hyn, eithr amrywiaethau eraill, a'r rhan galendraidd yn cael ei chysylltu, yn debyg fel y rhoddid y Wyddor, ac ychydig gyfarwyddiadau i ddysgu darllen, gydag agos bob llyfr Cymraeg gynt, er mwyn cyfleusdra i'r cyffredin, ac er mwy o anogaeth iddynt i'w prynu. Felly hefyd y rhoddid prif bethau mwyaf angenrheidiol Almanac, i'r un diben, yn gysylltiedig â rhai mân lyfrau. Ond T. Jones ydoedd y cyntaf i gyhoeddi blwydd—lyfrau rheolaidd o'r fath. Dilynwyd ef yn fuan gan eraill. Wedi i T. Jones roi ei fasnach heibio, efe a sefydlodd argraffwasg yn yr Amwythig, oddeutu y flwyddyn 1696, i gyhoeddi gweithiau Cymreig, y rhan fwyaf o'i gyfansoddiad neu ei gyfieithiad ei hun. Bu yn dwyn y gwaith o argraffu ymlaen yn Amwythig hyd 1713. Y mae ei Almanaciau ef yn rhai tra gwerthfawr, gan eu bod yn cynwys llawer iawn o bethau buddiol am yr oes hono—am ddynion, a phethau, nas ceir yn un man arall. Yn wir, byddai cronfa o'r hen Almanaciau yn hollol angenrheidiol i unrhyw un a gymerai arno ysgrifenu hanesiaeth yr oesoedd a aethant heibio.—(G. Lleyn). Rhoddwn yma rai o'r llyfrau yr oedd mwy o berthynas rhwng T. Jones â hwy nag argraffydd:—1. "Y Gymraeg yn ei Disgleirdeb, neu Helaeth Eir—lyfr Cymraeg a Saesneg, yn cynwys mwy o eiriau Cymraeg nag sydd yng Eirlyfr y Disgawdwr Sion Dafis o Gymraeg a Láding," &c. Amwythig, 1688; ail argraff gan Stafford Prys, Amwythig, 1760; trydydd argraff gan yr un (Stafford Prys), 1777. 2. "Unffurfiad," gan T. Jones, ynglŷn ag Articlau Crefydd Dr. Davies. 3. "Y Gwir er gwaethed yw, ac amryw o hen gywyddau;" Llundain, 1683; T. Jones oedd awdwr a chyhoeddwr hwn. 4. "Llyfr Gweddi Gyffredin," of gyfieithiad Thomas Jones, 1688. 5. "Carolau a Dyriau," &c.; ail argraff yn gyflawnach o lawer nag o'r blaen, gan Mr. T. Jones, 1696. 6. Artemidorus—Gwir Ddehongliad Breuddwydion," o gyfieithiad T. Jones, Amwythig (8 plyg), 1698." 7. "Llyfr o Weddiau Duwiol, yn cynwys ynddo fwy na saith ugain o Weddiau ar amryw achosion," &c., a gasglwyd allan o waith yr awdwyr goreu yn Saesneg, ac a argraffwyd yn Amwythig yn 1707, ac ar werth yno gan T. Jones. Yr oedd Mr. T. Jones yn argraffydd a chyhoeddydd ugeiniau o lyfrau Cymraeg, a gallasem enwi lliaws o honynt, ac ar y cyfrif hwn yr ydym wedi rhoddi iddo le ymhlith Enwogion Sir Feirionydd ar gyfrif y daioni a wnaeth i'w genedl yn yr adeg dywyll yr oedd yn byw ynddi. Hefyd, nid peth bychan oedd dringo i'r safle y daeth o'r lle y cychwynodd. 8. Dylasem grybwyll hefyd yr Almanaciau buddiol a gyhoeddodd yn flynyddol am amser mor faith, i ba rai yr oedd yn awdwr, &c.

IEUAN ab GRUFFYDD LEIAF, bardd rhwng 1500 a 1540. Y mae ei waith mewn ysgrifau. Yu ol "Beddau y Beirdd," yn Llandrillo y claddwyd ef.

JONES, Parch. EDWARD, 2il, gweinidog gyda'r Wesleyaid. Ganwyd ef yn ymyl Corwen, yn y flwyddyn 1775. Yn y flwyddyn 1801, daeth Mr. Bryan i bregethu i ardal Corwen, pryd yr argyhoeddwyd y brawd E. Jones o dan ei weinidogaeth lem. Ac yn fuan ymwasgodd â'r disgyblion. Yn 1803, dechreuodd bregethu. Yn 1804, aeth i'r weinidogaeth deithiol, pan y penodwyd ef i Sir Fôn. Un—flynedd—ar—ddeg y bu yn alluog i deithio; ond yn ystod y tymor byr hwnw llafuriodd yn Ne a Gogledd Cymru gyda chymeradwyaeth. Yr oedd ei ffordd i deyrnas nefoedd drwy lawer o orthrymderau. Gorfodwyd ef, o herwydd diffyg iechyd, i fyned yn uwchrif yn y flwyddyn 1815; a dioddefodd gystudd trwm am 23 o flynyddoedd. Gorphenodd ei daith mewn heddwch. Yr oedd o dymer naturiol dawel, ddiymhongar, ac enciliedig. Dywedir ei fod yn bregethwr rhagorol, ond fod ei lais yn hytrach yn wanaidd. Ymddangosodd llawer o benillion o'i waith o bryd i bryd yn yr Eurgrawn a'r Trysor i Blentyn. Bu farw yn y Faenol fawr, yn agos i Lanelwy, Ebrill 15fed, 1838, yn 63 oed, ac wedi bod yn y weinidogaeth 34 o flynyddau.—(Geir Byw., Aberdâr.)

MEIRION GOCH, boneddwr o Edeyrion, yn byw tua diwedd yr unfed-ganrif ar-ddeg. Cofnodir ef mewn hanes fel un wedi bradachus draddodi Gruffydd ab Cynan, brenin Gwynedd, i ddwylaw y Saeson, yn y flwyddyn 1079, y rhai a'i cadwasant yn ngharchar am flynyddau.—(Hanes Gruffydd ab Cynan; Myf. Arch., ii. 594.)

OWAIN BROGYNTYN, pendefig urddasol, ac Arglwydd Edeyrnion, ac yn byw tua diwedd y ddeuddegfed ganrif. Mab oidderch ydoedd i Madog ab Meredydd ab Bleddyn, tywysog Powys Fadog, a'i fam ydoedd ferch y Maer Du o Rug, yn Edeyrnion. Rhoddes ei dad iddo arglwyddiaeth Edeyrnion, yn Meirion, a'r cwmwd gerllaw a elwir Dinmael. Yr oedd palas Owain yn Mrogyntyn (Porkington) ger Croesoswallt; ac y mae olion ei aneddle i'w gweled hyd y dydd hwn, dan yr enw Castell Brogyntyn. Y mae llawer o brif deuluoedd siroedd Meirion a Dinbych yn olrhain eu hachau o hono. Gellir gweled ei ddagr a'i gwpan yn nghadw yn y Rug, ger Corwen, yn Edeyrnion.—(Gweler ei achau yn Heraldic Visitations Lewis Dwnn.)

OWEN, MATTHEW, bardd o Langar, yn Edeyrnion. Cafodd ei ddysgeidiaeth yn Mangor a Rhydychain. Yr oedd yn y lle olaf yn 1653. Y mae amryw ddarnau o'i waith yn y Blodeugerdd. Yr oedd hefyd yn awdwr ac yn chwareuydd interliwdiau, un yn rhanog â bardd arall o'r enw Sion Parry, o Gorwen, yn Edeyrnion.—(G. Lleyn.)

PARRY, JOHN, ydoedd frodor o Gorwen, yn Edeyrnion, ac a ystyrid yn fardd lled wych yn ei oes. Yr oedd yn cymeryd rhan yn Eisteddfod fechan Llansantffraid Glyn Ceiriog, yn 1743. Yr oedd yn gyfaill mawr i'r Parch. Edward Samuel, cyfieithydd Hanes y Ffydd, yr hwn a fu yn offeiriad plwyf cyfnesol Bettws Gwerfil Goch. Bu yn rhanog â'r Matthew Owen uchod, o Langar, mewn cyfansoddi ac actio interliwdiau; ond dywedir nad oes nemawr o dalent yn cael ei ddangos yn hono gan un o'r ddau.—(G. Lleyn.)

RHYS WYN AB CADWALADR, bardd o Edeyrnion, rhwng 1580 a 1640.

ROBERTS, Parch. ROBERT, oedd weinidog y Wesleyaid. Ganwyd ef mewn ffermdŷ o'r enw Bonwm, ar lan afon Dyfrdwy, ynghylch milldir a haner o dref Corwen, yn Edeyrnion, yn 1783. Yn y flwyddyn 1802 dechreuodd bregethu, ac aeth i'r weinidogaeth y flwyddyn ganlynol. Yn 1809 bu yn golygu yr Eurgrawn. "Bu yn dra diwyd yn ei holl waith. Yr oedd yn esboniwr teg a chroew o'r testyn a gymerai, a thrwy hyny efe a sicrhai amrywiaeth naturiol. Pe yr estynasid ei ddyddiau tybid y buasai yn un o'r pregethwyr mwyaf defnyddiol. Yr oedd yn araf, sobr, a rheolaidd; yn nerthol mewn iaith, yn wreiddiol yn ei faterion, yn naturiol ac yn felus iawn. Buasai ei bregethau yn rhy hir oni bai eu bod yn dda." Bu farw o'r darfodedigaeth, yn Nghaernarfon, Ionawr 16, 1818, yn 35. mlwydd oed, a'r 15 o'i weinidogaeth.

ROBERTS, Parch. ROBERT, gweinidog y Wesleyaid, a anwyd yn Hafotty, plwyf Gwyddelwern, yn Edeyrnion, tua'r flwyddyn 1809. Yn 1835 aeth i'r weinidogaeth, a bu farw yny flwyddyn ddilynol. Yr oedd ganddo feddwl grymus a threiddgar, cof da, a gwnai bob peth gyda pharodrwydd meddwl. Bu yn llafurus iawn mewn darllen a chasglu gwybodaeth; esiteddai i fyfyrio drwy gydol y nos, yr hyn, yn ddiameu, a effeithiodd yn dra niweidiol ar ei iechyd.

SAMUEL, Parch. EDWARD, offeiriad Bettws Gwerfil Goch, yn Edyrnion. Ganwyd ef mewn lle o'r enw Cwtydefaid, yn mhlwyf Penmorfa, yn swydd Gaernarfon, yn 1674. Dywedir mai mab i wr tlawd ydoedd; a phriodolir ei ddygiad i fyny i'r offeiriadaeth i nawdd a chefnogaeth y Dr. Humphreys, o'r Penrhyndeudraeth, sef esgob Bangor, yr un gwr ag a anogodd awdwr y Bardd Cwsg i gymeryd urddau Eglwysig. Cafodd bersonoliaeth Bettws Gwerfil Goch yn 1702, a bu yno am bedair-blyneddar-ddeg. Yn 1721 symudodd i Langar, yn yr un gymydogaeth, lle yr arhosodd hyd ddydd ei farwolaeth, yr hyn a ddigwyddodd Ebrill 8, 1748, ac efe yn 75 oed. Claddwyd ef yn mynwent Llangar, wrth ben dwyreiniol yr Eglwys, ac y mae ei gareg fedd yn aros yno hyd heddyw. Ysgrifenodd Edward Samuel lawer yn ei ddydd, a rhesir ef yn gyfiawn ymhlith ysgrifenwyr goreu y ddeunawfed ganrif. Yr oedd hefyd yn fardd o gryn gyfrifoldeb; a gellir gweled amryw engreifftiau o'i gynyrchion prydyddol yn Mlodeugerdd Cymru a'r Dewisol Ganiadau. Nid rhyw lawer o gyfansoddiadau gwreiddiol a gyhoeddwyd ganddo; ond gwasanaethodd ei oes a'i genedl trwy gyfieithu i Gymraeg lân ddiledryw lyfrau gwir werthfawr o ieithoedd eraill. A ganlyn sydd restr o'i weithiau llenorol :—1, "Bucheddau'r Apostolion a'r Efengylwyr, a gasglwyd allan o'r Ysgrythyr Lân, ac o ysgrifeniadau'r athrawon goreu," 1704. 2, "Gwirionedd y Grefydd Gristionogol," cyfieithiad o waith Hugo Grotius, 1716. 3, "Holl ddyledswydd dyn," o gyfieithiad Edward Samuel, 1718. 4, "Prif ddyledswyddau Cristion," &c., cyfieithiad, 1723. 5, "Athrawiaeth yr Eglwys," cyfieithiad, 1731. 6, "Pregeth ynghylch gofalon bydol," 1720. 7, "Pregeth ar adgyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist." 1766.—(Rhagymadrodd i argraffiad 1854 o Wirionedd y Grefydd Gristionogol, gan Hirlas.

WILLIAMS, Parch. ROBERT, A.M., oedd beriglor Llangar, yn Edeyrnion. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1748. Yr oedd yn awyddus iawn dros iaith ei wlad, ac yn medru ei hysgrifenu yn rhagorol o gywir, a byddai yn arfer barddoni yn bur dda. Testyn eisteddfod a gynhaliwyd yn Llangollen ar Ionawr 5ed, 1826, oedd marwnad i'r gŵr hwn. Gweinyddodd 55 mlynedd yn esgobaeth Llanelwy. Bu farw Hydref 6ed, 1825, yn 77 mlwydd oed.

WYNNE, Parch. ROBERT, Gwyddelwern, oedd offeiriad as bardd o gryn fri yn ei oes. Y mae ar gael o'i waith, "Marwnad ar ol y Frenhines Anne," a "Haf-gân yn amser Heddwch," yn y Blodeugerdd, tudal. 296—7. Cafodd ficeriaeth Gwyddelwern yn 1702 gan yr Esgob Jones. Pregethwyd pregeth angladdol iddo ar yr 2il o Fai, 1720, yn Eglwys Llangower, gan y Parch. Edward Samuel.

DOS. IV.

ENWOGION MAWDDWY.

(HEN A DIWEDDAR.)

Y mae Cwmwd neu Arglwyddiaeth Mawddwy yn gorwedd i'r dwyrain, rhwng Tal-y-bont, a Swydd Drefaldwyn, a chynwys ddau blwyf—Mallwyd a Llan-y-Mawddwy. Mallwyd a gynwys y Trefydd Degwm canlynol:—Gartheiniog, Nant-y-Mynach, Maes Glasau, Camlan, Gweinion, Mallwyd, Dugoed, Dinas Mawddwy, (tref farchnad fechan), a Ceryst. Yn Llan-y-Mawddwy y mae y rhai canlynol:—Cwm Cewydd, Cowarch, Llanerch Fyda, a Phenant; yn yr hon y tardd ffrwd afon Dyfi, ac yna llifa yn ddeheuol tua Swydd Drefaldwyn. Safai Castell y Ddinas gynt, gerllaw Pont Ffinant, islaw Dinas Mawddwy; ac y mae lle y castell hwn eto ar gael. Y mae hefyd ar gopa Moel Benddin, uwchlaw Aber Cowarch, le a elwir y "Castellau,"—crug o geryg wedi eu taflu ar eu gilydd yn aflerw ydynt. "Ymddengys fod yma ryw bryd amddiffynfa wedi cael ei gwneyd; a phan yr ystyriom ei sefyllfa fanteisiol, nid ydyw yn beth rhyfedd yn y byd i'r hen genedl filwrol osod gwylfa ar y fath le, a'i chadarnhau hefyd rhag ymosodiadau rhuthrol eu gelynion." Y mae lliaws mawr o olion henafol a hanesion dyddorol yn perthyn i'r Cwmwd hwn; ond gan nad yw yn perthyn i'n testyn fyned y ffordd hon, gadawn ar hyn. ―(Gweler " Arglwyddiaeth Mawddwy," gan y diweddar ddoniol Glasynys; Brython, Cyf. V., 435.)

DAVIES, Parch. DAVID, a anwyd yn Ty Uchaf, Mallwyd, Medi 13, 1778. Cafodd elfenau ei ddysg gan y Parch. Thomas Morgan, offeiriad Mallwyd, a thrwy ei ddiwydrwydd personol wedi gadael yr ysgol hono, daeth yn ysgolhaig eithaf digonol i fyned i ysgol Berriew, ac yna cafodd y ffafr o fyned i ysgol fawr yr Amwythig. Yno cyrhaeddodd ysgoloriaethau a'i cododd i Gaergrawnt yn 1798, yn ugain oed; lle y graddiwyd ef yn B.A. Ordeiniwyd ef i guradiaeth Llandyssil, Maldwyn, gan Dr. Bagot, Medi, 1807, am 30p. yn y flwyddyn. Bu wedi hyny yn gweinidogaethu yn Llan-y-Mawddwy, Meirion. Cyhoeddodd draethawd ar "Salmyddiaeth," yn 1807; ar "Heddwch a Chynhauaf drwg," yn 1818; ar "Y fantais o Addoliad Cyhoeddus," yn 1819; a chyhoeddwyd 21 o'i Bregethau, ynghyda Chofiant o hono, yn 1823.—(G. Lleyn M.S.S.; Geir. Byw. Lerpwl.)

DAVIES, DAVID, Cowarch, gerllaw Dinas Mawddwy. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1794, mewn ffarmdy o'r enw Nant hir, ar y ffordd rhwng Aberangell ac Aberllyfeni. Yr oedd ei dad yn aelod o eglwys y Parch. W. Hughes, yn y Ddinas; a'i fam yn aelod o eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Abercowarch. Cafodd y fraint o gael rhieni crefyddol iawn, felly cafodd yntau ddygiad i fyny crefyddol. Symudodd ei rieni o'r Nant hir i'r Ty mawr Cwmglanmynach, pan oedd ef yn dair oed; ac oddiyno i Ty'n y berth, Cowarch, ymhen dwy flynedd. Bu am ychydig fisoedd yn yr ysgol gyda Lewis Williams, Llanfachraith, pan oedd yn bur ieuanc, rywbryd rhwng 1806 a 1812. Bu L. Williams yn cadw "Ysgol Rad Cylchynol," dan arolygiaeth Charles o'r Bala, am dri mis yn Abercowarch, a'r tri mis dilynol yn Mallwyd. Dyna'r cwbl o addysg ddyddiol a gafodd. Er hyny meddai wybodaeth gyffredinol eang iawn, a dywedir ei fod yn hynod o graff ei sylw. Dechreuodd bregethu tua'r flwyddyn 1819, pan oedd tua 25 oed. Pan yn 28ain oed, priododd ferch i Job Miles. Symudodd o Ty'n y berth i'r Palasau, ger Llan-y-Mawddwy, yn 1845. Ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth, yn Nghymdeithasfa Machynlleth, yn 1848. Symudodd o'r Palasau i Nantyronog, oddiyno drachefn i Benygraig, gerllaw Mallwyd, lle y trigai hyd ei farwolaeth. Fel y canlyn y dywed y Parch. E. Williams, gweinidog yr Annibynwyr, Dinas Mawddwy, am dano:—" Ni chlywsom erioed gan neb y fath ffrydlif o hyawdledd byrfyfyr effeithiol ag a glywsom ganddo ef ar rai adegau yn yr adfywiad diweddaf. Ymdröai ynghanol y cyflawnder mwyaf amrywiol o sylwadau tarawgar, gwreiddiol, naturiol, ac i bwrpas. Lluchiai berlau teg fel ceryg, ac nid oedd dihysbyddu yn ymddangos arnynt. Yr oedd y meddwl fel yn gweled ymhob cyfeiriad, a'r tafod fel yn reddfol yn cipio pob meddwl i fyny, ac yn ei roi allan gyda'r hwylusdod a'r cywirdeb mwyaf. Dywedai y peth a fynai, ac fel y mynai, a phawb yn hoeliedig wrth ei wefusau, yn chwerthin ac yn crio bob yn ail. Yr oedd yn ddyn plaen, mynyddig, o athrylith hynod; eithr yr oedd yn rhaid ei glywed, a'i glywed lawer gwaith, a'i glywed yn ei hwyliau, er ffurfio meddylddrych priodol am dano."—(Gwel ysgrif ragorol ar "Dafydd Davis, Cywarch," yn y Traethodydd am y flwyddyn 1869, gan y Parch. F. Jones, Aberdyfi.)

DAVIES, EDWARD, gweinidog yr Annibynwyr, yn Smyrna, ger Croesoswallt, ydoedd frodor o ardal Dinas Mawddwy. Ganwyd ef mewn lle a elwir Galltafolog. Cafodd alwad gan yr eglwys oedd yn Cutiau, ger Abermaw. Aeth yno yn mis Mai, 1818, a chafodd ei urddo yr haf hwnw i gyflawn waith y weinidogaeth yn y lle. Efe a fu yn llafurus a llwyddianus am y pedair blynedd y bu yn llafurio yn y gymydogaeth hono. Ymadawodd oddiyno i Smyrna, yn y flwyddyn 1822, a'i goron yn ddisglaer ar ei ben. lle terfynodd ei yrfa yn orfoleddus.

DAVIES, JOHN, D.D. Y mae yn wir nad oedd Dr. Davies yn enedigol o swydd Feirion, eto pe y galwem ef yn Dr. Davies, Llanferres, swydd Ddinbych, yr ydym yn credu na wyddai neb yn y byd pwy a fyddai—byddai yn rhaid dyweyd Dr. Davies o Fallwyd, yna byddai i bawb wybod. Ganwyd ef yn Llanferres, ger y Wyddgrug, swydd Ddinbych, tua'r flwyddyn 1570. Mab ydoedd i Dafydd ab Sion ab Rhys, gwehydd, medd rhai, dilladydd, medd eraill. ́ Ond pa un bynag am hyny, ymddengys ei fod mewn sefyllfa gysurus, ac o waedoliaeth a theulu mwyaf pendefigaidd yn y wlad. Yr oedd ei dad yn hanu o Marchudd ab Cynan, a'i fam o Ednyfed Fychan; ac yn un o'i lythyrau, dyddiedig Awst 26ain, 1623, geilw Robert Fychan, o'r Hengwrt, yn gefnder (Yorke's Royal Tribes, a'r Cambrian Register, cyf. i., t.d. 158, a cyf. ii., t.d. 470). Dywedir yn gyffredin yn yr erthyglau sydd wedi eu hysgrifenu ar Dr. Davies iddo gael ei addysg foreuol yn Ysgol Ramadegol Rhuthyn, yr hon, meddir, a sefydlasid gan y Dr. Gabriel Goodman, ac mai un o'r athrawon oedd Dr. Richard Parry, yr hwn a fu wedi hyny yn esgob yn Llanelwy: a dywedir hyn hyd yn nod gan awdwr yr erthygl alluog sydd yn y Gwyddionadur ar Dr. Davies. Ond dywed y Parch. D. S. Evans na sefydlwyd Ysgol Ramadegol Rhuthyn gan y Deon Goodman cyn y flwyddyn 1595, a bod y Dr. wedi dyfod o Rydychain er's dwy flynedd cyn hyn, ac wedi bod yn Rhydychain bedair blynedd. Felly nas gallasai Davies dderbyn ei addysg yn ysgol fawr Rhuthyn, ond y gallasai fod yno ysgol enwog cyn i'r Deon sefydlu yr un bresenol. A dywed yr awdwr parchus yn mhellach na bu yr Esgob Parry erioed yn athraw yn Ysgol Rhuthyn, &c.; ac yr ydym braidd yn syrthio at Mr. Evans, oblegid nis gwyddom am neb mwy cymwys i farnu nag efe. Hefyd, y mae Dr. Davies ei hun, yn ei ragymadrodd i'w Eiriadur Cymraeg a Lladin, yn coffâu yn gynes enw Dr. Morgan fel ei hen athraw—" Enw yr hwn sydd hyfryd genyf ei draethu â'm genau; canys wrth draed y Gamaliel hwn y cefais fy addysgu a'm dwyn i fyny." Hynod na buasai yn crybwyll enw Dr. Parry hefyd fel ei hen athraw, os oedd wedi bod yn gyfryw iddo. Bu Dr. Davies yn gweinidogaethu am bymtheng mlynedd ar ol bod yn ngholeg yr Iesu, cyn myned i goleg Lincoln. Graddiwyd ef yn y cyntaf yn B.C., ac yn yr ail yn D.D., neu S.T.P., fel yr arferai ef eu defnyddio ar ol ei enw yn ei weithiau. Cafodd gan y Llywodraeth bersonoliaeth Mallwyd; a phan ddyrchafwyd Dr. Parry yn esgob cafodd ganoniaeth yn Llanelwy, a chyfnewidiodd hon am brebendariaeth Llanefydd, a phersonoliaeth Llan-y-Mawddwy, hefyd Darowain, yr hon a gyfnewidiodd am Lanfor, ger y Bala, a thybia rhai fod Garthbeibio ganddo hefyd. Dywed rhai fod Mallwyd, Llan-y-Mawddwy, Llanfor, a Llanefydd, ganddo ar yr un pryd. Ond fel hyn y dywed y Parch. D. S. Evans eto am ei berthynas â Llannefydd :"Y mae gwahaniaeth rhwng prependari mewn eglwys gadeiriol a pherson neu weinidog Eglwys plwyf. Nid oedd y berthynas leiaf rhwng y Dr. Davies â phlwyf, bywoliaeth, neu bersonoliaeth Llannefydd, er ei fod yn derbyn y corfydd a elwir Corfydd Llannefydd yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Tâl am weinyddu mewn Eglwys Gadeiriol yw corfudd neu brebend, ac nid am gyflawni gwasanaeth mewn Eglwys blwyfol." Priododd Dr. Davies, Sian, merch Rhys (John medd rhai) Wynn, Ysw., o'r Llwyn, yr hon oedd chwaer i wraig yr Esgob Parry. Ni chawsant blant, ac ail briododd hithau y curad, sef y Parch. Edward Wynn, A.C., mab i Edward Wynn, Ysw., o Fodewryd, Môn. Cafodd fywoliaeth Llan-y-Mawddwy ar farwolaeth Dr. Davies (Cambrian Register, 1795, t.d. 158). Dywedir i'r Dr. adeiladu tair o bontydd ceryg cedyrn yn y gymydogaeth, pa rai sydd yno eto i'w gweled; ail adeiladodd ganghell a chlochdy yr Eglwys, a chwbl adeiladodd y persondy sydd yno yn aros eto. Gadawodd yn ei ewyllys ardreth Dôl Dyfi i dlodion y plwyf tra bydd dwfr yn rhedeg, yr hon sydd o saith i ddeg punt y flwyddyn. Gadawodd y gweddill o'i diroedd i'w neiaint, sydd yn awr yn werth 300p. yn flynyddol. Yn awr rhoddwn restr mor gyflawn ag y gallwn o weithiau awdurol Dr. Davies :—Dywedir ddarfod i Dr. Davies fod yn gynorthwy mawr i Dr. Parry yn niwygiad cyfieithiad Dr. Morgan o'r Bibl, yr hwn a argraffwyd yn 1620. Tybia' rhai iddo gynorthwyo y Dr. Morgan pan oedd yntau yn cyfieithu, ond yr ydym yn tybied nas gallasai hyn fod, gan i'r argraffiad hwnw ddyfod allan yn 1588, pan nad oedd Davies ond 18 mlwydd oed. Yr ydym yn cael hefyd fod Dr. Davies yn fardd Lladinaidd. Y mae cân o'i waith yn The Map of Glanmorgan, yn anerchiad i'r awdwr, Lewis Roberts; argraffwyd yn Llundain, 1620. 1, Yn 1621 dygodd allan ei "Ramadeg o'r iaith Gymraeg yn Lladin." Argraffwyd ef yr ail waith yn Rhydychain, dan olygiad y Parch. H. Parry, ficer Llanasa, swydd Fflint, yn 1809. 2, Yn 1621 cyhoeddodd ei "Catecism." 3, Yn 1632 daeth ei brif waith allan, sef ei "Eiriadur Cymraeg a Lladin," yr hwn y bu yn llafurio wrtho am ddeugain mlynedd, a'r hwn a garia ei enwogrwydd ymlaen i'r oesau dyfodol. Talfyriad o waith mawr Dr. Thomas Williams, o Drefriw, ydyw yr ail ran o'r Geiriadur, sef y rhan Lladin a Chymraeg, ac nid llafur bychan a gafodd Dr. Davies gyda hwn. 4, Yn 1632 hefyd y daeth allan y "Llyfr y Resolution," yr hwn sydd yn dysgu i ni bawb wneuthur ein goreu," &c. Cyfieithydd oedd Dr. Davies. Ail argraffwyd ef yn 1684, ac argraffwyd ef y drydedd waith yn 1711. 5, Yn 1633 cyhoeddodd "Yr Hen Lyfr Plygain a'r Gwir Gatecism;" ail argraffwyd ef yn 1683. 6, Yn 1664 daeth allan yr "Articlau. Y namyn un deugain Articlau Crefydd. O gyfieithiad J. D. SS. T. P.," 4 plyg. Argraffwyd ef y drydedd waith yn 1710; ac ail argraffwyd ef rywbryd rhwng 1664 a 1710. Cyhoeddwyd ef hefyd ynglŷn â'r Llyfr Gweddi Cyffredin, yn 1710. 7, Yn 1710 hefyd y cyhoeddwyd y "Flores Poetarum Britannicorum: sef Blodeuog waith y Prydyddion Brytanaidd. O gasgliad J. D., SS.Th.D." "Yr oedd amser yn ol bregetbau o'i eiddo mewn llawysgrifen, yn llyfrfa Ysgol Ystrad Meurig, sir Aberteifi." "Y mae rhai ysgriflyfrau o farddoniaeth Gymreig yn llawysgrifen y Dr. Davies ar gadw yn y Gywreinfa Brydeinig yn Llundain." Yr oedd yn ysgolhaig mawr yn y Lladin, y Groeg, a'r Hebraeg, yn gystal a Chymraeg. Bu farw y 15fed o Fai, 1644, yn 74 oed; a chladdwyd ef yn nghanghell Eglwys Mallwyd, lle mae coflech hardd o fynor gwyn er cof am Dr. Davies, wedi ei gosod yn yr Eglwys. Y mae mewn hen ysgriflyfr, wedi ei ysgrifenu, y rhan fwyaf o hono, gan Robert Thomas, clochydd Llanfair-Talhaiarn, tua'r flwyddyn 1764, bedair Cywydd, ac un Awdl Moliant, i'r Dr. John Davies, o Fallwyd :—1, gan Ioan Kain, 1630; 2, gan Gruffydd Phylip; 3, Hysbysiad am Gywydd Rhisiart Llwyd; 4, gan Edwart Urien ; 5, yr Awdl gan Risiart Cynwal. (Yr ydym yn meddwl fod yr Hen Lyfr yn meddiant Mr. R. I. Jones, Tremadog, cyhoeddydd y Brython.) Rhoddwn yma ddarn o Gywydd Gruffydd Phylips:

"Mam a thad, mamaeth ydych
I'r Gymraeg, wir Gymro gwych;
Perffeithiast, nithiaist yn well
Y Bibl oll i'r bobl well—well;
Yn oes dyn trefnaist yna
Y llyfrau gweddiau'n dda;
Ni phrisiaist enw hoff rasawl,
Na phoen, na chost, ffeinwych hawl;
Brau y costiaist Sion, ffynon ffydd,
Braint da i ni brint o newydd ;
Hyn oedd ynn yn ddaioni,
I reidiau'd eneidiau ni."


HUGHES, Parch. WILLIAM, o Ddinas Mawddwy, hen weinidog parchus gyda'r Annibynwyr. Ganwyd ef yn Rhoscillbach, yn mhlwyf Llanystumdwy, Sir Gaernarfon, yn mis Mai, 1761. Derbyniwyd ef yn aelod yn Mhwllheli, pan ydoedd o gylch 20 oed, gan y Parch. Rees Harris; ac ymhen tua blwyddyn, anogwyd ef i ddechreu pregethu. Traddododd ei bregeth gyntaf yn capel newydd, Lleyn; ac wedi dechreu pregethu, treuliodd ychydig amser yn Llanuwchlyn, tan ofal addysgiadol y Parch. A. Tibbott, lle y cyrhaeddodd ychydig o elfenau addysg. Yn 1788, symudodd i Fangor i fod fel math o weinidog. Cyfarfu yno â. llawer o rwystrau. Yn 1789, ordeiniwyd ef mewn lle bychan o'r enw Caegwigin, ger Bangor. Bu yn llafurio yn Mangor a'r amgylchoedd, gyda diwydrwydd ac ymdrech mawr, hyd ddechreu 1797, pan y derbyniodd alwad i fyned a llafurio yn Ninas Mawddwy, a sefydlodd yno yn Mai. Parhaodd ei weinidogaeth yno am ysbaid 30 o flynyddau, yn ystod yr hwn amser y bu llwyddiant graddol a pharhaol ar yr eglwys. Ac adeiladwyd amryw gapelau. newyddion yn y cymydogaethau yn ystod ei weinidogaeth yno, a bu amryw o honynt o dan ei ofal fel gweinidog. Yr oedd Mr. Hughes yn bregethwr sylweddol ac ysgrythyrol, ac un a fu o fawr fendith i'w oes a'i genhedlaeth. Yr oedd hefyd yn fardd da yn yr arddull emynol, ac y mae aml emyn o'i waith mewn cryn fri yn ein canu cynulleidfaol—un o ba rai ydyw y penill tra adnabyddus hwnw, "Arglwydd, paid a gadael imi," &c., a chyfansoddodd amryw ganiadau duwiol—" Myfyrdod ar farwolaeth y Saint, a'u dedwyddwch yn y Nefoedd," yr hyn a achlysurwyd gan farwolaeth bachgen cu ac anwyl o'i eiddo. Ysgrifenodd Gofiant i'r Parch. Richard Tibbott:— "Coffadwriaeth am y Parch. Richard Tibbott, yr hwn a fu yn pregethu'r efengyl o gylch 60 mlynedd, ac a fu yn weinidog yn Llanbrynmair 35 mlynedd, &c.—Machynlleth, 1799. Yn 1790, priododd Mr. Hughes gyda Margaret, merch Ellis ac Ann Roberts, Tyn y ddol, ger y Bala. Bu iddynt ddeg o blant, tri o honynt a fu feirw yn eu babandod, ac y mae un o'r gweddill yn weinidog poblogaidd gyda'r un enwad, sef y Parch. Ellis Hughes, Penmain. Bu farw yn Rhagfyr 31, 1826.—(Gweler yn llawer helaethach yn Geir. Byw. Aberdar, a'r Geir. Byw. Lerpwl.)

HUGHES, Parch. DAVID, oedd bregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Llanrwst, Sir Ddinbych. Ganwyd ef yn Ninas Mawddwy, Sir Feirionydd, yn y flwyddyn 1775. Bu ei rieni farw pan oedd ef yn ieuanc, o ganlyniad, arweiniodd rhagluniaeth ef dan ofal gŵr crefyddol, Mr. Humphrey Edwards, o'r Bala, dan olygiaeth yr hwn y dysgodd efe y gelfyddyd o alcan-ôf (tinman). Yn nheulu y gŵr da hwn y, cafodd flas ar foddion gras a darllen y Bibl; teimlodd ddylanwad y gwirionedd ar ei galon; mewn canlyniad, ymunodd â'r Trefnyddion Calfinaidd yn y Bala. Wedi. dyfod yn rhydd o'i egwyddor—wasanaeth, priododd ferch ei feistr, a symudodd i Lanrwst pan yn 19eg oed, a dechreuodd bregethu ymhen tair blynedd. Derbyniwyd ef yn rheolaidd i'r gymdeithasfa yn Nghaernarfon yn y flwyddyn 1799. Yr oedd ei ddoniau gweinidogaethol yn gymeradwy iawn gan y saint, ac yntau yn barchus gan y lliaws o'i frodyr. Yr oedd llawer o hynodion yn cydgyfarfod ynddo. Yr oedd o duedd tra ymofyngar a llafurus. Casglodd ystôr o wybodaeth gyffredinol, y fath na wneir ond anfynych o dan y fath anfanteision. Ychydig ymhlith y lleygion a feddai fwy o ddefnyddiau cymdeithas nag ef. Llanwai le mawr hefyd fel gwladwr, a rhoddid ymddiried cryf yn ei farn. Dewisid. ef yn fynych yn gyfryngwr rhwng pleidiau a fyddai mewn ymrafael, a llawer gwaith y llwyddodd i heddychu pleidiau gwrthwynebol. Teimlodd trigolion Llanrwst a'r gymydogaeth golled fawr ar ei ol fel gwladwr a dinesydd. Yr oedd yn rhagori o ran ei gymhwysder a'i ddefnyddioldeb yn y gymdeithas eglwysig; yr oedd ei sylwadau yn agos, a gallu ei gynghorion yn ddoeth, a'i rybuddion yn rymus. Collodd yr eglwys yn Llanrwst yuddo ef fugail cyfarwydd, brawd ffyddlon, a thad gofalus, a theimlwyd y golled am hir amser. Gorphenodd ei yrfa yn fuan, machludodd ei haul yn gynar ar y 25ain o Fawrth, 1817, yn 42 mlwydd oed. Claddwyd ef yn nghladdfa Capel Seion, yn Llanrwst. —(Geir. Byw., Aberdar.)

JONES, HUGH, a anwyd yn Maesglasau, gerllaw Dinas Mawddwy, tua'r flwyddyn 1750. Cadw Ysgol Symudol yn y cyffiniau, ar derfyn Siroedd Meirionydd a Threfaldwyn, yr oedd Hugh Jones; a byddai hefyd yn gwerthu llyfrau yn y cymydogaethau lle y byddai, dros argraffwyr a llyfrwerthwyr yn y Mwythig. Gellir yn eithaf priodol ei alw yn llenor; canys bu o'i febyd i'w fedd yn ymdrafod â llyfrau. Bwriadai ei rieni unwaith ei ddwyn i fyny yn weinidog i'r Eglwys Sefydledig, fel y dygasant ei frawd, y diweddar Barch. D. Jones; ac anfonwyd yntau i'r ysgol ragbarotoawl a hyny; ond gan yr ystyriai ef hyny yn ormod o gaethiwed ar ei dueddfryd naturiol, efe a roes yr ymgais i fyny. Cynygiwyd iddo lawer sefyllfa o elw lawer gwaith, ond gwrthodai bob amser bob cynygiad o'r fath, fel y gallai fod yn rhyddach i ymwneyd â llenyddiaeth Gymreig, ac i beidio ag ymdrafod â therfysg y byd, i'r hyn yr oedd ganddo fawr wrthwynebiad. Yr oedd yn nyddiau ei ieuenctyd yn dra hoff o brydyddu, a byddai yr holl gymydogaethau yn adseinio ei benillion. Yr oedd yn meddu cryn lawer o chwaeth i gyfaddasu ei gyfansoddiadau i chwaeth yr oes, pan oedd y dull chwareuol yn boblogaidd yn y Dywysogaeth. Yr oedd hefyd yn hyrwydd mewn cerddoriaeth eglwysig, neu Salmyddiaeth. Ond y rhan fwyaf o'i lafur, fel y gwelir, a fu cyfieithu a chyhoeddi traethodau yn Gymraeg, yn benaf traethodau duwinyddol. Ond i goroni ei holl lafur, efe a gyfieithodd waith Josephus i'r Gymraeg, a'r hwn a gyhoeddwyd. Ei waith ef ydoedd "Myfyrdodau ar dymhorau'r flwyddyn"; Gair yn ei amser"; "Gardd y Caniadau," &c.; "Myfyrdod ar Ddamhegion a Gwyrthiau ein Harglwydd Iesu Grist; "Hanes Daeargryn ofnadwy a ddigwyddodd yn Itali." Cyfieithodd "Marweiddiad pechod mewn Credinwyr," gan John Owen; "Cadwedigaeth trwy Ras;" a'r "Porth Cyfyng," dau lyfr o waith John Bunyan; "Meddyginiaeth Teuluaidd." Dechreuodd hefyd gyfieithu Esboniad y Parch. Matthew Henry, ac aeth mor bell a Lefiticus, ond oblegid maint y gwaith a'i oedran mawr yntau, bu gorfod iddo roddi y gwaith heibio. Yr oedd ganddo hefyd mewn llaw gyfieithiad o'r "Byd a ddaw," gan y Dr. Watts, pan y rhoes angau derfyn ar ei einioes, yn Ninbych, lle yr ydoedd fel darllenydd yn swyddfa argraffu Mr. Gee, yn 1825, yn 75 oed, a chladdwyd ef yn mynwent yr Eglwys Wen, ger y dref hono.—(G: Lleyn.)

JAMES, JOHN, neu "Ioan Meirion." Arddengys bywyd Ioan ddiwydrwydd yn haeddu ei efelychu. Pan oedd yn fachgen tua chartref nid oeddys yn meddwl y gwnai nemawr fyth tuag at enwogi ei hun. Ond ar ol treulio y rhan gyntaf o'i oes gartref trodd ei wyneb tua Llundain; ac, fel llawer bachgen ieuanc o Gymru yn y Brif-ddinas, daeth ymlaen yn rhyfeddol. Yr oedd Ioan yn wladgarwr twymgalon, a safai yn ëon yn erbyn y pethau a gredai oedd a thuedd ynddynt i dynu gwarth ar ei gyd-genedl. Pan ddaeth y dirprwywyr i ymholi i sefyllfa addysg yn Nghymru fe benodwyd Ioan yu un o'r cynorthwywyr; ac er na chafodd ein gwlad gyflawn chware teg gan y Dirprwywyr y pryd hwn, eto nid. ydym mor haerllug a gwadu nad oedd llawer iawn o wir yn yr hyn a ddywedwyd. Cafodd Ioan ar ol hyn swydd yn Llundain' sef bod yn Ysgrifenydd i'r Ysgol Gymraeg, a chyflawnodd ei swydd gyda zel a llwydd neillduol. Bu am dymor yn olygydd i newyddiadur Cymraeg o'r enw Y Cymro. Bu farw yn ŵr canol oed, yn bur ddisymwth, oherwydd iddo gael ei daro gan geffyl, pan yn rhoddi tro yn Blackheath, gerìlaw Llundain, a bu farw ymhen ychydig ddyddiau. Gorchymynodd yn benodol gael ei gladdu yn mynwent Llanymawddwy, o dan yr "ywen werdd ganghenog," a gwnaed ei gais, ac yno y mae yn gorphwys. Heddwch i'w lwch !—("Arglwyddiaeth Mawddwy," gan Glasynys, yn y Brython, cyf. v. t.d.)

JONES, ROWLAND, neu Gwybedyn." Nid oes genym fawr o hanes y gwr hwn; gallwn dybied ei fod yn fardd a llenor gwych. Dywed Glasynys ei fod yn Llywydd i'r Gwyneddigion, yn y flwyddyn 1788; ei fod yn wladgarwr gwresog, ac iddo barhau yn aelod o'r gymdeithas uchod hyd ei fedd.

MAWDDWY, SION, bardd o fri, a flodeuai o 1560 i 1590. Yr oedd yn un o'r beirdd gwyddfodol yn ngorsedd Morganwg yn y flwyddyn 1580; ac y mae llythyr dyddorol o'i eiddo, dyddiedig yn y flwyddyn hono, wedi ei argraffu yn y Greal, 207. Y mae rhai o'i gynyrchion ar gael mewn llawysgrifau.

MAWDDWY, Syr LEWIS, duwinydd a phrydydd, a flodeuai rhwng 1580 a 1620, yn ol y Cam. Biog., ond Moses Williams, yn ei Index Poemaiam, a'i gesyd yn 1460. Mae rhai o'i gerddi ar gael mewn llawysgrifau.

MAWDDWY, MORUS, neu "Morus ab Llewelyn," a elwir hefyd Morus Meudwy, ydoedd fardd yn byw rhwng 1540 a 1570. Y mae rhai o'i ganiadau ar gael.

WILLIAMS, Parch. JOHN, (AB ITHEL), a anwyd yn y flwyddyn 1811. Methasom gael gwybod ymha le y ganwyd ef, ei hanes boreuol, a pha bryd yr urddwyd ef, &c. Efe a fu am flynyddau meithion yn gweinidogaethu yn Llanymawddwy, mewn modd poblogaidd, cymeradwy, a defnyddiol. Ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth yr oedd wedi symud o Lanymawddwy i Lanenddwyn, yn Ardudwy, ac ar y 27ain o Awst, 1862, efe a aeth i ffordd yr holl ddaear, a hyny er galar mawr i holl gefnogwyr a hoffwyr llenyddiaeth Gymreig. Dygwyd ei gorff allan o bersondy Llanenddwyn, a chladdwyd ef yn mynwent Llanddwywe Cymerwyd y gwladgarol, y dysgedig, yr athrylithgar, a'r llafurus Ab Ithel, oddiar ei gyfeillion yn nghanol ei ddyddiau a'i ddefnyddioldeb, ac yn yni a grym bywyd—nid oedd ond un-ar-ddeg-a-deugain oed. Yr oedd yn adgyfodwr y tô presenol o Eisteddfodau yn Nghymru. I lenyddiaeth Gymreig, bu ei lafur yn annhraethol werthfawr; er cymaint a wnaeth yr oedd yn parhau o hyd yn llafurus gyda'r gangen hon, ac yn ddiddadl yr oedd y dyfodol yn doreithiog o flaen llygaid ei feddwl, a gwaith mewn bwriad ganddo i'w gyflawni, cyn cyraedd tir machlud haul.

WILLIAMS, Parch. ROWLAND, periglor Ysgeifiog, a chanon yn Llanelwy. Ganwyd ef yn Mallwyd, yn arglwyddiaeth Mawddwy, yn Mawrth, 1772, a derbyniodd ei ddysgeidiaeth yn Ysgol Ramadegol Rhuthyn. Symudodd oddiyno i Goleg yr Iesu, Rhydychain, lle yr enillodd ysgoloriaeth, ac y derbyniodd y radd o B.A., yn Ionawr, 1802; ac M.A., yn Ionawr, 1805. Ar ol ei ymadawiad â'r Brifysgol, cawn ef yn ail athraw Ysgol Ramadegol Bangor, ac yn gwasanaethu Eglwys Llandegai. Yr oedd yn rhaid fod Mr. W. wedi cyraedd gradd uchel mewn dysgeidiaeth cyn y cawsai ei ddewis i'r swydd a lanwai yn Ysgol Bangor; fel prawf ychwanegol o hyn, penodwyd ef yn gaplan i'r Dr. Cleaver, Esgob Bangor ar y pryd. Ar symudiad yr Esgob i Lanelwy, aeth a Mr. W. gydag ef, a rhoddodd iddo berigloriaeth Cilcain, Swydd Fflint. Yn 1809, rhoddwyd iddo ganoniaeth yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy. O Cilcain, symudwyd ef i Helygen, yn yr un sir; ac oddiyno dyrchafwyd ef gan Esgob Luxmoore i berigloriaeth Meifod, lle y treuliodd 17 o flynyddoedd. Yn 1835, penodwyd ef gan yr Esgob Carey, yn beriglor Ysceifiog, ac yno y bu farw, Rhagfyr 28, 1853, ac yno y claddwyd ef. Yr oedd Mr. W. yn ŵr mawr mewn amryw ystyriaethau. Yr oedd ei adnabyddiaeth o'r Groeg a'r Lladin yn gywir braidd i berffeithrwydd. Anfynych iawn y cyfarfyddid â neb ag yr oedd ei wybodaeth gyffredinol yn fwy helaeth; ymddiddanai yn ddysgedig ar unrhyw destyn gyda'r parodrwydd mwyaf; ac fel duwinydd hefyd safai yn dra uchel. Meddyliem na chyfeiliornem wrth ddywedyd ei fod yn un o brif Gymreigwyr ei oes. Ysgrifenodd lawer i'r Gwyliedydd, a'r Cambro Briton, &c. Ysgrifenodd hanes bywyd Peter Roberts, yr hynafiaethydd; a Chofiant i'r Esgob Griffith. Fel offeiriad, yr oedd yn fugail i'w braidd mewn gwirionedd; yn eu harwain mewn pethau ysbrydol, ac yn eu cynghori a'u cynorthwyo mewn pethau tymhorol—yn gydymaith i'r cyfoethog, ac yn gyfaill i'r tlawd. Priododd yn ieuanc gyda Jane Wynne, merch y Parch. H. Wynne Jones, o Dreiorwerth, Môn; bu iddynt amryw blant, a'r ail fab oedd y

WILLIAMS, Parch. ROWLAND, D.D., un o'r rhai enwocaf a fagodd Cymru er's llawer oes. Daeth yn hyddysg yn yr ieithoedd clasurol pan yn ieuanc iawn. Pan yn 10 oed, aeth i Ysgol Eton; ac aeth oddiyno i Gaergrawnt. Wedi gorphen ei amser yn y Brifysgol, etholwyd ef yn Gymrawd o'i Goleg, ac yno y bu am dymor yn addysgu eraill gyda deheurwydd a llwyddiant anarferol Yr oedd Dr. Williams hefyd yn enwog iawn fel awdwr. Y mae ei "Gristionogaeth a Hindwaeth," yn profi yn eglur fod ynddo allu i dreiddio a myned yn ddwfn. Dygodd allan gyfrolau o farddoniaeth dan yr enw Lays of the Cymbric Lyre." Ond nid fel bardd yr oedd y Dr. yn rhagori, ond fel athronydd. Y mae ei erthyglau yn y Quarterly Review, &c., yn dangos gallu anghyffredin. Dygwyd ef i sylw arbenig yn ymddangosiad yr "Essays and Reviews," a'i gyfrol pregethau a elwir yn "Rational Godliness." Ni ddywedwn ddim am iachusrwydd yr ymborth sydd yn y cyfrolau hyn; ond dywedwn fod ynddynt amlygrwydd o ysgolheigdod a gallu na chyfarfyddwn ond pur anfynych a'r cyffelyb. Bu am ysbaid yn athraw yn Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr, a dywedir na bu un athraw yn un man erioed a hoffid yn fwy na Dr. Rowland Williams gan ei ysgolheigion; ac y medrai ef eu trin fel plant, a'u dysgu fel tad. Cyhoeddodd liaws o lyfrau ar wahanol bynciau yn ddiweddar, a'r peth olaf a ddygodd allan o'r wasg oedd cân o'i eiddo ar "Owain Glyndwr." Yr oedd yn Gymro pur, er na fedrai siarad y Gymraeg yn rhugl. Yr oedd ei enaid yn llawn o dân gwladgarol, a'i ysbryd yn frwd dros hen wlad ei dadau. Bu farw Ionawr 13, 1870.

DOS. V.

ENWOGION MEIRIONYDD.

(HEN A DIWEDDAR)

Y mae Cantref Meirionydd, yn cynwys dau Gwmwd, Estymaner, a Thalybont. Cynwys Arglwyddiaeth Estym bedwar plwyf, Pennal, Towyn, Llanfihangel-y-Pennant, a Thalyllyn. Cwmwd neu Arglwyddiaeth Talybont a wahenir oddiwrth Estymaner gan yr afon Dysyni, ac y mae ynddo bedwar o blwyfydd: Llanegryn, ́ Llangelynin, Dolgellau, a Llanfachreth. Yn mhlwyf Pennal gerllaw yr Eglwys, y mae llanerch a elwir Cefn Caer, lle y cafwyd yn ddiweddar ddarn o arian, ac arno enw Domitian, yr ymerawdwr, yr hyn sydd yn cadarnhau enw henafol y fan, Y Maes ym Mhennal. Yn gyfagos i'r fan yma yr ymladdwy'd brwydr Pennal, yn nyddiau Iorwerth y Pedwerydd, rhwng gwŷr Gwilym, Iarll Penfro, â Thomas Gruffydd ab Nicholas, o blaid tŷ Caerwerydd, pryd yr enillodd y dywededig Thomas y fuddugoliaeth. Yn mhlwyf Llanfihangel, ar lan yr afon fechan Llaethnant, yr oedd castelly Biri. Tybir mai Iarll Caerlleon, pan oedd Gruffydd ab Cynan, Tywysog Gwynedd, yn garcharor ganddo, a adeiladodd y castell hwn; canys ni gawn yn hanes bywyd Gruffydd ab Cynan i'r Iarll adeiladu llawer o gestyll yn Ngogledd Cymru, ac un yn swydd Feirion; ac os nad hwn yw hwnw, nis gwyddom pa un' ydyw ef. Thomas Walsingham a ddywed, ar ol marwolaeth Leoline (1284) ddarfod i Iarll Penfro gymeryd y castell oddiar y tywysog dywededig. Yn mhlwyf Talyllyn y mae Llyneingul yr hwn sydd filltir o hyd, oddiwrth yr hwn y cafodd y plwyf ei enw, o'r hwn hefyd y mae afon Dysyni yn cymeryd ei rhedfa i'r môr. Yn mhlwyf Celynin y canfyddir adfeiliau Caer Bradwen. Y Bradwen hwn oedd dad i Ednywain ab Bradwen, yr hwn oedd un o bymtheg llwyth Gwynedd. Yn nghantref Meirionydd y mae y mynydd ardderchog Cadair Idris yn sefyll, yr hwn na rydd y flaenoriaeth i un mynydd yn Nghymru oddieithr y Wyddfa. Yn mhlwyf Llanfachreth, ar lan afon Mawddach, gyferbyn a Llanelltud, yn Ardudwy, y saif mynachlog Cymmer, a seiliwyd gan Meredith a Gruffydd, arglwyddi Meirionydd, a meibion Cynan ab Owen Gwynedd, tywysog Gwynedd, yn 1198. Ar fryn bychan, gerllaw yr hen fynachlog hon, a elwir Pentref, safai unwaith Gastell Cymmer, yn swydd Feirionydd, yr hwn a ddymchwelwyd gan feibion Cadwgan ap Bleddyn, yn 1113, oblegid rhyw anghydfod rhyngddynt hwy â meibion Uchdryd ab Edwin, y rhai a'u hadeiladodd.

ANWYL, Parch. EDWARD, oedd fab i Owen ac Ann Anwyl, o'r Ty'nllan, Llanegryn, yn swydd Feirion, lle y ganwyd ef Ebrill, 1786. Ymunodd â'r Wesleyaid yn 1804. Daeth yn fuan yn ddyn o sylw, ac anogwyd ef i arfer ei ddawn yn gyhoeddus yn 1808. Bu yn cadw ysgol Gymreig yn Penrhyndeudraeth am ychydig fisoedd, a galwyd ef i'r weinidogaeth amdeithiol yn Awst y flwyddyn hono. Maes cyntaf ei lafur oedd Môn. Yn 1814 priododd âg un Miss Matthews, o Drelai, Morganwg; a bu iddynt un-ar-ddeg o blant. Yr oedd o gyfansoddiad cryf, esgyrniog, di-gnawd, ac yn gerddwr anghyffredin. Yr oedd yn ddarllenwr mawr, a chanddo gof cryf, felly yn hanesydd goreu y Dywysogaeth. Fel duwinydd yr oedd yn feddyliwr dwfn a goleu. Bu yn pregethu yn rheolaidd hyd y flwyddyn 1854, a bu yn gadeirydd talaeth Gwynedd am rai o'r blynyddoedd diweddaf. Bu wedi hyny yn cyfaneddu yn Rhuthyn a Threffynon, a bu farw yn y lle olaf, mewn llawn fwynhad o'r gobaith gwynfydedig, Ionawr 23, 1857, yn 71 oed. Nid ydym yn gwybod ddarfod iddo gyhoeddi dim o'i eiddo drwy y wasg, ond ambell i erthygl yn awr ac yn y man yn yr Eurgrawn Wesleyaidd.—(Eurgrawn Wesleyaidd, 1858, t.d. 101, 109, 146.)

BLEDDYN AB CYNFYN, o'r Nannau, a gafodd Dywysogaeth Gwynedd ar farwolaeth ei haner brawd, Gruffydd ab Llewelyn, tua'r flwyddyn 1066; a Rhiwallawn ei frawd yr un pryd a gafodd Dywysogaeth Powys. Ond ar gwymp yr olaf mewn brwydr daeth Powys hefyd i feddiant Bleddyn :

"Bleddyn ab Cynfyn bob cwys
Ei hun biodd hen Bowys."

Yr oedd yn feddianol ar lawer o rinweddau; yn dilyn cyfiawnder, ac uniondeb; ac yn hael a chymwynasgar. Cynhaliai gyfreithiau y wlad, ac adgyweiriai ddefodau y beirdd. "O. C. 1073 y daeth Rhys ab Owain ab Edwin, o Fanaw; a chan gael ei gynorthwyo gan liaws o bendefigion Ystrad Tywi a Brycheiniog, efe a barodd lofruddiad y Tywysog Bleddyn ab Cynfyn, trwy gweryl cyfrinachol yn Nghastell Powys." (Brut.; Geir. Byw., Lerpwl.) Yr ydym yn cael mai prif aneddle Bleddyn ab Cynfyn, yn gystal a'i fab Cadwgan, a'i fab, a'i ŵyr, a'i orwyr yn olynol, oedd Nannau, ger Dolgellau; ac y mae lliaws o deuluoedd ein gwlad yn dilyn eu hachau iddo, megis y Fychaniaid Corsygedol, Fychaniaid o'r Nannau, a'r Hengwrt, Rug yn bresenol, a'r Llwydiaid Cwmbychan, Ardudwy, &c., hefyd Fychaniaid Caergai, &c.

CADWGAN, ail fab Bleddyn ab Cynfyn, tywysog Powys, yr hwn a olynodd ei dad ar orsedd y dywysogaeth hono yn y flwyddyn 1073. Un o brif aneddau Cadwgan oedd gerllaw, Dolgellau, am hyny âchwyr a'i galwent "Cadwgan o Nannau." Yn 1092, efe a orchfygodd y Normaniaid yn Neheubarth Cymru; a thrachefn, mewn brwydr, arall, trechodd fyddin fawr o'r un gelynion, y rhai a gadgyrchasant i Ogledd Cymru. Gwedi sicrhau ei feddiant yn Ngheredigion efe a wnaeth yn Nadolig y flwyddyn 1107 wledd ardderchog yn Nghastell Aberteifi, ac a wahoddodd dywysogion, penaethiaid, a goreugwyr o bob parth o Gymru, ynghyd ag enwogion o feirdd a cherddorion tafod a thant, yn ol rheolau a defodau llys Arthur, y rhai, ar eu hymadawiad, a wobrwywyd yn anrhydeddus. Ond bu y wledd rwysgfawr hon yn achlysur i ddwyn ar Cadwgan drychineb dwys, nid llawer llai na dinystr. Ymhlith y dyledogion ŵyr ar a wahoddasid yno yr oedd Owain ab Cadwgan, yr hwn a gyrchwyd yno o Bowys; ac ymhlith y gwahoddedigion hefyd yr oedd Nest, merch Rhys ab Tewdwr, a gwraig Gerallt Windsor, ceidwad Castell Penfro. Swynoglwyd Owain gan lendid Nest, ac efe a'i canlynodd hi i Gastell Penfro yr hwn a gyrchwyd, a oresgynwyd, ac a losgwyd ganddo; gorfu ar Gerallt ffoi am ei einioes yn nhrymder y nos, a dygodd yntau Nest i Bowys, megis gynt y dygwyd Ellen,

"Yr hon a beris yr ha
A thris rhwng Groeg a Throia."

o dir ei gwlad i ddinas anorfod Llion. Dygodd y weithred ysgeler hon y tad diniwed i ddyryswch a thrallod, a gorfu arno ef, ynghyda'i fab camweddog, ffoi i Iwerddon rhag byddin a arweinid yn ei erbyn gan ei ddau nai, Ithel a Madog, meibion Rhiryd ab Bleddyn, y rhai a oresgynasant ei diriogaethau ar anogaeth Harri, brenin Lloegr. Pa fodd bynag, ni bu hir encil Cadwgan, canys dychwelodd yn y flwyddyn ganlynol; ac wedi profi o hono ei ddiniweidrwydd caniataodd Harri iddo adfeddianu y rhan fwyaf oi diriogaethau yn Mhowys, ond iddo dalu cant o bunau o iawn, ac na chaniatai i'w fab Owain ddychwelyd. Daliodd ei dir yn erbyn holl ymosodiadau ei neiaint, hyd y flwyddyn 1110, pan y rhuthrwyd yn ddisymwth arno gan Madog, yn y Trallwng, ac y lladdwyd ef ganddo cyn gallu o hono dynu ei gleddyf i'w amddiffyn ei hun.—(Brut. y Tywysogion; Wms. Em. Welsh; a Geir. Byw. Liver. ac Aber.)

CADWALADR, Syr RHYS, neu "Rhys y Gadair," o'r College' yn nhref Conwy, oedd yn ei flodau yn 1680, fel mae yr englynion a gânt i'r "Seren Losgyrnog Fawr," a ymddangosodd yn y flwyddyn hono yn profi. Gan fod Cadwaladr yn cael ei ysgrifenu weithiau yn "Cadr," mae rhai wedi ei alw Rhys y Gadair," gan dybied ei fod yn enedigol o gyffiniau Cader Idris. Dichon mai Meirionwr ydoedd. Y cwbl a wyddom am Syr Rhys ydyw ei fod yn wr eglwysig, yn byw yn y College yn nhref Conwy, ar ymddangosiad y seren a nodwyd; a'i fod yn fardd celfyddgar, awenyddol, a dysgedig, mal y prawf ei gyfieithiad o Horace, Llyfr I. Cerdd 22.

I ddyn a'i fuchedd yn dda,
Trwy fywyd, nid rhaid fwa
Na saeth, i amddiffyn ei swydd,
Nac oedran, ond diniweidrwydd:
Nid mynydd serth, trafferth,, trwch,
Mor niwliog, mawranialwch—
Nid llew o goed, nid all gwyr,
Ar osteg iddo rwystyr.
Llew a'm cyfarfu mewn llwyn,
Mawr, wrth glodfori morwyn;
Hwn a ffôdd ac a drôdd draw
Yn ol rhag ofn fy nwylaw.
Anghenfil nad ofnadwy!
A'i lodau mawr, a'i lid mwy.
Ni ddaeth erioed o goed y gell,
Ni ddychwel un mwy'i ddichell.
Rhowch fi mewn man heb blanwydd,
Heb wlad deg, heb weled dydd,
Na lloer, na gwres tês na'r tân,
Ond tywyllwch tew allan.
Rhowch fi tan wres haul tesboeth
I gwr y byd, ac awyr boeth
Yno y canaf, nwyf cynes,
Dy foliant di o flaen tês.

Syr Rhys y Gader a'i cânt, 1644.


DAFYDD IONAWR, (David Richards) ydoedd fab i John a Catherine Richards, o Lan y morfa, ger Tywyn Meirionydd, lle y ganwyd ef yn 1752. Pan yn 14 oed, cymerwyd sylw o hono gan y Parch. E. Evans, (Ieuan Brydydd Hir), yr hwn oedd y pryd hyny yn gurad y plwyf hwnw, ei fod yn fachgen o athrylith, ond iddo gael meithriniad; a chafodd gan ei dad ei anfon i ysgol Ystrad Meurig, dan ofal Edward Richard, lle yr enillodd radd dda mewn gwybodaeth. Bu am beth amser mewn ysgol yn Ngwrecsam; ac wedi hyny efe a anfonwyd i Rydychain, ond ni arosodd yno i gael graddau, dychwelodd i gynorthwyo Mr. Tisdale, i Groesoswallt. O Groesoswallt efe a symudodd i Gaerfyrddin, i gynorthwyo y Parch. W. H. Barker, y ficer, yn yr ysgol yno. Bu wedi hyny yn cadw ysgol yn Nhywyn a Dolgellau. Felly, cafodd gychwyniad da gyda ysgoleigion penaf yr oes hono; a daeth yn ddysgedig fel rhifyddwr, Lladinwr, Groegwr, &c., yn bur fuan. Dywedir mai yn Ystradmeurig, pan tua deunaw oed, y cyfansoddodd "Gywydd y Daran." Yn 1770 cawn ef yn Ngwrecsam, yn is-athraw mewn ysgol, ac yn gohebu i'r Eurgrawn Cymraeg. Yn y flwyddyn 1779 y bu farw Richard Morris, brawd Llywelyn Ddu o Fon, pryd yr oedd Dafydd yn Nghaerfyrddin, a rhoddwyd ei farwnad yn destyn i ganu arno gan Gymdeithas y Cymrodorion; pryd y barnwyd Richard Jones o Fon, yn oreu, a D. Ionawr yn ail. Digiodd Dafydd yn erwin, ac ni chystadleuodd mwyach. Yn 1777, bu farw Edward Richard, Ystrad Meurig, a chanodd Dafydd Gywydd marwnad iddo, ac y mae yn un o'r darnau goreu o'i eiddo. Tua'r amser yma y bu yn cynorthwyo Walters yn nghyfansoddiad ei Eiriadur. Pan yn Nghaerfyrddin y dechreuodd y bardd ar ei Gywydd y Drindod," a chyhoeddodd hi yn 1793. Yn 1794 daeth D. Ionawr i fyw at ei noddwr caredig, Mr. Jones, y gwr a roddasai gymorth iddo i argraffu y Cywydd. Bu yno hyd 1800, yn diwygio ac yn helaethu "Cywydd y Drindod." Yn 1799, cyhoeddodd "Cywydd y Mil Blynyddoedd."—Yn 1809, "Cywydd Joseph."—Yn 1815, "Barddoniaeth Gristionogol."—Yn 1821, 'Cywydd y Diluw."—Yr oeddynt oll yn dal cysylltiad agos â "Chywydd y Drindod," ac yn fath o ychwanegiadau pwysig at y gwaith cyntefig. "Cywydd o goffadwriaeth am y diweddar anrhydeddus a thra dysgedig Syr William Jones," ydyw y diweddaf o'i eiddo, yn y flwyddyn 1826, pan yr oedd y Bardd yn 75 oed. Yr oedd gwrthddrych y Cywydd wedi marw er 1794. Bu Dafydd Ionawr farw yn Bryntirion, ger Dolgellau, yn Mai 11, 1827, yn 75 oed, a chladdwyd ef yn Mynwent Newydd Dolgellau. Yn 1849, cyfodwyd cofgolofn hardd ar ei fedd, gan ei gyfaill, y Parch John Jones, Borthwnog. Gwelir hanes ei fywyd yn llawer helaethach a manylach, ynghyda thraethawd campus ar ei waith a'i athrylith, ynglŷn a'i "Waith," gan y Parch. M. Williams.

DAVIES, MORRIS, (Meurig Ebrill), Dolgellau. Nid oes genym wybodaeth pwy oedd rhieni, na pha le y ganed Meurig Ebrill, ragor nag iddo gael ei eni yn y flwyddyn 1780; a bu farw Awst 26, 1861; felly gwelwn iddo fyw ar y ddaear 81 o flynyddoedd. Ymwelodd yr Arglwydd â'i feddwl mewn modd neillduol yn y Brithdir, pan yn gwrando y diweddar Barch. W. Hughes, o'r Dinas; ymhen ychydig fisoedd derbyniwyd ef yn aelod cyflawn o'r eglwys hono, gan y diweddar Barch. Hugh Pugh. Yr oedd Mr. Davies ymhlith yr ychydig a sylfaenasant yr eglwys Annibynol yn Dolgellau, tua 52 o flynyddau yn ol, a bu yn golofn gadarn dan yr achos pan yn ei wendid. Modd bynag cafodd fyw i weled yr hedyn a daflwyd ganddynt i'r maes, wedi dyfod yn bren mawr, "a'i ffrwyth yn ysgwyd fel Libanus," yr hyn a fu yn adloniant i'w feddwl ar lawer adeg isel a digalon. Yr oedd yn Annibynwr trwyadl, a phrofodd hyny yn ei ysgrifeniadau galluog, a'i farddoniaeth ar faesydd y Misolion Cymreig. Bu yn aelod gyda'r Annibynwyr, rhwng y Brithdir a Dolgellau, am 53 o flynyddoedd. Cafodd gystudd maith, a bu yn orweddiog am lawer o flynyddoedd; ond parhaodd yr awen yn fywiog trwy yr holl amser, a daliodd i awenu bron hyd y diwedd. Yr oedd yr hen fardd yn Gristion egwyddorol, ac yn llenor uchel; ond feallai fod ei ysgrifell ar y llymaf pan yn dadleu ar bethau amgylchiadol yr eglwys Gristionogol. Cafodd fyw i weled dyddiau lawer, ac am fwy na haner can' mlynedd bu yn filwr dewr dan faner Calfari. Ymadawodd â'r fuchedd hon gan ymorfoleddu yn yr hwn yr oedd wedi ymddiried ei enaid iddo. Cyhoeddodd ei weithiau Barddonol yn ddau lyfr, a'r trydydd yn cynwys hanes ei deithiau yn ceisio gwerthu y cyfryw. Enw ei lyfr ydyw Dulliau Meirion.—(Geir. Byw., Aberdar.)

DAVIES, THOMAS, ydoedd o Ddolgellau. Yr oedd yn gryn Hynafieithydd; ac yr oedd ysgrif-lyfr yn ei feddiant a ysgrifenwyd tua'r flwyddyn 1500, lle y cafodd Iolo Morganwg hen "Galander Gwyliau Saint Cymru."

EDNYWAIN BENDEW, mab i Bradwen, penaeth un o Bymtheg Llwyth Gwynedd, oedd yn ei flodau yn y 12fed ganrif, ac yn preswylio mewn palas a elwid Llys Bradwen, yn agos i Ddolgellau. Y mae rhai o brif deuluoedd Meirionydd yn olrhain eu disgyniad o hono. Dygai ef a'i ddisgynyddion yn eu harfbais, "Gwles three snakes enowed in a triangular knot argent."—(CamRegister.)

EINION AB CADWGAN, o'r Nannau, ger Dolgellau, ydoedd dywysog ar ran o Bowys, yn y 12fed ganrif. Hynododd ei hunan. yn fawr mewn brwydrau yn erbyn y Saeson, dan Harri I. Gadawodd ei diriogaeth yn Mhowys, a rhan o Feirion a gymerasai oddiar Uchtryd ab Edwyn, i'w frawd, Meredydd.—(Myf. Arch. of Wales II., 552.)

EINION AB GRUFFYDD, o Dalyllyn, bardd yn ei flodau yn yr 17eg ganrif.

ELIS SION SIAMS, telynor enwog o Lanfachreth, yn Meirion. Dywedir iddo fod yn delynor i'r frenhines Anne.

ELLIS, DAVID, Ysw., o Nannau, a hanai o deulu y Gwynfryn, Eifionydd. Yr oedd yn ddadleuydd yn y Gyfraith, ac yn gyfreithydd cyffredinol ar gylchdaith sesiwnol Gogledd Cymru. Bu farw Mehefin 15, 1819, yn 60 oed.—(Lleyn MSS.)

ELLIS, Parch. THOMAS, ydoedd drydydd mab i'r Dr. John Ellis, archddiacon Meirionydd, a pherson Llandwrog, o deulu y Glasfryn. Cafodd ei ddysgeidiaeth yn Nghaergrawnt, ¡le cyrhaeddodd glod uchel; a chynygiwyd iddo le fel gwyddonydd i negeseu wriaeth Iarll Musgrave i China; yr hyn a wrthododd. Cafodd bersonoliaeth Llanfachreth, a thrysoriaeth Eglwys Gadeiriol Bangor. Bu farw Chwefror 15, 1833.—(Lleyn MSS. )

EDWARDS, Parch. ROBERT, oedd weinidog yr efengyl gyda'r Annibynwyr yn Llanymddyfri. Cafodd ei eni mewn pentref a elwir Rhydymaen, Rhagfyr 23, 1825. Yr oedd Robert pedwerydd mab o wyth o blant a gafodd ei rieni, Robert a Gwen Edwards. Cafodd ei dderbyn yn aelod eglwysig yn y Brithdir, gan y Parch. H. James, Llansantffraid. Ar ol iddo symud o'r Brithdir i Rhydymaen cafodd yn fuan ei anog i arfer ei ddoniau fel pregethwr cyhoeddus; a chan i'r eglwys gael prawf boddhaol o'i gymwysderau i waith y weinidogaeth, anogwyd a chymeradwywyd ef i ymdrechu cael derbyniad i Athrofa y Bala. Wedi iddo dreulio dwy neu dair blynedd yn y Bala, o dan ofal athrawol Parch. Michael Jones, cafodd ei dderbyn i goleg Aberhonddu, yn y flwyddyn 1848. Yr oedd ei gynydd mewn diwylliad meddyliol yn amlwg i bawb. Ni ddarfu iddo golli yr ysgolhaig yn y Cristion, na'r Cristion yn yr ysgolhaig. Ar derfyniad ei amser yn y coleg ymsefydlodd, trwy unol alwad yr eglwys, yn Salem, Llanymddyfri. Yr oedd amrywiol o arlinelliau rhagorol yn nodweddiad Mr. Edwards. Yr oedd ei alluoedd meddyliol yn fywiog a nerthol, ac ni fu erioed yn rhy ddiog i'w dwyn i weithrediad llwyr a llawn. Yr oedd ei dalentau yn yr areithfa y fath fel yr oedd yn bregethwr boddhaol, hyfryd, a defnyddiol. Nid aeth erioed i'r areithfa heb yn gyntaf wneyd parotoadau priodol ar gyfer hyny; ac ni thraddododd ei bregethau heb fod yn ddifrifol a gwresog. Yr oedd hefyd yn un cydwybodol iawn. Gweithredai bob amser fel un yn gyfrifol i Dduw am yr oll a wnai. Er ei holl addurniadau efe a aeth ymaith, gan roddi ei holl oglud ar ei Waredwr. Wedi treulio dwy flynedd a haner yn gystuddiol bu farw yn nhŷ ei frawd, yn Carno, Rhagfyr 20, 1854.

ELLIS, Parch. DAVID, a anwyd yn Hafod y meirch, yn mhlwyf Dolgellau, yn 1739. Cafodd ei ddysgeidiaeth dan yr enwog Edward Richard, yn Ystrad Meurig, yn sir Aberteifi. Urddwyd ef yn ddiacon yn Llanelwy yn 1764, ac yn offeiriad yn Mangor yn 1765. Y lle cyntaf a gafodd i'w wasanaethn ydoedd curadiaeth Llanberis, Sir Gaernarfon; wedi hyny, Llangeinwen, yn Môn; yna Derwen, yn sir. Ddinbych; yna symudodd i Amlwch, yn Môn. O'r diwedd cafodd bersonoliaeth fechan Llanberis, gan letya mewn fferm o'r enw Ty du (man genedigol yr athrylithgar Dewi Arfon) lle y dyddiwyd un o'i lawysgrifau (1786), lle y bu hyd 1790, pryd y dyrchafwyd ef i ficeriaeth Criccieth, yn Sir Gaernarfon, lle y bu farw Gorphenaf, 1795, yn 56 oed. Claddwyd ef yn mynwent Criccieth, ac ar ei wyddfa y mae beddlith led faith, yn coffhau ei aml rinweddau ef, o waith ei gyfaill, Dafydd Ddu Eryri. Y mae pob gwir garwr barddoniaeth Gymreig yn ddyledus neillduol i Dafydd Ellis am ei fawr lafur a'i ddichlyn ddiwydrwydd yn adysgrifenu gwaith yr hen feirdd allan o hen lyfrau wedi haner pydru, ac yn barod i gael eu claddu yn nghilfachau angof. Yn ei ewyllys ddiweddaf gadawodd ei holl ysgriflyfrau prydyddol i Dafydd Ddu, yr hwn oedd gyfaill caredig ganddo; ac ymddengys eu bod weithian wedi dyfod i feddiant hynafiaethydd y Waenfawr. Gadawodd amryw roddion ar ei ol yn ei lythyr cymun. Gadawodd arian at ysgol i dlodion Criccieth tra bydd dwfr yn rhedeg. Nid ydys yn gwybod fod Dafydd Ellis wedi cyhoeddi nemawr ddim gwreiddiol o'i waith ei hun, oddigeith ychydig o gywyddau a charolau plygain; ond argraffwyd o leiaf dri llyfr o'i gyfieithiad :—1, "Gwybodaeth ac ymarfer o'r Grefydd Gristionogol, neu gynygiad i athrawiaethu'r Indiaid," o waith yr Esgob Wilson: Llundain, 1774. 2, "Llawlyfr o Weddiau ar achosion cyffredinol," o waith James Meyrick: Llundain, 1774. 3, "Histori yr Iesu Sanctaidd," gwaith W. Smith Trefriw, 1776. Cyhoeddwyd y tri gwaith byn pan yr oedd yn gurad Derwen. Yr oedd Dafydd Ellis hefyd yn dipyn o fardd. Cyfieithodd y "Penitent Shepherd," cerdd sanctaidd o waith Ieuan Brydydd Hir, o'r Saesneg, ar fesur cywydd, yr hon a welir yn argraffedig yn Mlodau Dyfed, t.d. 52 a 55. Cyfansoddodd hefyd alarnad ar farwolaeth y Prydydd Hir, yr hon a gyhoeddwyd yn Nhrysorfa Gwybodaeth, 8 plyg: Caernarfon, 1807. —(G. Lleyn MSS.; Brython, iii. t.d. 9; Geir Byw., Aberdâr; Geir. Byw., Lerpwl.)

ELLIS, Parch. JOHN, Llanarmon-yn-Ial, Sir Ddinbych, a fu farw Ebrill 2, 1862, yn 26 mlwydd oed. Tua blwyddyn a haner cyn ei farwolaeth yr aethai i'r weinidogaeth; felly nis gellir fod rhyw lawer i grybwyll am dano. Efe ydoedd fab bynaf y Parch. Robert Ellis, Brithdir, ger Dolgellau. Ymroddodd yn fore i'r Arglwydd, ac i'w bobl trwy ewyllys Duw. Cafodd ddysgeidiaeth dda pan yn ieuanc; eithr cyflwr gwanaidd ei iechyd a rwystrodd ei fynediad trwy y cylch arferol yn y colegau. Yr oedd yn weinidog ieuanc gobeithiol ac addawol iawn, ac mewn parch uchel gan ei frodyr yn y weinidogaeth, a chan yr eglwys oedd dan ei ofal. Tua thri mis cyn ei farwolaeth yr oedd wedi derbyn galwad oddiwrth eglwysi undebol Tanygrisiau a Rhiwbryfdir, Ffestiniog, gan fwriadu dechreu ei lafur gweinidogaethol yno yn nechreu Ebrill canlynol; ond ei Feistr nefol a fwriadasai fel arall. Claddwyd ef yn Rhydymaen, ger Dolgellau.

EVANS, Parch. JOHN; A.C., gwr enwog a flodeuai yn amser teyrnasiad Elizabeth a Iago I., a aned yn mhlwyf Llangelynin. Yr oedd yn aelod o athrofa Rhydychain. Wedi parhau felly dros rai blynyddau efe a ymroddodd i astudio serddewiniaeth; a phan gafodd urddau santaidd efe a anrhydeddwyd â pherigloriaeth yn Enfield, Sir Stafford. Heliwyd ef oddiyno yn fuan oherwydd ei fuchedd anfoesol, ac ymsefydlodd yn Nghaerludd, ac yn fuan daeth yn dra enwog yno mewn serddewiniaeth a swynyddiaeth. Efe a gyhoeddodd lawer o almanaciau a daroganau; un o'r cyfryw am y flwyddyn 1613 a gyflwynir mewn llythyr Lladin i Esgob Worcester, ac amryw benillion Lladin rhagorol yn y diwedd. Mewn almanac am 1625 ceir yr hysbysiad canlynol ar ei ddiwedd :"At my house, the Four Ashes, in the parish of Enfield, within the county of Stafford, are taught these arts: to read and understand the English, Latin, Greek, and Hebrew, to know in a very short time; also, to write the running secretary, set secretary, Roman, Italic, and Court hands; also, arithmetic, and other mathematical sciences." Y mae llawer o chwedlau am ei orchestion swynyddol ar gael, ond y maent yn anheilwng o bapur ac inc.

EVANS, Parch. GREY, oedd weinidog gyda'r Annibynwyr yn Pennal, ger Aberdyfi. Ganwyd ef yn 1805. Bu Mr. Evans yn llafurio yn ffyddlawn iawn yn ngwaith y weinidogaeth am un-ar-ddeg o flynyddau. Cafodd y fraint o weled gradd o lwyddiant ar achos y Gwaredwr yn niwedd ei oes. Ar y 3ydd dydd o Awst, 1842, efe a hunodd yn yr Iesu, gan adael gweddw ac un plentyn ar ei ol i ofal Barnydd y gweddwon a Thad yr amddifaid. Claddwyd ef yn nghladdfa Hen Gapel Llanbrynmair. Cyn cychwyn o Pennal, ac yn Llanbrynmair, gweinyddodd y brodyr canlynol ar yr achlysur:—Y Parchedigion S. Roberts, Llanbrynmair; H. Morgans, Sama; J. Owens, Llanegryn; H. Lloyd a J. Thomas, Towyn; O. Thomas, Talybont; a S. Edwards, Machynlleth. Teimlid yn ddwys gan fyd ac eglwys ar ol colli Mr. Evans.

EVANS, Parch. HUMPHREY, gweinidog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Nolgellau, gynt o Ystradgwyn, sir Feirionydd. Ganwyd ef yn Dolffanog, ger Dolgellau, yn y flwyddyn 1808. Wedi iddo fod yn pregethu am 26 mlynedd, cafodd ei urddo i gyflawn waith y weinidogaeth. Cyfrifid ef yn bregethwr Ysgrythyrol ac adeiladol. Byddem bob amser yn hoff iawn o glywed Mr. Evans, er nad oedd ei ddoniau traddodi yn helaeth iawn. Yr oedd rhywbeth anesboniadwy ynddo yn tynu serch, ato. Yr oedd yn ŵr cywir a chydwybodol; yn eofn dros yr hyn a ystyriai ef yn iawn a phriodol, ac yn un o dduwioldeb diamheuol. Bu farw pan nad oedd neb yn disgwyl, wedi ei daraw gan glefyd heintus, Chwefror 6, 1864.

FYCHAN, Parch. HENRY, A.C., ydoedd fab i John Fychan, o Gaethle, ger Tywyn Meirionydd. Derbyniodd ei ddysgeidiaeth yn Rhydychain, lle yr aeth efe fel cyffrediniad i Goleg Oriel, yn y flwyddyn 1632, y pryd hwnw yn un-ar-bymtheg oed. Wedi hyny etholwyd ef yn ysgolor o Goleg yr Iesu, lle, yn ol Wood, y bu am ryw hyd o dan ddisgyblaeth lem, ac enillodd urdd-raddiad yn y celfyddydau. Yr oedd efe yn bregethwr tra y cadwodd y brenin Siarl I. ei lys yn Rhydychain; ac yn Gorphenaf, 1644, cyflwynwyd iddo fywoliaeth neu ficeriaeth Pant Teg, ger Pontypwl, yn Sir Fynwy, gan y Brif Ysgol, trwy ddeddf a wnaed yn y Senedd, a dechreuodd yn Westminster, Tachwedd 5. Bu am ryw gymaint o amser yn athraw i Syr Leonine Jenkins. Bu am ryw ysbaid yn ficer Grantham, yn Swydd Lincoln. Yr oedd yn bregethwr rhagorol, ac yn selog iawn dros y Brenhinoedd Siarl I. a'r II. Pregethodd yn gyhoeddus yn erbyn y llywodraeth ag oedd mewn grym ar y pryd; ond er ei fod yn erbyn y weinyddiaeth fel llywodraeth wladol, yr oedd hefyd yn erbyn y seremoniau eglwysig; ac am hyny efe a garcharwyd pan ddaeth Siarl II., i'r orsedd, oblegid peidio a darllen Llyfr y Weddi Gyffredin. Aeth wedi hyny gyda'i deulu i Bermuda; ond oblegyd cael anghefnogaeth oddiwrth y Crynwyr, dychwelodd yn ei ol.—(Palmer's Calamy's Noncon. Mem., Vol. II., p.p. 416—18.) Yr oedd yn awdwr i'r llyfrau canlynol, y rhai a argraffwyd.—1, "Pregeth a bregethwyd o flaen Ty y Cyffredin yn Rhydychain, oddiar Matthew v. 20," ac a argraffwyd yn Rhydychain, yn y flwyddyn 1644.—2, "Dadl rhyngddo a J. Tombes, B.D., yn Eglwys St. Mair, yn y Fenni, Medi 5, 1653, yn mherthynas i fedydd plant," yn gyfrol pedwar plyg, ac a argraffwyd yn Llundain, yn 1661. Yr oedd llawer o weithiau awdwyr eraill ganddo mewn llawysgrifen, y rhai na wnaethant eu hymddangosiad trwy y wasg. Bu farw yn 1661.

FYCHAN, ROBERT, o'r Hengwrt, Yswain, a'r hynafiaethydd enwog. Ganwyd ef yn Hengwrt, ger Dolgellau, yn y flwyddyn 1592. Bu farw yn Hengwrt, yn y flwyddyn 1666, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys blwyfol Dolgellau. Efe a hanai lin o Cadwgan, ail fab Bleddyn ab Cynfyn, Tywysog Cymru yn yr unfed-ganrif-ar-ddeg. Un o brif aneddau Cadwgan oedd gerllaw Dolgellau, am hyny âchwyr a'i galwant "Cadwgan o Nannau." Madog, mab y Cadwgan uchod, a ymsefydlodd yn Nannau, a'i fab, a'i wyr. a'i orŵyr yn olynol; yna Meurig, mab hynaf Ynyr Fychan; ond Hywel ab Ynyr, ei frawd, a aneddodd yn y Wengraig, ar odrau Cadair Idris. Yno y bu ei ddisgynyddion hyd y chweched genhedlaeth ar ei ol, pryd y priododd Gruffydd ab Ynyr o'r Wengraig etifeddes yr Hengwrt, yr hon oedd ŵyres i'r Barwn Lewys Owain, o'r Llwyn. Mab o'r briodas hon oedd ein hynafiaethydd godidog, ac efe a ymsymudodd o'r Wengraig i dreftadaeth ei fam yn yr Hengwrt, lle y treuliodd ei oes yn casglu ysgriflyfrau o bob parth, pell ac agos. Cafodd Robert Fychan addysg da; aeth i'r brif ysgol fel cyffrediniad o Goleg Oriel yn y flwyddyn 1612, ac aeth trwy yr efrydiaethau arferol y dyddiau hyny—rhesymeg ac athroniaeth. Ymadawodd â'r brif ysgol heb ymdrechu am urdd-raddiaeth. Ymbriododd â Catherine, merch Gruffydd Nannau, Ysw., o'r Nannau, o'r hon y cafodd wyth o blant. Nid oedd Robert Fychan braidd un amser yn segur, a chadwai yn barhaus yn ei lyfrgell ysgrifenydd hylaw i'w gynorthwyo i adysgrifio hen lyfrau a ymddiriedid iddo gan ddysgedigion ac eraill o'i gydnabyddion. Yr oedd dau eraill o gasglyddion ysgrif-lyfrau yn gydoeswyr âg ef; un oedd Mr. John Jones, o'r Gellilyfdy, plwyf Ysgeifiog. Cydunodd hwn âg R. Fychan y byddai i gasgliad yr hwn a fyddai farw gyntaf fyned at drysorfa y byw. Yn ganlynol, pan fu farw Mr. Jones, aeth ei gasgliad, o gylch haner cant o ysgrif-lyfrau cynwysfawr, i lyfrgell yr Hengwrt i'w chwanegu at o gylch saith ugain o'r cyfryw lyfrau a gasglesid gan yr oesoedd hwyaf. Enwn rai o'r ysgrif—lyfrau a gasglwyd ynghyd gan ein hynafiaethydd yn yr Hengwrt:—1, Hen Lyfr o Gyfreithiau Dyfnwal, Maelgwn, Hywel Dda, a Bleddyn ab Cynfyn.—2. Llyfr Cyfreithiau yr hen Gymry, annarllenadwy o henaint.—3. Llyfr o Gyfreithiau yr hen Gymry, na chynwysir mewnl lyfrau ereill.—4. Llyfrau Morgan a Chyfnerth, Yncid.5. Y Llyfr Duo Gaerfyrddin.—6. Y Llyfr Gwyn o Hergest.—7. Llyfr Gwyn Rhydderch.—8. Y Cwta Cyfarwydd.—9. Meddyginiaeth Meddygon Myddfai.—10. Seryddiaeth.—11. Trioedd Ynys. Prydain.—12. Llyfr Coch Asaph.—13. Cyfrinach y Beirdd, o law Guttyn Owain.—14. Calendar Guttyn Owain.—15. Dwned D. Ddu o Hiraddug. 16.—Dwned Einion Offeiriad. 17—Dwned Simwnt Fychan. 18.—Llyfr Achau Deheubarth. 19.—Achau y pum' llwyth, a phymtheng llwyth Gwynedd. 20.—Llyfr Achau, ar ddull newydd, gan Mr. R. F. 21.—Amseroni, gyda nodau R. F. ar gofrestr damweiniau, o oes Gwrtheyrn hyd y flwyddyn 1269. 22.—Liber Landavensis, allan o lyfrgell Ioan Selden. 23.—Ardrethau deiliaid Owain Glyndwr, a Syr W. Gruffydd, o'r Penrhyn, a chastellydd yr Holt ar Ddyfrdwy. 24.—Brutiau y brenhinoedd, y tywysogion, y Saeson, &c. 25.— Barddoniaeth, fyrdd, &c. Ymhlith gweithiau myfyrddwys ein hynafiaethydd, yr oedd nodiadau ar lyfrau ysgrifen, megis Llyfr Monachlog Dinas Basing; Nodiadau helaethion ar yr hen awdwr Gildas, Nennius, a Brut Caradog o Lan Carfan, gyda sylwadau ar amrywiaeth deuddeg o hen gopiau ar femrwn. Nodau ar y Trioedd Ynys Prydain. Nodiadau ar lyfrau argraffedig, megis y Monastican, gan Syr W. Dugdale: Primordia, gan Archesgob Usher; Calenig, gan Ioan Leland; Hen Awduron, gan yr Esgob Bale; History Cymru, gan Dr. Powel; Y Gorsafau Rhufeinaidd, gan Antoninus, &c. Gadawodd hefyd fyr hanes o'i daith o Feirion i Fynwy; Cylchau Meirionydd; Hanes Tylwyth Cors y Gedol, &c. Ond yr unig waith a gyhoeddwyd gan Mr. R. F. oedd ei "British Antiquities Revived," &c. Rhydychain, 1662—1p. 11s. 6d. Argraffwyd ef yn y Bala, yn 1834, 4 plyg. (Ceir cofiant lled gryno am Robert Fychan, yn ngwaith Gwallter Mechain.)

GRIFFITH, Parch. ROBERT, ydoedd fab i Griffith a Mary Roberts, o Dafarn y Ty Mawr, Dolgellau, ac a anwyd Hydref 13eg, 1770. Ymunodd yn ieuanc â chymdeithas y Methodistiaid Calfinaidd. Cawsai ysgol led dda, gyda golwg ar iddo fyned yn swyddog yn y gyllidfa, yn yr hyn y methodd. Ymgrwydrodd oddicartref hyd Liverpool, mewn cysylltiad â rhyw alwedigaeth arall. Arferai pan yno, ar bob hamdden a allai hebgor, heb esgeuluso ei gyd—gynulliad ei hun, fyned i wrando y diweddar Barch. Samuel Medley, gweinidog Saesneg poblogaidd perthynol i'r Bedyddwyr, ac o'r hwn yr oedd yn hoffus iawn. Yn nghyfnod terfysgiadau chwyldroad Ffrainc, dychwelodd i Ddolgellau, gan ymsefydlu fel masnachydd, a dechreuodd wneyd ei hun yn ddefnyddiol trwy fyned oddiamgylch i gynal cyfarfodydd gweddiau a chynghori, yr hyn a derfynodd mewn cael ei anog i ddechreu pregethu. Yn Nghymdeithasfa y Bala, Mehefin, 1814, neillduwyd ef i weinyddu yr ordinhadau. Hwn oedd yr ail ordeiniad ymhlith y Methodistiaid. Er nad oedd yn rhyw hoff iawn o deithio oddicartref, gorfodid ef gan daer gymhelliadau ei gyfeillion i fyned i deithiau lled bell, yn ol arferiad y Corff, hyd i eithafoedd y Deheubarth, ac hefyd i Lundain, Manchester, &c. Yr oedd yn dwyn mawr zel dros y Gymdeithas Fiblaidd Frytanaidd a Thamor, ac efe oedd ysgrifenydd y gangen gynorthwyol o honi yn Dolgellau. Dadleuai gyda zel dros yr achos cenhadol. Yr oedd yn frwdfrydig iawn yn achos Rhyddhad y Caethion. Pan ddechreuodd yr achos dirwestol yn Nghymru, efe a'i croesawodd, ac a barhaodd yn ymdrechgar o'i blaid hyd ei ddiwedd. Gŵr o ychydig siarad oedd efe; byddai fel pe buasai wedi rhagbarotoi o'r blaen pa beth a ddywedai, gan mor ochelgar ydoedd rhag dweyd dim yn amryfus. Fel pregethwr, eglurai a chymhwysai ei faterion yn araf a phwyllog, heb ddyrchafu ei lais, na dangos un cynhyrfiad yn ei wedd na'i ddull. Ei arfer oedd lloffa addysgiadau rhwydd a buddiol oddiwrth ei destyn, gan ei gefnogi yn fynych â chymhariaethau neu hanesynau priodol. Er nad oedd yr hyn a elwid yn bregethwr poblogaidd, yr oedd gwrandawyr o archwaeth a barn yn gymeradwy o hono. Ystyrid ef yn ddyn o bwys yn y Corff. Bu farw Gorphenaf 22ain, 1844, yn 74 oed.—(G. Lleyn), Geir. Byw., Liverpool; Geir. Byw., Aberdar.

GRUFFYDD ab ADDA ab DAFYDD, ydoedd fardd enwog, a fu byw o'r flwyddyn 1360 hyd 1390. Y mae llawer o'i ganiadau wedi cael eu diogelu mewn ysgrifen; ac y mae ffug-chwedl, neu fabinogi, a elwir "Breuddwyd Gruffydd ab Adda," wedi cael ei hargraffu yn y Greal. Lladdwyd ef yn Nolgellau, lle mae ei gorff yn gorwedd hyd heddyw. Ysgrifenwyd ei farwnad gan Dafydd ab Gwilym, ac y mae wedi ei hargraffu ymysg ei weithiau barddonol.-(Geir. Byw., Liverpool; Geir. Byw., Aberdar.)

HUGHES, CATHERINE, ydoedd ferch y Parch. John Jones, offeiriad Llanegryn, ac a anwyd yn y flwyddyn 1732. Yr oedd Mr. Jones o deulu athrylithgar-yr un teulu a Khys Jones, o'r Blaenau; canys arferai alw y gwr o'r Blaenau yn "gefnder." Bu iddo ddeg o blant-pedwar o feibion, a chwech o ferched. Bu dau fab yn yr Eglwys, un yn apothecari i deulu Sior III., a'r llall yn fasnachydd gwin. Nid yn unig rhoddodd Mr. Jones ddysgeidiaeth ieithyddol i'w feibion, ond hefyd i'w ferched; yn enwedig i'w ferch Catherine, yn yr hon y canfyddai athrylith foreuol, o'r hyn y cymerodd fantais i'w gwneyd yn helaethach ei gwybodaeth yn yr awduron dysgedig na nemawr o foneddigesau ei hoes, ac oherwydd hyny gellir ei galw yn Elizabeth Carter y Cymry. Dangosodd Catherine Hughes yn ei hieuenctyd siamplau awenyddol ag a fuasai yn anrhydedd i'r beirdd enwocaf. Priododd â Rice Hughes, Ysw, Cyfreithiwr, o'r Cemaes, yn Sir Drefaldwyn, yr hwn oedd yn foneddwr cymdeithasgar, a pharod ei leferydd. Cafodd hi ei hanrhydeddu â chyfeillgarwch y rhai dysgedicaf yn Nghymru, yn enwedig yr hyglod Helicon Llwyd, o Sir Feirion. Y mae rhai o'i llythyrau mewn rhyddiaeth a barddoniaeth eto ar gael. Yr oedd yn esiampl o ymddygiad Gristionogol ymhob sefyllfa gymdeithasol. Bu iddi deulu lliosog, un o ba rai oedd y Parch. Robert Hughes, Periglor Dolgellau.—(G. Lleyn.)

HUMPHREYS, Parch. ELLIS, Llanengan, oedd bregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Sir Gaernarfon. Ganwyd ef yn Dolgellau, yn y flwyddyn 1806. Arferai wrando ar y Methodistiaid Calfinaidd er yn blentyn. Pan yn 13eg oed, aeth yn fugail defaid i amaethwr yn y gymydogaeth, ac ymhen rhyw ysbaid o flynyddoedd aeth yn wehydd; a chyda'r gorohwyl hwn aeth oddi cartref—i Swydd Gaernarfon, y mae yn debyg. Ymhen rhyw gymaint o amser daeth mater ei enaid i bwyso ar ei feddwl; a hysbysodd hyny i hen frawd crefyddol, yr hwn oedd yn aelod gyda'r Annibynwyr; a rhoddodd y brawd hwnw gynghorion priodol iddo, a chymhellodd ef i ddyfod gydag ef i eglwys yr Annibynwyr, i hyn yr ufuddhaodd. Yn 1829, daeth i Lanengan, lle y priododd yn 1830. Ymhen blwyddyn neu ddwy wedi hyny dechreuodd bregethu gyda'r Annibynwyr, a bu yn ddefnyddiol a Ilafurus tra yn eu plith. Yn 1835, ymadawodd â'r Annibynwyr am ryw resymau ag oedd yn ei foddloni ef; ac ymunodd a'r Trefnyddion Calfinaidd. Ymhen tua thair blynedd dechreuodd bregethu drachefn, a bu yn ddiwyd gyda'r gwaith tra y gallodd. Fel pregethwr ymdrechai fwy am gyraedd cydwybodau ei wrandawyr nag am eu difyru. Teithiodd trwy Dde a Gogledd. Gafaelodd y darfodedigaeth ynddo tua'r flwyddyn 1846, ac yn 1847, bu farw yn 41 bed.—(Geir. Byw., Aberdar.)

HYWEL SELE, o'r Nannau, ger Dolgellau, ydoedd bendefig yn byw yn 14eg ganrif. Yr oedd yn gefnder âg Owen Fychan (Owain Glyndwr), ac mewn enw yn bleidiwr iddo, eithr mewn gwirionedd yn elyn anghymodlawn iddo ef a'i achos. Damweiniodd iddo wahodd y penaeth Cymreig ato i hela yn mharc Nan—nau, yr hwn wedi myned, a dechreu o honynt ar waith y dydd, codwyd ysglyfaeth; a Hywel, yn lle anelu at y pryf, a drodd ei fwa yn fradwrus at Owen. Pa fodd bynag, methodd y nod; ac er dial y camwri, Owen a'i trywanodd yn farw; ac er mwyn celu y weithred a daflodd y corff i geubren gerllaw, yr hon a adwaenid wrth yr enw Ceubren yr Ellyll.—(Geir. Byw., Lerpwl.)

IDRIS GAWR, sydd berson a nodir yn y Trioedd gyda Gwdion ab Don, a Gwyn ab Nudd, fel un o'r tri "gwyn serenyddion," y rhai oeddynt yn seryddwyr dedwydd, gwybodaeth y rhai o natur y ser a'u harddrych oedd mor fawr, fel y gallent, meddai trigolion yr oes hono, ragddyweyd pa peth bynag yr ewyllysid ei wybod. Y mae coffadwriaeth Idris yn cael ei chadw ar un o fynyddau uchaf Cymru, sef Cadair Idris, yn Sir Feirionydd, yr hwn feallai oedd yn arsyllfa seryddol yn yr amser gynt. Ar y trum uchaf y mae cafniad wedi ei wneyd yn y graig galed, ar ddull gorweddfainc, lle y mae yn debyg y gorweddai yr arsyllwyr.

IEUAN DYFI, oedd fardd enwog, yr hwn a ysgrifenodd lawer rhwng y blynyddoedd 1470 a 1500. Y mae ei gyfansoddiadau modd bynag, lawer o honynt, ar gael mewn llawysgrifau. Cymerodd Ieuan yr enw "Dyfi" oddiwrth y pentref lle y ganwyd ef, a'r lle y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes, sef Aberdyfi, yn Sir Feirionydd.—(Geir. Byw., Aberdar.)

JONES, Parch. DAVID, 2il, gweinidog y Wesleyaidd. Brodor ydoedd o Lanegryn : cafodd ei eni yn y flwyddyn 1823. Cafodd ei dueddu yn moreu ei oes i gysegru ei hun i Dduw. Yn y flwyddyn 1845, efe a ddaeth yn ymgeisydd am y weinidogaeth; ac wedi mwynhau am dair blynedd fanteision y sefydliad duwinyddol yn Richmond, efe a ddechreuodd ar ei waith teithiol, yr hyn a barhaodd efe i'w ddwyn ymlaen gyda chymeradwyaeth hyd 1860; ar y pryd hwnw o herwydd iechyd adfeiliedig, efe a ddaeth i fod yn oruchrifol. Bu farw yn Aberhonddu, Medi 12fed, 1861, yn ei 38 mlwydd o'i oed, a'r 13eg o'i weinidogaeth.—(Geir. Byw., Aberdar.)

JONES, Parch. RICHARD, Llwyngwril, pregethwr hynod yn ei ddydd. Ganwyd ef yn nhyddyndy y Tŷ du, plwyf Llwyngwril, Meirion, yn 1780. Yr hyn oedd enwocaf yn Mr. Jones oedd côf cryf anghyffredin; gallai ail adrodd pregeth neu ddarlith a glywai o'r naill ben i'r llall, ac nid oedd raid iddo ddarllen llyfr fwy nag unwaith, yr oedd y Beibl gan mwyaf yn ei gof. Yr oedd yn dduwinydd da, ac yn llawn syched hyd ei ddiwedd am ychwaneg o wybodaeth yn ei hoff bynciau. Bu farw Chwefror 18, 1853, yn 73 oed. Cyhoeddwyd cofiant iddo gan y Parch. E. Evans, Llangollen; ond nid yw y cofiant hwnw yn llawer o glod i'r Parch. Richard Jones, nac i'w awdwr ychwaith. Pregethwr gyda'r Annibynwyr oedd Mr. Jones, a phregethwr teithiol a fu dros ei holl fywyd; pan y deuai adref o un daith, dechreuai barotoi i gychwyn taith arall. Nid ydym yn gwybod iddo erioed fod yn fugail un eglwys neillduol.

JONES, Parch. CADWALADR, gweinidog yr Annibynwyr, yn Nolgellau, cantref Meirionydd. Ganwyd ef yn Deildref—isaf Llanuwchlyn, ger y Bala, yn nghantref Penllyn, Mai 1783. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys Annibynol yn y lle gan y Dr. G. Lewis. Anogwyd ef yn fuan i ddechreu pregethu. Anfonwyd ef i'r athrofa yn Ngwrecsam, dan ofal y Parch. Jenkin Lewis. Yn Mai, 1811, urddwyd ef yn Nolgellau. Yn 1858, o herwydd cynydd oedran, rhoddodd ei ofal gweinidogaethol i fyny yn gwbl, a phregethai yma a thraw, fel y byddai galwad ymysg ei hen ddiadellau, hyd angau, lle yr edrychid arno gydag anrhydedd patriarchaidd. Bu yn olygydd i'r Dysgedydd am 30 mlynedd, yr hon a gychwynwyd yn 1821. Bu yn y weinidogaeth am 60 mlynedd, ac ni fethodd un cyhoeddiad o herwydd afiechyd. Yr oedd ei bregethau yn ysgrythyrol, ymarferol, ac eglur. Yr oedd yn dduwinydd galluog, ac yn eiddigeddus dros iachusrwydd ffydd. Yr oedd yn Anghydffurfiwr trwyadl, a gweithredai bob amser fel y cyfryw. Bu farw Rhagfyr 5ed, 1867, a chladdwyd ef yn mynwent y Brithdir.(Geir. Byw. Aberdar.)

JONES, Parch. THOMAS, y 3ydd, oedd weinidog ieuanc gyda'r Wesleyaid. Ganwyd ef yn Pennal, cantref Meirionydd Ymunodd â'r Gymdeithas Wesleyaidd yn moreu ei oes; a phan oddeutu 17 oed, efe a ddechreuodd bregethu. Wedi treulio rhai blynyddau fel pregethwr cynorthwyol, derbyniwyd ef fel ymgeis ydd am y weinidogaeth. Yr oedd yn bregethwr doniol a phoblogaidd. Yr oedd rhyw swyn anghyffredin yn ei bregethau. Byddai ei faterion yn wastad yn darawiadol; ei agwedd yn syml a phrydferth; a'i lais yn fwyn, melus, a thoddedig. Anfynych y pregethai heb fod ei wrandawyr mewn dagrau; ac yr oedd arddeliad hynod ar ei weinidogaeth. Bu yn offeryn i droi llawer at yr Arglwydd. Nid oedd ei gyfansoddiad ond gwanaidd, ac yn fuan efe a ddechreuodd lesgâu. Cafodd gystudd maith a blin, ond mwynhaodd dangnefedd heddychol hyd y diwedd. Hunodd yn yr Iesu, Gorph. 19eg, 1849, yn 31 mlwydd oed, wedi bod 9 mlynedd yn y weinidogaeth. Y mae ei enw eto fel perarogl mewn llawer ardal.

JONES, Parch. EVAN, neu Ieuan Gwynedd, gweinidog yr Annibynwyr yn Nhredegar, a bardd a llenor, un o'r rhai enwocaf fagodd Cymru. Ganwyd ef Medi 20fed, 1820, yn Bryn Tynoriad, ger Dolgellau, yn nghantref Meirionydd. Pan oedd yn bur ieuanc, symudodd ei rieni i'r Tŷ Croes, ger Dolgellau. Yr oedd yn llawn o ysbryd darllengar er yn blentyn; yr oedd wedi darllen cryn lawer o lyfrau, a hyny i bwrpas, cyn bod yn naw oed, fel y dywed ef ei hun yn nghofiant ei fam. Aeth oddicartref y waith gyntaf i gadw ysgol i Sardis, Sir Drefaldwyn. Ac yma y dechreuodd bregethu; ac wedi bod yma am ysbaid, aeth i Fangor, yn athraw cynorthwyol i'r Parch. Arthur Jones, D.D., ar un o ysgolion Daniel Williams, D.D. Yn 1839, aeth i ysgol Merton, Swydd Amwythig, i ymbarotoi i fyned i'r coleg. Yn 1841, aeth i Athrofa Aberhonddu, lle y bu am 4 blynedd. Erbyn hyn, yr oedd ei enw yn hysbys trwy y Dywysogaeth fel un o'i phrif lenorion, trwy y gwobrau a enillasai mewn barddoniaeth a rhyddiaeth. Yn 1845, urddwyd ef yn weinidog yn Saron, Tredegar. Yn y flwyddyn hon y priododd ferch Rorington Hall, yn agos i Merton; yn y flwyddyn ganlynol cawsant fab, a bu y mab a'r fam farw. Yn 1848, priododd eilwaith Miss Lewis, merch i hen weinidog Tredwstan, Sir Frycheiniog. Dyn gwanaidd a gwael ei iechyd oedd Mr. Jones, er hyny gwnaeth lawer o waith mewn amser mor fyr. "Yr oedd ar lawer ystyriaeth yn un o'r dynion hynotaf a welodd Cymru, yn yr hwn yr oedd yr egni a'r ymroad mwyaf wedi cydgyfarfod â thalentau ysblenydd." Bu farw Chwef. 23ain, 1852, cyn bod yn 32 mlwydd oed. Bellach rhoddwn grynodeb byr o'i lafur llenyddol :—1."Cofiant ei Fam." 2. "Cofiant i'r Parch. John Jones," ei hen athraw yn Merton, 3. Erthyglau galluog ar "Iawnderau Ymneillduaeth" a ymddangosodd yn y Shrewsbury Chronicle. 4. "Cathlau Blinder," caneuon a gyfansoddodd ar ol marw ei briod a'i blentyn, a ymddangosodd yn yr Adolygydd ii. 393. 5. Traethawd, "The moral obligation of total abstinence," a enillodd ddeg punt yn Eisteddfod Llundain. 6. Traethawd, "Dissent and Morality in Wales," amddiffyniad gwir alluog ydyw hwn yn erbyn sarhad y Llyfrau Gleision, ac、 anfonwyd cyflyfr o hono i bob un o aelodau seneddol Prydain Fawr. 7. Golygu papyr newydd yn Caerdydd, Principality. 8. Golygu Standard of Freedom yn Llundain. 9. Dwyn y Gymraes allan, cyhoeddiad misol at wasanaeth merched ei wlad. 10. Cyhoeddiad misol arall o'r enw Tywysog. 11. Golygu cyhoeddiad trimisol o'r enw Adolygydd. 12. Pryddest ar Adgyfodiad Crist," buddugol yn Eisteddfod Merthyr. 13. Pryddest ar "Olygfa Moses oddiar ben Pisgah," buddugol yn Eisteddfod Lerpwl. 14. Pryddest ar yr Adgyfodiad," testyn Eisteddfod Rhuddlan. 15. Awdl ar 'Heddwch," testyn Eisteddfod Porthmadog, yr hon oedd yn ail i awdl G. Hiraethog, " y rhai ydynt yn ymhlith y darnau tlysaf a mwyaf awenyddol yn yr iaith." Ond nid yw hyn y ddegfed ran o'r hyn a gyfansoddodd ac a enillodd o wobrwyon tra yn y cyflwr dihafal hwn o waeledd a nychdod. Yr pedd canu awdlau a phryddestau gorchestol i'n Histeddfodau, cyfranu rhagerthyglau i newyddiaduron, golygu cyhoeddiadau misol a chwarterol, darllen llyfrau a beirniadu, casglu ystadegau i aelodau seneddol, a chynal i fyny lawer o ohebiaethau yn orchest dan yr amgylchiadau goreu. Ond yr oedd eu cyflawni gan ddyn ar wastad ei gefn yn ei wely, a'i ewinedd yn las gan y darfodedigaeth, a'i beswch yn drwm, a'i ystlysau yn ddolurus, a'i holl gorff yn adfail, yn nesaf peth i wyrth.

JONES, Parch. MORRIS, Aberllefeny, yn nghantref Meirionydd, ydoedd weinidog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Ganwyd ef yn Mhenmorfa, swydd Gaernarfon, Ionawr 13, 1806. Yn Awst 1836 dechreuodd bregethu, a dywedir ei fod yn bregethwr hynod o effeithiol; iddo fod, yn ei amser byr, yn offerynol i droi lliaws o gyfeiliorni eu ffyrdd. Yr oedd wedi dysgu darllen, ysgrifenu, a gramadegu, &c., heb ddiwrnod o ysgol, oddieithr y Sabbothol. Yr oedd yn enwog hefyd fel celfyddydwr; " meddai ar ddawn neillduol i ddychymygu a gweithio ceryg yn gistiau ar feddau, cistiau mewn tai, a chimmney pieces, ynghyda lliaws o bethau tra chywrain o'i waith a welir yn Nghymru a Lloegr, yr hyn a enillai sylw a ffafr perchenog y gwaith i raddau mawr. Yr oedd yn hynod o ran ei alluoedd i ddysgu unrhyw beth a feddyliai am dano." Bu farw Ionawr 27, 1840, trwy i ddarn o graig syrthio arno yn nghloddfa llechi Aberllefeny. Gadawodd. wraig a phump o blant i alaru ar ei ol.

JONES, Parch. OWEN, Towyn, yn nghantref Meirionydd. Ganwyd ef Chwefror 17, 1787. Mab ydoedd i John a Ellinor Owen, Towyn Meirionydd. Anfonwyd ef i'r ysgol yn bur ieuanc, ac ymddengys iddo wneyd defnydd da o honi. Meddai gof hynod o gryf i gofio pob peth a ddarllenai, a'r testynau a'r pregethau a glywai. Anfonwyd ef i Aberystwyth i ddysgu y gelfyddyd o gyfrwywr, lle y bu yn hynod o ymdrechgar yn sefydlu ysgolion Sabbothol, a chasglai hwy at eu gilydd ar nosweithiau yr wythnos i'w holi a'u hegwyddori; a dywedir iddo wneyd llawer o ddaioni yn yr ystyr yma. Yn 1805 aeth i Lanidloes, sir Drefaldwyn, i weithio ei gelfyddyd. Ni bu yma ond amser byr; aeth i gynorthwyo y Dr. W. O. Pugh i olygu yr argraffwasg yn yr argraffiad cyntaf o'r Bibl Cymraeg, gan y Gymdeithas Fiblaidd Frytanaidd a Thramor. Yr oedd yn hynod o lafurus gydag ysgolion Sabbothol Cymreig y Trefnyddion Calfinaidd tra yn Llundain. Yn 1807 aeth i Amwythig i weithio ei gelfyddyd. Tua'r flwyddyn 1808 dychwelodd i Dowyn Meirionydd, i gadw masnach. Yn fuan wedi hyn dechreuodd bregethu, ac yn yr un flwyddyn priododd Mary Jones, unig ferch John Jones, Gelli, yn mhlwyf Llanfaircaereinion, yr hon oedd yn berchen y lle hwnw. Yn 1809 sefydlodd ei gartref yn y Gelli, lle y bu hyd ei farwolaeth. Yn Nghymdeithasfa y Bala, yn 1819, ordeiniwyd efi gyflawn waith y weinidogaeth. "Yr oedd yn bregethwr o ddawn serchog a bywiog iawn. Gwnaeth lawer o ddaioni yn ei ddydd trwy gadw a sefydlu ysgolion Sabbothol a nosawl, a phregethu. Pregethai lawer yn Saesneg, gan y byddai yn llafurio gan mwyaf ymhlith Saeson y Goror. Bu hefyd yn hynod ymdrechgar o blaid y Fibl Gymdeithas, ac achosion da eraill, Dywedir fod ganddo ddawn a medr neillduol i ddylanwadu ar y bobl i gael ganddynt gyfranu at y gwahanol achosion hyn. Bu farw Rhagfyr 3, 1828, yn 41 oed.

JONES, RHYS, o'r Blaenau, ydoedd fab ac etifedd John Jones, Ysw., o'r Blaenau, plwyf Llanfachreth, yn nghantref Meirionydd. Ganwyd ef yn 1713. Ei fam oedd Sioned, merch Huw Puw, Ysw., Garthmaelan, Dolgellau. Bwriad y rhieni oedd dwyn Rhys i fyny yn gyfreithiwr. Aeth i ysgol Dolgellau, oddiyno i'r Amwythig; ond tra yr oedd yn Amwythig bu farw ei dad, a dychwelodd yntau adref, ac yno y treuliodd ei oes faith, yn rhyddfeddianwr diardreth. Dywedir ei fod yn ŵr o synwyr cyffredin cryf anarferol, a chyrchai y cymydogion ato i ymgynghori ar bynciau dyrus, a byddai ei farn yn gyffredin yn benderfyniad. Yr oedd Rhys hefyd yn fardd gwych. Ond dywedir iddo ymenwogi yn fwy fel detholydd nag fel bardd, er iddo gyfansoddi ei hun rai pethau galluog. Yn 1770 cyhoeddodd “Pigiadau dewisol o waith prydyddion o'r amrywiol oesau." Yn 1773 cyhoeddodd "Gorchestion Beirdd Cymru." Wedi marwolaeth y bardd cyhoeddwyd cyfrol o'i ganiadau gan ei wyr, Rice Jones, Owen, Ysw., a chynwysa hwnw rai darnau moesol a galluog ond nid yw y rhai moesol yn alluog, na'r rhai galluog yn foesol. Bu farw Chwefror 14, 1801, yn 86 oed, a chladdwyd ef yn Eglwys Llanfachreth.

JONES, Parch. RICE, ydoedd fab i'r enwog Rhys Jones, o'r Blaenau, yn nghantref Meirionydd. Ganwyd ef yn 1755. Pa ddysgeidiaeth a gafodd yn more ei oes nid yw yn hysbys, ond gwyddys iddo efrydu yn benaf ar gyfer yr Eglwys Sefydledig, ac iddo gael lle i weinyddu y swydd o offeiriad yn Llanystumdwy, Sir Gaernarfon. Bu farw Mawrth 14, 1790, yn 35 oed, a chladdwyd ef yn mynwent blwyfol yr Eglwys grybwylledig, lle y mae gwyddfaen yn dangos ei fedd, ac arysgrifen ei goffadwriaeth arno, ynghyda'r englyn canlynol o waith ei dad, yn coffhau ei aml rinweddau:

"Pregethwr, awdwr ydoedd—hoff urddas,
Hyfforddiant i filoedd ;
Athraw odiaeth weithredoedd,
A geiriau mel angel oedd."


LLOYD, Parch. HUGH, Towyn Meirionydd, gweinidog gyda'r Annibynwyr. Ganwyd ef yn Bryngoleu, ger y Bala, yn 1790. Cafodd ysgol pan yn blentyn. Dechreuodd bregethu yn Penystryd, Trawsfynydd. Bu am ryw ysbaid yn y Groeslon, Môn, lle y cadwai ysgol. Yn 1816 derbyniodd alwad eglwys Annibynol Llwyngwril, yn nghantref Meirionydd. Yr oedd eglwysi Towyn a Llanegryn hefyd dan ei ofal. "Credai y Gwirionedd, teimlai y Gwirionedd, ac yr oedd holl rediad cyffredin ei fywyd yn cyd-ddwyn tystiolaeth i'r Gwirionedd. Fel pregethwr nis gellir ei resu ymysg y dosbarth blaenaf fel pregethwr i'r cyhoedd; ail radd oedd ei ddoniau a'i dalentau; ond fel pregethwr i'r un gynulleidfa yr oedd ynddo ragoriaethau. Yr oedd ganddo yn wastad bregeth dda, bwrpasol, wedi ei hastudio yn fanwl." Bu yn hynod lafurus hefyd gydag adeiladu capelau, a'r gwahanol gymdeithasau, &c. Bu farw Medi 25, 1861 yn 71 oed, wedi bod yn Towyn Meirionydd 45 o flynyddoedd.

LLWYD, LLEUCU, Pennal, yn nghantref Meirionydd, rhian nodedig am ei thegwch, yn ystod y 14eg ganrif. Yn groes i ewyllys ei rhiant enillwyd ei serch gan Llewelyn Goch ab Meurig Hen, o Nannau, Hi a aeth i ymdaith ar ddamwain i'r Deheubarth. Ei thad, er mwyn diddymu ei serch oddiarno, a hysbysodd Lleucu un diwrnod fod Llewelyn wedi ymbriodi â morwynig arall; eithr cafodd y newydd y fath effaith arni fel y syrthiodd i lawr, ac y bu farw yn yr awr hono. Pan ddychwelodd ei hanwylyd, a chlywed yr hanes galaethlawn, efe a gyfansoddodd farwnad nad oes mo'i bath yn yr iaith am angerddoldeb teimlad. Y mae i'w gweled yn argraffedig yn y Brython, cyf. ii. 170; a cheir cyfieithiad o honi yn y Bardic Museum, gan Jones. (Geir. Byw., Lerpwl.) Rhaid i ni addef fod mwy o hynodrwydd yn perthyn i hanes person fel yr uchod yn hytrach nag enwogrwydd. Nid yw pob hynodrwydd yn enwogrwydd.

LLEWELYN GOCH AB MEURIG HEN, bardd enwog a drigianai yn Nannau, Llanfachreth, yn nghantref Meirionydd, ac yn ei flodau rhwng 1330 a 1370. Enillodd serch Lleucu Llwyd, rhian nodedig am ei phrydferthwch, o Bennal, ac ar ei marwolaeth disyfyd cyfansoddodd farwnad alaethlawn, yr hon a argraffwyd yn y Brython ii. 170, a chyfieithiad o honi yn y Bardic Museum gan Jones. Y mae llawer ychwaneg o'i farddoniaeth ar gael, a chwe' dernyn yn argraffedig yn y Myv. Arch. Canwyd ei farwnad ef gan Iolo Goch.-(Geir. Byw., Lerpwl.)

MEIRION, penaeth yn y bumed ganrif. Mab ydoedd i Tybiawn ab Cunedda. Lladdwyd ei dad tra yn brwydro gyda'i frodyr yn erbyn Gwyddelod, y rhai a oresgynasant wlad Gwynedd, ac wedi eu llwyr yinlid ymaith cafodd Meirion, yn hawl ei dad, y cantref a adwaenir wrth yr enw Cantref Meirionydd, yn swydd Feirion.

MORRIS, Parch. LEWIS, gweinidog yr efengyl gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn agos i Dowyn, yn nghantref Meirionydd. Ganwyd ef yn 1870. Rhyw Saul o erlidiwr oedd Mr. Morris hyd nes oedd yn 29 oed; ond cafodd dro rhyfedd mewn lle rhyfedd— rhedegfa geffylau, yn Machynlleth. Cyn hyn ei orchestwaith oedd erlid yr Ymneillduwyr. Bu mewn helynt ofnadwy ynghylch ei gyflwr; bu am ysbaid yn syllu yn anobeithiol ar y ddeddf wrth odre mynydd Sinai. Aeth i wrandaw ar y Parch. Mr. Williams, o Ledrod, yn pregethu yn Abermaw, ac arweiniodd hwnw ef tua Chalfaria, lle y gwelodd yntau wawr ar ei achos er mor ddrwg oedd ; ac yn Abermaw yr ymunodd Lewis Morris â chrefydd. Ymhen dwy flynedd dechreuodd bregethu. Erbyn hyn yr oedd yntau ei hunan wedi dyfod, fel Paul yr apostol, yn wrthddrych erledigaeth-i ffoi o'r naill fan i'r llall o flaen milwyr, &c. Nid yw y defnyddiau sydd ger ein bron yn rhoddi dim goleuni ar gymeriad pregethwrol Lewis Morris, ac nid ydym ninau yn ei gofio yn ddigon da fel ag i wneyd sylwadau arno. Bu farw Mawrth, 12, 1855, yn 95 oed, wedi pregethu am 64 o flynyddoedd.

OWAIN AB CADWGAN AB BLEDDYN, o'r Nannau, a thywysog Powys, a dreuliodd fore ei oes mewn afradlonedd, trythyllwch, a gwrthryfel. Pan roddai ei dad wledd i'w benaethiaid yn Aberteifi, yn ystod gwyliau y Nadolig 1107, soniai un o'r gwahoddedigion am degwch personol Nest, merch i Rhys ab Tewdwr, a gwraig Gerald de Windsor, cwnstabl castell Penfro, ac enynwyd trachwant Owain tuag ati. Ymwelodd â Phenfro; a thrwy ei berthynas â'r teulu cafodd dderbyniad croesawgar, ac ad-dalodd yntau y caredigrwydd trwy roddi y castell ar dân, dwyn Nest ymaith, a bu agos i Gerald golli ei fywyd yn y dinystr. Parodd y weithred anfad hon ofidiau chwerwon i'w dad, a bu raid iddo, er osgoi dialedd y Saeson, ffoi i'r Iwerddon. Pa fodd bynag, cafwyd heddwch ymhen ysbaid, a dychwelodd y tad a'r mab yn ol i'w gwlad. Yn 1110 Owain a olynodd ei dad fel Tywysog Powys, a chafodd ar ol hyny dderbyniad i ffafr Harri I., gyda'r hwn yr aeth i Normandi, lle y gwnaed ef yn farchog ganddo. Lladdwyd ef gan Gerald de Windsor, yn 1114.—(Brut y Tywysogion.)

OWAIN AB GWILYM, Syr, o Dalyllyn, bardd ac offeiriad yn ei flodeu rhwng 1530 a 1570. Y mae peth o'i farddoniaeth ar gael mewn llawysgrifau.

OWAIN GWYNEDD, bardd gorchestol, yn ei flodeu rhwng 1540 a 1590. Dywedir mai ei enw priodol oedd Owen Evans. Cafodd radd pencerdd gan Simwnt Fychan yn ail Eisteddfod Caerwys yn 1568. Dywedir fod Owain Gwynedd yn gydoeswr â W. Lleyn, a bod ymryson barddonol wedi bod rhyngddynt. Y mae cywydd o'i waith yn Ngorchestion Beirdd Cymru, ac y mae saith cywydd eraill ar gael mewn llawysgrifau. Nis gellir casglu oddiwrth y rhai hyny ei fod, fel y dywed rhai, yn fardd i Lewis Owen, y barwn, o'r Llwyn, ond ei fod yn gyfaill cydstad â'r teulu mewn urddas.—(Geir. Byw., Lerpwl, Geir. Byw., Aberdâr.)

OWEN, Parch. HENRY, M.D., duwinydd dysgedig, a hanai o hen deulu parchus, ac a anwyd yn Tanygadair, ger Dolgellau, yn nghantref Meirionydd, yn 1716. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadegol enwog Rhuthyn; a phan yn 19 oed, cafodd dderbyniad i Goleg yr Iesu, Rhydychain. Ei hoff efrydiaeth yno ydoedd mesuroniaeth. Wedi ei raddio yn y celfyddydau, trodd ei sylw at physigwriaeth, a gwnaed ef yn wyryf yn y gangen hono (M.B.) yn 1746. Bu yn'ymarfer fel meddyg am dair blynedd, pryd y gorfodwyd ef oherwydd blino ar y gwaith ac afiechyd i roddi y broffes hono i fynu, ac o hyny allan cyfeiriodd ei sylw yn hollol at yr offeiriadaeth. Ni wyddys pa bryd yr urddwyd ef, ond dywedir ei fod pan yn ieuanc wedi ei benodi yn gaplan i Syr Mathew Featherstonehaugh, yr hwn a roddes iddo fywoliaeth Torling, yn Essex. Yn 1750, rhoddes Torling i fyny, a chafodd rectoriaeth St. Olave, Hart Street, Llundain. Yn fuan, penodwyd ef yn gaplan i Esgob Llandaf, wedi hyny esgob Durham. Yn 1753, graddiwyd ef yn M.D., yn Rhydychain. Yn 1760, priododd ferch Dr. Butts, yr hwn a fuasai yn esgob Norwich, ac wedi hyny yn esgob Ely. Yn 1775, cafodd ficeriaeth Edmonton, Sir Middlesex, gan esgob Barington. Bu farw Hydref 15, 1795, yn 80 oel. Gadawodd Dr. Owen o'i ol brofion diymwad o ddysgeidiaeth ddofn, talentau beirniadol ysblenydd, zel yn achos llenyddiaeth gysegredig ac amddiffyniaeth dwyfol ddatguddiad, ynghyda rhinweddau a duwioldeb personol, a wnaent ei goffadwriaeth yn anwyl gan y sawl a freintiwyd â chydnabyddiaeth âg ef, ac a drosglwydda ei enw i'r dyfodiant fel addurn y wlad a'i magodd, ac anrhydedd i'r hil ddynol yn gyffredinol.—(Wms. Em. Welsh.; Hanes y Cymry, gan y Parch. Owen Jones.) Rhestr o'i weithiau awdurol:—1, "Harmonia Trigonometrica, or a short Treatise on Trigonometry," 1748· —2, "Observations on the Scripture Miracles," 1755.—3, "Observations on the four Gospels," 1764.—4, "Directions to Young Students in Divinity," 1766.—5, "Enquiry into the state of the Septuagint Version," 1769.—6, "The Intent and Propriety of the Scripture Miracles considered and explained, in a series of Sermons preached in the parish church of St. Mary—le—bow," 2 Vol. Boyle's Lecture, 1773.—7, "Critica Sacra, or a short introduction to Hebrew Criticism," 1774.—8. Golygu argraffiad o lyfr Genesis allan o'r ysgrifau Cottonaidd a chyfysgrif y Vatican, 1778.—9, Cyhoeddi "Memorabilia" Zenophon, 1785.—10, "Critical Disquisition," sef sylwadau ar argraffiad Masius o Lyfr Josuah.—11, "Critical Disquisitions," sef sylwadau ar waith enwog Origen—Hexapla.—12, "A Brief Account, Historical, and Critical, of the Septuagint Version of the Old Testament," 1797.—13, "The words of Quotation used by Evangelical Writers explained and vindicated." Bu o fawr gymorth yn nghyhoeddiad amrywiol lyfrau dysgedig a thra gwerthfawr eraill. Efe a ysgrifenodd hanes cyflwyniad y Deml, y sydd i'w weled yn Origin of Printing, gan Bowyer a Nichol. Golygodd a chyhoeddodd yr ail—argraffiad hefyd o "Mona Aintiqua," 1776.

OWEN, Parch. HUGH, o Fronylcydwr, ymneillduwr enwog yn yr 17eg ganrif, a anwyd yn Mronylcydwr, plwyf Llanegryn, yn nghantref Meirionydd, yn 1637. Yr oedd ei dad yn byw ar ei dir ei hun,—Humphrey Owen, ac yn hanu o hen deulu parchus―yn fab i John Owen, yr hwn oedd yn ail fab i John Lewis Owen, o'r Llwyn, A.S. dros Feirion, ac yntau yn fab hynaf i Lewis Owen, is—ystafellydd Gwynedd, yr hwn a lofruddiwyd yn 1555, gan Wylliaid Cochion Mawddwy. Addysgwyd ef yn Rhydychain, ac yr oedd yn ymgeisydd am urddau eglwysig pan wnaed deddf seneddol Bartholomew, a thua'r amser hwnw symudodd yntau o Rydychain i Lundain. Dychwelodd yn fuan i'w wlad enedigol, lle y trigianodd o hyny allan ar ei etifeddiaeth fechan Bronyclydwr, gan ymgyflwyno i'r gwaith o bregethu yr efengyl ymhlith ei gydwladwyr tywyll a thylodion. Yr oedd yn ddyn galluog, efengylaidd, llafurus, a charedig, ac elusengar. Bu farw yn 1699, yn 62 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Llanegryn.——(Noncon. in Wales; Cambro—British Bio.; Wms. Em. Welsh.; Traethodydd am 1852, 290; Traethodydd, 1868, 295.) Ynglŷn â'r uchod, y mae un arall o'r un teulu nas gallwn fyned heibio iddo heb ei grybwyll—" Yr Hen Dr. Owen."

OWEN, JOHN, D.D., "yr hen Ddoctor Owen," y "Puritan cawraidd," a "Thywysog y Duwinyddion," (chwedl Cynhafal.) Er nad oedd yn enedigol o swydd Feirion, ond os hawliwn ni ef fel Cymro, ymha le y rhoddwn ef ond ymhlith "Enwogion Swydd Feirion!" Yr oedd y duwinydd ardderchog hwn yn fab i'r Parch. Henry Owen, yr hwn oedd drydydd mab i Griffith Owen, Ysw., o Dalybont, ger Towyn, Meirionydd. Addysgwyd ei dad yn Rhydychain, a chafodd ar y cyntaf ficeriaeth Stadham, ger Watlington, swydd Rhydychain, lle y ganwyd John yn 1616. Yr oedd Dr. Owen, yn orwyr i'r Barwn Owen, o'r Llwyn, ger Dolgellau, ac yn ewythr i Hugh Owen, o Fronyclydwr, cyfyrder ei dad. Nid ydym yn credu i un wlad, mewn un oes, fagu rhagorach duwinydd na Dr. Owen. Yn 1632, graddiwyd ef yn B.A.; yn 1635, yn M.A., yn Rhydychain. Yn 1637, gadawodd Rydychain, a mabwysiadodd Ymneillduaeth. Yn 1653, cafodd y radd o D.D., a bu am ysbaid yn llywydd y Brifysgol, Rhydychain. Y mae bron yn wyrth fod gwr fel efe wedi medru cael hamdden i gyfansoddi cymaint, pan yr oedd cynifer o bethau eraill yn galw am ei sylw. Yr oedd ei holl lyfrau yn cynwys dim llai na saith cyfrol deublyg, ugain mewn pedwar plyg, a thua haner cant mewn wythplyg, a dyddiad eu cyhoeddiad yn cyraedd o 1642 hyd 1760. Cyhoeddwyd un gyfrol ar ddeg o honynt ar ol ei farwolaeth. Y mwyaf o'i lyfrau ydyw ei Esboniad ar yr Epistol at yr Hebreaid, yr hwn a ddaeth allan mewn pedair cyfrol fawr bedwar plyg, y gyntaf yn 1668, a'r olaf yn 1684. Ni welsom yr argraffiad diweddaf o weithiau Dr. Owen, a ddaeth allan gan y Clarkes, o Edinburgh; ond gwelsom yr argraffiad a ddaeth allan yn 1850, gan Johnstone a Hunter, yn cynwys y cyfrolau canlynol:—Vol. d, "On Christ."—2, "On the Trinity.'" —3, "On the Holy Spirit."—4, "On the Holy Spirit."—5, "On Justification."—6, "Mortification of Sin."—7, "On the Nature of Apostacy," &c.—8, "Sermons."—9, "Sermons."—10, "Arminian Controversy."—11, "Arminian Controversy."—12, "Socinian Controversy."—13, Rights and Duties of Dissent." 14, "Popish Controversy."—15, "Church Government."—16, "Church Government." Y mae erthyglau galluog ar Dr. Owen, gan y Parch. N. C. Jones (Cynhafal), wedi ymddangos yn y Traethodydd am 1868, 66, 133, a'r Traethodydd am 1869, 270. Bu Dr. Owen farw Awst 24, 1683, yn 67 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Bunhill Fields.

OWEN, LEWIS, neu y Barwn Owen, ydoedd fab Owen ab Hywel ab Bleddyn, Ysw., o'r Llwyn, ger Dolgellau, yn nghantref Meirionydd, a chŷff rhai o'r teuluoedd hynaf yn Nghymru. Yr oedd Lewis Owen yn un o'r boneddwyr mwyf cyfrifol yn Nghymru, ac yn meddu etifeddiaeth gwerth tri chant o bunau yn y flwyddyn, yr hyn oedd swm gwych iawn yn yr oes hono. Oherwydd ei uchel waed, a'i amgylchiadau cyfrifol, cafodd amryw swyddau gwladwriaethol pwysig. Penodwyd ef gan Harri VIII. yn isystafellydd a barwn canghenllys Gwynedd. Bu yn sirydd Meirion yn 1546 a 1555, ac yn aelod dros y sir hono yn seneddau 1547, 1552, 1554. Llofruddiwyd y Barwn Owen gan y 'Gwylliaid Cochion Mawddwy" yn Mawddwy, mewn lle a elwir hyd heddyw "Llidiard y Barwn,' ar yr 11eg o Hydref, 1555.—Pennant's Tours in Wales; Lewis Dunn's Heraldic Visitations; Wms. Em. Welsh.)

OWENS, Parch. OWEN, Rhosycae, a anwyd yn Maesynghared, tyddyn bychan, ger Dolgellau, yn nghantref Meirionydd, Awst 21, 1792. Cafodd ysgol pan yn ieuanc. Yn Mai 23, 1811, derbyniwyd ef yn gyflawn aelod gan yr Annibynwyr yn Nolgellau. Yn 1817 priododd weddw ieuanc barchus o Ddolgellau, o'r enw Ann Jones. Wedi hyny aeth i Ddinas Mawddwy i gadw ysgol, ac yno y dechreuodd bregethu. Yn Mai 23, 1821, symudodd iRosycae, ac ar y 30ain o Hydref canlynol urddwyd ef yn weinidog ar eglwys Annibynol y lle hwnw. Yr oedd ei gof yn hynod gryf, ac yr oedd yn hynod o benderfynol dros yr hyn a ystyriai yn iawn. Er na fu erioed mewn athrofa, ac na chafodd lawer o ysgol gyffredin, eto yr oedd yn alluog i bregethu yn Saesneg, pan elwid am hyny. Yr oedd yn bregethwr sywleddol a buddiol iawn, ac yn "Galfin cymedrol," fel y dywedir o ran ei farn. Y mae lliaws o erthyglau o'i eiddo wedi ymddangos yn y Dysgedydd. Hefyd cyhoeddodd a helaethodd Holwyddoreg yr Ymneillduwyr Protestanaidd y Parch. S. Palmer. Bu farw Hydref 13, 1862, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys y plwyf, Nannerch, y dydd Gwener canlynol.

PRICE, Parch. W., M.A., Dolgellau, a addysgwyd yn Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychain, lle y graddiwyd ef yn M.A. yn 1619. Efe oedd y cyntaf a lanwodd y swydd o ddarllenydd y llith ar athroniaeth foesol, a sefydlwyd gan Dr. Thomas White, a chyhoeddodd gyfrol ar y pwnc hwnw yn 1624. Yn 1631, rhoddwyd iddo berigloriaeth Dolgellau, lle y trigianodd o hyny allan, ac y priododd ferch i'r hynafiaethydd enwog, Robert Fychan o'r Hengwrt. Bu farw yn Nolgellau yn 1646, a chladdwyd ef yn yr eglwys hono.

PUGH, ELLIS, a anwyd yn mhlwyf Dolgellau, yn nghantref Meirionydd, yn Mehefin, 1656. Pan yn 18 oed ymunodd â'r Crynwyr, a daeth yn fuan i gryn gyfrifoldeb yn eu plith. Yn 1686, ymfudodd ef a'i deulu a lliaws o'u cyfeillion drosodd i'r America, i wladychfa newydd William Penn, yn Pensylvannia. Yn 1706, ymwelodd â gwlad ei enedigaeth, ac yn 1708, dychwelodd yn ol i Bensylvannia, America, lle yr arosodd hyd ei farwolaeth yn Hydref 3ydd, 1714, neu yn ol G. Lleyn, yn 1718. Dywedir fod Ellis Pugh yn ddyn didwyll a gonest, ac yn uchel ei gymeriad ymhlith ei gydnabod. Ysgrifenodd lyfr o'r enw, Anerch i'r Cymry i'w galw oddiwrth y llawer o bethau at yr un peth angenrheidiol er mwyn cadwedigaeth eu heneidiau," ond ni chafodd ei argraffu hyd 1782, pryd yr ymddangosodd yn Llundain, 24 plyg, 212 o dudalenau: y llyfr hwn yn benaf sydd wedi cadw ei enw ar dir coffadwriaeth.

PUGH, Parch. H. D., gweinidog yr Annibynwyr yn y Drefnewydd. Ganwyd ef yn Bryncrug, ger Towyn Meirionydd, yn 1820. Derbyniwyd ef yn gyflawn aelod yn eglwys Saron, pan yn 18 oed. Yn yr eglwys hon y dechreuodd bregethu pan tua 21 oed. Yn fuan aeth i'r athrofa dan addysg y Parch. Michael Jones, lle y bu am dair blynedd. Yn 1845, derbyniodd alwad eglwysi Main a Meifod, Sir Drefaldwyn. Yn 1849, gadawodd Meifod, gan dderbyn galwad oddiwrth eglwys Annibynol y Drefnewydd, yn yr un sir, lle y bu hyd ei farwolaeth, ar 19eg o Hydref 1850. Dywedir ei fod yn ŵr ieuanc o feddwl, cof, a thalent fwy na'r cyffredin.

PUGH, Parch. HUGH, gweinidog yr Annibynwyr yn y Brithdir, ger Dolgellau. Mab ydoedd i Robert a Mary Pugh, o'r Perthi-llwydion, Brithdir, lle y ganwyd ef Tachwedd 22ain, 1779. Cafodd ysgol dda pan yn ieuanc yn Nolgellau, a phan yn 13 oed, aeth i ysgol High Arcol, Swydd Amwythig. Pan o gylch 16 oed, derbyniwyd ef yn gyflawn aelod gan y Parch. Dr. Lewis, yn Brithdir. Pan yn 18 oed, dechreuodd bregethu, a dywedir ei fod yn dderbyniol a phoblogaidd, trwy fod ei bregethau mor hynod o ddengar, ei lais yn beraidd, a'i wresogrwydd yn danbaid. Pan yn 20 oed, aeth i Athrofa Gwrecsam, o dan ofal y Parch. J. Lewis. Yn 1802, neillduwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth, a gwnaed ef yn weinidog y Brithdir. "Yr oedd wedi cyraedd gwybodaeth helaethlawn o bethau Duw, ac o wahanol ganghenau yr athrawiaeth fawr sydd yn ol duwioldeb. Heblaw fod cryfder ei alluoedd naturiol yn sicr uwchlaw y cyffredin, yr oedd ei awydd i wybod y gwirionedd, megis ag y mae yn yr Iesu yn ddirfawr a pharhaus," Nid ydym yn sicr o'r flwyddyn y bu farw. Claddwyd ef yn Dolgellau.

PUGH, Parch. HUGH, Mostyn, gweinidog yr Annibynwyr yn Mostyn, Swydd Fflint. Ganwyd ef yn nghymydogaeth Towyn, yn 1802. Cafodd ysgol dda pan yn blentyn. Pan yn 13 oed, anfonwyd efi Lundain i fod yn glerc cyfreithiwr, lle y bu am chwe' blynedd. Yr oedd tuedd cryf ynddo at ddarllen er yn fore, ac wedi myned i Lundain, cafodd bob cyfleusdra i foddloni ei dueddiad. Yr oedd tueddiad meddwl Mr. Pugh yn fwy rhesymegol na barddonol, dychymygol, a rhamantus. Yr oedd yn hynod am reswm, neu ffaith, yn sail gadarn i bob peth. Yn Mehefin, 1822, dychwelodd o Lundain i Towyn, oherwydd afiechyd. Yn niwedd y flwyddyn 1822, ymunodd âg eglwys Annibynol Towyn. Yn 1823, aeth i gadw ysgol i Lanfihangel-y-Pennant, ger Towyn; ac yn niwedd yr un flwyddyn y dechreuodd bregethu, pan yn 20 oed. Yn 1824, aeth i gadw ysgol i Lwyngwril, ac yn Mai, 1826, aeth i Bethel, ger y Bala, i gadw ysgol, ac urddwyd ef yn Llandrillo, ar ddydd Mawrth, y 3ydd o Orphenaf, 1827. Blodeu oes weinidogaethol Mr. Pugh oeddynt yr un-mlynedd-ar-ddeg a'dreuliodd yn Bethel a Llandrillo. Yn y tymor hwn y cyhoeddodd ei draeth awd campus ar "Hawl a chymhwysder pob dyn i farnu drosto ei hun," ac hefyd "Gatechism yr Ymneillduwyr," a thraethodau eraill. Cyhoeddodd lyfr arall rhagorol yn dwyn yr enw "Drych y Cymunwr." Treuliodd 30 mlynedd yn Mostyn. Yr oedd yn un o'r dynion cadarnaf yn nghyngorau yr undeb y perthynai iddo, yn bregethwr grymus a synwyrol, yn gyfaill cywir a diffuant; ac fel ysgrifenwr, nid oedd genym ei ragorach yn Nghymru. Cyfranodd lawer iawn o ysgrifau campus i'r Dysgedydd, ynghydag amryw fisolion ereill, a charem yn fawr weled ei holl waith wedi eu casglu a'u cyhoeddi. Bu farw y gŵr mawr hwn yn Israel, Rhagfyr 23ain, 1868, a chladdwyd ef yn nghladdfa Seion, ger Treffynon. Yn ei farwolaeth y mae Cymru wedi colli un o'r dynion goreu a galluccaf, ac y mae enwad yr Annibynwyr wedi ei amddifadu o un o'i addurniadau penaf.—Geir. Byw., Aberdar.

PUGH, HUGH, y telynwr enwog o Ddolgellau. Mab ydoedd i Mr. Richard Pugh, Dolgellau, arweinydd i'r gribawg a'r uchelfawr Gadair Idris. Yr oedd yn un o naw o blant, tri o'r rhai oedd awyddus a medrus fel chwareuwyr ar amrywiol offerynau cerdd. Gwrthddrych y cofiant hwn oedd yr ieuengaf o'r plant, a hynododd ei hun yn dra ieuanc fel chwareuwr medrus ar y delyn Gymleig. Pan nad oedd ond naw oed, enillodd yr arian-dlws yn Ninbych. Yn Eisteddfod Beaumaris, yn 1832, cafodd yr anrhydedd o chwareu o flaen ei Mawrhydi y Frenhines, yr amser hyny y Dywysoges Victoria, a'i Huchelder Brenhinol, Duces Caint, ac anrhegwyd ef gan y Frenhines âg ardderchog dlws arian, fel un o'r ymgeiswyr buddugol ar yr achlysur. Yn Awst yr un flwyddyn, anrhegwyd ef drachefn gan Arglwyddes Rodney, â thlws ysblenydd, o delyn arian Gymreig, fel ymgeisydd buddugol yn Eisteddfod Caerdydd. Yn 1836, derbyniodd dlws arian yn Eisteddfod y Bala. Er fod pawb a'i hadwaenai yn ei gyfrif fel un o'r telynorion enwocaf yn ei oes, ac wedi ei ddyrchafu felly mewn amryw Eisteddfodau, ni chydnabyddai ef ei hun ei fod yn deilwng o'r fath anrhydedd, ond yn wastadol cyfrifai ei hun yn iselaf. Felly, mawr gerid ef, nid yn unig gan ei berthynasau a'i gyfeillion, ond gan bob gradd o ddynion a'i hadnabu, oherwydd ei addfwynder, a'i fawr diriondeb tuag at bawb, ac ymhob cyfeillach y byddai. Nisgwyddom y dydd y ganed ef, na'r dydd y bu farw, eithr claddwyd "ef yn barchus yn nghladdfa Bunhill Fields, Llundain.

PUGHE, WILLIAM OWEN, D.C.L. Ganwyd ef ar y 7fed dydd o Awst, 1759, yn Ty'nybryn, yn mhlwyf Llanfihangel-y-Pennant. Yn fuan wedi geni William, symudodd ei rieni i Egryn, yn Ardudwy. Anfonwyd ef i'r ysgol yn Altringham, gerllaw Manchester, pan yn bur ieuanc. Profodd mewn amser byr ei fod yn meddu meddwl cryf, ac amgyffred cyflym. Ymsefydlodd yn Llundain pan yn 17 oed; a dechreuodd ei fawredd ddyfod i'r golwg yn fuan yno. Yr oedd yn rhy fawr i anghofio ei Gymraeg; yn rhy fawr i wadu ei genedl, &c. Darllen a myfyrio llyfrau oedd tueddfryd cryfaf y bachgen, a'r llyfrau hyny gan mwyaf yn dwyn perthynas â'r Cymry a'u hiaith. "Rheolai ei holl ddarlleniad â barn bwyllog, oleuedig, ac annibynol." Tua'r flwyddyn 1782 daeth yn gydnabyddus â Robert Hughes, neu Robyn Ddu o Fôn," Owen Myfyr, ac amryw enwogion Cymreig eraill, y rhai oedd yn dwyn zel angerddol dros "Gymro, Cymru, a Chymraeg ;" a'i arwyddair yntau fyddai, dyrchafu ei genedl, ei iaith, a'i wlad i uwch pareh, ac i fwy o sylw. Yn y flwyddyn 1806, daeth etifeddiaeth fechan yn eiddo iddo gerllaw hen dref Dinbych; a chyn pen hir symudodd y Doctor yno i fyw. Yn y flwyddyn 1816 bu ei wraig farw, yr hon a briodasai yn y flwyddyn 1790, ac o'r hon y cafodd ddwy ferch ac un mab. Tuag amser cyhoeddiad ei Eiriadur, etholwyd ef yn aelod o'r Gymdeithas Henafiaethol; a chafodd D.C.L. o Brifysgol Rhydychain tua'r flwyddyn 1824. Yn haf y flwyddyn 1835, aeth i ymweled â'i hen ardal enedigol, a chyn nemawr o ddyddiau bu farw yn Dolydd—can, plwyf Talyllyn, Mehefin 3ydd, 1835. Nid llawer o'r Cymry sydd wedi efrydu y Gymraeg mor drwyadl, gwneyd cymaint o les i lenoriaeth Cymru, a gwneyd y fath egni i roddi cyfeiriad newydd iddi, ag a wnaeth y Dr. William Owen Pughe. Ceisiwn yma roddi crynodeb o'i lafur llenyddol:—1. Y gwaith llenyddol cyntaf ag y cawn enw Dr. O. Pughe mewn cysylltiad âg ef yw, History of Wales, in nine Books, by the Rev. W. Warrington," London, 1788. Y mae yr awdwr, yn ei ragymadrodd, yn cydnabod ei rwymau i Mr. William Owen, Llundain, am ddiwygio llythyraeth y geiriau a'r enwau Cymraeg. Yr ydym yn deall hefyd fod parthlen o Gymru ynddo, ac achau Tywysog Cymru, o eiddo Dr. W. O. Pughe. 2. Mewn undeb âg Owain Myfyr yn casglu a golygu Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym—" Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym. O Grynhoad Owen Jones, a William Owen." Llundain, 1789. "Collection of Poems, published by W. Owen. 1789." Dr. W. O. Pughe oedd y casglydd. 4. Cyfieithu Barddoniaeth Llywarch Hen i'r Saesneg. "The Heroic Elegies and other Pieces of Llywarch Hen, Prince of the Cumbrian Britons: with a Literal Translation, by William Owen. Y Gwir yn erbyn y Byd. London, &c. 1792." 5. Ei brif orchestwaith—ei "Eiriadur Cymraeg a Saesneg." Daeth rhyw gyfran o'r Geiriadur allan yn 1793; a chyfran arall yn 1799; a daeth allan yn gyflawn yn 1803. Dyma waith, wrtho ei hun, yn ddigon i anfarwoli enw ei awdwr mewn unrhyw wlad fwyaf cyfoethog o enwogion! 6. "The Works of Taliesin, a Bard of the sixth century. With a Literal English Version and Notes. By William Owen. London: E. Williams, 1793." 7. "The Cambrian Register," Llundain. Cyf. I. am 1795; yr ail am 1796; a'r olaf am y flwyddyn 1818. Y golygydd oedd Dr. W. O. Pughe. 8. "Cynghorion Priodor o Garedigion i Ddeiliaid ei dyddynod." Llundain, 1800. Cyfieithiad yw y llyfr hwn o "Cardiganshire Landlord's Advice to his Tenants." Milwriad Johnes yw yr awdwr, a Dr. W. O. Pughe yw y cyfieithydd. 9. "Cyhoeddiad gan y Brenin." 1800. Y cyfieithydd i'r Gymraeg oedd Dr. W. O. Pughe. 10. "Myvyrian Archaeology of Wales," yn dair cyfrol; daeth allan o 1801—7. Hen ysgrifau anghyhoeddedig Cymreig ydynt, a gasglwyd gan Dr. Pughe, Owen Jones (Owain Myfyr), ac Edward Williams (Iolo Morganwg). Dywedir iddynt gasglu digon o hen lawysgrifau i wneyd 60 o gyfrolau 4 plyg. 11. "Llyfr y Resolution," &c., 1802. Cyfieithiad o lyfr Seisnig yw hwn; yr awdwr ydoedd Robert Gwynn; y cyfieithydd, Dr. Davies, o Fallwyd; a golygydd y pedwerydd argraffiad, Dr. W. O. Pughe. 12. "Egluryn Ffraethineb, sef Dosbarth ar Retoreg," &c. Cyfansoddwyd y gwaith hwn mewn rhan gan William Salesbery, a gorphenwyd ef gan Henry Parry, o'r Maesglas, sir Fflint, ac a argraffwyd gyntaf yn 1595, ac ail argraffwyd ef yn 1807, dan olygiad Dr. O. Pughe. (Rhy faith i fanylu.) Efe yw awdwr "Cambrian Biography;" cyfieithydd y" Traethawd ar drin tir;" "Paradise Lost;" "Heber's Palestine;" "Gray's Bard;" "Caneuon Hemans;" a'r "Mabinogion" i'r Saesneg; golygydd y Greal; cyhoeddydd ei "Fuchdraeth Gymreig;" "Dyheuwyd Cristion." Ysgrifenodd lawer i Rees's Enoyclopedia; Hoare's History of Wiltshire; Britton's Beauties of England and Wales; Campbell's Books on Wales; Gunn's Tracts; Meyrick's Cardiganshire Lore; Chalmers's Caledoniá; Coxe's Publications, &c. Y mae hefyd liaws o ganiadau, llythyrau, a thraethodau, &c., y rhai a ymddangosasant, rhai yn llyfrau ar eu penau eu hunain, fel "Hu Gadarn o'i eiddo. Cywydd ydyw hwn o dri chaniad, gan Idrison, 12mo bds., Llundain, 1822. Y mae eraill o'i eiddo mewn cyhoeddiadau cyfnodol, megis "An outline of the characteristics of the Welsh." Ysgrif alluog anarferol o'i eiddo a ymddangosodd yn Transactions of the Cymrodorion, Hefyd y mae lliaws o erthyglau yn y cyhoeddiadau crybwylledig, ac eraill nas gwyddis pa faint, a lliaws o'r rhai hyny heb ei enw priodol ef wrthynt, fel na cheir byth allan eu hawdwr, oddieithr iddynt gael eu hadnabod ar gyfrif eu rhagoroldeb.

PUGH, Parch. WILLIAM, o Lanfihangel y Pennant, yn nghantref Meirionydd, pregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Ganwyd ef Awst 1, 1749. Nid oes genym fawr o hanes Mr. Pugh yn fachgen. Derbyniwyd ef yn gyflawn aelod yn Nolgellau. Yr oedd yn 40 oed pan ddechreuodd bregethu, a chafodd lawer iawn o helbulon yn nechreuad ei weinidogaeth trwy yr erlid llym oedd y pryd hwnw. Fel pregethwr yr oedd o ran ei ddull a'i ystum yn, syml a dirodres, a'i lais yn beraidd ac eglur. Bu farw Medi 14, 1829, wedi crefydda am 50 mlynedd, a phregethu am 40 mlynedd, yn 80 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Llanfihangel y Pennant.

PUGH, JOHN, Ysw., (Ieuan Awst) ydoedd fardd a llenor enwog yn ei ddydd. Ganwyd ef yn Nolgellau, yn y flwyddyn 1784. Cyfreithiwr ydoedd wrth ei alwedigaeth. Nid oes genym. nemawr o'i hanes, gadawn i'r bardd lefaru am dano:—

"Gwyddai am holl agweddion—ysgrifiaeth,
Rhifyddiaeth, mawr fôddion;
Bydoniaeth—seriaeth, llys Ion,
Alsoddiaeth a'i dlysyddion."

"E fynodd holl elfenau—Gomeriaeth,
Gem eurwych tafodau;
Ol iaith clêr, gwŷr Elaeth clau,
Geraint Fardd Glas o'r gorau.

"Ei bêr ddawn mewn barddoniaeth
Heb beidiaw fu'n ffrydiawn'n ffraeth."

Y mae gan y bardd lawer yn ychwaneg i'w ddyweyd am dano ond gadawn ar hynyna. Bu farw Chwefror 16, 1839, yn 55 oed.

RICHARDS, Syr RICHARD, cyfreithiwr enwog, a anwyd yn mhlwyf Dolgellau, Tachwedd 5, 1752. Cafodd ei addysg ar y cyntaf yn ysgol Rhuthyn, o ba le yr aeth i Brif-ysgol Rhydychain, ac yno, ymhen ysbaid, etholwyd ef i Gymrodiaeth Michael, yn Ngholeg y Frenhines. Galwyd ef at y bàr, fel aelod o Gymdeithas Anrhydeddus y Deml Fewnol; ac yn 1813 penodwyd ef yn brif ynad Caerlleon; yn 1814 yn un o farwniaid y Trysorlys; ac yn 1817, ar farwolaeth Syr Alexander Thompson, yn Arglwydd Brif Farnwr y llys hwnw. "Yn holl gylch ei broffeswriaeth," ebai un newyddiadur wrth gofnodi ei farwolaeth, "ni safai ungwr yn uwch yn marn bersonol a pharch y cyhoedd na Syr R. Richards. Yr oedd y caredigrwydd a'r haelfrydedd neillduol a ddynodai bob gweithred o'i fywyd yn enill iddo gyfeillgarwch serchus pob un a fu ddedwydded a bod yn gydnabyddus âg ef; treuliodd ei holl amser, pan yn rhydd oddiwrth ofalon ei broffeswriaeth, mewn gweithredoedd o ddyngarwch. Yr oedd ei ddyfarniadau, fel cyfreithiwr ac ynad, yn gywir a diffuant." Enillodd gyfeillgarwch ac ymddiried llwyraf Arglwydd Eldon, yn lle yr hwn y llywyddodd lawer gwaith fel Llefarydd yn Nhy yr Arglwyddi. Yn 1785 efe a briododd Catherine, merch ac aeres Robert Fychan Humphreys, Ysw., o Gaerynwch, Meirion, o'r hon y bu iddo deulu o wyth mab a dwy ferch. Bu farw yn Llundain, Tachwedd 11, 1823, a chladdwyd ef mewn cell yn Eglwys y Deml. Disgynodd ei ystadau i feddiant ei fab, Richard Richards, Ysw., un o farnwyr yr uchel Ganghell-lys, ac aelod Seneddol dros sir Feirion.—( Wms Em. Welsh.)

RICHARDS, Parch. THOMAS, a hanai o deulu Caerynwch, Meirionydd. Bu yn offeiriadu yn Llansannan, sir Ddinbych, a Llanfyllin, sir Drefaldwyn, ac yn gantawr yn Llanelwy. Yr oedd yn awdwr cyfrol o farddoniaeth Lladin ar farwolaeth y frenhines Caroline, priod Sior I. Dywedai Dr. Trapp, proffeswr barddoniaeth yn Mhrif-ysgol Rhydychain, ei fod y bardd Lladinaidd goreu yn ei oes. Ysgrifenodd lythyr i'r Philosophical Transactions hanes y tân yn morfa Harlech, 1644, ac a gyhoeddwyd hefyd gan Camden.—(G. Lleyn.)

ROBERTS, Parch. EDWARD pregethwr ieuanc gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Ganwyd ef yn mhlwyf Towyn, yn nghantref Meirionydd, yn y flwyddyn 1814. Yr oedd yn wr ieuanc o dymherau hynaws a siriol iawn wrth natur. Derbyniwyd ef yn aelod pan yn 15 mlwydd oed; a bu yn pregethu am un—ar—ddeg o flynyddau, a bu farw Rhagfyr 27, 1840, yn 26 mlwydd oed. Bu am amser byr yn hynod lafurus gyda'r weinidogaeth. Arferai bregethu yn ddifrifol ac effeithiol iawn. Bu yn athrofa y Bala am ryw ysbaid, ond gorfu arno ymadael oherwydd afiechyd, ac ni bu yn alluog i fyned nemawr o'r tŷ wedi hyny.

ROBERTS, Parch. RICHARD, Dolgellau, oedd weinidog gyda'r Trefnyddion Cafinaidd yn sir Feirionydd. Ele a ymunodd â'r Trefnyddion Calfinaidd tra yr oedd yn ieuanc; bu 46 mlynedd yn ngwaith y weinidogaeth yn eu plith. Efe a deithiodd yn achlysurol trwy holl siroedd Cymru. Yr oedd o ran ei gymeriad personol yn ddifefl a disglaer, a byddai yn pregethu ar amserau yn rymus ac effeithiol iawn. Bu farw Mai 17, 1861, yn 76 oed.—(Geir. Byw., Aberdâr.)

THOMAS, Parch. JOHN, D.D., ydoedd frodor o Ddolgellau yn Meirion, lle y ganwyd ef yn 1681. Addysgwyd ef yn ysgol y Merchant Taylors, Llundain, o ba le y'i danfonwyd, ar draul meistr ei dad, i goleg Catherine Hall, Caergrawnt, lle y cyraeddodd y radd o D.D. Wedi derbyn urddau Eglwysig efe a aeth drosodd i Hamburgh, fel caplan i'r llaw—weithfeydd Seisnig, a bu yn trigianu yn y ddinas hono am lawer o flynyddau. Yn y cyfamser enillodd y fath wybodaeth o'r iaith Germanaidd fel y bu yn golygu cyhoeddiad cyfnodol yn yr iaith hono o'r enw Patriot am hir amser. Tua'r pryd hwn tynodd sylw y brenin Sior II, ac ar gyfrif ei hylithrwydd yn y Germanaeg bu yn cydymdeithio gyda'r brenin yn y rhan fwyaf o'i ymweliadau i'w Etholfa yn y wlad hono. Ei wraig gyntaf oedd foneddiges Ddanaidd, yr hon a briododd efe yn Capenhagen, lle yr enillodd sylw brenin Denmark, a bu ar ol hyn yn ymohebu âg ef. Yn 1736 penodwyd ef i rectoriaeth St. Vendast, Foster Lane, Llundain; ac yn 1740 dewiswyd ef yn Ddeon Peterborough. Yn 1742 gwnaed ef yn Brepend Westminister, ac yn Ganon triganol St. Paul. Yn 1743 dyrchafwyd ef yn Esgob Llanelwy; eithr cyn cael o hono ei gysegru efe a symudwyd i esgobaeth Lincoln, ac a gysegrwyd Ebrill 1, 1744. Symudwyd ef i esgobaeth Salisbury yn 1761, a bu farw Mehefin 20, 1766. Yr oedd yn ddyn tra dysgedig, ac yn enwog am ei ddywediadau ffraeth, ac y mae lliaws o gof chwedlau am dano.—(Wms. Em. Welsh.)

THOMAS, Parch. THOMAS, gweinidog y Wesleyaid, ac a anwyd yn Nolgellau, yn y flwyddyn 1785. Aeth at grefydd yn fore, a dechreuodd bregethu pan yn bur ieuanc. Yn 1808 aeth i'r weinidogaeth, a llafuriodd yn gyffredin gyda chymeradwyaeth mawr yn y gwahanol gylchdeithiau y sefydlwyd ef ynddynt. Yr oedd yn meddu dawn naturiol dda, a diwylliodd ei alluoedd drwy efrydiaeth ddyfal o brif weithiau awdwyr duwinyddol Cymru a Lloegr. Yr oedd ei olygiadau yn eang ar bynciau mawrion Cristionogaeth, a thraddodai ei bregethau, hyd yn nod yn ei hen ddyddiau, gyda gwres a dylanwad. Yr oedd llawer o'i bregethau gyda'r rhai mwyaf gorchestol ac ardderchog a ellid glywed, ac yr oeddynt yn drylawn o wirionedd yr efengyl. Cymerai yn aml destynau anhawdd, megis awdurdod y crochenydd ar y priddgist, &c. Trafodai y fath bynciau yn fedrus, buddiol, a gwresog Yr oedd yn weinidog cymwys y Testament Newydd. Bu farw yn Abermaw, Ebrill 16, 1846, yn 61 oed, wedi bod yn y weinidogaeth 38 o flynyddau. Claddwyd ef yn mynwent Llanaber, ger Abermaw.

WILLIAM, HUMPHREY, ydoedd fardd rhwng 1520 a 1660. Brodor ydoedd o Dywyn Meirionydd. Y mae cerdd o'i waith yn y Blodengerdd, 240.

WILLIAMS, JOHN, (Ioan Rhagfyr), y cerddor o Ddolgellau, a anwyd Rhagfyr 26, 1740, yn Hafodty—fach, plwyf Celynin, yn nghantref Meirionydd. Yn fuan wedi geni John symudodd ei rjeni i dyddyn ger Dolgellau, o'r enw Talywaun. Enw ei dad. oedd W. Robert Williams, ac wrth ei alwedigaeth, gwneuthurwr hetiau brethyn ydoedd. Yr oedd ei fam yn gyfnither i'r hen fardd dysgedig o Gorwen, sef y Parch. Edward Samuel, periglor Llangar. Ni chafodd ond tri mis o ysgol ddyddiol yn ei ieuenctyd, a dygwyd ef i fyny yn yr un alwedigaeth a'i dad. Cafodd dri mis. wedi hyny mewn ysgol yn Amwythig, ac yn fuan iawn hynododd efe ei hun yno fel dysgwr cyflym, ac un hoff neillduol o gerddoriaeth. Yr offeryn cerdd cyntaf a ddysgodd oedd y German flute, yna y trumpet. Pan tua 17 oed, dechreuodd farddoni, ac erbyn cyraedd 22 yr oedd ganddo gywyddau, englynion, ac awdlau gorchestol, wedi eu cynghaneddu ar amrywiol destynau. Bernir iddo ddechreu cyfansoddi cerddoriaeth tua'r un amser, os nad yn gynt, canys ceir iddo gyfansoddi tôn ar y Salm gyntaf pan nad oedd ond bachgenyn, ac iddo ei dysgu yn eglwys Dolgellau yn absenoldeb Mr. J. Symmons, o Swydd Drefaldwyn, yr hwn oedd yn dyfod oddiamgylch i ddysgu cerddoriaeth eglwysig. Dywedir i Mr. Symmons ddywedyd, pan glywodd ganu ei anthem ar y geiriau "Parod yw fy nghalon," ei fod wedi myned a'i damaid o'i ben ef am byth yn Nolgellau. Bu y ddau yn gyfeillion calon am eu hoes. Yn 1758, yn 23 oed, priododd Jane Jones, merch W. Jones, tirfeddianwr, Brynrhug, Dolgellau, ond ni chawsant blant. Nid oes ond ychydig yma ac acw o'i farddoniaeth ar gael; eithr fe geir ei dônau a'i anthemau braidd ymhob hen ysgrif-lyfr trwy Wynedd, os nad yn Mhowys hefyd. Gellir dywedyd yn wirioneddol na chododd neb yn Nghymru, hyd y gwyddom ni, eilfydd iddo yn ei ddawn a'i fedrusrwydd i gyfansoddi peroriaeth o foliant i enw Duw. Anthemau a thônau o'i eiddo ef a genir fynychaf trwy holl Gymru yn yr eglwysi plwyfol er's llawer o flynyddoedd, ac hefyd mewn llawer o addoldai Ymneillduol o amrywiol enwadau. Dywedir hefyd fod rhai o'i dônau godidog ef mewn bri a chymeriad mawr yn rhai o drefydd Lloegr, ac yn cael eu chwareu yno ar yr organau goreu; a da iawn yr haeddant hyny hefyd, yn ol barn pob dyn deallus a gwybodus am y fath beth. Pan yn 32 oed, rhoddodd heibio wneuthur hetiau, a bu am ysbaid yn ysgrifenydd i Mr. Edward Anwyl, cyfreithiwr, Dolgellau. Ond nid oedd y gorchwyl hwn yn unol a'i athrylith; rhoddodd ef i fyny, a bu am ryw ysbaid yn cadw ysgol ddyddiol yn Trawsfynydd, Abermaw, Dolgellau, a Llanelltyd. Ceir rhai o'i gyfansoddiadau barddonol yn Nhrawsfynydd. Pan yn Abermaw y cyfansoddodd yr alaw a elwir " Ymdeith-gân Gwyr Abermaw." Yno hefyd y cyfansoddodd y dôn a elwir "Funeral," at gladdedigaeth gweinidog Llanfachreth. Dywedir mai yn Nolgellau, mewn rhyw gyfyngder a fu arno, y cyfansoddodd anthem ar y 18fed Salm, "Yn fy nghyfyngder y gelwais." Yn Llanelltyd yr oedd pan gyfansoddodd dôn ar y 50 Salm. Cyfansoddodd liaws o anthemau; crybwyllwn am rai o honynt yn mhellach:—"Te Deum," "Jubilate Deo," Deus Misereatur," "Roedd yn y wlad hono," "Onid oes amser terfynedig," "Cenwch i'r Arglwydd ganiad newydd," a'i anthem "Wrth afonydd Babilon," &c., &c.; "Ymdeith-gân Gwyr Meirion," a rhai alawon wedi eu trefnu i'r delyn. Y dôn fwyaf adnabyddus o'i waith yn awr yn ngwasanaeth y cysegr ydyw "Sabbath." Bwriadai gyhoeddi ei holl waith barddonol a cherddorol yn un llyfr dan y teitl "Difyrwch y Cymro," ond bu farw cyn dwyn y bwriad i ben. Pan roddodd heibio gadw ysgol yn Llanelltyd, symudodd i'r Twll—coch, Dolgellau, lle y bu farw Mawrth 11, 1821, yn 81 oed, a'i briod yn fuan ar ei ol. Canodd R. ab Gwilym Ddu o Eifion awdl ardderchog i'w goffadwriaeth.

WILLIAMS, Parch. JOHN, gweinidog yr Annibynwyr yn Aberhosan, Sir Drefaldwyn. Ganwyd ef yn nghymydogaeth l'ennal yn 1799. Argyhoeddwyd ef dan weinidogaeth y Parch. D. Morgan, Machynlleth, wedi hyny o Lanfyllin. Symudodd o Pennal i Dowyn Meirionydd, ac oddi yno i Lanegryn, o'r lle hwn yr aeth i Ysgol Ramadegol, ond mewn cysylltiad â Choleg yr Annibynwyr yn y Drefnewydd, yn awr sydd yn Aberhonddu. Bu am ddwy flynedd yn yr ysgol. Yn 1828, derbyniodd alwad eglwys Annibynol Dinas Mawddwy, yn arglwyddiaeth Mawddwy, lle y bu am ddeng mlynedd yn llafurio gyda llwyddiant mawr. Yn 1829, urddwyd ef, a chafodd alwad gan eglwysi Aberhosan a Phenegoes, ac yn y lle diweddaf y llafuriodd gyda ffyddlondeb mawr hyd derfyn ei oes. "Yr oedd yn llefarwr da, a theithiodd lawer i bregethu yr efengyl." "Yr oedd yn wir gyfaill, ac yn faddeugar i'w wrthwynebydd." "Yr oedd yn weinidog defnyddiol a ffyddlon, ac yn neillduol fanwl at ei ymrwymiadau." Bu farw Medi 12, 1864, yn 66 oed, wedi pregethu am 36 o flynyddau.

WILLIAMS, Parch. OWEN, Towyn Meirionydd, gweinidog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Swydd Feirionydd. Dywed Geir Byw., Aberdar, mai yn 1787 y ganed ef, ond dywed ef ei hun yn ei ysgrifau a adawodd ar ei ol, ei eni ef yn Bryncrug, plwyf Towyn, Swydd Feirion, Medi 11, 1784. Cafodd ysgol dda pan yn ieuanc gyda Mr. John Jones, Penyparc. Dechreuodd bregethu pan yn 27 oed. "Yr oedd ganddo ddull gwreiddiol o draethu ei syniadau ar wahanol faterion. Pregethai y gair yn gadarn ac yn fanylaidd." Cyfansoddodd a chyhoeddodd liaws o lyfrau gwir alluog. Er y dywed ei fywgraffwyr nad oedd dim anghyffredin yn Mr. O. Williams fel pregethwr nac fel awdwr, &c., prin yr ydym yn cydweled â hyn, mor bell ag yr ydym yn cofio O. Wil. liams. Fel pregethwr, ac, yn ol ein cydnabyddiaeth â'i ysgrifeniadau, yr ydym yn meiddio dywedyd ei fod yn feddyliwr anghyffredin. Y mae ei ysgrifau i fyny mewn nerth ac eglurder i ddim braidd sydd wedi ymddangos yn y Gymraeg. Yr ydym yn tybied na chafodd y Parch. O. Williams, a lliaws heblaw yntau, erioed eu hadnabod a'u cydnabod yn deilwng genym fel cenedl. Y mae yn wir ei fod dipyn yn helbulus yn ei amgylchiadau tymorol, a'i fantell yn bur lwydaidd, &c., ond beth er hyny, yr oedd y dyn yno, a dyn mawr iawn hefyd! Y mae tri o'i gyfansoddiadau yn argraffedig ger ein bron:-1. "Golwg ar gyflwr dyn, (1.) yn ei greadigaeth, (2.) yn ei gwymp drwy Adda, (3.) yn ei gyfodiad drwy Grist." Aberystwyth, 1840. 2. "Eiriolaeth Iesu Grist." Bangor, 1850. 3. "Traethawd ar Waed Crist." Dolgellau, 1862. Mathau o draethodau duwinyddol ydynt. Y mae'r traethawd ar "Gyflwr dyn" yn bur faith a galluog hefyd,—yn 180 o dudalenau, plygiad 8. Yr ydym yn gwybod iddo gyhoeddi amryw fân lyfrau eraill, ond nid ydynt wrth law, felly 'nis gallwn roddi cyfrif têg o honynt. Pan yn cyfansoddi ei lyfrau, ni byddai ganddo yr un llyfr ond y Bibl. Yr oedd wedi ei gynysgaeddu â chôf cryf iawn. Bu farw Ebrill 15, 1859, yn 75 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Capel Salem, Dolgellau.

WILLIAMS, Parch. WILLIAM, o'r Wern; un o brif bregethwyr Cymru. Er na all Swydd Feirion hawlio Elias o Fon, y Calfinistiaid; Christmas Evans, y Bedyddwyr; na Mr. Aubrey, y Wesleyaid; eto gall hawlio Williams o'r Wern, yr Annibynwyr, fel un o'i phlant, ïe, un o'r rhai enwocaf fagodd Cymru fel pregethwr. Ganwyd ef yn Cwmhyswn (Cwm-y-swn) Ganol, plwyf Llanfachreth, yn nghantref Meirionydd, yn 1781. Yr oedd yn un o saith o blant i William a Jane Probert. Pan tua 13 oed, gafaelodd yr efengyl yn ei feddwl pan yu gwrando ar y Parch. Rees Davies, Saron, Swydd Gaerfyrddin, yn pregethu mewn amaethdy o'r enw Bedd-y-coedwr; a phan oedd tua 14 oed, ymunodd â'r eglwys Annibynol yn Pen-y-stryd, Trawsfynydd, oedd dan ofal y Parch. W. Jones. Derbyniwyd ef yn gyflawn aelod ei fod yn 15 oed; a chyn ei fod yn 19 oed, yr oedd wedi dechreu pregethu. Dechreuodd bregethu yn Pen-y-stryd, a phregethai yno ac mewn tai yn y gymydogaeth gyda chymeradwyaeth anghyffredin. Nid oedd wedi cael ond ychydig ysgol ddyddiol, os dim. Nid oedd ganddo ychwaith ond ychydig lyfrau; y llyfr a hoffai yn nesaf i'r Bibl oedd llyfr ar "Benarglwyddiaeth Duw," gan Eliseus Cole. Ymhen tua dwy flynedd wedi dechreu pregethu, aeth am ryw ysbaid i ysgol yn Aberhafesb, ger Drefnewydd, Swydd Drefaldwyn, a derbyniwyd ef i Athrofa Gwrecsam yn 1803, o dan ofal y Parch Jenkin Lewis; yr oedd y pryd hyn tua 22 oed. Yn 1807 gadawodd yr athrofa, a derbyniodd alwad eglwysi y Wern a Harwd; ac yn Hydref 22, 1808, ordeiniwyd ef. Yn 1817, priododd Miss Rebecca Griffith, o Gaer, o'r hon y cafodd bed war o blant—dau fab a dwy ferch, Derbyniodd Mr. Williams amryw alwadau oddiwrth eglwysi mawrion a chryfion o Dde a Gogledd, ond dewisodd ef yn hytrach wasanaethu yr ychydig braidd gweiniaid yn y Wern, a'r eglwysi bychain eraill oedd dan ei ofal, gan wrthod bywoliaeth fras, a byw ar arian ei briod. Yn 1837, derbyniodd alwad eglwysi y Tabernacl, Great Cross Hall Street, Lerpwl, a rhoddodd eglwysi Rhos a'r Wern i fyny, wedi bod yno ddeng—mlynedd—ar—hugain, a hyny oherwydd ei brofedigaethau chwerwon—claddu ei hoff briod yn 1836, a rhai o'i blant cyn hyny. "Ei hoff waith ydoedd chwilio i mewn i egwyddorion athroniaeth naturiol a moesol, yn enwedig egwyddorion duwinyddion; felly, nid oedd Mr. Williams, y mae'n wir, yn ddyn dysgedig yn yr ystyr a roddir yn gyffredin i'r gair dysgedig, sef cyfarwydd—deb a hyddysgrwydd mewn ieithoedd; eithr, os priodol galw dyn cyfarwydd âg egwyddorion natur, y meddwl, a'r Ysgrythyr, yn ddyn dysgedig, yna yn ddiau, yr oedd Mr. Williams yn un o ysgolheigion penaf yr oes. Pa fodd bynag, dysgodd gymaint tra yn yr athrofa ag a'i galluogai i bregethu yn Saesneg, a digon o Roeg a'i gwnelai yn alluog i ddefnyddio rhyw gymaint ar yr iaith hono." "Fel pregethwr yr hynododd Mr. Williams ei enw yn ei wlad, ac ymysg ei genedl; ac y dyrchafodd efe anrhydedd yr enwad y perthynai iddo yn Nghymru yn fwy na neb arall o'r enwad hwnw yn ei oes." Yr oedd tanbeidrwydd ei areithyddiaeth, cyflawnder ac ystwythder ei ddoniau, bywiog: wydd ei ddychymyg, newydd—deb ei ddrychfeddyliau, a nerth ei hyawdledd yn traddodi yn deffro y broydd, ac yn rhoddi adenydd i'w enw, gan drosglwyddo y son am dano ymhell ac yn agos, fel, i ba le bynag yr elai, byddai tyrfaoedd lliosog yn ymgynull mewn awyddfryd mawr am ei wrando." "Un o'i ragoriaethau fel pregethwr oedd ei symledd (simplicity). Pa fater bynag a gymerai mewn llaw, gwisgai ef â symledd ac eglurdeb rhyfeddol; ni byddai cymylau a niwl a thywyllwch o'i amgylch un amser." Bu farw Mawrth 17, 1840,yn 59 oed.—(Gweler ei Gofiant yn Rhyddweithiau Hiraethog.)

DOS. VI.

ENWOGION SWYDD FEIRION—NAS GWYDDYS O BA LE O'R SWYDD.

(HEN A DIWEDDAR.)

ANWYL, ELLIS, ydoedd fardd yn Meirion, tua chanol yr 16eg ganrif. Y mae englynion o anerchiad o'i eiddo yn gysylltiedig â chyfieithiad "Ystyriaethau 'Doetelius ar dragwyddoldeb," gan, Lewis Ellis, o'r Llwyngwern, yn sir Feirionydd, a gyhoeddwyd yn y flwyddyn 1661.

HUGHES, Parch. EDWARD, (Y Dryw) A.M., ficer Bodffari, yn Nyffryn Clwyd. Tybir mai brodor o Feirion ydoedd, a bu am rai blynyddau yn gaplan ar fwrdd llong ryfel. Efe a enillodd y wobr am yr awdl oreu ar " Elusengarwch," yn Eisteddfod Dinbych, pan y collodd ac y dirfawr lidiodd Dewi Wyn. Y ffugenw a ddododd wrth ei awdl ydoedd "Y Dryw," ac wrth yr enw hwnw yr adwaenir ef oreu ymhlith y beirdd. Ceir "Erddygan "'o'i waith yn y Cambro Briton, ii. 232, a chân arobryn ar "Y llongddrylliad," a dernyn prydferth o gywydd "Ymson un o'r Madogiaid," Ceinion Awen y Cymry. Efe a enillodd wobr y Cymrodorion yn 1822, am y gywydd oreu ar "Hu Gadarn." Y mae mwy o harddwch dysgeidiaeth i'w weled yn ei waith nag o flachiadau tanllyd athrylith o'r radd uchaf.

IEUAN BRYDYDD HIR (hynaf) bardd gorchestol yn Meirion rhwng 1440 a 1470. Y mae ychydig o'i waith ar gael. Y mae "Cywydd yn dangos byrdra oes dyn "o'i eiddo yn argraffedig yn y Brython, cyf. iv. 35, lle y dywed Mr. R. Williams (Wmffra Dafydd) mai yn Ardudwy yr oedd aneddle Ieuan Brydydd Hir ; ond nid oedd ganddo ddim yn profi hyny; felly nis gallasem ei roddi yn nosbarth Ardudwy.

JONES, Parch. LEWIS, a anwyd yn sir Feirionydd, yn 1542, ac a gafodd ei addysg golegol yn Rhydychain, lle y derbyniwyd ef yn 1562. Etholwyd ef yn gymrawd o goleg All Souls yn 1569. Tua'r un pryd ymgymerodd âg urddau Eglwysig, ac heb gymeryd gradd uwch na B.A., yn un o brifysgolion y wlad hon, symudodd i'r Iwerddon, lle y dyrchafwyd ef yn ddeon Cashel, a thrachefn yn esgob Killaloe, i'r hon swydd oruchel y cysegrwyd ef Ebrill 24, 1633. Yn 1641, pan dorodd y gwrthryfel allan, efe a enciliodd i Dublin, er diogelwch, lle y bu farw Tachwedd 2, 1646, ac efe yn 104 mlwydd oed. Claddwyd ef yn Eglwys St. Werburg, o fewn y ddinas hono.—(Wood's Athen. Oxon.)

JONES, Parch. WILLIAM, ydoedd frodor o Feirion. Wedi derbyn addysg ragorol ymsefydlodd mewn ysgol yn Rhuthyn, a symudodd oddiyno i Ddinbych, lle y dewiswyd ef gan arglwydd milwrol castell y dref hono, o dan Werinlywodraeth Cromwell, i fod yn bregethwr y castell; a thua 1648 gwnaed ef yn weinidog y plwyf. Cymerodd daith i Lundain, er mwyn ymgynghori â Richard Baxter ac eraill o barth Deddf yr Unffurfiad, a dychwelodd gan lwyr benderfynu ymneillduo pan ddelai y gyfraith hono i weithrediad. Wedi ei orfodi i ymadael â Dinbych gan gyfaith y Pum' Milldir, cafodd encilfan ddymunol yn Plasteg, sir Fflint, gyda theulu hynafol y Treforiaid, y rhai o haelfrydedd eu calon a roddasant gyfran o dir iddo gwerth 20p. yn y flwyddyn. Ar of trigianu yno am lawer o flynyddoedd efe a symudodd i Hope, yn yr un sir, lle y bu farw mewn oedran teg, yn Chwefror, 1679, ac yno y claddwyd ef. Yr oedd yn ŵr o ddysg, pwyll, a duwioldeb diamheuol. Efe a gyfieithodd i'r Gymraeg y ddau lyfr canlynol o eiddo Mr. T. Gouge, "Gair at bechaduriaid a saint," ac "Egwyddorion y Grefydd Gristionogol. Cyhoeddwyd a rhanwyd hwy ymhlith tlodion Cymru yn 1676."—(Rees' Noncon. in Wales, 148.)

LEWIS, Parch. WILLIAM, D.D., ydoedd frodor o swydd Feirion, a nai i'r enwog Theodore Price, Bronyfoel, Ardudwy. Cafodd ei ddysgeidiaeth yn benaf yn Ngholeg Oriel, Rhydychain, lle y cyrhaeddodd y graddau o B.A. ac M.A., a Mai, 1627, yu、 D.D., ac yn Provost ei goleg. Crewyd ef yn D.D., trwy lythyr brenhinol, yn rhedeg fel hyn:—" William Lewis, er's talm yn M.A., ac wedi treulio llawer o flynyddoedd yn efrydydd Duwinyddiaeth gartref, ac ar led. Yr ydym oddiar ein profiad o'i ddiwydrwydd a'i ddoniau mewn rhyw amgylchiadau pwysig, y darfu ei roi ar waith, mewn pethau tramor, ac er defnyddio ei amser mewn rhyw wasanaeuh pellach, yn ei anrhydeddu â'r gradd o D.D.; ac yr y'm yn deisyf arnoch ei dderbyn a'i raddio yn D.D." Wedi hyny efe a gymerodd raddau, ac er mai meistr ieuengaf ydoedd yn eu coleg, eto, trwy blaid a mwyafiaeth o Gymry meddai Wood) cafodd Provostship y lle hwnw yn 1617, ond efe a'i rhoddodd i fyny yn 1621, oblegid ei fod yn rhy ieuanc i'r swydd, ac aeth dros y môr yn ngwasanaeth y brenin. Wedi dychwelyd yn ol efe a wnaed yn gapelwr i Duc Buckingham, gyda'r hwn yr aeth ar led eilwaith. Pan y dychwelodd o'r neges—daith hono efe a ysgrifenodd "A general relation of a voyage to Rhe, under the command and conduct of the Duke Buckingham," ond ni wyddai Anthony Wood pa un a gafodd ei argraffu ai peidio. Wedi hyny gwnaed ef yn feistr Ysbyty St. Cross, ac yn brepender yn Winchester, yr hyn, ynghyda lleoedd eraill, a gollodd yn amser y gwrthryfel, a diangodd dros y môr, lle y dywedir iddo ddioddef llawer yn achos y brenin. Enillwyd ei feibion drosodd i Eglwys Rhufain. Wedi dychweliad y brenin Sior II. i'r orsedd rhoddwyd yn ol iddo yr hyn a enillodd. Bu farw yn Ysbyty St. Cross, Gorphenaf 7, 1667, a chladdwyd ef dan yr allor yn y lle hwnw.—(Wood's Athen. Oxon.)

MEIRION, SION, bardd yn ei flodeu rhwng 1610 a 1650.

OWEN, LEWIS, brodor o Feirion, ac awdwr amryw lyfrau yn erbyn y Jesuitiaid. Derbyniwyd ef i goleg Eglwys Crist Rhydychain yn 1590, ac efe ar y pryd yn 18 oed, eithr gadawodd y coleg cyn cymeryd ei raddio. Yna bu yn ymdeithio yn amryw o wledydd y Cyfandir; ac ymunodd â chymdeithas yr Iesu yn Valladolid, Spaen, lle y trigianodd am ysbaid fel llygad—dyst chwilfrydus. Sylwodd ar eu dichellion, a chanfu fod eu holl amcanion yn fydol; ymadawodd, a throdd yn elyn anghymodlawn iddynt. Ei lyfr cyntaf a elwid, "The running Register, recording a true relation of the English colleges, seminaries, and cloysters in all foreign parts, together with a brief discourse of the lives, practices, &c, of English Monks, Friars, Jesuits, &c.," 1626. Dilynwyd hwn gan un bron ar yr un testyn: "The unmasking of all Popish Monks, Friars, and Jesuits; or a Treatise of their genealogy, beginnings, proceedings, and present state," 1628. 3, "Speculum Jesuiticum, or the Jesuiticum looking—glass, wherein they may behold Ignatius (their patron) his progress, their own pilgrimage, his life, their beginning," 1629. 4, "A true catalogue of all their colleges, &c., and a true number of the fellows of their society." Bu farw rywbryd ar ol 1629.—(Wood's Athen. Oxon.)

WORTHINGTON, WILLIAM, D.D., oedd dduwinydd enwog, ac wedi ei eni yn Swydd Feirionydd, yn y flwyddyn 1703. Anfonwyd ef i Goleg yr Iesu, Rhydychain, lle y gwnaeth gynydd mawr mewn dysgeidiaeth. O'r coleg dychwelodd i Groesoswallt, a gwnaed ef yn is-athraw yn yr ysgol hono. Graddiwyd ef yn M.A. yn Caergrawnt yn 1742, a B.D. a D.D. Gorphenaf y 10fed, yr un flwyddyn. Yn 1773, gwnaed ef yn gorweinydd Llanelwy; a gwnaeth yr Archesgob Drummond (i'r hwn yr oedd wedi bod yn gapelydd am lawer blwyddyn) gyflwyno iddo gor-gadair yn Eglwys Gadeiriol Efrog. Yr oedd yn ŵr haelionus, ac yn awdwr llyfrau gwerthfawr ar—1. "Brynedigaeth;" 2. "Cwymp;" 3. "Bedydd Esgob:" 4. "Swper yr Arglwydd ;" 5. "Pregethau ;" 6. "Profion Cristionogaeth;" 7. "Damcaniaeth yr Ysgrythyrau am y Ddaear;" 8. "Pwysigrwydd o Undeb yn Eglwys Crist;" ynghyd a lliaws o bynciau eraill. Bu farw tua'r flwyddyn 1778. —(Wms.' Em. Welshmen).



ARGRAFFWYD GAN J. DAVIES, BONT BRIDD, CAERNARFON.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.

 
  1. Buasai yn dda genym allu rhestru Bran ab Llyr Llediaith, neu Bran Fendigaid, ymhlith enwogion Swydd Feirion, sef brawd ' Bronwen Harddlech, yr hwn a ddygodd yr efengyl gyntaf i Brydain; ond y mae yr anturiaeth yn rhy bwysig, er fod y Mabinogion yn dywedyd y "cadwai Bran ab Llyr ei lys yn Harddlech;"oblegidfe ddywed y Parch. O. Jones yn ei " Hanes y Cymry," tudalen 70: — " Yr ydym yn cael lle i feddwl mai penadur ar yr Essyllwyr, y rhai a gyfaneddent Ddeheubarth Cymru, ydoedd Bran, pan y'i cymerwyd ef ynghyd a'i fab Caradog yn garcharorion, ac nid yw yn annhebyg iddo,ar ei ddychweliad o Rufain, fyned i'r un wlad i gartrefu, ymysg ei bobl a'i geraint; ac felly, gyda'r Essyllwyr y gellid meddwl i'r efengyl gael ei phregethu gyntaf o fewn yr ynys hon, ac oddiwrthynt ymdaenai y gwirionedd yn lled fuan at y llwythau cyf nesol, yn enwedig y Gordotigwys, y rhai oeddynt mewn cyfathrach o'r agosaf â'r Essyllwyr, os nid yn ddeiliaid yr un penadur tua'r pryd dan sylw."
  2. Ar ol i ni ysgrifenu ar Dafydd ab Ifan ab Einion, gwelsom yn achau teulu Corsygedol mai un o'r Bettws yn Edeyrnion oedd y milwr dewr hwn.
  3. Symudwyd plwyf Nantmor o Feirion i Sir Gaernarfon ym 1895
  4. Brawd i Siôn Phylip ac ewythr i Gruffudd Phylip a Phylip Siôn Phylip oedd Rhisiart Phylip, mewn gwirionedd
  5. Y Brython 1861
  6. Gweler Gofiant y Parch. Thomas Charles. G.C., gan T. Jones Mor— gan's Life of Charles; Williams Emi, Welsh; Methodistiaeth Cymru, Cyf. 1. tudal. 326—348; "Geir. Byw." Liverpool; "Geir. Byw." Aber— dar; Y Gwyddon. Cym., nen "Y Traethodau Llenyddol," Dr. Edwards, efe yw awdwr y ddwy erthygl; Hanes y Cymry, gan y Parch, Owen Jones, tudal, 294 Charles y Bala a'i Amserau
  7. "Dwrch," enw yr afon.
  8. "Dwrch," enw yr afon.